Undeb Rygbi Cymru

4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt gan y BBC? TQ714

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:28, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw? Rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru ddwywaith yn ystod y deuddydd diwethaf ynghylch y camau gweithredu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r honiadau a nodwyd yn yr ymchwiliad gan y BBC. 

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich ateb. Gallwn fod wedi cyfeirio'r cwestiwn hwn at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach hefyd. Mae'r adroddiadau diweddar sy'n datblygu am Undeb Rygbi Cymru yn frawychus iawn. Cawsom wybod fod yna ddiwylliant gwenwynig o rywiaeth wrth galon y sefydliad. Clywsom honiadau fod gweithiwr gwrywaidd wedi gwneud sylw o flaen uwch-aelod o staff am dreisio cydweithiwr benywaidd. Mae'n wrthun ac mae'n ymddygiad annerbyniol i unrhyw un ei wneud. Fel rhywun a chwaraeodd rygbi mewn clwb sy'n mynd ati i hyrwyddo a datblygu gêm y menywod, ac yn annog merched ifanc a menywod i chwarae ein camp genedlaethol, mae'n fy ngwneud yn sâl i feddwl bod yna bobl a fyddai'n meithrin diwylliant gwenwynig o'r fath yn Undeb Rygbi Cymru.

Rwyf am gymeradwyo pawb sydd wedi camu ymlaen i ddatgelu'r problemau dwfn hyn o fewn yr undeb. Mae'n amlwg fod angen rhoi camau uniongyrchol a thryloyw ar waith i fynd i'r afael â'r problemau enfawr hyn. Ni ddylai fod lle i unrhyw un sy'n cyflawni'r ymddygiad ffiaidd hwn guddio na'r rhai sy'n ei amddiffyn neu'n ei esgusodi. Nid oes lle i wahaniaethu na thrais yn erbyn menywod yn ein cymdeithas. Weinidog, a wnewch chi fy sicrhau i a'r Siambr hon eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod gweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru yn gwneud popeth y mae angen iddynt ei wneud i ymchwilio i'r honiadau hyn, a sicrhau y byddwch yn gwneud arweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru yn atebol am yr amgylchedd gwenwynig y mae wedi ei greu wrth galon rygbi Cymru?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:30, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i James Evans am ei sylwadau pwerus iawn, sylwadau rwy'n cytuno â hwy? Ac a gaf fi ddechrau drwy wneud rhai pwyntiau cyffredinol mewn ymateb? Yn gyntaf, mae’r materion a godwyd gan raglen ymchwilio’r BBC yn ddychrynllyd, heb os, a hoffwn ailadrodd ein bod yn cydnabod y dewrder a gymerodd i godi llais ar ôl dioddef unrhyw fath o aflonyddu—credaf y dylid canmol y ffordd y gwelsom hynny’n cael ei wneud yn gyhoeddus ar y rhaglen. Nawr, y llynedd, fel y gwyddoch, fel Llywodraeth, gwnaethom gyhoeddi ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n nodi'n glir ein huchelgeisiau i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw, ac mae hynny'n cynnwys yn y gweithle. Nawr, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gadw'n dawel am gam-drin, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag aflonyddu a bwlio yn uniongyrchol, gan fod hawl gan fenywod a merched i fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Nawr, ar y manylion, fel y dywedodd y Prif Weinidog yma yn y Siambr ddoe, mae angen inni weld camau gweithredu tryloyw ar frys i helpu i adfer hyder yn Undeb Rygbi Cymru. Ac er mwyn sicrhau hynny, mae angen i Undeb Rygbi Cymru gydnabod yn gyhoeddus pa mor ddifrifol yw'r materion a gafodd eu darlledu yn y rhaglen deledu BBC Wales Investigates nos Lun. Nawr, dros y dyddiau diwethaf, rwyf wedi bod yn ymgysylltu ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y camau gweithredu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r honiadau hyn a sut maent yn darparu amgylchedd diogel i'w staff a rhanddeiliaid ehangach sy'n rhydd rhag aflonyddu a chamdriniaeth o bob math. Nodaf y sylwadau a wnaed gan y prif weithredwr yn y wasg ddoe eu bod wedi syrthio'n fyr o'r disgwyliadau wrth arddangos rygbi Cymru i’r byd a'u bod yn gweithio ar y newidiadau angenrheidiol ar unwaith i sicrhau bod hon yn gamp y gall pob un ohonom fod yn falch ohoni unwaith eto ac sy’n cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol a chreu amgylchedd sy’n rhydd rhag camdriniaeth.

Cyfarfûm â’r prif weithredwr eto y bore yma, a nodais ein disgwyliadau'n glir ar gyfer camau gweithredu brys a fydd yn adfer ymddiriedaeth staff, chwaraewyr, cefnogwyr, rhieni a phlant yn ei sefydliad. Pwysais arno am enghreifftiau penodol o’r hyn y maent yn bwriadu ei roi ar waith i sicrhau diogelwch y rheini sy’n gweithio i Undeb Rygbi Cymru. A dywedwyd wrthyf fod y rhain bellach yn cynnwys cyflogi cyfarwyddwr pobl, adnewyddu eu polisïau AD, a hyfforddiant cydraddoldeb ac ymgysylltu â staff. Nawr, mae hynny'n bwysig, gan mai'r anghydraddoldeb a wynebir gan fenywod oedd wrth wraidd y rhaglen ddydd Llun, yn Undeb Rygbi Cymru ac yng ngêm y menywod yn gyffredinol. A dylai menywod allu mynd i'r gwaith a chymryd rhan mewn chwaraeon yn rhydd rhag aflonyddu a chamdriniaeth. Nawr, ar y materion yn y gweithle ei hun a godwyd yn y rhaglen, byddwn yn dweud hyn: os nad oes gan sefydliad broblem gyda'i ddiwylliant, ni fyddai cwynion mor ddifrifol â'r rhain yn dod i'r amlwg. A hyd yn oed os nad yw proses ffurfiol a arweinir gan gyfreithiwr allanol yn cadarnhau cwyn, nid yw hynny'n golygu na ddigwyddodd y digwyddiad hwnnw.

Nawr, gwelais drosof fy hun fod Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud cynnydd cadarnhaol yn ddiweddar ar ddatblygu gêm y menywod yng Nghymru, gyda chontractau proffesiynol ar gyfer y tîm cenedlaethol, tîm datblygu sydd newydd ei ffurfio a chystadleuaeth ranbarthol i chwaraewyr dan 18, i nodi ychydig o enghreifftiau'n unig—gyda phob un yn cynyddu'r cyfleoedd i fenywod a merched ym myd rygbi. Fodd bynnag, mae Undeb Rygbi Cymru eu hunain yn cydnabod bod hyn yn dilyn blynyddoedd o lesgedd o ran datblygu gêm y menywod, a dyna pam y gwnaethant gomisiynu adolygiad i gêm y menywod ychydig flynyddoedd yn ôl. Cafwyd galwadau i'r ddogfen hon gael ei chyhoeddi; rwy'n cefnogi’r galwadau hynny, gan fy mod yn credu’n gryf fod y ffordd y mae wedi'i chadw'n gyfrinachol yn fwy niweidiol na phe bai’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Gwneuthum y pwynt hwnnw i’r prif weithredwr y bore yma, a gwneuthum y pwynt iddo o’r blaen mewn trafodaethau gydag ef. Dylai Undeb Rygbi Cymru, yn y lle cyntaf, gyhoeddi'r ddogfen honno ac egluro sut y gwnaethant ymateb i’r adolygiad a sut maent yn cynllunio ar gyfer datblygu gêm y menywod ymhellach. Rwyf hefyd yn ymwybodol y bu galwadau am ymchwiliad gan bwyllgor Senedd, a byddwn yn croesawu hynny hefyd, wrth gwrs.

Lywydd, mae hwn yn fater rwyf fi, fel y Dirprwy Weinidog chwaraeon, o ddifrif yn ei gylch, a byddaf yn parhau i bwyso yn y ffordd gryfaf bosibl am ddiwygio a thrawsnewid Undeb Rygbi Cymru ar unwaith, gan ei fod yn sefydliad sy'n ganolog i chwaraeon a bywyd diwylliannol a dinesig ein cenedl.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:35, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, roedd y rhaglen a ddarlledwyd yr wythnos hon yn rhaglen dorcalonnus, a chlywsom dystiolaeth dorcalonnus. A chredaf y dylai pob un ohonom uno i gymeradwyo ac i ganmol y menywod a gododd eu lleisiau bryd hynny, a hefyd, wrth gwrs, y newyddiadurwyr sydd wedi adrodd ar y stori hon ac a ddaeth â'r mater i'n sylw.

I mi, nid mater AD unigol yw hyn ond diwylliant sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, a diwylliant y mae’n rhaid ei newid. Ac i bob un ohonom sydd wedi treulio oes yn cefnogi rygbi Cymru ar bob lefel, rydym am weld y newid hwn yn digwydd. Ac nid oes gennyf ddiddordeb mewn clywed am fesurau byrdymor, adweithiol. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn hela gwrachod yn y tymor byr; rwyf am weld newid hirdymor, sylfaenol, a newid diwylliannol sylfaenol hirdymor. A gobeithio y bydd Ieuan Evans yn arwain y newid hwnnw, a’r hyn rwyf am ei ddweud yw bod angen i lywodraethiant Undeb Rygbi Cymru newid, mae angen i ddiwylliant Undeb Rygbi Cymru newid, ac mae angen inni sicrhau bod diwylliant rygbi yn y wlad hon yn ddiwylliant cynhwysol ac yn un sy’n annog menywod i fod yn rhan annatod ohono ac nad yw’n gorfodi pobl allan—ni all hynny ddigwydd.

A hoffwn ddweud wrth Undeb Rygbi Cymru—os nad ydych yn gallu neu os nad ydych yn barod i arwain y newid hwn, bydd y newid yn cael ei orfodi arnoch. Nid yw hyn yn rhywbeth y gellir rhoi plastr drosto. Nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei frwsio o dan y carped, ac nid yw'n rhywbeth y bydd y cyfryngau yn symud ymlaen ohono yr wythnos nesaf. Mae hyn yn galw am newid diwylliannol sylfaenol. A fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw hyn: beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd, a sut y byddwn yn deall bod y newid hwnnw wedi digwydd? Oherwydd nid wyf am weld rhestr o gamau gweithredu yn unig, ac y byddwn yn cael ymchwiliad gan y Senedd yr adeg hon y flwyddyn nesaf neu beth bynnag—rwyf am weld y newid yn digwydd. Mater i Undeb Rygbi Cymru yw arwain y newid, a mater i Undeb Rygbi Cymru yw ysgwyddo cyfrifoldeb am y newid. Ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ddibynnu ar Undeb Rygbi Cymru i ddeall y sefyllfa y mae ynddi heddiw.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:37, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich sylwadau, Alun Davies, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr â’r materion a godwch. Gwyddom mai'r angen am newid diwylliannol, mewn unrhyw sefydliad, yw’r peth anoddaf i’w gyflawni. Mae newid diwylliannol yn cymryd amser. Mae'n cymryd newidiadau nid yn unig o ran polisïau, ond o ran personél, o ran agwedd, a phur anaml y gall ddigwydd dros nos. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid i’r newid diwylliannol hwnnw ddigwydd, oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw’r ffordd y caiff pethau eu gweld yn Undeb Rygbi Cymru yn cyd-fynd â gwerthoedd y Llywodraeth hon.

Nawr, fel Llywodraeth, yn amlwg, nid ni sy'n rhedeg Undeb Rygbi Cymru. Nid ydym yn berchen ar Undeb Rygbi Cymru. Maent yn fusnes annibynnol, ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch ble y caiff y penderfyniadau ynglŷn â'r gêm yng Nghymru eu gwneud. Ac nid Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. Ond yr holl bwynt, a chredaf mai’r pwynt roeddech chi'n ei wneud, Alun, yw bod rygbi’r undeb, a rygbi’r undeb rhyngwladol yn arbennig, mor bwysig i ddiwylliant y genedl hon fel bod yn rhaid inni gael sefydliad sy’n arddel gwerthoedd y genedl hon hefyd. Ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pawb, boed yn chwarae, neu boed yn gweithio yn y sefydliad, yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yn cael eu gwerthfawrogi. A dyna fydd y mesur y byddaf yn ei roi ar y newid o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Nawr, rwy'n ymwybodol, Lywydd, wrth imi sefyll yma, ac efallai ychydig cyn imi ddod i mewn i'r Siambr, fod cynhadledd i'r wasg yn cael ei chynnal gydag Undeb Rygbi Cymru ac Ieuan Evans, y cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf ychydig wythnosau yn ôl. Ac mae'n rhaid imi ddweud, yn y sgwrs a gefais ag ef ychydig wythnosau yn ôl, fod ei ymrwymiad i ysgogi newid o fewn Undeb Rygbi Cymru wedi creu cryn argraff arnaf. Nawr, nid wyf wedi cael cyfle, yn anffodus, i ddal i fyny â'r hyn a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg, ond byddwn yn mawr obeithio mai dyna a nododd yn glir iawn yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd, ac a ddarlledwyd ar raglen y BBC ddydd Llun.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:40, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, hoffwn gytuno â’r holl sylwadau a wnaed. Roedd y rhaglen yn un anodd iawn i'w gwylio. Mae'n codi cwestiynau, gan ein bod wedi bod yn falch iawn o rygbi fel camp genedlaethol ochr yn ochr â phêl-droed, a dylai pawb deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac mae'r honiadau'n gwbl wrthun. Yr hyn sydd yr un mor wrthun, yn fy marn i, yw’r datganiadau cyhoeddus hyd yn hyn gan Undeb Rygbi Cymru, gan nad ydynt wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod yn rhoi ystyriaeth mor ddifrifol ag y dylent i'r mater. Mae’r ffaith hefyd y bu cyfleoedd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn o dan yr arweinyddiaeth bresennol, ond nad yw hynny wedi digwydd i bob golwg, yn codi pryderon yn fy marn i, ac yn codi cwestiynau ynglŷn â'r arweinyddiaeth bresennol.

Nid wyf wedi cael y trafodaethau hynny a gawsoch chi hyd yma, wyneb yn wyneb ag Undeb Rygbi Cymru, ond a gaf fi ofyn i chi: a ydych yn dawel eich meddwl fod Undeb Rygbi Cymru o ddifrif ynghylch yr honiadau hyn ac yn rhoi camau pendant ar waith? Ac a ydych yn teimlo, fel rwyf innau'n teimlo bellach, fod angen newid arweinyddiaeth os ydynt am fynd i'r afael â'r honiadau hyn i'r graddau sydd eu hangen?

Hefyd, mae’n codi arswyd arnaf, a dweud y gwir, nad oes ymrwymiad wedi'i wneud o hyd i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw, er eich bod chi, fel Dirprwy Weinidog, wedi gofyn am yr adroddiad hwnnw. Beth oedd eu hagwedd pan ofynnoch chi am y gyhoeddi hwnnw? A ydych wedi cael unrhyw sicrwydd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi?

Hefyd, o gofio ein bod yn rhoi arian cyhoeddus i Undeb Rygbi Cymru, a bod llawer ohono'n cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod y gamp yn fwy cynhwysol, gan gynnwys i fenywod, sut y gallwn roi arian cyhoeddus i gorff pan na allwn roi sicrwydd i fenywod y bydd yr amgylchedd y byddant yn ei wynebu yn un diogel ac y byddant yn ddiogel rhag rhywiaeth a chasineb at fenywod? A yw hyn yn rhywbeth rydych yn ei adolygu ar hyn o bryd hefyd, Weinidog?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:42, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Heledd. Unwaith eto, pob un ohonynt yn bwyntiau dilys iawn y byddwn yn cytuno â hwy. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cyfle i fynd i'r afael â'r materion hyn dros gyfnod o amser. Yn y sgwrs a gefais gyda’r prif weithredwr y bore yma, nododd nifer o gamau gweithredu y mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi’u rhoi ar waith. Dywedais wrtho'n blwmp ac yn blaen fy mod yn teimlo bod angen i hynny fod yn llawer mwy eglur, fod angen iddo ddweud yn gyhoeddus beth mae Undeb Rygbi Cymru wedi’i wneud i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, yn anad dim yng ngoleuni’r adroddiad ar gêm y menywod.

Yn y trafodaethau a gefais gydag ef o’r blaen ynglŷn â'r adroddiad ar gêm y menywod a pham na chafodd ei gyhoeddi, y prif reswm yw am fod y menywod a roddodd dystiolaeth ar gyfer datblygu’r adroddiad hwnnw wedi cael sicrwydd y byddai eu cyfrinachedd yn cael ei barchu ac na fyddai eu henwau'n cael eu datgelu. Dywedodd yn glir iawn wrthyf ei fod yn teimlo, pe na baent wedi cael y sicrwydd hwnnw, y byddai llawer o’r menywod  hynny heb roi tystiolaeth. Felly, teimlai fod yn rhaid iddo barchu eu cyfrinachedd. Rwy’n deall hynny, ac rwyf wedi dweud yn glir wrtho na chredaf fod unrhyw un yn ceisio darganfod pwy yw unrhyw un sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r adroddiad, ac y gallai adroddiad o’r fath gael ei gyhoeddi a’i olygu fel na ellir adnabod pobl, a dyna y gelwais arno i'w wneud. Felly, cawn weld a fydd hynny'n digwydd, yng ngoleuni'r trafodaethau a gefais—y trafodaethau pellach a gefais—ynglŷn â hynny yr wythnos hon.

Mae arweinyddiaeth newydd yn Undeb Rygbi Cymru. Soniais am Ieuan Evans yn gynharach. Dim ond ers ychydig wythnosau y bu'n gadeirydd Undeb Rygbi Cymru. Yn sicr, roedd fel petai'n dweud y pethau iawn pan gyfarfûm ag ef. Nid wyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg heddiw. Ond credaf ei bod bellach yn ddyletswydd ar Undeb Rygbi Cymru i ddangos beth yw eu hymrwymiad i wneud y newidiadau rydych chi ac Alun Davies eisoes wedi'u nodi'n glir. Yn sicr, o’r rhaglen a welsom, yr argraff oedd nad yw hynny wedi digwydd eto. Credaf mai mater i Undeb Rygbi Cymru nawr yw profi ei fod yn digwydd, a nodi beth maent yn ei roi ar waith i sicrhau ei fod yn digwydd.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:44, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn amau'r hyn a ddywedwch, a bod Ieuan Evans yn unigolyn rhagorol, ond rwy'n meddwl tybed a fydd yn gallu newid hyn ar ei ben ei hun. Oherwydd mae dros flwyddyn wedi bod ers i Amanda Blanc rybuddio yn ei haraith wrth ymddiswyddo fod bom amser o rywiaeth a hiliaeth yn Undeb Rygbi Cymru, sydd bellach wedi ffrwydro. Felly, yng ngoleuni’r niwed a wnaed i Gymru, i’n henw da, o ganlyniad i’r storm berffaith hon, a diffyg gweithredu gan Undeb Rygbi Cymru, pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gael rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer pob corff chwaraeon sy'n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru, fel bod y diwylliant o gyrff chwaraeon yn marcio eu gwaith cartref eu hunain yn dod i ben?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:45, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Clywais yr alwad honno am reoleiddiwr annibynnol gan Tonia Antoniazzi yn y rhaglen. Dyma’r tro cyntaf imi glywed yr alwad honno gan unrhyw un, felly byddai angen imi gael trafodaeth gyda swyddogion ynglŷn â sut olwg a allai fod ar hynny, sut y byddai’n gweithio’n ymarferol, beth fyddai'r agweddau cyfreithiol ar hynny, sut y byddai’n berthnasol, er enghraifft, i gyrff rhyngwladol, gan nad yng Nghymru y mae'r gair olaf mewn perthynas â chyrff llywodraethu cenedlaethol Cymru; ceir byrddau rygbi rhyngwladol, ac UEFA ar gyfer pêl-droed, FIFA ar gyfer pêl-droed, ceir byrddau rhyngwladol ar gyfer pob un o'n cyrff llywodraethu. Felly, ar yr wyneb, nid yw mor syml ag y mae'n swnio. Fodd bynnag, credaf fod rhywbeth y gallem edrych arno yn y cyswllt hwnnw, ond yn sicr, ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau i hynny ar hyn o bryd, gan y credaf fod angen cryn dipyn o ymchwil ar y syniad hwnnw.

Lywydd, os maddeuwch i mi, rwy'n ymwybodol iawn nad atebais un o'r pwyntiau a gododd Heledd Fychan, a oedd yn ymwneud â rhoi arian cyhoeddus i Undeb Rygbi Cymru. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ei bod yn amlwg fod gan Lywodraeth Cymru berthynas ariannol hirsefydlog ag Undeb Rygbi Cymru, sy'n seiliedig, yn y bôn, ar hyrwyddo amcanion cyhoeddus ac economaidd. Ac fel un o'n prif bartneriaid, mae gennym ddisgwyliadau clir iawn ynglŷn â sut mae sefydliad yn edrych ac yn ymddwyn er mwyn cael arian cyhoeddus, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wylio'n ofalus iawn yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, mae Chwaraeon Cymru, gyda’r sector, wedi datblygu fframwaith o ganllawiau galluogrwydd a llywodraethu ar gyfer yr holl gyrff llywodraethu cenedlaethol sy’n gweithio yng Nghymru, ac mae hwnnw wedi’i ddatblygu gan y sector i helpu i ddarparu offeryn cefnogol i helpu sefydliadau ar draws ystod o sectorau. Nawr, unwaith eto, un o'r pethau yr hoffwn eu trafod gydag Undeb Rygbi Cymru yw i ba raddau y maent yn rhoi ystyriaeth i hwnnw. Mae’n gyfres newydd o ganllawiau gan Chwaraeon Cymru, a byddaf yn disgwyl i Undeb Rygbi Cymru gydymffurfio â hi.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:47, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cael llond bol ar sefyll yma'n siarad am gyrff cyhoeddus, cyrff chwaraeon, yr heddlu, y gwasanaeth tân, ac yn sôn am y diwylliant sy’n sail iddynt, am ddiwylliant systemig o gasineb at fenywod a rhywiaeth mewn meysydd sydd wedi eu dominyddu, yn draddodiadol, gan ddynion. Rwy'n blino braidd ar hyn.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod

'yn condemnio'r defnydd o iaith hiliol, homoffobig neu rywiaethol'.

Wel, profwch hynny. Oherwydd nid ydynt wedi'i brofi, ac nid yw'r holl sefydliadau eraill wedi'i brofi eto. Felly, mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod eu datganiad mewn ymateb i'r honiadau yn drahaus ac yn ddiystyriol. Roeddwn o'r farn eu bod yn lleihau ac yn dibwyllo, mewn ffordd y bydd llawer o fenywod yma heddiw yn ei hadnabod. Roedd ymateb Undeb Rygbi Cymru i sylw fy nghyd-bleidiwr, Tonia Antoniazzi, yn arbennig o ddiystyriol ac awgrymodd AS Gŵyr, yn gwbl briodol, y dylid sefydlu corff annibynnol i edrych ar y cwynion yn erbyn cyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru. Os edrychwn ar y ffaith ei bod wedi sôn am hiliaeth mewn criced, ac rydym wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd gyda hynny; os edrychwn ar Gymnasteg Prydain, ac rydym wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd gyda hynny, faint o Weinidogion sy'n mynd i godi yma ac egluro'r hyn nad yw'r cyrff cyhoeddus hyn yn ei wneud, gan mai dyma'r cwestiwn yma?

Felly, credaf mai’r hyn y mae angen inni ei wneud yw mynd gam ymhellach yma. Mae'n amlwg nad yw'r strwythurau'n gweithio, mae'r bobl sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol yn dweud nad oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd ar waelod eu sefydliad. Nid oeddent wedi cael sgwrs. Wel, dylent fod wedi cael un. Felly, mae angen inni sicrhau, mewn cyrff sy'n cael arian cyhoeddus, fod y strwythurau hynny'n ddigonol i wneud dau beth: un, sicrhau bod pob rhan o'r sefydliad hwnnw'n gwybod beth sy'n digwydd yn rhannau eraill y sefydliad hwnnw; a'r llall yw llwybr diogel i chwythwyr chwiban, gan mai dyna'r peth arall sy'n wirioneddol bwysig yma, yn ogystal â fetio'r bobl sy'n mynd i fod yn rhan o'r sefydliadau hynny a'r bobl sy'n eu goruchwylio.

Nid wyf am orfod codi yma yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr nad oes unrhyw arall ychwaith, pan fydd stori arall yn torri, a stori arall. Felly, gadewch inni fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn iawn, gan fod hyn yn destun cywilydd i Gymru—yn destun cywilydd mawr i Gymru. A beth fydd y stori yr wythnos nesaf? Ac mae dweud na allant gyhoeddi adroddiad am eu bod wedi rhoi cyfle, yn briodol, i bobl beidio â chael eu henwi yn yr adroddiad yn warthus, gan eu bod yn gwybod yn iawn y gallent gyhoeddi'r adroddiad hwnnw drwy ddileu'r enwau. Felly, maent yn cuddio y tu ôl i hynny eto. Credaf fod angen newid y bobl a oedd yn gyfrifol am Undeb Rygbi Cymru yn llwyr yn ôl eu perfformiad hyd yma.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:51, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, Joyce, a chredaf fy mod wedi ymdrin â llawer o'r pwyntiau a godwch mewn ymatebion i gwestiynau blaenorol, ac unwaith eto, nid wyf yn anghytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedwch. Yn sicr, mae gennym ni fel Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod cyrff y mae gennym berthynas ariannol â hwy ac y mae gennym bartneriaethau ariannol â hwy yn cydymffurfio â rheolau, ymddygiad a gwerthoedd diwylliannol sy’n cefnogi ein rhai ninnau. Ac os nad yw hynny'n digwydd, mae angen inni adolygu'r cysylltiadau hynny, a chredaf fy mod wedi dweud hynny'n glir iawn mewn ymateb i gwestiwn Heledd Fychan. A'r math hwnnw o drefniant partneriaeth sy'n bwysig, oherwydd, unwaith eto, fel y dywedais mewn ymateb i Alun Davies, mae Undeb Rygbi Cymru yn sefydliad annibynnol—nid ydynt yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac ni allwn eu gorfodi i wneud y pethau rydym am iddynt eu gwneud, ond gallwn nodi ein disgwyliadau yn glir iawn. Ni chredaf y gallwn fod wedi bod yn gliriach gydag Undeb Rygbi Cymru yr wythnos hon ynglŷn â beth yw ein disgwyliadau a byddwn yn monitro hynny’n agos iawn, a byddaf yn disgwyl gweld newid sylweddol yn y ffordd y caiff y sefydliad hwn ei redeg yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:52, 25 Ionawr 2023

Ac yn olaf ar y cwestiwn amserol hwn, Delyth Jewell. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel pawb, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ymwybodol o’r honiadau a wnaed. Mae'r honiadau hynny yn erbyn Undeb Rygbi Cymru yn ddifrifol dros ben. Yn waeth na hynny, maent yn dorcalonnus, fel y clywsom. Maent wedi peri cryn bryder i lawer o bobl. Rwy'n canmol y menywod sydd wedi rhoi tystiolaeth.

Rydym ni, fel pwyllgor, yn gytûn y dylai unrhyw un a phawb, ni waeth beth fo’u cefndir, allu cymryd rhan mewn chwaraeon heb ofni gwahaniaethu. Ni ddylai unrhyw un byth orfod wynebu unrhyw fath o gamdriniaeth neu iaith ragfarnllyd, yn enwedig yn y man lle maent yn gweithio, sy’n fan lle dylai pawb gael eu parchu a’u trin yn gyfartal.

Mae’r pwyllgor yn ymwybodol o’r datblygiadau a wnaed ers i’r rhaglen gael ei darlledu. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos dros y dyddiau nesaf, a bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn ffurfiol yr wythnos nesaf i drafod y mater hwn, ac fel rhan o’r trafodaethau hynny, bydd yn ystyried unrhyw gamau y dylem eu cymryd. Er mwyn llywio’r trafodaethau hynny yr wythnos nesaf, Weinidog, byddwn yn croesawu cadarnhad—unrhyw beth yn ychwanegol at yr hyn rydych wedi’i ddweud eisoes—o unrhyw drafodaethau rydych chi, fel Llywodraeth, wedi’u cael gydag Undeb Rygbi Cymru, a hoffwn wybod hefyd pa opsiynau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i sicrhau newid diwylliannol yn Undeb Rygbi Cymru, gan ystyried yr hyn rydych wedi'i ddweud eisoes y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:54, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch, Delyth, a chredaf fod ymyrraeth y pwyllgor i’w groesawu’n fawr ac y byddai’r cymorth y gall y pwyllgor ei gynnig yma ar ffurf ymchwiliad i fynd i'r afael â rhai o’r materion hyn i’w groesawu’n fawr, ac y gallai fod o gymorth mawr. Ond unwaith eto, mae’n rhaid imi ailadrodd nad oes gennyf bŵer nac awdurdod i ddweud wrth Undeb Rygbi Cymru beth sy'n rhaid iddynt ei wneud. Maent yn sefydliad annibynnol. Yr hyn y gallaf ei wneud yw ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes, sef fy mod wedi dweud yn blwmp ac yn blaen wrth Undeb Rygbi Cymru beth yw fy nisgwyliadau ar gyfer corff llywodraethu chwaraeon pwysig yng Nghymru, sut y dylai edrych a sut y dylai ymddwyn. A byddwn yn disgwyl iddynt ddod yn ôl ataf gyda'u cynllun gweithredu ar fyrder, i nodi sut yn union y maent yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion hyn.

Photo of David Rees David Rees Labour

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Bydd y cwestiwn amserol olaf gan Rhun ap Iorwerth.