– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 24 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ddiweddariad ar Wcráin. Y Gweinidog i wneud y datganiad—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan roddais yr wybodaeth ddiweddaraf am gyraeddiadau i Aelodau'r Senedd nôl ym mis Tachwedd, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 6,100 o Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys ein llwybr uwch-noddwr. Mae cyraeddiadau wedi arafu yn ystod y misoedd diwethaf, gydag ychydig dros 6,300 o Wcreiniaid, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru, yn cyrraedd Cymru erbyn 17 Ionawr. Bu cyraeddiadau ychwanegol o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ond nid ydym yn cael y data hwnnw gan Lywodraeth y DU.
Treuliodd pob un o'r 6,300 o Wcreiniaid hynny Nadolig 2022 ymhell o anwyliaid ac ymhell o'u mamwlad. Efallai eu bod wedi colli cartrefi, ffrindiau neu hyd yn oed berthnasau, ac, i rai, byddant wedi dathlu'r Nadolig mewn ffordd hollol wahanol, hyd yn oed dathlu ar 25 Rhagfyr, yn ogystal â'r 7 Ionawr mwy traddodiadol, am y tro cyntaf. Allwn ni ddim dechrau dychmygu sut roedd hi'n teimlo i nodi'r Nadolig fel hyn. Ond mae'r 6,300 hynny yn ddiogel yma yng Nghymru. Maen nhw wedi dod o hyd i noddfa, a diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni fel cenedl noddfa yn ystod 2022 i sicrhau bod hyn yn wir. Mae cyfanswm o tua 8,700 o fisâu wedi'u rhoi bellach i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i'r nifer sy'n cyrraedd barhau i dyfu'n gyson.
Rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. Er ein bod wedi gweld nifer fach o unigolion yn ceisio dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod nôl yn Wcráin, rydyn ni'n dal heb weld newid sylweddol ar hyn o bryd.
Ym mis Rhagfyr, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau trwy ddatganiad ysgrifenedig am gyhoeddiadau ariannol Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym yn siomedig iawn gyda'r penderfyniad i haneru'r tariff integreiddio bron i £5,900 ar gyfer newydd-ddyfodiaid o 1 Ionawr ymlaen, yn ogystal â'r penderfyniad i beidio â darparu tariff integreiddio blwyddyn 2. Nid yw'r penderfyniadau hyn yn cyd-fynd â chynlluniau adsefydlu eraill ac maen nhw'n lleihau cyllid hanfodol i awdurdodau lleol ar adeg o bwysau cyllidebol aruthrol. O dan gynlluniau adsefydlu eraill, ar y cyfan mae awdurdodau lleol wedi derbyn tua £20,000 y pen dros gyfnod o dair i bum mlynedd. Ar gyfer y rhai yn cyrraedd o Wcráin o 1 Ionawr 2023, bydd hwn ychydig yn llai na £6,000. Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gydraddoldeb ariannu rhwng cynllun Cartrefi i Wcráin a Chynllun Teuluoedd o Wcráin a'r Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin. Yn anffodus, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gweithredu'r cydraddoldeb hwn, sy'n dwysáu'r pwysau ar awdurdodau lleol.
Roeddem yn falch o weld cadarnhad y bydd taliadau 'diolch' i'r gwesteiwyr yn cael eu hymestyn am yr ail flwyddyn. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd, pan fo lleoliadau lletya'n gweithio'n dda, gall hyn leddfu'r galw am dai a chreu rhwydwaith o gymorth. Mae'r penderfyniad i godi'r taliadau 'diolch' i £500 y mis hefyd i'w groesawu, er ein bod yn siomedig na fydd hyn yn digwydd tan ar ôl 12 mis ar ôl i'r person sy'n cael ei letya gyrraedd.
Oherwydd y pwysau tai ehangach ar draws Cymru, rydym yn gweithio'n ddwysach i ddod o hyd i fwy o westeiwyr sy'n gallu cefnogi Wcreiniaid sydd angen llety. Rydym yn parhau i annog gwesteiwyr posibl i ddod ymlaen a chofrestru diddordeb yn www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain a mynd i un o'r sesiynau 'Cyflwyniad i Westeio' a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Mae lletya yn darparu llety hyblyg a chost-effeithiol sy'n galluogi pobl i adennill rhywfaint o annibyniaeth ac i integreiddio â chymunedau lleol. Nid yw gwesteiwyr ar eu pen eu hunain a gallant gael cefnogaeth wych gan wasanaeth cymorth i westeiwyr Housing Justice Cymru, sy'n cynnig popeth o gyngor ymarferol neu glust i wrando, i gefnogi lleoliadau lletya cadarn a hapus ar gyfer y gwesteiwr a'r gwestai, yn ogystal â chyfeirio at ein gwefan noddfa Llywodraeth Cymru. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan rai a allai letya teuluoedd neu rai sydd ag anifeiliaid anwes.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd werth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24, ond mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd. Rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Cymru i sicrhau ein bod yn gallu tynnu'r cyllid mwyaf posibl i lawr ar gyfer Cymru a'i ddefnyddio'n effeithiol i leddfu rhywfaint o'r pwysau yr wyf eisoes wedi'i grybwyll. Byddwn ni'n gweithio gyda llywodraeth leol i ddeall effaith lawn ar lawr gwlad y cyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth y DU. Mae ein cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys £40 miliwn i gefnogi'r ymateb o ran Wcráin yn 2023-24, gyda'r mwyafrif o hynny ar gyfer cefnogi'r llwybr uwch-noddwr. Byddwn yn edrych ar opsiynau hyfyw o ran llai o gyllid yn yr wythnosau nesaf gan Lywodraeth y DU.
O ran y gefnogaeth yr ydym yn ei darparu ar hyn o bryd, gweithredwyd ein dull diwygiedig o gefnogi llety cychwynnol o 9 Ionawr, gyda gwesteion yn cael gwybod am newidiadau sydd ar y gorwel ar 1 Rhagfyr. Hyd yma, rydym wedi cael adborth cadarnhaol am y newidiadau yr ydym wedi'u gwneud, gyda gwesteion yn mynd ati i ymgysylltu â'r prosesau 'symud ymlaen' sydd gennym ar waith. Yn wir, rydym bellach wedi gweld mwy na 1,200 o bobl a ddaeth drwy'r llwybr uwch-noddwr yn symud ymlaen, ac mae dros 800 ohonyn nhw wedi ymgartrefu mewn llety mwy hirdymor yng Nghymru, fel trefniadau gwesteiwyr neu'r sector rhentu preifat. Rwy'n ddiolchgar am waith awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud ymlaen a gosod gwreiddiau o fewn ein cymunedau lleol.
Ers fy natganiad diwethaf am Wcráin, cynhaliwyd hefyd ein digwyddiad coffáu'r Holodomor cyntaf yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd. Roeddwn i eisiau nodi pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw a'r diolchgarwch a ddangosodd y 60 o Wcreiniaid a ymunodd â ni, mewn glaw trwm, i'w goffáu gyda ni. Cawsom gyfranogiad gan ddirprwy lysgennad Wcráin i'r DU, sefydliadau cymorth Wcráin, yr eglwys uniongred Wcreinaidd, Archesgob Caerdydd, y Dirprwy Arglwydd Raglaw, arweinydd Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru Andrew Morgan, a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol. Arweinydd y digwyddiad oedd caplan anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Cyflawnodd y coffáu ymrwymiad a wnaed yn y Siambr hon ym mis Mai 2022 i goffáu'r Holodomor, ac rydym yn bwriadu parhau â'r gwaith hwnnw yn 2023.
Mae'n amlwg bod y digwyddiadau erchyll parhaus yn Wcráin, yn dilyn goresgyniad anghyfreithlon Putin, yn cael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid sy'n cyrraedd Cymru, a byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, gyda ffigurau Llywodraeth y DU ym mis Ionawr yn dangos bod 8,700 o fisâu wedi'u rhoi i'r rheiny sydd â noddwyr yng Nghymru, a gyda 6,300 o bobl â noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd Cymru, y mae gan bron i hanner ohonyn nhw Lywodraeth Cymru yn uwch-noddwr.
Fodd bynnag, dim ond yr wythnos diwethaf, gwelsom hanes yn y cyfryngau am y fam a'r ferch a wnaeth ffoi rhag yr ymladd yn Wcráin, ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd gan i'w noddwr yng Nghymru dynnu'n ôl, a bellach mae ganddyn nhw tan 20 Chwefror i ddod o hyd i noddwr newydd, ond maen nhw'n methu fforddio rhent preifat ac yn ofni y gallen nhw ddiweddu'n byw ar y stryd. Adroddwyd hefyd nad oedd llawer o noddwyr wedi rhagweld y bydden nhw'n lletya pobl o Wcráin am fisoedd a blynyddoedd heb ddiwedd mewn golwg, ac felly'n gadael y cynllun, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid i unrhyw ffoadur y gofynnir iddo adael gan eu noddwr gyflwyno ei hun fel rhywun digartref i'w awdurdod lleol. Pa gamau penodol a rhagweithiol ydych chi felly yn eu cymryd i ddiwallu'r angen hwn, Gweinidog?
Wrth gwrs, mae hyn ar wahân i gynllun uwch-nodddwr Llywodraeth Cymru, sy'n gweithredu fel gwesteiwr yn lle noddwr teulu neu aelwyd, gan roi ffoaduriaid yn uniongyrchol mewn canolfannau croeso fel gwestai. Sut mae Llywodraeth Cymru, felly, yn lletya'r niferoedd mwy o bobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun uwch-noddwr nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, a mynd i'r afael â'r effaith y mae hyn yn ei chael ar wasanaethau a chymunedau lleol?
Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd yn darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 gyda lle i 800 o westeion Wcreinaidd i'w hadeiladu erbyn y Pasg, wrth iddi ymgiprys i ddod o hyd i dai. O ystyried bod gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog, pa waith, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar yr opsiwn hwn, yn annibynnol a gyda Llywodraeth y DU?
Yn ystod fy ymweliad â chanolfan gwaith y Wyddgrug yr haf diwethaf, roedd y gwaith maen nhw'n ei wneud i gefnogi ffoaduriaid Wcreinaidd wedi creu argraff arnaf, a doeddwn i ddim yn synnu o ddeall nad yw'r ffoaduriaid eisiau bod yn ddibynnol a'u bod yn awyddus i weithio a chyfrannu. Pa waith, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru felly yn ei wneud gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod gwesteion Wcreinaidd hefyd yn gallu cael mynediad at wasanaethau datganoledig perthnasol drwy un pwynt mynediad, gan gynnwys trosglwyddo cymwysterau a chyrsiau Saesneg fel ail iaith neu ESOL, neu Gymraeg os ydyn nhw'n byw yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith?
Roedd yr adroddiad ar ymateb Wcráin gogledd Cymru, a gyhoeddwyd gan elusen Link International yn gynharach yn y mis, yn myfyrio ar eu taith ynghyd â'u gwesteion Wcreinaidd dros y 10 mis blaenorol. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio at y cyfarfodydd amrywiol y maen nhw wedi cymryd rhan ynddyn nhw gyda Llywodraeth Cymru ac at y diweddariadau rheolaidd y maen nhw wedi eu rhoi i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr lleol ynghylch eu gwaith. Mae hyn hefyd yn cyfeirio, er enghraifft, at y ffaith eu bod wedi cael gwybod am wahanol faterion diogelu sydd wedi achosi pryder, ac at eu gwaith gyda'r elusen Haven of Light, yn tynnu sylw at y risgiau ynghylch camfanteisio, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Gweinidog, ydych chi wedi darllen ac ymateb i'r adroddiad hwn, yr ydych wedi ei dderbyn neu beidio efallai? Ac os nad ydych, a fyddwch chi'n gwneud hynny, nawr fy mod i wedi eich gwneud chi'n ymwybodol ohono?
Wrth ymateb i'ch datganiad am Wcráin yma fis diwethaf, cyfeiriais eto at drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd posibl i'r taliad misol o £350 i bobl sy'n lletya Wcreiniaid yn eu cartrefi eu hunain. Felly, croesawais gadarnhad y diwrnod canlynol bod Llywodraeth y DU wedi bod wrthi'n gweithio ar hyn pan gyhoeddwyd pecyn cymorth newydd i Wcreiniaid o dros £650 miliwn, gan gynnwys cynnydd mewn taliadau i £500 mis i westeiwyr Cartrefi i Wcráin. Roedd eich datganiad ysgrifenedig wythnos yn ddiweddarach yn cydnabod hyn, ond galwodd hefyd am eglurder am dariffau ariannu ar gyfer deiliaid fisa Wcreinaidd, neu gronfeydd eraill i barhau i gefnogi pobl o Wcráin tra byddan nhw yn y DU. Pa ymgysylltu pellach ydych chi felly yn ei gael gyda'r DU ynghylch hyn?
Gofynnodd cyfarfod briffio Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr ar oresgyniad Wcráin, i Aelodau barhau i godi argyfwng dyngarol Wcráin yn y Senedd, peidiwch â chaniatáu iddo gael ei anghofio, a chefnogi Llywodraethau Cymru a'r DU i weithio tuag at ddiwedd i'r gwrthdaro trwy ddulliau heddychlon. Sut mae Llywodraeth Cymru felly yn ymgysylltu â grwpiau ffydd ynghylch eu hymateb i'r argyfwng dyngarol ac o bosibl argyfwng bwyd byd-eang, a achosir gan yr ymosodiad ar Wcráin, fel yr amlygwyd gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr?
Ac, yn olaf, dim ond sylw bach, edrychaf ymlaen at eich gweld yn y ganolfan gymorth integreiddio Pwylaidd ddydd Gwener, pan fydd modd trafod eu cymorth i ffoaduriaid Wcreinaidd hefyd. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Mark Isherwood, ac edrychaf ymlaen hefyd at fy ymweliad ddydd Gwener â'r ganolfan integreiddio Pwylaidd. Hefyd, o ran cysylltiadau â'r trydydd sector a'r grwpiau ffydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr hefyd at gwrdd â Link International yn y gogledd yn ystod fy ymweliad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Hefyd, byddaf yn cynnal cyfarfod yr wythnos nesaf gyda'r trydydd sector, sy'n cynnwys y grwpiau ffydd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn falch o fod yn darparu noddfa i gymaint o bobl. Bu ymateb enfawr gan dîm Cymru i'r gwrthdaro parhaus ofnadwy, fel y dywedoch chi. A'r dull partneriaeth hwn fydd yn parhau wrth i ni gefnogi pobl i symud ymlaen i lety mwy hirdymor, naill ai at letywyr neu i dai preifat neu gymdeithasol ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi nodi'r newyddion da iawn bod 1,200 wedi symud ymlaen, 800 at westeiwyr eraill neu, yn wir, i lety rhent preifat.
Rydych yn gofyn am y ffyrdd yr ydym yn cefnogi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu llety dros dro a llety mwy hirdymor. Mae hyn yn ymwneud â phawb sydd angen tai yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn defnyddio'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Rydym yn buddsoddi £89 miliwn drwy'r rhaglen honno i ddarparu mwy o lety tymor hirach o ansawdd da, a bydd yn helpu pawb sydd angen tai. Rydym hefyd yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn digartrefedd a chymorth tai. Ond rydym wedi gwneud y penderfyniad, fel y dywedais, i gynnwys y £40 miliwn hwnnw yn ein cyllideb ddrafft, i barhau â'n cefnogaeth i bobl o Wcráin yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod. Ac mae'r dyraniadau hyn yn tanategu ac yn amlygu ein hymrwymiad i gefnogi gwesteion o Wcráin wrth iddyn nhw ddod i Gymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, o ran y £89 miliwn hwnnw, bod hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ddatblygu ffyrdd arloesol o gefnogi'r rhai sydd angen tai.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud o ran Llywodraeth y DU ein bod yn siomedig iawn gyda'r cyhoeddiadau ariannu y mae wedi eu gwneud; rwyf wedi gwneud hynny'n glir yn fy natganiad. Credwn fod y penderfyniadau i dorri cyllid tariff integreiddio ar gyfer newydd-ddyfodiaid, i gael gwared ar gyllid blwyddyn 2 yn gyfan gwbl, yn gibddall ac yn wrthgynhyrchiol, oherwydd bod awdurdodau lleol yn gweithio'n ddiflino i gefnogi Wcreiniaid a'u gwesteiwyr, ond mae'r toriadau cyllid hyn yn tynnu cyllid hanfodol yn ôl ar adeg o bwysau aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus. Cwrddais â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, cyn y Nadolig, gyda'r Gweinidog dros ffoaduriaid o'r Alban, Neil Gray, ac, yn wir, mae gennym ni gyfarfod yr wythnos nesaf gyda Felicity Buchan. Felly, rwy'n falch ein bod ni, unwaith eto, Mark, yn symud ymlaen ar sail deirochrog i godi'r materion hyn. Ond does dim eglurder, fel y dywedais i yn fy natganiad, ynghylch y £150 miliwn o gymorth tai a gyhoeddwyd cyn y Nadolig.
O ran torri neu ddiweddu lleoliadau, os, am unrhyw reswm, bod angen dod â threfniadau noddi i ben yn gynnar, yr awdurdod lleol yw'r un y dylid rhoi gwybod iddo. Mae angen rhoi gwybod i'r awdurdod cyn gynted â phosib. Byddan nhw'n helpu Wcreiniaid. Maen nhw i gyd yn gweithio fel lladd nadroedd ar draws Cymru i helpu Wcreiniaid yn y sefyllfaoedd hyn. Ond hefyd, rydyn ni'n ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i roi cymorth i'r rhai sydd angen cymorth yn uniongyrchol, ac mewn gwirionedd maen nhw'n gallu cysylltu â Chyngor Ffoaduriaid Cymru. Os edrychwn ar wefan Cenedl Noddfa, rhoddir y rhifau, a gallant gysylltu a byddant yn cael cyngor a chymorth pwrpasol ar sail aelwyd deuluol unigol. Ond mae hyn yn ymwneud â phartneriaeth sydd gennym ni gyda Housing Justice Cymru ac Asylum Justice Cymru, sydd hefyd yn helpu gwesteion o Wcráin gyda phroblemau mewnfudo a chwestiynau hefyd.
Felly, fel y gwyddoch chi, mae hyn yn ymwneud â dull Tîm Cymru, cydweithio, cefnogi pawb sy'n dod i aros a byw gyda ni yma yng Nghymru, a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw yr ydym yn teimlo bod ganddyn nhw hawl iddi. Ac, wrth gwrs, mae llawer nawr yn symud i swyddi, i addysg bellach ac addysg uwch, ac rydyn ni, ac yn wir y Gweinidog addysg yn glir yn mynd i'r afael â llawer o'r materion yr ydych chi wedi'u codi o ran mynediad at addysg. Ond hefyd, rydym yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â chymwysterau hefyd. Mae hyn yn rhywbeth, rwy'n credu, o ran y pwerau sydd gennym ni—. Rydym wedi diweddaru canllawiau cymhwysedd ar gyfer cyllid ôl-16 ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd o dan gynlluniau fisa Wcráin y Swyddfa Gartref, ac mae pob prifysgol yn awyddus i gynnig lloches i academyddion a myfyrwyr, a hefyd yn gweithio ar y materion sy'n ymwneud â throsglwyddo cymwysterau.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi datgelu pecyn newydd o gymorth milwrol Prydeinig ar gyfer Wcráin, mae'r cymorth, fel ŷch chi wedi sôn, y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gorfod ffoi rhag y rhyfel—menywod a phlant yn bennaf—gan chwilio am noddfa yma, yn druenus o annigonol, a'r lefelau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn bryderus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio llenwi'r bylchau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer gwersi iaith, trafnidiaeth am ddim, ac yn y blaen. Felly, yn ystod sesiwn craffu gweinidogol ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi sôn, Weinidog, am sut oeddech chi'n gobeithio cael cyfarfod gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch y cymorth yma, ac ŷch chi newydd sôn yn eich ateb chi i Mark Isherwood y bydd hynny'n digwydd yr wythnos nesaf. Felly, a gaf i ofyn beth yn union ŷch chi'n gobeithio ei godi yn benodol yn y cyfarfod hwn, a pha fylchau sydd yna yn y cymorth sy'n tanseilio ein dyhead ni yma yng Nghymru i fod yn genedl noddfa?
Weinidog, fe'ch cwestiynwyd chi yn y pwyllgor hefyd ynghylch y gallu cyllidebol i ddarparu cymorth pe bai pawb o Wcráin a gafodd fisa dan nawdd Llywodraeth Cymru yn dod draw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gyllideb wedi'i dyrannu ar gyfer nifer y ffoaduriaid o Wcráin y disgwylir iddynt droi lan ac nid y nifer sydd â fisas, ac mae hyn wrth gwrs yn amodol, fel rŷn ni wedi clywed y prynhawn yma, ar unrhyw ddirywiad neu newid mawr newydd yn yr hynt neu natur y rhyfel. Felly, a allech chi roi rhywfaint mwy o eglurder i ni o ran sut y byddwch chi'n ymdrin â'r pwysau cyllidol os bydd Llywodraeth Cymru yn canfod bod eu cyfrifiadau nhw yn anghywir? Beth yn union yw'r ffigwr hwn? A fydd cyllid ar gael os bydd mwy na'r disgwyl yn cyrraedd?
Ac yn olaf, cyn y Nadolig, fe wnaethoch chi ddatganiad yn mynegi eich bwriad i annog ffoaduriaid o Wcráin i symud ymlaen o'u llety cychwynnol dros dro—y canolfannau croeso, wrth gwrs, dan nawdd Llywodraeth Cymru. Ac roeddech chi'n sôn yn eich datganiad heddiw fod 1,200 wedi symud ymlaen; 800 nawr mewn llety preifat neu gyda noddwyr yng Nghymru. Felly, beth yw sefyllfa y 400 arall? Ydyn ni'n monitro lle maen nhw wedi mynd? A hefyd, beth yw'r cynnydd o ran y ffoaduriaid eraill sy'n dal i fod yn y canolfannau croeso ac sydd heb fedru symud ymlaen? Beth yw'r hyn sy'n eu rhwystro nhw rhag symud ymlaen? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch eto am gydnabod yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ond hefyd y cyfrifoldebau yr ydym yn eu cymryd fel cenedl noddfa, ac fel uwch-noddwr. Mae hwn wedi bod yn gyfrifoldeb pwysig, a dyna pam, yn wir, yr ydym yn darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno, sef yr hyn a oedd bob amser yn un o amcanion allweddol y llwybr uwch-noddwr, ac rydym yn darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno o'r eiliad y mae gwestai yn cyrraedd o Wcráin, ac mae wedi bod yn ein canolfannau croeso. Ond hefyd, mewn cyfnod mwy diweddar, rydym wedi gweld rhai ffoaduriaid yn cyrraedd o Wcráin, rhai gwesteion, yr ydym hefyd wedi llwyddo i ddod o hyd i westeiwyr iddyn nhw, oherwydd fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r llwybr lletya wedi profi'n fuddiol iawn i lawer o westeion o Wcráin sydd wedi dod i Gymru, gan ffoi rhag goresgyniad ac erchyllterau Putin, sydd, wrth gwrs, yn parhau. Mae gennym ni y cyfrifoldeb hwnnw.
Fel y nodais yn fy natganiad, rydyn ni'n gwybod bod mwy o fisâu wedi'u cymeradwyo—mae 8,700 o fisâu wedi'u caniatáu, fel y dywedais i, i gyd, i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, ac mae gennym 6,300 o Wcreiniaid drwy gynllun Cartrefi i Wcráin gyda ni nawr. Felly, rwy'n credu ein bod yn ymwybodol iawn, a dyna pam, yn wir, o ran y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'r £40 miliwn, yn seiliedig ar ein hymrwymiad. Nid yw hyn yn rhywbeth oedd gennym yn ein cyllideb o'r blaen; mae'r cyllid rydym wedi'i roi i'r cynllun uwch-noddwr a'r cyllid rydym wedi'i roi i mewn i ddarparu'r holl wasanaethau hynny, y gwasanaethau cofleidiol hynny, wedi bod yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ei weld fel blaenoriaeth. Rydym wedi costio ac amcangyfrif y gost o ran y rhai ychwanegol yr ydym yn rhagweld y bydd yn cyrraedd. Mae wedi bod yn araf iawn, y nifer yn cyrraedd. Mewn gwirionedd, rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wirio'r data ynghylch y niferoedd sy'n dod, oherwydd efallai na fydd rhai yn dod o ganlyniad i'r llwybr uwch-noddwr. Ond mae'n drysau ni ar agor. Rydym yma i gefnogi'r rhai fydd yn cyrraedd.
Rydym yn cael tariff integreiddio gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'r gefnogaeth gofleidiol honno, ac wrth gwrs mae hyn ynghylch yr amser sy'n cael ei dreulio yn ein canolfannau croeso. Ond mae mwyafrif llethol y tariff hwnnw'n cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol i roi cymorth. Fel y dywedais i, hefyd, mewn ymateb i Mark Isherwood, ar ôl i bobl symud ymlaen i lety tymor hwy, bydd gweddill y tariff yn symud gyda nhw, ymlaen i'r awdurdod lleol perthnasol. Rwy'n credu bod gostyngiad tariff o £10,500, sef yr hyn oedd e' pan gyrhaeddon nhw yn 2022, i £5,900, fel y dywedais i, yn gibddall, mae'n wrthgynhyrchiol, bydd yn lleihau cyllid hanfodol tra bod gwasanaethau cyhoeddus dan straen. Bydd y taliad o £350 y mis sef y 'diolch' i'r gwesteiwyr ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer pob aelwyd Wcreinaidd sy'n cael ei llety o dan y llwybr uwch-noddwr, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y materion hyn o ran y toriadau, y ffaith nad yw'r £500 yn cael ei dalu tan fydd 12 mis o'r trefniant lletya wedi mynd heibio, dyma'r eitemau sy'n mynd i fod ar yr agenda ar gyfer ein cyfarfod yr wythnos nesaf gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Felicity Buchan.
Diolch i'r Gweinidog.