Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch, Heledd. Unwaith eto, pob un ohonynt yn bwyntiau dilys iawn y byddwn yn cytuno â hwy. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cyfle i fynd i'r afael â'r materion hyn dros gyfnod o amser. Yn y sgwrs a gefais gyda’r prif weithredwr y bore yma, nododd nifer o gamau gweithredu y mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi’u rhoi ar waith. Dywedais wrtho'n blwmp ac yn blaen fy mod yn teimlo bod angen i hynny fod yn llawer mwy eglur, fod angen iddo ddweud yn gyhoeddus beth mae Undeb Rygbi Cymru wedi’i wneud i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, yn anad dim yng ngoleuni’r adroddiad ar gêm y menywod.
Yn y trafodaethau a gefais gydag ef o’r blaen ynglŷn â'r adroddiad ar gêm y menywod a pham na chafodd ei gyhoeddi, y prif reswm yw am fod y menywod a roddodd dystiolaeth ar gyfer datblygu’r adroddiad hwnnw wedi cael sicrwydd y byddai eu cyfrinachedd yn cael ei barchu ac na fyddai eu henwau'n cael eu datgelu. Dywedodd yn glir iawn wrthyf ei fod yn teimlo, pe na baent wedi cael y sicrwydd hwnnw, y byddai llawer o’r menywod hynny heb roi tystiolaeth. Felly, teimlai fod yn rhaid iddo barchu eu cyfrinachedd. Rwy’n deall hynny, ac rwyf wedi dweud yn glir wrtho na chredaf fod unrhyw un yn ceisio darganfod pwy yw unrhyw un sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r adroddiad, ac y gallai adroddiad o’r fath gael ei gyhoeddi a’i olygu fel na ellir adnabod pobl, a dyna y gelwais arno i'w wneud. Felly, cawn weld a fydd hynny'n digwydd, yng ngoleuni'r trafodaethau a gefais—y trafodaethau pellach a gefais—ynglŷn â hynny yr wythnos hon.
Mae arweinyddiaeth newydd yn Undeb Rygbi Cymru. Soniais am Ieuan Evans yn gynharach. Dim ond ers ychydig wythnosau y bu'n gadeirydd Undeb Rygbi Cymru. Yn sicr, roedd fel petai'n dweud y pethau iawn pan gyfarfûm ag ef. Nid wyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg heddiw. Ond credaf ei bod bellach yn ddyletswydd ar Undeb Rygbi Cymru i ddangos beth yw eu hymrwymiad i wneud y newidiadau rydych chi ac Alun Davies eisoes wedi'u nodi'n glir. Yn sicr, o’r rhaglen a welsom, yr argraff oedd nad yw hynny wedi digwydd eto. Credaf mai mater i Undeb Rygbi Cymru nawr yw profi ei fod yn digwydd, a nodi beth maent yn ei roi ar waith i sicrhau ei fod yn digwydd.