– Senedd Cymru am 7:02 pm ar 25 Ionawr 2023.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, ac os gallai'r Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Galwaf ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac wrth agor y ddadl fer heddiw hoffwn roi munud o fy amser i Sioned Williams a Jane Dodds.
Mae 'argyfwng costau byw' yn ffordd arall o ddweud bod nifer cynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Mae'n arwydd o fethiant llunwyr polisi a'r ffordd y caiff ein heconomi ei threfnu. Nid yw'n anochel, ac fe allwn ac fe ddylem geisio gwneud bywydau pobl yn haws a mynd i'r afael â thlodi. Rydym i gyd yn gwybod beth sy'n digwydd os na wnawn hynny.
Mae hon yn sgript gyfarwydd. Rydym wedi darllen y cyfan o'r blaen. Mae tlodi'n cael gwared ar bŵer pobl, ac yn enwedig pan fo'n brofiad plentyndod, mae'n achosi trawma sy'n creithio pobl am oes. Ac rydym yn aml yn sôn am yr angen i farnu pobl yn ôl eu teilyngdod. Wel, sut mae hynny'n bosibl pan fydd nifer cynyddol o gyfleoedd bywyd pobl yn cael eu heffeithio o'r dechrau gan dlodi?
Cysylltwch hyn â'r gost anhygoel o hel y darnau wedi'r trawma y mae tlodi'n ei achosi ac mae'n rhaid ichi ystyried pam mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwneud cyn lleied i atal rhai sefydliadau rhag mynd ati i wneud pethau'n gymaint gwaeth. Un grŵp o'r fath yw'r cyflenwyr ynni. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld yr ymgyrchu y bûm yn ei wneud ac y bu sefydliadau'n ei wneud i alw am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, ac rwy'n ddiolchgar i nifer ohonoch a arwyddodd fy natganiad barn a gyflwynwyd gennyf yr wythnos hon, yn galw am y gwaharddiad hwnnw.
Yn wir, mae pob un Aelod ar feinciau cefn Plaid Lafur Cymru, pob un Aelod ym Mhlaid Cymru, pob un Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi arwyddo'r cynnig. Ond nid oes unrhyw Aelod Ceidwadol wedi gwneud hynny. Lywydd, nid oes gennym un yn y Siambr hyd yn oed. Un yn unig sydd gennym ar-lein. Nid oes un Tori wedi arwyddo'r datganiad barn yn galw am waharddiad. Ac rwy'n galw am waharddiad nid yn unig oherwydd bod y mesuryddion hyn yn sicrhau bod y tlotaf yn ein cymdeithas yn talu mwy na neb arall am eu hynni, ond oherwydd bod sgandal genedlaethol yn ymffurfio o flaen ein llygaid—boed yn llygaid Llafur, llygaid Plaid Cymru, llygaid Democratiaid Rhyddfrydol neu eich llygaid Torïaidd—sgandal sy'n peryglu bywydau. Fe nodaf yn fyr beth sy'n digwydd.
Yng nghanol gaeaf oer a thwf sylweddol mewn tlodi, gyda chwyddiant yn rhemp a chyflogau'n llusgo ar ôl, rydym yn caniatáu i gwmnïau ynni newid pobl i'r ffordd fwyaf drud ac ansicr o dalu am ynni—cannoedd o filoedd o bobl. Ac o'r 500,000 o geisiadau am orchmynion llys i newid preswylwyr yn orfodol, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod, a hynny er gwaethaf y gofyniad honedig i gwmnïau ynni sicrhau bod mesuryddion rhagdalu yn addas ar gyfer cwsmeriaid yr ystyrir eu bod yn fregus—pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor.
Lywydd, mae newid i fesurydd rhagdalu i fod wedi'i wahardd os nad yw'r defnyddiwr eisiau un, ac eto mae gennym adroddiadau am sypiau o orchmynion llys yn cael eu rhoi ar unwaith, a channoedd yn cael eu cyhoeddi ar y tro. A yw hyn yn awgrymu bod y gwiriadau priodol yn digwydd? Mae pobl fregus yn cael eu newid yng nghanol y gaeaf heb fawr o waith, os o gwbl, i weld pwy ydynt neu beth yw eu hamgylchiadau. Golyga hyn fod llawer o bobl yn byw gyda'r ofn parhaus y bydd eu cyflenwad yn cael ei dorri. Mae Cyngor ar Bopeth wedi dweud bod cyflenwad rhywun yn cael ei dorri bob 10 eiliad am na allant fforddio eu taliad atodol i'w mesurydd rhagdalu. A bod yn hollol onest, mae'n fater o fywyd a marwolaeth.
Mae'n gwbl amlwg nad yw'r rheoleiddiwr, Ofgem, na Llywodraeth y DU wedi dirnad maint y broblem. Bûm yn tynnu sylw at hyn ers rhai misoedd bellach. Pan ysgrifennais at Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol, ddiwedd mis Rhagfyr, rhoddodd ateb safonol nad oedd yn mynegi unrhyw bryder o gwbl. Ond o'r diwedd, y penwythnos diwethaf, ar ôl i gannoedd o filoedd gael eu newid eisoes, mae o'r diwedd wedi cydnabod bod hyn yn destun pryder difrifol. Ond mae wedi caniatáu i'r sefyllfa barhau, ac yn hytrach, ysgrifennodd at y cyflenwyr i ofyn am eu cydweithrediad. Wel, yng nghanol y gaeaf hwn, yng nghanol yr argyfwng costau byw hwn, rwy'n sicr na allwn adael hyn i'r llysoedd, na allwn adael hyn i'r cyflenwyr, a dyna pam, unwaith eto, y galwaf ar yr Ysgrifennydd Gwladol ac Ofgem i wahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, neu fan lleiaf un, Lywydd, dylent orchymyn y dylai'r orfodaeth i newid i fesurydd rhagdalu gael ei hatal hyd nes y gall cwmnïau ddangos y tu hwnt i bob amheuaeth eu bod yn cyflawni'r broses yn ddiogel.
Yn ffodus, Lywydd, yn wahanol i Lywodraeth Dorïaidd y DU, nid wyf wedi fy nghyfyngu gan gred ideolegol, er gwaethaf yr holl dystiolaeth, fod yn rhaid gadael pethau i ewyllys da'r cwmnïau hyn. Mae'n bryd i'r Torïaid yn y DU ddangos arweiniad. Gadewch inni fod yn glir: caiff mesuryddion rhagdalu eu gosod oherwydd bod hynny'n fwy cyfleus i'r cyflenwyr ynni. Gobeithio y gallwn i gyd gytuno bod achub bywydau'n llawer pwysicach na hynny. Ac fel y dywedais ar y dechrau, mae a wnelo tlodi â mwy na'r sgandal rhagdalu uniongyrchol, a bydd yn effeithio ar fywydau pobl am byth; bydd yr oerfel a ddaw pan na fydd pobl yn defnyddio ynni neu wrth i'w cyflenwad gael ei dorri yn arwain at gymaint mwy o effeithiau. Bydd yn rhwystro gallu plant i ddysgu. Bydd yn achosi i bobl fynd yn sâl a datblygu cyflyrau cronig. Bydd yn achosi problemau trawma ac iechyd meddwl, ac yn creu cymaint mwy o broblemau y mae'n amhosibl siarad amdanynt i gyd nawr.
Ond dylai gwres ac ynni fod yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei gymryd yn ganiataol, ni waeth beth yw ein cefndir. Dylai fod yn egwyddor i seilio ein system gyflenwi ynni o'i chwmpas, ond yn hytrach, mae'n gwbl glir fod buddiannau cyflenwyr ynni'n cael blaenoriaeth dros hynny. A bydd yr argyfwng Torïaidd hwn yn rhygnu yn ei flaen, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth fod yn ystwyth i weld y risgiau a chefnogi pobl. Ac fe ddof i ben gyda hyn, Lywydd: os na all y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wneud hynny, dylent alw etholiad cyffredinol nawr a gadael i'r bobl benderfynu beth ddylai blaenoriaeth y Llywodraeth fod. Diolch yn fawr.
Diolch i Jack Sargeant am ddod â'r pwnc yma gerbron y prynhawn yma. Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi gwaharddiad ar orfodi cwsmeriaid i dalu am eu hynni drwy fesuryddion talu o flaen llaw, ac fel y codais i gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr y prynhawn yma, mae angen i Lywodraeth Geidwadol San Steffan wneud mwy nag annog cyflenwyr trydan a nwy i atal yr arfer gwbl anniogel ac annheg yma sy'n effeithio'n gwbl anghymesur ac yn andwyol ar aelwydydd mwyaf bregus Cymru. Mae angen gwaharddiad. Ac os nad yw San Steffan yn medru amddiffyn pobl Cymru rhag agwedd farus ac anghyfrifol y cyflenwyr ynni, mae angen i Lywodraeth Cymru geisio'r grymoedd sydd eu hangen i wneud hynny.
Mae pobl yn datgysylltu eu hunain o'u mesuryddion, o olau, o wres, o'r gallu i ymolchi mewn dŵr twym a chadw eu dillad yn lân. Mae pobl, fel dywedoch chi, yn marw wrth i gyflyrau iechyd gael eu gwaethygu yn sgil byw mewn tai oer. Maen nhw'n marw nawr. Rhaid dwyn Llywodraeth San Steffan i gyfrif am hynny. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i wneud yr hyn y gall hi ei wneud i warchod ei dinasyddion.
Diolch o galon i Jack. Rydych chi'n ddadleuwr ac yn ymgyrchydd diflino dros faterion yn ymwneud â phobl sy'n byw mewn tlodi, fel nifer o rai eraill o gwmpas y Siambr hon. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod pam yr ymunais â byd gwallgof gwleidyddiaeth, gadewch imi ddweud wrthych. Am 25 mlynedd, bûm yn weithiwr cymdeithasol, yn ymweld â theuluoedd lle roeddem yn gwneud gwaith amddiffyn plant, a gweld bod y teuluoedd hynny ymhlith y tlotaf. Mae'r tlodion yn mynd yn dlotach. Nid oes gan bobl dlawd unrhyw adnoddau i ymdopi â'r hyn sy'n digwydd. Nid oes gan bobl dlawd unrhyw opsiynau, nid oes ganddynt obaith, ac rwy'n gobeithio fy mod i, a phawb yma rwy'n siŵr—ac mae'n ddrwg iawn gennyf na welaf unrhyw un o blith y Ceidwadwyr yma, ddim hyd yn oed ar-lein mwyach—rwy'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau gweld pethau'n newid.
Fe awn gam ymhellach, a byddwn yn dweud y dylem wahardd pob mesurydd rhagdalu, nid y rhai sy'n cael eu gorfodi i'w ystyried, ond pob mesurydd rhagdalu, oherwydd maent yn bethau dieflig pan edrychwn ar sut y gallwn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi. Nid oes ganddynt adnoddau, nid oes ganddynt egni, nid oes ganddynt nerth i wrthsefyll beth sy'n digwydd. Felly, galwaf ar y Gweinidog i ystyried sut y gallwn wahardd y rhain yng Nghymru, sut y gallwn sicrhau na chânt eu gosod yn ein cartrefi yng Nghymru mwyach. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n rhoi cyfle i mi, unwaith eto, i sicrhau pobl ledled Cymru mai ein blaenoriaeth yw eu cefnogi drwy'r argyfwng costau byw hwn. Rwyf wedi siarad yn helaeth yn ystod y misoedd diwethaf am effaith prisiau ynni cynyddol, am effaith chwyddiant, yn enwedig chwyddiant bwyd, am ganlyniadau trychinebus methiant Llywodraeth y DU i reoli'r economi, sydd wedi dinistrio ein cyllidebau a gwthio pobl i fyw mewn tlodi.
Ond nid yw'r ffeithiau a'r ffigurau hyn yn dweud wrthych beth mae'r argyfwng hwn yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl sy'n byw gyda phwysau o'r fath bob dydd. Nid ydynt yn cyfleu'r gost bersonol i'r fam sy'n mynd heb fwyd er mwyn bwydo'i phlant, y person oedrannus sy'n poeni gormod am eu harian i droi'r gwres ymlaen, neu brofiad dirdynnol y teulu sy'n cael eu gwneud yn ddigartref am na allant fforddio eu rhent mwyach—un o nifer cynyddol o deuluoedd ac unigolion sy'n wynebu bod heb gartref am y tro cyntaf. Yn y bôn, Ddirprwy Lywydd, fwy a mwy, nid yw'r swm o arian sydd gan bobl yn dod i mewn bellach yn ddigon i dalu am hanfodion sylfaenol bywyd fel costau tai, gwresogi a bwyd. Nid oes modd mantoli'r cyfrifon, ac wrth i'r wythnosau fynd heibio, mae eu gallu i dalu'r costau hanfodol hyn yn lleihau ymhellach ac mae lefel eu dyled yn cynyddu.
Ond rwy'n rhannu'r pryderon y mae Jack Sargeant wedi'u nodi heddiw yn y ddadl hon, yn y cwestiwn amserol yn gynharach y prynhawn yma, ac ar bob cyfle'n gyson, am y defnydd cynyddol o fesuryddion rhagdalu gan gwmnïau ynni fel modd o adennill dyledion ynni. Fe wyddom fod talu am ynni ar gynllun rhagdalu yn llawer drytach i rai o'r aelwydydd mwyaf bregus a thlawd yn ein cymdeithas, hyd yn oed lle mae'r cwsmer ar fesurydd clyfar a lle nad oes cynnydd yn y taliadau gweinyddol i'r cyflenwr. Felly, ddydd Llun yr wythnos hon—a nodais hyn eisoes y prynhawn yma—cyfarfûm unwaith eto â chyflenwyr ynni a galwais arnynt i roi eu sicrwydd i mi eu bod yn rhoi camau diwydrwydd dyladwy ar waith ac nad oedd pobl yn cael eu newid i fesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys, yn enwedig y rhai sydd eisoes ar fesurydd clyfar. Byddaf yn parhau i gyfarfod â hwy'n rheolaidd i sicrhau, yn sgil yr addewidion a roddasant i mi—ac fe wnaethant addewidion i mi mewn perthynas â'u harferion, gan ddweud un ar ôl y llall mai dewis olaf yn unig oedd hwn—y byddaf yn eu dwyn i gyfrif yn fy ymgysylltiad â hwy ac yn edrych ar y dulliau a nodwyd gan Jack a chyd-Aelodau heddiw, lle gallem ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny mewn gwirionedd.
Er hynny, ceir tystiolaeth erbyn hyn nad yw cyflenwyr yn dilyn y rheolau sylfaenol i ddiogelu pobl mewn amgylchiadau bregus. Unwaith eto, Jack, fe gyfeirioch chi at dystiolaeth Cyngor ar Bopeth. Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd, cafodd dros dair gwaith y nifer o bobl eu newid i fesurydd rhagdalu oherwydd dyled o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Mae cynghorwyr rheng flaen yn gyson yn gweld tystiolaeth o bobl mewn amgylchiadau bregus yn cael eu newid i fesuryddion rhagdalu, yn groes i reoliadau ar gyfer cyflenwyr ynni. Felly, maent yn tramgwyddo. Mae angen inni edrych ar y rheoliadau hynny, a dyna rwy'n mynd i'w wneud. Parhaodd yr arferion hyn hyd yn oed ar ôl i Ofgem ysgrifennu at gyflenwyr ym mis Tachwedd i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau. Hefyd, ddydd Llun cyhoeddodd Ofgem adroddiad yn amlinellu eu pryderon am y twf sydyn yn nifer y cartrefi sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ac sy'n cael eu newid i fesuryddion rhagdalu, weithiau heb iddynt wybod hyd yn oed, fel y gwyddom, gan eu gadael heb wres.
Mae National Energy Action Cymru wedi tynnu sylw at achos llys ynadon a gymeradwyodd 496 o warantau i osod mesuryddion rhagdalu mewn pedwar munud yn unig. Pwy yw'r ynadon hyn? Rhaid inni fynd atynt. Rhaid inni fynd i'r afael â hyn gyda hwy. Mae arferion o'r fath yn peryglu cwsmeriaid bregus, gan gynnwys y rhai sydd â chyflyrau meddygol, drwy eu gorfodi ar fesuryddion rhagdalu pan allai hynny fod yn beryglus. Mae tua 200,000 o gartrefi yng Nghymru'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu am eu prif gyflenwad nwy a thrydan. Mae hyn oddeutu 15 y cant o'n holl aelwydydd. Mae 24% o denantiaid yn y sector rhentu preifat yn defnyddio mesuryddion rhagdalu, ac mae bron i hanner y tenantiaid tai cymdeithasol yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu.
Roedd aelwydydd Cymru ymhlith y rhai a gafodd eu taro waethaf gan y cynnydd yn y taliadau sefydlog ar filiau aelwydydd er mis Ebrill diwethaf. Roedd y cynnydd mwyaf ym Mhrydain yng ngogledd Cymru, i fyny 102 y cant, gyda de Cymru'n gweld taliadau sefydlog yn codi 94 y cant, y pedwerydd uchaf ym Mhrydain. Mae'r costau ychwanegol hyn ar filiau tanwydd sydd eisoes yn cynyddu wedi cael effaith negyddol anghymesur ar aelwydydd incwm isel a'r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn fwyaf arbennig. Mae Cyngor ar Bopeth wedi tynnu sylw at y nifer uchaf erioed o bobl na all fforddio taliad atodol ar gyfer eu mesuryddion rhagdalu, gan gynnwys galw anghymesur gan aelwydydd un oedolyn, menywod ac aelwydydd anabl. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gosod cwsmer ar dariff drytach a hwythau eisoes yn ei chael hi'n anodd talu yn fodd o ddatgysylltu drwy'r drws cefn.
Fe wyddoch am ystod Llywodraeth Cymru o fentrau a gyflwynwyd gennym ac a weithredir gennym i gadw cartrefi'n gynnes y gaeaf hwn. Yr un yr hoffwn ganolbwyntio'n arbennig arno yw partneriaeth Sefydliad y Banc Tanwydd, sydd hyd yma wedi helpu 14,377 o bobl sy'n ei chael hi'n anodd rhagdalu am eu tanwydd ac a oedd yn wynebu risg o ddatgysylltu eu hunain. Mae'r cynllun talebau tanwydd wedi arwain at roi 5,500 o dalebau i helpu gyda thaliad atodol ar gyfer mesuryddion rhagdalu. Mae pobl sy'n cael trafferth talu am eu tanwydd oddi ar y grid hefyd wedi cael cymorth.
Felly, fel y gwneuthum y prynhawn yma, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn eto i annog Aelodau i ddefnyddio eu cyfryngau cymdeithasol i annog etholwyr sydd â mesurydd rhagdalu traddodiadol i ddefnyddio eu talebau gan gynllun Llywodraeth y DU. Dônt i ben ar ôl 90 diwrnod, ac mae'r nifer sydd eto i'w defnyddio yn bryderus o uchel. Ond cefais sicrwydd gan gyflenwyr ynni ddydd Llun y byddent yn ailddarparu'r talebau hynny. Fe wnaf yn siŵr eu bod yn cadw at hynny, felly byddant yn ailddarparu'r talebau hynny hyd nes y bydd pobl yn cael y talebau hynny. Nid yw ond yn 72 y cant ar hyn o bryd, am y £400, sy'n hanfodol i'r bobl dlotaf yng Nghymru.
Felly, fe wyddoch fod gennym ein cynllun cymorth tanwydd eisoes yn cyrraedd 310,000 o aelwydydd gyda'r taliad o £200 eleni, gan gynyddu cymhwysedd. Unwaith eto, byddwn yn annog aelwydydd cymwys, y flwyddyn ariannol hon, i sicrhau eu bod yn ymgeisio am y cymorth hanfodol hwn, oherwydd mae'n hanfodol er mwyn cael arian i bocedi pobl. Nid yw ein dyraniad cyllid presennol gan Lywodraeth y DU yn ddigonol inni ailadrodd y cynllun yn 2023-24, ond byddwn yn lobïo Gweinidogion y DU i ddarparu cymorth ariannol pellach i bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod ein cronfa cymorth dewisol yno, gyda chynnydd yn y gyllideb ddrafft, fel y gwyddoch, i allu cael cymorth ariannol brys mewn argyfwng.
Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU, sydd â'r prif ysgogiadau at ei defnydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, i roi camau ymarferol ar waith sy'n effeithio'n uniongyrchol a chadarnhaol ar y rhai yr effeithir arnynt gan gost gynyddol ynni, yn enwedig y rhai ar fesuryddion rhagdalu. Ac rydym wedi galw—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi heddiw i wneud hynny hefyd—i alw am ddileu taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu. Fe allai hynny fod yn ddatganiad barn arall, gobeithio. Ers dwy flynedd, rydym wedi galw ar Weinidogion y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed. Maent bellach yn dweud y byddant yn edrych ar hyn. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem yn fuan. Roedd y rhan fwyaf o'r cyflenwyr ynni y gwneuthum eu cyfarfod yr wythnos hon yn symud tuag at gefnogi hyn. Mae'n rhaid inni alw am y tariff cymdeithasol gyda'n gilydd.
Felly, yn olaf, diolch i Jack Sargeant, dadleuwr ac ymgyrchydd diflino. Rwy'n talu teyrnged i Jack am ei natur benderfynol. Mae wedi rhoi'r mater hwn yn y penawdau nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn eang ar draws y DU. Rydych chi wedi tynnu sylw at yr effeithiau niweidiol y mae'r newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu wedi'u cael ar aelwydydd bregus. Rydych chi wedi ysgogi cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus i gynnal gwiriadau priodol ym mhob achos cyn newid cwsmer i fesurydd rhagdalu. Ac rydych chi wedi ailadrodd galwadau ar Ofgem a Llywodraeth y DU i wahardd gosod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth, ac rwyf wedi cefnogi'r holl alwadau hynny, Jack, ac mae mor dda clywed bod ein cyd-Aelodau o Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cefnogi'r galwadau hefyd. Felly, fe wnaethoch chi wahaniaeth y penwythnos diwethaf—mae'n rhaid inni gydnabod bod gan Jack Sargeant ddylanwad. Ysgrifennodd Grant Shapps at gyflenwyr ynni'r DU y penwythnos hwn yn datgan eu dyletswydd o dan y rheoliadau i ddiogelu cwsmeriaid bregus sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Ond nid yw hynny'n ddigon cryf, nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid inni edrych ar y rheoliadau hynny i weld beth y gallwn ei wneud, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda'r galwadau hyn a'r ymgyrch hon gyda'n gilydd. Diolch yn fawr iawn, Jack.
Diolch, Weinidog, a diolch i Jack Sargeant. A daw hynny â busnes heddiw i ben.