– Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2016.
The next item on our agenda is the Welsh Conservative debate on local government. I call on Janet Finch-Saunders to move the motion.
Cynnig NDM6032 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.
2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol.
3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich rôl newydd?
Mae’n bleser mawr gennyf arwain dadl grŵp gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a diolch, wrth wneud hynny, i arweinydd fy ngrŵp yn y Cynulliad, Andrew R.T. Davies AC, am ei hyder yn fy ailbenodi’n llefarydd yr wrthblaid ar lywodraeth leol. Hoffwn longyfarch Mark Drakeford AC hefyd ar ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac edrychaf ymlaen at eich cysgodi mewn modd adeiladol wrth i ni weithio gyda’n gilydd, lle bo modd, i wynebu llawer o’r anawsterau a’r ansicrwydd sydd bellach yn wynebu llywodraeth leol yng Nghymru.
Yn ystod tymor olaf y Cynulliad hwn, mae diffyg parhad y cyfrifoldeb gweinidogol wedi gadael y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu cymaint o’n gwasanaethau hanfodol yn teimlo’n ddryslyd, wedi’u dibrisio ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Yn 2013, ac ar gost i’r trethdalwr o £130,000, gwelsom gyhoeddi adroddiad comisiwn Williams, yn rhoi 62 o argymhellion, a phob un yn cael ei ystyried yn angenrheidiol i ddatblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Mae llawer o’r argymhellion hynny bellach wedi’u hanwybyddu i raddau helaeth.
Roedd hwn yn gylch gwaith ehangach o lawer na llywodraeth leol ac yn cynnwys llawer o’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid oedd yn canolbwyntio ar lywodraeth leol fel yr unig faes sydd angen ei ddiwygio ar frys. Fel Aelodau, roeddem yn credu’n wirioneddol y byddai’r gwaith hwn yn gatalydd ar gyfer newid gwirioneddol, ac yn cynnig rhaglen gyflawni well ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ystyrid bod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol bwysig, ac eto edrychwch cyn lleied o gynnydd a wnaed gennym.
Ar ôl methu gyda’r agenda gydweithredu, aeth Llywodraeth Cymru ati i ddechrau gwaith ar raglen nas gwelwyd ei thebyg erioed o’r blaen o newid ac ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru—gan anwybyddu sawl un, yn cynnwys y cymunedau sydd mor aml yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn a gelyniaethu ar yr un pryd ein haelodau etholedig, ein gweithwyr rheng flaen, ein huwch- swyddogion a’n cymunedau eto fyth yn y modd mwyaf didrugaredd. Roedd y comisiwn yn galw’n benodol ar awdurdodau lleol i uno’n unedau mwy o faint, drwy uno awdurdodau lleol presennol, a’u pennu drwy beidio ag ailosod ffiniau. Unwaith eto, cafodd ei anwybyddu. Ystyriwyd uno gwirfoddol fel ffordd ymlaen, ac opsiynau ad-drefnu i’w penderfynu a’u gweithredu ar frys, i’w cytuno gan randdeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru heb fod yn hwyrach na Phasg 2014. Ni ddigwyddodd.
Galwodd y comisiynwyr ar y Llywodraeth i gefnogi a chymell mabwysiadwyr gynnar a oedd am weld menter o’r fath, drwy ddechrau proses o uno gwirfoddol i’w chwblhau erbyn 2017-18. Eto i gyd, dyfeisiodd y Gweinidog ar y pryd ei ffiniau newydd ei hun, i gynnwys map o wyth neu naw awdurdod yn unig, ac yn lle hynny dewisodd wrthod yn llwyr y cynigion wedi’u costio a ddaeth i law gan chwe awdurdod lleol, erbyn y dyddiad gofynnol, a gyda’r meini prawf gofynnol—gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych, fy awdurdod i. Gwastraff cyfle a dweud y lleiaf. A dyma ni heddiw, yn dal i fod heb weledigaeth, heb gyfeiriad, ac yn wynebu llawer o ansicrwydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i roi blaenoriaeth uniongyrchol i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon. Gweithiwch gyda’n swyddogion, ymgynghorwch â’n cymunedau, gweithiwch gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn bwysicaf oll, siaradwch â’r Aelodau yma. Mae gennym i gyd ddiddordeb uniongyrchol ym mha mor dda y mae ein hawdurdodau lleol yn perfformio ac yn gallu delio â’r heriau sy’n codi. Ym mis Mai 2017 bydd ein hetholwyr yn pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol. Yn y flwyddyn 2012, yn anffodus, 38 y cant oedd canran y bobl a bleidleisiodd, gostyngiad o 4 y cant, gyda 99 o seddi diwrthwynebiad ar lefel cyngor sir, a nifer anhygoel o 3,600—45 y cant—o seddi diwrthwynebiad ar lefel tref a chymuned. Mae 12 i 15 y cant ohonynt yn dal yn wag.
Fel rhan o fy ngwaith gyda chi yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn hoffi i chi fynd i’r afael â’n cynghorau cymuned a’u gwaith. Wrth gwrs, hon yw’r lefel gyntaf o lywodraethu democrataidd yng Nghymru, ac mae’n effeithio ar ein dinasyddion, ac ydy, mae’n cynnwys praeseptau y gellir codi tâl amdanynt. Ar draws Cymru mae llawer yn teimlo eu bod wedi’u difreinio ar y lefel hon, yn aml oherwydd diffyg eglurder ynghylch pwy sy’n gwneud beth, ac mae llawer yn gwbl anymwybodol o’r swyddogaethau a’r materion llywodraethu cysylltiedig. Yn aml, fe’i gwelir gan rai fel siop gaeedig a cheir rhai nad ydynt yn cyhoeddi agendâu neu gofnodion, ac nid oes ganddynt wefan, er eu bod wedi cael cyllid i wneud hyn.
Mae eraill o’ch blaen wedi addo llawer o ddiwygio ac adolygu mawr ei angen, heb unrhyw lwyddiant. Erbyn hyn ceir llawer o ansicrwydd ymhlith ein clercod tref a chynghorwyr cymuned, ynghylch ffiniau cynghorau a gefnogir gan y gymuned, o ganlyniad i adolygiad ffiniau isel iawn ei broffil sy’n arwain at dorri’r nifer bresennol o seddau, ond unwaith eto, nid oes dim i’w weld yn bendant. Nid yw rhai ohonynt hyd yn oed yn gwybod faint o seddau y byddant yn eu hymladd. Mae angen eglurder yn awr. Mae’n bryd bywiogi ein hetholwyr, ar bob lefel o ddemocratiaeth, drwy ailymgysylltu â hwy, gan weithio gyda hwy, a rhoi rheswm iddynt fod â hyder mewn system llywodraeth leol sy’n gweithio’n effeithlon, yn effeithiol a gyda diwydrwydd dyladwy.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn ymwybodol o’n galwad ar y meinciau hyn mewn perthynas â hawliau cymunedol. Mae hawliau cymunedol drwy eu natur yn gyfle arall i lywodraeth fawr ymgysylltu â’n cymunedau, eu grymuso a’u bywiogi. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cymaint o gyfleoedd yn cael eu colli, wrth i neuaddau cymuned, tafarndai lleol a llyfrgelloedd gael eu colli, a’r cyfan er mwyn torri costau, heb fawr o ystyriaeth i werth enfawr y cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer ein cymunedau. Mae Deddf Lleoliaeth 2011, a roddwyd mewn grym dros y ffin, wedi rhyddhau cymaint o’n cymunedau, gan ddatganoli grym oddi fry i’r union gymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fe’ch anogaf i edrych ar hyn o’r newydd a gweithio i sicrhau ein bod yn mabwysiadu mwy o’r erthyglau yn y Ddeddf hon. Mae dull blaenorol o’r brig i lawr Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â’r gymuned drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r ddogfen ‘Egwyddorion ar gyfer gweithio gyda chymunedau’, a ddosbarthwyd i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, wedi’u cysylltu, yn anffodus, ag amharodrwydd i gyflwyno agenda lleoliaeth, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr a’r Alban, lle mae cymunedau yn arfer hawliau drwy’r Ddeddf hon a Deddf Ymrymuso’r Gymuned (yr Alban) 2015.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i’r hawliau hyn gael eu rhoi ar waith yma yng Nghymru. Mae pobl Cymru eisiau’r hawliau hynny hefyd. Rydym i gyd yn gwybod am hyrwyddwyr cymunedol gweithgar yn ein hetholaethau sy’n barod i feddiannu’r asedau lleol hyn, gan weithio gydag eraill i’w hatal rhag cael eu colli. Ymatebodd 78 y cant o ymatebwyr i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiogelu asedau cymunedol mewn gwirionedd, ac roeddent yn barod iawn eu cefnogaeth i’r fenter hawl i wneud cais ac yn barod i estyn llaw i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’u hawdurdodau lleol eu hunain er mwyn gwarchod y cyfryw asedau, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth a gafodd hyn, ac nid oes fawr ddim wedi’i ddatblygu. Unwaith eto, rwy’n eich annog, Weinidog: gweithiwch gyda ni, gweithiwch gyda’n cymunedau. Ychydig o help, cefnogaeth ac arweiniad y mae’n ei gymryd i sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn arbennig yn cael cyfleoedd gwell nag erioed o’r blaen. Mae Gwent bellach yn treialu’r cynllun i ariannu swyddog trosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n croesawu’r fenter hon ac yn gofyn eto i chi weithio i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cofnodi ac yn rhestru pob un o’n hasedau cymunedol gwerthfawr, gan ganiatáu ar gyfer y dyfodol a’r posibilrwydd o ddiogelu yn hytrach nag aberthu’r cyfleusterau pwysig hyn.
Nawr, roedd yr agenda gydweithredu aflwyddiannus y cyfeiriais ati yn gynharach yn gyfle arall a wastraffwyd, ac rwy’n gofyn i chi fynd yn ôl i’r cychwyn i weld lle y gall a lle y bydd cydwasanaethau yn gweithio. Yn Lloegr, arbedwyd £462 miliwn drwy gytundebau cydwasanaethau ar draws awdurdodau lleol. Nododd adroddiad KPMG yma yng Nghymru £151 miliwn o arbedion ystafell gefn y gellir eu cyflawni heb unrhyw broses uno. Nawr yw’r amser i feithrin twf a hyder yn ein hawdurdodau, gan eu galluogi i fod yn ddewr, i roi camau beiddgar ar waith er mwyn cyflwyno modelau darparu eraill, a’u grymuso i weithio gydag awdurdodau cyfagos os oes galw. Rhowch gefnogaeth ac arweiniad iddynt a rhowch obaith iddynt na fydd eu hymdrechion yn ofer.
Ar ben hynny, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn amcangyfrif y bydd yr agenda trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr o bosibl wedi cyflwyno budd blynyddol net o rhwng £4.2 biliwn a £7.9 biliwn o arbedion erbyn tua 2018-19. Nid briwsion yw’r rhain. Yn yr Alban hefyd, mae darparu cydwasanaethau yn gweithio. Mae disgwyl i’r Ayrshire Roads Alliance rhwng cynghorau De Ayrshire a Dwyrain Ayrshire arbed £8 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rhoddwyd y syniad o gydwasanaethau a chytundebau cydweithio ar waith yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl yn adolygiad Beecham. Fodd bynnag, roedd ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynnydd cydweithio mewn llywodraeth leol yn dilyn adroddiad Simpson yn nodi’r angen cryf i roi hwb pellach i’r agenda gydweithredu, yr angen am fwy o eglurder, mwy o gyfeiriad a mwy o arweiniad gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan osod pwyslais ar yr union angen i roi camau ar waith yn wyneb dyfodol ariannol anodd i lywodraeth leol. Yn anffodus, cafodd argymhellion dethol comisiwn Williams a map dilynol y Gweinidog blaenorol eu gwthio ymlaen yn unochrog ac yn aflwyddiannus.
O ran y gwelliannau a gyflwynwyd i’r ddadl, rydym yn cydnabod adroddiad Sunderland wrth gwrs, er bod rhaid i mi ddweud ei fod yn adroddiad hen ffasiwn iawn. Rydym yn parhau i gymeradwyo llawer o’i brif egwyddorion, megis hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o lywodraeth leol, a mentrau megis dinasyddiaeth weithredol i roi hwb i ymgysylltiad â phroses llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wrthwynebu gweithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy fel y system bleidleisio a ffefrir. Ni fyddwn, felly, yn pleidleisio o blaid gwelliant 2, sy’n galw am hyn.
Rydym ar ddechrau pumed tymor y Cynulliad. Llywodraeth leol yw’r rhan o’ch cyfrifoldeb Cabinet sydd â’r gyllideb fwyaf ond un ac mae’n gyfrifol am lawer o lesiant ein cymdeithas. Er eich bod yn newydd i’r rôl hon, rwy’n credu y bydd eich profiad blaenorol gyda llywodraeth leol yn golygu y gallwch wneud gwahaniaeth. Gweithiwch gydag Aelodau’r Cynulliad, ymgysylltwch yn ystyrlon â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, siaradwch â chydweithwyr ac aelodau’r meinciau cefn yma ac yn bennaf oll, gweithiwch gydag awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, gadewch i ni i gyd weithio tuag at fodel llywodraeth leol sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Sian.
Diolch. Hoffwn, ar ran Plaid Cymru, gyflwyno ein gwelliannau ni, felly, i’r ddadl yma ar ddiwygio awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna gryn dipyn i’w ddweud am y pwnc yma. Ond, heddiw, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd benodol a gafodd eu cynnwys fel rhan o bolisi Plaid Cymru yn ystod etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Hynny yw, yn gyntaf, yr angen i Lywodraeth Cymru i weithredu i gynnwys pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Ac, yn ail, yr angen i unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol gynnwys awdurdodau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac i rannu arferion gorau ar draws awdurdodau gwahanol.
Fel unrhyw genedl, mae Cymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynu ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni yw esblygu graddol gan ddefnyddio strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel ranbarthol a chymunedol. Rydym hefyd, fel y gwnaethom ni sôn yn y ddadl roeddem ni’n ei chynnal yn y Siambr yn gynharach, eisiau gweld integreiddio llawer iawn mwy pwrpasol a synhwyrol rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un fantais amlwg o wneud hynny ydy creu atebolrwydd yn y maes iechyd yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth i’n pobl ni.
Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol, wedi’u cyfansoddi o gynghorau lleol sy’n bodoli yn barod. Mae angen anghofio am y map ac ymgynghori ar sut y byddai’r weledigaeth ranbarthol newydd yma’n edrych a beth fyddai’r union ddyletswyddau ar y lefel honno.
Mae’n gwelliannau ni i’r ddadl yma heddiw yn canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno system etholiadol newydd, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy, STV, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol.
Mi gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002. Ydy, mae hynny gryn amser yn ôl. Ond, mi oedd yn adroddiad trwyadl iawn ac mi ddaethpwyd i’r casgliad mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran system etholiadol leol. Ac, roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith o systemau etholiadol eraill.
Yn fy marn i, cyflwyno STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer iawn mwy bywiog a mwy diddorol. Mae llawer iawn mwy o bobl yn cystadlu ar gyfer y seddi yno ac mae llywodraeth leol ei hun, yn sgil hynny, yn plethu ei hun yn agosach at ddymuniadau y boblogaeth.
Mae’r Llywodraeth yma wedi cael cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol. Ac, fel cenedl, os ydym wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna dylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, fod pob pleidlais yn gyfartal. Hyd y gwelaf i, nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, rydym yn gofyn ichi gefnogi’r gwelliannau. Diolch.
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Mae gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn elfen hanfodol o gymorth i lawer o bobl ar hyd a lled Cymru, ac mae llywodraeth leol yn amlwg yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Roeddwn o ddifrif yn fy sylwadau i’r Prif Weinidog yn ystod wythnosau cyntaf y Llywodraeth hon, pan ddywedais wrtho ein bod yn dymuno’n dda i’r Llywodraeth yn ei chenhadaeth—ac i Ysgrifenyddion y Cabinet yn eu cenhadaeth—i gyflawni’r dyheadau yn eu maniffesto, oherwydd, os yw Llywodraeth yn methu, yna bydd y gwasanaethau y mae pob Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am eu darparu wedi methu i’r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny i’w cynnal yn eu bywydau bob dydd. Ein gwaith ni, fel gwrthblaid, yn amlwg, yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ac i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig dewis arall yn ogystal, gan ei bod yn hawdd cecru o’r ymyl, ond mae angen i chi ddweud beth yn union y byddwch yn ei wneud os ydych o ddifrif am fod yn Llywodraeth un diwrnod.
O’r meinciau hyn, dros wythnosau a misoedd cynnar y Cynulliad hwn, byddwn yn sicr yn ymgysylltu ac yn ceisio ymwneud yn gadarnhaol ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar yr agenda ar gyfer llywodraeth leol, oherwydd bod cymaint o ynni ac amser wedi’i dreulio yn y Cynulliad hwn yn ystod y tymor diwethaf yn ymdrin â mapiau a llinellau ar fapiau—fel y soniodd y siaradwr arweiniol, Janet Finch-Saunders—nad oeddent mewn gwirionedd yn golygu fawr iawn i’r cymunedau a oedd yn mynd i gael gwasanaeth neu gyfleuster wedi’i ddiddymu, ac yn y pen draw nid oedd fawr o gefnogaeth iddo os o gwbl. Mae’n dipyn o beth pan fo arweinydd y Ceidwadwyr yn mynd i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael mwy o gymeradwyaeth nag a gafodd y Gweinidog Llafur yn Abertawe—gan gofio bod 16 o’r 22 o arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy’n meddwl, yn arweinwyr Llafur. Ond roedd hynny ar anterth y sôn am fap y Gweinidog blaenorol ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol wrth gwrs. Gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn glynu at y sylwadau a wnaeth yn gyhoeddus hyd yn hyn, yn yr ystyr ei fod am gael y drafodaeth honno, a’i fod eisiau cydweithio â’r rhai ar y rheng flaen mewn llywodraeth leol, yn hytrach na mynd i’r cyfarfodydd hynny yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf a dweud wrthynt beth fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eto i ddod o hyd i rywun sydd o ddifrif yn awyddus i ddinistrio llywodraeth leol.
Ceir llawer o syniadau ynglŷn â pha fodel y dylem edrych arno—y model cyfun y soniodd Plaid Cymru amdano, y model sirol y mae eraill yn cyfeirio ato ac yn y pen draw, model 1974 roedd y Llywodraeth flaenorol yn amlwg yn ei gefnogi. Ond gyda’r pwysau o ran costau ar ddarparu gwasanaethau, a’r galw cynyddol am y gwasanaethau sy’n rhaid i lywodraeth leol eu darparu, yr hyn sy’n hollol amlwg yw nad yw’r status quo yn opsiwn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, fel y ddeddfwrfa sylfaenol yma yng Nghymru gyda chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, yw dod o hyd i ateb er mwyn sicrhau bod map cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru.
Bob oddeutu 20 mlynedd, mae’n ffaith fod Llywodraethau blaenorol—o bob lliw a llun—wedi ailgynllunio llywodraeth leol yng Nghymru. Ni all hynny fod yn fodel da ar gyfer llywodraethu, ni all fod yn fodel da ar gyfer cyflawni, ac yn y pen draw, ni all fod yn fodel da ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn y gwasanaeth, a’r rhai sy’n dibynnu’n sylfaenol ar y gwasanaethau hynny i ddarparu eu cymorth o ddydd i ddydd. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig heddiw yn y ddadl hon yw bod y Gweinidog yn achub ar y cyfle i ymateb yn yr wythnosau cynnar hyn ynglŷn â sut y bydd yn symud y trafodaethau yn eu blaen. Yn bwysig, gyda’r etholiadau fis Mai nesaf, a yw’n fwriad gan y Llywodraeth, os oedd consensws yn mynd i fod ar ad-drefnu, i sicrhau bod y mandadau y bydd gwleidyddion yn eu ceisio gan yr etholwyr yn fandadau llawn—h.y. a fyddant yn para am y tymor llawn o bum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol? Oherwydd byddant yn cyflwyno maniffestos i’r etholwyr mewn ychydig dros 9 neu 10 mis, maniffestos y bydd yr etholwyr yn pleidleisio ar eu sail. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn rhoi’r eglurder hwnnw ynghylch y sicrwydd y bydd ei angen ar ymgeiswyr a deiliaid swyddi pan fyddant yn cael y dadleuon hynny ac yn cael y trafodaethau ynglŷn â sut olwg fydd ar lywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf, ac yn wir, fel y dywedais yn gynharach, ynglŷn â’r trafodaethau y mae’n bwriadu eu harwain gydag awdurdodau lleol, a rhoi’r ymrwymiad dilys mai trafodaeth fydd hi yn hytrach na darlith, fel y cafwyd gan ei ragflaenydd, yn anffodus, ar ddechrau’r trafodaethau hyn yn y pedwerydd Cynulliad.
Hefyd, yn bwysig, rwyf eisiau crybwyll y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn anffodus, roedd i lawr 4 neu 5 y cant yn 2012, ac etholwyd nifer i seddau yn ddiwrthwynebiad, mewn gwirionedd, fel y soniodd Janet Finch-Saunders. Mae’n hanfodol fod yna ymwybyddiaeth ynglŷn â’r rôl allweddol y gall cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, yn wir, ei chwarae yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad ac ar ôl yr etholiad, yn cefnogi pentrefi, trefi a chymunedau mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ac rwy’n gobeithio y bydd yn defnyddio’r ddadl hon fel cyfle i roi cnawd ar esgyrn rhai o’r syniadau a allai fod ganddo.
Rwy’n falch fod y Ceidwadwyr wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o’r diwedd. I’r rhai sydd wedi bod yma dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi’u clywed yn ceisio mynd ag arian oddi wrth lywodraeth leol a’i roi i iechyd, sy’n cyfateb i brynu car, peidio â’i gynnal a’i gadw, ond gwario arian ar atgyweiriadau. Mae gwariant ar gyfleusterau chwaraeon, iechyd yr amgylchedd a gofal henoed yn helpu i gadw pobl rhag bod angen gofal mewn ysbyty.
Mae llywodraeth leol yn darparu amrywiaeth enfawr ac ystod eang o wasanaethau. Ceir llyfryn o’r enw A i Y o wasanaethau’r amgylchedd—ar gyfer y rhai nad ydynt wedi’i weld, nid yw’n llyfryn tenau, ac un maes yn unig o lywodraeth leol yw hwnnw. Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn effeithio ar bawb a phob un bob dydd: mae ffyrdd, palmentydd, casglu sbwriel, cael gwared ar sbwriel, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn effeithio’n ddyddiol ar fywydau’r bobl sy’n byw mewn ardal. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwy’n cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy’n rhaid eu darparu y tu allan i ysbytai. Y rheswm pam y mae llywodraeth leol yn torri’n ôl ar wasanaethau eraill yw oherwydd bod angen gwasanaethau cymdeithasol mor fawr ac mae’n rhaid ei ddiwallu.
A gaf fi ddyfynnu Canolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd? Cynhaliodd y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o effaith maint ar berfformiad awdurdodau lleol. Datblygodd y tîm fodel arloesol sy’n defnyddio sgoriau arolygon, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, hyder y cyhoedd a mynegai gwerth am arian. Dangosodd y canlyniadau nad oes maint sy’n ddelfrydol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae gan gynghorau mwy o faint lai o orbenion gweinyddol canolog, ond roedd effeithiau maint yn amrywio rhwng gwasanaethau. Gwelodd ymchwil dilynol y gallai cynghorau mwy o faint a gynhyrchwyd drwy ad-drefnu darfu ar berfformiadau. Gwyddom hefyd fod yr awdurdod lleol mwyaf yn Ewrop—Birmingham—wedi cael problemau difrifol gyda’i adran gwasanaethau cymdeithasol. Felly, nid yw mawr bob amser yn well.
Cynhaliwyd profion ganddynt ar effaith maint y boblogaeth a gosodasant reolaethau ar gyfer gwahaniaethau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys amddifadedd ac amrywiaeth anghenion gwasanaethau. Dangosai canlyniad y dadansoddiad hwn nad oedd maint y boblogaeth yn effeithio fawr ddim ar sgoriau Asesu Perfformiad Corfforaethol, ond roedd yn effeithio ar oddeutu hanner y mesurau arolygu gwasanaethau a’r rhan fwyaf o fesurau boddhad defnyddwyr. Mae hefyd yn effeithio ar fesurau gwerth am arian. Ond mae’r berthynas rhwng maint a pherfformiad yn gymhleth. Mewn rhai achosion, roedd awdurdodau mwy o faint yn perfformio’n well, ac mewn eraill, roedd cynghorau llai’n perfformio’n well, ac mewn eraill, awdurdodau canolig eu maint a gâi’r canlyniadau gorau. Yn wir, os edrychwch ar ddangosyddion perfformiad Cymru ar draws awdurdodau lleol, awdurdodau o faint canolig sy’n gwneud orau mewn gwirionedd ac sy’n cael fwyaf o sgoriau gwyrdd.
Gwyddom nad yw maint yn gymesur â pherfformiad. Nid yw pawb yn edrych ac yn dweud, ‘Pe gallai pob cyngor fod fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, yna byddai gennym set wych o awdurdodau lleol yng Nghymru’. Mae awdurdodau lleol wedi colli rheolaeth ar nifer fawr o’r meysydd gwasanaeth a oedd ganddynt pan gefais fy ethol yn gynghorydd gyntaf yn 1989. Maent wedi colli sefydliadau addysg uwch a’r colegau polytechnig, colegau addysg bellach, rheolaeth uniongyrchol ar ysgolion, mwyafrif ar bwyllgorau heddlu, Maes Awyr Caerdydd, ac mewn llawer o ardaloedd cyngor, tai. A oes unrhyw un mewn gwirionedd yn credu bod y newidiadau hyn wedi bod er gwell o ran darparu gwasanaethau?
Ar y nifer sy’n pleidleisio, mae hon yn broblem yn holl etholiadau Cymru, gan gynnwys, yn anffodus, etholiad y Cynulliad. Mae’n anodd cymharu rhwng etholiadau cyngor ac etholiadau’r Cynulliad, oherwydd yn yr ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o bobl yn pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad yn draddodiadol, mae llawer yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad i seddau’r cyngor. Gwyddom fod y nifer sy’n pleidleisio i etholiadau’r cyngor yn sylweddol uwch na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, a phan gânt eu cynnal ar wahân, yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu. Un ateb amlwg i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol fyddai rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol a llai o gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a elwir hefyd yn ‘Dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill?’, gan greu wardiau mawr mewn ardaloedd gwledig, a symud llywodraeth leol i ffwrdd oddi wrth bleidleiswyr—ni allaf feddwl am ffordd well o leihau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol na chyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nodaf nad ydych yn gofyn am gael refferendwm arno, oherwydd credaf fod pobl yn gwybod beth fyddai’r canlyniad. Cawsom refferendwm ar newid y system bleidleisio, ac roedd canlyniad hwnnw’n bendant yn erbyn newid. Felly, yn amlwg nid oes arnom eisiau un arall—gadewch i ni ei orfodi oddi fry.
Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y canlynol: rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano ers cyn cof, darparu llai o reolaeth ganolog dros wasanaethau—gadewch i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol—hyrwyddo cydweithio ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond ar yr un ôl troed. Mae pob Gweinidog sy’n cymryd portffolio gwahanol yn creu eu hôl-troed bach eu hunain ar gyfer pob gwasanaeth; mae angen i ni gael gwasanaethau’n cwmpasu’r un ardal. Ceisiwch gael awdurdodau lleol i gydweithio ar gynllunio rhanbarthol ar gyfer tai a datblygu economaidd. Mae gennym gynllun datblygu ar gyfer pob awdurdod lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, onid ydym, y bydd y newidiadau sy’n cael eu gwneud yn Abertawe yn effeithio ar Gastell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin ac fel arall. Felly mae angen i ni gael rhyw fath o bolisi rhanbarthol er mwyn i ni i gyd wybod lle rydym. Dylem geisio uchafu nifer y gwasanaethau o dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth leol. Rwy’n credu’n gryf mewn llywodraeth leol ac rwy’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gadael i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar ran eu pobl leol ac yna, os nad yw’r bobl yn eu hoffi, gallant gael gwared arnynt.
Daeth traddodiad gwleidyddol radicalaidd Cymru o gymunedau lleol wedi’u grymuso i gael eu cynrychioli yn y cyfnod modern gan ein hawdurdodau lleol, gan gynrychiolwyr etholedig, sydd mewn rhai achosion, yn ennyn cyn lleied o ddiddordeb y trigolion y maent yn eu gwasanaethu fel eu bod weithiau’n gallu dal eu gafael ar ddylanwad dinesig am ddegawdau. A gallant ddal eu gafael ar ideolegau am ddegawdau hefyd: y sector cyhoeddus yn unig a all ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, mae contractau tymor byr gyda’r trydydd sector yn iawn cyn belled â bod y cynghorau’n rheoli’r arian ac y gellir eu hepgor os nad ydynt yn ddymunol, ac mewn rhai achosion, ni allwch grybwyll y sector preifat hyd yn oed. Hyd yn oed heddiw, nid yw strwythurau monolithig gormesol awdurdodau lleol yn gweithredu mwyach fel model ar gyfer grymuso cymunedau. Mae angen i ddiwygio llywodraeth leol ymwneud â mwy nag uno; mae’n ymwneud â chydbwysedd newydd rhwng awdurdodau lleol, y gymdeithas a’r dinesydd.
Nawr, wrth gwrs ein bod angen i’r sector cyhoeddus fod yn rhan ganolog o’r ffordd y mae ein cymunedau yn cael eu gwasanaethu, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen o ddiwylliant o ‘O, gwaith y cyngor yw hynny’ neu ‘O, ni fydd y cyngor yn gadael i chi wneud hynny.’ Nid yw hyn yn fater o leoliaeth yn unig, a nodweddir gan y math o drosglwyddo asedau y buom yn siarad amdano—yn amlwg mae hynny’n rhan ohono. Mae’n ymwneud â chydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan. Mae’n ymwneud â chydnabod potensial cydgynhyrchu. Mae awdurdodau lleol yn gartref i swyddogion a chyflogeion ymroddedig, i arbenigedd, i amrywiaeth o sgiliau proffesiynol, meddylwyr strategol yn ogystal, ond drwy adael cymaint o heriau ar risiau’r Neuadd y Sir, rydym yn anwybyddu’r hyn rydym ni fel dinasyddion, fel unigolion a gyda’n gilydd, a sefydliadau a chyrff eraill yn gallu ei wneud i ateb gofynion ein cymunedau. Mae’r galwadau cynyddol a’r cyllidebau sy’n crebachu a nododd Mike Hedges yn golygu ein bod i gyd ar ein colled pan fo gwasanaethau anstatudol yn cael eu bygwth gan y pwysau ar gynghorau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn gyntaf. Mae anfodlonrwydd y cyhoedd â’r ‘cyngor’ yn tyfu, mae’r datgysylltiad rhwng darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau’n tyfu. Mae’r eirfa a ddefnyddiwn ar gyfer hyn yn atgyfnerthu hynny. Beth ar y ddaear a ddigwyddodd i ‘bobl’? Cymerwch wasanaethau cymdeithasol i oedolion: mae un o bob pump ohonom eisoes dros 65 oed a bydd ymhell dros chwarter erbyn 2033. Yng Nghonwy, mae chwarter y boblogaeth eisoes yn bensiynwyr. Efallai y bydd gan y wladwriaeth amrywiaeth o negeseuon iechyd y cyhoedd i’n helpu i gadw’n heini ac yn iach am gyfnod hwy, ond mae angen cyfrifoldeb personol i allu cymryd y negeseuon a gwneud iddynt weithio ar ein cyfer ni a’n teuluoedd a’n cymunedau.
Bydd awdurdodau lleol yn dod o dan bwysau aruthrol i ddarparu cymorth a gofal drwy’r llwybrau gofal traddodiadol i oedolion, heb sôn am gyflawni eu rhwymedigaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill. Felly, a ydym yn mynd i adael y cyfan iddynt hwy mewn gwirionedd? Mae Llafur wedi colli ei brwdfrydedd dros y lleoliaeth a oedd yn sail i’r model cydweithredol o ddatblygu economaidd amser maith yn ôl, gan roi ei ffydd yn lle hynny mewn canoli’r wladwriaeth. Yn hytrach nag arwain y ffordd yn y DU, mae’r economi gydweithredol yng Nghymru yn llai fesul pen o’r boblogaeth nag ydyw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyd yn oed y cynlluniau ar gyfer y corff dielw i redeg ein rheilffyrdd ag olion bysedd y Llywodraeth drostynt i gyd.
Mae Dr Dan Boucher yn gywir pan ddywed na chaiff yr her bresennol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
‘ei helpu gan fethiant Llafur i groesawu’r cyfle i chwistrellu mesur mwy o gydfuddiannaeth i mewn i drefniadaeth ein gwasanaethau cyhoeddus drwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol.’
Er bod Lloegr wedi elwa o ddatblygu 106 o wasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddarparu gwerth dros £1 biliwn o wasanaethau cyhoeddus, ni welwyd unrhyw wasanaeth cyhoeddus cydfuddiannol yn cael ei greu yng Nghymru dros yr un cyfnod. Mae hynny’n eithaf rhyfedd gan fod cynllun gweithredu’r Llywodraeth Lafur ar gyfer mentrau cymdeithasol yn 2009 yn dweud yn benodol y dylai cyrff cyhoeddus ystyried a allai mentrau cymdeithasol gyflawni unrhyw agwedd ar eu rolau yn well. Yn 2014, cefnogodd ei Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yng Nghymru gamau i ehangu cwmnïau cydfuddiannol yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus. Yn wir, dywedodd y comisiwn fod cwmnïau cydfuddiannol yn rhagori ar ddarpariaeth y wladwriaeth ym maes tai, Mike Hedges, a thynnodd sylw at gyfleoedd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd. Fodd bynnag, fis Mawrth, ar y noson cyn etholiad y Cynulliad, roedd cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn nodi’n blaen:
‘Rydym yn cefnogi modelau darparu cydweithredol a chydfuddiannol a modelau darparu amgen eraill dim ond fel dewis yn lle dirwyn gwasanaethau i ben neu eu preifateiddio, fel yr opsiwn ‘lleiaf gwael’.’
Nawr, rwy’n meddwl y byddai gan Robert Owen gywilydd fod Llywodraeth Cymru wedi dangos mor glir ei bod yn bendant yn parhau i gefnogi canoli’r wladwriaeth.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai un o’r allweddi ar gyfer llwyddo i sicrhau polisïau yw ystyriaeth o’n diwylliant. Byddwn yn parhau, ein hunain, i hyrwyddo cydgynhyrchu, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol, lle bo’n briodol, nid oherwydd mai cwmnïau cydfuddiannol yw’r opsiwn lleiaf gwael, ond oherwydd mai dyna’r dewis gorau, ar gyfer y gwasanaethau penodol dan sylw a hefyd oherwydd y ffordd y maent yn asio â’n diwylliant ein hunain a’n hunaniaeth genedlaethol.
Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg ymgysylltiad â’r gymuned. Mae’r diffyg ymgysylltu wedi arwain at ddifaterwch ymhlith pleidleiswyr a’r ganran isel a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol olynol. Yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2012, roedd cyfartaledd y ganran a bleidleisiodd o dan 39 y cant—gostyngiad o 4 y cant ers yr etholiad blaenorol yn 2008. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, nid oedd 88 y cant o bobl wedi cysylltu â’u cynghorwyr dros y 12 mis blaenorol. Yn fwy pryderus, roedd 59 y cant o ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r datganiad y gallent ddylanwadu ar benderfyniad sy’n effeithio ar eu hardal leol. Mae’r difaterwch hwn tuag at lywodraeth leol yn wahanol iawn i’r ymgyrchoedd cyhoeddus a’r protestiadau pan fydd asedau awdurdodau lleol yn wynebu bygythiad o gael eu cau.
Cafodd Llywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon pan basiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae’n siomedig, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru. Mae hawliau cymunedol yn ymwneud â grymuso cymunedau, er mwyn iddynt gael mwy o lais yn y materion sy’n bwysig iddynt. Trwy gyfres o fesurau, aeth y Ddeddf Lleoliaeth ati i sicrhau bod pŵer sylweddol yn trosglwyddo i bobl leol. Dau o’r mesurau hyn oedd yr hawl gymunedol i herio a hawl y gymuned i wneud cais.
Yn gyntaf, yr hawl gymunedol i herio, Weinidog. Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n wynebu cyfyngiadau cyllidebol yn ceisio lleddfu’r pwysau drwy ollwng gafael ar asedau megis canolfannau hamdden. Heb hawl gymunedol i herio, i ganiatáu i gymunedau ysgwyddo’r gwaith o redeg gwasanaethau, gallai’r asedau hyn gael eu colli am byth. Mae’r cynghorau gorau yng Nghymru yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol. Mae llawer yn cydnabod potensial mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n werth da am arian. Dylent weithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Yn ail, yr hawl gymunedol i wneud cais. Mae pob cymuned yn gartref i adeiladau neu gyfleusterau sy’n chwarae rôl hanfodol mewn bywyd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, pyllau nofio, siopau pentref, marchnadoedd a thafarndai. Gall cau’r asedau hyn olygu bod y gymuned ar ei cholled. Yn aml mae grwpiau cymunedol angen mwy o amser i drefnu cais ac i godi arian na’r mentrau preifat a allai fod yn gwneud cais yn eu herbyn. Mae’r hawl gymunedol i wneud cais yn rhoi cyfle chwe wythnos i gymunedau fynegi diddordeb mewn prynu ased. Os ydynt yn gwneud hynny, mae cyfnod pellach o bedwar mis a hanner o gyfle i gymunedau allu cael amser i godi arian i brynu’r ased. Er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol, mae arnom angen rhestr o asedau o werth cymunedol wedi’i henwebu gan y cymunedau lleol eu hunain. Fodd bynnag, nid oes rhaid i gynghorau yng Nghymru gadw cofrestr o asedau o werth cymunedol ac nid oes rhaid iddynt drosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n credu y dylai’r hawliau hyn y mae Lloegr yn manteisio arnynt gael eu hymestyn i Gymru i wella’r broses bresennol o drosglwyddo asedau cymunedol a’r rhaglenni cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol.
Ddirprwy Lywydd, bydd caniatáu i gymunedau herio’r awdurdodau lleol hyn ynglŷn â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu neu adeiladau y maent yn berchen arnynt yn gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â’r gymuned yn fawr. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu’r agenda hawliau cymunedol ac yn gweithredu’r Ddeddf Lleoliaeth yn llawn yng Nghymru.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna un maes rwy’n cael trafferth ag ef yn rheolaidd yn fy swyddfa. Pan fydd pobl yn cysylltu â’r cyngor, mae yna bob amser alwad ffôn leol. Yng Nghasnewydd, mae’n 656656 i ganolfan alwadau. Fel arfer, bydd rhaid aros o leiaf 10 munud a gwrando ar gerddoriaeth ac yna, hanner yr amser, ni fyddwch yn cael eich cysylltu â’r person cywir sy’n rhaid i chi siarad â hwy. Hoffwn wybod faint o arian y mae’r cyngor lleol yn ei wneud gan bobl sy’n aros ar y ffôn pan fyddant yn ffonio’r cynghorau. Rwy’n credu y dylai cynghorau sylweddoli bod pobl dlawd yn ffonio ynglŷn â’u problemau—nid am y gost o aros i gyflwyno’u problemau i’r cynghorau. Rwy’n credu bod hwn yn faes lle mae cysylltedd rhwng y bobl a’r cynghorau hefyd yn brin yng Nghymru. Diolch.
Mae wedi bod yn drafodaeth ddiddorol hyd yn hyn, ac mae wedi bod yn dda clywed cymaint o bobl yn siarad ac yn lleisio barn angerddol ar y pwnc hwn. Yma yng ngrŵp UKIP, rydym yn sicr yn cydnabod bod gan lywodraeth leol ran bwysig i’w chwarae ym mywydau pob dydd pobl. Felly, mae’n bwysig, os ydym yn mynd i gael newid mawr arall i lywodraeth leol—ac fel y nodwyd yn gynharach gan R.T. Davies, ymddengys ein bod yn cael un bob 20 mlynedd, yn eithaf cyson—yna mae angen gwneud yn siŵr y tro hwn ein bod yn ei gael yn iawn a hefyd, nad ydym yn mynd ati’n systematig i symud gwasanaethau ymhellach ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu.
Rydym yn cefnogi rhywfaint o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, ond y gostyngiad enfawr i naw cyngor a argymhellodd y Gweinidog blaenorol—credwn fod hwnnw’n ostyngiad rhy fawr a byddai’n golygu bod gwasanaethau cyngor yn cael eu diraddio’n helaeth. Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi ad-drefnu o’r gwaelod i fyny, yn hytrach na model o’r brig i lawr, y math o fodel roedd Leighton Andrews yn awyddus i’w orfodi ar y cynghorau yng Nghymru. Pan ddaeth Cyngor Bro Morgannwg i gytundeb gwirfoddol gyda’u hawdurdod cyfagos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, siom i ni oedd nodi bod uchelgeisiau’r cynghorau hynny wedi cael eu gwrthod yn ddisymwth braidd gan y Gweinidog perthnasol, sydd wedi gadael bellach, a diolch am hynny o bosibl, er fy mod yn siŵr ei fod wedi gwneud pethau da yma hefyd wrth gwrs.
Yr hyn nad yw pobl yn y Fro ei eisiau yw cael eu suddo gan gyngor Caerdydd ac yna’u boddi gan ddatblygiadau tai enfawr ar eu meysydd gwyrdd. Mae hon yn broblem sydd eisoes yn ein hwynebu ar gyrion Caerdydd, fel y mae Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru wedi sôn dro ar ôl tro, a hynny’n briodol. Yn sicr, nid ydym eisiau i’r broblem ymestyn i Fro Morgannwg hefyd drwy uno gorfodol gyda Chaerdydd. Gallaf ddweud wrthych y byddai awdurdod Caerdydd dan arweiniad Llafur wrth ei fodd yn cael ei ddwylo ar y caeau hyfryd hynny ym Mro Morgannwg.
Yn yr un modd, ni ddylai cyngor Rhondda Cynon Taf gael ei orfodi i uno gyda Merthyr. Mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn un o’r cynghorau mwyaf yng Nghymru o ran ei boblogaeth, ac mae’n ddigon abl, yn ein barn ni, i sefyll ar ei draed ei hun.
Nawr, gan gyfeirio at bwyntiau eraill a wnaed yn ystod y ddadl, crybwyllodd Janet nifer y seddi diwrthwynebiad, sy’n destun pryder amlwg. Os oes gennych uno gorfodol o’r fath, yn arwain at uwch-gynghorau, credwn y byddant yn rhy fawr. Bydd hyn yn arwain at gynyddu’r diffyg diddordeb ymhlith yr etholwyr yn yr etholiadau hyn, ac mae’n debygol y bydd gennych nifer is yn pleidleisio yn sgil hynny. Mae’r Ddeddf Lleoliaeth yn ddiddorol; dyna bwynt diddorol. Rydym yn tueddu i gytuno bod angen i ni feddwl am fabwysiadu mwy o erthyglau o’r Ddeddf honno yma yng Nghymru, ac efallai y bydd dadl yma’n fuan ar gyfran o’r Ddeddf honno.
Mae gennym hefyd fater yn codi ynglŷn â thymor y cyngor nesaf, a grybwyllwyd gan R.T. Davies. Rwy’n cofio etholiadau a gawsom yn 1993; fe’u cynhaliwyd er gwaethaf ad-drefnu llywodraeth leol a oedd ar fin digwydd ar y pryd. Cawsom etholiadau’r cyngor sir yn 1993; ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu’n rhaid i ni gael etholiadau’r awdurdod unedol—o ddifrif, roedd yn wastraff arian sylweddol. Yn y cyfnod hwn o doriadau i awdurdodau lleol, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn osgoi’r math hwnnw o ddyblygu a’r math hwnnw o wastraff arian y tro hwn.
Soniodd Oscar Asghar am fater y canolfannau galwadau. Clywais si o’r ochr honno nad yw rhifau’r cyngor yn costio dim i’r defnyddiwr ei dalu pan fydd yn ffonio, ond rwy’n meddwl bod y broblem yn ei hanfod yn ymwneud ag anhygyrchedd, gan ei bod yn cymryd amser hir i bobl gael gafael ar y cyngor. Maent yn cael eu trosglwyddo i ganolfan alwadau. Nid ydynt ar linell uniongyrchol i switsfwrdd unrhyw gyngor—. Wel, switsfwrdd ydyw yn ei hanfod. Weithiau hefyd, mae’r canolfannau galwadau hyn yn gwasanaethu mwy nag un cyngor; felly, efallai y gwelwch eich bod yn ffonio canolfan alwadau i holi am wasanaethau yng Nghaerdydd a byddwch yn siarad â rhywun mewn canolfan alwadau yn Wrecsam nad yw’n gwybod dim am yr hyn rydych yn sôn amdano. Felly, mae angen i ni edrych ar hynny, ac mae angen i ni edrych i weld a oes angen i ni gael rhywfaint o ddarpariaeth statudol er mwyn cael canolfannau galwadau gyda phobl leol yn ateb y ffôn, o leiaf, fel na fydd gennych bobl yn ffonio’r llinellau hyn a gweld eu bod yn siarad â phobl heb wybodaeth leol.
O ran y cwestiwn yng ngwelliant Plaid Cymru ynghylch diwygio pleidleisio, mae hwn yn fater pwysig iawn. Er mwyn annog nifer uwch o bleidleiswyr yn yr etholiadau yng Nghymru credwn fod angen i ni gefnogi camau i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy yn etholiadau’r cynghorau yng Nghymru. [Torri ar draws.] Yn wir, efallai fod hynny’n wir, ond rydym ni’n sicr yn cefnogi hynny, ac rydym yn barod i gydweithio â phwy bynnag arall sy’n ei gefnogi. Felly, Sian, os ydych am gael sgwrs, yna ar bob cyfrif gwnewch hynny, ond wrth gwrs byddai’n golygu cydweithio â ni yma yn UKIP, a allai fod yn syniad ofnadwy i chi. Diolch.
Mae’n rhaid i ni gydnabod bod Cymru eto i ddioddef graddau’r toriadau a brofwyd yn Lloegr. Yn Lloegr, torwyd cyllidebau cynghorau 10 y cant mewn termau arian parod dros y pum mlynedd diwethaf ond yng Nghymru yn gyffredinol maent wedi codi 2.5 y cant. Mae hynny oherwydd bod cyllid ar gyfer ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wedi’i glustnodi, gan osgoi’r toriadau a welwyd mewn gwasanaethau eraill, ond yn amlwg cafwyd heriau enfawr wrth geisio darparu’r gwasanaethau eraill na chafodd eu clustnodi. Nid yw’n mynd i fod yn haws. Ni all fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd y cyllidebau sy’n lleihau a ddaw gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.
Erbyn 2020, bydd cyllideb Cymru bron £1.5 biliwn yn is mewn termau real nag yn 2010. Felly, rhaid diwygio’n sylfaenol y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu a’u trefnu ar draws Cymru a rhaid gwneud hynny nawr. Eisoes, cafwyd toriadau tameidiog a diddymu gweithgareddau nad ydynt yn hanfodol. Mae’r toriadau mwyaf amlwg wedi’u gwneud. Felly, mae parhau i wneud llai yn annhebygol o gymell dim heblaw siom cyhoeddus. Mae awdurdodau lleol yn mynd i orfod gwneud pethau’n wahanol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ystod o syniadau yn y Bil llywodraeth leol drafft i wella agwedd agored, tryloywder ac atebolrwydd i’r cyhoedd mewn llywodraeth leol. Mae’n hen bryd gwneud hynny. Yn y pum mlynedd diwethaf cawsom gymaint â thri chyngor lle roedd y prif weithredwyr a rhai uwch-swyddogion yn ysgrifennu eu cynlluniau cydnabyddiaeth ariannol eu hunain, a diffygion pendant ymhlith aelodau etholedig a fethodd atal lefel mor eithriadol o uchel o gamweinyddu. Bu’n rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymyrryd er mwyn amlygu’r methiannau hyn yn y trefniadau llywodraethu.
Mae sgandalau o’r fath yn tanseilio hyder staff a’r cyhoedd ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen i ni adael rhywfaint o oleuni i mewn os ydym yn mynd i ddenu mwy o bobl sydd am wasanaethu mewn llywodraeth leol. Credaf fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yn darparu chwa o awyr iach a chydweithio angenrheidiol os ydynt yn mynd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Yn ogystal â hynny, mae’r ddadl refferendwm chwerw rydym i gyd wedi dioddef yn ei sgil yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi datgelu rhai materion heriol, na fydd yn diflannu waeth beth fydd y canlyniad yfory. Mae pobl wedi dod i arfer â chlicio eu dewisiadau ar-lein yn hytrach na thynnu eu siacedi a helpu i ddatrys problemau. A yw’n wir mewn gwirionedd ei fod bob amser yn gyfrifoldeb i rywun arall? Nid yw’n anodd beio pa lefel bynnag o lywodraeth, ond yn lle hynny mae angen i ni gael pobl i feddwl ynglŷn â’r hyn y gallant ei wneud i helpu i ddatrys problemau.
Gallaf gytuno â Suzy Davies nad yw’r status quo yn opsiwn. Darluniwyd rhai o’r pethau y gall awdurdodau lleol ei wneud i fachu ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol yn yr adroddiad ar ynni craffach i Gymru, a nodai’r cyfleoedd sydd ar gael i awdurdodau lleol harneisio ein hadnoddau naturiol er lles cymunedau lleol. Yn anffodus, ychydig o awdurdodau lleol ar unrhyw lefel sydd wedi manteisio ar y cyfle a’r arian. Yn wir, mewn llawer o ardaloedd, mae awdurdodau lleol yn mynd ati i rwystro cynlluniau ynni dan arweiniad y gymuned, yn hytrach na chroesawu’r mentrau hyn er mwyn gwella lles ac incwm eu poblogaethau.
Roedd Suzy Davies yn cydnabod bod yn rhaid cydgynhyrchu, a bod gofyn i ni ymddiried mewn pobl, a disgwyl hefyd y byddant yn chwarae eu rhan, yn hytrach na hawlio’n unig. Nid awdurdodau lleol sy’n taflu sbwriel, ond pobl; nid awdurdodau lleol sy’n dryllio’r ffyrdd a chreu tyllau, ond cerbydau, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, sy’n amharod i dalu’r gost yn eu trwyddedau a ddylai adlewyrchu’r niwed y maent yn ei wneud. Nid oes diben i Mohammad Asghar alaru am wasanaethau a gollir; mae’n rhaid i ni feddwl beth rydym yn mynd i wneud am y peth. Yn ddi-os, mae gan gymdogaethau tlotach lai o gronfeydd wrth gefn i ddisgyn yn ôl arnynt pan fydd newidiadau’n cael eu hargymell. Er enghraifft, nid yn unig y mae llyfrgell Rhydypennau yng Nghyncoed, sy’n ardal gymharol lewyrchus, a oedd dan fygythiad o gau wedi cael ei chadw ar agor, ond mae’r gymuned leol wedi gwella’r gwasanaeth yn aruthrol, gydag amrywiaeth enfawr o gyngherddau, digwyddiadau codi arian a darlleniadau, wedi’u cefnogi’n fedrus gan lyfrgellydd rhagorol, sy’n teithio’r filltir ychwanegol i gyflawni ar ran y cyhoedd. Gan ei bod yn Ddiwrnod Gwasanaethau Cyhoeddus yfory, credaf y dylem gydnabod hynny.
Rwy’n credu bod yn rhaid i uno rhithwir ac uno gwirfoddol fod yn ffordd ymlaen, i wneud i bobl o wahanol sefydliadau deimlo’n gyfforddus gyda’i gilydd, ac rwy’n aros gyda diddordeb, er enghraifft, i glywed am y cydweithio cynyddol rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol ym Mhowys, i gael gwybod a allai hwnnw fod yn fodel ar gyfer y dyfodol i awdurdodau lleol eraill hefyd.
Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w swydd a chroesawu’n fawr ei ddull a’i ymrwymiad tuag at y broses gydgynhyrchu wrth edrych tua’r dyfodol. O ran atgyfnerthu’r pwyntiau sydd newydd eu gwneud, ydw, rwy’n credu nad oes amheuaeth nad yw Cymru wedi cario baich y toriadau y mae awdurdodau lleol wedi’u cario yn Lloegr. Rydym wedi crybwyll eisoes y toriad o 10 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a’r ffaith fod un o’r Aelodau Ceidwadol gyferbyn wedi ceisio siarad am hoffter o gwmnïau cydfuddiannol; rwy’n credu bod gan gwmnïau cydfuddiannol le pendant yng Nghymru, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw mai’r realiti yn Lloegr yw mai cwmnïau preifat er elw sy’n cymryd y gwaith o redeg gwasanaethau cyhoeddus ac nid ydynt yn gwneud gwaith da o gwbl mewn rhai mannau.
Torrwyd £1.5 biliwn oddi ar gyllideb Cymru, felly mae angen edrych ar hyn gyda llygaid ffres a symud ymlaen mewn ffordd adeiladol. Rwy’n croesawu’n fawr y modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr cynghorau ac awdurdodau lleol mor gynnar yn ei swydd. Ydy, mae’n mynd i fod yn ffordd ddiddorol ymlaen, ond rwy’n gwybod yn iawn fod gennym y dull, y parodrwydd, y broses gydgynhyrchu yn ei lle a fydd yn darparu ar gyfer pobl Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am ddefnyddio’u hamser y prynhawn yma i gyflwyno’r ddadl hon? Rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn ar bob cyfraniad, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i drafod dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ac i amlinellu rhai o fy syniadau cynnar fy hun.
Fy man cychwyn, ddirprwy Lywydd, yw bod llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau bron bob dinesydd yng Nghymru, o flynyddoedd cynharaf addysg feithrin a’r cyfnod sylfaen i ofal cymdeithasol a ddarperir i’r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed. Fel yr awgrymodd Mike Hedges, mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol yn y ffordd y caiff ein sbwriel ei gasglu, a’n strydoedd eu cadw’n lân, yn y modd y caiff ein ffyrdd eu cynnal a sut y caiff ein plant eu haddysgu, ac mae pob un o’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan ein hawdurdodau lleol.
Nawr, ddirprwy Lywydd, yn rhannol o ganlyniad i’r sylw manwl iawn a roddwyd i hyn gan fy rhagflaenwyr, rwy’n ffodus fy mod yn mabwysiadu’r portffolio hwn ar adeg pan fo llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn gwella, er gwaethaf yr heriau real iawn. Bydd y rhan fwyaf o’r Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol wedi etifeddu sefyllfa lle y bu angen ymyrryd mewn mwy nag un cyngor yng Nghymru mewn perthynas â’u haddysg neu eu gwasanaethau cymdeithasol, neu eu trefniadau llywodraethu corfforaethol eu hunain. Heddiw, nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru yn y sefyllfa honno, ac rwy’n awyddus iawn i adlewyrchu’r patrwm hwn o welliant yn ein trafodaeth ar lywodraeth leol.
Pan gyfarfûm ag arweinydd Cyngor Ynys Môn, y tro cyntaf i mi grybwyll ei awdurdod ar lawr y Cynulliad hwn, gofynnodd i mi beidio â disgrifio ei awdurdod fel un sy’n methu, ond yn hytrach y dylwn ganolbwyntio ar y llwyddiant sylweddol y mae ei gyngor wedi’i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r awdurdod hwnnw mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i’r un roedd ynddi ar ddechrau tymor diwethaf y Cynulliad, ac rwy’n falch iawn o allu gwneud hynny—dweud rhywbeth am yr ymdrechion, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ymyrraeth rheoleiddwyr a chynghorau eu hunain, yr holl ymdrechion hynny sydd wedi helpu i sicrhau’r darlun gwell hwn.
Nawr, nid oes dim o hyn yn awgrymu nad oes heriau gwirioneddol yn parhau, ac ni allem gredu o gwbl ychwaith fod darparu gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru fel y byddem yn dymuno iddo fod ym mhob man am nad oes unrhyw awdurdod lleol ar hyn o bryd yn perfformio islaw’r safon sy’n ofynnol ganddo. Bydd yr holl Aelodau yma yn gyfarwydd â’r safbwynt sylfaenol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dda am wneud rhywbeth. Mae’r rhan fwyaf yn dda am lawer o bethau. Nid oes yr un yn dda am bopeth. Yr her, felly, fydd parhau i sicrhau gwelliant mewn dyfodol a fydd yn heriol iawn yn wir. Mae awdurdodau lleol yn wynebu galw cynyddol am lawer o’u gwasanaethau, ac maent hwy a ninnau’n gwybod fod yr arian i ddiwallu’r anghenion hynny’n lleihau, ac yn ôl cynlluniau Llywodraeth ganolog ar hyn o bryd, fel y nododd Jenny Rathbone, bydd yn parhau i leihau ym mhob blwyddyn o’r tymor Cynulliad hwn.
Nid oes neb rwyf wedi cyfarfod â hwy yn fy nghyfarfodydd gydag awdurdodau lleol hyd yn hyn yn dadlau y gellir cynnal y status quo. Mae natur y broblem wedi’i deall a’i rhannu’n eang; mae creu atebion iddi wedi bod yn llai hawdd. Ceisiodd y Llywodraeth ddiwethaf arwain, llunio agenda, gosod ffordd ymlaen a pherswadio eraill i ddilyn. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ymrwymiad cyson i newid pe na bai’r gwaith hwnnw wedi’i wneud.
Nawr, nid oedd un agwedd ar yr ateb arfaethedig, y map, yn creu consensws. Mae llawer o agweddau eraill ar y Bil drafft a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd wedi cael croeso eang, yn y Siambr hon a thu hwnt. Crybwyllodd Mike Hedges y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol, ond roedd y Bil hefyd yn cynnwys rhagor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng arweinyddiaeth weithredol a gwleidyddol, cryfhau rôl arweinyddiaeth gymunedol cynghorwyr unigol, a mesurau i wella ymatebolrwydd cynghorau lleol, i ateb y materion a nododd Mohammad Asghar.
Mae’r rhain i gyd yn parhau i fod yn gynhwysion pwysig wrth sicrhau llywodraeth leol effeithiol ar gyfer y dyfodol. O ran y map, rwyf wedi bod yn glir yn fy nhrafodaethau gydag awdurdodau lleol ac eraill mai fy mwriad yw treulio’r wythnosau cynnar hyn yn siarad, gwrando a dysgu. Fy nod fydd ceisio consensws, os yw hynny’n bosibl o gwbl, ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn awyddus iawn i’r consensws hwnnw gynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y Cynulliad hwn lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â’r Aelod dros Arfon yr wythnos diwethaf ac am drafodaeth gyntaf a chynnar ar y materion hyn. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd. Rwy’n falch o glywed eich bod yn chwilio am gonsensws ar hyn. Nid dyna oedd ymagwedd eich rhagflaenydd bob amser. A fyddech yn cytuno bod cynghorau fel Sir Fynwy wedi cyflwyno syniadau diddorol o ran darparu awdurdod cyfunol lle na fyddai gennych y gost o ad-drefnu, ond byddech yn gwneud yn siŵr fod yr awdurdodau hynny’n gweithio gyda’i gilydd?
Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy 10 diwrnod yn ôl. Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn. Mae ganddynt gyfres o syniadau diddorol, ac maent wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi amdanynt. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn eu gwahoddiad i ymweld â Mynwy eto i weld peth o’r gwaith ymarferol y maent yn ei wneud mewn perthynas â chanolfannau cymunedol. Rwy’n awyddus i gymryd syniadau ble bynnag y maent i’w cael ac i weld faint y gallwn wneud ohonynt. Yn fy nghyfarfod â’r Aelod dros Arfon, roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am yr argymhellion a nodir ym maniffesto Plaid Cymru ynglŷn â’r dull rhanbarthol y mae wedi’i drafod yma y prynhawn yma, a’r materion ynghylch atebolrwydd sydd ymhlyg mewn unrhyw drefniant democrataidd. Yn yr un ysbryd, rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â Janet Finch-Saunders yn ystod yr wythnosau nesaf, ac roeddwn yn ddiolchgar am ei chynnig i gydweithredu lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin, er enghraifft, wrth ystyried dyfodol cynghorau cymuned. Lle mae cyfraniad adeiladol i’w wneud, byddaf yn sicr yn awyddus i ymateb yn yr un ysbryd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn dod i ddiwedd cyfraniad y Gweinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ar gyfer yr etholaeth y flwyddyn nesaf y bydd y mandad a roddir i aelodau etholedig yn fandad pum mlynedd lawn ac nad oes angen cwtogi’r mandad hwnnw yn eich barn chi—fel bod pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio pan fyddant yn gwneud hynny fis Mai nesaf.
Lywydd, rwy’n effro iawn i’r effaith gyrydol y mae ansicrwydd yn ei chreu i’r rheini sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a’r rhai sy’n sefyll etholiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory. Roeddwn eisiau aros nes fy mod wedi clywed beth oedd pobl wedi’i ddweud heddiw cyn cwblhau’r datganiad hwnnw, ond rwy’n hapus i gadarnhau, i ateb cwestiwn Andrew Davies yn uniongyrchol, y bydd y datganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd etholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac y gall y rhai a etholir ddisgwyl gwasanaethu am dymor llawn o bum mlynedd.
Lywydd, mae yna fanylion yn y cynnig gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y gallai’r Llywodraeth fod wedi’u geirio’n wahanol. Er enghraifft, ceir ffyrdd gwell o esbonio’r cyfraddau cyfranogiad isel sy’n peri pryder gwirioneddol mewn awdurdodau lleol na galw pleidleiswyr yn apathetig. Un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen atynt fwyaf yn fy nghyfrifoldebau newydd fydd defnyddio’r pwerau y gobeithiwn y cânt eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol drwy Fil Cymru, er mwyn rhoi set wirioneddol radical o gynigion ger eich bron ar gyfer diwygio’r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yng Nghymru—gan symud o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain ac ailfywiogi ymwneud democrataidd wrth i ni wneud hynny. Ond yn yr ysbryd ehangach o fod eisiau creu consensws, cymryd rhan mewn deialog, a dilyn llwybr sy’n gadarnhaol ac yn adeiladol, bydd ochr y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i’r ddadl.
Diolch am eich cyfraniadau, bawb, ac rwy’n croesawu sylwadau terfynol y Gweinidog yn fawr iawn.
Dechreuodd Janet Finch-Saunders drwy ein hatgoffa bod argymhellion comisiwn Williams i symud y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei blaen wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth, mai ychydig iawn o gynnydd a gafwyd ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, fod ein cynghorwyr cymuned a’n swyddogion llywodraeth leol wedi’u sathru dan draed, fod y rhai a fabwysiadodd uno gwirfoddol yn gynnar wedi cael eu gwrthod, a gyda chanran isel yn pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a seddau cynghorau tref a chymuned yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad, ei bod hi’n bryd ailymgysylltu â’r etholwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn adfywio llywodraeth leol. Hefyd, nododd fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu’r pwerau o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 y DU, a allai fod wedi grymuso cymunedau yng Nghymru fel y maent wedi’i wneud yn Lloegr a’r Alban.
Cyflwynodd Sian Gwenllian yr achos dros bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol. Cawsom ein hatgoffa gan Andrew R.T. Davies nad yw llinellau ar y map yn golygu llawer i gymunedau ac mae’n rhaid i ni ymgysylltu yn hytrach na datgan beth fydd yn digwydd. Dywedodd Mike Hedges wrthym fod cyfleusterau chwaraeon yn dda i iechyd. Diolch am hynny, Mike. Wrth gwrs, mae’r archwilydd cyffredinol wedi argymell, yn ei adroddiad ar wasanaethau hamdden, y dylai cynghorau wneud pethau’n wahanol. Dywed na cheir maint delfrydol ar gyfer cynghorau ac nid yw mawr bob amser yn well. Mae’n drueni fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi methu â chydnabod hynny.
Soniodd Suzy Davies am yr angen i ddiwygio ymwneud â chydbwysedd rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a dinasyddion, gan gydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan, a photensial cydgynhyrchu. Dywedodd ‘Beth yn y byd a ddigwyddodd i bobl?’, a bod Llafur yn rhoi canoli’r wladwriaeth o flaen cydfuddiannaeth o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus fel yr opsiwn gorau ac y byddai gan Robert Owen gywilydd. Soniodd Mohammad Asghar am yr angen i symud grym i’r bobl, gan roi hawl i gymunedau herio a darparu gwasanaethau o safon uchel ac o werth da am arian.
Siaradodd Gareth Bennett am yr angen i beidio â mynd ati’n systematig i symud gwasanaethau oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu a’r angen i gefnogi ad-drefnu o’r gwaelod i fyny. Soniodd Jenny Rathbone am yr angen i ddiwygio’n sylfaenol y modd y darparwn wasanaethau yng Nghymru a’r angen i hynny gael ei gyflawni yn awr; Rhianon Passmore, yr angen am agwedd gydgynhyrchiol; ac Ysgrifennydd y Cabinet, yr angen i ddathlu llwyddiant llywodraeth leol—wrth gwrs fod rhaid i ni—ond bod heriau gwirioneddol yn parhau, a’i fwriad i dreulio ei wythnosau cynnar yn ei rôl newydd yn siarad, gwrando, dysgu a chwilio am gonsensws.
Ar gam olaf sesiynau tystiolaeth Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol blaenorol, dywedodd arweinydd Gwynedd wrthym—un o’r bobl sy’n cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—yn gwbl gywir, mai’r cwestiynau i’w gofyn yw’r rhain: beth rydym eisiau ei gyflawni drwy wasanaethau cyhoeddus; beth rydym eisiau ei gyflawni drwy ein hawdurdodau lleol; ac yna, pa strwythur sydd ei angen? Ceir tuedd i’r ceffyl a’r cert fod yn y drefn anghywir yn y drafodaeth hon. Fel roedd adroddiad comisiwn Williams y cyfeiriwyd ato ar lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei ddweud:
‘yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a bodloni dyheadau pobl yw drwy symud y pwyslais o ran gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal.’
Fel y dywedodd rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru sydd newydd ei sefydlu, sy’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ag ef: mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr, gan eu darparu mewn perthynas gyfartal a dwyochrog rhwng gweithwyr proffesiynol, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a’u cymdogion, gan alluogi gwasanaethau a chymdogaethau i ddod yn gyfryngau llawer mwy effeithiol ar gyfer newid. Wedi’r cyfan, fel yr awgrymodd Marcel Proust, mae taith darganfyddiad go iawn yn galw nid yn unig am chwilio am dirweddau newydd, ond am gael llygaid newydd hefyd.
Gadewch i ni obeithio y bydd gan Lywodraeth Cymru a’r holl bleidiau lygaid newydd ar y mater hwn.
Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.