2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant dur? OAQ(5)0010(FM)
11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda’r saith sefydliad sydd wedi mynegi diddordeb posibl mewn prynu Tata Steel UK? OAQ(5)0004(FM)
Gwnaf. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 ac 11 gael eu grwpio. Rwyf wedi ei gwneud yn eglur ei bod yn flaenoriaeth bendant i’n Llywodraeth gynnal presenoldeb gwneud dur cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hynny'n golygu cydweithio'n agos, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU.
Dros gyfnod yr etholiad, Brif Weinidog, euthum i a chydweithwyr Plaid Cymru i ymweld â'r adran beirianneg ar y campws arloesi newydd. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnais i Brifysgol Abertawe anfon rhai ffigurau ataf o ran faint y byddai'n ei gostio i sefydlu uned dur ac arloesi newydd yn y brifysgol, gan ei bod mor agos—mae mewn lleoliad delfrydol, blaenllaw—i Tata Steel allu gwneud hynny. Byddai'n costio £17.2 miliwn dros bedair blynedd i’r adran honno gael ei sefydlu. Brif Weinidog, os yw eich Llywodraeth yn credu bod achub y diwydiant dur mor hanfodol bwysig, a wnewch chi roi arian i gefnogi’r prosiect arloesi newydd hwn i wneud yn siŵr y gall dur gael ei gynnal yma yng Nghymru?
Wel, ymwelais innau â'r campws hefyd, a gwnaed y pwynt i mi. Nid wyf wedi gweld cais ffurfiol o unrhyw fath hyd yn hyn, yn bersonol, yn cael ei wneud, ond, wrth gwrs, byddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu hystyried yn ofalus iawn gennym ni fel Llywodraeth.
Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll am yr arweinyddiaeth yr ydych chi wedi ei dangos yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma yng Nghymru ar yr argyfwng dur? Roedd fy etholwyr yn sicr yn gwerthfawrogi’r arweinyddiaeth honno yng Nghymru. Ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf, a dweud y gwir, ar 4 Ebrill, pan drafodwyd yr argyfwng dur, mae proses sydd wedi symud yn gyflym yn yr argyfwng dur, yn enwedig o ran gwerthu buddiannau Tara Steel yma yn y DU, ac mae gan nifer o gyrff ddiddordeb ac wedi mynegi diddordeb, ac rwy'n credu mai ddoe oedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gydag unrhyw un o'r cyrff hynny sydd wedi gwneud ceisiadau i brynu Tata Steel ac, yn benodol, pa gymorth ydych chi'n ei gynnig i'r cwmnïau hynny? A allwch chi hefyd mewn gwirionedd nodi a yw hyn yn cynnwys parhad y pen trwm ym Mhort Talbot, sy'n hollbwysig i'r gwaith, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau fel gwaith integredig— maen nhw’n gwneud dur o ddeunyddiau crai, ond hefyd dyna lle mae llawer o'r contractwyr yn cael eu cyflogi, a bydd colli’r pen trwm hwnnw’n cael effaith enfawr ar gyflogaeth yn fy ardal i.
Gallaf, rwyf wedi cyfarfod â dau o'r sefydliadau sydd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Mae'r pen trwm yn gwbl hanfodol i ddyfodol ein diwydiant dur yn y DU, ac rwyf wedi gwneud hynny'n gwbl eglur. Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi unrhyw gytundeb posibl a fyddai’n arwain at leihau hawliau pensiwn ar ran naill ai'r pensiynwyr na'r gweithwyr sy’n gweithio i Tata ar hyn o bryd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Yfory, bydd Tata yn cynnal ei gyfarfod bwrdd—byddaf yn Mumbai yfory—a byddant yn bwriadu gwneud penderfyniad, rydym ni’n deall, i grynhoi’r datganiadau o ddiddordeb i greu rhestr fer. Yr hyn sy'n galonogol, wrth gwrs, yw bod busnesau allan yna sy’n edrych o ddifrif ar sicrhau dyfodol ein diwydiant dur ac, yn bwysig, wrth gwrs, nid dewis y darnau mwyaf proffidiol yn unig, ond sicrhau bod pen trwm Port Talbot yn parhau.
Croesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog yn mynd allan i Mumbai. Roeddwn i’n meddwl tybed, yng ngoleuni’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cais Excalibur, sydd hefyd i'w groesawu'n fawr, hyd yma, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol ar ran y tîm hwnnw? O ran eu gweledigaeth, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod eu bod yn dymuno parhau i gynhyrchu dur sylfaenol; maen nhw hefyd yn cynnwys y gweithlu o ran cynllun i'r gweithwyr fod yn berchnogion rhannol. Felly, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol y dylai’r cais hwnnw fynd ymlaen i'r cam nesaf?
Wel, rydym ni wedi gwneud hynny eisoes. Yn sicr, rwyf wedi gwneud sylwadau cryf i Lywodraeth y DU y dylid eu hystyried yn un o’r cynigwyr a ffefrir. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith ei bod yn ymddangos eu bod yn siarad ag un o'r cynigwyr eraill, sef Liberty Steel. Rwy'n credu bod honno'n gymysgedd dda. Rwy'n meddwl bod y dewis prynu gan reolwyr yn cynnwys llawer o arbenigedd technegol, ond nid yw wedi codi’r arian eto. O ran Liberty Steel, mae’n fusnes sylweddol, ond nid yw wedi cymryd rhan yn y pen trwm o gynhyrchu fel arfer. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfuniad defnyddiol ac edrychaf ymlaen â diddordeb at sut y bydd hynny’n datblygu. Rwy’n gobeithio yfory y bydd Tata yn edrych yn ofalus iawn ar y cynigion ac yn sicr yn ystyried yn gryf y dewis prynu gan reolwyr, o bosibl, wrth gwrs, yn gysylltiedig â Liberty Steel.
Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i’r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae’r safleoedd dur wedi’u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd cynhyrchu sylfaenol o’r hyn sydd ar ôl yng Nghymru? Diolch.
Yn sicr. Mae'r diwydiant yn gydgysylltiedig, oherwydd, ar ôl bod i Drostre a Llanwern a hefyd i Shotton—yn Shotton, yn arbennig, roeddwn nhw’n dweud wrthyf i, 'Wel, rydym ni’n gwneud arian, ond y gwir amdani yw ein bod yn dibynnu ar Bort Talbot am ddur. Byddai'n cymryd chwe mis, yn fras, i ni gael gafael ar ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn yn gallu cadw ein cwsmeriaid.' Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol. Y gwir amdani yw na allwn ni fod yn economi ddiwydiannol fawr os nad ydym yn cynhyrchu ein dur ein hunain. Mae hynny'n un o ofynion sylfaenol bod yn economi ddiwydiannol. Mae angen i ni gynhyrchu'r dur sydd ei angen arnom ni ar gyfer diwydiant, ond hefyd, wrth gwrs, y dur sydd ei angen ar gyfer y lluoedd arfog, i'w harfogi’n iawn. Mae hon yn ddadl a wnaed dro ar ôl tro gennym ni a Llywodraeth y DU. Mae'n galonogol gweld bod diddordeb. Byddai sefyllfa lle nad oedd unrhyw un wedi dod ymlaen gyda'r bwriad o brynu holl asedau Tata yn y DU wedi peri mwy o bryder. Yn sicr, mae'n bwysig bod Tata yn cynnal y safiad y mae wedi ei wneud o ran dymuno gweld gwerthiant hyfyw yn cael ei wneud. Byddaf yn galw arnynt eto yfory i barhau â'r ewyllys da y maent eisoes wedi ei dangos.
Brif Weinidog, roeddwn i braidd yn siomedig o glywed eich bod ond wedi llwyddo i siarad â dau o'r darpar brynwyr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf a wnaethoch chi gymryd camau rhagweithiol i siarad â phawb a oedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cynigion ac, yn unol â thelerau cyfrinachedd masnachol, y math o amrywiaeth o gostau y mae Llywodraeth Cymru yn fwyaf tebygol o’i chefnogi wrth wneud unrhyw addewidion pwrpasol i'r cynigwyr y gwnaethoch chi siarad â nhw.
Wel, mae gennym ni £60 miliwn eisoes ar y bwrdd; mae hanner hwnnw’n fenthyciad masnachol, mae'r hanner arall ar ffurf arian grant. Rydym ni’n dal i edrych a oes mwy y gallem ni ei wneud o ran ardrethi busnes. Mae'n iawn i ddweud mai’r cyngor gwreiddiol oedd y gallem ni gynnig €200,000 dros dair blynedd. Rydym ni’n archwilio hynny unwaith eto i weld a oes ffordd y gallwn ni helpu ymhellach. Ond serch hynny, mae’r swm o arian sydd ar y bwrdd yn cynrychioli gwerth tua phedair blynedd o ardrethi busnes i Tata beth bynnag, a bydd yr arian hwnnw ar y bwrdd i unrhyw brynwr newydd.
Brif Weinidog, mae gwaith dur Orb Tata yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch, yn gwneud dur trydanol o'r radd flaenaf. Rwy’n cyfarfod â nhw yn rheolaidd ac mae'n amlwg i mi y bu perthynas waith dda iawn rhwng Llywodraeth Cymru a gwaith yr Orb dros gyfnod o amser. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y berthynas honno, sydd wedi cefnogi peiriannau, gwell proses, uwchraddio sgiliau a hyfforddiant, yn parhau yn y dyfodol fel y gallwn adeiladu ar y cynhyrchion o'r radd flaenaf hynny ar gyfer diwydiant dur Cymru yn gyffredinol?
Yn sicr; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Un o elfennau'r pecyn yr ydym ni wedi ei gynnig yw swm o €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Wrth gwrs, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant yn y blynyddoedd a fu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu eu cynorthwyo gyda phecynnau hyfforddiant pwrpasol. Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, canlyniad y gwaith arbenigol iawn sy'n cael ei wneud yn etholaeth yr Aelod.
Brif Weinidog, rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid i’r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i’m hetholwyr? Rydym ni’n gwybod bod rhai cynigion i uwchraddio gwaith Port Talbot i ffwrnais arc, er enghraifft, a rhai cynigion eraill hefyd. A oes gennych chi unrhyw wybodaeth o ran cynigion moderneiddio i wneud gwaith dur Llanwern yn fwy hyfyw yn y dyfodol?
Wel, y rhan anodd o'r diwydiant dur ar hyn o bryd yw’r pen gwneud dur ym Mhort Talbot. Mae'r melinau rholio yn Nhrostre, Llanwern a Shotton i gyd mewn sefyllfa ariannol dda. Wedi dweud hynny, gwn fod y golled ym Mhort Talbot eisoes wedi cael ei thorri gan ddwy ran o dair. Mae'n dal i golli arian, ond bu gwelliant sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. Ond mae'n hynod bwysig—ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith o'r blaen, a byddaf yn ei wneud eto yfory—bod asedau Tata yng Nghymru yn cael eu cymryd yn eu cyfanrwydd ac nad ydym yn gweld gwerthiant darniog o’r hyn a ystyrir fel y pen mwy proffidiol er gwaethaf y problemau cyflenwi, ond yn hytrach ein bod yn gweld y pen trwm ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn rhan annatod o unrhyw werthiant. Gwnaed cynnydd aruthrol dros gyfnod byr iawn o amser i symud tuag at yr hyn a allai fod, ymhen amser, yn sefyllfa o fantoli'r gyllideb. O ystyried sefyllfa’r pen trwm cyn y Nadolig, bydd hynny'n llwyddiant aruthrol.