– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 21 Mawrth 2023.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar y gronfa integreiddio rhanbarthol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch. Prynhawn da. Rydw i'n falch o fod yma i roi diweddariad ar ein cronfa integreiddio rhanbarthol.
Mae'r pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i'n herio, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar dros ben am waith diflino ac ymroddiad ein partneriaid sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac, wrth gwrs, eu gweithlu anhygoel.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i bobl allu byw eu bywydau gorau mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau eu hunain. Mae gallu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio fel system gyfan yn hanfodol wrth i fwy o bobl fyw yn hwy, weithiau'n ymdopi â chyflyrau iechyd lluosog a chydag anghenion gofal a chymorth amrywiol. Rwyf i wedi ymrwymo i ysgogi newid a thrawsnewid ac, er mwyn galluogi hyn, mae angen rhannu dysgu am arferion gorau ledled Cymru.
Dyma'r rhesymau pam, flwyddyn yn ôl, ochr yn ochr â'm cydweithwyr gweinidogol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y gwnes i lansio'r gronfa integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol rhanbarthol newydd pum mlynedd, uchelgeisiol, fel un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trawsnewidiad y system iechyd a gofal cymdeithasol. Wedi'i reoli trwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol, dros y 12 mis diwethaf, buddsoddwyd bron i £145 miliwn. Er gwaethaf y pwysau sylweddol ar y system a gafwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, a thirwedd ariannol gynyddol heriol, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi parhau i adeiladu ar sylfeini 'Cymru Iachach' a chreu amgylchedd lle mae partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn croesawu ac yn cyflawni gwaith trawsnewid gwasanaethau yn weithredol.
Mae dyluniad y gronfa integreiddio rhanbarthol yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan y gronfa gofal integredig flaenorol a'r gronfa trawsnewid, a hefyd yn ymateb hefyd i'r argymhellion o'r gwerthusiadau annibynnol priodol ac adroddiadau Archwilio Cymru. Mae'r dysgu hanfodol hwn wedi ein helpu i lunio'r gronfa, sy'n cynnwys sawl nodwedd allweddol, fel mwy o bwyslais ar chwe model penodol o ofal integredig; fframwaith canlyniadau a mesur eglur; cyfleoedd i rannu dysgu trwy gymunedau ymarfer; a gorwel buddsoddi mwy hirdymor, gan wneud defnydd o ysgogiadau cyllid graddedig a chyfatebol i gefnogi prif ffrydio a chynaliadwyedd.
I'n byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'r flwyddyn gyntaf hon wedi bod yn un o drawsnewid, wrth i ni gyfuno ffrydiau ariannu a oedd ar wahân gynt i greu mwy o aliniad rhwng adnoddau, fel ein bod ni’n cael yr effaith fwyaf posibl ac yn lleihau baich gweinyddol. Mae pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi dylunio ei gynllun buddsoddi cronfa integreiddio rhanbarthol ac mae'n gwneud cynnydd da tuag at brofi a datblygu elfennau critigol o'n chwe model cenedlaethol o ofal. Wrth i ni weld tystiolaeth gynyddol o’r arferion gorau o bob cwr o'r wlad, bydd hyn yn cael ei ymgorffori mewn manylebau gwasanaeth cenedlaethol a fydd yn sicrhau mwy o gysondeb o ran safonau a phrofiadau ledled Cymru.
Er ei bod yn rhaglen drawsnewid mwy hirdymor yn bennaf, mae'r gronfa yn darparu ar gyfer pobl nawr. Dros fisoedd y gaeaf, mae prosiectau a ariannwyd wedi cyfrannu 360 o welyau gofal llai dwys ychwanegol i helpu pobl i adael yr ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel a lleddfu pwysau ar y system yn rhan o'n rhaglen adeiladu capasiti gofal cymunedol. Mae enghraifft dda arall o effaith gadarnhaol y gronfa yn cynnwys prosiect osgoi derbyniadau bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn darparu cymorth cymunedol byrdymor ar lefel isel i bobl, fel tacluso cartrefi pobl i osgoi cwympiadau diangen yn y cartref, darparu cymorth i ofalwyr di-dâl a threfnu addasiadau i'r cartref er mwyn galluogi pobl i aros gartref cyhyd â phosibl.
Mae prosiect Get Me Home Plus bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn enghraifft dda arall o lwybr carlam lle mae timau amlddisgyblaeth yn gweithio gyda chleifion sydd angen pecynnau mwy dwys o gymorth ac ail-alluogi gartref. Mae'r prosiect hwn yn cael ei adnabod yn lleol fel 'y fyddin binc', ac mae'n darparu un pwynt mynediad a chydgysylltu o fewn yr ysbyty ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cymunedol sy’n gallu darparu lefel uwch o ofal canolraddol i bobl gartref, gan gefnogi rhyddhau cynharach tan i'r lefel gywir o gymorth tymor hwy gael ei drefnu. Dim ond dau o lawer o brosiectau cronfa integreiddio rhanbarthol yw'r rhain sy'n helpu pobl i fyw'n dda gartref, i osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a chynorthwyo rhyddhau’n ddiogel a chyflym i’r cartref.
Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i ymrwymo dros 60 y cant o'u cronfa integreiddio rhanbarthol i fodelau gofal sy'n darparu mwy o gapasiti cymunedol ar gyfer nawr ac yn y dyfodol. Bydd y buddsoddiad dros y pedair blynedd sy’n weddill hefyd yn cefnogi ein huchelgeisiau yn fawr i symud yn gyflymach fyth tuag at system gofal cymunedol integredig i Gymru. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol hefyd yn ein helpu i gyflawni blaenoriaethau allweddol eraill gan gynnwys y model NYTH/NEST. Mae hyn yn arwain dull system gyfan o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. A chyda'r disgwyliad parhaus bod o leiaf 20 y cant o'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn cael ei fuddsoddi mewn darpariaeth drwy sefydliadau'r sector gwerth cymdeithasol, mae hefyd yn helpu i gefnogi ein hagenda ar ail-gydbwyso'r farchnad gofal a chymorth.
Rwy'n cydnabod bod byrddau partneriaeth rhanbarthol a'u partneriaid wedi bod yn gweithio i sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'r gronfa ar adeg pan fo pwysau ehangach ar y system ac adferiad yn sgil COVID wedi effeithio'n enfawr ar adnoddau a chapasiti partneriaid statudol. Yn y cyd-destun hwn, ac ar gais ein partneriaid, adolygodd swyddogion Llywodraeth Cymru ofynion cyllid graddedig a chyfatebol y gronfa. Ym mis Rhagfyr, cytunodd Gweinidogion i lacio'r trefniadau hyn yn y byrdymor, ond heb golli golwg ar ddyheadau tymor hwy'r gronfa i sefydlu gwasanaethau prif ffrwd mwy hirdymor.
Mae dysgu a gwella yn rhan bwysig o'n hethos ar gyfer datblygu iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ein bod ni, ar ôl proses dendro gystadleuol, wedi sicrhau gwasanaethau Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad ag Old Bell 3 a phrifysgolion Bangor ac Abertawe, i gyflawni'r gwerthusiad o'n cronfa integreiddio rhanbarthol. Mae'n amlwg bod y gronfa integreiddio rhanbarthol yn ei blwyddyn gyntaf wedi dechrau hyrwyddo dull partneriaeth gwirioneddol o fuddsoddi mewn gwasanaethau integredig ar gyfer yr hirdymor. Byddaf yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol i drafod cynnydd a byddaf yn cymryd diddordeb brwd i weld sut mae ein modelau cenedlaethol o ofal integredig yn parhau i esblygu dros y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad i'r Senedd y prynhawn yma.
Rwy'n sylw bod y rhaglen lywodraethu yn amlinellu 10 amcan llesiant y dylai'r holl weithgarwch a ariennir gan y gronfa integreiddio rhanbarthol fod yn ystyriol ohonynt a cheisio cyfrannu atynt, gan gynnwys darparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy. Wel, byddai hynny'n braf, oni fyddai, gan ei bod hi wedi bod yn amser maith ers i'r GIG, o dan y Llywodraeth hon, fod yn agos at gyd-fynd â'r disgrifiad hwnnw. Ond yr hyn sy'n ymddangos ychydig yn rhyfedd yw sut mae angen i arian y gronfa integreiddio rhanbarthol fod yn ystyriol o bob un o'r 10 amcan. Dylai'r un yr wyf i newydd ei grybwyll yn amlwg fod yn rhan o'r cyd-destun, ond mae eraill yn teimlo fel pe baen nhw'n gysylltiedig â meysydd polisi hollol wahanol, fel gwthio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg ac ymwreiddio ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Onid oes perygl, trwy geisio ticio'r holl flychau hyn, Dirprwy Weinidog, bod gweithrediad y gronfa hon yn symud oddi wrth ei genhadaeth, gan fod yr ymgais i fodloni'r holl ofynion angenrheidiol yn golygu ei fod yn dod yn llai effeithiol ac cael ei wanhau, i bob pwrpas, o ran bodloni'r nodau pwysicaf a mwyaf perthnasol oll?
Yn wir, mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud llawer o synnwyr yn ddamcaniaethol. Trwy ddod â'r ddau at ei gilydd, rydym ni’n cael system llawer mwy effeithlon a ddylai fod yn gosteffeithiol dros amser. Fodd bynnag, fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill ar raddfeydd rhanbarthol, mae COVID wedi taflu’r gwaith oddi ar ei echel, gan ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r arfer fodloni’r ddamcaniaeth honno. Mae hyn fwyaf amlwg yng nghyswllt oedi cyn rhyddhau cleifion. Er mai nod hyn yw gwneud y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan yn fwy didrafferth, heb fynd i'r afael â'r mater hwn, yn syml, bydd yn achos o daflu mwy o arian da i ganlyn arian drwg. Nid yw dod o hyd i'r diwygiad cywir yn hawdd, ond a yw’r Gweinidog wir yn hyderus y bydd y gronfa integreiddio rhanbarthol hon yn golygu newid mewn gwirionedd, neu a fydd yn fwy o'r un peth?
Yn olaf, mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn amlwg yn ymgysylltu ag uchelgais polisi Llafur a Plaid o wasanaeth gofal cenedlaethol. Os yw'r gronfa hon mor effeithiol ag mae'r Gweinidog yn credu y gall fod ac y dylai fod, a oes angen gwasanaeth cenedlaethol o'r fath? A oes modd darparu gwasanaeth gofal cenedlaethol o gwbl? Mae cynllun integreiddio i fod yn barod erbyn diwedd eleni, ond ni fydd ei weithrediad gwirioneddol yn digwydd dros nos. Gyda llai na hanner tymor y Senedd ar ôl, onid yw'n wir mai'r gronfa integreiddio rhanbarthol yw'r nod terfynol yma mewn gwirionedd? Oherwydd ni fydd gwasanaeth gofal cenedlaethol byth yn gweld golau dydd o dan y Llywodraeth Cymru hon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Gareth am y cwestiynau yna. Yn sicr, dywedais yn yr araith a wnes i ein bod ni wedi sefydlu chwe model cenedlaethol o ofal integredig, a dyna'r modelau y mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn gweithio yn unol â nhw. Y rheini yw: cydgysylltu cymunedol ataliol; gofal cymhleth yn nes at adref; hybu iechyd a llesiant emosiynol da; cymorth therapiwtig i blant sy'n derbyn gofal a helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd; adref o'r ysbyty; ac atebion sy'n seiliedig ar lety. Felly, rydym ni'n canolbwyntio'r arian yr ydym ni'n ei roi yn y gronfa integreiddio rhanbarthol ar y chwe maes hyn, ac ym mlwyddyn gyntaf y gronfa integreiddio rhanbarthol, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld canlyniadau addawol iawn. Yn sicr, nid wyf i'n credu bod rhai o'r pethau y cyfeiriodd atyn nhw yn gwrthdaro â'r nodau hynny, fel miliwn o siaradwyr Cymraeg; rwy'n credu bod honno'n fantais fawr i'r math o waith yr ydym ni’n ei wneud yma, ac yn sicr dyma'r Gymru yr ydym ni eisiau ei gweld. Felly, nid wyf i'n gweld unrhyw wrthdaro yn hynny o gwbl.
Rydym ni’n integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'r byrddau rhanbarthol yn rhywle lle mae gennym ni le mewn gwirionedd lle mae iechyd a gofal cymdeithasol wrth y bwrdd. Felly, mewn gwirionedd, mae'n gwneud penderfyniadau ar y cyd yn ogystal â chael elfennau eraill yno, fel tai, gyda'r trydydd sector a gofalwyr yn cael eu cynrychioli. Felly, dyma'r man lle gallwch chi wneud y penderfyniadau integredig gorau.
O ran oedi cyn rhyddhau cleifion, rydym ni wedi gweithio drwy'r gaeaf yn ceisio mynd i'r afael â'r mater o'r prinder sydd gennym ni o weithwyr gofal cymdeithasol a'r problemau y mae hynny wedi eu hachosi gydag oedi cyn i bobl ddod o'r ysbyty. Mae'n edrych fel pe bai'r oedi hwnnw cyn rhyddhau cleifion yn lleihau erbyn hyn. Mae'r gwaethaf o'r gaeaf, gobeithio, ar ben, ac mae'r oedi cyn rhyddhau cleifion lleihau. Ond gwnaed ymdrech enfawr i greu capasiti cymunedol, a chwaraeodd y gronfa integreiddio rhanbarthol ran fawr yn hynny.
O ran gwasanaeth gofal cenedlaethol, dyna yw uchelgais ar y cyd Llafur a Phlaid Cymru, ac rydym ni’n gweithio gyda'n gilydd yn y cytundeb cydweithio i wireddu hynny. Byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu erbyn diwedd eleni, lle rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gweld cynigion fesul cam i gyrraedd gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn dod â'r elfennau hynny at ei gilydd nawr, ac yn cyflawni nawr, ond ein cynllun yn y pen draw yw gwasanaeth gofal cenedlaethol.
A gaf innau ategu sylwadau'r Dirprwy Weinidog o ran ein diolch i'r gweithlu iechyd a gofal am eu gwaith diflino nhw? Diolch am y datganiad heddiw. Mae yna egwyddorion pwysig iawn yma y gallwn ni i gyd eu cefnogi, gobeithio—pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau, a'r angen i drawsnewid gwasanaethau go iawn er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r gronfa yma, wrth gwrs, yn cymryd lle yr integrated care fund, oedd wedyn yn olynydd i'r intermediate care fund, os dwi'n hollol iawn, oedd yn destun cytundeb flynyddoedd yn ôl rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Felly, mae yna egwyddorion sydd yn parhau yma ac yn cael eu datblygu.
Y cwestiwn ydy i ba raddau ydyn ni'n gweld y math o drawsnewid sydd ei angen. A bod yn deg, mae hi yn eithaf cynnar o hyd. Mae'r Gweinidog wedi disgrifio hwn fel cyfnod o symud i mewn i drefn newydd o weithredu, ond mae amser yn brin, wrth gwrs. Mae angen i ni fod yn gweld ôl y trawsnewid yna. Efo'r chwe model o ofal integreiddiol, er enghraifft, mi fuaswn i yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu rhoi diweddariad i ni ar y math o broffil gwario mae hi yn ei ragweld o ran delifro ar yr egwyddorion yna. Sut mae arian refeniw, arian cyfalaf prin yn mynd i gael ei wario ar ddelifro'r chwe model newydd sydd dal wrthi yn cael eu datblygu?
O ran yr ail gwestiwn sydd gen i, dwi'n ymddiheuro dim am droi unwaith eto at yr angen am chwyldro mewn agweddau tuag at weithio yn ataliol i'n gwneud ni'n genedl fwy iach, helpu pobl i baratoi dros yr hirdymor i allu byw yn annibynnol o fewn eu cymunedau. Mi wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi pum pwynt gweithredu ar gyfer iechyd a gofal yn ddiweddar, a'r elfen ataliol honno yn un o'r pum pwynt yna. Wrth lansio'r gronfa yma y llynedd, mi ddywedodd y Gweinidog bod atebion ataliol cymunedol eisoes yn cael eu datblygu. All y Gweinidog felly roi diweddariad i ni ar sut mae'r gronfa yma yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r elfen ataliol hollbwysig yna? Achos oni bai ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r ataliol, fyddwn ni ddim yn gallu datrys y pwysau sydd ar y gwasanaethau iechyd a gofal yn y pen draw. Tueddu i droi rownd a rownd mewn cylchoedd mae rhywun mewn sefyllfa debyg i hynny.
Diolch yn fawr iawn, Rhun, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Mae hon yn sicr yn disodli'r gronfa gofal canolraddol a'r gronfa trawsnewid. Mae'n gyfuniad ac yn gwneud yn siŵr bod rhai o'r syniadau a'r prosiectau hyn sydd wedi bod mor llwyddiannus yn symud tuag at gyfuno, oherwydd rwy'n credu mai'r prif beth y mae'n rhaid i ni geisio ei wneud yw prif ffrydio'r prosiectau hyn. Rwy'n credu y gallaf i roi sicrwydd i chi bod rhai ohonyn nhw wedi bod yn drawsnewidiol, ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw symud y tu hwnt i hynny a'u hymwreiddio fel eu bod nhw'n bresennol drwy'r system gyfan. Rydym ni'n dysgu ohonyn nhw. Ceir cymunedau ymarfer, cymunedau yn edrych ar bob wahanol faes yr ydym ni'n edrych arnyn nhw. Rydym ni'n ceisio gwneud yn gwbl sicr nad prosiectau ynysig yn unig yw'r rhain, ond eu bod nhw'n brosiectau sy'n cael eu rhannu ledled Cymru.
O ran y gwariant, wel, roedd gwariant y llynedd bron i £145 miliwn, sy'n swm mawr o arian yr ydym ni'n ei gyfrannu, ac rydym ni'n cyfrannu hwnnw am bum mlynedd. Cafodd y ganran fwyaf o'r arian hwnnw ei wario ar adeiladu capasiti cymunedol, ac roedd tri o'r chwe model ar hynny. Felly, roedd gennym ni, er enghraifft, adref o'r ysbyty—aeth 18 y cant o'r cyllid ar hynny; gofal yn y gymuned, atal a chydgysylltu cymunedol—27 y cant. Rwy'n meddwl, ar y mathau hynny o brosiectau, y gwariwyd tua 60 y cant ar hynny. Felly roedd hynny, yn y bôn, yn fater o adeiladu'r capasiti, y capasiti gofal cymunedol, sy'n hollbwysig yn fy marn i.
Ac mae llawer ohono'n ataliol, oherwydd y mwyaf y gallwn ni gynorthwyo pobl gartref i fyw bywydau annibynnol, i fyw'n llwyddiannus, dyna lle byddwn ni'n atal yr angen am orfod mynd i'r ysbyty, lle mae pobl yn mynd yn wannach, ac mae'n anoddach cael pobl gartref. Felly, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu'r gwaith ataliol hwn yn y gymuned llawer mwy, ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol, lle byddwn ni'n adeiladu ar yr holl waith hwn sy'n cael ei wneud nawr.
Ac yn olaf, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad heddiw am rannu arferion da. Felly, tybed a allwch chi roi, neu efallai roi gwybod i ni ble'r ydych chi'n meddwl y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio orau yng Nghymru—rhowch wybod i ni pa fyrddau iechyd neu fyrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gwneud orau, a hefyd, rhoi synnwyr i ni o ble'r ydych chi'n meddwl, neu pa fyrddau iechyd sydd angen gwella eu perfformiad. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael y synnwyr hwnnw gennych chi.
A thra ein bod ni'n trafod byrddau iechyd, wrth gwrs, o ran bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel y gwyddom ni, yn dychwelyd i fesurau arbennig o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth, a allaf i gael synnwyr yn y fan honno a fydd gwaith yn cyflymu o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, neu a yw i'r gwrthwyneb? A yw'n ffaith bod cymaint o rwystrau eraill i'w goresgyn y bydd hyn yn llai o flaenoriaeth?
Diolchaf i Russell George am y cwestiynau hynny. Mae gennym ni enghreifftiau da ledled Cymru gyfan, felly nid wyf i'n mynd i ddweud bod un bwrdd iechyd yn rhagorol ac nad yw un arall, oherwydd mae gen i restr o enghreifftiau o brosiectau yma o, fel y dywedais, bob rhan o Gymru. Wel, yn y gogledd, wrth gwrs, ceir prosiect FEDRA'I, sy'n ceisio cynorthwyo pobl ag anawsterau iechyd meddwl. Ac mae llawer o'r gweithgareddau cymorth hyn yn cael eu darparu gan ddarparwyr trydydd sector, gyda gwirfoddolwyr, a staff canolfannau cymunedol yn darparu cymorth llesiant meddwl, gyda chynllun ar waith i leoli pobl mewn meddygfeydd teulu i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, mae honno'n enghraifft dda iawn yn y gogledd, ac, yn sicr, ni fydden ni eisiau—. Nid oes unrhyw gwestiwn o atal y mathau hyn o bethau rhag digwydd oherwydd bod Betsi Cadwaladr wedi mynd i fesurau arbennig. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gweithio ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol drwy Gymru gyfan.
Ac mae gen i enghreifftiau, fel y dywedais, o brosiectau ardderchog yma ledled Cymru gyfan. Ac yn sicr ni fyddem ni eisiau i unrhyw beth atal datblygiad y prosiectau hynny oherwydd unrhyw drafferthion mewn unrhyw fwrdd iechyd lleol.