1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc? OQ59151
Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn fwy tebygol o effeithio ar deuluoedd â phlant, yn enwedig plant o aelwyd sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydyn ni'n cynorthwyo pobl ifanc a'u teuluoedd trwy fentrau, gan gynnwys ein cynnig gofal plant, cymorth gyda chostau ysgol, prydau ysgol am ddim, a'n gwarant i bobl ifanc.
Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rwyf i wedi clywed am achosion o blant ysgol uwchradd sydd wedi cael eu troi i ffwrdd wrth dil y ffreutur oherwydd nad yw eu rhieni gweithgar wedi gallu clirio'r dyledion arian cinio sydd ganddyn nhw. A fyddech chi'n cytuno â mi y dylai ysgolion weithredu gyda'r tosturi mwyaf yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol, a pheidio â rhoi pobl ifanc drwy'r fath brofiadau sy'n codi cywilydd? Ac a allwch chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl ifanc i'w harbed nhw rhag bod yn llwglyd yn ystod amser ysgol?
Ie, byddwn i'n cytuno'n llwyr â chi. Rydyn ni'n gwybod na ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd, a dylai awdurdodau lleol ac ysgolion weithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy'n cael anawsterau wrth dalu am brydau ysgol i geisio dod o hyd i ateb i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb bryd bwyd amser cinio. Dylai fod system ar waith pryd yr atgoffir rhieni yn brydlon os yw'r balans ar gyfrif eu plentyn yn isel, er enghraifft, fel bod rhieni yn amlwg yn gallu cymryd y camau sydd eu hangen. Mewn achosion o fethu â thalu, dylid gwneud pob ymdrech i gysylltu â'r rhiant i ddod o hyd i ateb, a gallai hynny gynnwys sefydlu cynllun talu. Mae'r Gweinidog wedi atgoffa awdurdodau lleol o'u pwerau i ddefnyddio disgresiwn i allu darparu prydau bwyd heb godi tâl, neu weithredu strwythurau prisio amrywiol. Ac rydyn ni hefyd wedi eu hatgoffa o'n disgwyliad na ddylai unrhyw blentyn beidio â chael cynnig pryd o fwyd os yw'n dod i'r ysgol yn llwglyd, oherwydd, wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod, onid ydym, bod plant yn canolbwyntio yn llawer gwell pan nad ydyn nhw'n llwglyd.
Fel Llywodraeth, rydyn ni'n cyflwyno prydau ysgol gynradd am ddim i bawb mor gyflym ag y gallwn, gan gynnal ein hymrwymiad i frecwast ysgol gynradd, ac rydyn ni wedi ymestyn ein cynllun treialu brecwast blwyddyn 7 tan ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol. Ac mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, yn rhan o'r cytundeb cydweithio, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo £11 miliwn i ymestyn darpariaeth bwyd yn ystod y gwyliau i ddisgyblion sy'n draddodiadol gymwys i gael pryd ysgol am ddim tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror. A bydd hynny'n sicrhau nad yw plant o deuluoedd incwm is yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol.
Prynhawn da, Gweinidog, a Dydd Sant Ffolant hapus. [Chwerthin.] Roedd yn rhaid i mi gael yr un yna i mewn.
Mae pobl ifanc ymhlith y grwpiau y mae pwysau costau byw fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru fel pe bai'n gwrthsefyll syniad Plaid Cymru y gallwch chi drethu eich ffordd allan o argyfwng, pan mai pobl ifanc fydd yn wynebu'r beichiau mwyaf drwy eu cynnydd arfaethedig i drethi. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gadarnhau heddiw—'byddwn' neu 'na fyddwn'—na fyddwch chi'n cynyddu treth incwm? Ac a wnewch chi ystyried rhoi teithiau am ddim ar fysiau a threnau i bobl ifanc yng Nghymru fel y gall pobl symud o gwmpas yn rhydd heb orfod poeni am eu pwrs neu waled, a chynnig gostyngiadau ar gyfer aelodaeth campfa, fel ein bod ni'n darparu mannau cynnes mewn amgylchedd lle gall pobl ifanc gadw'n heini ac yn iach? Diolch.
Nid wyf i wir yn siŵr o ble rydych chi'n meddwl y byddwn i'n cael yr arian ar gyfer y rhestr o ddymuniadau helaeth iawn honno. Ond dim ond ar eich pwynt penodol am drafnidiaeth am ddim i bobl dan 25 oed, fel y byddwch chi'n gwybod, mae'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, ac mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthi'n archwilio hynny ar hyn o bryd, ond, o ystyried ein setliad gwael iawn gan Lywodraeth y DU, mae'n mynd i fod yn anodd iawn ei gyflawni.
Prynhawn da, Gweinidog. Mae tlodi plant yn rhedeg mor ddwfn yng Nghymru ac mae'n cael effaith barhaol ar bawb, yn parhau i'w bywyd fel oedolion. Gwn fod llawer o fesurau ar waith yma yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hynny, a gellir gwneud mwy wrth gwrs. Rwyf i hefyd yn ymuno â'r galwadau am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed. Rwyf hefyd yn meddwl bod angen cael trafodaeth ynghylch o ble mae'r arian hwnnw'n dod, a bod angen i ni feddwl a yw hynny'n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethu. Felly, hoffwn adleisio'r galwadau hynny am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed. Mae'n beth cadarnhaol ym mhob agwedd—i'n heconomi, i'n hamgylchedd, ac, yn enwedig i ni mewn ardaloedd gwledig, lle'r ydym ni eisiau gweld mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn ein gwasanaethau bysiau. Felly, hoffwn ofyn i chi pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y mater hwnnw a thyfu ein heconomi a sicrhau y gall ein pobl ifanc symud o gwmpas. Diolch.
Diolch. Wel, fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Gareth Davies, prisiau teg yw un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, felly mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn archwilio hynny. Fe wnaethoch chi amlinellu manteision cael trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'n pobl ifanc dan 25 oed yn huawdl iawn. Yn sicr, gwn fod fy merched fy hun, pan oedden nhw'n iau na 25 oed, wir yn meddwl ei fod yn rhywbeth y gellid ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod pobl ifanc eisiau mynd yn annibynnol ac weithiau nid yw hynny'n bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, mae'n rhywbeth sy'n cael ei archwilio, fel rydych chi'n ei ddweud. Mae'r gyllideb gennym ni, mae'n rhaid i ni benderfynu sut i ddyrannu'r gyllideb honno, ond mae'n rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog yn sicr wedi ymrwymo i'w wneud.