1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes? OAQ(5)0251(FM)
Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach trwy ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a rhyddhad trosiannol.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae busnesau bach yn dweud wrthyf eu bod yn dal gafael gerfydd eu hewinedd. Ceir rhai enillwyr yn sgil yr ailbrisio diweddar, ond mae llawer iawn mwy ar eu colled. Cefais e-bost neithiwr, am hanner nos, gan berchennog busnes bach y tu allan i’m hetholaeth a oedd wedi gweld fy mod i’n mynd i fod yn gofyn y cwestiwn hwn heddiw—roedd hi’n teimlo mor gryf am y peth fel ei bod wedi cysylltu â mi i ddweud bod ei ailbrisiad wedi arwain at gynnydd o 48 y cant i’w gwerth ardrethol. Gwn fod llawer o berchnogion busnesau a'u gweithwyr yn torri eu boliau i'r Llywodraeth hon ystyried cyflwyno’r un telerau o ran rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi ymateb i'r ymgynghoriad yr ydych chi wedi gofyn amdano a dyna beth maen nhw wedi ei ddweud. Felly, y cwestiwn, mewn gwirionedd, sydd gen i chi yw: a ydych chi’n mynd i wrando arnyn nhw?
Byddwn yn dadlau bod yr hyn sydd gennym ni ar waith yn fwy hael nawr nag sy'n wir yn Lloegr. Pam? Oherwydd ei fod yn cyrraedd mwy o fusnesau. Bydd saith deg y cant o fusnesau yn derbyn rhyw fath o gymorth drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, ni fydd dros hanner y busnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl—mae hynny’n llawer mwy fel canran na’r hyn sy'n wir o dan y system yn Lloegr, er ei bod yn ymddangos ar yr wyneb ei bod yn fwy hael. Ond, mewn gwirionedd, mae cyrhaeddiad cynllun Cymru yn ddyfnach. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod efallai y bydd rhai busnesau a fydd yn dioddef o ganlyniad i ailbrisio, fel y bydd bob amser pryd bynnag y bydd ailbrisio, a dyna pam y byddwn ni’n cyflwyno’r cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol.
Brif Weinidog, cyfarfu ymgeiswyr Llafur yn etholiadau'r Cynulliad eleni gyda busnesau bach ledled Powys yn ystod yr ymgyrch etholiadol a dywedasant wrthynt, 'Pleidleisiwch Lafur i gael gostyngiad treth'. Rwy’n dyfynnu un ymgeisydd a ddywedodd:
Mae ardrethi busnes yn tueddu i fod yn gyfran uwch o gyfanswm y costau gweithredu ar gyfer busnesau bach ac...mae llawer o fusnesau Powys o dan bwysau ariannol difrifol, ac felly byddant yn anadlu ochenaid o ryddhad os caiff Llafur ei ddychwelyd ar 5 Mai.
Mae llawer o'r busnesau hyn y cyfeiriwyd atynt bellach yn wynebu cynnydd i ardrethi busnes, felly beth ydych chi'n ei ddweud wrth y busnesau hyn a hysbyswyd gan ymgeiswyr Llafur y byddent yn cael gostyngiad treth yn eu hardrethi busnes, ond a fydd yn talu mwy mewn ardrethi busnes nawr?
Mae'n amlwg eu bod nhw, oherwydd, fel y dywedais, mae 70 y cant yn cael gostyngiad treth o ganlyniad i gynllun sydd wedi bod dros dro, ond a adnewyddwyd bob blwyddyn ers rhai blynyddoedd. Nid oes unrhyw sefydlogrwydd i'r cynllun presennol. Rydym ni’n cyflwyno cynllun parhaol y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod gennym ni gynllun sy’n gydnerth, oherwydd ni all busnesau fodoli ar sail system lle mae’r cynllun rhyddhad ardrethi yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn, heb iddyn nhw wybod a fydd hynny’n digwydd ai peidio. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod mwyafrif llethol busnesau Cymru yn cael y rhyddhad sydd ei angen arnynt.