3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+

– Senedd Cymru am 2:30 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:30, 7 Chwefror 2023

Eitem 3 sydd nesaf, y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y cynllun gweithredu LGBTQ+. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn. 

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Mae Mis Hanes LHDT yn rhoi cyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod yn yr ymdrech dros hawliau LHDTC+, a dathlu bywydau pobl LHDTC+ sydd, am amser rhy hir ac yn rhy aml, wedi cael eu cuddio oddi wrth hanes. Ond, mae angen gwneud mwy na myfyrio ar ein gorffennol ni; mae angen i ni ddysgu gwersi ohono. Ni fyddwn ni'n anghofio am y niwed y mae gwahaniaethu, casineb ac allgáu wedi'i achosi i gymaint o bobl LHDTC+. Ni fyddwn chwaith yn anghofio y cynnydd a'r cyflawniadau a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, diolch i'r ymgyrchwyr a'r cynghreiriaid sydd wedi braenaru'r tir.

Ond ni allwn laesu dwylo. Mae pobl LHDTC+ yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu. Rydym ni mewn oes pryd gellir teimlo ein bod ni dan ymosodiad a'n hawliau ni mewn perygl o gael eu tynnu yn ôl, a chymunedau LHDTC+ yn aml yn cael eu gwneud yn arfau yn enw yr hyn a elwir yn ddadl wleidyddol ac yn y cyfryngau. Rydym ni'n parhau i fod yn unplyg fod Llywodraeth Cymru yn sefyll gydag ac ymhlith ein cymunedau LHDTC+ yng Nghymru. Rydyn ni'n dymuno creu Cymru lle mae pawb yn teimlo'n rhydd, eu bod yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel i fyw a bod fel nhw eu hunain. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi eu hymgorffori yn ein rhaglen lywodraethu, maen nhw'n elfen allweddol o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, a dyna pam rydyn ni wedi datblygu cynllun gweithredu LHDTC+ beiddgar ac uchelgeisiol.

Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi lansiad a chyhoeddiad heddiw ein cynllun gweithredu LHDTC+ uchelgeisiol ac eang i Gymru—y cyntaf o'i fath. Mae'r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau ar draws y Llywodraeth, y cymunedau a'r genedl, ar gyfer cyflawni ein huchelgais o sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Er bod cyhoeddi'r cynllun hwn yn gam allweddol ar y daith, mae ein gwaith ni i wella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ wedi dechrau yn barod. Dim ond yn y mis diwethaf, fe amlinellais ein camau nesaf yn ein gwaith o wahardd arferion trosi. Mae gwasanaethau cymorth wedi eu hehangu ledled Cymru, ac mae gweithgor o arbenigwyr wedi ei ffurfio. Fe fydd y grŵp yn rhoi'r cyngor a'r arbenigedd sydd eu hangen arnom i ymwared â'r hen arferion ffiaidd hyn, ac mae'r cyfarfod cyntaf eisoes wedi bod. Ochr yn ochr â hyn, bydd ein hymgyrch cyfathrebu trosedd gwrth-gasineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, â mwy o bwyslais ar LHDTC+ eleni, ac yn cyfeirio pobl at ganolfan cymorth casineb Cymru, sy'n cynnig cymorth cyfrinachol i ddioddefwyr.

Gwnaethpwyd cynnydd hefyd ym maes iechyd rhywiol drwy'r cynllun gweithredu HIV sydd ar ddod i Gymru, ac rydyn ni'n adnewyddu ein hymrwymiadau ni i fynd i'r afael â diagnosis hwyr yng Nghymru a'r gwarthnod sy'n gysylltiedig â HIV, a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda HIV. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi rhoi arian i fudiadau Pride lleol ledled Cymru. Cefnogodd y gronfa Pride ar lawr gwlad Pride y gogledd ym Mangor, Pride in the Port yng Nghasnewydd, Abertawe, Y Bont-faen, Pride y Barri, a Glitter Pride, gan gysylltu cymunedau ledled y wlad. Rydyn ni'n gwybod cymaint yw gwerth hyn a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i'r gymuned LHDTC+, ac yn y flwyddyn i ddod fe fyddwn ni'n ategu llwyddiant hwn drwy ehangu'r gronfa Pride ar lawr gwlad. Gobeithiwn ymestyn ymhellach eto, gan gyrraedd ardaloedd mwy gwledig a threfi llai, a galluogi digwyddiadau yn y Gymraeg a sicrhau bod cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn nhw eu hunain ledled Cymru.

Dirprwy Lywydd, fe ddywedais i yn gynharach sut, yn anffodus, yn rhy aml yn yr hinsawdd bresennol, ei bod yn teimlo fel bod ein hawliau dan ymosodiad, a neb yn fwy felly na'r gymuned draws, o'r gwenwyn ar Twitter, i'r hyn a elwir yn wleidyddiaeth boblyddol a'r naratif yn y cyfryngau a gynlluniwyd i roi pobl benben â'i gilydd. Rydyn ni'n ymrwymo o'r newydd i gefnogi pobl draws ac anneuaidd, a'n man cychwyn yw mai dynion yw dynion traws, a menywod yw menywod traws, a bod hunaniaethau anneuaidd yn ddilys. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'n cymunedau LHDTC+ i gyd, ac yn wleidyddion ac yn ffigyrau cyhoeddus, fe allwn, ac mae'n rhaid i ni fod yn well.

Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl draws yng Nghymru, a cheisio unrhyw bŵer pellach i wneud hyn, gan gynnwys ein rhaglen lywodraethu ac ymrwymiad y cytundeb cydweithio i sbarduno cais i ddatganoli Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a chefnogi ein cymuned draws, ac mae gwaith rhagarweiniol wedi dechrau eisoes yn hyn o beth. Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar ddatblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc trawsryweddol, er mwyn iddyn nhw allu bod yn hyderus a chyfforddus wrth gefnogi myfyrwyr traws ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi gydnabod cefnogaeth llawer wrth greu'r cynllun hwn. Mae nifer sylweddol o randdeiliaid, unigolion a sefydliadau wedi cyfrannu at ddatblygiad y cynllun. Rhoddodd rhai yn hael o'u hamser ac fe rannodd llawer eu profiad o wahaniaethu a gelyniaeth fel dinasyddion Cymru. Fe wnaethon nhw sôn hefyd am eu cyflawniadau fel eiriolwyr, gweithwyr ac arweinwyr, fel ymchwilwyr, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol, ac fel cymunedau. Fe hoffwn i gofnodi fy niolch yn benodol i'r panel arbenigol LHDTC+, a roddodd gymorth, cyngor a her, a oedd yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallem ni ei wneud i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r tîm gwych yn Llywodraeth Cymru, y mae eu gwaith caled nhw y tu cefn i mi, er mwyn gallu sefyll yn y fan hon yn lansio'r cynllun hwn heddiw.

Yn wir, mae hwn yn gynllun sy'n ymestyn ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth gadarn fy nghyd-Weinidogion ar draws y llywodraeth. Fe fydd y gefnogaeth barhaus hon yn hanfodol wrth droi'r cynllun o fod yn eiriau ar dudalen i fod yn gamau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fel maen nhw'n dweud, mae gwneud yn well na dweud. Mae hyn yn ymwneud â newid bywydau nid dim ond newid deddfwriaeth, mae'n ymwneud â phobl, nid â pholisïau yn unig. Ond mae'r geiriau yn bwysig hefyd; mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn gallu cael effaith. Felly gadewch i ni fod yn eglur, wrth i ni gyhoeddi'r cynllun gweithredu LHDTC+ hwn heddiw, ein bod ni, yma yng Nghymru, yn sefyll o blaid undod yn hytrach nag ymraniad, cynhwysiant yn hytrach nag allgáu a gobaith yn hytrach na chasineb. Gyda'n gilydd â balchder—gan sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Diolch.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:36, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rydym ni'n croesawu'r cynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru yn fras, yn ogystal â'i gyflwyno yn ystod Mis Hanes LHDTC+. Rydyn ni wedi dod yn bell o ran sicrhau cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a cwiar. Camgymeriadau'r gorffennol, megis adran 11 Deddf Diwygio Cyfraith Droseddol 1885, a welodd filoedd o ddynion yn cael eu herlyn yn y 1950au dim ond am garu dyn arall. Erbyn diwedd 1954, roedd 1,069 o ddynion cyfunrywiol yn y carchar yng Nghymru a Lloegr. Roedd ffigwr proffil uchel fel Alan Turing wedi tramgwyddo'r gyfreithiau dichellgar hyn. Diolch i'r drefn, mae'r cyfreithiau hyn wedi eu taflu ar domen hanes, ac fe roddwyd pardwn i Alan Turing ar ôl ei farwolaeth. Maen nhw wedi eu disodli gan lwyth o ddeddfwriaeth cydraddoldeb, gan gynnwys hawl cyfreithiol i briodasau un rhyw. Fe ddylem ni fod yn falch o ba mor bell yr ydym ni wedi dod o ran hyrwyddo hawliau LHDT, ond mae cymaint mwy y gellir ei wneud.

Dim ond y penwythnos hwn, fe gondemniodd y Pab, ynghyd ag Archesgob Caergaint, yn gyfiawn genhedloedd sy'n ceisio llunio deddfwriaeth wrth-hoyw. Ond eto, mae'r Eglwys Gatholig yn parhau i wrthwynebu priodas un rhyw. Rydyn ni i gyd yn gyfartal yng ngolwg Duw, beth bynnag yw ein rhywedd dewisol, na phwy yr ydym ni'n dewis syrthio mewn cariad â nhw. Ni ddylai neb deimlo dan fygythiad neu eu bod yn cael eu cam-drin oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Dyna pam mae fy mhlaid yn croesawu'r cynllun gweithredu hwn. Fodd bynnag, Dirprwy Weinidog, mae gennyf i ychydig o bryderon; mae eich penderfyniad chi i geisio pwerau dros gynabod rhywedd yn bennaf yn eu plith. Pam ydych chi o'r farn mai hwn yw'r dull cywir, yn hytrach na chydweithio gyda'r Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig, i sicrhau dull o gydnabod rhywedd sy'n diogelu hawliau'r gymuned drawsryweddol gan warchod hawliau pob menyw ar yr un pryd? Dirprwy Weinidog, onid ydych chi'n cytuno bod y dull a ddilynir gan Lywodraeth yr Alban yn llawn peryglon i bob grŵp, fel mae'r tro pedol cywilyddus ynglŷn â helynt Isla Bryson wedi dangos? Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dyfeisio rhywedd newydd sef treisiwr er mwyn osgoi galw Isla Bryson yn fenyw. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod pryderon gwirioneddol gan y gymuned traws a gan y rhai hynny sy'n ceisio diogelu hawliau menywod y mae angen mynd i'r afael â nhw yn y fath fodd fel y diogelir hawliau pawb. A ydych chi'n cytuno mai'r ffordd orau yw ymdrin â'r mater ar sail y DU gyfan er mwyn osgoi cael sawl system wahanol neu hyd yn oed systemau croes o gydnabod rhywedd, a bod angen i ni gael dadl bwyllog heb ormodiaith bygythiadau i ladd pobl?

Mae fy mhryder arall i'n ymwneud â gallu rhieni a'r gweithwyr meddygol proffesiynol i helpu pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda dysfforia rhywedd. Er ei bod hi'n gwbl gywir ein bod yn gwahardd yr arfer anwaraidd o therapi trosi, mae'n rhaid i ni gymryd gofal mawr i sicrhau nad oes gan unrhyw ddeddfwriaeth newydd ganlyniadau anfwriadol. Dirprwy Weinidog, pa gamau a fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn atal rhieni a gweithwyr meddygol proffesiynol rhag trafod pryderon unigolyn ifanc ynghylch ei rywioldeb neu hunaniaeth rhywedd?

Yn olaf Dirprwy Weinidog, er fy mod i'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau bod ein cenedl noddfa ni'n parhau i fod yn gynhwysol o bobl LHDTC+, rwy'n holi ynglŷn â datblygiad llochesau LHDTC+ yn unig yng Nghymru. Fe allwn ni ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod Cymru yn lle diogel a chroesawgar i'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u gwledydd eu hunain oherwydd eu bod nhw'n cael eu herlyn am bwy y maen nhw'n eu caru neu bwy ydyn nhw, ond fe ddylem fod yn gwarantu tai i bob ceisiwr lloches sydd â nodweddion gwarchodedig. Ni allwn ddarparu digon o dai i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin, y bydd llawer ohonyn nhw'n LHDTC+. Dirprwy Weinidog, fel wnaeth fy nghyd-Aelod Mark Isherwood dynnu sylw ato ychydig wythnosau yn ôl, mae Llywodraeth Iwerddon yn darparu tai modiwlar i gartrefu miloedd o ffoaduriaid. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet am efelychu cam o'r fath yng Nghymru ar gyfer cartrefu'r rhai sy'n ffoi rhag erlyniad a llofruddiaeth oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd?

Diolch unwaith eto am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ac fe allwch chi fod yn sicr y bydd fy mhlaid i'n gweithio gyda chi i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, yn ogystal â mynd i'r afael ag ymraniadau, allgáu a chasineb. Diolch yn fawr.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:42, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Gan mai datganiad 30 munud yw hwn, dydw i ddim yn credu bod digon o amser i mi ymateb i bob gwrthddywediad gan Altaf Hussain yn ei gyfraniad yn y fan yna. Rwy'n croesawu'r sylwadau agoriadol a'r geiriau treiddgar y gwnaethoch chi eu dweud—ein bod ni i gyd yn gyfartal yng ngolwg Duw. Ydw, rwy'n gallu dathlu fy mywyd yn yr eglwys drwy gael angladd yno, ond nid wyf i'n gallu dathlu fy nghariad, hyd yn hyn, yn yr eglwys drwy allu priodi yno. Roedd y rhain yn eiriau cadarnhaol, ond fe aethoch chi ymlaen wedyn i ddatod popeth yr oeddech chi wedi ei ddweud yn eich ymrwymiad i'n helpu ni i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Roeddech chi'n sôn am weithio gyda Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, yn Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi ymgysylltu yn flaenorol gyda phob ewyllys da, yn enwedig ar gynlluniau i wahardd arferion trosi sy'n cynnwys LHDTC+. A dyma nhw'n gwneud tro pedol ar hynny wedyn, a thro pedol ar y tro pedol. Rwy'n credu eich bod chi yn sicr yn efelychu'r tro pedol ar y tro pedol yn eich cyfraniad chi hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud i amddiffyn a diogelu ein cymuned LHDTC+ ni yng Nghymru. Mae gennym ni ddyletswydd a chyfrifoldeb i wneud hynny. Rwy'n barod i weithio yn drawsbleidiol, ar draws y Llywodraeth, ledled y DU, i wneud y peth iawn. Ond, mae'n rhaid i ni gofio, fel y dywedais i yn fy natganiad, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth, nac yn ymwneud â pholisïau, mae'n ymwneud â phobl a'u bywydau nhw a'u hawl i fyw gydag urddas a pharch a theimlo yn ddiogel a chael eu cefnogi.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn addo gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a chefnogi cyhoeddiad cynllun gweithredu LHDTC+. Mae heddiw felly yn ddiwrnod o falchder i Blaid Cymru, fel y mae i Adam Price gan mai ef yw'r arweinydd plaid LHDTC+ cyntaf yn y Senedd, gyda rhan o'r ymrwymiad hwnnw wedi ei wireddu wrth gyhoeddi'r cynllun gweithredu, cynllun gweithredu sy'n dangos ein huchelgais gyffredin ni â Llywodraeth Cymru mor eglur sef bod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae hynny'n dangos ein gwerthoedd cyffredin ni hefyd sef tegwch, goddefgarwch a chyfiawnder, a diogelu ac ymestyn hawliau, nid eu dwyn oddi ar bobl, a'n penderfyniad cyffredin i herio rhagfarn, casineb, anghydraddoldeb a gwahaniaethu ym mhob cwr o'n cenedl. Ond megis dechrau yw'r cynllun hwn, oherwydd mae'n mynd i'r afael â'r angen mawr am lunio Cymru decach, oherwydd mae hon yn genedl lle mae troseddau casineb yn erbyn pobl LHDTC+ yn cynyddu, ac mae troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol yn benodol yn codi i'r entrychion. Y llynedd, fe wnaeth Estyn ddarganfod mai bwlio homoffobig oedd y math mwyaf cyffredin o fwlio mewn ysgolion uwchradd. Felly, rydyn ni'n cytuno gyda Stonewall Cymru fod llawer o waith i'w wneud.

Ym Mhlaid Cymru, rydym ni'n cyfeirio yn aml at ein cenedl ni fel cymuned o gymunedau, ac rwy'n falch o weld sut mae'r cynllun hwn yn dangos ei fod yn un ar gyfer Cymru gyfan. Mae cydnabod cefn gwlad yn y profiad LHDTC+ yn enghraifft o'r ymagwedd hon sydd i'w groesawu, yn ogystal â'r angen am ymchwil pellach i fynd i'r afael â hyn. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut mae hi'n bwriadu datblygu hyn? Ac a yw hi'n cytuno y bydd meithrin cynghreiriau ledled ein cymunedau a'n sefydliadau ni, gan gydweithio gyda'r ffermwyr ifanc, er enghraifft, yn hanfodol bwysig ar gyfer cyflawni'r weledigaeth hon?

Mae yna groeso mawr i ddull croestoriadol y cynllun hefyd, ac, er nad yw honno'n nodwedd warchodedig, rwy'n falch fod y cynllun hwn yn cydnabod anghenion a hunaniaethau'r gymuned LHDTC+ yn y Gymraeg, ac rwy'n arbennig o falch bod partneriaeth Mas ar y Maes yr Eisteddfod Genedlaethol â Stonewall Cymru ac eraill yn cael ei amlygu a bod yna waith yn digwydd i ddatblygu hyn ymhellach.

Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at ddull trawslywodraethol y cynllun hwn, ac yn sicr, mae hi'n galonogol gweld manylder ystyrlon yn sail i'r weledigaeth a'r tryloywder y bydd tîm ac adran Llywodraeth Cymru yn atebol am wireddu'r weledigaeth hon. Mae'r camau gweithredu i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle yn hanfodol ac ymarferol o'r cynllun hwn. Fodd bynnag, hoffwn gael rhywfaint mwy o fanylion am ganlyniad datganedig dealltwriaeth pobl LHDTC+ ac yn gallu defnyddio llwybrau ar gyfer adrodd am wahaniaethu mewn gweithleoedd yng Nghymru. Fel rydych chi'n cofio, rwyf i wedi codi adroddiad y BMA ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn y proffesiwn meddygol gyda'r Llywodraeth o'r blaen, sy'n amlygu bod meddygon LHDTC+ yn dioddef gwawdio a gwahaniaethu yn rheolaidd, ac mae'r staff yn dweud eu bod nhw'n aml yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu lleisio eu pryderon gyda rheolwyr. Mae gan yr Alban a Lloegr ddulliau annibynnol ar waith ar draws eu hysbytai er mwyn i staff leisio eu pryderon yn hyn o beth mewn ffordd ddiogel, ond nid oes unrhyw beth fel hyn ar waith yng Nghymru eto, er bod gwaith yn cael ei wneud ar fframwaith. Fe dderbyniais sicrwydd y byddai dull trawslywodraethol y cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, felly a wnewch chi roi sicrwydd i mi mai hynny fydd yr achos?

Fe hoffwn i roi croeso penodol i natur fesuradwy'r gweithredoedd a'r canlyniadau yn y cynllun, er enghraifft, ynghylch yr ymrwymiad i bwerau datganoledig o ran cydnabod rhywedd. Rydym ni wedi gweld yn yr Alban, er bod ganddyn nhw fwy o ymreolaeth i weithredu na Chymru yn y cyswllt hwn, mae'r consensws gwleidyddol trawsbleidiol yn Senedd yr Alban wedi cael ei rwystro mewn ffordd annemocrataidd a gwarthus gan San Steffan. Felly, wrth groesawu'r cynllun gweithredu hwn, rwyf i am ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, ystyried sut allwn ni fod mewn gwirionedd y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop gydag un llaw wedi ei chlymu y tu ôl i'n cefnau gan San Steffan. Yn y tymor cyfagos, a wnewch chi roi gwybod i ni pa strategaethau y gallwn ni eu dilyn nhw i sicrhau bod y pwerau hyn wedi cael eu datganoli mewn ffordd briodol ac y gellir eu gweithredu o ran cydnabod rhywedd? Ac, ar gwestiwn cyfiawnder yn fwy eang, a ydych chi, Dirprwy Weinidog, yn derbyn mai'r unig ffordd gynaliadwy o lunio system cyfiawnder troseddol gynhwysol a diogel i'n cymuned LHDTC+ sy'n gweithio dros Gymru yw trwy greu system yma yng Nghymru, hyd yn oed os yw'r Blaid Lafur yn San Steffan yn parhau i ymuno â'r Torïaid i rwystro hynny?

Thema mis hanes LHDTC+ eleni yw 'Tu ôl i'r Lens'. Yn ddiamau, mae'r cynllun gweithredu hwn yn hoelio ein sylw ar y gwaith sydd ei angen i greu'r Gymru yr ydym ni'n awyddus i'w gweld drwy ystyried yn wirioneddol bob un sy'n galw Cymru yn gartref. Mae'n rhaid parhau â'r canolbwynt hwnnw, ac mae'n rhaid i'r sefyllfa wirioneddol hon gael ei harwain yn barhaus gan ein dull ni o gyflawni'r weledigaeth o fod yn genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop. 

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:49, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Sioned. Yn wir, rwy'n rhannu eich teimladau fod hwn yn ddiwrnod o falchder i ni, nid yn unig yn y Siambr hon, ond mewn cymunedau ledled Cymru, ac rwyf wedi cael llawer o adborth cadarnhaol eisoes, mewn gwirionedd, yn mynegi pa mor bwysig yw'r cynllun ei hun. Ond, fel rydych chi'n dweud, fe ddaw'r dystiolaeth wrth gymhwyso'r camau hynny ac mewn gwirionedd wrth i ni wneud i bobl deimlo yn ddiogel a'u bod nhw'n cael eu cefnogi yn y dyfodol. Ac fe hoffwn i ddiolch i Siân Gwenllian ar y cofnod hefyd am y gwaith a wnaeth hi gyda ni ar y cynllun gweithredu hwn, a'r ymrwymiad angerddol a ddaeth oddi wrth Siân a'r tîm i wneud y gwaith hwn a'r gydnabyddiaeth bod mwyafrif Siambr y Senedd hon yn gefnogol i'n gwaith cynhwysol ni a'n huchelgeisiau ni o ran LHDTC+ i Gymru. Fe ddywedais i o'r blaen—ac nid wyf i am ymddiheuro am ddweud hyn dro ar ôl tro—bod gweithredu yn bwysig; gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth. Ond mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn gallu bod ag effaith fawr hefyd, ac nid bob amser mewn ffordd gadarnhaol. Felly, rwyf i o'r farn bod angen i ni i gyd feddwl am hynny cyn i ni agor ein genau neu drydar weithiau hefyd—ac nid rhywbeth i wleidyddion yn unig ei ystyried mo hynny; mae hynny i bobl eraill ei ystyried hefyd.

Rwyf i am geisio cyffwrdd â chymaint ag y gallaf i o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi, ond rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei godi mewn deialog barhaus wedi hyn. Mae hynny'n ymwneud â'r cyfleoedd sydd gennym ni o ran cynhwysiant yn y gweithle. Mae hi mor bwysig eich bod chi'n gallu mynd i'r gwaith a theimlo eich bod chi'n gallu bod y chi eich hun, neu deimlo eich bod chi'n gallu mynegi eich pryderon chi os oes rhywbeth yn digwydd yn anffodus a bod gennych chi fan ddiogel neu le i fynd i roi hysbysiad o hynny. Felly, rwy'n sicr yn hapus i roi sicrwydd y byddwn ni'n adeiladu ar yr hyn sydd yn y cynllun gweithredu, ac yn defnyddio pob ysgogiad sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd yn hyn o beth, yn y sector cyhoeddus yn enwedig.

Mae arfer gorau yn bodoli yn y sector breifat hefyd. Rwyf i am ymweld â rhywle ar ddiwedd y mis. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio ar hynny a chydgyfranogi o hynny. Roeddwn i'n arbennig o awyddus, yn rhan o'r cynllun gweithredu, ein bod ni'n cynnwys y gwaith y mae rhai o'n cydweithwyr ni yn yr undebau llafur yn ei wneud eisoes, oherwydd pam ddylem ni ailddyfeisio'r olwyn os oes adnoddau da ar gael a rhwydweithiau da o gymorth? Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu ac ehangu hynny mewn gweithleoedd ledled Cymru hefyd, i sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r gwaith a bod yn nhw eu hunain mewn gwirionedd a theimlo eu bod nhw mewn lle diogel. Oni bai eich bod chi'n aml filiwnydd neu eich bod chi wedi ennill y loteri, mae gwaith yn rhan bwysig iawn o'n bywydau ni i gyd.

Rwy'n croesawu cefnogaeth o ran cynhwysiant a chefnogaeth i'r Gymraeg. Mae hi mor bwysig i chi allu nid yn unig byw fel pwy ydych chi mewn gwirionedd, ond yn eich iaith gyntaf chi hefyd, a chael eich cefnogi i wneud hynny a gallu gwneud hynny hefyd.

Y peth olaf i gyffwrdd arno yw o ran cynnydd o 35 y cant mewn troseddau casineb LHDTC+. Rydyn ni'n sôn am ba mor bell yr ydym ni wedi teithio, ac rwy'n credu, yn briodol, mai mis hanes LHDT yw'r amser i siarad am hynny a dathlu hynny. Fe ddywedais i yn y Siambr hon o'r blaen, pan oeddwn i'n tyfu i fyny yng Nghymru, nid oeddwn i'n gallu priodi'r un yr oeddwn i'n ei charu. Fe allwn ni brofi gwahaniaethu yn fy erbyn o ran ceisio nwyddau a gwasanaethau. Ni ellid siarad amdanaf i yn yr ysgol. Felly, rydyn ni wedi dod yn bell, ond rwy'n cydnabod bod gennym ni ffordd bell i fynd eto, a dim ond cam ar y daith o wneud hynny yw'r cynllun hwn. Mae'r elfennau sy'n ymwneud â throseddau casineb yn y cynllun gweithredu nid yn unig yn edrych ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud gyda phlismona a chyfiawnder a datganoli hynny, ond o ran cefnogi'r gymuned hefyd i deimlo'r berthynas honno gyda phlismona hefyd, a'n bod ni'n deall beth yw troseddau casineb. Rwyf i wedi dweud o'r blaen nad yw pobl yn deall yn iawn beth yw ystyr hynny. Nid oes raid iddo fod yn ymosodiad corfforol; fe all fod ar lafar. Peth digalon i mi yw dweud, mewn gwirionedd, fy mod i wedi edrych ar y ffigyrau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, 2021-22, ac rwy'n credu bod cynnydd o 35 y cant wedi bod o ran troseddau casineb LHDT. Yn drist iawn, rwyf innau'n ystadegyn sy'n rhan o'r cynnydd hwnnw. Rwyf i wedi siarad am hynny yn y Siambr hefyd. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n siarad am hyn ac yn codi hyn, ac rwy'n croesawu eich cefnogaeth chi a'ch plaid chi'n fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chi i weithio gyda'n gilydd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:53, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a chymorth Llywodraeth Cymru i'r gymuned LHDTC+. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Rwy'n llwyr gefnogi'r weledigaeth i wella bywydau a'r canlyniadau i bobl LHDTC+.

Rwy'n cofio adran 28. Pan oeddwn i'n dysgu mewn coleg, fe ddywedodd un myfyriwr wrthyf i y gallai ef fwlio rhywun a oedd yn hoyw a phe bawn i'n ceisio ei atal ef, fe fyddai ef yn adrodd amdanaf i a gwneud i mi gael fy niswyddo. Fe eglurais i y byddwn i'n gwneud y peth cyfiawn bob amser, er gwaetha'r cyfan. Rydyn ni wedi mynd ffordd bell ers y dyddiau hynny. Rwy'n siomedig nad oedd y Ceidwadwyr yn gallu ymddiheuro am adran 28, oherwydd roedd hwnnw'n wahaniaethu difrifol a darn o ddeddfwriaeth gwael ofnadwy ydoedd.

Ond rwyf i am symud ymlaen at bethau cadarnhaol nawr. Fe hoffwn i dynnu sylw at y gwaith rhagorol a wnaeth Pride yn Abertawe, a'r ffordd y mae Pride wedi tyfu yn Abertawe o fod yn orymdaith i fod yn ddiwrnod cyfan o ddigwyddiadau, gyda chefnogaeth y gymuned leol a'r Dirprwy Weinidog. Bu pryderon gan Pride Abertawe yn y gorffennol am yr arian a oedd ar gael yn Abertawe. A yw hynny wedi cael ei ddatrys erbyn hyn?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:54, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad ac am ei ymrwymiad hefyd fel cynghreiriad ymroddedig i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Roeddwn i'n falch o orymdeithio ysgwydd wrth ysgwydd â Mike yn y Pride diweddaraf yn Abertawe—yr orymdaith gyntaf wedi'r pandemig—ac roedd hi'n hyfryd gweld llawer o bobl ifanc yno hefyd, a'r gymuned iau yn dod allan. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n pasio'r baton ymlaen. Dyma yw'r nod, mewn gwirionedd—llunio Cymru wahanol iddyn nhw dyfu i fyny ynddi.

Fe wnaethoch chi ein hatgoffa ni o fwgan adran 28, a da iawn chi, Mike, am sefyll eich tir a gwneud y peth cyfiawn, ond ni fyddwn ni'n disgwyl unrhyw beth arall gennych chi, Mike Hedges. Mae cwmwl du adran 28 yn dal i fod uwch ein pennau ni. Mae hwnnw uwchben llawer o athrawon ac ysgolion sy'n dal i fod yn bryderus ynglŷn â dymuno gwneud y peth iawn, ond efallai eu bod nhw'n teimlo yn betrus. Dyna pam mae rhan addysg y cynllun gweithredu hwn, a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud eisoes â'n cwricwlwm cynhwysol ni, mor bwysig, fel bod plant a phobl ifanc nid yn unig yn cael eu cefnogi mewn ysgolion, ond hefyd—y materion a gododd Sioned Williams ynghylch bwlio homoffobig hefyd—bod athrawon yn cael y gefnogaeth honno i allu cefnogi'r plant a'r bobl ifanc yn eu tro.

Ni fyddwn i'n disgwyl unrhyw beth llai gan Mike na chrybwyll ymgais am gefnogaeth i Pride Abertawe, ac er y bydd Mike yn deall na allaf ymrwymo yn uniongyrchol mewn gwirionedd i unrhyw gefnogaeth i Pride benodol ar hyn o bryd, fe allaf gyfeirio at gronfa Pride ar lawr gwlad, y byddwn ni'n ei chario ymlaen am y flwyddyn nesaf. Fe fyddwn i'n disgwyl i Pride Abertawe gysylltu â swyddogion, mwy na thebyg cyn i mi ymadael â'r Siambr hon, i geisio rhoi eu cais nhw i mewn am gefnogaeth yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio y bydd Pride Abertawe yn parhau i fynd o nerth i nerth, fel Pride mewn mannau eraill ledled y wlad, ac rwy'n gobeithio gallu parhau i'w gefnogi.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:56, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, Dirprwy Weinidog, rydyn ni i gyd yn dymuno'r gorau i'r gymuned LHDTC+ ac rydyn ni'n dymuno gweld Cymru decach. Ond, wrth i mi ddarllen trwy'r cynllun hwn heddiw, rwy'n darllen rhywfaint ohono gydag anghrediniaeth, ac rwy'n gweld llawer o'r cynllun hwn yn achosi pryder gwirioneddol: sy'n gwthio ideoleg am rywedd mewn meithrinfeydd ac ysgolion, yn achosi annhegwch mewn chwaraeon, ac, yn anhygoel, yn gweld eich bod chi'n parhau i geisio'r pwerau hynny sy'n efelychu'r Bil hunanddiffinio yn yr Alban, er gwaethaf y risgiau clir y mae hwnnw'n eu hachosi i ddiogelwch menywod a phlant. Roedd arbenigwr y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio am drais yn erbyn menywod a merched oherwydd y symudiad hwn yn yr Alban, ond eto dyma eich cynllun chi. Safodd eich Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol chi yn y Siambr hon dro ar ôl tro yn sôn am bwysigrwydd llochesau a safleoedd ar gyfer menywod yn unig—mae hynny mor bwysig, ond eto heddiw rydych chi'n cyhoeddi eich bod chi am ei gwneud hi'n haws i wrywod biolegol fynd i mewn i'r safleoedd hynny. Beth am ddiogelu menywod a merched? Pa ystyriaeth a roddwyd i famau, merched, chwiorydd, a modrybedd Cymru wrth greu'r cynllun hwn? A fydd yn rhaid i rywbeth difrifol ddigwydd cyn i chi ddeffro a sylweddoli'r materion enfawr o ran diogelu y mae hunanddiffinio yn eu hachosi? Dyma ni heddiw yn gwastraffu hanner awr o amser y Senedd ar—

Photo of David Rees David Rees Labour 2:57, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch chi'n dda?

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

—drafod cynllun nad oes gennych chi lawer o'r pwerau i'w newid na'i weithredu. Ffwlbri yw i Gymru fod â'i chynllun hunanddiffinio ei hun. Mae hi'n amlwg o farn y cyhoedd, Dirprwy Weinidog, fod pobl yn gweld pwysigrwydd amddiffyn menywod a phlant. Pryd ydych chithau am sylweddoli hynny?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae hi'n anodd dod o hyd i'r geiriau priodol i ymateb i gyfraniad Laura Anne Jones. [Torri ar draws.] Ie, 'cywilyddus', ac nid wyf i'n credu bod gennyf i lawer i'w ddweud mewn ymateb i hynna. Rydyn ni newydd fod yn siarad yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, ac mae gennym ni aelodau o'r gymuned sydd yma'n gwylio—mae gan eich geiriau chi ddylanwad peryglus, Laura Anne Jones. Maen nhw'n niweidio pobl, y geiriau yr ydych chi'n eu dweud, y gwahaniaethu a ddaw o'ch genau chi, a'r hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw fy mod i'n credu eich bod chi'n well na hyn. Rwy'n credu eich bod chi'n well na hyn. [Torri ar draws.] Rwy'n credu eich bod chi'n well na hyn. 

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf i atgoffa Aelodau nad dadl rhwng dau Aelod unigol yw hon? Datganiad yw hwn, ac ateb y cwestiwn a ofynnwyd y mae'r Dirprwy Weinidog.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:58, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf i ddim yn rhagor i'w ddweud wrth Laura Anne Jones, Dirprwy Lywydd. 

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, diolch i chi am y datganiad hwn heddiw. Yn fy etholaeth i, ac yn cwmpasu etholaeth Ogwr hefyd—sedd Huw Irranca-Davies—rydym ni'n ffodus iawn i fod ag YPOP, sef cangen o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Mae YPOP yn ofod diogel ar-lein ar gyfer pobl ifanc sy'n LHDTC+ neu'n gynghreiriaid, ac mae'r grŵp yn cynnal sesiynau galw heibio er mwyn sgwrsio ac ymlacio, digwyddiadau arbennig ac yn darparu gweithdai hyfforddi. Wrth gynnig lle i wneud ffrindiau a chymdeithasu, mae YPOP yn fan hefyd i ddod iddi ar gyfer cael cefnogaeth gan dîm cyfranogi cyngor Pen-y-bont os oes angen hynny ar bobl ifanc. Ac mae pobl ifanc sy'n mynychu YPOP wedi codi'r pwynt bod angen gwneud mwy i sicrhau bod eu hathrawon, eu meddygon teulu a rhai yn yr awdurdodau yn cael hyfforddiant am wahaniaethu LHDTC+, a sut i fynd i'r afael â homoffobia neu drawsffobia, yn ogystal â chefnogi pobl ifanc gyda'u hanghenion. Fe hoffwn i ddiolch i chi, a'n Gweinidog addysg hefyd, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi am gwrdd â mi ac un o Aelodau ein Senedd Ieuenctid i siarad am hynny'n union yr wythnos hon, felly diolch i chi.

Ond mae neges gyson yn dod drwodd gan bobl ifanc a phobl eraill yn y gymuned LHDTC+: sef bod angen normaleiddio adrodd am y casineb pan welwn ni ef, boed hynny mewn ysgolion a'r gweithle, ymhlith cyfoedion, neu yn y Siambr hon. Felly, Dirprwy Weinidog, fy nghwestiwn felly yw: faint o ystyriaeth a wnaethoch chi ei roi i gyflwyno'r cynllun gweithredu mewn mannau fel ysgolion a sicrhau bod y darpariaethau gan yr ysgolion i fynd i'r afael â'r troseddau casineb yn erbyn y gymuned LHDTC+ sy'n parhau i ddigwydd?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:59, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Sarah Murphy am ei chyfraniad hi, ac a gaf i ddiolch i YPOP am eu gwaith a'r cyfraniadau a wnaethon nhw? Rwy'n edrych ymlaen at y cyfarfod sydd gennyf i gyda Sarah a fy nghydweithiwr Jeremy Miles yn ddiweddarach yn yr wythnos gyda'r Aelod o'r Senedd Ieuenctid, ond os oes gennych chi grwpiau pobl ifanc fel hynny ac y byddech chi'n hoffi dod â nhw i'r fan hon i ymgysylltu ymhellach, yna rwy'n siŵr y bydd llawer o fy nghyd-Weinidogion a minnau'n hapus iawn i wneud hynny. Oherwydd mae hi'n hollol iawn fod ganddyn nhw lais a chyfraniad yn y materion sy'n effeithio arnyn nhw, a dyna pam—. Mae gan y cynllun gweithredu 46 o gamau gweithredu ynddo, ac mae canolbwyntio gwirioneddol nid yn unig ar ysgolion ond lleoliadau ieuenctid a phobl ifanc hefyd i wneud yn siŵr, fel y dywedais i o'r blaen, bod y gefnogaeth honno ar waith ar eu cyfer nhw. Ond rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch chi'n bwysig iawn, iawn wir o ran nad cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ yn unig neu bobl ifanc sy'n ymholi yn unig yw hon, ystyr hyn yw cefnogi eu ffrindiau nhw hefyd mewn gwirionedd i fod yn well cynghreiriaid a theimlo eu bod nhw'n gallu siarad allan heb ofni beth fyddai'r effaith arnyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt dilys iawn, iawn a wnaeth y bobl ifanc hynny, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gallwn ni ei gymryd i ffwrdd a gweithio arno gyda Jeremy Miles a fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr bod pob unigolyn ifanc, os ydyn nhw'n aelodau o'r gymuned LHDTC+ eu hunain neu'n awyddus i fod yn gynghreiriaid da i'w ffrindiau yn yr ysgol, yna mae ffyrdd gennym ni o wneud hynny.