– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, symud o’r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop. Galwaf ar y Prif Weinidog, felly, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Wel, rydym nawr wedi cyhoeddi ein datganiad polisi manwl ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein safbwynt wedi ei lunio ar y cyd gyda Phlaid Cymru, drwy ein trefniadau cyswllt, ac, felly, mae ganddo gefnogaeth sylweddol yn y Cynulliad hwn—ac rwy’n gobeithio bod llawer yn y ddogfen hon a fydd yn ennyn cefnogaeth Aelodau eraill hefyd. Yr ehangaf yw’r consensws y gellir ei sefydlu yn y Cynulliad hwn, y mwyaf pwerus fydd y neges gan Gymru o ran diogelu ein buddiannau.
Lywydd, mae’r papur yn gwneud chwe phrif bwynt. Y cyntaf yw y dylem barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Yn ôl Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i wledydd yn y farchnad sengl, felly pam ar y ddaear y byddem ni’n wirfoddol yn ildio mynediad iddi? Ar hyn o bryd, mae gennym integreiddio llwyr rhwng y DU a'r farchnad sengl. Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd dylem fod â’r nod o gadw'r integreiddio hwnnw’n llawn, neu gymaint ohono ag y gallwn. Mae gwahanol ffyrdd y gellid gwneud hynny, ond mae’r pwynt hanfodol yn glir: mae ar ein busnesau angen parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl fel y gallant barhau i werthu eu cynnyrch heb anfantais gystadleuol yn Ewrop.
Rydym hefyd yn credu y dylai'r DU barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau, o leiaf am y tro. Mae hyn yn galluogi trefniadau masnach rydd gyda mwy na 50 o wledydd eraill y tu hwnt i'r UE ac nid oes rheswm da i droi ein cefnau ar hynny. Mae'r posibilrwydd wedi cael ei grybwyll y gallai’r DU, dros amser, ffurfio cysylltiadau masnachu newydd ag economïau mawr eraill fel yr Unol Daleithiau, India a Tsieina. Efallai y byddai cytundebau o'r fath yn werth eu cael, ond yn amodol ar gydsyniad manwl. Efallai y byddem yn eu croesawu, ond byddai cynnwys cytundebau o'r fath yn gwbl hanfodol. Ond ar yr adeg hon, mae'n rhaid inni fod yn bragmatig am fuddiannau Cymru. Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod datblygu cytundebau masnach newydd yn broses lafurus ac angen ymdrech hirdymor, yn sicr rhwng pump a 10 mlynedd. Ac mae hynny pan fo pethau'n symud ymlaen yn llyfn a llywodraethau newydd yn parhau i fod o’r un farn â’u rhagflaenwyr, sy’n bell o fod yn sicr. Felly, er ein bod o blaid chwilio am gyfleoedd masnach newydd i’n busnesau, hoffem amddiffyn y marchnadoedd sydd gennym eisoes. Os daw gwell cyfleoedd yn y dyfodol, gadewch inni edrych arnynt â meddwl agored, ond ni welwn ddim mantais yn awr o ddatgymalu buddiannau presennol clir heb reswm amlwg.
Rydym yn derbyn bod pryderon am fudo yn rhan o'r hyn a gymhellodd rai pobl i bleidleisio 'gadael', a dyma yw ein hail bwynt. Hoffwn fod yn glir iawn: mae dinasyddion yr UE yn chwarae rhan gadarnhaol iawn ym mywyd Cymru, a hoffwn i’w statws gael ei wneud yn glir ar frys. Yn y dyfodol, bydd angen o hyd inni recriwtio o Ewrop ar gyfer swyddi mewn meysydd lle ceir prinder a dyma'r pwynt allweddol: mae’n rhaid rheoli mudo o'r UE yn ddomestig a’i gysylltu'n benodol â gwaith. Mae arnom angen cyfreithiau a orfodir yn glir i sicrhau nad oes camfanteisio ar weithwyr mudol na’u bod yn cael eu defnyddio gan gyflogwyr diegwyddor i ostwng cyflogau nac i ostwng telerau ac amodau gweithwyr. Credwn mai dyma’r sail ar gyfer dull cytbwys sy'n cysylltu mudo â swyddi ac arferion cyflogaeth da, wedi’u gorfodi'n briodol, sy'n amddiffyn pob gweithiwr o ba bynnag wlad y mae’n dod yn wreiddiol.
Yn drydydd, mae Cymru yn cael tua £680 miliwn bob blwyddyn o gronfeydd yr UE. Yn ystod y refferendwm, cafodd pleidleiswyr eu perswadio gan ymgyrchwyr 'gadael' na fyddai Cymru yr un geiniog yn dlotach o ganlyniad i adael yr UE. Mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am yr addewid hwnnw a hyderaf y bydd gennym gefnogaeth y Siambr gyfan hon yn hynny o beth. Ni fydd y bobl a’n hanfonodd ni yma yn disgwyl dim llai.
Byddwn, wrth gwrs, yn gadael prif raglenni’r UE a ni yma yng Nghymru fydd yn cael y cyfrifoldeb am reoli amaethyddiaeth a chefn gwlad, ac am ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mae'n hanfodol bod y cyfrifoldebau hynny'n cael adnoddau priodol, ac rydym yn disgwyl i’r Trysorlys gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol. Mae rhai o raglenni llai yr UE sy'n cyfrannu'n sylweddol at ein lles ac y gallem o bosibl ddal i fod yn gymwys ar eu cyfer y tu allan i'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys Horizon 2020, arian i ysgogi ymchwil ac arloesi ac Erasmus, sy'n galluogi cyfnewid myfyrwyr.
Mae Cymru yn rhannu ffin forol ag Iwerddon ac mae porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro yn hollbwysig ac ar reng flaen unrhyw newidiadau. Rydym yn arbennig o awyddus ein bod yn parhau i fod yn gymwys i gael llinyn Cymru-Iwerddon ffynhonnell gyllid INTERREG yr UE. Mae'r symiau o arian yn eithaf bach mewn termau cymharol, ond mae'r rhaglen yn helpu i greu cydweithrediad deinamig rhwng rhanbarthau ffin forol Cymru ac Iwerddon. Bydd y cydweithredu hwn yn dod yn bwysicach, nid yn llai pwysig, yn y dyfodol. Rydym yn mwynhau perthynas ardderchog â’n cymdogion yn Iwerddon, ac rydym yn rhoi gwerth uchel ar adeiladu ar ein cyd-fuddiannau a’n buddiannau cymdogol yn y blynyddoedd i ddod. Fel yr wyf i ac eraill wedi ei ddweud droeon: rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop.
Mae ein pedwerydd pwynt yn ymwneud â datganoli a dyfodol y DU. Mae’n rhaid i bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i'r Cynulliad hwn a’r Llywodraeth hon barhau i fod yn ddatganoledig. Gadewch inni beidio ag anghofio bod ein pwerau hefyd wedi dod o ganlyniad i ddau refferendwm ymhlith y Cymry; byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i fachu pwerau o'r fath iddi ei hun. Rydym yn fodlon iawn i gydnabod y bydd angen cytundeb ar draws pob un o'r pedair llywodraeth mewn rhai meysydd polisi i sicrhau, pan fyddwn y tu allan i'r UE, nad ydym yn gwneud dim byd i atal marchnad fewnol neu farchnad sengl y DU—llif rhydd masnach o fewn y DU. Bydd hyn yn golygu bod angen cyd-barch ymhlith y pedair llywodraeth a pharodrwydd i ddatblygu'r mecanweithiau a fydd yn ein galluogi i ffurfio cytundebau o'r fath, gan gynnwys cyflafareddu annibynnol. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle i adnewyddu ac adfywio arferion democrataidd yn y DU ac ni ddylid gwastraffu’r cyfle hwnnw ar ganoli trwm na fyddai’n cyflawni dim heblaw meithrin dicter a thanseilio cryfder hirdymor yr undeb.
Mae degawdau o aelodaeth yr UE wedi creu etifeddiaeth o fuddiannau sy’n cwmpasu sawl agwedd ar fywyd, a dyma ein pumed pwynt. Mae gweithwyr yn mwynhau amrywiaeth o amddiffyniadau cyflogaeth ac mae ansawdd ein hamgylchedd wedi cael ei wella'n fawr. Wrth inni adael yr UE, ein nod ye gwarchod y gwelliannau hyn i fywyd bob dydd yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu’n rymus unrhyw ymgais i dorri corneli a chreu amodau gwaeth. Mae ein Cymru ni yn wlad sy'n gwerthfawrogi pobl a hoffem wella ansawdd bywyd ein holl ddinasyddion.
Y pwynt olaf a wnawn yn ein dogfen yw bod angen negodi cyfnod pontio, fel y gall y trefniadau presennol fod yn berthnasol am gyfnod ar ôl i'r DU adael yr UE mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg o gwmpas gwanwyn 2019. Nid yw'n glir eto a fydd cytundeb ar berthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol yn seiliedig ar yr un amserlen â'r cytundeb ar gyfer gadael yr UE. Ond mae llawer o amrywioldebau yma a bydd yn rhaid inni aros i weld. Ond, beth bynnag, bydd angen amser ar fusnesau, cyrff cyhoeddus, ffermwyr, prifysgolion a llawer o bobl eraill i asesu realiti newydd wrth i’r realiti hwnnw ddod yn gliriach. Am y rheswm hwn, rydym yn credu bod angen cyfnod pontio, fel bod pawb yn cael amser i baratoi ar gyfer yr amgylchiadau newydd, ac rydym yn credu y dylai hyn fod yn un o flaenoriaethau negodi cynnar y DU.
Lywydd, rwy’n credu bod y Papur Gwyn hwn yn cynrychioli safbwynt cydlynol a manwl ynglŷn â thrafodaethau am yr UE sy'n diogelu buddiannau Cymru ac yn darparu fframwaith credadwy a chadarn ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Rwy'n gobeithio y gwnaiff pob Aelod ei ystyried yn fanwl. Rwy’n bwriadu trefnu dadl ymhen wythnos neu ddwy, a fydd yn rhoi cyfle i ni ddangos cefnogaeth i fudd cenedlaethol Cymru. Rydym yn gadael yr UE—mae’r drafodaeth honno drosodd—ond rwy’n annog pob Aelod i feddwl am delerau gadael yr UE â buddiannau Cymru yn glir mewn golwg.
Yn olaf, Lywydd, rydym eisoes wedi clywed gan y Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys heddiw. Mae'n iawn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael cyfle i gael dadl am y ddeddfwriaeth sbardun ar gyfer erthygl 50, ac rydym yn bwriadu trefnu dadl o'r fath yn amser y Llywodraeth ar yr adeg briodol.
Brif Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rwy’n credu bod eich sylwadau diwethaf yn benodol am fyfyrio ar gynnwys y Papur Gwyn yn gywir. Mae'n bwynt i’w ddadlau, mae'n bwynt i’w drafod, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn edrych arno yn adeiladol a naill ai’n cynnig dewis arall, neu, yn amlwg, yn cefnogi rhai o'r teimladau yn y papur. Rwyf am gyfleu pethau’n glir; ar yr ochr hon i'r Siambr, mae yna ddarnau o’r Papur Gwyn hwn y gallwn ddod o hyd i dir cyffredin yn eu cylch. Ni all fod yn iawn ein bod yn mynd benben wrth ddadlau a thrafod materion mor bwysig, ac os gallwn ddod i gonsensws, bydd llais Cymru yn llawer cryfach oherwydd y consensws hwnnw.
Mae hynny'n dod â mi at ddechrau’r datganiad, lle mae’r Prif Weinidog yn sôn am y consensws ehangach y gellir ei sefydlu ar draws y Cynulliad, sy'n arwain at neges fwy pwerus gan Gymru. Rwy’n gresynu’n chwerw iawn, iawn bod y Prif Weinidog wedi dewis peidio â hyd yn oed cychwyn unrhyw drafodaethau o gwbl â’r ochr hon i'r Siambr. Rwy’n derbyn y gallai'r trafodaethau hynny fod wedi troi yn eu hunfan a pheidio â chyrraedd unlle. Yn yr un modd, mae’n ddigon posibl y byddent wedi gwneud cynnydd, a gallem fod wedi cael cyfres o egwyddorion—[Torri ar draws.] Mae’n ddigon hawdd i’r cenedlaetholwyr draw fan yna rygnu ymlaen, a byddaf yn ymdrin â'ch sylwadau chi’n nes ymlaen, ond gallai fod wedi bod yn fuddiol iawn. Fel y mae datganiad y Prif Weinidog yn ei nodi, pan fo’r Siambr hon yn siarad ag un llais, mae’r llais hwnnw’n llawer mwy, mae'n gryfach ac mae'n gliriach. Felly, yn anffodus, rwy’n gresynu na wnaeth y Prif Weinidog ddewis gwneud hynny, yn sicr yn y dyddiau cynnar, i archwilio rhai o'r dewisiadau hynny. A byddwn yn ddiolchgar o gael deall pam na wnaeth y Prif Weinidog ddewis edrych ar y llwybrau hynny pan wnaethpwyd y cynnig iddo i archwilio pa gymorth oedd ar gael, fel yn fy neges i ato ar 24 Mehefin am archwilio'r posibilrwydd o gydweithio i ddod o hyd i atebion i rai o'r problemau a'r materion y gallai canlyniad y refferendwm eu cyflwyno.
Hoffwn hefyd ofyn i'r Prif Weinidog yn arbennig—. Pan fyddwn yn sôn am y farchnad sengl, a mynediad i’r farchnad sengl, does neb eisiau gweld cyfyngiadau ar fasnach, boed hynny ar lwyfan byd-eang neu ar lwyfan Ewropeaidd. Ond mae'n ffaith bod pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. A drwy fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, roedd gennych hawl i fod yn aelod o'r farchnad sengl. Nawr, mae rhai o’r daliadau sy'n sail i’r farchnad sengl honno yn ymwneud â mewnfudo yn broblemus os ydych chi’n ceisio cael mynediad i'r farchnad, neu gymryd rhan yn y farchnad. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall sut y mae'r Prif Weinidog yn gweld naill ai aelodaeth, cyfranogiad, neu fynediad, oherwydd mae’r ddogfen yn sôn am bob un o'r tri wrth sôn am y farchnad sengl a gallu cwmnïau o Gymru a chyfleoedd i Gymru o fewn y farchnad honno.
Mae yna'n symud ymlaen i ddiffinio am swyddi ac, yn arbennig, sut y mae un o'r atebion y mae’r Prif Weinidog a Phlaid Cymru yn eu cynnig i ateb y cwestiwn mewnfudo a oedd, i rai pobl, yn ganolog i'w pleidlais yn y refferendwm, sef y gallu i reoli mewnfudo. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi cyflwyno’r cynnig y dylai fod gan bobl swydd neu y dylent gael dod i mewn i'r wlad am gyfnod i ddod o hyd i swydd. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall beth fyddai'r Prif Weinidog yn penderfynu ei ddosbarthu fel swydd a fyddai’n caniatáu mynediad i'r Deyrnas Unedig. Oherwydd mae hyn yn wirioneddol bwysig wrth benderfynu a yw’r dewis hwn mewn gwirionedd yn gwneud synnwyr ai peidio.
Yna, afraid dweud y byddwn i gyd yn ymladd yn y Siambr hon i sicrhau cyfran Cymru o adnoddau, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein sector addysg uwch, ein heconomi wledig ac, yn wir, ein cronfeydd strwythurol yn gallu elwa ar yr arian hwnnw sy'n dod i mewn i Gymru. Nid oes dadl am hynny, a byddwn yn gweithio'n ddiflino gydag unrhyw un yn y Siambr hon sy'n rhannu'r teimlad hwnnw. Mae'n hanfodol cyflwyno neges gadarnhaol, pan gaiff yr arian hwnnw ei ddyrannu, y byddwn yn dechrau defnyddio'r arian hwnnw i’n symud oddi ar waelod y tablau cynghrair, sydd wedi difetha economi Cymru mewn cynifer o ffyrdd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw, a dweud y gwir, os ydym am sicrhau cyfran deg o'r arian hwnnw—ac efallai hyd yn oed gyfran fwy o'r arian hwnnw—ein bod, yn y meysydd hyn, yn edrych ar fframwaith i’r DU gyfan i ddadlau a thrafod sut y gall yr arian hwnnw ddod i Gymru, ac, yn wir, i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ateb ynghylch beth yw ei farn am fframwaith y DU o ran amaethyddiaeth, o ran cronfeydd strwythurol ac o ran cyllid AU, oherwydd rwy’n credu, unwaith eto, bod hwnnw’n faes pwysig iawn i'w ystyried o ran sut yr ydym mewn gwirionedd yn ailgylchu’r arian o amgylch y Deyrnas Unedig.
Rwy’n credu ei bod yn debyg mai’r paragraff ar drefniadau cyfansoddiadol yw’r paragraff pwysicaf yn y datganiad hwn. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i ddarganfod sut y bydd y Deyrnas Unedig yn ei llywodraethu ei hun ac yn ei chynnal ei hun ar ôl y trafodaethau Brexit. Ategaf y sylwadau y mae David Melding ac eraill yn y Siambr hon wedi sôn amdanynt, ac, mewn gwirionedd, gallwn gael effaith uniongyrchol yma, os ydym mewn gwirionedd yn ymgysylltu'n gadarnhaol ac o ddifrif yn y maes pwysig iawn hwn o drafodaethau ar ôl Brexit.
Gallaf ddeall yr angerdd a gallaf ddeall yr ymrwymiad sydd gan lawer yn y Siambr hon i geisio trafod pethau nad ydynt yn nwylo’r Siambr hon, ond, a dweud y gwir, ar drefniadau cyfansoddiadol, gallwn gael effaith enfawr. Unwaith eto, hoffwn glywed gan y Prif Weinidog am sut, ochr yn ochr â'r trafodaethau ar Brexit, y mae'n gweld Llywodraeth Cymru ac, yn wir, y Papur Gwyn hwn, yn rhoi sail inni i allu cyrraedd y pwynt lle byddai’r trefniadau hynny yn gadarn, yn hirdymor ac, yn anad dim, yn ateb y cwestiwn mewn Teyrnas Unedig ar ôl yr UE—bod gennym y trefniadau hynny ar waith. Dim ond 730 o ddiwrnodau fydd gennym ar ôl sbarduno erthygl 50—mae’n gyfnod byr iawn.
Y pwynt arall yr wyf yn credu ei fod yn bwynt gwirioneddol hanfodol yn y datganiad hwn yw’r trefniadau pontio. Nawr, gallwn ganolbwyntio ar y trefniadau pontio o gwmpas gadael yr UE, ond mae'n bwysig ein bod yn adlewyrchu ar drefniadau pontio o fewn y DU ei hun. Felly, rydym yn edrych ar ba drefniadau pontio y gallai fod angen eu rhoi ar waith, nid yn unig gyda'r UE, os mai dyna beth sydd ei angen, ond sut y byddai’r trefniadau pontio hyn yn gweithio mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig. Ac, unwaith eto, ychydig neu ddim amser—o'r hyn y gallaf ei weld yn y papur, ac, yn wir, yn y drafodaeth ehangach—sydd wedi edrych ar yr agwedd benodol honno, sef sut y gallai neu na allai fod angen iddo weithio, gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau hynny.
Fel y dywedais ar ddechrau fy natganiad, rwy’n gresynu’n chwerw bod y Prif Weinidog wedi cau'r drws ar gydweithredu. Ond, o'r ochr hon i'r tŷ, byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, sy’n deall eu pethau yn y trafodaethau hyn, i wneud yn siŵr bod pennaf les Cymru yn cael sylw. Ac rwy’n croesawu'r mynediad ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad gan fy nghydweithwyr i weithio gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr hon i sicrhau yr hyn sydd er pennaf les Cymru cyn gynted â bod y trafodaethau hyn wedi dod i ben.
Gwrandewais yn astud ar sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. A gaf i ddweud nad oedd yn fy nharo bod llawer o dir cyffredin rhyngom? Nid wyf yn gwybod beth yw ei farn am ddyfodol y DU, ar wahân i'r ffaith ei fod yn dweud y dylai'r DU edrych tuag allan. Rydym i gyd yn cytuno â hynny, ond y tu hwnt i hynny, nid oes gennym unrhyw syniad beth yw ei farn am drefniadau pontio, beth yw ei farn am fynediad i’r farchnad sengl, a beth yw ei farn am ba fath o berthynas y dylai fod gennym ni â’r UE. Mae gen i ddiddordeb yn y safbwyntiau hynny, ond nid wyf wedi eu clywed. Mae'n anffodus, o ystyried y dôn adeiladol y mae wedi ei mabwysiadu heddiw, ei fod wedi disgrifio, ar Twitter, cyhoeddiad y Papur Gwyn fel cyhoeddi'r copi diweddaraf o 'The Beano'. Nawr, ni all, ar y naill law, ddweud hynny ac yna, ar y llaw arall, awgrymu bod hon yn drafodaeth o ddifrif—[Torri ar draws.] Nid oeddent yn gwybod hynny ar ei fainc gefn. Gallaf weld hynny—dyna a ddywedodd. [Torri ar draws.] Nawr, gadewch inni gael trafodaeth aeddfed am hyn oherwydd nid wyf—[Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl bod defnyddio’r math hwnnw o ymadrodd yn gydnaws ag awydd gwirioneddol i gydweithio, ond, wyddoch chi, rwy’n mynd i roi mantais yr amheuaeth iddo i weld pa syniadau, yn wir, y gwnaiff eu cynnig yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Gyda'r farchnad sengl—[Torri ar draws.] Na. Gyda'r farchnad sengl, un peth y mae wedi'i ddweud, a oedd yn fy mhoeni, yw ei fod wedi awgrymu, neu ei fod wedi dweud yn yr erthygl a ysgrifennodd ar gyfer 'The Sunday Times' ein bod yn or-ddibynnol ar y farchnad Ewropeaidd. Nawr, nid wyf erioed wedi clywed am neb yn dweud, 'Mae angen inni werthu llai mewn marchnad.' Dim o gwbl—rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gwerthu mwy i'r farchnad Ewropeaidd, ac, yn wir, i farchnadoedd eraill o amgylch y byd. Felly, ni allaf gytuno ag ef ein bod yn or-ddibynnol ar farchnad yr ydym yn gwerthu 67 y cant o'n cynnyrch iddi, a 90 y cant o'n bwyd a diod fel allforion. Dylem fod yn ceisio cynyddu ein cyfran o'r farchnad honno, nid ei lleihau.
Mae wedi sôn am ryddid i symud. Credaf fod y model y mae a Norwy wedi ei fabwysiadu yn cynnig model diddorol, cyn belled ag yr ydyn ni yn y cwestiwn. Mae hwnnw'n rhoi rhyddid i symud i weithio—mae gennym ni hynny eisoes—ac maent yn cymryd rhan yn y farchnad sengl. Felly, mae'n bosibl cael y model hwnnw o ryddid i symud a pharhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl.
Mae hefyd yn sôn, fel y mae eraill wedi ei wneud, am fynediad i'r farchnad sengl a pha mor bwysig yw hynny. Dywedodd ei Brif Weinidog ei hun yr hoffai gael cymaint â phosibl o fynediad i'r farchnad sengl. Rwy'n cytuno. Mae hynny'n hynod o bwysig. Felly, mae hi wedi gadael digon o le iddi ei hun yn y fan yna i ddatblygu dadl ar y ddwy ochr i’r ffens. Yr un peth sydd gennyf i’w ddweud wrthi—ac mae Aelodau yn syrthio i'r fagl hon bob tro ynglŷn â gadael i bobl ddod i mewn i'r DU—ni fydd gan y DU ffin. Sawl gwaith y mae’n rhaid inni ymchwilio i hyn? Pan wyf yn codi hyn gyda Gweinidogion Whitehall, nid oes ganddynt unrhyw ateb. Y gwir yw, os ydych yn dymuno dod i mewn i'r DU, ewch i mewn i Iwerddon, ac yna gallwch ddod i mewn heb ddim archwiliad o gwbl. Felly, nid yw’r syniad y gall y DU gyflwyno ffiniau, a awgrymwyd ar adeg yr ymgyrch y llynedd—nid wyf am ail-ymladd hynny; mae wedi gorffen—yn wir. Yn syml, nid yw'n mynd i ddigwydd, oherwydd oni bai eich bod yn cael cydweithrediad Gweriniaeth Iwerddon, a bod gan Weriniaeth Iwerddon yr un polisi mewnfudo, ac ni fyddant yn gwneud hynny oherwydd byddant yn rhan o'r UE a bydd ganddynt ryddid i symud, yna, a dweud y gwir nid yw’n bosibl monitro pwy sy'n dod i mewn i'r DU a phwy sydd ddim. Felly, mae angen cydweithrediad â gwledydd eraill. Mae angen cydweithrediad â’r UE, yn eironig, er mwyn i’r DU reoli ei ffiniau ei hun; fel arall ni all reoli ei ffiniau ei hun. Felly, bydd hynny’n ystyriaeth bwysig wrth inni symud ymlaen.
O ran adnoddau, mae'n bwysig ein bod yn cadw’r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig mai pobl Cymru sy’n rheoli’r adnoddau hynny, drwy eu Cynulliad a'u Llywodraeth, ac na chânt eu rheoli o fannau eraill. Mae'n bwynt teg i ddweud y byddai fframwaith i’r DU gyfan, mewn rhai meysydd, yn gwneud synnwyr. Mae iechyd anifeiliaid yn un maes, ac mae cymorth gwladwriaethol yn un arall. Os nad oes rheolau cymorth gwladwriaethol, mae pawb ar ei ben ei hun. Ni fyddai unrhyw beth i’n hatal ni rhag taflu arian at Faes Awyr Caerdydd i geisio cau Bryste. Does gen i ddim amheuaeth y byddai Bryste yn cwyno am hynny, ac, o'u safbwynt hwy, yn ddigon teg. Felly, bydd angen cadw rhyw fath o fframwaith ar draws y DU ar gyfer ymdrin â materion fel cymorth gwladwriaethol. Ond y mater allweddol yw hwn: nid yw'r fframweithiau hynny yno i gael eu gosod gan Whitehall; maent yno i'r pedair Llywodraeth gytuno arnynt. Os edrychwn ni ar amaethyddiaeth, bydd DEFRA yn gofalu am fuddiannau ffermwyr yn Lloegr. Maent wedi gwneud hynny erioed oherwydd eu llais nhw sydd gryfaf—mae hynny’n golygu’r ffermwyr grawnfwyd, mae'n golygu tir âr, mae'n golygu llaeth ar raddfa fawr. Nid oes ganddynt gymaint o ddiddordeb, ar y cyfan, mewn ffermwyr mynydd, ac rwy’n dweud hynny fel rhywun sydd wedi ymdrin â DEFRA am nifer o flynyddoedd o dan y ddwy blaid. Nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol. Credaf fod hynny'n ffordd o feddwl yn Whitehall sy'n anodd ei hosgoi. Fyddwn i ddim yn ymddiried yn DEFRA i gynhyrchu polisi amaethyddol ar gyfer Prydain gyfan. Felly un, o bosibl, y gellid cytuno arno fel fframwaith: ie. Un sy'n cael ei orfodi: dim o gwbl.
Felly, y cwestiwn nesaf yw: sut, felly, yr ydym ni’n creu mecanwaith o'r fath yn gyfansoddiadol i gael y cytundeb hwnnw? Wel, a dweud y gwir, mae eisoes wedi bodoli yn y gorffennol. Pan oeddwn yn fy nghyfnod cyntaf fel Gweinidog amaethyddiaeth, byddem yn cyfarfod bob mis, yn Llundain, y pedwar Gweinidog, i gytuno ar safbwynt y DU yn y Cyngor Gweinidogion Ewrop nesaf. Nid oeddem i gyd o'r un blaid, ac eto roeddem yn dal i allu cytuno ar yr hyn y dylai'r sefyllfa fod, ac mae’r model hwnnw wedi parhau. Nawr, roedd hynny’n gweithio ar gyfer amaethyddiaeth. Gydag agwedd aeddfed a gyda synnwyr ar bob ochr, nid oes unrhyw reswm pam na ellir defnyddio hwnnw fel model ar gyfer mecanwaith y DU.
Nid yw'r CBG yn gweithio. Nid yw’n mynd i fod yn addas i’w ddiben yn y dyfodol. Ni allwn fod mewn sefyllfa, er enghraifft, os bydd anghydfod rhwng Llywodraeth ddatganoledig a Llywodraeth y DU, lle mai Llywodraeth y DU yw’r canolwr yn y pen draw. Ni all hynny fod yn iawn. Os oes gennym anghydfod â’r Trysorlys, y Trysorlys sy'n penderfynu ar yr anghydfod hwnnw. Mae’n rhaid cael proses annibynnol o ddatrys anghydfod. Nawr, i mi, mae hynny'n golygu peidio â chael CBG, ond cyngor o Weinidogion, cyngor o Weinidogion Prydain, lle mae'r pedair Llywodraeth yn edrych ar feysydd o fudd a meysydd polisi cyffredin ac yn ceisio dod i gytundeb. Dyna'r ffordd o sicrhau ein bod yn gwarchod y farchnad sengl fewnol yn y DU ac eto yn diogelu sefyllfa'r tair gwlad lai o fewn y Deyrnas Unedig ei hun, ac yn y pen draw yn diogelu’r undeb, oherwydd dewch inni beidio ag esgus nad yw'r DU ei hun o dan bwysau o ganlyniad i Brexit, oherwydd mae hi. Rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw’n amherthnasol i fater Brexit, gallaf ei sicrhau o hynny. Rydym yn gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i wneud yn siŵr nad yw hen ysbrydion y gorffennol yn dod yn ôl i aflonyddu arnom wrth i’r DU adael yr UE.
Ar ei bwynt olaf, am drefniadau pontio, rwy’n cytuno'n llwyr. Rwyf wedi siarad â phobl sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau masnach, ac maent i gyd yn dweud wrthyf ei bod yn cymryd dwy flynedd i gytuno i ddechrau’r trafodaethau, heb sôn am gyrraedd sefyllfa lle gellir cytuno arnynt. A bydd y trefniadau pontio hyn yn hynod o bwysig i alluogi ein hallforwyr, nid dim ond i gael mynediad i'r farchnad Ewropeaidd, ond y 50 o wledydd y mae gan yr UE gytundebau masnach rydd â nhw; byddai pob un ohonynt yn diflannu pe na byddai gennym drefniadau pontio, gan ein gadael, i bob diben, ar ein pennau ein hunain.
Yn y pen draw, fy ofn mawr yw hyn: wrth i’r DU sôn am fasnach rydd a globaleiddio, bod gweddill y byd yn mynd i'r cyfeiriad arall, America yn arbennig, ac mae'r rhain yn faterion y mae'n rhaid inni eu hystyried yn ofalus iawn, iawn. Rwy’n adleisio'r pwynt a wnaeth David Melding, ac rwy’n credu ei fod yn hollol gywir; bydd angen trin hyn yn fedrus iawn, iawn, o ystyried y ffaith nad yw’r hyn a oedd yn gywir ym mis Mehefin y llynedd yn gywir bellach cyn belled ag y mae rhai o economïau mwyaf y byd yn y cwestiwn.
Roeddwn yn falch ac yn hapus i lansio’r Papur Gwyn hwn gyda’r Llywodraeth ddoe, a pha bynnag anghytundeb sydd rhwng y pleidiau yn y fan yma ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus a’r busnes craffu o ddydd i ddydd, ar fater gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol, cyn belled ag y gallwn, bod Cymru yn siarad ag un llais ac yn creu safbwynt sy'n adlewyrchu budd cenedlaethol Cymru. Mae hwn yn gwestiwn rhy fawr i un blaid ei ateb. I ni ym Mhlaid Cymru, roedd y cyfle i ddylanwadu ar y Papur Gwyn hwn a’i lunio yn un yr oeddem yn awyddus i’w gymryd. Drwy broses o drafod, rydym wedi llwyddo i godi proffil nifer o'n blaenoriaethau allweddol.
Cyn gofyn rhai cwestiynau, hoffwn amlinellu rhai o'r pwyntiau hynny o ddatganiad y Prif Weinidog. Rwy’n croesawu’r ffaith ei bod bellach yn well ganddo barhau i gyfranogi yn y farchnad sengl a bod ystod o ffyrdd y gellir cyflawni hyn. Bu dadl fywiog am hyn, ond yr hoff ddewis sydd wedi dod i'r amlwg yw bod angen inni ddiogelu’r dau draean hynny o’n hallforion sy'n mynd i'r farchnad sengl a bod angen inni osgoi tariffau a rhwystrau eraill.
Rwy’n croesawu'r egwyddor barhaus o blaid rhyddid pobl i symud. Rwy'n falch bod ymrwymiad i ddiogelu lefelau gwariant presennol rhaglenni'r UE, yn enwedig y cyllid amaethyddol hanfodol sy'n cynnal ein cymunedau ffermio, ein bywyd cefn gwlad a'n hiaith Gymraeg. Ceir neges gref hefyd na ellir caniatáu lleihau pwerau datganoledig o gwbl. Ni ellir caniatáu unrhyw israddio i hawliau gweithwyr nac i fesurau diogelu amgylcheddol. Ac ynglŷn â phwerau datganoledig, rydym eisoes wedi clywed heddiw sut y mae’r llysoedd yn ystyried bod y materion sy'n ymwneud â'r confensiwn Sewel yn fater gwleidyddol yn hytrach na chyfreithiol, a byddai hyn yn awgrymu i ni, wedi i’r Bil Cymru basio, bod angen inni gychwyn y ddadl am y cam cyfansoddiadol nesaf cyn gynted ag y bo modd. Fel y dywedodd Simon Thomas yn y drafodaeth ddiwethaf, gadewch inni ddod â’r rheoli trefedigaethol hwn i ben.
Brif Weinidog, rwy'n falch yn bennaf oll bod gan Gymru gynllun nawr. Yn absenoldeb unrhyw beth cadarn o San Steffan, yn absenoldeb unrhyw syniad o gwbl gan y bobl a arweiniodd yr ymgyrch ‘gadael’, erbyn hyn mae gan Gymru gynllun sy’n seiliedig ar dystiolaeth. A byddwn yn dweud wrth y rhai hynny ohonoch, yn enwedig y gwleidyddion Brexiteer hynny a oedd yn feirniadol o’r ymgyrch hon—lluniwch eich cynllun eich hun. Os nad ydych chi’n hoffi ein datrysiadau, lluniwch eich rhai eich hun.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar weithredu’r Papur Gwyn a'r trafodaethau. Rwyf ar ddeall bod y CBG nesaf ym mis Chwefror. A yw’r cyfarfod hwnnw’n fforwm ar gyfer trafodaethau Ewropeaidd? A fyddwch chi’n cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda'r Gweinidogion datganoledig perthnasol cyn y cyfarfod hwnnw? Ac os ydym am gymryd ymrwymiad Llywodraeth y DU i ymgysylltu â phob ewyllys da, a fydd cyfleoedd i weithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU?
Ar lefel ehangach, wrth i’r broses o amgylch erthygl 50 fynd rhagddi, mae ar Blaid Cymru eisiau gweld cymaint o gydweithredu â phosibl rhwng Cymru a'r gwledydd datganoledig eraill. Bydd buddiannau a rennir ar ystod o faterion, yn enwedig ar faterion rheoliadau ac amddiffyniadau’r UE. Mae'n ganolog i'n cred na ddylai manylion y modd yr ydym yn gadael yr UE gael eu gwneud yn Llundain na’u gwneud yn San Steffan, ond y dylai fod dull sydd wir yn cynnwys y pedair gwlad. Mae llais Cymru wedi ei gryfhau yn sylweddol gan gefnogaeth amlbleidiol y Cynulliad hwn, ond i gryfhau’r llais hwnnw ar lwyfan y DU, dylid cydlynu pethau’n agos gyda’r gweinyddiaethau eraill hynny. Felly, a allwch chi gadarnhau y byddwch yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ac a wnewch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, ym mha ffordd y byddwch yn gwneud hynny?
Gan droi at broses bontio’r UE gartref, yma yng Nghymru mae angen inni sicrhau bod y gwahanol sectorau sydd â diddordeb yn ein heconomi yn cael gwybodaeth a briffiau llawn am safbwynt negodi Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn debygol o gymryd llawer mwy o sylw o’n safbwynt os ydym wedi cyfathrebu â busnes, ffermio, addysg uwch a'r holl sectorau eraill y mae hyn yn effeithio arnynt ac wedi eu gwahodd i gefnogi’r cynllun hwn yn gyhoeddus.
Mae angen i'r cynllun fynd yn ehangach na Llywodraeth Cymru neu Blaid Cymru. Mae angen i gymdeithas Cymru gyfan ei ddeall, gan gynnwys y rhai a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond y gallai fod yn well ganddynt barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl. A wnewch, felly, sicrhau bod y gwahanol gyrff a chwmnïau sydd â diddordeb yng Nghymru yn cael eu hysbysu a'u briffio am y safbwynt negodi a’u bod yn cael eu gwahodd i ddangos eu cefnogaeth iddo mewn ffordd gyhoeddus? Diolch.
A gaf i ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau? Gwnaethpwyd gwaith da rhwng ein pleidiau o ran datblygu Papur Gwyn y Llywodraeth. Gallaf ei sicrhau bod cyfarfod llawn nesaf y CBG yn cyfarfod ddydd Llun, 30 Ionawr. Fel rhan o'r hyn sy'n digwydd o amgylch y cyfarfod llawn CBG, mae'n eithaf arferol i gael cyfarfodydd dwyochrog. Siaradais ddiwethaf â Phrif Weinidog yr Alban ychydig cyn y Nadolig, ond rwy'n llawn ddisgwyl siarad â hi yn ystod y cyfarfod dwyochrog yn ystod yr wythnos nesaf. Hefyd, wrth gwrs, mae'n eithaf arferol cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ogystal. Cefais gyfarfod, dros y ffôn, gyda David Davis, Ysgrifennydd Brexit, neithiwr.
Byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r Alban. Bydd diweddbwynt yr Alban yn wahanol i’n un ni, ond rydym yn rhannu llawer o fuddiannau cyffredin. Mae Gogledd Iwerddon yn anoddach—roedd yn anodd hyd yn oed cyn y digwyddiadau yng Ngogledd Iwerddon oherwydd y safbwyntiau sylfaenol wahanol sydd gan ein Prif Weinidog ni a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Nawr, wrth gwrs, does dim penaethiaid Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon y gallwn mewn gwirionedd gwrdd â nhw. Efallai y bydd cyfleoedd i gyfarfod â Gweinidogion Gogledd Iwerddon; cawn weld pa gynrychiolaeth a ddônt gyda nhw i gyfarfod llawn y CBG.
Mae hi'n gywir wrth ddweud bod yn rhaid i bob un o bedair gwlad y DU weithio drwy fanylion y ffordd yr ydym yn gadael. Mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddweud, hyd yn hyn, y bydd yn digwydd. Mae'n rhaid inni aros i weld a wnaiff hynny ddigwydd mewn gwirionedd o ganlyniad i'w geiriau.
O ran trefniadau pontio’r UE gartref, mae cyngor ar gyfer adnewyddu economaidd ddydd Iau. Bydd cyfle yno, wrth gwrs, i’r rhai sy'n aelodau o’r fforwm hwnnw ofyn cwestiynau, o ran y Papur Gwyn, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn ystyried sut i ledaenu cynnwys y Papur Gwyn mor eang â phosibl.
Mae'r Papur Gwyn ei hun yn gyfraniad diffuant, rwy’n credu, at y ddadl. Nid yw'n ceisio ymosod ar neb nac ar unrhyw Lywodraeth. Hwn yw’r mater mwyaf sylfaenol bwysig y mae’r DU wedi ei wynebu ers blynyddoedd maith. Mae'n hynod o bwysig bod y Papur Gwyn yn ffurfio rhan ganolog nid yn unig o feddyliau Llywodraeth y DU, ond o’r meddyliau canolog ynglŷn â sut y gall Cymru ffynnu yn y dyfodol o dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu.
A gaf i groesawu’r datganiad ac, yn arbennig, diolch i'r Prif Weinidog am gyfarch fy mhresenoldeb yn ei gynhadledd i'r wasg ddoe â chwrteisi siriol? O'r olwg daranllyd ar wyneb arweinydd Plaid Cymru, nid wyf yn meddwl ei bod hi mor falch o fy ngweld. Roedd yn bwysig, rwy’n meddwl, fy mod i yno, oherwydd roedd yn gyfle yn ogystal â heddiw i holi’r Prif Weinidog am rannau o'r cynllun, yn enwedig ynglŷn â mudo.
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn adleisio teimladau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gynharach na chafodd ei blaid ef na fy un innau eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau â Llywodraeth Cymru am sut i helpu i symud Cymru ymlaen yng nghyd-destun realiti newydd Brexit. Yn enwedig o ran mudo, mae’r atodiad ystadegol yn dangos bod 86 y cant o bobl Cymru yn credu y dylid lleihau mewnfudo i Brydain—86 y cant—ac eto dywedodd arweinydd Plaid Cymru ddoe, yn y gynhadledd i'r wasg, nad oedd hi’n meddwl bod mewnfudo yn broblem o gwbl. [Torri ar draws.] Felly, mae’r rhan o'r cynllun hwn am fudo, sydd wedi’i gydnabod yn natganiad y Prif Weinidog fel y rheswm pam y pleidleisiodd llawer o bobl dros ‘gadael’, wedi’i lyffetheirio o'r cychwyn gan ei gynghrair gyda phlaid sy’n gwadu’r holl broses. Mae'n ymddangos, felly, yn eithaf cwicsotig ei fod yn rhoi’r fath bwysigrwydd i blaid sy’n gwadu’r realiti, ac eto ei fod yn anwybyddu'r pleidiau ar yr ochr hon i'r tŷ a oedd, wedi'r cyfan, ar ochr fuddugol y ddadl.
Rwy’n gobeithio y gwnaiff ef gytuno, er bod fy nghydweithwyr a minnau wedi ein disgrifio cyn inni gyrraedd y Cynulliad hwn fel aflonyddwyr annioddefol, ein bod wedi gwneud ein gorau i chwarae rhan adeiladol yn nhrafodion y sefydliad hwn a’n bod yn awyddus i chwarae rhan, cyn belled ag y mae ein gwahaniaethau gwleidyddol yn caniatáu inni wneud hynny, yn y broses o gael y canlyniad gorau i Gymru o'r broses hon. Felly, yn y dyfodol, os gwnaiff ein cynnwys ni, i'r graddau nad yw'n anghyson ag amcanion gwleidyddol Llywodraeth Cymru, rwy’n gobeithio y gwnaiff wneud hynny.
O ran yr adran o'r cynllun ar fudo, dywedodd wrthyf ddoe ei fod yn meddwl mai model Norwy oedd y ffordd ymlaen, ond nid yw hynny'n tawelu dim ar bryderon y cyhoedd am fewnfudo o’r UE heb ei reoli. Mae 450 miliwn o bobl y tu allan i Brydain yn yr UE sydd â hawl cyfreithiol i ddod yma i weithio ac i fyw. Pe byddem yn mabwysiadu model Norwy, ni fyddai hynny'n newid o gwbl, gan fod Norwy mewn gwirionedd yn y cytundeb Schengen, wrth gwrs, ac felly mae ganddi hyd yn oed lai o reolaeth dros ei ffiniau nag sydd gan Brydain ar hyn o bryd. O dan gyfraith bresennol yr UE, sydd mewn grym yn Norwy, nid yn unig mae gan ddinasyddion yr UE yr hawl i dderbyn cynigion o swyddi yn Norwy, ond mae ganddynt hefyd yr hawl i fynd yno er mwyn chwilio am waith. I bob diben, gallant fynd â’u dibynyddion gyda nhw; felly, nid yw’r agwedd honno ar ei gynllun yn gynllun o gwbl, oherwydd nid yw hyd yn oed yn dechrau ymdrin â'r broblem o reoli ein ffiniau ein hunain.
O ran y datganiad am yr undeb tollau, rwy’n gweld hwnnw braidd yn rhyfedd ar adeg pan fo Arlywydd yr Unol Daleithiau, ein partner masnachu cenedlaethol unigol mwyaf yng Nghymru—ydy, mae’r Unol Daleithiau yn genedl, a hi yw ein partner masnachu mwyaf sy’n genedl unigol—ein bod yn diystyru'r posibilrwydd o wneud cytundebau masnach rydd â gweddill y byd, sef 85 y cant o'r economi fyd-eang. O ystyried bod Awstralia, Seland Newydd a llawer o wledydd eraill eisoes wedi cysylltu â ni i archwilio cytundebau masnach—gwledydd eraill a chanddynt drefniadau presennol ar gyfer masnach rydd neu fasnach ffafriol gyda'r UE, ac rydym yn rhan o'r trefniadau hynny nawr—pam y dylem ei chael hi mor anodd i allu parhau â nhw? Efallai fod y sôn am bump i saith mlynedd o negodi yn berthnasol i'r UE, lle mae angen i 28 o wledydd gytuno â dogfen, ond pan ein bod yn trafod yn ddwyochrol, mae popeth yn dod yn llawer symlach, yn enwedig pan fyddwn yn negodi â gwledydd sydd, yn ysbrydol, yn llawer agosach atom ni a'n golwg ni ar y byd na llawer o'r rheini y cawsom ein clymu atynt am fwy neu lai y 40 mlynedd diwethaf yn yr UE.
Hoffwn ofyn un cwestiwn hefyd i’r Prif Weinidog am anobaith di-baid ei gynllun a'r sail ystadegol y mae nifer o'i haeriadau wedi'u seilio arni. Ar dudalen 9 y ddogfen, mae'n dweud y ceir consensws cryf ymhlith proffwydi economaidd prif ffrwd—rhywbeth na fyddwn i’n cytuno ag ef—y gallai disodli cyfranogiad yn y Farchnad Sengl â rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) arwain at economi'r DU sydd hyd at 8 – 10% yn llai nag y byddai wedi bod fel arall.
Ni allaf ddeall sut y mae’n bosibl i hynny fod yn wir, oherwydd pe na byddai gennym unrhyw allforion o gwbl i'r UE, byddai hynny'n dileu 11 y cant o'n cynnyrch mewnwladol crynswth. Felly a yw mewn gwirionedd yn seilio ei gynllun ar y tebygolrwydd na fyddem yn gwneud unrhyw fasnach o gwbl â'r Undeb Ewropeaidd? A yw'n disgwyl y caiff wal ei hadeiladu i lawr canol y Sianel? Sut y gallai hynny fod yn wir ar unrhyw gyfrif, o ystyried na fyddai hanner ein masnach o dan reolau’r WTO yn ddarostyngedig i unrhyw dariff o gwbl gyda'r UE, ac y byddai’r tariff cyfartalog o dan reolau’r WTO yn 3.5 y cant, sut y gallai’r sail ystadegol hon fod ag unrhyw hygrededd o gwbl?
Mae'r pwynt olaf y mae’n rhaid imi ei wneud yn ymwneud â’r dyfodol a Llywodraeth y DU yn sicrhau y dylai Cymru gael pob ceiniog o'r hyn yr ydym ei gael ar hyn o bryd o arian trethdalwyr Prydain drwy'r UE. Yn hyn o beth, rwyf 100 y cant yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, a gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deg o elw a buddiannau Brexit, sy'n cynnwys nid yn unig yr arian a gawn ar hyn o bryd drwy Frwsel, ond hefyd y difidend Brexit o’r £8 biliwn y flwyddyn o arian trethdalwyr Prydain sy'n cael ei wario ar hyn o bryd mewn rhannau eraill o'r UE. Felly, yn hynny o beth, unwaith eto, mae popeth ar gael i ni ymgeisio ato yn y fan yma, os gallwn gyflwyno ein hachos yn y ffordd fwyaf perswadiol, a'r ffordd orau o wneud hynny yw sefydlu’r consensws yr honnodd arweinydd Plaid Cymru yr hoffai ei weld ar draws y Siambr hon a chynnwys yr holl bleidiau a gynrychiolir yma yn y broses hon, fel y gallwn, cyn belled ag y bo'n bosibl, a does bosib yn yr agwedd hon na allwn i gyd o leiaf gytuno’n unfrydol bod yn rhaid i Gymru gael cymaint allan o hyn ag sy’n bosibl.
Wel, arweinydd—. Wel, gadewch imi ddechrau yn y diwedd. Rwy’n croesawu ei gefnogaeth i geisio sicrhau nad yw Cymru yn colli un geiniog o arian. Fel y dywedais, roedd yn bresennol ddoe yn y gynhadledd i'r wasg. Rwy’n credu ei fod wedi meddwl fy mod i’n mynd i’w daflu allan; wnes i ddim gwneud hynny. Ceisiodd ofyn cwestiwn. Rwy’n credu ei fod wedi meddwl y byddwn yn anwybyddu'r cwestiwn; wnes i ddim gwneud hynny. Rwyf i o'r farn ei bod yn well bod gennym bobl yno a chael tynnu eu coes, yn hytrach na’u taflu allan. Ond rwy’n gwerthfawrogi'r ffaith ei fod wedi dod. Fel y dywedais, nid oedd wedi dod o bell—rydym yn gwybod hynny—ond serch hynny, nodwyd ei gefnogaeth.
Yn gyntaf oll, mae'n wir mai’r canfyddiad yn ein gwlad yw bod mewnfudo’n rhy uchel. Mae'r gwirionedd yn wahanol. Rydym yn gwybod bod 79,000 o ddeiliaid pasbort yr UE yn byw yng Nghymru. Er nad ydym yn gwybod y ffigur, rwy’n amau mai Gwyddelod yw nifer sylweddol ohonynt mewn gwirionedd ac, o ganlyniad, maent yn cael eu cyfrif fel deiliaid pasbort UE. Mae saith deg un y cant yn gweithio yma, nid yw'r 29 y cant arall yn gweithio. Y gwirionedd yw mai myfyrwyr yw’r rhan fwyaf o'r rheini, ac nid ydym, does bosib, eisiau gweld llai o fyfyrwyr yn dod i mewn i Gymru a'r DU. Maen nhw’n darparu gallu meddyliol ac arian sylweddol i’n prifysgolion, ac i bob diben maent yn talu arian i’r system sydd o gymorth i’r rhai sydd o Gymru.
Nawr, ni ddywedodd neb wrthyf ar garreg y drws, 'Yr hyn sydd ei angen arnom yw llai o feddygon, llai o nyrsys, llai o fyfyrwyr o wledydd eraill.’ Ni ddywedodd neb—neb—hynny o gwbl. Ac felly mae’r rhyddid i symud i fynd i swydd, rwy’n credu, yn safbwynt cwbl resymegol, synhwyrol i'w gymryd. Mae ar waith yn Norwy: os nad oes gennych swydd yn Norwy o fewn tri mis, mae’n rhaid ichi adael. Nawr, rydym yn credu mai dyna beth mae’r rheolau yn ei ddweud mewn gwirionedd. Mae'r DU wedi dehongli’r rheolau’n fwy hael na gwledydd eraill, ond dyna sy’n digwydd yn Norwy, ac mae honno’n system, rwy’n credu, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei hystyried yn synhwyrol ac yn ei chefnogi.
Mae'n sôn am gytundebau masnach rydd. Nawr, i mi, nid yw disodli cytundeb masnach rydd gyda'r UE ag un gyda Seland Newydd yn gyfnewid teg. Mae 500 miliwn o bobl yn yr UE, mae 4.8 miliwn yn Seland Newydd. Nid yw'n farchnad fawr. Yr hyn sydd gan Seland Newydd yw'r gallu i ddileu ffermio yng Nghymru. Felly, mae unrhyw gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd sy'n cael gwared ar gwotâu neu dariffau yn lladd ffermio yng Nghymru, dyna’r gwir. Nid wyf yn ymddiried yn Whitehall i hyd yn oed gydnabod y pwynt hwnnw, ar wahân i un neu ddau o Weinidogion. Nid yw Awstralia yn farchnad fawr. Wrth gwrs, byddent yn hoffi cael cytundeb masnach rydd â'r DU; mae'r DU yn llawer mwy na nhw, felly, wrth gwrs mae'n mynd i fod o fudd iddynt yn fwy hirdymor. Nid wyf yn eu beio; dyna'n union beth fyddwn i'n ei wneud pe byddwn i yn eu sefyllfa. Cofiwch nad oes gan y DU unrhyw brofiad o hyn; mae dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r DU negodi unrhyw beth. Mae Seland Newydd yn llawer mwy medrus ac yn llawer mwy profiadol wrth negodi trefniadau a chytundebau masnach rydd na'r DU. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn nad ydym, yn y pen draw, yn trafod gyda phobl ac yn cael pen llym y fargen oherwydd ein diffyg profiad ni ein hunain. Ac felly, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ystyried yn y dyfodol.
Mae'n sôn am yr Unol Daleithiau. A oedd yn gwrando ar yr hyn a ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau? Dywedodd America yn gyntaf, America yn gyntaf. Does gan America ddim diddordeb mewn masnach rydd mwyach. Ei hunig ddiddordeb yw diogelu ei buddiannau ei hun. Dyna lle mae America yn y cyfnod hwn yn ei hanes. Nid wyf yn credu am eiliad y byddai unrhyw fath o gytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau yn arwain at unrhyw beth ond budd i'r Unol Daleithiau ac anfantais i'r DU. Sut arall y gallai Donald Trump ar unrhyw gyfrif werthu’r peth i’w bobl ei hun fel arall? Ac felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn o'r hyn y byddai ei eisiau ar yr Unol Daleithiau. A fyddai eisiau—? Roedd ei blaid yn llwyr yn erbyn TTIP, ond nawr mae o blaid cytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau. Roedd yn llwyr yn erbyn hynny ar ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf. Beth sydd wedi newid? A fyddwn ni’n gweld sefyllfa lle mae, er enghraifft, gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg yn cael eu preifateiddio a chwmnïau o’r Unol Daleithiau yn cael eu rhedeg? Gwelais Nigel Farage yn ymgyrchu’n ddiddiwedd yn erbyn TTIP—'Peidiwch â chael cytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau', meddai. Felly, beth sydd wedi newid? Yn sydyn iawn, mae’r Unol Daleithiau’n hynod o boblogaidd. Mae diffyg cysondeb clir o ran yr hyn y mae UKIP wedi ei ddweud.
Mae'n gofyn y cwestiwn am grebachu’r economi drwy dariffau. Mae’n anghofio bod ein haelodaeth bresennol o’r UE yn golygu bod gennym gytundeb masnach rydd gyda 50 o wledydd eraill, nid dim ond yr UE, felly rydym yn cael mynediad i’r marchnadoedd hynny hefyd—marchnadoedd mawr iawn, iawn gan gynnwys Tsieina. Felly, mewn gwirionedd, rydym yn colli’r trefniant masnach rydd hwnnw gyda Tsieina oni bai ei fod yn cael ei ailnegodi yn gyflym iawn. Dyna pam y bydd ein heconomi’n crebachu. Does bosib y gall neb ddadlau’n synhwyrol bod gosod tariffau yn beth da. Beth fyddai hynny'n ei olygu? Byddai'n golygu, er enghraifft, y byddai ein bwyd a’n diod yn wynebu tariff o hyd at 50 y cant o bosibl wrth fynd i’w brif farchnad. Byddai'n golygu, ie, gosod tariffau ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU, ond pwy sy'n talu’r tariffau hynny? Y cyhoedd. Ef. Fi. Pawb ohonom yn y Siambr hon. Nid busnesau sy'n talu tariffau; aelodau'r cyhoedd sy’n gwneud hynny. Byddai chwyddiant yn mynd i fyny. Rydym yn mewnforio hanner ein bwyd o reidrwydd; ni allem byth fod yn hunangynhaliol o ran bwyd oherwydd ein hinsawdd a'n daearyddiaeth. Byddem yn gweld llawer iawn o bethau’n mynd yn ddrutach i’r bobl hynny sy’n ei chael yn anoddaf fforddio’r pethau hynny. Ac o'n safbwynt ni—. Wel eto, welwch chi—. Bobl bach, mae ceisio siarad ag UKIP—. Onid yw UKIP yn deall, os nad oes cytundeb â’r UE, bod rheolau'r WTO yn berthnasol? Dyna ni. Iawn? Does dim cwestiwn am y peth; maent yn awtomatig. Mae'r DU yn awyddus i ymuno â'r WTO yn ôl UKIP—iawn—ond ar yr un pryd rydych yn dweud y gwnewch anwybyddu rheolau'r WTO. Nid dyna sut y mae’n gweithio. Os ydych chi’n mynd i ddweud eich bod yn mynd i anwybyddu'r rheolau ar y dechrau, ewch chi ddim i mewn yn y lle cyntaf. Ac felly, gadewch inni gael rhywfaint o realaeth yn y ddadl hefyd.
Felly, ar sail yr hyn y mae arweinydd UKIP wedi ei ddweud, nid wyf yn meddwl bod llawer o dir cyffredin y gallem fod wedi cytuno arno ar hyn o bryd. Ond, serch hynny, rwy’n ategu’r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud: rydym ni wedi rhoi ein cardiau ar y bwrdd, gadewch inni weld y syniadau eraill; gadewch inni weld manylion y syniadau eraill posibl. Does dim pwynt i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud, 'Ein safbwynt ni yw safbwynt Llywodraeth y DU'. Datblygwch eich safbwynt eich hun. Mae gennych chi ddigon o bobl ar eich meinciau cefn sydd â digon o allu meddyliol i allu gwneud hynny. Datblygwch eich safbwynt eich hun. Gadewch i ni wybod. Gadewch inni eich gweld yn dadlau'r achos. Cyflwynwch achos yn hytrach na dweud, 'Bydd popeth yn iawn ar y noson.' Mae hynny’n wir am UKIP hefyd: cyflwynwch eich cynllun manwl eich hun fel y gallwn ei weld a’i ddadlau. Does dim cynllun manwl. Y cynllun manwl yn y bôn yw hyn: 'Bydd popeth yn iawn. Does dim angen inni wneud dim gwaith. Bydd popeth yn iawn. Bydd yr UE yn rhedeg atom ni.' Yr un fath â gwneuthurwyr ceir yr Almaen. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd pan aeth Owen Paterson allan i'r Almaen yr wythnos diwethaf. Roedd gwneuthurwyr ceir a busnesau’r Almaen yn syllu arnynt ac yn tybed beth ar y ddaear yr oeddent yn siarad amdano. Realaeth. Mae'n rhaid inni gael realaeth ac mae’n rhaid inni gael cyfraniadau at y ddadl.
Daw amser pan fydd yn rhaid i bobl i gamu allan ar y maes a gwneud yn siŵr bod pobl yn deall yr hyn y gallant ei wneud. Mae'n fater o bobl eraill yn dod oddi ar y llinellau ochr. 'Dewch oddi ar y llinellau ochr', rwy’n clywed y dorf yn gweiddi, 'ewch ar y cae a dangoswch inni beth yn union yr ydych eisiau ei wneud.' Rydych yn ennill yr hawl i feirniadu drwy ddatblygu eich safbwynt eich hun. Nid ydych wedi ennill yr hawl honno eto.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn hwn yn gynnes ac rwyf hefyd yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Phlaid Cymru i’w ddatblygu. Rwy’n meddwl bod bygythiad Brexit mor enfawr fel y bydd yn hanfodol i bob un ohonom sydd eisiau rhoi buddiannau Cymru a'n cymunedau yn gyntaf i weithio gyda'n gilydd. Mae gen i ddau gwestiwn penodol. Fel y mae’r prif Weinidog yn gwybod, mae fy etholaeth i yn ddibynnol iawn ar weithgynhyrchu, yn enwedig gweithgynhyrchu modurol. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad yn y ddogfen hon i gynnal y mynediad ehangaf posibl i’r farchnad sengl, ond a gaf i ofyn pa gamau eraill y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod y sector modurol wedi’i ddiogelu, gan gynnwys sut y mae'n bwriadu sôn am anghenion y sector modurol yn ei drafodaethau â Llywodraeth y DU?
Yr wythnos diwethaf, bûm mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe i edrych ar oblygiadau Brexit i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mynegwyd pryderon yn y gynhadledd honno nad yw’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth i’r goblygiadau i blant a phobl ifanc, ac rwy'n siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol bod llawer o bobl ifanc yn teimlo'n ddig iawn bod penderfyniad mor hanfodol i'w dyfodol wedi’i wneud drostynt gan bobl eraill a bleidleisiodd yn y refferendwm. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad yn y ddogfen hon i sicrhau ein bod yn gwrando ar farn plant a phobl ifanc, ond a gaf i ofyn am ychydig mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod hyn yn realiti yn y dyfodol?
Wel, yn gyntaf, o ran gweithgynhyrchu modurol, mae’n arbennig o ddibynnol ar y farchnad Ewropeaidd—yn arbennig. Mae cynifer o weithrediadau modurol yn y DU yn rhan o weithrediad Ewropeaidd: mae Ford yn un, mae Toyota yn un, mae Nissan yn un arall. Mae rhai pobl wedi dweud y dylem chwilio am farchnadoedd eraill. Does gan y ffatri peiriannau Ford ddim marchnad arall; dim ond i'r UE y mae’n gallu allforio. Does ganddi ddim unman arall i allforio peiriannau iddo ar wahân i'r UE, felly mae unrhyw beth sy'n amharu ar ei gallu i allforio yn amlwg yn ddrwg i’r ffatri honno oherwydd y realiti yw nad oes ganddi unman arall i fynd. Mae’r un fath i rai eraill sy'n darparu cydrannau, seddi ar gyfer ceir—mae'r rhain yn weithrediadau Ewropeaidd integredig. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad yw'r DU yn cael ei gweld fel ynys alltraeth, wedi ysgaru oddi wrth y brif farchnad, yn hytrach nag yn rhan o'r brif farchnad, ond efallai â threfniadau gwahanol.
Cyn belled ag y mae plant a phobl ifanc dan sylw, rwy’n meddwl bod yna raniad eithaf peryglus yn y gymdeithas ar hyn o bryd. Rydym i gyd yn gwybod hynny, ond mae'n arbennig o amlwg rhwng pobl hŷn a phobl iau, sydd â barn wahanol iawn, iawn am Ewrop. Mae fy merch 16 mlwydd oed, cafodd hi ei syfrdanu gan y cyfan, gan feddwl, 'Wel, hyn sy’n normal; pam fydden ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd?' Mae ei barn yn adlewyrchu—dydy hi ddim yn arbennig o wleidyddol, er gwaethaf ei thad, ond mae hi a llawer o blant eraill wedi mynegi’r farn honno; roedd pobl ifanc yn mynegi’r farn honno. Mae'n hynod o bwysig, felly, eu bod yn gallu gwneud hynny drwy'r fforymau sydd gennym. Mae gennym, wrth gwrs, y comisiynydd, sydd hefyd yn gallu cynrychioli barn plant a phobl ifanc, ac efallai y byddai hynny’n rhywbeth yr hoffai’r comisiynydd edrych arno: sut yr ydych yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y ddadl hon yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl?
Diolch, Brif Weinidog, am y Papur Gwyn a’ch atebion i gwestiynau heddiw. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau i chi fy hun a'r cyntaf yw eich sylw y bydd angen inni ddal i recriwtio o Ewrop yn y dyfodol ar gyfer swyddi mewn meysydd lle ceir prinder. Nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl bod angen i bobl ddod i mewn i'r DU, i mewn i Gymru hefyd, i lenwi’r prinderau swyddi hynny— fe enwoch chi rai yn eich atebion cynharach—ond roeddwn yn meddwl tybed a allwch chi egluro pa un a ydych yn meddwl y dylai dinasyddion yr UE gael triniaeth ffafriol o ran bodloni’r angen hwnnw. Rwy'n meddwl y gellid dadlau y dylent, ond hoffwn glywed beth yw eich dadl chi am hynny.
Yn ail, hoffwn ychwanegu fy llais at y rheini sydd wedi gresynu nad oedd y broses o baratoi'r ddogfen hon yn un gwbl gynhwysol. Yn fwy nag unrhyw blaid arall yng Nghymru, rwy’n meddwl ein bod ni wedi cynrychioli barn pobl Cymru, gan ein bod ni wedi cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau; nid oeddem yn cynrychioli un farn. Fel y cyfryw, efallai y byddem wedi bod yn bartner defnyddiol wrth y bwrdd yn y trafodaethau cynnar hyn, ac rwy’n meddwl ei bod yn werth cofio, o ran y bleidlais boblogaidd, ein bod ni a Phlaid Cymru wedi cael tua'r un faint o bleidleisiau ac, wrth ein heithrio ni o'r bwrdd, rydych wedi eithrio yn y cyfnodau cynnar hyn y bobl hynny a bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn etholiadau Cynulliad Cymru. Wedi dweud hynny, mae yna bethau yn y Papur Gwyn hwn yr wyf yn meddwl y gallwn gytuno â nhw ac rwy'n falch o gael y cyfle nawr, er y dylem fod wedi ei gael yn gynharach. Wedi dweud hynny, gan fod Llywodraeth Cymru yn hwyrach na'r gwledydd eraill i gyrraedd y bwrdd i gyflwyno safbwynt, tybed a fyddai wedi bod yn werth ichi aros dim ond cwpl o ddyddiau eraill nes i’r pwyllgor materion allanol lunio ei adroddiad. Mae hwnnw'n grŵp trawsbleidiol sydd wedi cael, drwy ddulliau trawsbleidiol, tystiolaeth gan drydydd parti, ac wedi craffu arni, ac o ganlyniad, wedi llunio adroddiad â chytundeb trawsbleidiol. Byddai hynny wedi eich helpu, rwy’n meddwl, i berswadio pobl eraill yn y Siambr hon eich bod wedi bod yn fwy cynhwysol nag y buoch, oherwydd nid yw’r adroddiad hwnnw wedi ei ddefnyddio mewn ymgais—nid ydych chi wedi cael y cyfle i ddefnyddio’r adroddiad hwnnw i ddylanwadu ar yr hyn yr ydych wedi ei roi yn y Papur Gwyn. Diolch.
O ran rhoi ffafriaeth i ddinasyddion yr UE, os edrychwch ar feddygaeth, er enghraifft, mae’r amgylchedd rheoleiddio yr un fath, felly byddai pobl wedi arfer gweithio yn amgylchedd y DU, oherwydd eu bod wedi arfer gweithio yn amgylchedd cyffredin yr UE, felly mae'n debyg y byddai ganddynt fantais yn hynny o beth. Mae'r ffaith bod cydnabyddiaeth gyffredin i gymwysterau yn bwysig. Nawr, un o'r materion ymhlith llawer y mae’n rhaid eu datrys yw: a fydd y gydnabyddiaeth gyffredin yno yn y dyfodol? A fydd meddygon o’r DU yn gallu gweithio yn Ewrop? Y lleill, wrth gwrs, y rhai bach, y rhai sy'n ymddangos yn fach, y mae’n rhaid inni edrych arnynt, yw pethau fel: a fyddwch yn cael gyrru dramor â thrwydded Brydeinig? A fyddwch yn cael gyrru dramor ag yswiriant car Prydeinig? A fyddwch yn cael gyrru dramor a mwynhau manteision cerdyn yswiriant iechyd Ewrop? Ac, os na fyddwch chi, a fydd eich premiymau’n mynd i fyny? Mae llawer o glebran o feinciau cefn UKIP, ond dyna sut yr arferai fod. Dyna sut yr arferai fod: nid oeddech yn cael gyrru y tu allan i'r DU oni bai bod gennych drwydded yrru ryngwladol wahanol. Rwy’n cofio hynny. Yn ail, nid oedd eich yswiriant car yn ddilys os oeddech yn gyrru y tu allan i'r DU: roedd yn rhaid ichi ffonio’r cwmni yswiriant i’w wneud yn ddilys. Nawr, oni bai bod y pethau hyn yn cael eu datrys, yn syml, byddwn yn mynd yn ôl at hynny ac mae'r rhain yn bethau nad ydynt hyd yn oed yn meddwl amdanynt o ran y manylion.
Ond, beth bynnag, o ran y materion eraill a gododd yr Aelod, Suzy Davies, a gaf i awgrymu, cyn inni geisio consensws ar draws y Siambr hon, y gallai hi geisio consensws yn ei phlaid ei hun? Oherwydd rwy’n gwybod, o fewn ei phlaid, bod safbwyntiau gwahanol iawn o ran yr hyn y dylai'r dyfodol ei gynnig. A dyma fy her i'r Ceidwadwyr: dewch at eich gilydd, ffurfiwch gonsensws yn eich plaid eich hun, a lluniwch eich dogfen eich hun. Yna, unwaith y byddwch wedi llunio eich dogfen eich hun, gallwn siarad. Ar hyn o bryd, mae fel siarad â nifer o ieir heb bennau i gyd ar unwaith. Does gennym ni ddim syniad beth yw eich safbwynt. Mae gennym rai ohonoch sydd hyd yn oed y tu hwnt i UKIP, eraill sy’n bendant o blaid, neu a fyddai wedi bod yn bendant o blaid, aelodaeth o’r UE. Fy her i chi yw: pam na wnewch chi ddod at ei gilydd mewn gwirionedd a datrys eich problemau eich hun a'ch tensiynau eich hun, cyn cwyno eich bod y tu allan i'r broses? Ac yna byddwch mewn sefyllfa lle bydd hi’n haws gwrando arnoch.
Y pwynt arall yw hwn: does neb—. Un o'r pethau sydd—[Torri ar draws.] Roedd dyn ar yr ystlys ym Mhen-y-bont flynyddoedd yn ôl, a’r oll yr oedd yn ei wneud mewn gemau oedd gweiddi, dim ond unwaith y gêm—‘Ydy buddy bar’, meddai. Doedd neb yn gwybod beth yr oedd yn ei ddweud; doedd neb yn gwybod beth yr oedd yn ei ddweud o gwbl. Roedd yn gymeriad; doedd neb yn gwybod beth yr oedd yn ei olygu, ond roedd pawb yn gallu ei glywed. Dyna arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Does neb yn gwybod beth y mae'n ei ddweud; yr oll y gallant ei wneud yw gwrando ar y llestr gwag yn diasbedain. Rwy'n dweud wrtho eto: does dim pwynt iddo eistedd yn y fan yna, yn lladd ar bawb arall pan nad yw wedi codi oddi ar ei ben-ôl i gynhyrchu ei gynllun Brexit ei hun, gan alw ar y bobl sydd ganddo yn ei grŵp ei hun. Yna, gallwn ddechrau, efallai, ei gymryd o ddifrif.
Y mater arall, wrth gwrs, nad ydym yn ei weld yma neu nad ydym yn gwrando arno—yn ei glywed, yn hytrach—gan feinciau'r Ceidwadwyr yw beirniadaeth o gynnwys y Papur Gwyn ei hun. Rydym wedi clywed beirniadaeth o'r broses, ond does neb wedi dweud—. Mae pwyntiau wedi'u gwneud am fudo, ond, a dweud y gwir, beth ydych chi'n anghytuno ag ef yn y Papur Gwyn? Beth ydych chi'n anghytuno ag ef? Nawr, dyna her: os gallwch ganfod, yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, meysydd yr ydych yn anghytuno â nhw, yna gadewch inni glywed hynny, yn hytrach na chwerthin yn foddhaus a gweiddi, heb gyfrannu mewn gwirionedd at y ddadl. Felly, fy her i chi yw: ydym, rydym yn fwy na bodlon i weithio gyda phleidiau eraill, ond mae'n ddyletswydd ar bleidiau eraill i benderfynu beth yw eu safbwynt eu hunain mewn gwirionedd ymysg ei gilydd, yn hytrach na dadlau ymysg ei gilydd, er mwyn iddynt edrych yn unedig er mwyn gweithio gyda phleidiau eraill. Rwy'n ofni nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn agos at hynny ar hyn o bryd.
Rwy’n croesawu’r datganiad heddiw, ac yn falch iawn bod gan Gymru lais clir, rhesymol a chreadigol ar y mater hollbwysig yma. Rwy’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi chwarae rôl ganolog ynddi. Hefyd, a gaf i gytuno gyda sylwadau’r Aelod dros Dorfaen? Mae hwn yn fater mor bwysig mae’n hollbwysig i ni ddod at ein gilydd er lles ein buddiannau cenedlaethol ni.
Wrth gwrs, wrth wraidd hyn oll yw’n buddiannau economaidd a hefyd ein buddiannau cyfansoddiadol. Yn yr amser byr iawn heddiw, hoffwn i ffocysu fy nghwestiynau i ar agweddau’r Papur Gwyn lle mae gan Lywodraeth a Chynulliad Cymru'r awdurdod i weithredu’n syth. Er enghraifft, mae tudalen 26 yn crybwyll creu confensiwn cyfansoddiadol i ail-lunio’r cyfansoddiad Prydeinig i fod yn un fwy ffederal. Ai bwriad, felly, y Lywodraeth yw cynnig hynny yn ffurfiol yn y JMC ar ddydd Llun, neu efallai yn y dyfodol? Neu a ydy’r Prif Weinidog yn ystyried mynd hyd yn oed ymhellach, a chynnal uwch-gynhadledd ei hunan yma yng Nghymru a gwahodd y Llywodraethau eraill er mwyn dechrau’r gwaith ar gonfensiwn cyfansoddiadol newydd?
Mae tudalen 28 yn codi’r syniad o’r Cynulliad yma yn deddfu os yw Bil diddymu San Steffan, ‘a great repeal Bill’, yn ymyrryd ar gyfansoddiad Cymru. Cawsom dystiolaeth ddoe yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid oedd yn dweud bod cyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn mewnbynnu i’r broses gyda chyfreithwyr San Steffan ar hyn o bryd ar y Bil diddymu. A ba bryd ydy’r Prif Weinidog yn tybio y gwelwn ni ymyrraeth wleidyddol, neu gydweithredu gwleidyddol, rhwng y ddwy Lywodraeth?
Mae tudalen 23 yn nodi’r pwysigrwydd o adnewyddu ein perthynas gyda Gweriniaeth Iwerddon. Rwy’n falch oedd y Prif Weinidog wedi sôn am hyn yn ei ddatganiad ef hefyd, ac wedi denu sylw at ddyfodol ein porthladdoedd ni, a phrosiect INTERREG rhwng y ddwy genedl. Pryd yw’r Prif Weinidog, felly, yn bwriadu dechrau’r broses o adnewyddu ein perthynas ni gyda Gweriniaeth Iwerddon? Mae pwerau gyda’r Cynulliad a’r Llywodraeth eisoes i gael perthynas o’r fath. A ydy e’n bwriadu cwrdd â’r Taoiseach yn y dyfodol agos er mwyn cyflawni hyn? Yn yr un adran, ar dudalen 23, mae dymuniad i gryfhau proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. A allaf i ofyn i’r Prif Weinidog i gyhoeddi drafft o bolisi rhyngwladol newydd i Gymru sy’n cynhwysfawr er mwyn i ni ei thrafod yn y Cynulliad yma? Gall ffocysu ar fasnach a denu buddsoddiad pellach i Gymru, ond hefyd gweledigaeth ar gyfer Cymru fydol ehangach hefyd, gan dynnu sylw, wrth gwrs, at y cyd-destun gwleidyddol newydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn olaf, mae amryw o amcanion yn y Papur Gwyn yn ymwneud â chadw Cymru yn rhan o brosiectau sydd yn agored i wledydd nad ydynt yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, nifer ohonynt yn ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli. Felly, pa drafodaethau ydy’r Prif Weinidog yn bwriadu cychwyn yn y dyfodol agos iawn i gadw Cymru, er enghraifft, yn rhan o gynlluniau fel Erasmus+ a Euro-Plus?
A gaf i orffen drwy ddiolch i’r Prif Weinidog ac i’r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid am eu cydweithrediad yn y cyfnod diwethaf er mwyn i ni ddod at ein gilydd i greu Papur Gwyn cenedlaethol a, thrwy wneud hynny, llais cryf cenedlaethol, yn yr amser pwysig yma i’n cenedl?
Ynglŷn â’r Papur Gwyn, bydd yna drefniadau i gyhoeddi’r Papur Gwyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn swyddogol. Mae hwn yn rhywbeth rydym ni’n edrych ar drefnu ar hyn o bryd. Ynglŷn â gweithio gyda Llywodraethau eraill—wel, Gogledd Iwerddon, ar hyn o bryd, nad oes modd i wneud hynny o achos y sefyllfa bresennol. Gyda'r Alban, yn hanesyddol, ateb yr Alban oedd, ‘Wel, rŷm ni’n ystyried ffordd arall, sef annibyniaeth, felly nid oes llawer o bwynt i ni weithio ynglŷn â chonfensiwn cyfansoddiadol.’ Gobeithio y bydd pethau yn newid, ond dyna beth oedd y sefyllfa bryd hynny.
Ynglŷn â beth sy’n digwydd yn y JMC, wel, wrth gwrs, y JMC ei hunan yw’r lle ble mae trafod yn cymryd lle, neu y bydd yn cymryd lle, ynglŷn â phrosiectau fel Erasmus+, fel Horizon 2020, fel INTERREG, yn y pen draw. Rŷm ni wedi ‘signal-o’ yn barod y bydd rhain yn rhywbeth y byddwn ni am fod yn rhan ohonynt yn y pen draw. Ynglŷn ag Iwerddon, rwy’n mynd i’r Iwerddon yn yr wythnosau nesaf er mwyn cwrdd â’r Taoiseach. Mae yna berthynas agos gyda ni ag Iwerddon ei hunan, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y berthynas honno yn parhau. Byddaf yn mynd hefyd i America diwedd mis nesaf. Rwyf wastad yn tueddi mynd i Washington ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac fel yna y bydd hi tro hyn hefyd. Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad sydd yn hollbwysig i Gymru. Nhw yw’r buddsoddwyr mwyaf yn economi Cymru. Mae’n hollbwysig felly ein bod ni’n sicrhau bod y buddsoddiad yna yn dal i ddod, wrth glywed beth ddwedodd yr Arlywydd Trump yr wythnos diwethaf.
Ynglŷn â sut bydd pethau yn gorfod newid, ar hyn o bryd mae hi’n anodd iawn i denu buddsoddiad o unrhyw gwmni sydd yn moyn cynhyrchu rhywbeth, achos nid ydyn nhw’n cael unrhyw sicrwydd ynglŷn â pha fath o fynediad fydd gyda nhw i mewn i’r Undeb Ewropeaidd neu’r farchnad Ewropeaidd. Mae yna rhai cwmnïau, wrth gwrs, lle nad yw hynny’n bwysig—cwmnïau sydd efallai yn cynnal ‘engines’ er enghraifft, neu gwmnïau sydd yn gweithio mewn rhan o’r farchnad lle nad yw’n hollbwysig iddyn nhw. Yn y fanna, wrth gwrs—dyna lle ar hyn o bryd mae’n rhaid i ni edrych i gael buddsoddiad o achos y ffaith bod ansicrwydd yno ynglŷn â beth fydd natur y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Ond y pwynt rwyf wastad wedi’i wneud yw: mae Cymru yn dal ar agor i fusnes ac rydym yn dal, wrth gwrs, yn mynd i wledydd. Bydd sawl Gweinidog yn mynd i sawl gwlad ar Ddydd Gŵyl Dewi i werthu Cymru unwaith eto. Un o’r pethau rydym ni’n moyn sicrhau yw nad yw pobl yn cael yr argraff bod drysau wedi cael eu cau ynghylch buddsoddi yng Nghymru er bod yna ansicrwydd ar hyn o bryd. Rydym yn dal i groesawu buddsoddiad sy’n creu swyddi o’r ansawdd gorau yma yng Nghymru.
Ddoe, disgrifiodd y Prif Weinidog ei Bapur Gwyn fel rhywbeth sy’n cydbwyso’r neges a roddodd pobl Cymru i ni â'r realiti economaidd. Mae'n awgrymu nad yw pobl Cymru yn deall eu buddiannau na’u realiti economaidd, a’u bod rywsut yn dioddef o ryw ymwybyddiaeth gyfeiliornus a bod yn rhaid iddyn nhw blygu i’r Prif Weinidog er lles eu buddiannau economaidd. Dywed y bydd y Llywodraeth, ynghyd â Phlaid Cymru, yn siarad dros Gymru, ond yn yr achos hwn, nid ydyn nhw yn siarad dros Gymru. A ydyn nhw’n methu â deall—[Toriad ar draws.] Ydym. Mae pum deg tri y cant yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac maen nhw yn cael eu hanwybyddu gan y Prif Weinidog. Mae’n well ganddo ef ymuno â Phlaid Cymru mewn clymblaid o gollwyr a ddywedodd wrth y bobl yng Nghymru am bleidleisio dros 'aros', ond fe’u hanwybyddwyd gan 53 y cant o'r bobl hynny sy'n deall eu buddiannau yn well nag y mae ef yn ei wneud.
Yn awr, un peth yr ydym yn ei ddysgu oddi wrth y papur hwn yw pam mae safbwynt y Prif Weinidog wedi bod mor ddigyswllt. O symud oddi wrth alw ar unwaith am barhad symudiad rhydd at droi i’r gwrthwyneb i hynny, yr hyn a welwn yw ei fod wedi ceisio cael rhyw siâp ar safbwynt cyffredin gyda Phlaid Cymru, ond mae i’r safbwynt cyffredin hwnnw sylwedd jeli gwyn. Mae'n cyfeirio at fynediad cwbl ddilyffethair i'r farchnad sengl ac yna'n mynd rhagddo i ddweud y cyfeiriwyd at hynny yn y ddogfen fel 'cyfranogiad yn y farchnad sengl'. Ond ymadrodd twyllodrus yw 'cyfranogiad yn y farchnad sengl' : nid oes ystyr iddo. Ni ddylid rhoi ystyriaeth fwy difrifol iddo nag i’r ‘Beano'.
Yn ei sylwadau, mae Leanne Wood yn cyfeirio i gychwyn at barhau i gyfranogi yn y farchnad sengl. Eto i gyd, mae’n mynd yn ei blaen wedyn i glodfori’r papur am ei fod yn cadarnhau'r egwyddor o ryddid i symud, ac felly, o gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl. Rydym wedi gweld hyn yn y cynnig a oedd gan Blaid Cymru y llynedd yn galw arnom i aros yn y farchnad sengl. Bu'r Prif Weinidog yn chwipio ei gefnogwyr i bleidleisio, gyda ni, yn erbyn y cynnig hwnnw, gan ei fod yn anghyson â neges pobl Cymru fod yn rhaid i ryddid i symud ddod i ben. Yna, yn fwy diweddar, cytunodd â’u gwelliant yn cefnogi aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a / neu EFTA—sydd, a dweud y gwir, yn hollol druenus a diystyr. Mae'n estyn hyd y ddogfen hon—ac mae ef am i ni gyfeirio at y ddogfen. Yn y paragraff hwn, mae'n dweud bod amryw o opsiynau a allai olygu aelodaeth y DU yng Nghymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA), yr oedd y DU yn aelod ohoni cyn ymuno â'r UE, a thrwy hyn y byddai’n para i fod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Nid trwy’r EFTA y mae Norwy a Gwlad yr Iâ yn aelodau o'r AEE. Maen nhw’n aelodau oherwydd eu bod wedi ymuno â’r AEE. Mae’r Swistir yn aelod o’r EFTA ond nid yw’n aelod o’r AEE. Mae hynny oherwydd bod yr AEE yn beth gwahanol iawn iawn i EFTA. Cytundeb masnach rydd yw EFTA. Mae'r AEE yn awgrymu derbyn corff cyfan o gyfraith a dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn y gyfraith honno ac mae hefyd yn awgrymu ei bod yn cyrraedd hyd at ein heconomi gartref. Mae'n siarad am reoliad yr UE, ac eto pan fyddwn yn allforio i'r UE mae'n rhaid i ni ufuddhau i’w reoliadau. Ond a ddylem ni ufuddhau hefyd i'r holl reoliadau dros ein holl economi gartref o bobl nad ydyn nhw yn allforio, ac a ddylai Llys Cyfiawnder Ewrop fod â’r gair olaf yn ein cyfreithiau? Dyna’r cwestiynau allweddol, ac mae cyfeirio at 'gyfranogi yn y farchnad sengl' neu 'ymuno â’r AEE a'r / neu'r EFTA' yn chwerthinllyd, a dweud y gwir.
Mae arweinydd yr wrthblaid yn cyfeirio at y Beano. Keith Vaz mewn gwirionedd, fel Gweinidog Llafur dros Ewrop, a gyfeiriodd gyntaf at y Beano yng nghyd-destun Siarter Hawliau Sylfaenol—byddai ganddi ond grym y Beano—hyd nes i hynny gael ei ddehongli mewn gwirionedd fel cyfeiriad uniongyrchol at ein holl ddeddfau. Nid yw ef yn gallu penderfynu chwaith beth yw’r safbwynt cyffredin gyda Phlaid Cymru, ac mae’r ymadrodd truenus 'cyfranogi yn y farchnad sengl’ yn cuddio’r diffygion—neu a yw’n cuddio’r diffygion yn ei ddealltwriaeth ei hun? Nid yw'n ymwybodol fod Prydain yn aelod o Sefydliad Masnach y Byd. Mae'n cyfeirio at y cytundeb masnach sydd gan yr UE â Tsieina. O ble ar y ddaear y cafodd y syniad hwn? Onid yw ef yn deall nad cytundeb masnach rydd yw’r Bartneriaeth Fasnach a Buddsoddi Drawsatlantig? Cytundeb y tu ôl i ddrysau caeedig ydyw, gyda buddiannau corfforaethol am gael man rheoleiddio unigol lle mae'n anghyfreithlon gwerthu unrhyw beth oni fydd yn dilyn y rheoliad unigol a wnaed dros yr Iwerydd heb gyfeirio at ein Cynulliadau na’n Seneddau democrataidd. Mae angen iddo benderfynu ar ei safbwynt ei hun, yn hytrach na cheisio cuddio’r sefyllfa trwy ddymuniad gorffwyll i gofleidio Plaid Cymru mor dynn ag y gall ar y mater hwn. A dweud y gwir, yr unig rai sydd wedi eu heithrio o hynny yw'r rhai a arferai bleidleisio dros ei blaid ef—y 53 y cant a bleidleisiodd dros adael—a bydd llawer iawn o'r rhain, yn hytrach na phleidleisio dros ei blaid ef pan ddaw eu cyfle, yn pleidleisio i ni.
Pa mor ddiolchgar yr ydym i gyd i Mark Reckless am iddo ddod i Gymru a dweud wrthym bob un, drueiniaid ag yr ydym ni, yr hyn nad oeddem yn ei wybod o'r blaen. Pa mor wych yw hi fod pŵer ei ymennydd anhygoel ar gael i ddangos i ni ein bod i gyd yn anghywir a’i fod ef yn llygad ei le. Mae’r safbwynt a gymerodd y tu hwnt i bob dychan. Gadewch i mi ddyfynnu dau beth iddo. Yn gyntaf oll, model Norwy sydd dan ei lach: 'Model Norwy yw'r cynllun a ffefrir gennym ni' meddai Arron Banks—Arron Banks, dyn yr arian sy’n cefnogi UKIP. Dyna beth ddywedodd ef. Nid fy ngeiriau i ydy’r rhain; geiriau ei blaid ei hun ydyn nhw. Dywedodd Daniel Hannan yr un peth—model Norwy. Rwy’n cofio’r ddadl. Rwy’n cofio’r ddadl yn ystod y refferendwm pan ddywedwyd wrth bobl, 'Peidiwch â phoeni, mae model Norwy ar gael i ni,' ac mae’r chwedl wedi mynd ar led, rywsut, mai pleidlais dros Brexit caled oedd hon. Nage wir.
Nid oes gan ei blaid unrhyw gynghorwyr o gwbl yng Nghymru. Gallaf addo iddo os yw’n credu y bydd pleidleiswyr Llafur yn dilyn cyn AS Ceidwadol drwy bleidleisio i UKIP, yna bydd yn rhaid iddo ailystyried ei safbwynt, er gwaethaf rhagoriaeth amlwg ei ddeallusrwydd. A gaf i ei atgoffa bod y DU wedi erfyn yn daer i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd? Roedd yn dyheu yn enbyd am gael ymuno, ac nid wyf i am fod mewn sefyllfa o’r fath byth eto yn y dyfodol pan fydd y DU yn daer i ymuno ag unrhyw beth. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn rheoli'r broses hon yn briodol ac yn effeithiol.
Dywedodd fod ein safbwynt ni fel jeli gwyn. Does gen i ddim syniad beth mae’r trosiad hwnnw yn ei olygu, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod ei safbwynt ef yn llawn tyllau, fel caws y Swistir—dyna drosiad gwell. Yn y bôn dyma yw’r swm a’r sylwedd : 'Byddwn yn ymadael â’r UE, a bydd yr UE yn cwympo wrth ein traed.' A allaf awgrymu iddo mai hwn yw'r safbwynt mwyaf naïf y gallai unrhyw wleidydd yn y Siambr hon neu yn rhywle arall ei ddewis?
A gaf i hefyd sôn am rai o'r materion eraill a godwyd ganddo? Hon yw’r broblem sylfaenol sydd gennyf gyda'r pwynt a wnaeth ar reoliadau'r UE. Mae’n iawn: os ydym am werthu i'r farchnad Ewropeaidd, byddwn yn dilyn rheolau Ewrop. Ond os ydym am werthu ym marchnad y DU, ni fyddwn yn eu dilyn. Felly, mewn geiriau eraill, bydd y farchnad yn y DU yn derbyn nwyddau o ansawdd gwaeth—stwff salach—gan y bydd safonau yn y DU yn is na'r safonau yn unrhyw le arall yn y byd. Mae hynny'n golygu na fydd allforwyr y DU yn gallu allforio a byddai'r DU yn ôl yn y sefyllfa yr oedd ynddi yn y 1970au pan oedd gan lawer o ddiwydiant y DU enw am gynhyrchu sbwriel. Nid ydym am ddychwelyd i’r sefyllfa honno eto. Rydym am wneud yn siŵr bod y DU a Chymru yn economi y mae pobl yn gweld ein bod yn cynhyrchu nwyddau o'r ansawdd uchaf ynddi, wedi eu prisio yn deg a hefyd, wrth gwrs, nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu am bris uchel ar gyfer y marchnadoedd gwerth uchel hynny. Yr hyn y mae’n ei awgrymu yw dyfodol pan fydd y DU yn eistedd ar ei phen ei hun—dyfodol gwarchodol—ac yn ceisio cytundebau masnach rydd gyda gwledydd nad oes ganddynt ddiddordeb mewn cytundebau masnach rydd.
Rwyf yn erfyn arno: dangoswch beth realaeth. Dangoswch beth realaeth. Os ydych yn dymuno beirniadu, mae gennych berffaith hawl i wneud hynny, ond lluniwch eich cynllun eich hun. Peidiwch â dweud, 'Mae hyn i gyd yn anghywir, ac mae’r hyn yr ydym ni yn ei ddweud i gyd yn iawn.' Nid wyf wedi gweld unrhyw gynllun o gwbl gan UKIP. Fe daflodd e’r fricsen drwy'r ffenestr; rhaid i ni glirio’r llanast. Helpwch i wneud hynny, o leiaf, yn hytrach na sefyll draw ar y palmant yn beirniadu pobl sydd yn ceisio gwneud hynny. Nawr, rwy'n siŵr ein bod wedi ein goleuo gan y rhagoriaeth anghymesur a ddangosodd i ni yn y Siambr, ond rwyf yn dweud hyn wrtho: byddwn bob amser, fel y bydd Plaid Cymru, drwy'r Papur Gwyn hwn, yn amddiffyn buddiannau cenedlaethol Cymru, a buaswn yn ei annog ef i wneud yr un fath.
Nid wyf am oedi gyda’r materion ehangach a drafodwyd hyd syrffed yma heddiw. Mae rhai o'r gwahaniaethau barn wedi bod yn eithaf mawr. Rwyf am ganolbwyntio ar un man lle gellid cael mwy o gytundeb. Gan ddweud hynny, wrth agor y sylwadau hyn, a gaf i groesawu yma siarad pwyllog RT Davies yn hyn o beth? Wrth gyfeirio at bennod 7—sy’n trafod diwygio cyfansoddiadol ar ôl Brexit—mae'n amlwg ei fod yn bwnc sydd wedi ennyn diddordeb y pwyllgor yr wyf yn ei gadeirio. Yn wir, Brif Weinidog, nid oes gen i ddim amheuaeth y bydd gwahoddiad yn cael ei anfon ar adennydd chwim i’ch swyddfa er mwyn i chi ddod i siarad gyda ni, am y cynigion a pha mor ymarferol fydd gweithredu arnyn nhw, ac efallai, hefyd, y posibilrwydd o gael rhywfaint o gydsyniad ehangach ar rai cynigion eithaf beiddgar—nid yw pob un ohonyn nhw yn newydd; rydym wedi gweld rhai ohonyn nhw yn cael eu hailadrodd gan Lywodraeth Cymru a chan bleidiau eraill yma cyn hyn—ond i ddod â nhw at ei gilydd yn y ddogfen hon, ac awgrymu, mewn gwirionedd, y gall bellach nid yn unig fod yn angenrheidiol bwrw ymlaen gyda rhai o'r cynigion hyn, ond hefyd gall fod yn gyfle i fwrw ymlaen â nhw er mwyn lleddfu ar rai o'r rhaniadau sydd wedi codi—fel yr ydym newydd ei glywed, ac sydd yn para i fod yn gyffredin drwy’r wlad—oherwydd y refferendwm ar yr UE. Nawr, dyna bwnc diddorol, tybiaf, y gallwn ddatblygu peth ystyriaeth ar y cyd arno, ac efallai rhywfaint o gytundeb arno.
Rydych yn cyfeirio ym mhennod 7 at y rhaniadau mawr hynny. Un ffordd o fwrw ymlaen â hyn fyddai edrych drachefn ar fater confensiwn cyfansoddiadol a fyddai'n edrych ar y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, a pherthynas y gweinyddiaethau datganoledig â Llywodraeth y DU a Senedd y DU. Rydych yn dweud yn gwbl blaen, yn eich barn chi ac ym marn y Papur Gwyn hwn, y dylai'r DU gael ei hailfodelu ar strwythurau newydd mwy ffederal.
Rydych yn rhoi’r syniad gerbron eich bod am chwarae rhan weithredol wrth fwrw ymlaen â strwythurau cymwys i fodoli yn y fframwaith ôl-Brexit hwn, ac rydych yn cydnabod y bydd angen fframwaith ar draws y DU. Ond wrth wneud hynny rydych yn dynodi egwyddorion clir. Fe hoffwn ofyn i chi efallai am ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny. Eich egwyddorion chi yw cydsyniad rhydd y tair senedd a llywodraeth ddatganoledig i gymryd rhan ar delerau cyfartal â Llywodraeth y DU. Byddwch yn gweld Llywodraeth y DU yn cynrychioli buddiannau Lloegr, yn hyn o beth. A byddwch yn gweld model sy'n cadw o leiaf y mesurau presennol o hyblygrwydd er mwyn y gwledydd a'r rhanbarthau datganoledig hynny. Yn olaf, y trydydd pwynt yw bod yn rhaid cael dulliau cymodi cadarn sy’n wirioneddol annibynnol i ddatrys unrhyw anghydfodau.
Yn awr, mae’r rhain yn egwyddorion clir. Rwy'n credu ei bod yn werth i bob Aelod yn y Cynulliad ystyried a oes modd edrych ar y rhain ac a oes rhywfaint o gytundeb ar gefnogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r Papur Gwyn ei hun. Credaf y byddai hynny yn helpu i fwrw ymlaen â'r fframwaith cywir.
Un neu ddau o bwyntiau eraill. O ran trafodaethau masnach ryngwladol a pholisi ar gystadleuaeth, rydych yn nodi y bydd rheoli'r meysydd polisi hyn yn gofyn am ddulliau rhynglywodraethol a strwythurau llawer mwy difrifol a thrylwyr ... na'r rhai sydd yn eu lle ar hyn o bryd a’ch bod yn bwriadu ceisio mynd ati’n weithredol i ddatblygu’r rhain gyda thirwedd wleidyddol a chyfansoddiadol newydd.
Rydych yn cyfeirio at Gydbwyllgor y Gweinidogion a'r angen am ailwampio llwyr ym marn y Papur Gwyn hwn. Rydych yn cynnig y dylid ei ad-drefnu yn gyngor o Weinidogion y DU, sy'n cwmpasu agweddau ar bolisi lle mae’n ofynnol cael cytundeb pob un o’r pedair llywodraeth —eto, ar y cydraddoldeb hwnnw; ar y cydraddoldeb rhwng y rheini â’i gilydd.
Yn olaf, y pwynt arall sydd o gryn ddiddordeb, wrth gwrs, yw eich cynigion yma ar y Bil diddymu mawr a’r hyn y gellid ei wneud ynglŷn a’r meysydd cymhwysedd datganoledig a pam mae hyn—gan edrych ar y strwythur ar ôl Brexit, ac yn y cyfnod pontio—cyn bwysiced ag y mae. Felly, mae yna hen ddigon o swmp cyfansoddiadol yn y Papur Gwyn hwn. Byddem fel pwyllgor yn croesawu’r cyfle i’ch holi ymhellach am hyn yn ogystal â’r hyn yr ydych wedi gallu ei ddweud heddiw, a’ch bod yn ymddangos ger ein bron cyn gynted â phosibl, a gweld a yw'r mesurau hyn yr ydych yn eu cynnig yn ymarferol, yn bosibl i’w gweithredu, o fewn ein cyrraedd, ac y gallent yn wir gael cytundeb ehangach o fewn y Siambr hon hefyd; oherwydd, yn sicr, buasai hynny er lles gorau Cymru.
Rwyf yn diolch i’m cyd-aelod am y sylwadau hynny. Wrth galon hyn y mae’r mater fydd yn ein hwynebu dros y blynyddoedd nesaf, a hynny yw na ddylai Brexit gael ei weithredu yn y fath fodd, wrth i Brydain adael yr UE, fel na fyddai Prydain yn bodoli yn y dyfodol oherwydd bod y DU yn rhanedig. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhwygiadau hynny yn cael eu lleddfu. Nid oes ffordd well o waethygu pethau na Whitehall yn ceisio cymryd pwerau oddi ar y llywodraethau datganoledig, neu ymyrryd ym materion datganoledig mewnol Cymru. Nid wyf yn credu y bydd y DU yn goroesi wedi’r math hwnnw o driniaeth.
Felly, bydd rhaid i ni wneud yn siŵr bod peirianwaith y DU yn addasu i wir natur yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny yn golygu bod yn ddarostyngol i gynllun cymodi annibynnol lle bo anghydfodau. Mae'r pwynt wedi ei wneud, wel, os ydym o fewn y farchnad sengl, y gallem ni fod yn gaeth i farn Llys Cyfiawnder Ewrop. Ond y gwir amdani yw y byddwn yn gaeth i ddyfarniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop o hyd. Byddwn yn sicr yn gaeth i Lys y Byd. Os byddwn yn ymrwymo i gytundeb masnach rydd gydag unrhyw wlad, yna byddwn yn ildio cyfran o sofraniaeth, oherwydd byddwn yn ildio’r sofraniaeth i ddyfarnwr annibynnol. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop mewn llawer ffordd yn ganolwr mewn cyfres o gytundebau. Ac felly, os oes gan y DU 50 o gytundebau masnachu rhydd, bydd 50 o beirianweithiau cymodi amrywiol er mwyn ymdrin â’r cytundebau hynny a fyddai’n drech na Senedd y DU. Unwaith eto, nid yw'n rhywbeth sydd wedi ei ystyried yn fanwl cyn belled ag y bo cytundebau masnach rydd dan sylw. Ac felly, i mi, yr hyn sydd angen gweithio arno yw: sefydlu beth fydd i bob pwrpas yn Gyngor Gweinidogion y DU; cryfhau neu adeiladu ar beirianwaith presennol Cydbwyllgor y Gweinidogion; cael cydsyniad Whitehall bod llawer o feysydd yn y dyfodol lle bydd yn rhaid cael cytundeb ac nid gorfodaeth—mewn amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae mynediad i bysgodfeydd yn fater mawr a chymhleth o ran lle bydd y mynediad yn cael ei ganiatáu, faint o gwota fydd i Gymru, ac, yn wir, pa fath ar gychod fydd yn cael y cwota hwnnw, oherwydd bod lles pysgotwyr Cymru yn hollol wahanol i'r Alban, ac, er enghraifft, gogledd-ddwyrain Lloegr. Bydd yn rhaid datrys yr holl faterion hyn. Ni ellir eu datrys ond drwy beirianwaith priodol sydd yn gallu gwireddu penderfyniad a chytundeb, lle bydd cynllun cymodi annibynnol ar wahân i Lywodraeth a Thrysorlys y DU. Wrth wneud hynny, rwy’n credu y bydd yn helpu nid yn unig i warchod marchnad sengl y DU, ond yn helpu hefyd y berthynas dda rhwng cenhedloedd y DU ei hun.
Diolch i’r Prif Weinidog.