2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

– Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:17, 7 Chwefror 2017

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

Photo of Russell George Russell George Conservative 7 Chwefror 2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0118(EI)

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:17, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod ag uwch reolwyr o Ford Pen-y-bont ar Ogwr a Ford Ewrop i drafod y mater. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â’r rheolwyr, y gweithlu a'r undebau llafur.

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:18, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf bod arweinwyr yr undebau mor bryderus am y dyfodol ar hyn o bryd fel eu bod wedi rhoi pythefnos i Ford gyflwyno cynllun arall. Felly, wrth gwrs, mae pryder difrifol o hyd ymhlith 1,850 o weithwyr y ffatri am eu dyfodol. Mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arwydd o gynnydd. Dyna yw’r sefyllfa fel y mae pethau heddiw.

A gaf i ofyn efallai am rywfaint o sicrwydd gan y Llywodraeth eich bod wedi edrych ar bob cyfle, ac wedi archwilio yn arbennig i’r dyfodol tymor hir o ran sut y gallwch gefnogi'r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu cyfathrebu yn briodol i'r gweithlu a’ch rhan chi yn hynny?

Hefyd, tybed a allech chi ddweud pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi eu cynnal ynglŷn â chyfleoedd eraill ar gyfer y ffatri, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y ffatri Ford yn Dagenham yn gweithio hyd eithaf ei chapasiti ar hyn o bryd, yn cynhyrchu injans diesel. Pa drafodaethau sydd wedi eu cychwyn gyda Ford am y posibilrwydd o ddod â'u gwaith cynhyrchu injans trydan i Ben-y-bont ar Ogwr?

Ac yn olaf, mae buddsoddiad blaenorol gan Ford wedi denu £15 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i annog cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i gynhyrchu yn y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:19, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a hefyd am y newyddion diweddaraf oedd ganddo, y gallaf innau roi diweddariad pellach arnynt. [Chwerthin.] Byddai'r Senedd yn dymuno cael gwybod bod ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite, Len McCluskey, ynghyd ag ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite Cymru, Andy Richards, wedi ymweld â Ford Pen-y-bont ar Ogwr heddiw. Maen nhw wedi siarad ag uwch swyddogion yr undeb ac yna fe aethon nhw yn eu blaenau i drafod materion gydag uwch reolwyr Ford. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar natur gystadleuol y ffatri a chytunodd pob un dan sylw i barhau i ymdrechu i wneud y ffatri mor gystadleuol ag sy’n bosibl o'i chymharu â’r rhai cyfatebol iddi yn Ewrop. Gofynnodd Len McCluskey am ddata gan Ford ynghylch cylch gweithgynhyrchu’r ffatri. Gofynnodd hefyd am wybodaeth ynglŷn â safleoedd cystadleuol eraill ac am sicrwydd gan Ford ynghylch dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor hir. Rwy'n falch o ddweud bod Ford wedi cytuno i'r cais hwn ac y bydd yn rhoi'r wybodaeth i'r ysgrifennydd cyffredinol cyn sesiwn briffio torfol yn ôl yn y ffatri ar 1 Mawrth. Mae angen i mi ailadrodd y pwynt ein bod yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i ddiogelu dyfodol y safle, gan gynnwys cyflwyniad yr injan Dragon, a byddaf yn defnyddio'r holl asedau sydd ar gael i mi i gynorthwyo'r cwmni ac i nodi busnes newydd.

Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged hefyd i Aelodau Cynulliad lleol sydd wedi bod yn llwyr ac yn gyson ymrwymedig i’r safle, gan gynnwys yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones, a'r Aelod dros Ogwr, Huw Irranca-Davies. Rydym yn awyddus i weld y safle yn ffynnu ac yn llwyddo. Rwyf yn credu bod yna gyfleoedd, yn sicr, cyn belled ag y mae datblygiad injans petrol yn y cwestiwn. Gwyddom fod gostyngiad sylweddol yn y galw am injans diesel yn sgil sgandal Volkswagen ac y bu cynnydd, o’r herwydd, yn y galw am injans petrol. Ond rydym hefyd yn gwybod bod galw cynyddol am injans trydan ac rydym yn awyddus i weithio gyda Ford i nodi pa gyfleoedd yn y maes newydd sy’n datblygu hwnnw o dechnoleg y gellir eu manteisio arnynt yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:22, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr atebion hyd yma. Yn amlwg iawn, mae’n ymddangos bod ansicrwydd ynghylch aelodaeth y DU o’r farchnad sengl yn fater allweddol ac mae'n arwydd clir o'r wasgfa y mae Cymru yn ei hwynebu ac y bydd yn parhau i’w hwynebu os bydd y safbwynt Brexit caled a goleddir gan Lywodraeth y DU yn parhau yn ystod y trafodaethau Brexit. Rydym i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, eich bod chi a’r swyddogion wedi gweithio’n galed y tu ôl i'r llenni o ran Tata Steel yn y cyfnod anodd hwn. A gawn ni sicrwydd hefyd, ymhellach at yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud eisoes, y byddwch hefyd yn archwilio pob dewis posibl, y tu ôl i'r llenni, i sicrhau dyfodol tymor hir ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Cewch, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny a byddwn yn cytuno bod ansicrwydd ledled, nid yn unig y sector modurol, ond gweithgynhyrchu yn ei gyfanrwydd oherwydd yr effaith y gallai Brexit caled ei gael ar economi Cymru. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi bod yn gyson ein hymagwedd gan ddweud ei bod yn angenrheidiol i Gymru gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Mae'n ddiddorol ac mae'n bwysig cadw mewn cof bod 30 y cant o werthiant Ewropeaidd Ford yn y DU. Y DU yw ei farchnad fwyaf yn Ewrop a Ford sy’n gwneud 68 y cant o injans modur y DU, 40 y cant ohonyn nhw wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Mae Cymru a'n safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hanfodol i'r cwmni, nid yn unig o fewn y DU, ond hefyd ledled Ewrop.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:23, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n debyg mai’r cwestiwn cyntaf y dylwn ei ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai a yw'r wybodaeth y mae Len McCluskey yn gofyn amdani gennych chi eisoes. Ym mis Medi, fe wnaethoch ateb cwestiynau yn y Siambr hon am y sefyllfa yn ffatri Ford yn seiliedig ar sicrwydd yr oeddech wedi ei gael ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Yn arbennig, dywedasoch fod Ford wedi dweud wrthych nad oedd unrhyw lafur yn ychwanegol i’r galw yn y tymor byr. Felly, bum mis yn ddiweddarach, hoffwn i wybod beth yr ydych chi’n ei ystyried yn ddiffiniad o 'tymor byr'. Un o'r cwestiynau na wnaethoch ei ateb ym mis Medi oedd un gan arweinydd fy mhlaid i, Andrew R.T. Davies, am ddyddiadau allweddol ar gyfer penderfyniadau ac ar gyfer buddsoddiadau. Ys gwn i: a ydych chi rywfaint o gwbl yn nes at allu rhoi’r dyddiadau allweddol hynny i ni nawr? Gan fod buddsoddiad amodol Llywodraeth Cymru a glustnodwyd ar gyfer Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei seilio ar nifer y swyddi y gellir eu sicrhau ganddo dros bum mlynedd, sut mae'r oedi rhwng, ddywedwn ni, Medi a nawr, a’r hyn sy'n edrych fel oedi parhaus, yn effeithio ar eich gallu i ymateb i gyhoeddiadau pwysig? Rwy’n cyfeirio yn arbennig at eich cyllideb eich hun.

Yn olaf, ymrwymiad Ford oedd i 125,000 o injans petrol Dragon gyda’r potensial—dyna oedd eich gair ar y pryd—i ddyblu’r nifer hwnnw o unedau. Felly, a wnaethoch chi lwyddo yn eich trafodaethau gyda phennaeth uned pwerwaith Ford Ewrop wrth ddod i gasgliad am sut y gellir hybu’r galw am yr injan Dragon? Ar y pryd, derbyniwyd nad oedd gan hynny unrhyw beth i'w wneud â Brexit. Os nad ydych wedi llwyddo i feddwl am syniadau am sut y gellir hybu’r galw, pa un o'r syniadau eraill am gynhyrchu y gwnaethoch chi eu cyflwyno i ni ym mis Medi sy’n edrych fel y gallai fod yr un a allai dod i Ben-y-bont ar Ogwr pe byddai methiant o ran Dragon?  Roedd hwnnw yn bwynt na wnaethoch ei ateb pan y’i codwyd gan Russell George. Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:25, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud bod dyddiadau allweddol ar gael, a bod y cynllun pum mlynedd, wrth gwrs, yn hanfodol? Gofynnodd Len McCluskey yn briodol am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun pum mlynedd er mwyn ei rannu gyda'r gweithlu, sydd yn iawn i fod yn bryderus. Ond, mae 2020 hefyd yn ddyddiad allweddol ac rydym yn ceisio sicrwydd gan Ford ac rydym yn barod i weithio gyda nhw a buddsoddi, os bydd angen, mewn cyfleoedd i wneud yn siŵr bod yna ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir ar gyfer y ffatri. Rydym eisoes wedi gweithio gyda Ford Pen-y-bont ar Ogwr drwy fuddsoddi mwy na £140 miliwn yn y safle ers 1978, ac mae hyn wedi cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau. Mae wedi cynnwys cymorth ar gyfer buddsoddi cyfalaf, gwelliannau i isadeiledd a gwelliannau amgylcheddol hefyd. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn er mwyn gwneud yn siŵr bod dyfodol cryf ac ymarferol i’r gwaith a’i fod yn manteisio ar y lefelau cynhyrchiant anhygoel yr ydym wedi eu gweld yn ddiweddar. Ond, rydym yn awyddus i sicrhau bod y ffatri yr un mor gystadleuol â’r rhai cyfatebol yn Ewrop, fel yr wyf wedi ei ddweud. Byddwn yn hyblyg yn ein hymagwedd i’r cymorth a allai fod yn ofynnol, pe byddai Ford yn dod atom gyda chais am gefnogaeth, yn arbennig i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n datblygu. Rydym yn cynnig ystod o ddulliau cymorth i helpu busnesau—bach a mawr—i fanteisio ar dechnoleg newydd, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai Ford yn awyddus iawn i’w archwilio gyda ni.

O ran ysgogi’r galw am injans petrol, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes, mae'r dirywiad cymharol yn y galw am yr injan diesel yn dilyn sgandal Volkswagen wedi arwain at alw cynyddol am injans petrol. Mae Ford wedi ailadrodd bod faint o injans y rhagwelir y byddant yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn iach yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac rwyf yn credu y dylem gael ffydd o hynny, gyda’r disgwyl y bydd gofynion ar lafur cysylltiedig yn debyg i lefelau heddiw.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:27, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi hyd yn hyn. Yn amlwg iawn, mae hyn yn achos pryder enfawr ac mae llawer o'r gweithwyr hefyd yn byw ym Mro Morgannwg ac ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Mae'r swyddi, yn hanesyddol, yn ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ddeniadol iawn, yn talu'n dda, ac mae pobl wedi aros yn y ffatri ar ôl iddyn nhw gael eu cyflogi yno. Mae cyfres unigryw o amgylchiadau yn berthnasol i’r ffatri hon; mae’n amlwg, roedd yn rhan o deulu Jaguar Land Rover flynyddoedd lawer yn ôl. Yn y pen draw, bydd llawer o’r gweithgarwch yn symud yn awr i Wolverhampton oherwydd y ffatri injans newydd y mae Jaguar Land Rover wedi ei hagor yno.

Gofynnais i chi yn ôl ym mis Medi am eich bwriadau a’ch ymrwymiadau gyda'r cwmni i geisio sicrhau dyfodol tymor canolig a hirdymor ar gyfer y ffatri hon. Fel y gwyddom, mae'r penderfyniad i leihau cynhyrchu yn y ffatri injans wedi ei gymryd yn Detroit, ym mhencadlys byd-eang Ford, nid yn Ewrop, ac nid gan reolwyr y DU. Nodaf nad ydych, hyd yn hyn, wedi cynnal yr ymweliad y dywedasoch y byddech yn ei gynnal ar adeg y cwestiwn brys hwnnw—sef fynd i Detroit a chael trafodaethau wyneb yn wyneb gyda Ford yn eu pencadlys byd-eang. Mae hyn yn rhan, mae’n amlwg, o weithrediad enfawr yn Ewrop a ledled y byd y bydd Ford yn edrych arno o bryd i’w gilydd, a gofynnaf: pryd fyddwch chi’n cynnal yr ymweliad hwnnw â Detroit i siarad mewn gwirionedd â’r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac y byddwch yn gallu rhoi’r sicrwydd sy’n ofynnol gan y Llywodraeth hon, y gweithwyr a'r gymuned o amgylch y ffatri injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Oherwydd, fel y dywedais, am bron i 40 mlynedd erbyn hyn, mae’r ffatri wedi darparu swyddi o safon ac mae wedi darparu diogelwch swyddi hefyd. Ond nid wyf yn credu bod rhethreg heddiw o gymorth, os na fydd cynllun ar y gweill o fewn pythefnos fe fydd streic yn y ffatri hon, fel y mae Len McCluskey wedi ei nodi yn ei ddatganiad i'r wasg. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn cytuno â mi mai streic yw'r peth olaf sydd ei eisiau ar ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:29, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn werth nodi—a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiwn. Mae'n werth nodi bod Ford wedi cytuno i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani a fydd yn tawelu pryder o fewn y gweithlu. Mae trafodaethau heddiw wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Yn wir, mae trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, pennaeth Ford Ewrop, Linda Cash, y gweithlu, yr undebau llafur ac uwch reolwyr wedi bod yn adeiladol a chynhyrchiol am fisoedd lawer.

Gwnaethpwyd y penderfyniad yn Cologne; mae pob penderfyniad allweddol gan Ford Europe ynghylch ffatrïoedd Ewropeaidd Ford yn cael eu gwneud yn Cologne. Er hynny, fel yr wyf wedi ei ddweud yn y gorffennol, rydym yn fwy na pharod i fynd i ble bynnag sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol safle Ford Pen-y-bont ar Ogwr. Os yw hynny'n golygu mynd i Detroit, byddwn yn mynd i Detroit. Ond, rydym wedi ein sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Ewrop. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn ymgysylltu â'r bobl fydd yn gwneud penderfyniadau am ddyfodol ffatrïoedd Ford yn Ewrop.