– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 27 Medi 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud rhai newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ehangu teitl y datganiad llafar ar sefydlu'r gronfa driniaeth newydd a'r adolygiad annibynnol o'r broses gwneud cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad am y croeso adref o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2016 yn Rio. Rwyf wedi lleihau'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer cwestiynau yfory i'r Cwnsler Cyffredinol yn unol â nifer y cwestiynau a gyflwynwyd, ond y mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Weinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd sydd ar ddod ym mis Tachwedd? Bu rhywfaint o bryder nad oes llawer o fodurwyr ledled Cymru, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o'r DU, yn cael prawf llygaid yn ddigon aml, a bod hyn yn arwain at gynnydd i’r risg o ddamweiniau traffig. Hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am yr hyn y mae’n mynd i’w wneud ynglŷn â hynny a pha un a allai fod cyfle i ddefnyddio'r arwyddion—yr arwyddion negeseuon—ar hyd yr A55 yn y gogledd a'r M4 a chefnffyrdd eraill ledled Cymru i annog pobl mewn gwirionedd i gael prawf llygaid yn ystod yr wythnos honno, er mwyn manteisio ar rai o'r profion rhad ac am ddim sydd ar gael.
Wel, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud datganiad ar y pwynt hwn, felly diolch i chi am ei godi.
A gawn ni ddadl ar sefydlu'r confensiwn cyfansoddiadol a gynigiwyd gan y Prif Weinidog ers tro? Nawr bod posibilrwydd y byddwn yn colli 11 o Aelodau Seneddol yng Nghymru pan fydd y niferoedd yn gostwng o 40 i 29, a, gyda’r bleidlais i adael yr UE, mae'n debygol y byddwn yn colli pedwar ASE, onid nawr yw’r amser delfrydol i gydnabod nad oes digon o Aelodau Cynulliad i wneud y gwaith yn iawn yma yn y Siambr hon ac y dylid ystyried yr holl eitemau hyn ar y cyd? Oni fyddai bod â chonfensiwn cyfansoddiadol wedi bod yn gyfle delfrydol i edrych ar yr holl faterion cynrychiolaeth hyn gyda’i gilydd?
Wel, mae Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn ac mae hi wedi codi hyn ar gyfleoedd blaenorol. Rwy’n credu—wrth gwrs, mae cynigion y comisiwn ffiniau yn destun ymgynghoriad—y bydd yn cael effaith fawr o ran sut y bydd ein cymunedau yng Nghymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn mynegi ein barn o ran yr anfantais y gallai newidiadau arfaethedig ei hachosi. Wrth gwrs, mae'n effeithio ar y Cynulliad ac arnom ni fel Aelodau'r Cynulliad a chynrychiolwyr etholedig o ran sut y mae ein hetholwyr yn cael eu cynrychioli yn y Senedd. Wrth gwrs, bydd y materion hynny—o ran etholiadau’r Cynulliad—wedi eu cynnwys yn y Bil Cymru sydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd ac a ddylai ddod i rym o gyfnod y Pasg 2018, os bydd y Bil hwnnw yn dod yn gyfraith. Fodd bynnag, rwy'n credu bod y materion o ran cynrychiolaeth wleidyddol ac o ran —ac fe wnaethoch godi materion ynglŷn â’n cynrychiolaeth yn y Siambr hon—newidiadau i gynrychiolaeth seneddol ac Ewropeaidd hefyd, colli ASEau, ac ehangu yn sylweddol ein cyfrifoldebau hefyd o Ddeddf Cymru 2014, a’r newidiadau posibl yn sgil y Bil Cymru cyfredol, i gyd yn gwneud hwn yn faes teilwng a phwysig iawn ar gyfer dadl a thrafodaeth.
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Prif Weinidog am sut y mae'n cynnal ei drefniadau â’r wasg? Yr wythnos diwethaf cawsom sefyllfa ryfedd braidd, lle cafwyd datganiad cyfeiliornus i’r wasg yn cywiro—neu beidio, yn ôl y digwydd—polisi’r Llywodraeth ar symudiad rhydd pobl. Dywedwyd wrthym mai’r chwe phwynt a gyhoeddwyd oedd y pwyntiau allweddol i'r Llywodraeth, ac yna, ar ôl 40 munud yr oedd angen eu newid gyda datganiad arall i'r wasg. Rwy’n credu y byddai hyn yn destun digrifwch sylweddol yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau, ond, yn anffodus, yng Nghymru, nid oedd yn ymddangos bod hynny’n wir, oherwydd ei fod erbyn hyn yn cael ei weld fel polisi’r Llywodraeth. A gawn ni ddeall sut yn union y cedwir y cydbwysedd fel y gellir adfer rhywfaint o hygrededd yn safbwynt y Llywodraeth yn y trafodaethau Brexit?
Mae hwn yn fater yr wyf yn siŵr nad yw mwyafrif helaeth pobl Cymru yn ymwybodol ohono, a hefyd, o ran yr hyn y maen nhw eisiau ei wybod a'r hyn y maen nhw eisiau ei glywed, dyma a ddywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai’r pwynt pwysig i’w gofio yw y cyhoeddwyd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd gan swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru am 10.04a.m. yr wythnos diwethaf, ar yr unfed ar hugain
Arweinydd y tŷ, y bore yma, es i i angladd Ann Wilkinson o Frynbuga. Bydd llawer o Aelodau'r pedwerydd Cynulliad yn cofio Ann a’i gwaith a’i hymroddiad diflino i achos cleifion canser, dioddefwyr canser, ledled Cymru. Yn drist iawn, bu farw bythefnos yn ôl, ond mae’n gadael ar ei hôl etifeddiaeth y gall hi a'i theulu fod yn falch ohoni. Bydd aelodau'r Cynulliad diwethaf yn ei chofio yn eistedd yn yr oriel uchod drwy nifer o ddadleuon, a chyflwynodd ddeiseb i'r Cynulliad hwn yn galw am gronfa cyffuriau canser a gwell mynediad at gyffuriau. A ydych chi’n cytuno â mi, arweinydd y tŷ, mai’r deyrnged orau y gallai'r Siambr hon a'r Cynulliad hwn ei thalu i Ann Wilkinson a dioddefwyr canser eraill ledled Cymru fyddai datblygu cronfa triniaeth canser gyflawn? Sylwaf fod datganiad nes ymlaen ar ddatblygu cronfa driniaeth. A gawn ni sicrhau bod hynny yn cynnwys mynediad at y cyffuriau canser hollbwysig ar y cyfle cyntaf er cof am Ann, ond hefyd ar gyfer dioddefwyr triniaeth canser eraill ledled Cymru, nad ydynt yn dymuno treulio misoedd ac wythnosau olaf eu bywydau yn brwydro i gael yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn hawl dynol sylfaenol iddyn nhw?
Wrth gwrs, Nick Ramsay, mae hwn yn bwynt pwysig iawn yr ydych wedi ei gyflwyno i ni heddiw o ran cydnabod a chyfleu ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Ann Wilkinson. Dyna'r pwynt pwysig o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw, yr hyn yr ydych wedi’i gyflwyno i ni heddiw, a’r ffaith eich bod wedi mynd i angladd Ann Wilkinson. Wrth gwrs, rydym yn dymuno, fel Cynulliad cyfan, rwy’n siŵr, ei chydnabod hi a’i dewrder, a'r ffaith ei bod wedi gwneud safiad ac wedi colli ei bywyd yn anffodus. Ond rwy'n credu y bydd y peth pwysicaf i ddod o hynny yn cael ei egluro mewn datganiad gyda hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, gan y bydd yn cyhoeddi cronfa triniaeth newydd. Rwy'n siwr y byddai'n croesawu hynny. Mae'n bwysig y bydd yn gronfa triniaeth newydd a fydd yn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol ar gyfer afiechydon sy'n cyfyngu ar fywyd ac sy'n bygwth bywyd. Ac, wrth gwrs, rwy'n credu y bydd hynny yn bwynt pwysig i'r Aelod ac y caiff ei gydnabod heddiw.
Bu Llywodraeth Cymru yn uchel ei chloch wrth alw am ddiwedd ar symudiad rhydd o ran pobl a gwaith rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, un o'n partneriaid masnachu pwysicaf, ac un o'r gwledydd lle ceir y symud mwyaf rhwng Cymru a gwlad arall, yw Iwerddon. A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog cyn gynted ag y bo modd ar ba un a yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhoi terfyn ar symudiad rhydd i bobl rhwng y DU a holl wladwriaethau'r UE? Neu, os nad rhwng Cymru neu'r DU a holl wladwriaethau'r UE, sut maen nhw’n rhagweld ffin agored rhwng Cymru ac Iwerddon yn ymarferol?
Wel, wrth gwrs, mae barn y Prif Weinidog a barn Llywodraeth Cymru ar ryddid i symud wedi ei mynegi sawl gwaith, nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond gan Weinidogion eraill hefyd. Mae hwn yn fater difrifol iawn, mae'n fater sensitif, ac mae'n fater y mae’n rhaid i ni ei ystyried o safbwynt tegwch, cymesuredd, a gan gydnabod barn pobl yng Nghymru. Rwyf yn credu eich bod yn codi pwynt pwysig, ac, yn wir, mae'n bwynt pwysig yr ymatebodd y Prif Weinidog yn eglur iawn iddo yr wythnos diwethaf o ran y cwestiynau ar y materion hyn.
Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad. Yn bellach i hynny, a allaf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes am ddadl lawn, yn amser y Llywodraeth, ar Dreftadaeth Cymru—Historic Wales? Hwn ydy’r bwriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant i ad-drefnu gweithgaredd yn y maes pwysig yma a sefydlu corff newydd i gymryd drosodd gweithgaredd ar yr ochr fusnes sefydliadau fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cadw ac yn y blaen. Mae hwn yn fater allweddol pwysig a buaswn i’n pwyso ar y Llywodraeth am ddadl lawn ar y pwnc yn amser y Llywodraeth. Diolch yn fawr.
Mae’r Aelod yn codi mater pwysig ac mae'n rhywbeth sy’n ymwneud â Cymru Hanesyddol a lle y gallwn symud ymlaen ar hynny, yn amlwg gydag ymgynghoriad llawn a chyfleoedd i’w ystyried mewn pwyllgor; rwy'n siŵr y bydd amser priodol i gyflwyno datganiad i'r Siambr hon.
Diolch i’r Gweinidog.