1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran Cylchffordd Cymru? OAQ(5)0092(EI)
Gwnaf. Bydd Cylchffordd Cymru yn cyflwyno cais diwygiedig cyn bo hir, wedi i mi osod her iddynt ym mis Gorffennaf i sicrhau bod unrhyw gymorth a ddarperir gan y trethdalwr yn gymesur ac yn deg. Pan dderbynnir cais ffurfiol, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gefnogaeth drawsbleidiol fawr i Gylchffordd Cymru, gydag awdurdodau lleol yng Ngwent, a llawer o Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur, yn cefnogi’r hyn y gall y prosiect hwn ei gyflawni. A ydych yn cydnabod y brwdfrydedd a’r cyffro ynghylch cyflawni’r prosiect seilwaith trawsnewidiol hwn, i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig?
Ydw, rwy’n cydnabod y brwdfrydedd a’r gefnogaeth i’r prosiect. Ac wrth gwrs, rwyf yr un mor rhwystredig â llawer o bobl o ran pa mor hir y mae’r prosiect yn ei gymryd. Ond mae’n bwysig sylweddoli bod hwn yn brosiect a ariennir yn breifat, ac nad y Llywodraeth sy’n pennu cyflymder y prosiect, ac nad yw ychwaith o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, hoffwn weld pwynt penderfynu clir gan y cwmni cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn newydd. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod fy swyddogion, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni, gan gyfarfod â hwy yn wythnosol, a bod y cwmni wedi cadarnhau bod ganddo bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ofyn ganddo.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi annog yr holl gymorth priodol gan Lywodraeth Cymru? Bydd hwn yn brosiect gwych i Flaenau Gwent, i Went yn gyffredinol ac i Gymru gyfan, gan y byddai’r potensial marchnata’n enfawr. Rydych chi wedi dewis camp hynod o boblogaidd ac arloesol, y math o ddelwedd rydym am ei chyflwyno—fod Cymru yn agored i fusnes newydd a chyffrous.
Rwy’n cytuno. Mae’r potensial o ran hysbysebu neu gyfwerth hysbysebu mewn perthynas â digwyddiadau mawr yn enfawr. Pan fyddwn yn cynnal digwyddiadau mawr, megis rygbi, megis cyfres y Lludw, gwyddom fod ffocws y byd ar Gaerdydd, ac ar Gymru, yn anferth. Ac ar gyfer ardal megis y Cymoedd, byddai’n hynod o werthfawr pe bai llu o ddigwyddiadau mawr yn digwydd yno’n rheolaidd, yn ei hyrwyddo, nid yn unig fel lle deniadol i ymweld ag ef, ond fel lle deniadol i fyw a gweithio yno.
Gan ddilyn sylwadau’r Aelod dros Dorfaen, ceir cefnogaeth drawsbleidiol i’r prosiect hwn, ac ar y meinciau hyn hefyd. Rwy’n sicr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o’r anawsterau ariannol honedig sy’n wynebu Silverstone, gyda ffigurau allweddol yn y sector Fformiwla 1 yn cwestiynu a fydd yn cynnal Grand Prix y DU wedi 2026 ai peidio. Mae llawer o’r ffigurau allweddol hynny yn y sector yn siarad yn agored ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Cymru gynnal Grand Prix y DU, yng Nghylchffordd Cymru. Oni fyddech yn cytuno â mi, felly, fod hynny’n gyfle gwych i arddangos Cymru i’r byd, gyda’r llwyfan rhyngwladol sydd gan Fformiwla 1, gan adeiladu ar y gydnabyddiaeth y mae Cymru wedi’i chael ym maes chwaraeon ac yn fyd-eang, yn enwedig ar ôl yr haf llwyddiannus a gawsom ym maes chwaraeon?
Nid wyf yn dymuno gwneud sylwadau ar sefyllfa bresennol Silverstone. Ond o ran Fformiwla 1, wrth gwrs, mae’n un o’r digwyddiadau chwaraeon blynyddol mwyaf sy’n digwydd ym Mhrydain, yn Silverstone ar hyn o bryd. Mae tîm Cylchffordd Cymru wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw gais posibl yn y dyfodol am Fformiwla 1 angen cyllid ar unrhyw ffurf gan Lywodraeth Cymru. Byddai’n ddigwyddiad mawr hynod o ddrud i’w gynnal, ond yn un digynsail i raddau helaeth iawn o ran chwaraeon modurol yng Nghymru.
A gaf fi gydnabod diddordeb Ysgrifennydd y Cabinet yn y prosiect hwn, a’r cymorth a roddodd i sicrhau ei fod yn cyrraedd y pwynt hwn, ac ailbwysleisio’r pwynt a wnaeth Lynne Neagle fod yna gefnogaeth ar draws y Siambr—gan gynnwys fy mhlaid fy hun yn bendant—i’r prosiect hwn?
A wnaiff gydnabod hefyd fod y warant a geisir yn warant fasnachol y byddai’r Llywodraeth yn cael ei thalu amdani, ac mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y byddai hawlio arni, lle y byddai’r holl asedau yr argymhellwyd eu hadeiladu ar y safle wedi eu cwblhau, maes o law, ac y byddai’n warant ar £190 miliwn yn unig mewn prosiect gwerth £380 miliwn, felly byddai sicrwydd o 100 y cant, a risg o 50 y cant? O ystyried ei bod yn warant fasnachol y byddai’r Llywodraeth yn cael £3 miliwn y flwyddyn amdani, mae hynny, i raddau helaeth, yn gwrthbwyso’r risg y gofynnir i’r Llywodraeth ei chymryd. Ac felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet hwyluso hynny gymaint ag y bo modd.
Ac mae’r Aelod yn iawn, yn gyffredinol, yn ei honiadau. Credaf fod y ffigurau wedi codi ychydig, ond serch hynny, byddai’r enillion gwirioneddol, cyhyd ag y bo’r gylchffordd yn gweithredu am y cyfnod llawn, yn darparu enillion o oddeutu £2.5 miliwn o ran y gymhareb cost a budd i’r trethdalwr. Felly, mae’r Aelod yn hollol gywir yn hynny o beth.
Gan ystyried yr hyn a ddywedodd Aelodau eraill, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, rwy’n credu efallai fy mod wedi cynnal digwyddiad, ond yn sicr fe siaradais mewn digwyddiad, ar ran Cylchffordd Cymru, gan sôn am werth cyfleusterau o’r math hwn a digwyddiadau mawr yn y sectorau modurol a chwaraeon eithafol yn hyrwyddo Cymru. O ran chwaraeon eithafol, maent yn chwarae rôl bwysig iawn yn hyrwyddo 2016 fel y Flwyddyn Antur a byddant yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd, fel Blwyddyn y Chwedlau ac yn 2018 yn ystod Blwyddyn y Môr.