2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2016.
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithlu sydd â'r sgiliau priodol yng Nghymru? OAQ(5)0206(FM)
Un o'r pethau yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd hynny’n parhau ein pwyslais ar wella sgiliau cyffredinol.
A fyddai'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran y paratoadau ar gyfer cyflwyno'r ardoll brentisiaeth, a gynigiwyd gan y cyn-Ganghellor, George Osborne? A beth yw canlyniadau hynny i Gymru?
Mae'n fater sy'n torri ar draws llawer o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Gwn fod y Gweinidog wedi cymryd rhan mewn nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Mae'n faes lle—. Nid wyf yn credu bod llawer o fusnesau yn gwybod amdano, a dweud y gwir, oherwydd, pan fy mod wedi codi'r mater gyda llawer o fusnesau, nid ydyn nhw’n ymwybodol bod yr ardoll yn dod a beth fyddai'n ei olygu iddyn nhw o ran cost ac yn sicr nid yr hyn y gallen nhw ei gael ohono. Felly, rwy’n credu bod gan Lywodraeth y DU lawer iawn o waith i'w wneud o hyd i hysbysu busnesau am sut y byddai'n gweithio, ac yn enwedig yr hyn y mae'n ei olygu o ran cyfuno â'r rhaglenni yr ydym ni’n eu rhedeg eisoes fel Llywodraeth ddatganoledig.
Mae yna dystiolaeth, wrth gwrs, fod plant sy’n cwympo ar ei hôl hi yn y blynyddoedd cynnar, yn enwedig o safbwynt datblygiad ‘cognitive’, yn fwy tebygol o fod yn stryglo yn nes ymlaen yn eu bywyd o safbwynt cyfleon bywyd. Nawr, mae yna dystiolaeth hefyd yn dangos bod cael ymarferwyr lefel gradd o fewn y cyd-destun blynyddoedd cynnar yna yn help mawr i sicrhau nad yw hynny’n digwydd. Mae’ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, yn mynd i gyhoeddi yn y gwanwyn cynllun gweithlu'r blynyddoedd cynnar a fydd, gobeithio, yn arfogi gweithwyr yn y sector yna â’r sgiliau angenrheidiol. A fydd y cynllun yna’n cynnwys ymrwymiad clir i sicrhau bod yr ymarferwyr yn y sector yn rhai sydd â gradd, yn enwedig, wrth gwrs, y rhai sy’n gweithio gyda phlant sy’n byw mewn tlodi?
Bydd hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn ystod y paratoadau cyn bod y cynllun yn cael ei gyhoeddi, ond rŷm ni’n moyn sicrhau bod y rheini sy’n gweithio gyda phlant pan fônt yn ifanc, y bobl hynny, â’r sgiliau sydd eu heisiau er mwyn sicrhau bod y llwybr gorau’n cael ei ddilyn gan y plant hynny.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi pwysleisio'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i'r gwaith hefyd. Sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y 100,000 o brentisiaethau a addawyd yn ei rhaglen lywodraethu yn cael eu darparu ar sail anghenion yn hytrach nag oedran yr unigolyn yng Nghymru?
Wel, y bwriad, wrth gwrs, yw iddo fod ar gyfer pob oed. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn yn y fan yma yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweithio gyda'r bobl hynny sydd eisiau dod yn ôl i'r gwaith. Efallai fod rhai wedi ymddeol. Efallai y byddant yn teimlo eu bod yn gyfforddus yn ariannol. Ac, wrth gwrs, i lawer o bobl sydd wedi ymddeol, nhw yw sail y gwirfoddolwyr sydd gennym ni ledled Cymru. Un o'r materion sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, rwy’n credu, wrth i bobl weithio’n hwy, yw'r posibilrwydd y bydd llai o wirfoddolwyr yn y dyfodol oherwydd bod gan bobl lai o amser ar eu dwylo. Ond, serch hynny, holl bwynt y cynllun pob oed yw gwneud yn siŵr ei fod yn union hynny: pob oed.
Brif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar, gyda staff Gyrfa Cymru yn Aberdâr, a dywedasant wrthyf sut y maen nhw’n defnyddio rhaglen ReAct i sicrhau bod pobl yn fy etholaeth i sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiswyddiad yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i chwilio am swydd arall. A ydych chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod gan Gyrfa Cymru a rhaglen ReAct ran hollbwysig i'w chwarae o ran helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ailymuno â’r gweithlu neu aros ynddo?
Mae ReAct wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn ac mae’n sicr—. Mae’r enghraifft y mae’r Aelod wedi ei rhoi yn dangos hynny. O'n safbwynt ni, byddwn yn parhau i sicrhau bod cynlluniau fel ReAct ac eraill sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd yn parhau i weithio er budd pobl o ran eu galluogi i gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ymuno â'r gweithlu.