9. Dadl Fer: Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: Ydyn ni wedi'i gael yn iawn?

– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:57, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ddwy ddadl fer y prynhawn yma. Gan Mike Hedges fydd y gyntaf, ac fe fydd yr ail gan Siân Gwenllian. Os gall Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Os all pawb adael yn dawel, fe wna i alw ar Mike Hedges i gyflwyno ei ddadl fer.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae hi bob amser yn ddiddorol pan fydd gennych chi'r ddadl fer ar y dydd Mercher cyn hanner tymor neu ar ddiwedd y tymor. Mae Alun Davies wedi cael munud yn y ddadl hon.

Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: a ydym wedi'i gael yn iawn? Yr ateb yw 'ydym' mewn rhai achosion a 'nac ydym' mewn achosion eraill. Lle rydym wedi'i gael yn anghywir, a yw'n ddigon gwael i fod angen ailstrwythuro? Mae'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys cannoedd o sefydliadau. Ceir rhai bach, lleol, tra bod eraill yn fawr a rhai'n darparu ar gyfer Cymru gyfan. Y farn sydd gan nifer, os nad y rhan fwyaf, o Aelodau'r Senedd, ac o leiaf yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, yw bod sefydliadau mwy o faint yn well, ac nid oes unrhyw fethiannau ar ran y sefydliadau mawr yng Nghymru wedi eu hargyhoeddi fel arall. Mewn gwirionedd, er bod methiannau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi'u dogfennu'n dda, mae cyn-lefarydd iechyd Plaid Cymru wedi dweud wrthyf y dylem gael un bwrdd iechyd i Gymru. Mae Aelod Ceidwadol wedi dweud wrthyf y dylid cael dau, gydag un ar gyfer y gogledd ac un ar gyfer y de. Mae'r dadleuon yn ddeniadol ar yr wyneb. Rydych yn lleihau nifer y prif weithredwyr, tîm y weithrediaeth ac aelodau'r bwrdd, gan ryddhau arbedion.

Dros nifer o flynyddoedd gwelwyd gwasanaethau'n cael eu had-drefnu gan greu sefydliadau mwy a mwy o faint ledled Cymru. Rydym wedi mynd o lawer i un, mewn rhai achosion, a saith mewn rhai achosion. Ond mae nifer wedi mynd i lawr i ddim ond un. Sefydlwyd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn 1998 drwy uno'r pedair ymddiriedolaeth ambiwlans ar y pryd a'r gwasanaeth ambiwlans a gâi ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen. Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei greu yr un pryd â'r byrddau iechyd lleol drwy uno'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol, Canolfan Iechyd Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru, a Gwasanaethau Sgrinio Cymru. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu systemau a gwasanaethau a ddefnyddir yng nghartrefi cleifion, mewn meddygfeydd, mewn ysbytai, ac yn y gymuned. Mae saith bwrdd iechyd lleol bellach yn cynllunio, yn diogelu ac yn darparu gwasanaethau iechyd yn eu hardaloedd yn lle'r 22 bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau GIG a gyflawnai'r swyddogaethau hyn o'r blaen. Mae maint y boblogaeth yn amrywio—Powys ar ychydig dros 130,000 i Betsi Cadwaladr ar ychydig dan 700,000—ond mewn sawl ffordd, mae'r boblogaeth yn llai pwysig na phellter daearyddol.

Cafodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei greu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013. Ei gylch gwaith yw sicrhau gwerth £1 biliwn o nwyddau a gwasanaethau mewn gwariant cyffredin a rheolaidd. Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru drwy uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Ers ei greu, cafwyd nifer o fenthyciadau buddsoddi-i-arbed i ariannu diswyddiadau, a cheir adroddiad cyffredinol archwilydd sy'n hynod feirniadol ar werthu coed. Ceir dwy asiantaeth gefnffyrdd yn lle'r wyth asiantaeth flaenorol a gâi eu rhedeg gan gynghorau sir. Adolygodd Llywodraeth Cymru y ffordd y câi cefnffyrdd a thraffyrdd eu rheoli, a phenderfynodd leihau'r nifer o wyth i dri ac yna i lawr i ddau. Tri pharc cenedlaethol: yn dilyn Deddf yr Amgylchedd 1995, mae pob parc cenedlaethol wedi cael ei reoli gan ei awdurdod parc cenedlaethol ei hun ers 1997. Ond mae rhai pobl yn dadlau mai un corff parciau cenedlaethol rydym ei eisiau yng Nghymru. Y syniad yw bod un yn well nag unrhyw rif arall, er gwaethaf popeth a welwch. Yn weddol ddiweddar cawsom yr alwad i'w huno. Mae gennym dri gwasanaeth tân ac achub, a ffurfiwyd yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol, yn lle'r wyth gwasanaeth tân ac achub blaenorol a oedd gan y cynghorau sir. Yna mae gennym bedwar consortiwm addysg rhanbarthol. Crëwyd 22 o gynghorau sir neu fwrdeistrefi sirol ym 1995 drwy uno cynghorau sir a dosbarth. Ers sawl blwyddyn, bu galwadau gan rai gwleidyddion am uno llywodraeth leol, gan gynnwys un sydd yn yr ystafell heddiw. Dros 700 o gynghorau tref a chymuned. Mae'r gwasanaeth gyrfaoedd wedi cael ei dynnu allan o reolaeth leol ac mae bellach yn cael ei redeg yn ganolog.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:01, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A yw uno bob amser yn iawn? O'r uchod, gellir gweld bod y cyfeiriad teithio tuag at lai o sefydliadau mwy o faint. Mae'r rhai sy'n edrych arno ond yn cyfrifo'r arbedion. Fodd bynnag, mae uno'n ddrud; mae gennych gostau diswyddo, costau ailfathodynnu, ac yn fwyaf drud byth, creu un system TGCh o systemau'r sefydliadau rhagflaenol. Bydd unrhyw un a aeth drwy ad-drefnu llywodraeth leol yn 1995 yn gallu dweud wrthych am y costau enfawr a gafwyd, ac roedd y rhan fwyaf o'r newidiadau drwy hollti yn hytrach nag uno. Mae'n eithriadol o ddrud.

Systemau TGCh—gallwn siarad am oriau ar hyn. Bydd rhai o dan gytundeb; bydd angen diweddaru neu gau eraill a'u huno mewn systemau newydd. Edrychwch ar CNC, lle defnyddiwyd buddsoddi-i-arbed i achub gwasanaethau TGCh y sefydliad ar sawl achlysur. Mae'r rhain i gyd yn gostau cychwynnol, ac er bod cost ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 tua 5 y cant o wariant blynyddol pob cyngor, roedd hynny heb yr amrywiadau yn y telerau ac amodau rhwng awdurdodau lleol sy'n bodoli heddiw. Byddai'n hynod o anodd uno awdurdodau lleol heddiw oherwydd mae gennym sefyllfa, onid oes, lle rydym wedi mynd drwy werthuso swyddi. Felly, os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot neu'n weithiwr cymdeithasol yn Abertawe, ni chewch yr un tâl, er yr hoffai llawer ohonom pe bai yr un fath. Aethant drwy eu gwerthusiadau swyddi gwahanol eu hunain. Mewn gwirionedd, mae'n well bod yn weithiwr cymdeithasol yn Abertawe a gweithio mewn llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot, o ran yr hyn a gawsant drwy werthuso swyddi.

Casgliadau gor-syml rhai pobl yw bod yr holl ddyblygu swyddi uwch yn cael ei ddileu yn sgil uno, ac yna mae gennych chi'r holl arbedion gwych. Mae hyn yn anwybyddu materion fel y ffaith bod uwch-reolwyr yn cyflawni tasgau ac os yw'r nifer yn cael ei leihau, mae'n rhaid ailbennu'r tasgau ac mae'n rhaid gwneud yr un nifer o benderfyniadau. Mae theori economaidd yn datgan bod sefydliad yn mynd yn llai effeithlon os yw'n mynd yn rhy fawr. Mae sefydliadau mwy o faint yn aml yn dioddef yn sgil cyfathrebu gwael am eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal llif effeithiol o wybodaeth rhwng adrannau, is-adrannau, neu rhwng y brif swyddfa a rhannau anghysbell. Roeddwn yn gobeithio y byddai rhywun o ardal Betsi Cadwaladr wedi dod i mewn i esbonio sut yn union y gwyddant fod hynny'n wir. Mae problemau cydlynu hefyd yn effeithio ar sefydliadau mawr sydd â llawer o adrannau ac is-adrannau, gan eu bod yn ei chael hi'n llawer anos cydlynu gweithrediadau. 'X-aneffeithlonrwydd' yw'r effeithlonrwydd rheoli sy'n cael ei golli pan fydd sefydliadau'n dod yn fawr ac yn gweithredu mewn marchnadoedd anghystadleuol. Mae colledion effeithlonrwydd o'r fath yn cynnwys gordalu am adnoddau, talu cyflogau uwch nag sydd angen i reolwyr—rwy'n credu bod pobl wedi canfod hynny ar sawl achlysur hefyd—a gormod o wastraffu adnoddau.

Mae hyn yn arwain at dri chwestiwn ynghylch gwasanaethau cyhoeddus fel y maent wedi'u cyflunio ar hyn o bryd. A yw'r sefydliadau mwy fel Betsi Cadwaladr yn perfformio'n well na'r rhai llai? A yw creu sefydliadau ar gyfer Cymru gyfan fel gwasanaeth ambiwlans Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cynhyrchu gwasanaeth gwell? A yw'r gostyngiad yn nifer y sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaeth fel yr asiantaeth cefnffyrdd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu? Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod angen yr un ôl troed rhanbarthol arnom ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu.

I roi enghraifft o'r anghysonderau cyfredol, mae gan y rhai ohonom sy'n byw yn Abertawe ôl troed rhanbarthol gwahanol ar gyfer bron bob gwasanaeth. Ar gyfer iechyd, Abertawe Castell Nedd Port Talbot ydyw; ar gyfer tân ac achub, rydym yn ychwanegu sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a sir Benfro; gwella addysg, yr un peth; ond mae plismona, sydd heb ei ddatganoli ar hyn o bryd, yn cynnwys yr holl hen sir Forgannwg heblaw Caerffili; ac yn olaf, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn darparu ar gyfer Cymru gyfan. Y nod ddylai fod cael yr holl wasanaethau o fewn y pedwar ôl troed: dinas-ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth bae Abertawe, rhanbarth canolbarth Cymru a rhanbarth gogledd Cymru. Roedd hi'n hen bryd hollti Cymru yn bedwar rhanbarth, ac mae wedi rhoi cyfle inni wneud pethau'n iawn. Er y gallai gwasanaethau fod ar ôl troed llai na'r rhanbarthau, ac mewn sawl achos, fe fyddant, ni ddylai unrhyw wasanaeth dorri ar draws y ffiniau rhanbarthol oni bai ei fod yn wasanaeth Cymru-gyfan, rhywbeth a ddylai fod yn brin iawn. Bydd hyn yn caniatáu i waith rhanbarthol ar draws gwasanaethau gael ei wneud yn llawer haws.

Nid oes dim sy'n gynhenid dda am strwythur presennol llywodraeth leol yng Nghymru. Pam y cafodd cynghorau Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái eu huno ond bod cynghorau dosbarth Blaenau Gwent a Merthyr Tudful wedi troi'n awdurdodau unedol heb unrhyw uno? Ni ddylid ystyried newid oni bai lle ceir gobaith cryf o wella gwasanaethau a/neu leihau cost dros y tymor canolig oherwydd y gost gychwynnol sy'n deillio o newid. Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn trafod ad-drefnu llywodraeth leol fel pe bai'n rhyw fath o ateb hollgynhwysol i ddatrys y diffyg cyllid i gynghorau, ciliodd y bygythiad o ad-drefnu, cyn ei adfer eto ac mae bellach wedi cilio eto, ond rwy'n disgwyl y caiff ei adfer eto. Roedd fel pe bai neb wedi clywed am y ddamcaniaeth economaidd sy'n datgan y gallai sefydliad ddod yn llai effeithlon os daw'n rhy fawr neu fod yna wrth-ddarbodion maint. Mae angen dull gwahanol o weithio ar y cyd ar wasanaethau gwahanol, a chaiff rhai eu gwneud yn well ar y cyd, ond mae'r rhan fwyaf yn gweithio orau ar lefel bresennol yr awdurdod lleol. Enghreifftiau o wasanaethau a fyddai'n elwa o fodel cydweithio yn seiliedig ar yr ôl troed rhanbarthol yw trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynllunio rhanbarthol. 

Gadewais y peth anoddaf at y diwedd. Byddwn yn croesawu clywed y Gweinidog yn esbonio pa mor dda y mae Betsi Cadwaladr, CNC a gwasanaeth ambiwlans Cymru yn perfformio, oherwydd mae'n ymddangos ei fod yn mynd yn groes i unrhyw beth y deuthum ar ei draws, ar ôl ymwneud ag etholwyr sydd wedi cael problemau gyda hwy. Nid yw cael cadeiryddion, byrddau a phrif weithredwyr newydd wedi datrys y problemau yn Betsi Cadwaladr. Os ydych chi'n parhau i feddwl y gallwch gael cadeirydd a phrif weithredwr ac y bydd popeth yn iawn—. Ni allaf gyfrif faint o gadeiryddion a phrif weithredwyr a fu gan Betsi Cadwaladr, ac mae wedi cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i godi a dweud, 'Maent wedi'i gael yn iawn nawr.'

Os edrychwch ar Betsi Cadwaladr o ran swyddogaethau cymorth, gofal sylfaenol a gofal eilaidd, er y gall y ddau gyntaf weithio ar yr ôl troed presennol, rhaid rhannu gofal eilaidd rhwng y dwyrain a'r gorllewin. O ran hollti gwasanaeth ambiwlans Cymru fel ei fod yn cael ei redeg gan y byrddau iechyd, er y byddwn fel arfer yn dweud nad ad-drefnu yw'r ateb, yn achos y gwasanaeth ambiwlans, a allai ad-drefnu wneud unrhyw beth yn waeth? Nid yw CNC yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Er bod uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn seiliedig ar ryw fath o resymeg, nid oedd unrhyw resymeg o gwbl i ychwanegu'r Comisiwn Coedwigaeth.

Yn olaf, wrth chwilio am fodel gwasanaethau rhabarthol, ni ddylai unrhyw wasanaeth, oni bai ei fod yn wasanaeth cenedlaethol, groesi'r ffin ranbarthol. Dylai tân ac achub ddod yn bedwar nid tri, gyda Phowys a Cheredigion yn hollti oddi wrth ganolbarth a gorllewin Cymru. Crëwyd Cymru bedwar rhanbarth, ac mae angen inni ddefnyddio'r ôl troed hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Dylem edrych ar gael maint sefydliadau'n iawn, yn hytrach na'u gwneud yn fwy ac yn fwy. Rwyf am orffen gyda hyn: a oes unrhyw un yn meddwl bod y gwasanaeth gyrfaoedd wedi gwella am mai dim ond un gwasanaeth gyrfaoedd a geir ar gyfer Cymru, neu a ydych chi'n meddwl ei fod wedi gwaethygu? Rwyf fi o'r farn ei fod wedi gwaethygu.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:08, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf fi bob amser yn ddiolchgar i Mike am ei gyfraniadau ar hyn. Y camgymeriad gwaethaf—fe wneuthum lawer o gamgymeriadau, ond y camgymeriad gwaethaf—a wneuthum fel Gweinidog oedd herio Mike ar ariannu llywodraeth leol a chymhlethdodau'r dreth gyngor. Mae'r boen a ddioddefais bryd hynny, bron i ddegawd yn ôl, yn aros gyda mi bob dydd o fy oes, ac os na allaf gysgu am 3 o'r gloch y bore, daw Mike yn ôl i fy mreuddwydion—neu fy hunllefau—a fy atgoffa am fy methiannau. Ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Mike. 

Ond gadewch imi ddweud hyn: efallai mai'r gwahaniaeth rhwng eich ffordd chi o feddwl a fy un i yw eich bod chi'n meddwl bod Cymru'n wlad fawr gyda sefydliadau mawr; rwy'n meddwl bod Cymru'n wlad fach, ac rwy'n credu bod gan Gymru broblemau sy'n tarddu o'r ffordd y caiff gwledydd bach eu llywodraethu. Ac mae hynny'n hollol wahanol, ac mae gennyf farn wahanol ar y materion hynny. Un o'r methiannau llywodraethu yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf yw nad ydym erioed wedi cydlynu ein ffordd o lywodraethu yng Nghymru, ac un o'r rhesymau nad ydym erioed wedi gwneud hynny yw bod pob un ohonom yn gwybod ein bod wedi creu gormod o sefydliadau, gormod o strwythurau, gormod o brosesau, gormod o bwyllgorau, gormod o gomisiynau ond nid oes yr un ohonom yn barod i ofyn y cwestiynau anodd ac i wynebu hynny.

Fel Gweinidog, gofynnais i Aelod blaenllaw o Blaid Cymru a fyddent yn cefnogi ad-drefnu llywodraeth leol. Heb oedi i gymryd anadl, dywedodd y person hwnnw, 'Byddwn, yn sicr, yn ddigamsyniol, ond mae angen ichi neilltuo Ynys Môn ac mae angen i chi neilltuo Ceredigion.' Gofynnais yr un cwestiwn i Aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol, 'A fyddech chi'n cefnogi ad-drefnu llywodraeth leol?' 'Byddwn, yn ddigamsyniol, dim problem o gwbl, ond byddai'n rhaid i chi neilltuo sir Fynwy.' Ni wnaethant sôn am Aberconwy. Ac roedd y Llywodraeth Lafur ar y pryd, gydag un eithriad, yn gyfan gwbl o blaid ad-drefnu llywodraeth leol, ac rwy'n aml yn meddwl am hynny. Fodd bynnag, yr hyn y credaf fod angen inni ei wneud, a dyma lle rwy'n credu bod yna gysylltiad ac rwy'n ceisio estyn allan i ddod o hyd i'r cysylltiad hwn â Mike, yw bod angen inni greu cydlyniaeth wrth lywodraethu Cymru, oherwydd rydym yn treulio ein holl amser yn dadlau am yr hyn sy'n mynd i fyny ac i lawr yr M4, ond nid ydym yn creu cydlyniaeth o fewn y wlad. Ac i rywun fel fi, sydd eisiau dosbarthu mwy o bwerau y tu allan i'r Siambr hon, a thu allan i Gaerdydd, mae hynny'n golygu cael y strwythurau sy'n gallu defnyddio ac sydd â gallu i wneud y defnydd gorau o'r pwerau ychwanegol hynny.

Felly, os ydym o ddifrif ynglŷn â grymuso cymunedau ar hyd a lled Cymru, mae'n rhaid inni gael y strwythurau a'r modd o ariannu'r rheini—strwythurau sy'n gweithio go iawn i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Ac nid wyf yn credu ein bod wedi gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom, ble bynnag rydym yn eistedd yn y Siambr—. Rwy'n sylwi bod Jane Dodds yma, felly ni wnaf sôn am embaras fy nadleuon gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ad-drefnu llywodraeth leol lle'r oedd cytundeb llwyr, ond awydd i'w wneud ar sail wardiau unigol. Felly, byddai gennym 800 o sgyrsiau gwahanol am ba wardiau a fyddai'n perthyn i wahanol awdurdodau. Mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â sut y gwnawn hynny, ac mae hynny'n golygu, gyda'n gilydd, fod angen dadl gydlynol a deallus a phellweledol a llai hunanol.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:11, 15 Chwefror 2023

Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl ddiddorol hon heddiw, ac wrth gwrs, i Alun Davies am ei sylwadau sy'n procio'r meddwl hefyd. 

Sut y gweithiwn gyda'n gilydd ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn sy'n ein gwneud yn wahanol yma yng Nghymru a'r angerdd, y penderfyniad a'r gofal a welwn gan ein gweision cyhoeddus yng Nghymru ar draws llywodraeth leol, iechyd, y gwasanaethau tân ac achub, heddluoedd a'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau effeithiol hynny i'n pobl, a'n dull ni o gydweithio sy'n gwneud iddo weithio. Felly, i mi, mewn sawl ffordd, mae ein perthnasoedd a'n ffyrdd o weithio o leiaf gyn bwysiced â'r strwythurau sydd gennym ar waith i'w cynnal.

Rwy'n gwybod bod Mike Hedges wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod wedi ei ailadrodd eto heddiw, mai dim ond lle mae gobaith cryf iawn o wella gwasanaeth y dylid ystyried newid. Ac rwy'n credu bod hynny'n ganolog i'w ddadl heddiw. A byddwn yn cytuno'n llwyr â hynny. Felly, fy ffocws yw manteisio ar y gallu i fod yn ystwyth a gweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig. Mae 'un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig' yn derm sydd wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru nawr ers sawl blwyddyn, a cheir sawl enghraifft o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn dod at ei gilydd, ni waeth beth yw'r ffiniau a'r cyfrifoldebau sefydliadol, i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion, ac rwy'n credu inni weld hynny yn fwyaf amlwg yn ystod y pandemig COVID-19. 

Mae ethos yr un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig yn rhywbeth rydym yn parhau i adeiladu arno wrth gwrs, ac mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol bwysig i'w chwarae, ond rydym yn un o nifer o bartneriaid. Felly, rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru i wreiddio diwylliant sy'n rhoi pobl wrth galon ein hymdrechion cyfunol. Mae ein blaenoriaethau ar hyn o bryd felly yn ymwneud â datblygu perthnasoedd pellach ac arweinyddiaeth ddosbarthedig ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym grŵp cryf iawn o arweinwyr ar bob lefel o sefydliadau, ac ni ddaw effeithiolrwydd ac arbedion effeithlonrwydd o ad-drefnu, ond yn hytrach o'r gwaith clyfar cydgsylltiedig hwnnw.

Daeth yr adolygiad o bartneriaethau strategol a gynhaliwyd ar y cyd gan CLlLC, Llywodraeth Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020, i'r casgliad nad oes ateb un-maint-i-bawb i drefniadau partneriaeth. Fe wnaeth yr adroddiad gadarnhau hefyd nad oedd aelodau'r partneriaethau yn awyddus i weld ailstrwythuro o'r brig i lawr, yn bennaf am y gallai niweidio atebion llwyddiannus a oedd eisoes yn digwydd mewn rhai mannau. Roedd argymhellion yr adolygiad yn glir mai lle partneriaethau lleol yw arwain ar gysoni partneriaethau yn eu hardal, gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaethau rhanbarthol yn mabwysiadu rôl arweiniol strategol a Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth hwyluso.

Ceir ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gadw trefniadau partneriaeth rhanbarthol dan arolwg, gyda phartneriaid, i sicrhau eu bod yn effeithlon. Fel rhan o hyn, rwyf fi a'r Aelod dynodedig dros Blaid Cymru, Cefin Campbell, yn cyfarfod ag amrywiaeth o bartneriaethau strategol a byddwn yn ystyried yr hyn a glywsom, cyn rhannu ein casgliadau gyda Chyngor Partneriaeth Cymru. Yr egwyddor sylfaenol yw bod unrhyw newidiadau'n cael eu harwain yn lleol, wedi'u gyrru gan yr hyn sy'n gweithio orau ac yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol a'r perthnasoedd sy'n bodoli'n barod.

Bydd pandemig COVID wedi arwain at rai newidiadau yn y modd y mae partneriaethau'n gweithio, ac mewn rhai achosion, daeth yr angen dybryd i weithio ar draws strwythurau sefydliadol yn gatalydd ar gyfer cydweithio mwy effeithlon, mwy hirdymor. Mae COVID-19 a'i effeithiau ar gymunedau yng Nghymru wedi datgelu rhai gwahaniaethau clir, a bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ystyried effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y pandemig, a fydd, mewn sawl man, i'w theimlo am flynyddoedd i ddod. Bydd gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl bwysig i'w chwarae yn ystyried a chydlynu'r ymateb mwy hirdymor hwn, ac rydym yn eu cynorthwyo i fyfyrio ar hyn. Ac yn ehangach, mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol a gwerthfawr yn dod â gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd mewn ardal i nodi a chyflawni yn unol â'r blaenoriaethau a rennir ganddynt. Felly, mae nodau cyffredin, arweinyddiaeth leol a'r perthnasoedd sy'n bodoli'n barod mor bwysig ar gyfer penderfynu a chyflawni yn unol â blaenoriaethau lleol. Mae ansawdd a gwerth y sgyrsiau a'r penderfyniadau sy'n digwydd mewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus a thrwy bartneriaethau eraill yn ganlyniad i fuddsoddiad ac ymrwymiad y cynrychiolwyr a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli. Pa strwythur bynnag y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi'u seilio arno, mae gweithio mewn partneriaeth mewn ffordd integredig a chydweithredol bob amser yn mynd i fod yn hanfodol. Mae sicrhau bod strwythurau partneriaeth yn cyd-fynd yn y ffordd orau ac yn effeithiol yn dasg barhaus i bob gwasanaeth cyhoeddus.

Gwn nad oedd Mike Hedges yn cefnogi cynigion yn y gorffennol ar gyfer ad-drefnu ein hawdurdodau lleol yn helaeth i greu cynghorau mwy o faint, ac mae wedi amlinellu'r rhesymau am hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef: mae ein hawdurdodau lleol angen i ni eu cefnogi i ddarparu eu gwasanaethau a pheidio â thynnu eu sylw oddi ar hynny â chynlluniau ar gyfer ad-drefnu strwythurol. Yn hytrach, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi rhoi cyfleoedd i ni sicrhau pecyn o ddiwygiadau, gan gynnwys galluogi uno gwirfoddol, os ydynt am wneud hynny. Ond yn lle ceisio ad-drefnu awdurdodau lleol, rydym wedi gweithio gyda hwy i ddatblygu dulliau gwell o weithio gyda'n gilydd i gyflawni swyddogaethau llywodraeth leol ar raddfa ranbarthol lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny.

Gan weithio'n agos gydag arweinwyr, rydym wedi sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig ledled Cymru. Mae'r rhain yn darparu fframwaith cyson a reolir yn ddemocrataidd, wedi'i seilio ar bedair ardal ddaearyddol y bargeinion dinesig a thwf. Gwn fod Mike Hedges wedi nodi yn ei bapur yn 2018 ar strwythurau gwasanaethau cyhoeddus fod yna enghreifftiau o wasanaethau a fyddai'n elwa o gydweithio yn seiliedig ar yr ôl troed rhanbarthol, ein trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynlluniau rhanbarthol—ac unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae wedi siarad amdano y prynhawn yma. Felly, drwy ddeddfwriaeth, rydym wedi cysoni'r union swyddogaethau a nododd Mike Hedges o fewn cydbwyllgorau corfforedig i ddarparu cyfle i ranbarthau ystyried a manteisio ar y cyd-ddibyniaethau rhyngddynt. Bydd hyn yn caniatáu i bartneriaid awdurdodau lleol wireddu uchelgeisiau rhanbarthol, datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus, ac annog twf lleol.

Felly, i gloi y perthnasoedd rhwng pobl ac ar draws sefydliadau sydd, gyda'i gilydd, yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig balch, a'r ethos hwn sy'n sail i'r ymddygiadau a'r diwylliant rydym am ei weld. Mae perthnasoedd yn pontio strwythurau, a'n hangerdd cyfunol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus trwyadl a thosturiol o ansawdd uchel sydd bwysicaf ac yn fwyaf pwerus.