1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflog ac amodau gweithwyr y Post Brenhinol yng Nghymru? OQ59003
Er bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a’r Post Brenhinol, o ystyried pwysigrwydd y gwasanaeth i weithwyr a chymunedau ledled Cymru. Cyfarfûm ddiwethaf ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a’r Post Brenhinol, ar wahân, ar 11 ac 16 Ionawr.
Iawn. Diolch. Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi bod yn gynyddol bryderus am y gamwybodaeth sy’n cael ei rhoi gan y Post Brenhinol i Aelodau o'r Senedd, Aelodau Seneddol a’r cyhoedd. Rwyf wedi'i gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod pobl yn gwybod y gwir. Roeddwn yn falch o siarad â Darren Jones AS, cadeirydd pwyllgor dethol San Steffan, a chefais y sgwrs honno ag ef cyn iddo gyfweld â phrif weithredwr y Post Brenhinol. Ac yn yr un modd, braf oedd cael gwahodd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i’r Senedd, gyda Luke Fletcher. A gwrandawodd 20 Aelod o’r Senedd ar yr hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, gan gynnwys cadw tâl salwch yn ôl rhag y gweithwyr.
Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod yr hyn a welwn yn peri cryn bryder, ynghyd â'r ymdrechion amlwg i lastwreiddio cyfranogiad undebau llafur gan gwmnïau preifat fel y Post Brenhinol, a hefyd, yn y sector cyhoeddus drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU mewn perthynas â thynhau rheolau ar streiciau ac ati, a bod angen i leisiau gweithwyr gael eu clywed? Mae hyn mor bwysig, gan fod camwybodaeth o'r fath yn cael ei rhoi i'r cyhoedd. Felly, diolch—roeddwn yn awyddus i ddweud hynny heddiw.
A gaf fi ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiwn? Gwn fod hwn yn faes y mae’r Aelod yn ymrwymedig iawn iddo ac yn angerddol yn ei gylch, yn anad dim oherwydd ei chefndir ei hun. Ac mae'n dda cael pobl â phrofiad o'r materion yma, yn enwedig pan fo rhywbeth yn y penawdau yn y ffordd y mae'n ei ddisgrifio yn ei chwestiwn.
Cytunaf yn llwyr â Carolyn Thomas. Rydym yn llwyr wrthwynebu ymosodiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar weithwyr ac undebau llafur, sef llais cyfreithlon gweithwyr yn y gweithle, boed yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. O ran y Bil lefelau gwasanaeth lleiaf, y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw dod ynghyd o gwmpas y bwrdd i gytuno ar ateb. Ac nid yw hynny bob amser yn hawdd; gall gymryd amser weithiau, ond dyna’r ffordd iawn o wneud hyn, drwy negodi ystyrlon, i gytuno ar ateb sydd nid yn unig yn cynnal y gwasanaeth, ond yn cefnogi’r gweithlu sy’n hanfodol i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. Ac mae'r ddeddfwriaeth newydd honno'n mynd yn gwbl groes i'r ffordd y cytunwn ar atebion i'r heriau presennol sy'n ein hwynebu.
Ni fydd yn syndod i unrhyw un yma fy mod yn cytuno’n llwyr â’r Aelod ei bod yn hanfodol i weithwyr gael y cyfle a'r dewis i gael eu cynrychioli gyda'i gilydd yn yr amgylchedd gwaith, sy’n eu galluogi i gael eu clywed. Nid yn unig fod hynny'n arwain at fuddion i gyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr, ond gwyddom fod gan y bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hynny, boed yn gwmnïau fel y Post Brenhinol, neu yn y sector cyhoeddus hefyd, syniadau ynglŷn â sut y gallech wella’r gwasanaeth hwnnw. Ac mewn gwirionedd, mae cefnogi eich gweithwyr, a chreu gweithlu gwell yn creu buddion i'r cyflogwr hefyd, ac mae'n eu helpu gydag unrhyw heriau neu faterion ar gam buan.
Pan gyfarfûm ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a chyda'r Post Brenhinol, un peth a sylwais yn y cyfarfod ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu oedd bod ganddynt gynigion cadarnhaol yn ymwneud â chydnabod yr heriau y mae'r Post Brenhinol yn eu hwynebu fel cwmni, gan fod y ffordd rydym yn byw ein bywydau wedi newid, a'r ffordd y mae pobl yn anfon llai o lythyrau ond mwy o barseli. Ond hefyd, fel rydym wedi'i ddweud o'r blaen yn y lle hwn, ar gydnabod y rôl y mae gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau, mae ffordd o adeiladu ar hynny mewn ffordd gadarnhaol yn hytrach na'i diraddio. Ac rwy'n awyddus iawn i weithio gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a'r Post Brenhinol ar sut y gallwn gefnogi hynny, nid yn unig er mwyn cefnogi'r gweithlu, ond er mwyn cefnogi gwasanaethau, a'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol sydd mor bwysig i ni yma yng Nghymru.
Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, mae streiciau’r Post Brenhinol dros gyfnod y Nadolig nid yn unig wedi cael effaith ariannol ar y Post Brenhinol, ond wrth gwrs, wedi achosi niwed difrifol i'w henw da hefyd. Credaf fod pob un ohonom yma'n cytuno bod gan bob unigolyn hawl i gymryd camau gweithredu diwydiannol, ond mae angen inni fod yn ymwybodol fod y streiciau hyn wedi arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol nad ydynt yn gyfyngedig i’r Post Brenhinol yn unig. Mae busnesau bach a chanolig eu maint, fel 99.4 y cant o fusnesau Cymru a 62 y cant o gyflogaeth yng Nghymru, yn dibynnu’n helaeth ar fasnach dymhorol, ac o ganlyniad i fethu ag anfon nwyddau mewn pryd ar gyfer y Nadolig, wedi colli nifer sylweddol o archebion, gyda chwsmeriaid naill ai'n canslo eu harchebion neu ddim yn trafferthu archebu o gwbl. Nawr, er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth fod llawer ohonom yn cydymdeimlo â sefyllfa'r streicwyr, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol fod llawer o fusnesau, sydd eisoes yn ymdopi ag effaith COVID a phrisiau ynni, wedi mynd i'r wal oherwydd y streiciau hyn.
Hefyd, Ddirprwy Weinidog, yn wahanol i ychydig flynyddoedd yn ôl, pan nad oedd llawer o ddewisiadau eraill i'w cael, ceir llawer o gwmnïau eraill bellach a all gystadlu am wasanaethau y mae’r Post Brenhinol yn eu cynnig. Ac rydym wedi gweld cwmnïau mawr fel Currys yn newid eu contractau hynod fawr a phroffidiol i ddarparwyr eraill, sydd, heb os, yn mynd i roi straen ychwanegol ar y Post Brenhinol yn y tymor hir. Fel y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwybod, mae’r Post Brenhinol bellach wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 10,000 o swyddi erbyn diwedd mis Awst 2023 oherwydd y streiciau, a disgwylir i’r golled gynyddol fod oddeutu £350 miliwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Post Brenhinol—[Torri ar draws.]—i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o swyddi'n cael eu colli yng Nghymru? Diolch.
Diolch. A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am fy helpu i ateb fy nghwestiwn yno ymlaen llaw? Fe ddywedaf ar y cychwyn fy mod yn croesawu'r ffaith bod Joel James wedi nodi ei fod yn cydnabod bod gan bob unigolyn hawl i weithredu'n ddiwydiannol, a bod y penderfyniad i weithredu'n ddiwydiannol yn un nad yw byth yn cael ei wneud yn ddifeddwl gan unrhyw weithiwr neu undeb llafur. Yma, rydym yn cefnogi hawl pob gweithiwr i weithredu'n ddiwydiannol, a dyna yw'r dewis olaf bob amser.
Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, gwyddom mai’r ffordd orau o ymateb yw gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur i negodi ateb. Nid yw hynny'n hawdd; gall fod yn anodd, gall gymryd amser, ond dyna'r peth iawn i'w wneud. Yn fy nghyfarfodydd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a chyda'r Post Brenhinol, maent wedi cadarnhau eu bod yn ôl mewn trafodaethau. Er na allaf wneud sylw ar hynny, gan nad fy lle i yw gwneud hynny heddiw, gobeithiwn y gallwn gytuno ar ateb. Gwyddom fod y Post Brenhinol yn wynebu llawer o heriau, ond y ffordd o weithio drwy’r heriau hynny yw cynnwys eich gweithlu a’u cefnogi hwy i gefnogi ein cymunedau yng Nghymru.