1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targedau sydd gan y Llywodraeth ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(5)0040(EDU)[W]
Mae angen inni weld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg os ydym am gyflawni’n targed uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y fersiwn derfynol o strategaeth y Gymraeg yn cynnwys targedau i fesur canlyniadau a chyflawniad yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Diolch i’r Gweinidog am yr ateb, ac rwy’n cytuno gyda phob gair. Mae’n amhosib i gyrraedd y targed rydym ni i gyd yn dymuno’i weld heb fod yna gynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg. Hyd yma, nid oes cyswllt wedi bod rhwng y targedau sydd tu fewn i’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a’r strategaeth genedlaethol a oedd gan y Llywodraeth ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg. A yw’n ddymuniad ac yn fwriad felly gan y Gweinidog i briodi’r ddau yna yn un targed cenedlaethol, sydd wedyn yn cael ei rannu a’i ddosbarthu yn lleol? A beth mae e am ei wneud o ran y dadleuon anodd ond pwysig ym mhob cymuned nawr sydd yn wynebu troi addysg sy’n cael ei weld yn gyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae’r cam ymlaen, wrth gwr, yn mynd i fod o fudd i addysg yn y Gymraeg a’r Saesneg i’r cymunedau hynny?
Mi wnaf i barhau’r awyrgylch o gytundeb y prynhawn yma trwy gytuno â’r dadansoddiad yn y cwestiwn. Mae’n bwysig ein bod ni yn sicrhau targedau sydd yn gyraeddadwy ond hefyd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targed uwch ar gyfer Cymru gyfan. Rwy’n disgwyl cynlluniau addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr eleni, a fydd yn dangos sut mae awdurdodau lleol yn disgwyl cyrraedd eu targedau nhw yn ystod y pum mlynedd nesaf. A byddaf i’n sicr o edrych ar y rhain ac yn sicrhau eu bod nhw yn dargedau uchelgeisiol a’u bod nhw’n ein helpu ni i gyrraedd ein targedau cenedlaethol ni. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi strategaeth y Gymraeg yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, mi fydd yna dargedau cenedlaethol a bydd cyswllt cryf rhwng y targedau cenedlaethol a thargedau pob awdurdod lleol. So, ydw, rydw i yn gweld y cyswllt. Mae’r cyswllt yn hynod o bwysig, a bydd y cyswllt yn rhan bwysig o’r cynllun ar gyfer y dyfodol.
A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch ardal Castell-nedd Port Talbot, lle rydym yn gweld twf yn nifer y plant sydd eisiau mynd i ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg? A wnaiff groesawu’r ffaith hefyd fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod hyn ac yn adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields? A wnaiff weithio gyda’i gyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd i sicrhau cludiant i’r ysgolion hynny fel bod modd i deuluoedd yn ardaloedd y Cymoedd deithio i’r ysgol yn ddiogel?
Gwnaf, yn bendant. Rwy’n credu y bydd Aelodau ar draws y Siambr am ymuno i groesawu’r datblygiadau rydym yn eu gweld ac mae’r datblygiadau yn yr etholaeth yn sicr i’w croesawu, fel y maent mewn mannau eraill. Ond mae galluogi plant a phobl ifanc i fynychu’r sefydliadau addysgol hyn yn gwbl hanfodol. Nid oes pwynt agor drysau os nad oes modd i fyfyrwyr gyrraedd yno. Felly, byddwn yn sicrhau, a byddwn yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau bod gennym bolisi cynhwysfawr a chyfannol sy’n cynnig darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a thwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ond sydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i gyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg ar ba lefel bynnag.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £1.6 miliwn yn y cynllun sabothol i alluogi athrawon i ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi denu llai na 250 o athrawon. Beth oedd y targed? Yn gyffredinol, a ydy’r cost o £6,400 fesul athro yn werth da am arian, ac a oes unrhyw un o’r athrawon hynny wedi symud i weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?
Mae’r cynlluniau datblygu’r gweithlu wedi bod yn llwyddiannus yn y maes addysg, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi yn y maes addysg i sicrhau bod y llwyddiant yn parhau a’n bod ni’n gallu adeiladu ar y sylfaen sydd gennym ni. Mae gennym ni, fel yr oeddwn yn ei drafod gyda’r Aelod yn y pwyllgor y bore yma, gytundeb yn y gyllideb ar hyn o bryd a byddwn ni’n parhau i drafod sut rydym ni’n gweithredu’r cytundeb yn y gyllideb i weld sut ydym ni’n datblygu Cymraeg i oedolion, a hefyd i ddatblygu’r Gymraeg yn y gweithlu, sy’n cynnwys y gweithlu addysg, lle rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg, ac mae hynny’n meddwl gwneud yn sicr bod gennym ni ddigon o athrawon sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.