1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2016.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithredu o ran llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0059(FLG)[R]
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nodais fy nghynigion mewn perthynas â chydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn y dyfodol ar 4 Hydref. Bydd y cynigion ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gorfodol a systematig yn adeiladu ar y nifer o drefniadau cydweithredol sydd ar waith eisoes gan awdurdodau lleol ledled Cymru.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod yn rhaid i gydweithredu gorfodol o’r fath arwain at elw ar fuddsoddiad, boed hynny’n gyflawni mwy am lai, mwy am yr un peth, neu’r un peth am lai, ac os yw hynny’n wir, sut y mae’n rhagweld y bydd awdurdodau lleol yn gallu cyfiawnhau cydweithredu, fel gofyniad gorfodol, pan na fydd yr achos busnes ar gyfer cydweithredu o reidrwydd yn sicrhau budd uniongyrchol i’r naill neu’r llall o’r awdurdodau lleol unigol a fydd yn rhan o’r broses gydweithredu?
Diolch i Hefin David am y cwestiwn atodol gan ei fod yn rhoi ei fys ar yr union reswm pam rwyf wedi dweud bob amser y bydd yn rhaid i’r trefniadau hyn fod yn orfodol yn ogystal â systematig. Mae gormod o enghreifftiau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru lle y mae awdurdod lleol unigol wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn ceisio sicrhau trefniant rhanbarthol cydweithredol, i ddarganfod, ar y funud olaf, fod un o’r awdurdodau sy’n cymryd rhan wedi symud oddi wrth y bwrdd am nad ydynt yn gweld sut y mae eu budd cul eu hunain yn cael ei hyrwyddo yn yr hyn y maent i gyd yn cytuno sy’n batrwm ehangach o fudd. Ni allwn gael trefniadau yng Nghymru lle y mae gan awdurdodau lleol unigol bersbectif mor gul, a chyfyngedig o ran amser, ar eu buddiannau eu hunain ac yna’n aberthu buddiannau ehangach rhanbarth lle y gellid gwneud cynnydd. Felly, yr unig ffordd i oresgyn hyn, fel rwy’n gweld pethau, yw drwy gytuno ar y trefniadau hyn; rwy’n awyddus iawn i barhau â’r sgwrs honno. Ond ar ôl cytuno arnynt, byddant yn orfodol a bydd yn rhaid i bawb chwarae eu rhan ynddynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ein dau o’r un genhedlaeth ac yn ôl pob tebyg, ni yw’r unig ddau yn y Siambr hon sy’n cofio Papur Gwyn 1994 i sefydlu awdurdodau unedol. Rwy’n siŵr mai ni yw’r unig bobl a fuasai wedi ei ddarllen. Roedd yn dweud mai’r hyn sydd wrth wraidd y cysyniad o awdurdodau unedol oedd y buasai’n rhaid iddynt gydweithredu, ond genhedlaeth yn ddiweddarach—cafwyd rhai partneriaethau, wrth gwrs—mae’r math hwnnw o ddiwylliant cydweithredol eto i’w sefydlu. Ac mae hynny yr un mor bwysig â’r hyn y buaswn yn ei groesawu—y mesurau mwy gorfodol y gallai fod yn rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau y gallwn eu cael i gydweithio’n effeithiol o’r diwedd.
Wel, yn anffodus, roeddwn yn gynghorydd sir bryd hynny, pan oedd y diwygiadau hynny’n cael eu cyflwyno a’u trafod. Felly, rwy’n eu cofio’n dda iawn. Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud, mewn gwirionedd, pan fyddaf yn mynd o gwmpas awdurdodau lleol yng Nghymru mae’r cyfoeth o gydweithrediad sydd yno eisoes yn aml yn syndod i mi? Gall pob awdurdod lleol ddisgrifio mannau lle y maent yn cydweithredu ar draws eu ffiniau at ddibenion pwysig iawn. Y broblem gyda hynny hyd yn hyn yw nad oes patrwm cenedlaethol yma. Nid ydym yn dda am ddysgu o brofiad cadarnhaol mewn un rhan o Gymru a gwneud iddo ddigwydd mewn rhannau eraill. Dyna pam fy mod yn benderfynol, wedi i ni gytuno ar y trefniadau cydweithredol newydd, y bydd yn rhaid iddynt fod yn systematig—byddant yr un fath ledled Cymru, a byddant yn orfodol. Bydd pawb yn cymryd rhan yn y broses o’u cyflawni.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â chydweithrediad o fewn llywodraeth leol a rhwng awdurdodau, mae yna hefyd bartneriaethau pwysig rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid eraill. Un o’r rheini yw Cyngor Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sydd wedi ffurfio cytundeb ar iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. A allwch ddweud wrthyf a wnaed unrhyw asesiad o’r cydweithrediad hwnnw ac a yw’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol?
Wel, Ddirprwy Lywydd, mae Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, un y mae awdurdodau lleol bob amser yn ei wneud pan fyddaf yn eu cyfarfod: fod yr agenda ar gyfer awdurdodau lleol yn llawer ehangach na’r awdurdodau lleol eu hunain. Mae gan bob un ohonynt bartneriaid pwysig iawn, boed y gwasanaeth heddlu lleol, y parc cenedlaethol neu, yn achos Powys fel y mae’n dweud, y cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Powys. Cyfarfûm ag arweinydd Cyngor Sir Powys yn ddiweddar, a rhoddodd gyfrif i mi o’r gwaith y maent yn ei wneud. Yn ddiddorol, mewn perthynas â phwynt cynharach Suzy Davies, gwasanaethau therapi galwedigaethol yw un o’r pethau cyntaf y maent yn credu y gallant eu darparu ar ffurf un gwasanaeth ar draws y ddau awdurdod. Maent yn dweud wrthyf fod cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym wedi darparu cyllid grant o fwy na £300,000 i gynorthwyo’r cyngor a’r Bwrdd Iechyd Lleol i sefydlu’r cydweithrediad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weld ffrwyth ymarferol pellach yr ymdrechion hynny.