2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o oblygiadau cychwyn erthygl 50 ar y setliad datganoli? OAQ(5)0007(CG)
Diolch am y cwestiwn. Mae’r Aelodau’n gwybod bod y cwestiwn hwn yn ddarostyngedig i gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn golygu mynd ati’n ofalus i ystyried goblygiadau gadael i’r setliad datganoli.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r achos sy’n mynd rhagddo yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag erthygl 50. Pa gamau y mae wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu gwarchod mewn perthynas â’r achos hwn?
Daeth yr achos yn yr Uchel Lys i ben yr wythnos diwethaf. Roedd yn achos pwysig iawn yn ymwneud â defnydd o’r uchelfraint frenhinol i sbarduno erthygl 50. Mae pob math o gwestiynau wedi codi ynglŷn ag a yw’r dull hwn, er enghraifft, yn tramgwyddo’r ddeddf hawliau, a phenderfyniadau llys a deddfwriaeth ddilynol. Mae’n achos cyfansoddiadol mawr.
Cyfeiriwyd at y cyfansoddiad, materion datganoli a’r statudau datganoli yn yr achos hwnnw, felly rwyf wedi ystyried mai doeth oedd cynnal briff gwylio ar yr achos penodol hwnnw. Mae’r achos eisoes wedi’i restru i neidio dros y Llys Apêl i fynd i’r Goruchaf Lys, gan ddechrau ar 7 Rhagfyr. Pan gyflwynir dyfarniad yr Uchel Lys, byddaf yn rhoi ystyriaeth iddo, gyda golwg ar ystyried unrhyw faterion datganoli posibl, materion cyfansoddiadol, sy’n bwysig i Gymru ac i’r Cynulliad, ac ystyried unrhyw gamau pellach ar ôl hynny.
Yn y pwyllgor materion allanol ddydd Llun, cawsom dystiolaeth y gallai’r Bil diddymu Ewropeaidd, os yw’n unrhyw beth mwy na Bil arbed syml, dorri confensiwn Sewel ac adfachu pwerau gan Weinidogion Cymru. A yw’n cytuno bod angen i ni fod yn wyliadwrus na ddefnyddir y Bil diddymu, fel y mae Bil Cymru yn cael ei ddefnyddio, i dynnu’n ôl elfennau o’r setliad cyfansoddiadol Cymreig nad ydynt yn gyfleus i Lywodraeth y DU? Ac os yw’n cytuno â mi, pa gamau y gallwn eu cymryd ar hyn o bryd i sicrhau nad yw hynny’n digwydd?
Diolch. Fe gyfeiriaf at y pwynt am Sewel mewn munud, gan mai’r pwynt am dynnu pwerau yn ôl, wrth gwrs, yw’r union bwynt a wnaed am Fil Cymru gan bwyllgor dethol Tŷ’r Arglwyddi, pan ofynasant i’r Llywodraeth egluro a fwriadwyd i Fil Cymru leihau cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cymru mewn rhai meysydd mewn gwirionedd, ac os nad dyna’r bwriad, pa gamau y maent yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw cymhwysedd y Cynulliad yn cael ei leihau drwy amryfusedd. Ac mae’r pwynt hwnnw yr un mor berthnasol, rwy’n credu, i’r Bil diddymu mawr fel y’i gelwir. Y broblem yw nad oes gan neb unrhyw syniad ar hyn o bryd beth y gallai Bil diddymu mawr fod mewn gwirionedd, pa mor bell fyddai’n mynd, beth y gallai ei gynnwys mewn gwirionedd, a sut y byddai’n effeithio ar y Llywodraethau datganoledig, ar y statudau datganoli, ac yn wir ar gyfansoddiad cyffredinol y Deyrnas Unedig. Ond yn sicr, o ran confensiwn Sewel, mae’n gonfensiwn, felly mae’n fater na ellir traddodi arno, ond mae’n gonfensiwn lle y ceir cytundeb na fydd Senedd y Deyrnas Unedig yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli heb ganiatâd y Llywodraethau datganoledig. Mae hynny ar y llyfrau statud mewn perthynas â’r Alban, a bwriedir iddo fynd ar y llyfr statud mewn perthynas â Bil Cymru. Mae’n parhau i fod yn gonfensiwn, ond byddwn yn sicr o’r farn y byddai unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir, lle y bo’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig o dan gonfensiwn Sewel, yn gorfod dod gerbron y Siambr hon yma i gael ei hystyried ac i gynnal pleidlais arni.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau bod sbarduno erthygl 50 ond yn dechrau’r broses o drafod gyda’r UE ynglŷn â’r telerau y byddwn yn parhau i fasnachu â hwy neu’n cynnal unrhyw fath arall o berthynas rynglywodraethol? Nid oes ganddo ddim i’w wneud â datganoli o gwbl mewn gwirionedd, ar wahân i’r ffaith fod y broses o adael yr UE ynddi ei hun yn broses ddatganoli enfawr gan y byddwn yn ailwladoli pwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd. Ac yn y cyd-destun hwn, mae’n gwella ac yn cadarnhau’r broses ddatganoli i Gymru, oherwydd bydd yn gwella pwerau’r Cynulliad hwn, a Llywodraeth Cymru yn wir.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod yn ystyried bod y pwyntiau y mae’n eu gwneud yn sylfaenol anghywir yn gyfreithiol ac yn gyfansoddiadol. [Torri ar draws.] Mae sbarduno erthygl 50 yn broses ddi-droi’n-ôl. Yr awdurdod ar hynny yw’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn yr achos diweddar y cyfeiriwyd ato mewn gwirionedd, a goblygiad hynny yw bod Deddf 1972 ar ôl proses ddwy flynedd yn peidio â bod yn weithredol. Bydd yr holl ddeddfwriaeth ddilynol a grëwyd o ganlyniad i hynny, yn ogystal â’r holl ddeddfwriaeth ryngberthynol sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru a setliadau datganoli’r holl Lywodraethau datganoledig yn dod i ben mewn gwirionedd. Felly, mae’r Aelod nid yn unig yn anghywir; mae ei ddealltwriaeth o’r digwyddiadau’n ddiffygiol.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol.