1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2016.
6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ganlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0081(FM)[W]
Sawl un. Wrth gwrs, mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud, ac mae’r penderfyniad yn gorfod cael ei barchu. Ein blaenoriaeth ni nawr fel Llywodraeth bydd sicrhau dyfodol pobl Cymru er mwyn sicrhau bod y dyfodol hynny’n un disglair.
Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi’n cytuno gyda fi mai’r unig ffordd ymlaen sy’n parchu penderfyniad pobl Cymru yn y refferendwm yr wythnos diwethaf, ac sydd hefyd yn rhoi siawns go lew i economi Cymru a’n busnesau a’n cymunedau ni, yw ein bod ni’n aros yn aelod o’r farchnad sengl, ein bod ni’n aros yn aelod o’r ardal Ewropeaidd economaidd, a’n bod ni’n bwrw ymlaen, felly, ar y llwybr yna, gan fod y bleidlais wythnos diwethaf ddim wedi amlinellu, neu ddim wedi rhoi unrhyw benderfyniad ynglŷn â pha fath o adael yr Undeb Ewropeaidd oedd dan sylw? Os ŷch chi’n cytuno, pa gamau ydych chi’n eu cymryd? Rŷch chi newydd amlinellu’r gwaith draw ym Mrwsel a rŷch chi newydd amlinellu beth fedrwch chi ei wneud ar y cyd â Llywodraeth San Steffan. A fyddwch chi yn ‘push-o’ am hynny ar ran Cymru? Byddech chi’n sicr yn cael fy nghefnogaeth i ac, rwy’n meddwl, Plaid Cymru, wrth wneud hynny.
Fel wnes i sôn amdano yn gynharach, mae yna dîm arbenigol yn mynd i gael ei ddodi yn y swyddfa ym Mrwsel er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu trafod gyda chyrff y Comisiwn a hefyd yr undeb er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei wrando arno. Byddwn ni’n rhan o’r system Brydeinig ond mae’n bwysig dros ben hefyd fod gennym ni ein ffordd ein hunain i mewn i sefydliadau Ewrop er mwyn sicrhau bod Cymru ddim yn colli allan, ac felly byddwn ni’n gwneud. Ni allaf ddweud gormod am faint mor bwysig yw e ein bod ni’n cael mynediad i’r farchnad sengl. Mae yna siwd gymaint o fusnesau yng Nghymru yn dibynnu ar hynny. Y peth gwaethaf a allai ddigwydd yw petasem ni’n mynd nôl i system lle byddai rheolau’r WTO yn parhau: 10 y cant ar geir, 15 y cant o dariff ar fwyd—wel, dyna fyddai’r peth gwaethaf fyddai’n digwydd i Gymru. Rwy’n gobeithio, wrth gwrs, y bydd yna rywbeth gwell ar y ford, ond mae yna lot fawr o waith i’w wneud cyn hynny.
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gwerthfawrogi y bydd yr Aelodau’n awyddus i sicrhau'r canlyniadau gorau i’w hetholaethau. Dyna’r ydym ni wedi ein hethol i’w wneud, ac nid wyf innau’n ddim gwahanol i hynny, felly rwy’n mynd i fod yn achub ar y cyfle hwn i ymuno â'r alwad am sicrwydd ar gyfer fy etholaeth fy hun, sef, wrth gwrs, Merthyr Tudful a chwm Rhymni—etholaeth sydd wedi elwa’n fawr ar arian yr UE. Mae wedi helpu nifer o brosiectau sydd o fudd sylweddol i'r economi a chymunedau lleol. Fodd bynnag, nid dim ond yr arian ar gyfer y prosiectau presennol sy'n bwysig i’m hetholaeth i, Brif Weinidog, ond y datblygiadau arfaethedig, fel cam nesaf deuoli Blaenau'r Cymoedd rhwng Hirwaun a Dowlais, neu Ddowlais a Hirwaun, a fydd yn hollbwysig i economi'r etholaeth. Felly, er fy mod i wedi nodi eich bod wedi cadarnhau, ac rwy’n croesawu hynny, y byddwch chi’n ceisio sicrwydd pendant mewn unrhyw drafodaethau â negodwyr Brexit na fydd Cymru’n derbyn dim llai o gyllid o Brexit nag yr oeddem yn ei dderbyn cyn—a gaf i ofyn am ragor o sicrwydd gennych y byddwch yn gofyn am y cymorth ariannol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwaith deuoli’r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun ac y byddwch yn eu dwyn i gyfrif os na chaiff hyn ei gyflawni?
Yn sicr. Os nad yw'r arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, yna mae'n dilyn yn rhesymegol na fyddwn yn gallu ariannu llawer o'r prosiectau sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd i gael eu hariannu gan arian Ewropeaidd, gan nad yw’r arian hwnnw gennym ni. Felly, heb yr arian hwnnw, mae llawer o brosiectau, y tu hwnt i'r cyfnod pan fydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fydd modd eu hariannu oni bai bod y sicrwydd hwnnw’n cael ei roi. Mae hynny'n gwbl hanfodol ar gyfer ein dyfodol; dyna pam yr ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe er mwyn cael y sicrwydd ar roddwyd ar y bwrdd. Mae hynny'n golygu gwneud yn siŵr nad yw Cymru’n colli’r un geiniog—yr un geiniog—o ganlyniad i’r refferendwm ddydd Iau diwethaf. Ni waeth sut y pleidleisiodd pobl, nid wyf yn credu bod unrhyw un wedi pleidleisio i Gymru gael llai o arian.
Brif Weinidog, y ffaith amdani yw mai economi Cymru yw'r mwyaf agored yn y DU i unrhyw ddirywiad posibl mewn masnach â'r UE neu ddirywiad i fewnfuddsoddiad sy’n ceisio mynediad at y farchnad sengl, ac mae’n rhaid dweud hynny wrth y rhai sydd nawr yn gyfrifol am y trafodaethau Brexit.
Mae'n wir, oherwydd ein bod yn gwybod bod llawer iawn o gwmnïau yng Nghymru sydd yma dim ond oherwydd y mynediad y maen nhw’n ei gael at y farchnad sengl. Os byddant yn colli mynediad at y—mynediad am ddim; byddant yn dal i allu gwerthu yn y farchnad. Hynny yw, nid oes unrhyw un yn awgrymu na fydd unrhyw fasnach o gwbl, ond telerau’r fasnach sy'n bwysig. Er enghraifft, os ydych chi’n gwmni sydd â chanolfannau yn y DU a gwledydd eraill yn Ewrop, os gwelwch fod un ffatri weithgynhyrchu yn y DU yn ddarostyngedig i dariff o 5 y cant neu 10 y cant ac nad yw rhai eraill, yna nid oes angen athrylith i weithio allan ble bydd buddsoddiad yn mynd yn y dyfodol. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y farchnad sengl yn cael ei chadw ac nad oes unrhyw rwystrau tariff rhyngom ni a'n marchnad allforio fwyaf, sef yr UE.