<p>Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0432(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal perfformiad da mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys canser, perfformiad ambiwlans, a strôc. Ac, ers cael ei wneud yn destun mesurau arbennig, maen nhw fwy neu lai wedi rhoi terfyn ar amseroedd aros am ddiagnosis o fwy nag wyth wythnos. Ond, nid yw perfformiad mewn rhai meysydd eraill yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:36, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae angen i Ysgrifennydd y Cabinet wneud mwy na gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur. Mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig, ac eto, yn Ysbyty Glan Clwyd, ar hyn o bryd, 112 wythnos yw’r amser aros arferol am lawdriniaeth orthopedig. Mae hynny'n fwy na phedair gwaith targed y Llywodraeth o 26 wythnos. Pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd, o ystyried bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, i roi sylw i’r broblem benodol hon ynglŷn ag amseroedd aros orthopedig, ar draws y gogledd ac, yn Ysbyty Glan Clwyd yn arbennig?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae llawfeddyg locwm ychwanegol wedi cael ei benodi yng Nglan Clwyd, i leihau amseroedd aros yn yr ardal hon. Bydd rhywfaint o weithgarwch yn cael ei roi ar gontract allanol i ddarparwyr eraill. Byddwn yn parhau i wella’r timau clinigol cyhyrysgerbydol, gan gynnwys y pwyslais ar ffisiotherapi. Felly, do, penodwyd llawfeddyg ychwanegol, ac rydym ni’n credu—ac yn disgwyl—y bydd y rhestrau aros yn lleihau nawr.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Mae yna gonsýrn yn ardal Bae Colwyn bod yna feddygfa yn cau. Mae yna feddygfeydd eraill o dan bwysau ac mae yna dri o’r meddygfeydd, a dweud y gwir, gyda dim ond un meddyg teulu. Mae hi’n ardal, wrth gwrs, lle mae’r uned mân anafiadau yn Hesketh Road wedi cau ers rhai blynyddoedd. Mae yna boblogaeth hŷn na’r cyfartaledd yn yr ardal honno, ac, wrth gwrs, mae yna gannoedd o dai nawr yn cael eu codi o ganlyniad i’r cynllun datblygu lleol. A fyddech chi’n cytuno â fi bod sefyllfa o’r fath yn anghynaliadwy? Ac, a allwch chi ddweud beth rydych chi’n ei wneud i helpu’r bwrdd iechyd lleol i gwrdd â’r cynnydd sylweddol yn y galw, oherwydd mae’r galw yn mynd lan, ond mae’r ddarpariaeth, wrth gwrs, yn mynd lawr?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 7 Chwefror 2017

Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld enghreifftiau lle mae meddygfeydd wedi dweud nad ydyn nhw eisiau aros ar agor ddim rhagor, ond, wrth gwrs, mae’r bwrdd iechyd wedi hynny yn sefydlu system er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael. Mae Prestatyn yn enghraifft o hynny, lle mae’r gwasanaeth nawr yn well na beth oedd yna o’r blaen, gyda’r meddygfeydd a oedd yna. Felly, mae profiad gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw, a, hefyd, fod y gwasanaeth yn fwy eang, ac yn well.

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent 1:38, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, darllenais erthygl am gyflwr bwrdd iechyd gogledd Cymru, am lawdriniaethau ar y glun yn benodol, ac roedd yn honni bod rhai cleifion yn y gogledd yn aros dwy flynedd am lawdriniaethau o'r fath. O'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae'n gwbl gywilyddus. Rydym ni’n aros blwyddyn a hanner yn fwy na'r hyn a argymhellir. Nawr, rwyf i fy hun wedi bod yn aros—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A gawn ni glywed yr Aelod, os gwelwch yn dda?

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent

(Cyfieithwyd)

Mae’n ddrwg iawn gennyf, ond mae hwn yn fater difrifol iawn. Rwyf i fy hun wedi bod yn aros 30 wythnos i rywun edrych ar fy nghlun fy hun. Rwy’n cymryd cyffuriau i leddfu’r boen, y dywedodd fy meddyg, pan wnaeth eu rhoi i mi, ei fod yn dweud ar y bocs, 'Os cymerwch chi’r rhain am fwy na thri diwrnod, byddwch yn mynd yn gaeth iddynt'. Gofynnais i’m meddyg am hynny, a dywedodd, 'Eich dewis yw dioddef y boen neu eu cymryd nhw'. Nawr, gall pobl sy'n aros am lawdriniaethau ar y glun fynd yn ddigalon iawn oherwydd y boen barhaus—rwy'n gwybod hyn fy hun—a gallant fod yn cymryd cyffuriau i leddfu’r boen sy'n arwain at bob math o sgîl-effeithiau. Pam, yng Nghymru—ac yn y gogledd, yn benodol—mae'n rhaid i ni aros hyd at ddwy flynedd am y llawdriniaethau hyn? Nid yw hyn yn ddigon da. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hynny?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n synnu mai dyna'r cyngor y mae’r meddyg teulu wedi ei roi iddo o ran cyffur; cyffur a roddwyd ar bresgripsiwn y dywedir y gall pobl fynd yn gaeth iddo ar ôl tri diwrnod. Hynny yw, os yw hynny'n gywir, yna rwy’n synnu mai dyna'r cyngor a roddwyd iddo gan ei feddyg teulu ei hun.

Ond, i ymdrin â’r mater y mae wedi ei godi, mae'n iawn dweud bod amseroedd aros yn rhy hir mewn rhai rhannau yn y gogledd—rwy’n cyfaddef cymaint â hynny. Ond, er hynny, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes ac fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu, mae camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, gan gynnwys, wrth gwrs, cael llawfeddyg ychwanegol yng Nglan Clwyd, a gwneud yn siŵr bod darparwyr eraill ar gael i gleifion cyn gynted â phosibl er mwyn i lawdriniaethau barhau.