2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfraddau cyflogaeth diweddaraf yng Nghymru o’u cymharu â gweddill y DU? OAQ(5)0067(FM)
Mae'r gyfradd gyflogaeth sy’n gwella yng Nghymru yn parhau i berfformio'n well na holl genhedloedd eraill y DU. Rydym ar y blaen i'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda'r gyfradd gyflogaeth sy’n tyfu gyflymaf a'r gyfradd ddiweithdra sy’n dirywio gyflymaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wel, mae ein hanes yn amlwg yn rhagorol, ac mae colegau fel Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n darparu addysg bellach ragorol mewn amrywiaeth o bynciau yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith. Pa waith ydym ni’n ei wneud i sicrhau ein bod yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn mynd i fod eu hangen yn y dyfodol fel nad ydym yn gorfod dibynnu ar ddenu pobl o wledydd eraill a allai fod yn llawer tlotach na ni?
Wel, un enghraifft, wrth gwrs, yw Twf Swyddi Cymru. Mae wedi bod yn hynod lwyddiannus, gyda chyfradd lwyddiant o dros 80 y cant o ran pobl ifanc yn mynd ymlaen i gyflogaeth, neu i gynlluniau addysg bellach neu uwch, wedi’u hariannu gan arian Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae’n gynllun sydd wedi helpu cymaint o bobl ifanc i gael gwaith. Dechreuad y cynllun hwnnw oedd i ni siarad â busnesau bach a chanolig eu maint a ddywedodd wrthym eu bod eisiau cyflogi pobl, ond na allent ddod o hyd i’r amser na'r arian i wneud hynny. Caniataodd Twf Swyddi Cymru iddyn nhw wneud hynny, a cheir llawer iawn o bobl ifanc mewn cyflogaeth oherwydd y cynllun hwnnw erbyn hyn, ac maen nhw’n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n meddwl bod y ffaith bod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU erbyn hyn yn drobwynt pwysig. Mae wedi digwydd sawl gwaith dros y 30 mlynedd, ond yn rhy anaml yn anffodus. O ystyried hynny a'r gyfradd cyflogaeth nawr, mae'r gwahaniaeth yn fach iawn, a fyddai'n derbyn, pan fyddwn yn cymharu hynny â’r ffaith, yn gyffredinol, gyda’n GYC y pen, bod bwlch o 30 y cant, nad swyddi, fel y cyfryw, yw’r broblem sylfaenol yn economi Cymru, ond ansawdd y swyddi? Problem cynhyrchiant sydd gennym ni. A oes angen i ni newid ein strategaeth economaidd i ganolbwyntio ar hynny?
Ceir elfennau o—. Ceir problemau o ran cynhyrchiant yn y DU gyfan ac nid yw Cymru'n eithriad yn hynny o beth. Mae gennym ni etifeddiaeth o'r 1980au a'r 1990au o bolisi economaidd a gafodd wared ar swyddi a oedd yn talu'n dda a chyflwyno swyddi a oedd ymhlith y rhai â’r tâl isaf yng ngorllewin Ewrop ar y pryd yn eu lle. Nid dyna'r polisi economaidd y byddai unrhyw un—ef na minnau—eisiau ei weld yn y dyfodol. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o fuddsoddiad yn dod i mewn i Gymru trwy swyddi o ansawdd da. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, cwmnïau fel Aston Martin, fel TVR, fel CGI—mae'r rhain yn swyddi medrus sy’n talu'n dda. Yr her i ni yw sicrhau bod ein pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwr er mwyn i'r cyflogwr hwnnw ffynnu yng Nghymru. Yn gynyddol, mae hynny'n digwydd. Felly, byddwn yn disgwyl gweld GYC yn cynyddu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, o ystyried y ffaith bod ansawdd y swyddi yr ydym ni'n eu denu nawr, a’r arian y maent yn ei dalu, yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Nid ydym yn economi cyflog isel, yn economi sgiliau isel mwyach. Dyna sut y cyflwynwyd Cymru yn y 1980au a dechrau'r 1990au. Byth eto.
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi yn y gorffennol naw sector busnes blaenoriaeth ar gyfer twf yng Nghymru. Mae gweithluoedd pump o'r sectorau hynny—twristiaeth, bwyd a diod, adeiladu, gwyddor bywyd a diwydiannau creadigol—wedi lleihau yn ystod y chwarter diwethaf. Tybed a allai'r Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau dros hynny.
Rwy'n rhybuddio’r Aelod i beidio ag edrych ar chwarter fel cyfnod arbennig o gynrychioliadol. Mae'n well edrych ar y duedd tymor hwy. Felly, er enghraifft, os edrychwn ni ar gyfraddau diweithdra a chyflogaeth yng Nghymru, rydym ni’n gweld tuedd sydd wedi bod ar waith am fwy na blwyddyn o ddiweithdra yn gostwng. Ni allwch chi gymryd chwarter a dweud, 'Wel, mae hynna’n nodweddiadol o'r economi o ran y duedd.'
O ran yr hyn a welwn yng Nghymru, rydym ni’n gweld diweithdra nawr, fel y dywedais, sy’n is nag yn yr Alban, yn is nag yn Lloegr, yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae yr un fath gyda diweithdra ymhlith pobl ifanc. Roeddwn i yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos diwethaf ac, unwaith eto, gwelsom fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae bron mor isel â Jersey, sy’n anarferol iawn i ni yn hanesyddol. Mae hynny'n arwydd bod y polisi gweithredol yr ydym ni wedi ei ddilyn i hyrwyddo Cymru ledled y byd ac i ddenu buddsoddiad a swyddi o bedwar ban byd yn gweithio. Pa un a fydd hynny’n dal i fod yn wir ar ôl dydd Iau, bydd yn rhaid i ni aros i weld.