4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y mae costau byw cynyddol yn ei gael ar gynlluniau ar gyfer ysgolion yr 21ain ganrif? OQ59244
Rydyn ni'n cydnabod bod ysgolion a cholegau'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein cymunedau lleol. Mae'n hanfodol bod buddsoddi yn ein hystad addysg drwy ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn ysgogi arbed ynni, yn lleihau pwysau refeniw, ac yn gwella mynediad at y cyfleusterau pwysig hyn.
Diolch. Mae'r manteision y mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn eu rhoi i'n disgyblion a'n hathrawon yn enfawr. Rydyn ni'n ffodus yn y Rhondda bod gennym ni dair ysgol yr unfed ganrif ar hugain wedi'u cynllunio: un ar gyfer Llyn y Forwyn, a fydd yn cael ei chwblhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf; un ar gyfer ysgol gynradd Penrhys; ac un ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Nawr, Gweinidog, rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda a'ch bod chi'n deall yr heriau sy'n wynebu'r ysgol ar y safle presennol. Mae cymuned yr ysgol yno yn ysu am gyfleusterau newydd. Ond rwy'n deall hefyd, oherwydd yr anrhefn yn San Steffan, fod y sefyllfa ariannol sy'n ein hwynebu ni ers cyhoeddiad cychwynnol ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn dra gwahanol. Gweinidog, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, os o gwbl, y bydd cynlluniau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn y dyfodol yn dechrau ac yn cael eu cwblhau yr un mor gyflym â phrosiectau ysgolion blaenorol yr unfed ganrif ar hugain?
Diolch i Buffy Williams—ac mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn—ac rwy'n diolch iddi hefyd am fy ngwahodd i ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, a diolch i Mr Spanswick a'r staff am y croeso cynnes iawn y rhoddon nhw i mi pan fu modd i mi ymweld, ac fe welais i, wrth gwrs, drosof fy hun, y cyfleusterau yn yr ysgol yn y fan yna a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Mae'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu wrth gwrs yn wynebu'r un pwysau—pwysau chwyddiant, cynnydd mewn costau adeiladu, cynnydd mewn costau llafur, fel unrhyw agwedd arall ar fuddsoddiad y Llywodraeth neu, yn wir, buddsoddiad llywodraeth leol. Er mwyn ceisio gwneud ein rhan ni i wneud iawn am hynny, ac i wneud yn siŵr nad yw prosiectau'n cael eu hoedi'n ormodol yn y ffordd y mae Buffy Williams yn dweud yn ei chwestiwn, mae'r gyllideb honno wedi cael ei chynyddu 33 y cant yn ystod y ddwy flynedd ariannol nesaf, yn rhannol i gefnogi ein system dreigl newydd ar gyfer cyflawni—felly mae'n rhaglen llawer mwy ystwyth a hyblyg nag y bu yn y gorffennol—i ymateb i allu rhai awdurdodau i symud yn gynt ac i eraill allu addasu eu cynlluniau. Ond bydd yr arian hwnnw hefyd yn cefnogi pwysau costau ychwanegol yn y diwydiant adeiladu. A bydd hi, am wn i, wedi gweld y cyhoeddiad y gwnes i ddiwedd wythnos diwethaf o £60 miliwn arall—£50 miliwn i ysgolion a £10 miliwn i golegau—i gefnogi cynnal a chadw cyfalaf, ond gan flaenoriaethu gwaith effeithlonrwydd ynni ar draws ein hystad ysgolion a cholegau yng Nghymru, sy'n amlwg yn rhan bwysig iawn o'n cynllun Cymru Sero Net hefyd.
Gweinidog, rydw i wedi dweud yn y Siambr hon droeon fy mod i eisiau gweld ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd sbon ledled Cymru, ac yn arbennig, hoffwn i eu gweld ym Mrycheiniog a Maesyfed. Hoffwn i wybod pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar yr argyfwng costau byw a'r cynnydd yng nghost popeth sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r ysgolion hyn, a pha effaith mae hynny'n mynd i'w chael ar gyflawni bod â mwy o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig fel fy un i ym Mrycheiniog a Maesyfed.
Dros gyfnod 10 mlynedd y rhaglen cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ledled Cymru, bydd, yn fras, 50 o ysgolion newydd, naill ai drwy adeiladu ysgolion newydd neu gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion presennol, yn rhannol trwy gymryd yr ysgolion hynny ar hyd y continwwm Cymraeg. Ac felly, nid yw'r cynllun yn llwyr ddibynnol ar adeiladu ysgolion newydd yn ffisegol mewn gwirionedd; mae'n gymysgedd o'r ddau, ac mae hynny'n wir ym Mrycheiniog a Maesyfed fel y mae ym Mhowys yn gyffredinol ac ar draws Cymru, ac mae hynny'n bwysig iawn. Rydyn ni wedi bod eisiau gweithio gydag awdurdodau i ddylunio cynlluniau sy'n adlewyrchu eu hanghenion orau, ond mae'n rhaglen 10 mlynedd, ac felly, rydyn ni'n cynnwys y goblygiadau hynny o ran cost, ond rydyn ni'n hyderus fod modd cyflawni'r cynlluniau hynny.