2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
3. A yw'r Prif Weinidog yn disgwyl i'r holl daliadau PAC presennol a wneir yng Nghymru gael eu hychwanegu'n barhaol ac yn ddiamod at grant bloc Trysorlys EM i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0175(FM)
Yr holl daliadau presennol, byddwn yn disgwyl, byddwn. Yr hyn na fyddwn yn ei gefnogi yw pe byddai’r taliadau hynny yn digwydd cael eu Barnetteiddio gan y byddai hynny'n golygu y byddem yn waeth ein byd.
Wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo ac yn rhannu uchelgais y Prif Weinidog yn y maes hwn. Mae llawer o ffermwyr wedi dweud wrthyf y byddent yn hoffi gweld gwariant Llywodraeth Cymru ar amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei neilltuo. A yw hwnnw’n ymrwymiad y byddai'r Prif Weinidog yn ystyried ei wneud, o bosibl yng nghyd-destun sicrwydd gan Lywodraeth y DU o gyllid yn y dyfodol ac ymreolaeth polisi i Gymru?
Rwy'n credu ei bod yn bosibl gwneud hynny tan 2020. Dyna’r hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud. Y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw arian o gwbl i dalu cymorthdaliadau ffermio oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi trefn ar bethau ac yn dweud wrthym yn union beth mae'n bwriadu ei wneud. Felly, byddem, mi fyddem yn ceisio cefnogi ffermio fel pe byddem yn dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd tra bod y cyllid ar gael. Os nad oes unrhyw gyllid y tu hwnt i 2020, mae'n sefyll i reswm na fyddwn yn gallu gwneud hynny.
Roedd hi'n ddiddorol iawn y diwrnod o'r blaen, Brif Weinidog, gweld sylwadau a wnaed gan 35 o ASau Ceidwadol yn dweud y dylem ni achub ar y cyfle hwn i edrych o'r newydd, ar ôl 2020, ar sut yr ydym ni’n defnyddio'r hyn a elwir yn 'gyllid cyhoeddus' ar gyfer enillion cyhoeddus hefyd, fel enillion amgylcheddol, lliniaru llifogydd, ac yn y blaen.
Brexit yw’r mater uniongyrchol, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda ffermwyr i gael yr hyn sy'n iawn i Gymru a ffermwyr Cymru. Ar ôl 2020, a yw’n edrych ymlaen, a yw’n sganio beth allai’r cyfleoedd fod yno i wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu manteision eang rheoli tirwedd yn dda yn ogystal â chynhyrchu bwyd, ac a yw’n gwneud hynny ar y cyd â Llywodraeth y DU? A ydyn nhw o’r un safbwynt?
'Nac ydym' yw'r ateb i hynny, ond gallaf ddweud bod y Gweinidog eisoes wedi bod yn cynnal cyfarfodydd, gyda’r nod o ddatblygu sut y gallai polisi cefn gwlad yn y dyfodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, wrth gwrs, edrych. Mae'n wir dweud y bydd gennym ni fwy o hyblygrwydd a mwy o bŵer; yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a fydd gennym ni unrhyw arian er mwyn gweithredu'r pethau hyn. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ddatgan, yn unol â'r addewid na fyddai ceiniog yn cael ei cholli i Gymru, y bydd taliadau amaethyddol yn cael eu cynnal mewn gwirionedd, nid yn unig i Gymru ond i’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, er mwyn rhoi sicrwydd i ffermwyr, oherwydd, ar hyn o bryd, ar ôl 2020, mae ffermio yn edrych ar ddyfodol heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus. Nid yw'n barod ar gyfer hynny, os ydym yn bod yn onest. Rwyf i'n rhywun sy'n gwybod yn iawn gwerth taliadau ffermio, nid yn unig i ffermydd, ond i gymunedau gwledig ac i'r Gymraeg, er enghraifft. Y tu hwnt i 2020, nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gwbl o ba un a fydd un geiniog ar gael i dalu am y pethau hyn, ac mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni.
Beth yw’r cyfleoedd, bellach, felly, i unioni’r sefyllfa rhwng taliadau i ffermwyr a thaliadau sy’n cael eu gweld fel taliadau amgylcheddol i greu un cynllun cenedlaethol i Gymru sydd yn amaeth-amgylcheddol at ei gilydd? Yn y cyd-destun hwnnw, onid yw hefyd yn wir bod cynhyrchu bwyd sy’n faethlon, yn iachus, yn lleol ac amgylcheddol gynaliadwy hefyd yn fudd cyhoeddus?
Mae hi. Nid ydym ni’n meddwl y gallwn ni, wrth gwrs, fwydo ein hunain. Mae 54 y cant o’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y Deyrnas Unedig yn dod o’r Deyrnas Unedig. Dyna yw natur lle rydym ni’n byw, achos lle rydym ni’n byw yn y byd. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn gallu bod yn gynaliadwy, eu bod nhw’n cynhyrchu bwyd sy’n fwyd maen nhw’n gallu ei werthu, ac yn fwyd y mae pobl yn moyn prynu. Mae hynny’n hollbwysig. Mae yna gyfle i ailystyried piler 1 a philer 2, wrth gwrs. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, sy’n dod o dan y CAP. Os nad yw’r CAP yna rhagor, felly mae yna gyfleon i weld a oes eisiau cael y ffin yna fanna yn y dyfodol. So, mae yna gyfleon, mae yna gyfle i ffermwyr i’n helpu ni i siapio’r polisïau at y dyfodol, ond mae’n rhaid cael yr arian er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.
Brif Weinidog, rwy’n cytuno’n llwyr â chi mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw i'r taliadau PAC presennol gael eu gwasgu drwy yr hyn y gellir ond ei alw’n 'fangl Barnett'. Mae hyn yn creu’r risg o danariannu Cymru yn y dyfodol, mwy nag yr ydym ni wedi ei weld eisoes. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch creu system o gymorth i ffermydd nad yw'n amodol ar fformiwla Barnett ac sy’n cynorthwyo ffermwyr ar sail angen, ac sydd efallai’n cymryd mwy o gynhyrchu i ystyriaeth hyd yn oed, y mae ffermwyr eu hunain wedi bod yn galw amdano?
Mae cymorthdaliadau cynhyrchu yn sicr yn gleddyf deufin. Rwy’n cofio pan roedd gennym ni gymorthdaliadau cynhyrchu ac mae’n debyg i ni gynhyrchu 25 y cant yn ormod o ran cig defaid yn arbennig, ac roedd y pris yn isel o ganlyniad. Mae’n rhaid i ni gynhyrchu’r hyn y bydd y farchnad yn ei oddef, ac nid yr hyn yr ydym ni’n meddwl y mae angen i bobl ei brynu, oherwydd y gwir amdani yw y byddwn yn gorgynhyrchu ac y byddwn yn gweld y pris yn gostwng. Felly, mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn.
Gwn fod Lesley Griffiths wedi cael cyfarfodydd ar yr union fater hwn. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad sut y dylai polisi ffermio edrych yn y dyfodol. Mae hefyd yn wir dweud nad oes ganddi unrhyw syniad a dweud y gwir o natur datganoli, pan ddaw i bolisi ffermio. O'n safbwynt ni, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw ymreolaeth i Gymru o ran polisi amaethyddol, ymhlith eraill, ynghyd, wrth gwrs, â chyfran deg o'r arian y dywedir wrthym fydd ar gael o ganlyniad i Brexit.