1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol cyllid ffyniant bro? OQ59122
Er bod y gronfa'n gweithredu mewn maes sy'n amlwg wedi'i ddatganoli, gwrthodwyd unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth Cymru yn ei datblygiad na'i gweithrediad yng Nghymru. Mae'r gronfa ffyniant bro, fel y gronfa ffyniant gyffredin, wedi dioddef oedi, tanariannu a threfniadau anhrefnus sy'n costio swyddi a thwf i Gymru.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Clywodd cyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol gan yr Athro Steve Fothergill am chwe egwyddor y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol i symleiddio cyllid ffyniant bro. Un egwyddor yw y dylai cyllid gael ei dargedu'n gryf i ganolbwyntio ar y lleoedd mwyaf difreintiedig. Mae'r dull hwn yn hanfodol i gymunedau fel y rhai yr wyf i'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon. Mae Kevin Morgan a Richard Wyn Jones hefyd wedi disgrifio sut mae polisïau Llywodraeth y DU yn methu â darparu'r crynodiad hwnnw o adnoddau i'r rhanbarthau tlotaf a oedd yn nodweddiadol o gyllid Ewropeaidd. Gan dderbyn bod hynny'n wir, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU i sicrhau bod anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu diwallu?
Diolch. Mae Gweinidogion wedi cael trafodaethau parhaus ynghylch y gronfa ffyniant bro, ond mae gen i ofn ei fod wedi syrthio ar glustiau byddar. Rydyn ni wedi dadlau'n bendant ac yn gyson i gyllid fod yn seiliedig ar anghenion yn hytrach na chael ei ddyrannu ar sail gystadleuol. Fel y gwyddoch, bu'n rhaid i awdurdodau lleol wneud cais. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu dull a arweiniodd at gymeradwyo 11 allan o 43 o geisiadau yng Nghymru yn rownd 2 yn ddiweddar, ac nid yw ardaloedd sy'n cynnwys Merthyr, Casnewydd a sir y Fflint wedi derbyn ceiniog yn yr un o'r ddwy rownd gyntaf. Nid yw'r tri awdurdod lleol hynny wedi cael unrhyw arian o'r gronfa o gwbl.
Gyda'r gronfa ffyniant gyffredin, fe wnaethom ni argymell fformiwla ariannu a oedd yn pwysoli 70 y cant ar gyfer mynegai amddifadedd lluosog Cymru, ond eto, fe wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen â'r fformiwla a oedd yn pwysoli dim ond 30 y cant ar gyfer MALlC. O ganlyniad i hynny, mae cronfeydd datblygu economaidd yn cael eu hailgyfeirio oddi wrth yr ardaloedd yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw sydd wir eu hangen nhw fwyaf. Dim ond un rownd o'r gronfa ffyniant bro sydd gennym ni ar ôl bellach, a dim ond 20 y cant o'r cyllid, sef tua £1 biliwn, sydd ar ôl ar gyfer rownd derfynol y flwyddyn nesaf. Ychydig iawn o botensial sy'n weddill, mewn gwirionedd, a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod ffyniant bro yng Nghymru yn golygu colli £1.1 biliwn o gyllid yr UE na chafodd ei ddisodli—toriad i gyllideb Cymru mewn termau real.
Fel rydych chi wedi ei nodi, Gweinidog, mae'r cynghorau hynny yng Nghymru yn ymgeisio'n llwyddiannus ar gyfer yr 11 prosiect hynny â gwerth £200 miliwn o gyllid, rwy'n siŵr, i'w groesawu gan lawer o gymunedau ac yn mynd i fod yn drawsnewidiol i bobl ar hyd a lled Cymru. Yn ehangach, wrth gwrs, derbyniodd Cymru dair gwaith y cyllid y pen na de-ddwyrain Lloegr—yr ardal uchaf fesul pen o gyllid ar draws Prydain Fawr. Ac wrth gwrs, mae ein cynghorau lleol yn cael eu grymuso i ddarparu'r prosiectau hyn ac mae gwneud cais am y prosiectau hyn yn enghraifft arall o ddatganoli yn digwydd ar lefel fwy cymunedol. Tybed, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymuno â mi i groesawu'r grymusiad hwnnw yn ein hawdurdodau lleol. Hefyd, a wnewch chi rannu pa gynlluniau sydd gennych chi i weld rhagor o gyfrifoldebau ariannu yn cael eu datganoli i lawr i'n hawdurdodau lleol yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Mae'n amlwg na wnaeth yr Aelod glywed yr hyn a ddywedais i. Mae ffyniant bro yng Nghymru yn golygu colled o £1.1 biliwn o gyllid yr UE na chafodd ei ddisodli—toriad i gyllideb Cymru mewn termau real. Mae hefyd yn ymosodiad ar y setliad datganoli, efallai ei fod wedi methu hynny. Nid wyf i'n credu bod cael rhaglenni hynod ddiffygiol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnom ni yn rhywbeth i'w ddathlu o gwbl. Byddan nhw'n cael effaith gyfyngedig iawn. Mae'n debyg y byddan nhw'n cynnig gwerth gwael am arian hefyd. Rwy'n credu y cyflwynwyd llawer o geisiadau ardderchog, ond yn anffodus roedden nhw'n aflwyddiannus gan fod Gweinidogion y DU yn Llundain wedi dewis enillwyr a chollwyr yn unig a gwneud penderfyniadau ar brosiectau lleol yma yng Nghymru.