3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Ionawr 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Yn amlwg, rydym yn croesawu’r £10 miliwn ychwanegol yn y gyllideb nesaf a fwriedir ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ond nid yw hwnnw wedi ei neilltuo, felly pa sicrwydd a gawsoch gan awdurdodau lleol y bydd yn cael ei wario ar wasanaethau y mae sylwebyddion yn y sector yn dweud y buasent ar goll hebddo?
Rhoddodd y gyllideb eleni ddyraniadau ychwanegol i’r gwasanaethau cymdeithasol. Rhoddasom £25 miliwn cychwynnol i’r gwasanaethau cymdeithasol, £4.5 miliwn i adlewyrchu’r cynnydd yr ydym wedi ei roi o ran y terfyn cyfalaf, a £10 miliwn pellach a oedd yn benodol ar ffurf arian grant eleni i fynd i’r afael â’r heriau y mae awdurdodau lleol a’r sector yn eu hwynebu o ran gweithredu’r cyflog byw cenedlaethol newydd. Felly, gan fod £10 miliwn ar ffurf grant eleni, mae’n rhoi’r trosolwg ychwanegol hwnnw i ni.
Fy nealltwriaeth i, yn seiliedig ar atebion i gwestiynau blaenorol a ofynnais i chi, yw bod y cyflog byw wedi creu problem gyda dyranu’r gyllideb gychwynnol, a bod y £10 miliwn i fod i ryw fath o wneud iawn am hynny, yn rhannol o leiaf. Felly, nid yw’n uniongyrchol ar gyfer y codiad yn y cyflog byw mewn gwirionedd; mae yno ar gyfer llenwi’r bwlch y mae’r cyflog byw wedi’i adael, os caf ei roi felly.
Er hynny, ni wnaethoch ateb fy nghwestiwn penodol ynglŷn â pha wasanaethau oedd dan fygythiad. Gan fod yr arian ychwanegol hwn wedi’i roi i ddiwallu angen penodol yn hytrach na bod yn hwb cyffredinol yn unig i’r grant cynnal refeniw, a’i fod wedi’i godi’n rhannol drwy gynyddu uchafswm y cyfraniad y mae pobl yn talu tuag at eu gofal, rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, ei bod yn weddus i ni’n dau ddilyn yr arian a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wario gyda’r bwriadau a oedd gennych yn wreiddiol. Felly, pan ddywedodd arbenigwyr y sector wrthych fod rhai gwasanaethau mewn perygl, pa enghreifftiau a greodd ddigon o argraff arnoch i chi hyd yn oed ystyried codi’r arian ychwanegol hwn?
Mae’r penderfyniad i fuddsoddi ymhellach mewn gofal cymdeithasol eleni yn adlewyrchiad uniongyrchol o’r trafodaethau a gawsom gydag arbenigwyr yn y maes. Cynaliasom dri chyfarfod bwrdd crwn gyda llywodraeth leol, gyda darparwyr ac eraill, er mwyn gwrando ar heriau’r sector gofal cymdeithasol, a chanfod ffordd i ni allu ymateb ar y cyd iddynt. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol—rydych yn gywir wrth ddweud hynny—ond rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol gomisiynu gwasanaethau mewn ffordd gosteffeithiol ac i fuddsoddi yno. Hefyd, mae cyfrifoldeb ar y darparwyr eu hunain yn ogystal, er mwyn gwneud gofal cymdeithasol y math o yrfa y mae pobl am weithio ynddi. Mae’n annerbyniol ar hyn o bryd fod trosiant staff yn y sector yn un o bob tri, a phob tro y bydd yn rhaid penodi aelod newydd o staff, mae’n costio £3,500 i’r darparwr, gyda’r holl wiriadau a’r hyfforddiant ac yn y blaen. Felly, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod gennym ofal cymdeithasol cynaliadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol.
Fe gyfeirioch at godi’r cap ar ofal cartref i £70 eleni. Bydd hynny’n rhoi £4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ar ben y cyllid arall y cyfeiriais ato hefyd. Roedd hi’n bryd ystyried codi’r cap yn fy marn i am ei fod wedi bod yn £60 bellach ers y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, rwy’n meddwl bod y cynnydd yn un rhesymol i’w wneud.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac nid wyf yn eich herio ar eich ateb ar y cynnydd yn y cap ar daliadau tuag at ofal cartref, ond rwy’n dal i gael trafferth i ganfod ar beth yn union y gwerir y £10 miliwn hwn. Yr hyn rwy’n ei gasglu o’ch ateb yw ei fod yn ymwneud yn bennaf â chadw staff, a gallai hynny’n bendant fod yn wir, ond dyna rwyf am allu ei weld yn digwydd o ganlyniad i’r arian ychwanegol hwn sy’n dod i mewn i’r system.
Rwy’n credu ein bod yn ôl pob tebyg yn cytuno bod atal dibyniaeth y gellir ei osgoi ar ofal cymdeithasol yn werth chweil, i’n dinasyddion ac yn amlwg i’r gwasanaethau sy’n darparu’r gofal hwnnw. Yn fy nghyfarfod gydag aelodau o Gydffederasiwn y GIG yng Nghymru heddiw, crynhodd y rif chwaraewyr—a hwy yw’r prif chwaraewyr yn hyn, nid oes dwywaith am hynny—y sefyllfa bresennol fel hyn: dywedasant fod gan Gymru atebion ar gyfer y galw cynyddol am ofal cymdeithasol mwy cymhleth, ond mai’r strwythur sy’n mynd yn y ffordd. Clywais ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i gwestiwn Lee Waters, ac i’r cwestiynau atodol, ynglŷn â sut y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fod yn rhan o hyn a bod dealltwriaeth lwyr eu bod yn barod i gymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd o weithio.
A oes gennych bellach ddigon o dystiolaeth am weithio mewn partneriaeth, cyllidebau cyfun a’r gweddill i gyd gan yr awdurdodau iechyd lleol, awdurdodau lleol a’r trydydd sector hyd yn oed—tystiolaeth sy’n ddigon cryf i ddechrau datblygu polisi ar sail Cymru gyfan bellach sy’n seiliedig ar niferoedd mwy a rhagor o gyfrifoldeb i therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd, i’w rhyddhau o’r seilo hwn o ymyrraeth eilaidd yn unig?
Rwy’n meddwl bod y gronfa gofal canolraddol yn rhoi’r dystiolaeth honno i ni. Mae gennym gronfa gofal canolraddol o £60 miliwn, sy’n trawsnewid yn wirioneddol y ffordd y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd, gan gynnwys diwallu anghenion pobl.
Y bore yma, roeddwn yn Ystradgynlais, yn gweld y gwaith da y maent yn ei wneud yno o ran dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd, ac roeddent yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthynol hefyd. Mynychais un o’r cyfarfodydd tîm lle y câi’r achosion eu trafod, ac roedd yn gwbl anhygoel gweld pa mor gyflym y gallai pecynnau gofal ddod ar waith pan oedd ganddynt yr holl bobl iawn o gwmpas y bwrdd. Felly, rydym yn casglu’r dystiolaeth honno.
Mae prosiectau’r gronfa gofal canolraddol yn darparu gwybodaeth i ni yn chwarterol ac rydym yn dadansoddi hynny, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn gwirionedd. Oherwydd rydym yn dechrau cyrraedd y pwynt yn awr pan allwn ddangos nifer y nosweithiau a arbedir i’r GIG, er enghraifft, ac mae gennym arolygon o fodlonrwydd pobl sydd wedi cael gofal drwy’r gronfa gofal canolraddol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi ein rhyfeddu gan y llwyddiant a welsom yn y gwahanol brosiectau ledled Cymru. Rwyf wedi ymweld â phrosiectau yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, ac un neu ddau i fyny yn y gogledd hefyd. Er bod y dulliau gweithredu’n wahanol mewn gwahanol leoedd, rwy’n credu ei bod yn bwysig fod gwahanol brosiectau mewn gwahanol ardaloedd yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Rwy’n meddwl bod y ffaith fod gweithwyr proffesiynol yn cael eu rhyddhau i wneud eu gwaith ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac i beidio â chael rhwystrau artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gofal y mae pobl yn ei gael.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau innau hefyd yn mynd i’r Gweinidog. Mae pwysau ar adrannau brys ysbytai yn effeithio ar y ddwy ochr i glawdd Offa ac wedi bod yn y penawdau eto, ac mae yna lawer o resymau dros y problemau hynny. Ond rwyf am ganolbwyntio ar rôl gofal cymdeithasol. A ydy’r Gweinidog yn cytuno bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rôl bwysig wrth atal pobl rhag gorfod mynd i ysbytai ac yn gadael iddyn nhw adael yr ysbytai yn gynt?
Ydw, cytunaf yn llwyr fod gan ofal cymdeithasol rôl i’w chwarae yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gwasanaeth cam-i-lawr er mwyn dychwelyd adref cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwybod bod aros yn yr ysbyty am gyfnod rhy hir yn amlwg yn ddrwg i’r unigolyn o ran eu hiechyd a’u lles, sef yr union beth y mae’r gronfa gofal canolraddol yn ei wneud o ran darparu’r gwasanaethau cam-i fyny a cham-i-lawr hynny. Fel y dywedais, gallwn ddangos nifer y nosweithiau a arbedwyd i’r GIG, ond y tu ôl i bob noson a arbedir i’r GIG, yn amlwg, mae stori unigolyn y mae ei ofal wedi’i wella o ganlyniad i hynny.
Rydym yn gwybod wrth gwrs gymaint o gyfran o’n cyllid ni sy’n mynd i’r NHS, ond nid yw’r un sylw, yr un bri, yn cael ei roi i gyllidebau gofal cymdeithasol. Yn Lloegr, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi torri ar yr arian sydd ar gael i ofal cymdeithasol ac mae effeithiau hynny, rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno, wedi bod yn amlwg o ran cynyddu pwysau ar ysbytai. Yma, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo nad ydy cyllidebau gofal cymdeithasol wedi cael eu torri gymaint ag yn Lloegr. Ond, pam felly fod nifer yr addasiadau i gartrefi pobl wedi gostwng 21 y cant ers Ebrill 2011 a pham bod faint o offer sy’n cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau wedi gostwng 15 y cant dros yr un cyfnod?
Rydych yn hollol gywir i ddweud bod gennym ddull o weithredu sy’n wahanol iawn i’r un a welwn yn Lloegr o ran ein cefnogaeth i wasanaethau cymdeithasol oherwydd, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi ymwrthod â’i chyfrifoldeb dros y gwasanaethau cymdeithasol drwy roi’r baich ar gynghorau i godi’r dreth gyngor i dalu am ofal cymdeithasol yn lleol, a chredaf fod hwnnw’n ddull annheg ac yn un na fuasem yn ceisio’i fabwysiadu yma.
Ar oedi wrth drosglwyddo gofal, rydym yn gweld gwelliannau yn y ffigurau a chredaf fod hynny’n deillio o’r gwaith a wnawn drwy’r gronfa gofal canolraddol. Ond o ran y manylion penodol ynglŷn â pham y gwelwn lai o gymhorthion ac addasiadau, ni allwn ddweud wrthych pam y gwelwn hynny gan y dylai pobl fod yn cael eu hanghenion wedi’u diwallu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad unigol o anghenion pob unigolyn, a fydd yn cynnwys cymhorthion ac addasiadau, a dylent fod ar gael i’r bobl sydd eu hangen.
Efallai y dylai’r Gweinidog geisio darganfod pam y mae nifer yr addasiadau hynny wedi bod yn gostwng a pham nad yw’r offer wedi bod yn mynd allan i’r un graddau ag yn y gorffennol gan fod hyn i gyd yn cael effaith ganlyniadol ymhellach yn nes ymlaen yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Gadewch i mi dynnu eich sylw at wasanaeth arall nad yw’n cael ei werthfawrogi o gwbl—gofalwyr di-dâl. Y llynedd, canfu Carers UK fod 55 y cant o ofalwyr yng Nghymru yn teimlo bod eu hiechyd corfforol eu hunain wedi dioddef oherwydd eu dyletswyddau gofalu. Dyna’r ganran uchaf yn y DU drwyddi draw. Mae faint o ofal seibiant a ddarperir yng Nghymru—nifer y nosweithiau o ofal a ddarperir yng Nghymru—wedi gostwng 24 y cant ers 2011, sy’n ostyngiad syfrdanol. Mae hyn wedi digwydd ar yr un adeg ag y bu’r Llywodraeth hon a’r un flaenorol yn llywyddu dros raglen o gau ysbytai cymunedol, wrth gwrs, gyda gostyngiad cyffredinol o 7 y cant yn nifer y gwelyau GIG sydd ar gael yng Nghymru. Nid oes raid i mi nodi y gallai’r gwelyau hyn mewn ysbytai cymunedol fod wedi sicrhau pontio llyfn i gleifion yn ôl i’r gymuned, gan fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal, yn ogystal, wrth gwrs, â darparu gofal seibiant y mae ei ddirfawr angen ar y fyddin o ofalwyr di-dâl sy’n cadw ein system i fynd. Felly, a wnaiff y Gweinidog gyfaddef yn awr fod yr ymgyrch i gau ysbytai cymunedol wedi bod yn gamgymeriad mawr ac at ei gilydd, er mwyn cryfhau ein system gofal cymdeithasol, ei bod hi’n bryd dechrau gwrthdroi’r rhaglen honno?
Wel, i fynd ar ôl y sylw a wnaethoch am gymhorthion ac addasiadau, rwy’n meddwl y dylem edrych i weld a yw anghenion pobl yn cael eu diwallu, yn hytrach na gweld a fu cynnydd neu ostyngiad yn y ganran o’r cymhorthion a’r addasiadau sy’n cael eu darparu. Os oes gennych enghreifftiau penodol yn lleol o bobl nad yw eu hanghenion wedi’u diwallu drwy gymhorthion ac addasiadau, yna ar bob cyfrif, dowch â hwy i fy sylw os gwelwch yn dda.
Rhannaf eich edmygedd o ofalwyr di-dâl. Maent yn gwneud gwaith hollol wych ar draws Cymru. Ni fuasem wedi cyrraedd lle yr ydym hebddynt. Dyma pam rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i gyflwyno ac i ddatblygu strategaeth seibiant genedlaethol, oherwydd gwyddom fod darpariaeth leol ar gyfer gofal seibiant yn amrywio ar draws Cymru. Pan fyddwn yn gwrando ar ofalwyr, maent yn dweud wrthym mai’r un peth sydd ei angen arnynt a’r un peth y maent ei eisiau yw’r gallu i gael gofal seibiant. Dyma pam y gofynasom i Gronfa’r Teulu, pan oeddent yn edrych ar y math o gefnogaeth y maent yn ei chynnig i deuluoedd yma yng Nghymru, roi ffocws ar ofal seibiant a seibiannau byr, gan mai dyma’r pethau y mae teuluoedd pobl anabl wedi bod yn gofyn i ni ganolbwyntio ein sylw arnynt.
Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd ein bod yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr ar hyn o bryd, ac unwaith eto, gwnawn hyn drwy wrando ar ofalwyr ynglŷn â beth yw eu blaenoriaethau. Mae’r blaenoriaethau cynnar sy’n dod yn amlwg o’r trafodaethau hynny, fel y buasech yn disgwyl, yn cynnwys seibiant. Maent hefyd yn cynnwys gofalwyr ifanc, gofalwyr hŷn a rhai sy’n gofalu am bobl hŷn yn ogystal.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, un o’n harfau mwyaf effeithiol ar gyfer ymladd canser yw sgrinio ar lefel y boblogaeth. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog iechyd y cyhoedd ynghylch y newid i ddulliau gwell o sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Fodd bynnag, ni waeth sut y byddwn yn gwella’r technegau sgrinio, ein brwydr fwyaf yw argyhoeddi’r cyhoedd i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i wrthdroi’r duedd ar i lawr mewn sgrinio ceg y groth a chynyddu’r nifer sy’n cael eu sgrinio am ganser y coluddyn?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae’r Gweinidog yn arwain ar ein rhaglenni sgrinio iechyd y boblogaeth fel rhan o’i chyfrifoldebau iechyd cyhoeddus. Rydym ninnau hefyd yn pryderu am y ffigurau sy’n cadarnhau bod cyfraddau sgrinio ceg y groth wedi gostwng, ac rydym yn disgwyl gweld mwy o wybodaeth gyhoeddus, a thrafodaethau hefyd rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac unigolion ynghylch y budd gwirioneddol a geir o sgrinio ystod o wahanol gyflyrau posibl. Ar sgrinio’r coluddion, rwy’n meddwl y byddwn yn gweld y nifer sy’n manteisio ar y gwasanaeth yn cynyddu am fod y prawf yn haws i’w weinyddu. Heb fynd i fanylion ynglŷn â’r hen brawf a’r prawf mwy newydd, mae’n brawf sy’n haws ei weinyddu, ac rydym yn disgwyl y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y dynion, yn arbennig, a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio benodol honno.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un maes a allai elwa o well sgrinio yw canser y prostad. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn ‘The Lancet’ fod defnyddio MRI amlbarametrig ar ddynion a oedd â lefelau uchel o antigenau prostad-benodol yn cynyddu’r gallu i ganfod tiwmorau ymosodol, ac yn arbed llawer rhag yr angen i gael biopsi a’i sgil-effeithiau cysylltiedig. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gyflwyno’r dechneg newydd hon ar draws y GIG yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae canser y prostad yn faes ffocws arbennig, ac nid yn unig oherwydd bod yna fudiad trydydd sector gweithgar iawn—ac rwy’n croesawu eu gweithgarwch—yn gysylltiedig â chanser y prostad, sy’n ein hannog yn rheolaidd i ddarganfod mwy drosom ein hunain ac i annog eraill i feddwl am y ffyrdd presennol o ddeall a oes canser y prostad ar bobl a’r opsiynau posibl o ran triniaeth. Rhan o’r her yw bod gennym brawf ar gyfer canser y prostad sy’n llai na digonol ar hyn o bryd, ac mae’n rhan o’r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth hynny. Mae gennym ddiddordeb mewn hyrwyddo’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer profion mwy effeithiol er mwyn deall a oes gan bobl ganser y prostad a pha fath penodol o ganser y prostad, ac un o’r rheini yw’r dystiolaeth y cyfeiriwch ati yn ‘The Lancet’. Mae angen i ni ddeall yr holl dystiolaeth honno, a deall faint o hynny sy’n mynd i mewn i ddiagnosis a faint sy’n mynd i mewn i sgrinio hefyd. Dyma un o’r meysydd hynny lle y mae’r galw a’r awydd i gael prawf sgrinio ehangach—mae angen i ni wybod a oes tystiolaeth mai’r prawf sgrinio mewn gwirionedd yw’r peth iawn i’w wneud, yn hytrach na gwahanol fathau o ddiagnosis lle y ceir amheuaeth o ganser y prostad. Fel erioed, yn y maes hwn ac eraill, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth orau a’r manteision gorau o ran canlyniadau i gleifion o unrhyw fath newydd o sgrinio neu ddiagnosis.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y greal sanctaidd ym maes sgrinio am ganser yw datblygu cyfundrefn brofi ddibynadwy ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gwelodd Prifysgol Caerdydd, mewn treial diweddar, nad yw’r defnydd o sganiau CT dos isel ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yn cael unrhyw effaith seicogymdeithasol hirdymor ar gleifion, gan ei wneud yn offeryn ardderchog ar gyfer canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar, pan fo gwell gobaith o oroesi. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio sgrinio CT dos isel ar gyfer canser yr ysgyfaint i unigolion risg uchel?
Rwy’n meddwl bod fy sylwadau olaf i’ch cwestiwn blaenorol yn dal i sefyll. Rydym yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â’r ffordd briodol naill ai o ddeall ein diagnosis lle y ceir amheuaeth o ganser yr ysgyfaint, neu’r posibilrwydd o sgrinio’r boblogaeth. Ond rwy’n credu, mewn gwirionedd, gyda chanser yr ysgyfaint, mai ein her fwyaf yw’r ffaith nad yw pobl yn mynd at y meddyg yn ddigon buan mewn achosion o ganser yr ysgyfaint. Mae’n bryder mawr iawn. Yn arbennig, rydym yn cydnabod bod gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y grwpiau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau lleiaf difreintiedig, a’r rhai sydd fwyaf tebygol o ofyn am gymorth. Dyna yw ein her fwyaf, ac mae’n her y mae’r grŵp gweithredu ar gyfer canser wedi ei chydnabod eu hunain. Mae clinigwyr o fewn y gwasanaeth ac elusennau canser a grwpiau ymgyrchu yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i gael pobl i fynd at y meddyg yn gynharach, ar ganser yr ysgyfaint yn arbennig, pan fo mwy o obaith o achub bywydau. Ond fel y dywedais, rwy’n edrych ymlaen at y dystiolaeth ar yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud, a sut rydym yn gweithredu hynny wedyn yn gynyddol ac yn llwyddiannus ar draws y gwasanaeth cyfan.