2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.
5.Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser yng Nghymru? OAQ(5)0012 (FM)
Mae canser yn flaenoriaeth uchel i ni. Mae'r achos busnes £200 miliwn i weddnewid gwasanaethau canser ar draws y de-ddwyrain yn cael ei ddatblygu, ac, wrth gwrs, disgwylir i’r achos busnes amlinellol ar gyfer ysbyty canser newydd yn Felindre—wrth gwrs, yn etholaeth yr Aelod—gael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Fel y dywed, mae cynlluniau cyffrous ar waith i wella gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, gan ddod â gwasanaethau yn nes at bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd i adeiladu Felindre newydd. Felly, a wnaiff ef gadarnhau ymrwymiad ei Lywodraeth i adeiladu'r Felindre newydd, er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth y gallwn ni ei gynnig?
Gwnaf, gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw yn bendant. Bydd yn gartref i nifer o driniaethau newydd hefyd—bydd y radiotherapi stereotactig, er enghraifft, wedi’i leoli yno, a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i gymaint o bobl sy'n byw gyda chanser i allu ymestyn eu bywydau, neu well. Rydym ni’n bwriadu i Felindre fod yn gyfleuster canser arloesol i bobl Cymru.
Un o’r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw’r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella’r amser i ddiagnosis. Roedd gan Blaid Cymru gynllun, er enghraifft, ar gyfer diagnosis o fewn 28 diwrnod. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth i wella’r sefyllfa yng Nghymru?
Rhaid sicrhau, wrth gwrs, fod diagnosis yn cymryd lle cyn gynted ag sy’n bosib. Gyda rhai pobl â chanser, nid yw hi mor rhwydd â hynny i gael diagnosis mewn amser byr. Gyda’r rhan fwyaf, ydy, mae’n iawn. Hefyd, wrth gwrs, mae pobl yn gallu symud ymlaen i gael triniaeth. Mae ein ffigyrau ni ynglŷn â phobl sydd yn cael triniaeth yn dda, ac yn gwella, ac rydym ni’n moyn sicrhau bod hynny’n digwydd yn y pen draw. Ond, mae’n bwysig hefyd i gael adnoddau newydd, fel Felindre, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod y triniaeth gorau ar gael i’r rhan fwyaf o bobl.
Brif Weinidog, rydym ni’n croesawu eich ymrwymiad maniffesto eich hun o £80 miliwn ar gyfer cronfa driniaeth newydd. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn galwad y Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer am gronfa cyffuriau trin canser i roi terfyn ar yr anghydraddoldeb a'r loteri cod post sy'n bodoli yma yng Nghymru. A wnewch chi addo ar goedd yma heddiw, Brif Weinidog, na fyddwn yn gweld unrhyw glaf, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn gorfod teithio allan o Gymru i dderbyn y driniaeth angenrheidiol iawn sydd ei hangen arnynt? Ond hefyd, i ehangu’r cwmpas sydd ar gael i chi, a wnewch chi edrych ar y miliynau o bunnoedd sy’n cael eu gwastraffu ar gyffuriau triniaeth arferol sydd ar gael mor rhwydd dros y cownter mewn archfarchnadoedd? Mae hyn i gyd yn rhan o'ch presgripsiynau am ddim i bawb, ac rwy’n credu y byddai'n llawer gwell gweld yr arian hwn yn cael ei dargedu mewn ffordd well tuag at gronfa triniaethau canser.
Ah, dyma ailymddangosiad y dreth tabledi. Na, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddechrau codi tâl ar bobl am bresgripsiynau, mwy nag y mae gennym ni gynlluniau i ddechrau codi tâl ar bobl am apwyntiadau meddyg teulu. Nid wyf yn rhagweld y bydd unrhyw un yn croesi'r ffin, gan fod y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi dod i ben. Cwympodd o dan ei phwysau ei hun. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei roi ar waith yw cronfa synhwyrol, fforddiadwy lle bydd pethau ar gael i bobl—nid pobl â chanser yn unig, gan fod, yn amlwg, cyflyrau eraill sy'n bygwth bywydau, ac mae'n bwysig bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal pan fo ganddynt gyflyrau sy’n bygwth bywydau—ond pan fyddant yn gallu cael gafael ar gyffuriau cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y byddant wedi cael eu cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Rydym yn credu bod hon yn gronfa synhwyrol, teg a thrugarog a fydd ar gael i’r rhai sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â phobl sy'n byw gyda nifer o gyflyrau sy’n bygwth eu bywydau.
Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi’n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy’n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgrifenedig llawn?
Wel, mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, yr ydym ni wedi bod yn ymchwilio iddynt, yn enwedig o ran gweithiwr allweddol. Mae’n ergyd enfawr pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser, ac yn frwydr enfawr. Rwyf wedi ei weld, fel y mae nifer o bobl eraill—rwy'n siŵr fod pob Aelod yn y Siambr hon wedi ei weld. Mae canfod yn gynnar yn bwysig. Dyna pam yr ydym ni’n gwybod, wrth gwrs, fod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu, ond yn ogystal â hynny, rydym ni’n gwybod bod pobl yn cael triniaeth yn sicr yn gyflymach nag oedd yn wir o'r blaen, ac wrth gwrs bydd rhai o'r triniaethau mwyaf arloesol y gellir eu rhoi ar gael, byddwn yn dadlau, yn y byd, ar gael iddynt pan fydd Felindre yn agor, at. Dyna pam mae hi mor bwysig bod Felindre ar gael i bobl y de, ac wrth gwrs ein bod yn parhau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl y gogledd, ar draws ffiniau, fel y gallant hwythau gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt hefyd.