– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Hydref 2016.
Dechreuwn y trafodion drwy goffáu digwyddiad trasig a ddigwyddodd 50 mlynedd yn ôl yn Aberfan, ar 21 Hydref 1966 pan gafodd 144 o bobl eu lladd, 116 ohonynt yn blant. Bydd yr Aelodau wedi clywed cyfraniadau ein gwesteion o Aberfan a ymunodd â ni yn nigwyddiad coffa’r Cynulliad yn gynharach, ac sy’n ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus. Ar ran yr holl Aelodau, diolch i chi am ymuno â ni heddiw, ac am gymryd rhan mewn teyrnged mor arbennig.
The Senedd is a platform on which we can represent our nation’s story. It’s important that it plays a role in reflecting our spirit, our past, our present and our future. The resilience of the community of Aberfan in the face of adversity is testament to the triumph of hope, even in the face of tragedy. I know invite Dawn Bowden to speak on behalf of her constituency and the community of Aberfan, Merthyr Tydfil and Rhymney. Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Chwarter wedi naw y bore, ddydd Gwener 21 Hydref, 1966—fe wnaeth effaith digwyddiadau ofnadwy’r diwrnod hwnnw yn Aberfan ddiasbedain o gwmpas y byd. Ar ddiwrnod olaf y tymor ysgol, collodd un pentref glofaol bychan 116 o blant a 28 o oedolion. Ni fyddai dim yr un fath byth eto i Aberfan, i Gymru, i’r byd. Un diwrnod yn ddiweddarach, un awr yn gynt, a byddai pethau wedi bod mor wahanol.
Aberfan oedd y trychineb mawr cyntaf a welodd y byd drwy lens camera teledu, ac roedd yr effaith yn enbyd. Mae gweld ffrydiau diddiwedd o lowyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr brys a’r lluoedd arfog yn ymladd yn ddiflino i ddod o hyd i rai’n fyw, ac i gludo’r rhai a fu farw, yn glir iawn yng nghof unrhyw un a oedd o gwmpas ar y pryd. Er gwaethaf yr ymdrechion arwrol hyn, ni chafodd neb ei ganfod yn fyw ar ôl 11:00 y bore.
Fel plentyn bach, nad oedd yn byw yn Aberfan, na hyd yn oed yng Nghymru ar y pryd, dyma’r stori newyddion gyntaf y mae gennyf gof amdani. Cymaint oedd ei heffaith, mae arswyd yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw wedi aros gyda mi drwy gydol fy oes, wrth i mi gofio mor glir fy rhieni’n diolch i Dduw nad fi neu fy mrawd a oedd wedi mynd i’r ysgol y diwrnod hwnnw i beidio â dod adref byth. Roedd eu tristwch yn arllwys allan dros bobl nad oeddent yn eu hadnabod ac na fyddent byth yn eu cyfarfod, ond fel rhieni ifanc eu hunain, dyma bobl roedd ganddynt empathi llwyr â hwy. Ar y pryd, teimlai pawb boen Aberfan.
Wrth gwrs, dyna’r diwrnod y newidiodd cymuned Aberfan am byth. Ni fyddai’r rhai a oroesodd byth yn gwybod am normalrwydd bywyd heb drasiedi. Collodd teuluoedd feibion, merched, brodyr, chwiorydd, gwŷr, gwragedd, rhieni a neiniau a theidiau—bywydau a chwalwyd o dan y mynydd o laid du. Euogrwydd y rhai a oroesodd pan fu farw eu ffrindiau, euogrwydd rhieni roedd eu plant wedi goroesi pan gafodd llawer eu gadael yn ddi-blant, rhieni plant a gollwyd, yn methu ymweld â’u beddau, neu newid ystafell wely plentyn, athrawon a laddwyd wrth wneud eu gwaith—trawma mud y gwyddom ei fod yn aros gyda chymaint ohonynt hyd yn oed yn awr.
Ni adawyd neb heb ei effeithio gan y digwyddiadau ofnadwy hyn, ond rhoddodd y gymuned bob cysur a nerth i’w gilydd i ddod drwyddi. Wrth i ni ddathlu hanner canmlwyddiant y trychineb, mae’n rhoi amser i ni i gyd fyfyrio ar y bywydau a gollwyd, y teuluoedd a dorrwyd, y goroeswyr a boenydiwyd. Ond mae hefyd yn ein galluogi i fyfyrio ar gadernid cymuned a’r dewrder a ddangoswyd yn wyneb y trychineb mwyaf enbyd.
Mae’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn dangos i ni fod pris glo, mewn man lle roedd cloddio amdano yn unig reswm dros ei fodolaeth, yn bris rhy uchel i unrhyw gymuned ei dalu. Ond glo hefyd oedd wedi creu’r cymunedau glofaol hyn nad oedd eu gwerthoedd o undod, brawdoliaeth ac ysbryd cymunedol i’w weld yn aml mewn mannau eraill. Mae’r ysbryd hwnnw wedi parhau i fyw ymhell wedi i’r glo olaf gael ei dorri yn Ynysowen, ac mae’r ysbryd hwnnw wedi bod er y fath glod i bobl Aberfan, gan eu galluogi i ailadeiladu eu bywydau a’u cymuned, ac i edrych ymlaen gyda dewrder, urddas a gobaith.
Mae’r urddas hwnnw wedi bod mor amlwg wrth i’r bobl Aberfan ddod ynghyd i wneud trefniadau i nodi’r hanner canmlwyddiant, ac rwy’n talu teyrnged i bob un ohonoch, nid eleni’n unig, ond bob dydd o bob blwyddyn, am bopeth a wnewch dros eich gilydd, ac er cof am y rhai a gollwyd. Rwyf wedi gweithio gyda nifer ohonoch yn ystod y misoedd a’r wythnosau diwethaf wrth i ni drafod y digwyddiadau hyn, a bu’n fraint dod i’ch adnabod a bellach i’ch galw’n ffrindiau.
Er ei bod yn anodd siarad am bethau cadarnhaol wrth ystyried maint y dioddefaint a wynebodd y gymuned lofaol fechan hon, efallai fod rhyw gysur mewn cydnabod ei fod wedi arwain yn y pen draw at gael gwared ar yr holl domenni glo ar draws y wlad, gan sicrhau na allai trychineb Aberfan byth ddigwydd eto. Arweiniodd at welliannau mewn iechyd a diogelwch yn y gwaith, yn enwedig mewn diwydiant trwm, ac arweiniodd at gydnabod effaith profiadau pobl yn Aberfan o’r diwedd fel cyflwr meddygol anhwylder straen wedi trawma, fel bod y rhai a oedd angen triniaeth am y trawmâu roeddent wedi’u dioddef yn gallu ei chael. Felly, er bod digwyddiadau’r hanner canmlwyddiant yn sicr yn dod ag atgofion ofnadwy yn ôl i lawer, mae hefyd yn amser i’r wlad gyfan ddod at ei gilydd i gefnogi Aberfan a rhoi gwybod iddynt nad aiff y rhai a gollwyd byth yn angof. Bydd y gymuned hon yn tyfu ac yn cryfhau gyda phob blwyddyn ac wrth i genedlaethau newydd adeiladu eu dyfodol a dod yn obaith newydd.
Wrth gloi, mae’n rhaid i mi gydnabod pa gydymdeimlad ac empathi bynnag a fynegwn, ni all neb ond y rhai sy’n rhan uniongyrchol o hyn wybod beth oedd gwir effeithiau 21 Hydref 1966. Ond fe allwn, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ran pobl Cymru, a chymaint o bobl y tu hwnt iddi, obeithio y bydd ein gweithgarwch coffáu yn cynnig rhywfaint o gymorth a chysur parhaus i gymuned Aberfan.
Galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Lywydd, am 9.15 y bore ar 21 Hydref 1966 newidiodd Cymru am byth. Pan lithrodd tomen Rhif 7 Ynysowen drwy niwl y bore mewn ton 40 troedfedd a lyncodd ysgol gynradd Pantglas a’r adeiladau cyfagos, fe gafodd effaith ddofn ar y gymuned, wrth gwrs, ond hefyd ar y byd ehangach. Roedd fy mam yn athrawes ysgol ifanc, yn feichiog gyda mi, pan glywodd am y newyddion o Aberfan. Roedd yn amser egwyl yn yr ysgol gynradd lle roedd hi’n dysgu. Daeth y pennaeth i mewn a dweud, ‘Mae yna ysgol ym Merthyr wedi dymchwel. Nid ydym yn gwybod a oes unrhyw un wedi brifo.’ A dyna’r cyfan a wyddent ar y pryd. Ac yna daeth y stori lawn allan yn ystod y dydd.
Fe effeithiodd arni. Dros y blynyddoedd, clywais hi’n siarad am Aberfan. Clywais hi’n sôn am athrawon a ganfuwyd wedi’u claddu gyda’u breichiau o gwmpas y plant i geisio’u hamddiffyn rhag y dilyw, a phan oedd fy mhlant fy hun yn ifanc, fe aethom i amgueddfa lofaol Big Pit, ac yno’n cael eu harddangos mae tudalennau blaen papurau newydd yn disgrifio’r trychineb, ac fe effeithiwyd arni’n ddwfn bryd hynny. Oherwydd, er nad oedd hi o Aberfan, roedd hi’n dod o bentref bach glofaol ac roedd hi’n gwybod beth fyddai’r gost i’r gymuned.
Roedd dynion yn gwybod am y peryglon o weithio dan ddaear. Roeddent yn gwybod am y peryglon o gwymp. Roeddent yn ofni cael eu llyncu gan dagnwy. Roeddent yn gwybod am rym ffrwydrol llosgnwy. Roeddent yn gwybod am y risg o gael anaf o dan y ddaear. Roedd y lamprwms yn llawn o ddynion a dystiai i hynny. Gwelodd llawer ohonom yn ein teuluoedd effaith llwch ar ysgyfaint y rhai a weithiai o dan y ddaear—a niwmoconiosis ac emffysema yn dwyn bywydau’r rheini wrth iddynt heneiddio cyn pryd a chael eu cymryd mor ifanc. Roeddent yn gwybod bod pris glo yn uchel, ond nid oeddent yn sylweddoli y byddai’r pris mor ormodol, oherwydd pwy fyddai wedi meddwl y gallai glo gymryd bywydau plant mor sydyn, a hynny uwchben y ddaear?
Ni allwn rannu profiad cymuned Aberfan a’r rhai a gollodd cymaint. Ni allwn rannu eu galar am fod eu galar yn wahanol. Mae eu galar wedi bod, ac yn dal i fod, yn digwydd o dan y chwyddwydr cyhoeddus. A bydd yr wythnos hon yn anodd. Bydd dydd Gwener yn hynod o anodd i gynifer o deuluoedd. Ond rwy’n gobeithio fy mod yn siarad ar ran pob Aelod yn y Siambr hon pan ddywedaf heddiw ein bod yn sefyll yn unedig â phobl Aberfan. Rydym yn cynnig cefnogaeth iddynt a rhywfaint o gysur gobeithio wrth iddynt ymdopi ag atgofion y diwrnod hwnnw pan ddaeth tywyllwch gaeaf yn gynnar i gymuned Aberfan.
Mae digwyddiadau 21 Hydref 1966 yn diasbedain ar draws Cymru gyfan. Cafodd llawer o’n cymunedau eu creu o ganlyniad i’r wythïen gyfoethog o lo o dan ein traed. Daeth glo â gwaith, daeth â chyfleoedd, rhoddodd seilwaith i ni, ond fe gostiodd yn ddrud iawn hefyd. Tyfodd llawer ohonom i fyny gyda thomen lo yn clwydo ar y mynyddoedd uwch ein pennau. Gallai’r hyn a ddigwyddodd yn Aberfan fod wedi digwydd bron yn unrhyw le a oedd â phwll glo. Tyfodd llawer ohonom i fyny mewn cymunedau clòs iawn lle roeddech yn edrych ar ôl eich cymdogion a lle roedd eich cymdogion yn edrych ar eich ôl chi. Ac oherwydd y cysylltiadau hyn y teimlwn y fath undod cryf gyda phobl Aberfan.
I’r rhai sydd agosaf at y digwyddiad, rhaid i chi wybod ein bod yn eich cefnogi, ein bod yn cydymdeimlo â chi, ein bod yn unedig â chi a’n bod yn eich parchu. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom a’r cenedlaethau sy’n dilyn i sicrhau ein bod yn parhau i gofio beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn Aberfan 50 mlynedd yn ôl a heddiw byddwn yn sicrhau bod Cymru’n cofio.
Taflodd lluniau erchyll trychineb Aberfan rywfaint o oleuni ar y golygfeydd annirnadwy y bu’n rhaid i gymuned Aberfan, Cymru a’r byd eu dioddef 50 mlynedd yn ôl. Aeth y drasiedi hon, a lyncodd 20 o dai ac ysgol y pentref, â bywydau 28 o oedolion a 116 o blant. Roedd y plant newydd ddychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth ar ôl canu ‘All things bright and beautiful’ yn eu gwasanaeth. Heddiw, fe gofiwn yr oedolion a’r plant a gollodd eu bywydau mewn modd mor drasig, ond rhaid i ni hefyd fyfyrio ar ddewrder y rhai a oroesodd a’r rhai a gafodd brofedigaeth. Ar ôl darllen straeon y goroeswyr sydd bellach wedi teimlo y gallant dorri’r tawelwch hunllefus a rhannu eu profiadau o’r diwrnod hwnnw, rwy’n rhyfeddu at ddewrder aruthrol ac ysbryd cymunedol pobl Aberfan wrth wynebu’r dyfodol yn dilyn y fath dorcalon a dinistr. Mae’r straeon personol a roddwyd gan y rhai a oedd yno ar y diwrnod, fel Karen Thomas, a achubwyd gyda phedwar o blant eraill gan eu cynorthwy-ydd cinio, Nansi Williams, a aberthodd ei bywyd ei hun mor anhunanol i achub y plant ifanc yn ei gofal, yn dangos y dewrder rhyfeddol sy’n rhan annatod o gymuned Aberfan.
O’r lluniau du a gwyn hunllefus hynny, gallwn weld y duwch aruthrol a lyncodd Aberfan y diwrnod hwnnw. Ond er gwaethaf yr erchyllterau a ddioddefwyd, ni ildiodd y gymuned i’r tywyllwch, gan ddewis cloddio’n ddiflino am y goleuni yn lle hynny. Fe gofiwn gyda theimladau o’r parch a’r tosturi mwyaf.
Aberfan: 50 mlynedd yn ôl i heddiw, pentref pwll glo di-nod nad oedd fawr o neb y tu hwnt i’w orwelion ffisegol yn gwybod amdano, ond o fewn 48 awr daeth yn adnabyddus ledled y byd am y trychineb ofnadwy a lyncodd ysgol y pentref a sicrhau anfarwoldeb i’w enw. Malodd llithrad y domen gyrff 116 o blant a 28 o oedolion a malodd galon ein cenedl hefyd am gyfnod ac mae’n dal i gyffwrdd â chalonau cenedlaethau nad oedd wedi eu geni bryd hynny.
Cofiaf ddydd Gwener 21 Hydref, 1966 yn glir iawn. Roedd hi’n hanner tymor. Roedd fy rhieni, fy chwaer a minnau wedi croesi’r bont a oedd newydd gael ei hadeiladu dros yr Hafren i aros am ychydig ddyddiau gyda modryb ac ewythr fy nhad ger Caerfaddon. Yn y dyddiau hynny nid oedd yna newyddion teledu 24 awr, nid oedd yna ffonau symudol—nid oedd gan fy mherthnasau ffôn o gwbl. Clywsom y newyddion ar yr hyn a alwem y pryd hwnnw yn ‘wireless’. Roedd fy nhad yn brif beiriannydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yng ngorllewin Cymru ac aeth i flwch ffôn coch y pentref i gael clywed drosto’i hun beth oedd yn digwydd. Daeth ein gwyliau i ben yn sydyn. Fe baciom ein bagiau ar unwaith, wrth iddo ruthro i helpu gyda’r gwaith achub.
Cefais fy magu mewn byd sydd wedi diflannu, o domenni glo ac offer weindio pen pwll. Mae Cymru wedi gweld llawer o drychinebau pyllau glo, a chollwyd hyd yn oed mwy o fywydau yn rhai ohonynt fel Senghennydd yn 1913 a Gresffordd yn 1934, ond roedd Aberfan yn rhywbeth arall. Roedd perygl yn endemig mewn pwll dwfn, ond roedd y trychineb hwn ar yr wyneb yn ymddangos yn aberth mwy byth o ddiniweidrwydd.
Wrth edrych yn ôl yn awr ar fyd y lluniau du a gwyn roeddem yn byw ynddo bryd hynny, yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw’r urddas ar wynebau’r galarwyr a thristwch stoicaidd, tawel eu galar. Heddiw fe gofiwn, nid yn unig y rhai a fu farw, ond y rhai a oroesodd: eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymdogion.
‘Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru: oherwydd cânt hwy eu cysuro.’
Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau. Mae’n iawn i Senedd Cymru ddangos parch ar adeg hanner canmlwyddiant y trychineb hwn. I gymuned Aberfan, rydym yn ymwybodol ei fod yn drychineb rydych yn byw gydag ef ddydd ar ôl dydd. Fodd bynnag, rhown glod i’r gymuned am wynebu’r dyfodol gyda chryfder a chadernid. Yn awr gofynnaf i’r Cynulliad Cenedlaethol a’r oriel gyhoeddus godi i gofio am y 144 o ddynion, menywod a phlant, y cafodd eu dyfodol ei gipio oddi wrthynt ar y bore hwnnw, 21 Hydref 1966.