– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 8 Mehefin 2016.
Rwy’n symud i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Lywydd, cafodd y Cynulliad hwn ei ailymgynnull yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, yn rhannol ar fy nghais i, ond yn ei hanfod, i gydnabod y pryderon dwys sydd gan gymunedau dur ledled Cymru ac yn wir, pob un ohonom yn y Siambr hon ynghylch dyfodol gweithfeydd Tata. Ers hynny, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Tata, Llywodraeth y DU, undebau llafur a phrynwyr a buddsoddwyr posibl. Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y sefyllfa fel y mae a’r cynnydd sy’n cael ei wneud.
Mae’r Aelodau’n gwybod fy mod wedi bod yn Mumbai ychydig wythnosau yn ôl i barhau fy neialog gyda Tata ynglŷn â’r broses werthu. Trwy gydol y broses hon, fy mhrif bryder yw gweithlu Tata, y cymunedau dur a’r angen i sicrhau diwydiant dur hirdymor a chynaliadwy ar gyfer holl weithrediadau Tata yng Nghymru. Dyma’r achos rwyf wedi’i gyflwyno’n gyson ac yn uniongyrchol i uwch arweinwyr Tata.
Bydd yr Aelodau’n deall yn iawn fod cyfrinachedd masnachol yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei ddweud mewn unrhyw fanylder, ond gallaf gadarnhau bod ein trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac yn arwyddocaol, a safbwynt Tata o hyd yw mai ei flaenoriaeth yw cynnal proses werthu sy’n sicrhau canlyniad cadarnhaol. Ac mae Tata bellach yn y broses o werthuso’r cynigion y mae wedi’u cael. Nawr, pa benderfyniad bynnag a wneir gan Tata, rydym yn barod i gefnogi unrhyw gynigwyr sy’n mynd drwodd i’r cam nesaf a fydd yn arwain at gadw swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yng Nghymru.
Ddydd Mercher diwethaf, gwelsom lansio British Steel, wedi i Greybull Capital brynu is-adran cynhyrchion hir Ewropeaidd Tata, sydd wedi’i leoli’n bennaf yn Scunthorpe. Mae hynny’n cynnig rhai rhesymau cadarn dros fod yn hyderus fod yna ddyfodol hyfyw i wneud dur yng Nghymru a’r DU yn ehangach, a dyna y mae Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser.
Y bore yma, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ei gyfarfod cyntaf o Gyngor Dur Llywodraeth y DU. Mae gwaith y Cyngor Dur yn cael ei ddatblygu drwy bedwar gweithgor sy’n ystyried nid yn unig sut rydym yn ymateb i’r argyfwng dur presennol, ond cynaliadwyedd hirdymor gwneud dur. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â Llywodraeth y DU a hefyd yn mynychu pedair ffrwd waith y Cyngor Dur.
Yn y cyfamser, mae gwaith ein tasglu Tata Steel yn parhau; cynhaliodd ei gyfarfod diweddaraf ar 9 Mai. Darperir cymorth a chyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith, gan weithio’n agos gyda Tata, Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r sesiynau ymwybyddiaeth, gyda thua 300 yn mynychu hyd yn hyn. Ar 28 Ebrill, cynhaliwyd ffair swyddi a fynychwyd gan 38 o weithwyr o galibr uchel, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ffair swyddi arall. Roedd cynrychiolwyr undebau yn gadarnhaol ynglŷn â’r cymorth a ddarparwyd hyd yn hyn.
Mae’r tasglu yn cydnabod y bydd angen cyfathrebu’n barhaus â chyn-weithwyr dros y misoedd nesaf, gan na fydd rhai unigolion yn awyddus i dderbyn cynigion o gymorth ar unwaith. Cynlluniwyd sesiynau cyngor pellach ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf, a bydd y rhain yn cael eu hagor i’r gadwyn gyflenwi fel y bo’n briodol.
Mae ffrydiau gwaith y tasglu hefyd yn parhau â’u gwaith. Mae’r ffrwd waith iechyd yn asesu tystiolaeth ar ba effaith a geir ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Cynlluniwyd gweithdai cymunedol hefyd i ddarparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gael eu diswyddo ac aelodau o’r teuluoedd ehangach. Mae’r ffrydiau gwaith hyfforddiant a sgiliau, a busnes a’r gadwyn gyflenwi hefyd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, gan gysylltu hefyd, wrth gwrs, â gwaith y ffrwd waith iechyd. Mae’n helpu i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i gymorth ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â gweithwyr uniongyrchol Tata. Lywydd, mae Busnes Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda 60 o brif gwmnïau cyflenwi Tata ar sail un i un, ac mae’n dod â chefnogaeth ehangach i mewn, gan gynnwys cymorth sgiliau a hyfforddiant yn ôl yr angen.
A gaf fi droi at gaffael? O ran caffael, rydym yn parhau i ddadansoddi’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy’n darparu gwelededd i’n rhaglen a’n prosiectau blaenoriaeth, er mwyn sefydlu rhagolwg o’r angen am ddur yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir i ddarparu eglurder ynghylch y gofynion hynny. Mae gwaith hefyd wedi symud ymlaen yn dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU.
Yn ein dogfennau contract cludiant, rydym wedi gwthio pethau ymhellach eto o ran y defnydd o ddur y DU. Nid yn unig ein bod yn datgan bod yn rhaid i gontractwr sicrhau bod y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ganddo a’i is-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion BES 6001, ond rydym hefyd wedi datgan yn benodol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd contractwr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnadoedd tramor ar gyfer unrhyw ddur sy’n cael ei ddefnyddio ar y prosiect.
Gan symud i feysydd eraill o gefnogaeth, rydym wedi cyflwyno’r ardal fenter ym Mhort Talbot. Daw hyn yn sgil trafodaethau defnyddiol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot, y gymuned fusnes, a’r tasglu, gan bwyso ar arbenigedd y sector preifat drwy fwrdd yr ardal fenter, a gadeirir gan Roger Maggs, a hoffwn nodi ei gyfraniad arbennig yn gyhoeddus.
Lywydd, mae gweithwyr dur yn gwneud eu gwaith mewn amodau anodd, ac mae pensiwn diogel yn fudd hanfodol. Lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar 26 Mai ar opsiynau ar gyfer darparu diogelwch i gynllun pensiwn Dur Prydain. Nid yw pensiynau wedi’u datganoli, ond rwy’n gwbl glir fod yn rhaid diogelu uniondeb y cynllun pensiwn, a rhaid i’r ymddiriedolwyr, Tata a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad teg a phriodol i aelodau’r cynllun.
Lywydd, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth posibl i sicrhau canlyniad llwyddiannus i broses werthu Tata. Mae hon yn flaenoriaeth i ni i gyd, ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i’n cymunedau dur, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i sicrhau bod yr Aelodau’n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gopi ymlaen llaw o’r datganiad. Mae Llywodraeth y DU yn ôl y sôn yn rhoi pwysau sylweddol ar Tata i newid ei benderfyniad i werthu ei asedau yn y DU yn gyfnewid am ddileu ei rwymedigaeth diffyg pensiwn a benthyciad o £900 miliwn. A allai’r Prif Weinidog egluro a chofnodi ei ddealltwriaeth o ba mor wir yw hynny? Ac a yw’n deall ac o bosibl hyd yn oed yn rhannu amheuon naturiol y gweithlu ynglŷn ag a yw cwmni sydd wedi ffafrio ei ffatri yn IJmuiden yn hytrach na Phort Talbot dro ar ôl tro—yn fwyaf diweddar drwy wrthod yn llwyr y cynllun achub ychydig fisoedd yn ôl—yn gallu bod ag unrhyw ymrwymiad hirdymor credadwy i gynhyrchiant dur yng Nghymru? Rhaid i mi ddweud y gallai unrhyw un sydd wedi gweld cynllun McKinsey gael eu gorfodi i ddod i’r casgliad fod y ffordd y cafodd Port Talbot ei gamreoli gan Tata Steel Europe ar y lefel honno yn ffactor sy’n cyfrannu at ddifrifoldeb y problemau a’i hwynebai. Yn sicr, nid yw trosglwyddo’r allweddi yn ôl i’r union bobl hyn sy’n gwneud penderfyniadau dros bennau rheolwyr a gweithwyr lleol yn rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn fodlon ei gefnogi, lle ceir dewisiadau eraill gwell mewn perchnogaeth leol.
A fyddai’r Prif Weinidog hefyd yn derbyn y byddai caniatáu i gwmni rhyngwladol byd-eang gydag adnoddau eithriadol fel Tata, a wnaeth tua £4 biliwn o elw net y llynedd, i droi cefn ar ei gyfrifoldebau pensiwn yn creu perygl moesol drwy osod cynsail a fyddai’n caniatáu i gwmnïau trawswladol eraill wneud yr un fath? A yw hefyd yn pryderu—fel minnau—fod dymuniad ymddangosiadol Downing Street i daro bargen gyflym a thwyllodrus o syml drwy’r drws cefn gyda Tata, yn hytrach na phroses werthu deg a thryloyw, wedi’i yrru gan awydd am newyddion da yn wleidyddol cyn 23 Mehefin, yn lle buddiannau hirdymor yr economi a chymunedau dur? Er ei fod ef a minnau yn rhannu’r un dyhead am ganlyniad tebyg o ran y refferendwm, a yw’n cytuno beth bynnag, gan nad yw’r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i fynegeio’r gronfa bensiwn y cyfeiriodd ati yn cau hyd nes 23 Mehefin, y byddai’n rhy fuan i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud mewn perthynas â Tata cyn y dyddiad hwnnw?
Yn olaf, o weld bod Tata bellach, yn rhyfedd ddigon, mae’n ymddangos, mewn sefyllfa i farnu ai hwy neu un o’r cynigwyr ddylai dderbyn buddsoddiad cyhoeddus sylweddol sy’n cael ei gynnig, pan fydd yn cyfarfod â Tata nesaf, a allai ofyn, er mwyn sicrhau proses briodol o dryloyw, a fyddent yn derbyn ac yn caniatáu i’r Cyngor Dur y cyfeiriodd ato i gomisiynu asesiad cwbl annibynnol o’r opsiynau sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd o ran eu cost a’u budd, nid yn unig i Tata, ond i’r cyhoedd—y trethdalwr a’r gweithiwr dur fel ei gilydd?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Nid oes fawr ddim y byddwn yn anghytuno yn ei gylch. Yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw bod yna ddyfodol cynaliadwy hirdymor a diogel i’n swyddi dur. Mae’n wir fod Tata wedi dweud eu bod yn dymuno gwerthu; dyna yw safbwynt eu bwrdd o hyd. Nid wyf yn siŵr fod hwnnw o reidrwydd yn safbwynt a fydd yn para am byth, os caf ei roi felly. Gallaf ddychmygu y byddai’r gweithwyr ym Mhort Talbot a’r gweithfeydd eraill yn poeni pe bai’n wir fod Tata yn mynd i barhau heb i warantau gael eu rhoi ynghylch beth fyddai cynlluniau Tata yn y dyfodol. Pe bai Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth ariannol ar y bwrdd, byddwn yn disgwyl iddynt—ac nid wyf wedi clywed am unrhyw swm penodol—dderbyn gwarantau ynghylch buddsoddiad Tata yn asedau dur Cymru yn y dyfodol yn gyfnewid am hynny. Mae’n ymddangos i mi y byddai’n anodd amddiffyn unrhyw gamau i wneud fel arall.
O ran y cynllun pensiwn, mae’n llygad ei le: sefydlwyd y gronfa diogelu pensiynau i ymdrin â chronfeydd pensiwn sydd wedi methu, i bob pwrpas, am fod y busnes sy’n noddi wedi methu. Nid dyna a ddigwyddodd yma. Ni fyddem, beth bynnag, o blaid gweld cronfa bensiwn Dur Prydain yn mynd i mewn i’r gronfa diogelu pensiynau. Mae’r dewis arall a gyflwynwyd yn dal i fod yn hynod o anodd o ran y buddiolwyr, a’r neges y bydd yn ei chyfleu. Er enghraifft, os ceir bargen lle bydd Tata yn parhau, lle ceir cymorth ariannol sylweddol i Tata, a lle bydd y rhwymedigaethau pensiwn yn cael eu dileu, y neges i bob busnes arall yn y DU yw, ‘Wel, gadewch i ni wneud yr un peth’ ac nid wyf yn credu y gall cyllid cyhoeddus ymdopi â hynny. Ar ddechrau’r broses hon, y bwriad bob amser oedd y byddai mater pensiynau yn cael ei ddatrys er mwyn cynorthwyo cynigydd newydd a phrynwr newydd. Mae gwneud hynny ar gyfer cwmni sy’n bodoli eisoes yn llawn o beryglon, fel y mae’n gywir i ddweud.
Rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried ystyriaethau gwleidyddol ar hyn o bryd, ond yn hytrach, eu bod yn ystyried dyfodol ein swyddi a’n cymunedau yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y DU. Mae’n anodd gweld ar hyn o bryd a allai’r Cyngor Dur gynnal asesiad annibynnol, o ystyried maint y cytundebau peidio â datgelu sydd ar waith mewn perthynas â’r saith cynigydd. Mae’n hynod o bwysig, fodd bynnag, fod y broses geisiadau yn cael ei harchwilio’n fanwl. Mae Tata wedi fy sicrhau y bydd hynny’n digwydd, y byddant yn edrych ar y cynigion yn ofalus iawn, ac yn y pen draw, wrth gwrs, mae gan Tata enw da yn fyd-eang. Bydd colli’r enw da hwnnw’n gostus iddynt, ac maent yn gwybod hynny. Felly, yn fy marn i, beth bynnag yw’r canlyniad—a’r canlyniad rwyf fi eisiau yw dyfodol cynaliadwy a diogel—bydd angen i Tata ddangos eu bod wedi rhoi chwarae teg i’r gweithlu a’u bod wedi creu’r amodau a fydd yn golygu bod dyfodol i’r diwydiant. Ac fel y dywedais, mae’r enw da hwnnw yn werth rhywbeth iddynt. Roeddent yn pwysleisio hynny wrthyf yn y cyfarfodydd y maent wedi’u cael.
Mae’r ffaith fod yr amserlen wedi ymestyn yn galonogol i’r graddau ei fod yn golygu bod Tata yn edrych o ddifrif ar y ceisiadau, yn fy marn i, ond fel y bydd yn gwybod, mae nifer o rwystrau sy’n rhaid eu goresgyn eto. Mae’r gefnogaeth a gynigiwn fel Llywodraeth yn dal i fod yno. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â dau o’r cynigwyr ac wedi gwrando ar eu cynlluniau, ac yn fy marn i, mae’r ddau gynigydd fel ei gilydd o ddifrif ynghylch eu cynigion. Rwy’n dweud unwaith eto ei bod yn bwysig i Tata roi ystyriaeth lawn i’r cynigion, a’u bod yn anelu i werthu’r asedau am bris teg a sicrhau dyfodol i’n cymunedau dur, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried y tymor hir, yn hytrach na meddwl bod ateb tymor byr yn gadarn, gan nad yw hynny’n wir. Mae angen i ni feddwl, nid am yr ychydig fisoedd nesaf, na’n wir am y ddwy neu dair blynedd nesaf, ond am y ffordd rydym yn adeiladu’r dyfodol i’n diwydiant dur ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt.
Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, a’r datganiadau blaenorol a wnaethoch i’r tŷ hwn, yn amlwg, y datganiadau ysgrifenedig a llafar. Rwy’n eich canmol am fynd allan i Mumbai, gyda Sajid Javid, a sefyll yno fel dwy Lywodraeth ysgwydd yn ysgwydd i ofyn am sicrwydd gan Tata Steel. Byddwn yn falch o ddeall yn union ar ba lefel y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny rhyngoch chi a Tata Steel, er mwyn i hynny, wrth gwrs, ar y sicrwydd a roddwyd, allu rhoi rhywfaint o eglurder i ni ynglŷn â pha lefel o fewn y cwmni roeddent yn trosglwyddo’r sicrwydd hwnnw yn ôl i chi, oherwydd rwy’n credu ei bod yn hanfodol i ni ddeall y strwythur y mae Tata yn ei ddefnyddio, (a) i werthuso’r cynigion a (b) i sicrhau canlyniad llwyddiannus o’r broses hon.
Rwy’n anghytuno â sylwadau’r siaradwr blaenorol am safbwyntiau Llywodraeth y DU a tharo bargeinion drwy’r drws cefn. O’r Prif Weinidog i lawr, credaf fod pawb wedi siarad am ddiogelwch hirdymor a phwysigrwydd y diwydiant dur yma yn y Deyrnas Unedig i economi’r DU o ddiwydiant dur, yn hytrach na chynnal rhywbeth am dair neu bedair wythnos yn unig. O ystyried ymrwymiad y Prif Weinidog, Sajid Javid, a Llywodraeth y DU, ynghyd â Llywodraeth y Prif Weinidog ei hun, rwy’n credu bod yna barodrwydd i wneud yn siŵr fod hon yn fargen hirdymor yn hytrach na rhywbeth a fydd yn llosgi’n ddim ar ôl cyfnod byr iawn. Yn wir, roedd llawer o’r sylwadau mewn datganiadau blaenorol yn ymwneud â’r union faterion hynny, nad ydym yn dymuno gweld prynwr yn mynd i unrhyw un o’r safleoedd hyn—gan nad yw’n ymwneud â Phort Talbot yn unig, mae yna lawer o safleoedd eraill yng Nghymru a hefyd ar draws y DU—a datgymalu’r safleoedd a gostwng allbwn y safleoedd hynny. Rwy’n gobeithio eich bod wedi cael sicrwydd gan Tata eu bod, wrth werthuso’r ceisiadau, yn anelu i sicrhau dyfodol hirdymor pob un o’r safleoedd, ac yn wir, natur integredig y gwaith sydd ganddynt yma yn y Deyrnas Unedig, gan fod llawer o’r safleoedd lloeren, gawn ni ddweud, yn amlwg yn dibynnu ar gadw gwaith Port Talbot ac ar wneud yn siŵr fod allbwn yn parhau ar y lefelau cynhyrchu presennol a lefelau cynyddol yn y dyfodol.
Felly, byddwn yn ddiolchgar hefyd, pe bai Tata yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi ynglŷn â hyfywedd y cynigion a ddaeth i law—. Fe ddywedoch fod saith cynnig ar y bwrdd ac rwy’n gwerthfawrogi bod yna gytundebau peidio â datgelu yno am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd, ond a ydych mewn sefyllfa i roi rhagor o eglurder ynghylch cryfder y cynigion hynny a dynameg y cynigion, yn benodol ynghylch y dull cwmni cyfan o weithredu, neu a yw cryn dipyn o’r cynigion hynny ond yn edrych ar y gwahanol opsiynau ar eu pen eu hunain?
Hefyd, hoffwn wybod gan y Prif Weinidog ynglŷn â’r gwaith y mae ei Lywodraeth yn arbennig wedi’i wneud ynglŷn ag ardrethi busnes. Rydych wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio ailwerthuso’r sail y gallent fod yn gweithio gyda—arni, dylwn ddweud—ar gyfer cyflwyno pecyn ardrethi busnes gwell. Oherwydd eich dealltwriaeth, y tro diwethaf i chi annerch y tŷ hwn, oedd mai pecyn bach iawn fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu ei gynnig, ond rwyf wedi gweld yn y wasg ac wedi eich clywed yn dweud o’r blaen fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith, ac rwy’n tybio mai’r gwaith hwnnw yw trafod gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a thrafod gyda Llywodraeth San Steffan pa fath o becyn gwell y gallech ei gyflwyno, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a wnaed rhagor o gynnydd ar y pecyn ardrethi busnes y gallech fod yn ei gyflwyno.
Hoffwn wybod hefyd: beth y mae’r ymadrodd ‘dur wedi’i ddympio’ yn ei olygu i’r Prif Weinidog? Mae nifer o’r Aelodau yn y tŷ hwn ac yn y wasg wedi canolbwyntio’n llwyr ar agweddau Tsieineaidd ar ddympio dur, er bod dur wedi’i ddympio o Rwsia ar y farchnad, a dur wedi’i ddympio o Dde Corea hefyd. A oes yna ddealltwriaeth bron, pan fyddwch yn ymdrin â chontractau—gan eich bod yn sôn yn eich datganiad am ei wneud yn rhan o derminoleg contractau a’r disgwyliad na fyddai dur wedi’i ddympio’n cael ei ddefnyddio yng nghontractau’r Llywodraeth? A ydych yn bod yn wlad-benodol? A oes yna gategori rydych yn canolbwyntio arno? Credaf fod hynny’n bwysig i’w wybod hefyd.
O ran y pensiynau a’r rhwymedigaethau pensiwn, rwy’n credu y byddai pawb yn cytuno â’r teimlad a nodwyd gennych yn eich datganiad, Brif Weinidog. Dyma faes sy’n llawn o heriau, ond rydym yn deall, yn amlwg, fod rhwymedigaethau pensiwn yn rhwystr mawr—i unrhyw brynwr llwyddiannus ysgwyddo’r rhwymedigaeth honno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar yr iaith a ddefnyddioch yn eich datganiad i ddeall yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll mewn perthynas â’r cynigion sydd yn yr ymgynghoriad ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad penodol yn ffurfiol er mwyn cynorthwyo i liniaru rhai o’r rhwymedigaethau hynny ar gyfer unrhyw rai sy’n prynu’r safleoedd yn y dyfodol fel y gellir meddiannu’r safleoedd a gwarantu cynhyrchiant a sicrwydd swydd i’r gweithwyr ar y safleoedd, pa un a ydynt yn safle-benodol neu’n wir ar draws y diwydiant dur yn ei gyfanrwydd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn a ofynnodd am yr ymgynghoriad ac yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r ymgynghoriad hwnnw. Rwy’n credu bod angen i ni wybod yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ar yr ymgynghoriad hwnnw a beth yw opsiwn dewisol Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn rhan mor annatod o gwblhau gwerthiant y gweithfeydd dur yn llwyddiannus.
Yr un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud hefyd yw eich bod yn cyffwrdd yn eich datganiad ar y cyfleoedd ailhyfforddi. Crybwyllwyd hyn gan David Rees, yr Aelod dros Aberafan. Yn anffodus, beth bynnag fydd canlyniad y broses werthu, bu diswyddiadau ar y safleoedd—yn enwedig Port Talbot—a chyhoeddwyd diswyddiadau ar safleoedd dur eraill—Llanwern yn arbennig. Mae’n bwysig deall bod y pecynnau hyfforddi a roddwyd ar waith yn bodloni gofynion y rhybuddion diswyddo a gyflwynwyd a’r gweithwyr fydd angen eu cadw a’u cynorthwyo. A ydych yn hyderus y bydd y pecynnau sydd ar waith yn diwallu anghenion y gweithwyr hynny ac yn benodol, mewn ffordd a fydd yn eu cael yn ôl i gyflogaeth mewn modd amserol? Diolch, Brif Weinidog.
Diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei gwestiwn. Roedd y cyfarfod a gefais ym Mumbai gydag uwch weithredwyr ac un aelod o fwrdd Tata. Parhaodd y cyfarfod am beth amser. Archwiliwyd nifer o faterion gennym, ac un ohonynt, er enghraifft, oedd pa gymorth pellach y gellid ei gynnig gydag ardrethi busnes ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn edrych arno. Yr anhawster, wrth gwrs, yw sut rydych yn teilwra cymorth i un fenter benodol heb agor y drws i bobl eraill hefyd, a sut rydych yn creu sefyllfa fel yna yn deg ac mewn modd fforddiadwy. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau.
O ran dur wedi’i ddympio, byddwn fel arfer yn diffinio hynny fel dur sy’n eithaf aml yn cael ei werthu ar farchnad yn is na’r gost o’i gynhyrchu, weithiau drwy gymhorthdal refeniw a ddarperir gan y llywodraeth lle caiff y dur ei gynhyrchu, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond sydd wedyn yn gwerthu’n rhatach na chynhyrchiant dur mewn marchnad benodol nad yw’n denu cymhorthdal refeniw. Dyna un o’r diffiniadau y gallwch ei roi i ddur wedi’i ddympio. Gwyddom fod y broblem sydd wedi digwydd yn y farchnad fyd-eang yn deillio o arafu economi Tsieina. Mae’r Tsieineaid wedi cynhyrchu dur na all eu heconomi eu hunain ei amsugno ac felly maent yn ei werthu mewn marchnadoedd eraill, ac mae hynny’n achosi i bris dur y byd ddisgyn, sy’n golygu mai’r mentrau dur gyda’r amodau mwyaf anodd a heriol sydd wedi’i chael hi anoddaf. Yn y DU, gwyddom fod prisiau ynni yn uchel, mae’r bunt, er ei bod bellach yn disgyn yn eithaf cyflym, wedi bod yn uwch nag erioed, sydd wedi’i gwneud hi’n anodd allforio ac wrth gwrs, y trefniadau tariff a roddwyd ar waith gan farchnadoedd eraill o amgylch y byd.
Ar bensiynau, nid ydym eto wedi rhoi ein barn ar beth fyddai ein dewis gorau. Yn wreiddiol, yr argymhelliad a wneuthum oedd, pe bai prynwr newydd yn dod i mewn, yna byddid yn ymdrin â’r cynllun pensiwn mewn ffordd debyg i’r ffordd yr ymdrinwyd â chynllun pensiwn Glo Prydain er mwyn gwneud glo yn fwy deniadol ar gyfer preifateiddio; mewn geiriau eraill, ei dynnu allan o’r hafaliad er mwyn i Lywodraeth y DU gael cyfran—a gwyddom fod Llywodraeth y DU yn gwneud yn eithaf da o’r pensiwn hwnnw ar hyn o bryd—er mwyn gwarantu buddion y bobl yn y cynllun pensiwn, ond hefyd er mwyn cael gwared ar y cynllun pensiwn o’r hafaliad i brynwr newydd. Byddwn yn dadlau ei bod yn llawer mwy cymhleth os yw’r gwaith yn parhau o dan yr un perchennog. Mae’n gywir dweud mai’r ymddiriedolwyr a ofynnodd am yr adolygiad—rhaid iddynt wneud hynny o dan y gyfraith, a dyna pam y dechreuodd y broses.
Rwy’n meddwl fy mod wedi rhoi rhai manylion am yr hyn a wnaed i helpu pobl sy’n cael eu diswyddo. Er nad yw’r union ffigurau gennym eto, mae’n ymddangos y bydd nifer sylweddol yn ymddeol yn gynnar, a byddant mewn oed i allu gwneud hynny. Hyd yn hyn, fel y soniais yn gynharach, mae rhai wedi derbyn cymorth. Ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y rhai nad ydynt yn dod i gael cymorth yn syth yn cael help yn y dyfodol, fel y dywedais yn gynharach yn y datganiad, dros y mis hwn a’r mis nesaf, bydd y cymorth hwnnw yn parhau i fod ar gael.
Cymeradwyaf y Prif Weinidog ar ei ddatganiad. Yn benodol rwy’n ategu’n frwd ei sylwadau am Roger Maggs, cadeirydd Excalibur a ffrind ysgol i mi flynyddoedd lawer yn ôl yn Nyffryn Aman. Ac rwy’n cymeradwyo popeth a ddywedodd Adam Price—cynnyrch nodedig arall o fy hen ysgol—yn ei ymateb i’ch datganiad hefyd am y gronfa bensiwn yn Tata.
Fe sonioch, funud yn ôl, y gellid ymdrin â hyn yn yr un modd ag yr ymdriniwyd â chronfa bensiwn Glo Prydain, ond y gwahaniaeth rhwng y ddau fater, wrth gwrs, yw bod diffyg yng nghronfa bensiwn Tata ac mae gwarged enfawr yng nghronfa bensiwn Glo Prydain, ac mae’r Llywodraeth wedi seiffno swm mawr iawn o arian oddi arni at ei dibenion ei hun.
Ni ellir caniatáu i Tata gerdded yn rhydd o’u cyfrifoldebau i weithwyr dur Port Talbot a mannau eraill. Mae’r gronfa bensiwn ar hyn o bryd yn werth tua £14.5 biliwn a cheir diffyg, rwy’n deall, o tua £500 miliwn. Nid dyma’r unig asedau y mae Tata yn berchen arnynt yn y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, maent yn berchen ar Jaguar Land Rover ac roedd elw Jaguar Land Rover am y flwyddyn ddiwethaf yr adroddwyd yn ei chylch yn £3.6 biliwn. Felly, gall Tata fforddio llenwi’r twll yn y gronfa bensiwn ddur ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yn iawn, ac rwy’n meddwl y dylid mynnu eu bod yn ysgwyddo’u cyfrifoldebau. Rwy’n sicr yn cymeradwyo’r pwynt a wnaeth Adam Price am berygl moesol.
Ategaf ymdrechion y Prif Weinidog yn frwd, gan gynnwys mynd i Mumbai, i geisio datrys yr argyfwng hwn, ond wrth gwrs, mae wedi’i gyfyngu gan y terfynau ar ei bwerau, fel yn wir y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan. Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad mai ei brif bryder oedd bod angen i gymunedau dur sicrhau diwydiant dur cynaliadwy hirdymor ar gyfer holl weithfeydd Tata yng Nghymru, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw’n gallu gwneud hynny am fod prisiau ynni yn wlad hon 50 y cant yn uwch nag mewn mannau eraill yn yr UE ac nid ydym wedi llwyddo i orfodi—[Torri ar draws.] Dogfen Unite ei hun sy’n dweud hyn—yr undeb llafur—felly gallwch gymryd eu gair hwy am hyn neu godi’r peth gyda hwy os ydych yn anghytuno. Ac o ran tariffau ar ddur, rydym wedi cael ymateb pathetig o annigonol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac ymateb hyd yn oed yn fwy pathetig o annigonol gan Lywodraeth y DU gan mai’r cyfan y mae Comisiynwyr yr UE yn ei argymell yw tariff o 24 cant, ond mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi tariff o 522 y cant ar ddur wedi’i rolio’n oer, sy’n elfen hanfodol o gynhyrchu ym Mhort Talbot.
Mae yna bosibilrwydd hefyd, wrth gwrs, y gellid dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer yr asedau dur hynny. Byddai Llywodraeth Prydain wedi’i chyfyngu’n druenus o ran faint o gymorth y gallai ei roi i brynwr newydd a byddai wedi’i chyfyngu hyd yn oed yn fwy os yw Tata yn cadw perchnogaeth oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Yn yr un modd, yn y datganiad, dywedodd y Prif Weinidog mewn perthynas â dogfennau contractau cludiant, fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fyddai unrhyw gontractwyr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnad dramor. Wel, nid yw disgwyliad, wrth gwrs, yn werth y papur y mae wedi’i argraffu arno. Nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Prydain i’w gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dur yn y wlad hon eithrio dur wedi’i ddympio o’r hyn a wnant.
Felly, yn anffodus, yr hyn rydym yn ei wynebu, oherwydd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yw bod y Llywodraeth naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd yn ddi-rym i allu gwneud y penderfyniadau sy’n hanfodol i barhau i gynhyrchu dur yn ne Cymru. Ac rwy’n ofni ein bod yn union fel ysbrydion yn y wledd. Rydym yn siarad yma heddiw fel pe baem yn gallu gwneud rhywbeth am y broblem hon, ond mewn gwirionedd, ni allwn wneud dim. Ar 23 Mehefin, cawn gyfle i wneud y penderfyniad sy’n rhoi liferi grym yn ôl yn nwylo Gweinidogion fel y Prif Weinidog yma yng Nghaerdydd ac yn wir y Prif Weinidog yn San Steffan.
Yn gyntaf oll, diolch i arweinydd UKIP am rai o’i sylwadau. Mae’n gywir, yn wir, ynghylch prisiau ynni. Rydym wedi bod yn dweud hyn wrth Lywodraeth y DU dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’n gywir dweud—rwyf wedi siarad â Celsa, er enghraifft, sydd wedi dweud wrthyf fod prisiau ynni yn yr Almaen 20 y cant yn is ac yn Sbaen, 37 y cant yn is. Pam? Dyna natur marchnad ynni’r DU. Dyna’r broblem; nid yw’n ddim i’w wneud â’r UE—mae’n ymwneud â’r ffordd y mae’r DU wedi ei strwythuro. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf, yn y bôn, yw eu bod yn cael cynnig tariffau a fyddai’n cael eu cynnig i ddefnyddwyr domestig. Yn yr Almaen a Sbaen ceir gostyngiadau i ddiwydiannau ynni-ddwys, ond nid yn y DU. Mae marchnad ynni’r DU yn ddirgel, yn anhydraidd ac nid yw’n dryloyw am ei bod yn gwbl glir fod prisiau ynni yn ddrutach yma. Nid fi’n unig sy’n dweud hynny; mae unrhyw ddiwydiant ynni-ddwys yn dweud hyn: maent yn rhatach mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae angen mynd i’r afael â hyn. Gwnaed rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth, ond nid yw’n ddigon, yn fy marn i.
Mae’n gywir i ddweud na ddylai Tata droi cefn ar ei gyfrifoldebau. Nid yw wedi nodi y bydd yn gwneud hynny. Mae wedi nodi i mi, wrth gwrs, fod ei enw da yn bwysig o amgylch y byd. Mae’r math o gymorth y gallwn ei gynnig yn hynod ddeniadol i unrhyw ddarpar brynwr—yr arian y gallwn ei roi ar y bwrdd fel Llywodraeth Cymru; yr adnoddau sylweddol y gall Llywodraeth y DU eu rhoi ar y bwrdd hefyd. Mae’r rhain i gyd yn cydymffurfio’n berffaith â rheolau cymorth gwladwriaethol. Yr hyn na allwn ei wneud yw cynnig cymhorthdal refeniw parhaus—mae hynny’n wir—ond mae’n rhaid i ni gofio, yn y pen draw, fod dur angen marchnad. Nid yw’r DU yn ddigon mawr i ddarparu marchnad ar ei phen ei hun ar gyfer dur Prydain. Pe baem y tu allan i’r farchnad Ewropeaidd, byddai’r rhwystrau tariff yn codi a byddai hynny’n golygu y byddai dur o Brydain yn ddrutach wrth iddo ddod i mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Nodais yr hyn a ddywedodd yr Athro Patrick Minford—dyna’r eilwaith i mi ei grybwyll yn y Siambr hon heddiw—pan soniodd mai ei ddull ef o fynd ati fyddai na ddylai fod unrhyw rwystrau o gwbl i nwyddau ddod i mewn i’r DU. Ni fyddai ganddo unrhyw dariffau ar unrhyw beth sy’n dod i mewn i’r DU, hyd yn oed os yw gwledydd eraill yn gosod rhwystrau tariff eu hunain. Nid wyf yn credu bod hynny’n synhwyrol—. Mae’n rhywun sy’n cael ei gyflwyno fel economegydd ar ran yr ymgyrch dros adael yr UE. Dyna’i farn ef; nid wyf yn cytuno â’r farn honno. Yn fy marn i, mae angen i chi gael mynediad at gymaint o farchnadoedd mawr ag y bo modd, a byddai gadael yr UE, yn enwedig gyda dur, yn creu risg o osod tariffau sylweddol rhag i ddur Prydain fynd i mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Cawn y ddadl honno eto. Nid yw’n ddadl y mae Tata wedi’i defnyddio wrth gwrs; eu barn hwy yw eu bod yn waith Ewropeaidd. Yn wir, mae llawer o’r asedau yng Nghymru, fel Shotton, er enghraifft, yn cysylltu’n agos iawn â gweithfeydd mewn mannau eraill yn Ewrop, a byddai hynny’n eithaf anodd ei ddatod. Yr hyn sy’n gywir i’w ddweud yw bod yr holl weithfeydd yng Nghymru yn gysylltiedig â Phort Talbot.
Un o’r pryderon oedd y byddai ymgais i ddewis y gorau o blith y gweithfeydd hynny—y byddai gweithfeydd fel Orb, fel Llanwern, fel Shotton, fel Trostre, y felin rolio ym Mhort Talbot, sy’n gwneud arian, y byddai’r rheini yn cael eu dewis ac y byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn mynd. Ond fel y dywedais yn y Siambr hon o’r blaen, y gwirionedd yw mai dur o Bort Talbot sy’n cyflenwi’r holl weithfeydd hynny. Byddai’n cymryd tua chwe mis iddynt ddod o hyd i ffynhonnell o ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, maent yn dibynnu ar stociau, maent yn mynd i fod yn diswyddo pobl ac maent yn mynd i ddechrau colli cwsmeriaid. Felly, maent yn dibynnu ar Bort Talbot i wneud dur i gyflenwi’r gweithfeydd hyn. O’n safbwynt ni, i ailbwysleisio hyn, rydym o’r farn y dylai holl asedau Tata yng Nghymru gael eu prynu fel pecyn ac na ddylid dewis y gorau’n unig.
Cwestiynau cryno o hyn ymlaen ac efallai y gallaf fynd drwy bob un o’r naw siaradwr. Hannah Blythyn.
Diolch. Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf, Brif Weinidog. Mae llawer o fy etholwyr mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint yn pryderu’n ddealladwy am ddyfodol y safle yn Shotton ac yn ofni ei fod yn aml yn mynd ar goll yn yr holl benawdau.
Mae gan Shotton ddau fusnes llwyddiannus, hyfyw a phroffidiol sydd wedi codi, bron fel ffenics o ludw’r diswyddiadau torfol yn y 1980au na welwyd eu tebyg cyn hynny. Mae gan Shotton ddyfodol disglair gyda’r gefnogaeth gywir, ac ar y nodyn hwnnw, rhaid i mi ganmol yr arweinyddiaeth rydych wedi’i dangos ar hyn ac mae’r arweinyddiaeth honno, rwy’n gwybod, yn cael ei chydnabod gan y gweithlu yno. Rwyf wedi cydgysylltu cyfarfodydd â rheolwyr a’r undebau llafur ar safle Shotton ac yn adnabod y gweithlu hyblyg, gweithgar a medrus iawn. Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi barhau i sicrhau nad yw Shotton yn cael ei anghofio a bod y gweithlu yno yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn?
Gallaf roi sicrwydd pendant fod hynny’n wir am Shotton, am Drostre ac yn wir, y gwaith yng Nghasnewydd hefyd. Gwn fod rhywfaint o ofn ymhlith y gweithwyr hynny, pa bryd bynnag y siaredir am ddur, mai am Bort Talbot y sonnir bob amser. Yno mae’r cyflogwr mwyaf, wrth gwrs, ond gwyddom fod ein holl weithfeydd dur yng Nghymru yn hynod o bwysig a gwyddom eu bod yn gyd-ddibynnol. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi ymweld â Shotton yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad; gwnes yr un peth gyda’r holl weithfeydd ledled Cymru a byddaf yn parhau i wneud yn siŵr fod y diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei weld fel un diwydiant cyfan sy’n rhaid ei brynu yn ei gyfanrwydd, a’i ddatblygu, a buddsoddi ynddo yn y dyfodol.
Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am gyflwyno’r datganiad hwn ac rwy’n cytuno â rhai o’r sylwadau sydd wedi’u crybwyll yma heddiw, er y byddwn yn hoffi dweud, mewn perthynas â dympio dur, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod mesurau pellach ar ddympio dur o’r blaen, ac felly, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddech yn disgwyl gwrthwynebiad ar y lefel honno. Felly, ni allaf ddeall y rhesymeg yn y ddadl heddiw fod Llywodraeth y DU rywsut yn fwy cefnogol i osod tariffau uwch ar ddur o Tsieina.
Yr hyn sy’n peri pryder arbennig i mi yw’r cynsail y gallai Llywodraeth y DU fod yn ei osod gyda’r gronfa bensiwn, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae’r ddadl ynghylch perygl moesol yn un a ailadroddwyd droeon gyda Gweinidogion a’u swyddogion wrth ymdrin ag achosion ASW a Visteon, a’r cyfan yn ofer—disgynnodd ein rhybuddion ar glustiau byddar yn Whitehall.
Ond roeddwn eisiau canolbwyntio’n fyr ar y ddynameg fewnol yn Tata fel y soniodd gweithwyr dur wrthyf amdani. A yw’r Prif Weinidog wedi clywed bod swyddogion o Tata Europe wedi mynychu cyfarfod neuadd y dref ym Mhort Talbot yn y pythefnos diwethaf, lle codasant ar eu traed i feirniadu’r gweithlu’n hallt, gan beri i’r ddirprwyaeth ar ran yr undebau llafur godi a cherdded allan? Mae’n ymddangos mai dyma’r pryder diweddaraf ynghylch arweinyddiaeth Tata Europe a’i hymddygiad cyn ac yn ystod y cyfnod hwn.
Fe fyddwch yn gwybod ei bod yn cynnwys rheolwyr Hoogovens yn bennaf—y cwmni a gafodd ei achub i bob pwrpas rhag mynd yn fethdalwr drwy uno Corus a Dur Prydain. Ers i Tata brynu Corus, mae gweithwyr dur yn dweud bod gwaith IJmuiden wedi cael y rhan fwyaf o’r buddsoddiad, gan gynnwys yr un math o fuddsoddiad y mae Plaid Cymru wedi’i grybwyll mewn perthynas â gorsaf ynni newydd, yn bennaf oherwydd y rheolwyr o’r Iseldiroedd a’r dylanwad sydd ganddynt. A yw hynny’n rhywbeth rydych chi wedi’i glywed, Brif Weinidog?
Hefyd, honnwyd bod sefyllfa ariannol Port Talbot wedi’i gwneud i edrych yn waeth nag oedd hi i bob pwrpas, gan fod cost deunyddiau ar gyfer y ddau safle gwneud dur wedi’u harchebu ar gyfer Port Talbot yn unig. Felly, clywais am un enghraifft o lwyth o fwyn haearn a arhosodd yng Nghymru yn gyntaf cyn mynd i’r Iseldiroedd, gyda’r gost gyfan yn cael ei thalu gan safle Port Talbot. A yw hynny’n rhywbeth rydych wedi’i glywed, Brif Weinidog?
Wedyn, wrth gwrs, daw fy nghwestiwn at y llyfr archebion. Cyn belled ag y gwyddom, mae hwn wedi’i ganoli yn yr Iseldiroedd. Mae hyn yn destun cryn bryder i fy etholwyr sy’n ei weld fel cyfle i Tata Europe ddewis y contractau gorau er nad ydynt, fel rwy’n clywed, yn gallu cyflawni rhai ohonynt, gan adael Port Talbot a gweddill y gweithfeydd yn y DU i fethu. Felly, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi holi ble mae’r llyfr archebion ac wedi cwestiynu’r rhesymeg dros ei symud i’r Iseldiroedd, ac a wnaed ymdrechion gennych chi neu eich swyddogion i ddychwelyd y llyfr archebion cyn unrhyw werthiant posibl. A oes gennym sicrwydd gan y cwmni ei fod yn barod i agor ei lyfrau i ddarpar brynwyr ar gyfer cyfnod diwydrwydd dyladwy unrhyw werthiant? Rwy’n meddwl bod y rhain yn gwestiynau sydd angen eu hateb, er mwyn y gweithlu yn arbennig, sydd wedi crybwyll y pwyntiau hyn wrthyf, ond hefyd er mwyn y diwydiant dur ehangach yma yn y DU.
Rwyf wedi clywed llawer o’r sylwadau y mae’r Aelod wedi’u gwneud, fel mater IJmuiden. Nid oeddwn yn ymwybodol o’r cyfarfod yn neuadd y dref, er fy mod wedi clywed rhywbeth am yr hyn a oedd wedi digwydd, ond nid oeddwn yn ymwybodol mai ym Mhort Talbot y digwyddodd hynny. Rwyf wedi clywed bod Port Talbot wedi cael ei wneud i edrych yn waeth nag y mae. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, ond rwyf wedi clywed hynny’n cael ei ddweud. Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod yna broblemau gyda’r porthladd, ac yn benodol y ffïoedd a godir gan y cwmni sy’n berchen ar y porthladd. Pam yn y byd y mae busnes ar wahân yn berchen ar y porthladd o gymharu â’r gwaith dur, dim ond y Torïaid yn yr 1980au allai esbonio hynny i chi, ond dyna yw’r sefyllfa yn y fan honno serch hynny. Soniwyd wrthyf am broblemau gyda’r taliadau yn y porthladd. Felly, mae yna nifer o faterion wedi codi lle nad oes ateb hawdd.
O ran y llyfr archebion, wel, wrth gwrs, byddai’n rhaid i unrhyw brynwr roi diwydrwydd dyladwy ar waith beth bynnag. Nid oes neb yn mynd i brynu asedau neu brynu busnes heb edrych ar y llyfrau. Mae’n deg dweud y cafwyd buddsoddiad yn y diwydiant dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Gwelsom ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei hailadeiladu. Rydym wedi rhoi cynnig ar y bwrdd mewn perthynas â’r pwerdy. Buom yn gweithio gyda’r cwmni dair blynedd yn ôl yn edrych i weld a ellid tyllu cloddfa o fewn ffiniau’r gwaith dur. Felly, mae’r holl bethau hyn wedi cael eu harchwilio.
Mae ymchwil a datblygu yn fater arall. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth i ni edrych ar ddyfodol y diwydiant dur yn ystod y blynyddoedd nesaf, fod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Gwn fod Prifysgol Abertawe wedi dangos diddordeb yn hynny, ac rydym yn awyddus i weithio i sicrhau bod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Rydym wedi llwyddo dros y blynyddoedd diwethaf i ddenu mwy o ymchwil a datblygu i Gymru i ychwanegu at y gweithgynhyrchu a wnawn a bydd yr un peth yn bwysig ar gyfer dur yn y dyfodol.
Felly, mae’r holl waith hwn yn cael ei wneud. Cafodd llawer o’r materion a grybwyllwyd ganddi eu dwyn i fy sylw i ac eraill. Rwy’n clywed bod Port Talbot yn awr yn llwyddo i adennill costau ar ôl bod yn colli £1 miliwn y dydd dri mis yn ôl, sy’n newid cyfeiriad sylweddol, ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau, wrth i’r broses werthu fynd rhagddi, fod yna ddealltwriaeth o’r hyn yw’r sefyllfa ariannol go iawn mewn perthynas â’r diwydiant dur yng Nghymru.
Brif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yr Aelodau yn y Cynulliad hwn yn unig sy’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y drafodaeth gyda Tata, ond bod fy etholwyr a’r gweithwyr dur yn fy etholaeth mewn gwirionedd yn gwbl ymwybodol o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Roedd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn llygad ei le yn rhai o’i gwestiynau fod rhai o’r liferi hynny yn Llundain, yn anffodus, ac mae rhai o’r pryderon sydd gennym—a daethant at hyn yn hwyr yn y dydd, mae’n ddrwg gennyf ddweud—yn ymwneud â hwy ac mae gwir angen i ni fynd i’r afael â hynny.
Amlygodd Bethan Jenkins un neu ddau o bwyntiau, nad wyf am eu hailadrodd, felly rwyf am osgoi hynny os gallaf. Ond mae cwestiwn yn codi ynghylch hyder y gweithlu yn Tata. Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg hyder llwyr ymhlith y gweithlu yn Tata. Rwy’n credu mai’r hyn y byddem yn ei ddymuno gan Lywodraeth Cymru yw sicrwydd y bydd yn gweithio gyda phrynwyr sy’n dod i mewn er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn yr holl weithfeydd eraill ar draws Cymru, i wneud yn siŵr fod dur yn dod ac yn parhau i fod yn ffactor pwysig yn strategaeth ddiwydiannol y DU.
A ydych wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU hefyd ar strategaeth ddiwydiannol? Cerddais gyda’r gweithwyr dur yn Llundain bythefnos yn ôl lle roeddent yn galw am strategaeth ddiwydiannol ar gyfer dur i Lywodraeth y DU, ac maent yn dal i’w gweld yn brin o ymdrech yn Llywodraeth y DU yn hynny o beth.
Fe sonioch am y porthladdoedd. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain ar y defnydd o’r porthladd a’r cysylltiad rhwng y porthladd a’r gwaith dur? Felly, mae’n fater o sut y gallwn weithio gyda Tata Steel neu ei brynwyr i sicrhau bod y mewnbynnau sy’n dod drwy’r dociau yn gallu gweithio mewn gwirionedd mewn pris arall effeithiol iawn?
Brif Weinidog, fe dynnoch chi sylw at y colledion hefyd. Rwyf innau hefyd wedi cael gwybod bod y colledion yn llawer is ac yn gweithio tuag at adennill costau, ac mae’n bosibl y bydd ffigurau mis Mai yn adennill costau mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awr yn cyrraedd sefyllfa mewn gwirionedd lle mae’r diwydiant yn dod yn gynnig hyfyw a deniadol i unrhyw brynwr, ac rwy’n credu mai dyna un o’r rhesymau pam y mae Tata bellach yn sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad mawr ym mis Ionawr pan wnaethant y cyhoeddiadau hynny, ac un mwy fyth ym mis Mawrth.
Ond gadewch i ni fynd yn ôl hefyd at y cwestiwn a ofynnais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â’r tasglu a’r gefnogaeth a roddir i’r gweithwyr sydd naill ai wedi colli eu swyddi ar y pwynt hwn, neu ar fin colli eu swyddi yn ystod yr wythnosau nesaf. A allwch roi sicrwydd nid yn unig fod y pecynnau hyfforddi ar waith, ond y bydd yna gyfleoedd gwaith? Oherwydd gallwn hyfforddi cynifer o bobl ag y dymunwn, ond os nad oes cyfleoedd iddynt gael gwaith yna’r cyfan fydd yn digwydd fydd eu bod, ymhen ychydig wythnosau, yn wynebu heriau gwneud dim ond eistedd gartref. Mae angen i ni sicrhau bod yr ardal fenter yn dod yn weithfan lwyddiannus, fod y pecynnau a’r ffrydiau gwaith y buom yn sôn amdanynt gyda’r tasglu ar gyfer edrych ar fusnesau yn denu buddsoddiad a swyddi mewn gwirionedd fel bod y bobl hynny, ar ôl cael eu hyfforddi, yn gallu cael gwaith. Mae hynny’n hollbwysig iddynt. Y peth olaf y maent am ei wneud yw cael eu hyfforddi a dychwelyd i’w cartrefi wedyn heb swydd. Mae’n hanfodol eu bod yn cael yr urddas hwnnw.
Ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda’n ASEau a’r elfennau Ewropeaidd? Oherwydd fe wrthododd Senedd Ewrop y ddadl ar statws economi’r farchnad yn bendant iawn, ac roeddwn yn siomedig o glywed pa mor negyddol oedd arweinydd UKIP ynglŷn â dur go iawn. Mae yna lawer o agweddau cadarnhaol yn ein tref, mae yna lawer o uchelgais a gobaith yn ein tref, ac nid ydym am weld y darluniau negyddol sy’n cael eu cynhyrchu gan y blaid honno.
Nawr, y cwestiwn arall am Roger Maggs—roeddech yn ei ganmol, ond wrth gwrs, mae hefyd yn gadeirydd yr ardal fenter. A allwch roi eglurhad i ni ynglŷn â’r gwahaniad rhwng y ddwy swyddogaeth sydd ganddo, gydag Excalibur a’r ardal fenter, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd ac mewn modd cadarnhaol?
Y pwynt olaf, Brif Weinidog: rwyf am eich canmol am yr arweinyddiaeth rydych wedi’i rhoi dros y cyfnod hwn. O ystyried yr ymgyrch etholiadol, pan oedd ei hangen arnom, yn sicr fe ddangosoch yr arweinyddiaeth gref roeddem ei hangen yn ein tref a’n hetholaeth. Fe ddangosoch i weddill y DU beth y gellir ei wneud. Rwyf ond yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn eich esiampl.
Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am y geiriau caredig ac a gaf fi ymateb drwy ddweud ei fod wedi bod yn ymgyrchydd pybyr a brwd dros y bobl y mae’n eu cynrychioli? Rwy’n gwybod hyn fy hun drwy’r galwadau ffôn hwyr y nos a gefais ganddo, ac mae’n rhywun sydd wedi bod yn awyddus iawn i ddiogelu eu buddiannau.
Rwy’n credu ei fod yn gwbl gywir i ddweud bod yna ddiffyg hyder ymhlith gweithwyr Tata—sut y gallai beidio â bod—oherwydd mae’r dyfodol yn ansicr o hyd. Nid oes neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, ac mae pobl yn siŵr o deimlo ansicrwydd, heb wybod beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig.
O ran strategaeth ddiwydiannol, nid yw hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyflwyno. Maent wedi canolbwyntio ar y mater dan sylw. Rwy’n meddwl ei bod yn iawn dweud y gallent fod wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd yn gyflymach. Wedi dweud hynny, rwy’n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn ceisio dod o hyd i ateb ac yn sicr, mae Sajid Javid wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â mi er mwyn esbonio’r hyn y mae wedi bod yn ei wneud, felly mae’n rhaid i mi gydnabod hynny. Hynny yw, roedd yn eithaf rhyfeddol, drwy’r ymgyrch etholiadol ar ei hyd, ni wnaed unrhyw elw gwleidyddol o’r mater mewn unrhyw ffordd, ac rwy’n credu bod hynny’n adlewyrchu’r hyn y byddai pobl Port Talbot ei eisiau—y pleidiau gwleidyddol yn gweithio gyda’i gilydd yn drefnus i ddod o hyd i ateb i bawb.
O ran Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, nid yw’r porthladdoedd wedi’u datganoli eto, wrth gwrs, ond fe fyddant. Mae’n rhyfedd fod gennym borthladd ym Mhort Talbot sydd i bob pwrpas ond yn bodoli ar gyfer y gwaith dur, ac a fyddai mewn byd rhesymol, yn eiddo i’r cwmni sy’n berchen ar y gwaith dur. Nid felly y mae. Felly, i bob pwrpas, nid oes llawer iawn o ddewis heblaw dod â’r glo a’r mwyn haearn i mewn drwy’r porthladd. Yn realistig, ni all fynd i unrhyw le arall. Dywedwyd wrthyf, gan un o’r cynigwyr yn bendant, fod pryder ynghylch y gost o ddefnyddio’r porthladd. Nid yw’n ddefnyddiol o ran y dyfodol, ac mae hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi’i ddweud, ac roeddent yn cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain i wneud yn siŵr fod y porthladd yn rhesymol o ran yr hyn roedd yn ei godi i ddod â deunyddiau crai drwyddo.
Wrth gwrs, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Derek Vaughan. Mae’r Aelod yn gywir i ddweud nad yw statws economi marchnad wedi’i gytuno mewn perthynas â Tsieina am nifer fawr o resymau. Gofynnodd, wrth gwrs, am y bobl y mae hyn yn effeithio arnynt—cymorth yn enwedig. Rwyf wedi amlinellu eisoes beth sydd ar gael. Mae’n iawn dweud bod angen datblygu’r ardal fenter yn gyflym—rydym yn cydnabod hynny—ac mae’n iawn dweud bod y sgiliau’n bwysig, ond hefyd mae’r swyddi sy’n briodol i’r sgiliau hynny yn bwysig. I gyflawni hynny y cynlluniwyd yr ardal fenter. Hyd yn hyn, mae’r niferoedd sy’n dod ymlaen wedi bod yn eithaf isel, gan adlewyrchu, rwy’n credu, sefyllfa lle mae llawer o’r rhai sydd wedi dewis diswyddo gwirfoddol yn awyddus i ymddeol, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a oes pobl yn dal i fod heb ddod ymlaen eto i gael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Byddwn yn barod i helpu’r bobl sy’n gweithio ym Mhort Talbot ac mewn rhannau eraill o’r diwydiant yng Nghymru i’w helpu i ailhyfforddi a chael y swyddi sydd eu hangen arnynt.
Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, yn enwedig eich sylwadau ynglŷn â chaffael. Yn eich datganiad fe sonioch am ymrwymiad i ddiwydiant dur cynaliadwy hirdymor ac fe gadarnhaoch i Neil Hamilton, yn ddiweddarach yn y ddadl heddiw, fod hynny’n cynnwys yr hyn a alwoch yn ben trwm y gwaith ym Mhort Talbot. Eto i gyd, ychydig ddiwrnodau yn ôl yn ‘The Guardian’ adroddwyd nad oedd unrhyw un o’r cynigwyr yn gwarantu dyfodol hirdymor ar gyfer Port Talbot a’u bod yn chwilio am arian parod gan Tata yn ogystal â gan y ddwy Lywodraeth. A ydych chi’n credu felly na ddylai unrhyw gais nad yw’n cynnwys dyfodol i’r ffwrneisi chwyth oroesi asesiad y broses geisiadau sy’n cael ei chynnal gan Tata ar hyn o bryd?
Fe ddywedoch hefyd yn eich datganiad mai blaenoriaeth Tata yw cynnal gwerthiant. Mae’n fy mhoeni eu bod wedi cadarnhau wrthych, ac fel y sonioch yn y ddadl a gynhaliwyd gennym yn ystod y toriad, fod Tata wedi dweud wrthych y byddai’n llawer gwell ganddynt beidio â gwerthu. Dywedasant wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, mor bell yn ôl â’r Nadolig, rwy’n meddwl, eu bod yn bwriadu gwerthu ac yn awr, hyd yn oed yr wythnos hon, mae Tata yn dynodi efallai nad ydynt am werthu Port Talbot wedi’r cyfan. Rwy’n rhannu barn Aelodau eraill yn y Siambr hon ynglŷn ag anniffuantrwydd Tata, efallai, os gallaf ei alw’n hynny. Felly, yn eich trafodaethau adeiladol ac arwyddocaol, fel rydych yn eu galw, a’ch awgrym eich bod yn barod i gefnogi unrhyw gynigydd, a allai gynnwys Tata wrth gwrs, gan gofio eu bod wedi nodi efallai y byddant am ddal gafael ar ran o’r gwaith yma yng Nghymru, pa eglurder a gwarantau rydych wedi’u sicrhau, neu’n debygol o sicrhau, o ystyried y ffaith eich bod yn barod i ymrwymo £60 miliwn neu fwy o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei wario mewn mannau eraill, pan fuoch yn siarad â’r cyrff hynny?
Yna’n drydydd, os oes gennych amser i ateb hyn, wrth dargedu cymorth swyddi, pa sgyrsiau penodol a gawsoch gyda bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe ynghylch nodi natur wedi’i thargedu y cynnig y mae’r ymgysylltiad â’r tasglu wedi gallu ei ddarparu hyd yn hyn? Oherwydd, yn amlwg, nid edrych am unrhyw swydd y byddem yn ei wneud ar gyfer y gweithwyr dur hyn, ond swyddi sydd â dyfodol iddynt hefyd.
O ran y cwestiynau a ofynnwyd, o ran y pen trwm, mae’r ddau gynigydd y bûm mewn cysylltiad â hwy yn dymuno cadw’r pen trwm. Mae ganddynt ymagweddau gwahanol tuag ato, ac mae hyn yn gyhoeddus—mae’n hysbys fod un o’r cynigwyr am edrych ar y defnydd o sgrap yn y dyfodol, yn hytrach na mwyn haearn. Byddai’r cynigydd arall yn cadw’r broses fel y mae. Er hynny, byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn parhau. Mae’n gwestiwn anoddach, rwy’n meddwl, os gofynnir i gynigwyr warantu y bydd pob swydd yn aros. Nid wyf yn credu y gall cynigwyr gynnig sicrwydd o’r fath ar hyn o bryd, ond gallant gynnig y sicrwydd—y ddau rwyf wedi siarad â hwy—y bydd y pen trwm yn parhau, ac mae hynny’n hynod o bwysig. Oherwydd os yw’r pen trwm yn mynd, ni fydd byth yn cael ei adfer. Nawr, pan fydd cyflwr y farchnad yn parhau i wella, mae’n bosibl cyflogi mwy o bobl wedyn, ac mae hynny’n bwysig. Felly, mae diogelwch yno i’r pen trwm.
Ni fyddem yn cefnogi cynnig a fyddai, mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys rhoi diwedd ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot oherwydd dyna ble mae rhan sylweddol o’r gwaith, ac yna bydd yn cael effaith niweidiol ar weddill y gweithfeydd o amgylch Cymru mewn perthynas â thunplat, Tata Steel Colors ac arbenigwyr fel Orb yn Llanwern.
Cyn y Nadolig, mewn cyfarfod a gefais, fe’i gwnaed yn glir i mi nad oedd gwerthiant yn debygol—a’i fod yn fater o fwrw ymlaen neu gau. Ar ôl y Nadolig, newidiodd y sefyllfa. Gwell hynny na chau, mae hynny’n wir, ond mae’n iawn dweud y bu newid meddwl yn Tata ar yr adeg honno. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gwerthiant yn debygol. Cyn y Nadolig, yr arwyddion oedd bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i adroddiad McKinsey ac y byddid yn edrych o ddifrif ar newid cyfeiriad. Ni awgrymwyd cyn y Nadolig fod cau’n debygol, os gallaf ei roi felly, ond yn sicr nid oedd gwerthiant yn debygol ar unrhyw adeg cyn yr amser hwnnw. Rydym yn gwybod mai dyna sy’n digwydd nawr.
Wrth gwrs, mae’r pecyn rydym wedi’i roi ar y bwrdd wedi’i fwriadu yn bennaf ar gyfer cynigwyr newydd. Roedd hynny ar adeg pan na chredid y byddai Tata am aros beth bynnag. Nid oes amheuaeth y bydd angen rhoi rhai gwarantau o ran unrhyw help gan y Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru. Ni allwn roi arian ar y bwrdd a gweld, mewn blwyddyn neu ddwy, fod arian wedi diflannu i bob pwrpas oherwydd bod yr asedau’n cael eu lleihau o ran nifer swyddi ac o ran cynhyrchu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i Lywodraeth y DU ag i ninnau. Ac rydym yn cydnabod hynny, a bod yn deg, gan y byddai angen gwneud hynny.
Os daw cynigydd newydd gerbron sy’n wneuthurwr dur sefydledig, byddai’n dybiaeth resymol y byddant am barhau i wneud dur beth bynnag. Os oes gennych dynnwyr asedau’n dod i mewn, yna yn amlwg bydd yna broses wahanol iawn o feddwl ar waith. Nid yw byth yn glir, wrth gwrs, lle mae gennych weithredwr presennol, beth fydd eu bwriad yn y dyfodol, ac fe fydd angen, ar ran y gweithlu ac ar ran y pwrs cyhoeddus, cael gwarantau penodol ynghylch buddsoddiad yn y dyfodol a chynllun i’r dyfodol ar gyfer diwydiant dur Cymru.
O ran cymorth swyddi, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y bydd y dinas-ranbarth yn edrych arno. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym broses sefydledig ar gyfer delio â sefyllfaoedd fel hyn, sy’n cynnwys nifer o sefydliadau’n dod at ei gilydd i gynnig y gefnogaeth honno. Mae’n hollol hanfodol, wrth gwrs, mai’r sgiliau sy’n cael eu cynnig yw’r sgiliau sydd eu hangen yn yr economi leol ac wrth gwrs, bydd mewnbwn defnyddiol iawn gan fwrdd y dinas-ranbarth o safbwynt gallu asesu pa sgiliau sydd angen eu darparu er mwyn i bobl gael y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt.
Ac yn olaf, John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich cydnabyddiaeth o safle a sefyllfa Casnewydd yn y darlun cyffredinol o’r diwydiant dur yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod o’ch ymweliad diweddar â Llanwern am y dur o’r safon uchaf sy’n cael ei gynhyrchu yn ffatri Zodiac, er enghraifft, ar gyfer y diwydiant ceir yn y DU a thu hwnt. Yn ddiweddar, ymwelais hefyd â gwaith dur Orb, lle mae eu duroedd trydanol o’r safon orau ac yn cael eu hallforio ar draws y byd. Mae’n allweddol fod Orb yn rhoi gwerth mawr ar eu partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Dywedasant wrthyf am y berthynas oedd wedi’i hadeiladu a’r gefnogaeth a gânt o ran eu cynhyrchiant a’u prosesau a hyfforddiant sgiliau, a’u bod yn awyddus iawn i adeiladu ar hynny ac ymgysylltu ymhellach.
Yn ddiweddar, cyfarfûm â Liberty Steel gyda Jayne Bryant fel AC dros Orllewin Casnewydd a dau AS Casnewydd, ac yn yr un modd, maent yn awyddus iawn i ymgysylltu ac fel y gwyddoch, mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol iawn, nid yn unig ar gyfer dur, ond hefyd ym maes ynni adnewyddadwy, môr-lynnoedd llanw, a throi gorsaf bŵer sy’n defnyddio glo i ddefnyddio biomas. Felly, maent yn uchelgeisiol iawn yn wir, a dywedodd pob un o’r cynhyrchwyr dur hyn yng Nghasnewydd wrthyf, Brif Weinidog, ac wrth y cynrychiolwyr gwleidyddol eraill pa mor awyddus ydynt i adeiladu ar y berthynas sy’n bodoli gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau, drwy gefnogaeth a phartneriaeth a buddsoddi, ein bod yn gwneud yn siŵr fod dur yng Nghasnewydd nid yn unig yn meddu ar yr hanes gwych sy’n cael ei gydnabod yn eang, ond fod ganddo ddyfodol cryf iawn hefyd. Felly, hoffwn eich sicrwydd pellach heddiw fod Llywodraeth Cymru o’r un farn ac y bydd yn gweithio gyda phob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol lleol i sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn partneriaeth â’r cwmnïau dur hynny.
Yn hollol, a gwn fod yr Aelod wedi bod hyrwyddo’r diwydiant dur yn huawdl yn ei ddinas. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gan Gasnewydd farchnad allforio sylweddol hefyd—mae tua 30 y cant o’r dur a gynhyrchir yn cael ei allforio ac maent yn llwyddiannus ac yn broffidiol. Mae’n hynod o bwysig fod ffyniant a chynaliadwyedd yr holl safleoedd yng Nghymru yn y dyfodol yn cael sylw. Ond unwaith eto, maent i gyd yn gysylltiedig â Phort Talbot a’r dur sy’n cael ei wneud ym Mhort Talbot sy’n bwydo’r gwaith a gyflawnant. Felly, gallaf roi sicrwydd i’r gweithwyr yn Shotton, yn Nhrostre, yng Nghasnewydd ac wrth gwrs, ym Mhort Talbot ein bod yn gweld y diwydiant dur yn integredig yng Nghymru, yn broffidiol yng Nghymru, ac yn meddu ar ddyfodol yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad dros bawb o’r gweithwyr hynny.
Diolch, Brif Weinidog.