1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
5. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o waddol ariannol y fenter cyllid preifat yng Nghymru? OQ59320
Bellach, mae 20 o gontractau mentrau cyllid preifat hanesyddol yn weddill yng Nghymru. Yn 2019, dechreuodd y Prif Weinidog adolygiad o gontractau mentrau cyllid preifat, gan annog awdurdodau contractio i ail-drafod neu derfynu contractau mentrau cyllid preifat lle roedd achos gwerth am arian dros wneud hynny. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Diolch. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Mae dau o'r achosion rydych wedi'u nodi ym mwrdeistref Caerffili. Mae un yn gyfan gwbl o fewn fy etholaeth i, Ysgol Lewis Pengam, ac mae gan y llall gampws yn fy etholaeth i, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac mae naw mlynedd ar ôl ar y contractau mentrau cyllid preifat 30 mlynedd gwreiddiol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ysgolion hebddynt, ac maent yn ysgolion penigamp, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn credu y gellid sicrhau manteision allweddol pe bai’r contract, sy’n ymwneud â darparu gwaith cynnal a chadw adeiladau, glanhau, arlwyo a gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd yn cael ei derfynu'n gynnar, a disgwylir iddo gael ei drafod yng nghyfarfod llawn y cyngor ar 19 Ebrill. Felly, cyn hynny, roeddwn am ofyn i'r Gweinidog: pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, pe baent yn penderfynu terfynu'r contract menter cyllid preifat hwnnw'n gynnar?
Wel, mae'r awdurdodau'n parhau i adolygu eu contractau i benderfynu ar werth am arian, ac nid yw awdurdodau contractio sy'n cynnal adolygiadau i ail-drafod neu i derfynu contract angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ail-drafod na therfynu'r contract hwnnw. Ond mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r achos busnes, gan ein bod yn darparu rhywfaint o gost cymorth refeniw ar gyfer mentrau cyllid preifat. Ystyrir y ffrwd hon o gyllid fel rhan o'r achos gwerth am arian ar gyfer pwrs y wlad yn gyffredinol. Felly, yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, maent wedi cyflwyno achos busnes yn cynnig terfynu eu contract menter cyllid preifat yn wirfoddol ar gyfer y ddwy ysgol, fel y disgrifiwyd gennych, ac rwyf wedi cymeradwyo parhau â rhywfaint o gymorth refeniw ar gyfer gweddill cyfnod y byddai'r contract wedi bod yn weithredol pe bai'r fenter cyllid preifat yn parhau. Mater i Gaerffili nawr wrth gwrs yw gwneud y penderfyniad a yw'n dymuno terfynu'n wirfoddol ai peidio.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r defnydd o fentrau cyllid preifat wedi bod yn ddadleuol a dweud y lleiaf. Fe fyddwch yn gwybod bod llawer o gynghorau wedi'u dal yng ngafael cynlluniau mentrau cyllid preifat gwenwynig, ac fel y gwyddom, Weinidog, yn ôl y cyfrif diwethaf, credaf fod 23 o brosiectau menter cyllid preifat gyda gwerth cyfalaf o £701 miliwn wedi'u noddi gan Lywodraeth Cymru, a bod pum prosiect wedi'u noddi gan Lywodraeth y DU. Weinidog, bydd yna adegau pan fydd mynediad at gyfalaf preifat yn hanfodol. Fodd bynnag, yn aml, gwerth gwael am arian a gynigir ganddynt ac maent yn creu baich o ddyled i sawl cenhedlaeth i ddod. Roeddwn i'n meddwl tybed pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o brofiad o fentrau cyllid preifat. Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu tryloywder a sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau am arian wrth ymgysylltu â'r sector preifat?
Wel, fe ddywedaf fod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi osgoi peryglon contractau mentrau cyllid preifat yn gyson, ac o ganlyniad i'n dull o weithredu, mae'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â'r math hwn o gynllun yng Nghymru yn llai o lawer nag mewn rhannau eraill o'r DU. Er enghraifft, tua £40 y pen yw cost cynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru ar gyfartaledd, ac mae hynny oddeutu un rhan o bump o'r gost y pen drwy'r DU gyfan.
Yng Nghymru, rydym wedi ceisio datblygu math gwahanol o fodel, sef ein model buddsoddi cydfuddiannol wrth gwrs. Mae'n wahanol i'r mentrau cyllid preifat traddodiadol mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae'n sicrhau bod rhaid i'r busnesau sy'n rhan o'r cynllun helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; byddant angen darparu manteision cymunedol ymestynnol iawn, a cheir rhwymedïau am fethu cyflawni; bydd angen iddynt ymrwymo i god cyflogaeth moesegol Llywodraeth Cymru, a hefyd adeiladu gyda chynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol mewn cof hefyd.
Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhai enghreifftiau da iawn—yn ystod adeiladu'r A465, er enghraifft, lle gwelsom lawer o swyddi lleol newydd yn cael eu creu, llawer o gyflogaeth i bobl sydd wedi profi diweithdra hirdymor, neu sydd heb fod mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant, er enghraifft, ac wrth gwrs, cafodd nifer o fentrau cymunedol eu cefnogi drwy'r rhaglen mentrau cymunedol a sefydlwyd yn rhan o hynny hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod wedi datblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol, ond mae'n wahanol iawn i gynlluniau menter preifat traddodiadol.