Diogelwch Bwyd

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

4. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gryfhau diogelwch bwyd yng Nghymru? OQ59061

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:00, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'r system fwyd yn gweithredu ar sail y DU gyfan. Felly mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig i nodi risgiau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo diogelwch bwyd trwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaethyddiaeth, a darparu cefnogaeth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Trefnydd. Fyddwch chi ddim yn synnu o wybod fy mod yn canolbwyntio ar ein cyflenwadau bwyd a llysiau. Rwy'n ymwybodol iawn mai dim ond dwywaith yn ystod y tri mis diwethaf yr wyf wedi gallu cael gafael ar y bocsys o ffrwythau a llysiau yr wyf i eisiau eu rhoi i'n banc bwyd lleol. Mae hynny'n adlewyrchu'r diffyg bwyd fforddiadwy sy'n cyrraedd y farchnad gyfanwerthu, y mae'r holl fanwerthwyr annibynnol, siopau cornel, siopau cyfleus a llawer o'r sector lletygarwch yn dibynnu arno. Rwy'n gwerthfawrogi bod gan yr archfarchnadoedd eu rhwydweithiau eu hunain. Prin iawn yw'r bwyd sy'n dod i'r farchnad gyfanwerthu sydd wedi'i dyfu yng Nghymru. Nawr, rwy'n llwyr werthfawrogi'r gwaith yr ydych chi, Gweinidog, wedi'i wneud fel Gweinidog materion gwledig i geisio ehangu'r sector garddwriaeth yng Nghymru, ond nid yw'n ddigon mewn gwirionedd. Ac o ystyried colli arian cyhoeddus yn sylweddol i'r economi sylfaenol, a'r goblygiadau mawr sydd ganddo i'n rhaglen uchelgeisiol prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gyda thraean o bryd plentyn i fod yn llysiau a ffrwythau i'w galluogi nhw i dyfu a dysgu, yn sgil y goblygiadau cyllidebol a pholisi hyn i'ch holl Weinidogion ar y meinciau blaen, ac eithrio'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater strategol arwyddocaol hwn?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:01, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel y dywedais i, mae cyflenwad bwyd wedi'i integreiddio'n llwyr ar draws y DU. Mae gennym gadwyni cyflenwi rhyngwladol amrywiol iawn hefyd ar gyfer mewnforion ac allforion. Nid wyf yn credu bod prinder cyffredinol o ffrwythau a llysiau. Maen nhw ar gael yn eang. Felly, nid wyf yn credu bod risg i naill ai'r polisi prydau ysgol am ddim nac i iechyd y cyhoedd. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Fe wnaethoch chi sôn am y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud mewn cysylltiad â garddwriaeth. Rwy'n cael gwybod bod garddwriaeth yn faes lle rydyn ni eisiau gweld ehangu'r sector amaethyddol mewn gwirionedd, ac rwy'n defnyddio cyllid rhaglenni datblygu gwledig, er enghraifft, i gael ffenestri newydd er mwyn i bobl wneud cais am gyllid mewn cysylltiad â gwneud mwy ynghylch garddwriaeth a thyfu ffrwythau a llysiau. 

Mae angen i ni barhau i drafod gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, fel y dywedais i, ynghylch y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Ac rwy'n ei wneud fel Gweinidog—mae swyddogion yn sicr yn ei wneud, ond rwy'n ei wneud fel Gweinidog. Rwy'n cwrdd ag ystod o bartneriaid—ffermwyr, proseswyr, gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr—i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. Rydym yn adolygu hynny'n gyson i wneud yn siŵr nad oes prinder ffrwythau a llysiau. 

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:03, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'r Gweinidog wedi crybwyll yn y gorffennol ei strategaeth bwyd cymunedol, mater yr ydym wedi ei drafod mewn pwyllgor. Nawr, rydyn ni'n dal i aros am ddatblygiad y strategaeth, ac, fel mae'n sefyll, nid oes ganddi ddyfnder na sylfaen go iawn. Sylwaf fod dymuniadau clodwiw Jenny Rathbone yn cyd-fynd yn berffaith â Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox, sydd ar ei hynt drwy'r broses ddeddfwriaethol ar hyn o bryd. Gan fod Peter wedi amlygu yn y Siambr yn y gorffennol ac yn y Pwyllgor, mae'n creu'r amgylchedd perffaith i wireddu gweledigaeth Jenny Rathbone ar gyfer diogelwch bwyd. Gweinidog, rydych chi wedi dweud bod yr arian ar gyfer eich strategaeth bwyd cymunedol wedi ei neilltuo, ond eto mae oedi cyn ei weithredu. Felly, o ystyried hyn, pryd allwn ni ddisgwyl i'r strategaeth hon gael ei chyflwyno? Diolch. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:04, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r strategaeth bwyd cymunedol yn ymrwymiad maniffesto yr oeddwn yn sefyll arno. Rydyn ni'n cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol fel rhan o'r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru, ac, yn amlwg, mae gennym bum mlynedd i gyflwyno'r strategaeth honno a bydd yn cael ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Fe wnaethoch chi sôn am Fil bwyd Peter Fox. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Bil bwyd yn cymryd fy holl adnoddau, mae'n debyg, ar lefel swyddogol a allai fod yn gweithio ar y strategaeth bwyd cymunedol. Rydw i'n anghytuno â chi wrth ddweud bod Bill Peter Fox yn amgylchedd perffaith, ac mae Peter a minnau wedi cael trafodaethau. Fe wnes i roi tystiolaeth i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf arno, ac rwy'n gwybod bod gan y ddau ohonom rai sesiynau craffu ychwanegol ar y gweill. Rwy'n credu bod modd cyflawni llawer o'r hyn y mae Peter Fox yn ei gyflwyno yn ei Fil bwyd eisoes gyda pholisïau a deddfwriaeth bresennol sydd gennym ar hyn o bryd. Rwy'n poeni'n fawr, er enghraifft, am y comisiwn y mae Peter Fox yn ei gynnig yn ei Fil. Rwy'n credu y bydd yn costio swm sylweddol o arian ac fe fydd hefyd yn mynd ar draws Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n credu mai'r hyn mae Peter wedi'i wneud yw ceisio rhoi model yr Alban, os mynnwch chi, a'u Bil Bwyd i mewn—ac os ydych chi'n dweud ei fod yn grwn, yma yng Nghymru mae ein fframwaith yn sgwâr ac mae'n anodd iawn peidio â thorri ar draws Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:05, 31 Ionawr 2023

Mae'n hanfodol er mwyn diogelwch bwyd ein bod ni yn hybu a gwarchod cynhyrchiant bwyd, ond hefyd yn hybu a gwarchod prosesu bwyd. A dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, yn ei rôl fel Gweinidog materion gwledig a bwyd, ynghyd â'r Gweinidog yr Economi, am gytuno i'm cyfarfod i yn ddiweddarach heddiw yma i drafod y camau brys sydd eu hangen yn wyneb y cyhoeddiad ar yr ymgynghoriad ar gau gwaith 2 Sisters Food Group yn Llangefni. Mae angen camau brys. Mi ydw i'n glir bod angen camau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth, ac mae'n frawychus gweld, o San Steffan heddiw, dyw'r Exchequer Secretary to the Treasury yn amlwg ddim hyd yn oed yn gwybod bod yna 700 o swyddi dan fygythiad yn Llangefni, sy'n dangos bod Ynys Môn wedi cael ei anwybyddu dros yr wythnos diwethaf yno. Ond ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi bod angen sicrhau bob modd o ddod â buddsoddiad rŵan i mewn i gynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, helpu busnesau presennol i dyfu, hefyd gwneud y math o fuddsoddiad dwi wedi gwthio amdano fo am barc cynhyrchu bwyd, er enghraifft, er mwyn gwneud yn siŵr bod y sector yma yn cael yr hwb mae o ei angen? Mae hwn yn gryfder gennym ni y gallem ni adeiladu arno fo yn Ynys Môn.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ie, mewn cysylltiad â rhan olaf eich cwestiwn, rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael trafodaethau cynhyrchiol iawn ynghylch hynny i weld beth allwn ni ei wneud. Yn sicr, roedd y cyhoeddiad ynglŷn â chau—neu'r bwriad i gau—safle dofednod 2 Sisters yn Llangefni yn ddinistriol, ac mae'n ddinistriol i'ch etholaeth chi. Roedd yn gwbl annisgwyl. Doedd gennym ni ddim gwybodaeth flaenorol amdano. Nid wyf yn credu y bu unrhyw ymgais i gysylltu â Llywodraeth Cymru o gwbl cyn gwneud y cyhoeddiad, a oedd yn siomedig iawn yn fy marn i, yn enwedig yn dilyn y gefnogaeth yr oeddem wedi ei rhoi iddyn nhw a'r gwaith roedden ni wedi ei wneud gyda nhw, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID. Felly, fe wnaeth ein dal ni yn gwbl ddiarwybod; doedd gennym ni ddim syniad o gwbl. Rwy'n gwybod i Weinidog yr Economi a finnau, fe gwrddon ni, ac yna cawsom gyfarfod gydag arweinydd cyngor Ynys Môn; rwy'n credu bod yna un arall wedi'i gynllunio. Oherwydd rwy'n credu ei bod yn iawn fod angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd, ac yn sicr mae angen i Lywodraeth y DU gymryd sylw o hyn. Ond byddwn ni'n hapus iawn, yn amlwg, i gael trafodaethau pellach gyda chi yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ac rwy'n deall, gyda'ch caniatâd chi, fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gan ymuno â'r ddau arweinydd arall, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, yr hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r Prif Weinidog a'i deulu. Mae colli rhywun mor agos yn anodd iawn, ac mae ein cariad a'n gweddïau ni gydag ef. Diolch yn fawr iawn.

Gan droi at fater diogelwch bwyd, mae agwedd arall yn ymwneud â chefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd. Roedd rhai ohonom yn ddigon ffodus i fod, neithiwr, gydag Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, ac rwy'n gwybod bod nifer ohonon ni wedi mwynhau a goroesi brecwast gwych Undeb Amaethwyr Cymru yr wythnos diwethaf hefyd. Rhai o'r rheiny efallai fwy nag unwaith, ac efallai fwy nag oedd yn llesol i ni, dywedwn ni, ond serch hynny roedd yn canolbwyntio ar fwyd o Gymru. Ac rwy'n gwybod, gyda'r Bil amaeth ar ei ffordd, hoffwn ofyn i chi, os caf i, yn eich swyddogaeth chi hefyd: pa fesurau rydych chi'n eu cymryd i edrych ar gynhyrchu bwyd domestig o ran sicrhau hynny a gwella hynny? Gan fod ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd yn anad dim. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:09, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Yn bendant. Os gofynnwch chi i unrhyw un, 'Beth mae ffermwyr yn ei wneud?', dyna'r peth cyntaf y byddan nhw'n ei ddweud, 'Maen nhw'n cynhyrchu ein bwyd.' A bydd Jane Dodds yn gwybod wrth wraidd y Bil mae'r amcan i sicrhau cynaliadwyedd ein ffermydd ac mae'n cydnabod amcanion cydategol cefnogi ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a hynny ochr yn ochr â'r ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Unig ddiben y Bil Amaeth ac, yn amlwg, y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cael ei gynhyrchu ochr yn ochr, yw sicrhau bod ein ffermwyr yn aros ar y tir a bod y tir hwnnw yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.