2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid domestig yng Nghwm Cynon? OQ59286
Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau allweddol pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid ein rhaglen lywodraethu, ochr yn ochr â'n gwaith arfaethedig arall.
Diolch, Weinidog. Mae bron i ddwy flynedd wedi bod ers i ni gyflwyno rheoliadau cyfraith Lucy, sef y gwaharddiad ar werthu cathod a chŵn gan drydydd partïon yma yng Nghymru. Roedd hwn yn gam mor bwysig ymlaen o ran lles anifeiliaid domestig. Felly, hoffwn ofyn: sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i fonitro'r rheoliadau hynny, ac i sicrhau bod eu darpariaethau'n cael eu gorfodi, a sut mae'n cynnwys hyn yn ei gwaith ehangach ar les anifeiliaid?
Diolch. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, fod cyfraith Lucy yn cyrraedd pen-blwydd pwysig fis nesaf, ac roedd Lucy, y tarfgi yr enwyd y ddeddfwriaeth ar ei hôl, yn dod o fferm yma yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth honno ond yn berthnasol i Loegr. Fel y gwyddoch, mae ein deddfwriaeth ni, sef Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, yn mynd gam ymhellach, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos ac yn adlewyrchu fy ymrwymiad cryf i les cŵn—pob anifail yma yng Nghymru mewn gwirionedd—ac mae fy swyddogion yn monitro'r rheoliadau hynny'n ofalus iawn.
Rwy'n derbyn, wrth gwrs, nad yw'r rheoliadau hynny'n mynd i'r afael â'r holl broblemau sydd gennym yn gysylltiedig â masnachu cŵn bach, a dyna pam ein bod yn cyflwyno mesurau pellach. Wrth inni edrych ar y ddeddfwriaeth honno, ac wrth inni ei monitro, rydym yn edrych ar fesurau eraill i'w cyflwyno er mwyn sicrhau bod gennym safonau lles uchel ar gyfer ein bridwyr cŵn yma yng Nghymru.
Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae prynu anifeiliaid domestig fel anifeiliaid anwes ar-lein yn beryglus iawn, ac yn anffodus, nid oes llawer o fesurau diogelu ar waith a all atal prynwyr rhag prynu, yn ddiarwybod iddynt, anifeiliaid sydd wedi eu bridio mewn ffermydd cŵn bach, a'u cadw mewn amodau erchyll. Yn ogystal, ceir problem gyda chŵn peryglus, sydd â hanes hysbys o ymosod ar bobl, yn cael eu hysbysebu a'u gwerthu ar-lein, sydd wedi arwain, yn drasig, at ymosodiadau erchyll, ac angheuol mewn rhai achosion.
Weinidog, ffaith arall drist yw bod rhai cŵn yn cael eu hysbysebu fel rhai sydd 'am ddim i gartref da', ac mae'n bosibl y bydd y cŵn hyn, sy'n cael eu rhoi i bobl sydd i'w gweld yn bobl dda, yn mynd i ddwylo ymladdwyr cŵn anghyfreithlon, sy'n defnyddio'r cŵn hyn a gafwyd am ddim fel abwyd i hyfforddi cŵn ymladd. Rwy'n credu—ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma yn cytuno â mi—na allwn barhau fel hyn a chaniatáu i anifeiliaid sy'n cael eu cam-drin gael eu masnachu mor hawdd. Mae angen mesurau llawer llymach arnom mewn perthynas â gwerthu a hysbysebu ar-lein.
Yn ystod ein toriad ym mis Ebrill, bydd Justice for Reggie, elusen a sefydlwyd i ymgyrchu dros reoliadau llawer llymach ar gyfer gwerthu ar-lein a bridio anifeiliaid domestig, yn cynnal eu Hwythnos Ymwybyddiaeth o Werthu Anifeiliaid Anwes Ar-lein. A chyda hyn mewn golwg, Weinidog—ac rwy'n ymwybodol o'ch sylwadau i fy nghyd-Aelod Vikki—pa ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i dynhau'r rheoliadau mewn perthynas â unigolion a busnesau sy'n gwerthu anifeiliaid domestig ar-lein yng Nghymru? Diolch.
Diolch. Wel, fel y dywedais wrth Vikki Howells, mae ein deddfwriaeth yn mynd gam ymhellach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Er hynny, rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd rydym yn gwybod, yn anffodus, fod pobl yn dal i brynu eu hanifeiliaid anwes ar-lein, ac mae ein deddfwriaeth yn golygu na ddylai rhywun brynu anifail anwes yn unman heblaw lle cafodd yr anifail anwes hwnnw ei fridio. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn parhau i'w fonitro ac rydym yn gwneud popeth a allwn o fewn y pwerau sydd gennym. Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau ei deddfwriaeth mewn perthynas â chŵn, yn enwedig cŵn peryglus, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn addas i'r diben, ond nid ydynt wedi bod yn hapus i wneud hynny hyd yma.