– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 14 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gymunedau cryf—y camau nesaf. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant.
Diolch i chi, Lywydd. Ym mis Hydref nodais fy ngweledigaeth ar gyfer dull newydd ar gyfer adeiladu cymunedau cryf gan ganolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Mae'r uchelgais hon yn deillio o ymrwymiad craidd y Llywodraeth i fuddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu swyddi newydd, gan gynnwys 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran, treialu prosiect newydd Swyddi Gwell, yn nes at Adref, cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw le yn y DU, sefydlu tasglu’r Cymoedd, creu metros gogledd a de Cymru, rhoi'r dechrau gorau i blant drwy grant amddifadedd disgyblion estynedig, a hyrwyddo cynhwysiant ariannol.
Lywydd, mae cymunedau cryf yn barod i weithio ac yn gallu gweithio; maen nhw’n cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—maent wedi’u grymuso a’u hymgysylltu. Rwy’n awyddus i weld cymunedau diogel a chryf. Ar yr un pryd, nodais fy mod yn bwriadu dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben a lansio rhaglen eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfarfodydd gyda phobl a sefydliadau â budd, gan gynnwys cynghorau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Roedd mwy na 3,000 o ymatebion i'r ymarfer ymgysylltu a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.
Roedd yr adborth yn dangos y nifer o ffyrdd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod o fudd i unigolion. Hoffwn eto ddiolch i weithlu Cymunedau yn Gyntaf am y gwahaniaeth y maen nhw wedi ei wneud i filoedd o bobl. Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod yr angen am newid gan dynnu sylw at ffyrdd y gellid gwella Cymunedau yn Gyntaf. Teimlai nifer sylweddol bod angen diwygio pellgyrhaeddol. Mae'r ymarfer ymgysylltu wedi amlygu cefnogaeth eang ar gyfer cymunedau cryf a dull newydd yn canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Hefyd, pwysleisiodd rhanddeiliaid bwysigrwydd ymyrraeth gynnar fel egwyddor sylfaenol a ddylai fod yn sail ar gyfer ein dull o ddatblygu cryfder. Lywydd, yng ngoleuni'r adborth, rwyf wedi ystyried eto y dewisiadau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf ac wedi dod i'r casgliad y dylid ei ddirwyn i ben.
Rwy’n cydnabod y gefnogaeth ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf a leisiwyd gan y rhai hynny sy'n gweithio ar y rhaglen neu sydd wedi elwa arni. Fodd bynnag, wrth wneud fy mhenderfyniad, rwyf hefyd wedi ystyried amrywiaeth o ymatebion a ffactorau eraill. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb, a’r cyd-destunau o ran polisi, deddfwriaeth ac arian y mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu oddi mewn iddynt, wedi newid yn sylfaenol. Mae unigolion yn amlwg wedi cael budd o Gymunedau yn Gyntaf ond, fel y mae Sefydliad Bevan yn ei amlygu, mae perfformiad wedi bod yn gymysg ac mae tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Ni all un rhaglen unigol fynd i'r afael â thlodi. Mae arnom angen dull cyfannol sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac aelodau’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Rwy’n ymwybodol o’r effaith bosibl ar unigolion a chymunedau. Felly, byddaf yn mabwysiadu dull gofalus wrth fwrw ymlaen, gan geisio cadw rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol ar y gwaith a wnaethpwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn sicrhau bod gan y prif gyrff cyflenwi ddigon o amser ac adnoddau i gynllunio'r pontio. Ac felly, rwyf wedi penderfynu y bydd cyllid, ar 70 y cant o'r lefelau presennol, yn cael ei ddarparu hyd at fis Mawrth 2018. Byddaf yn sefydlu cronfa etifeddiaeth gwerth £6 miliwn, i'w chyflwyno ym mis Ebrill 2018 a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â chymunedau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gynnal rhai o'r asedau cymunedol neu’r ymyraethau mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan Cymunedau yn Gyntaf.
Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r adeiladau cymunedol, hefyd. Felly, byddaf yn darparu £4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn 2017-18 ac yn y blynyddoedd i ddod, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf o fewn y rhaglen honno, er mwyn helpu i ddiogelu asedau cymunedol gwerthfawr lle y gallai adnewyddu neu addasu helpu i ddarparu dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn glir fel Llywodraeth fod yn rhaid inni bontio i gyfnod newydd yn awr yn ein brwydr yn erbyn tlodi yng Nghymru. Ni fydd ein hymyraethau—ein cymorth ar gyfer y rhai hynny sydd fwyaf ei angen—yn dod i ben â’r rhaglen hon. Yn wir, ein nod yw dwysáu ein hymdrechion er mwyn rhoi i bobl yr offer sydd eu hangen arnynt i gael cyfran fwy cyfartal o ffyniant y genedl. Mae’n rhaid i’r addewid o gyflawni gwaith da a diogel fod wrth wraidd hyn. Felly, wrth gynnal yr etifeddiaeth werthfawr o ganlyniad i Cymunedau yn Gyntaf, rwyf am fwrw ymlaen â'n dull newydd tuag at gymunedau cryf.
Gan atgyfnerthu fy ymrwymiad i sicrhau cyflogaeth, rwyf eisoes wedi cyhoeddi estyniad dwy raglen allweddol, sef Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth—y rhaglen PaCE. Nawr, rwy’n dymuno mynd ymhellach er mwyn helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, diogel a chyfartal. Wrth i ni ddatblygu ein cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ehangach, dan arweiniad y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, gallwn ddatblygu seilwaith newydd i gefnogi'r rhai hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, i gael gwaith.
Lywydd, o fis Ebrill 2018 ymlaen byddaf yn cyflwyno grant i ddatblygu’r seilwaith hwn, gan adeiladu ar lwyddiant Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddaf yn darparu bron i £12 miliwn y flwyddyn i alluogi cynghorau i wella cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y bobl hynny sy’n aml yn wynebu rhwystrau cymhleth ac sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd hefyd yn caniatáu i’r cymorth hwn fynd y tu hwnt i’r ffiniau daearyddol pendant a nodir gan Cymunedau yn Gyntaf, sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar gyrhaeddiad gwasanaethau o'r fath. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r rhai sy'n arwain ar y cynllun cyflogadwyedd ehangach. Bydd gwella ac ehangu cymorth cyflogaeth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn rhan bwysig o'r cynnig cyflogaeth ehangach.
Lywydd, mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad ar gyfer y tymor hir. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol mwy llewyrchus. Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymatebion cadarnhaol iawn a gafwyd hyd yn hyn i’r gwaith o ddatblygu parthau plant. Byddwn yn ei gyflwyno, ar y cyd â phartneriaid, er mwyn gweithio gyda chymuned benodol mewn ffordd strategol i wella cyfleoedd bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar y camau nesaf o ran datblygu parthau plant.
Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y bydd canolfan ACE yn cael ei sefydlu i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith mor ddinistriol ar gyfleoedd bywyd i blant. Byddaf yn parhau i gefnogi GemauStryd wrth ddatblygu ffyrdd arloesol o gynnwys ein pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol. Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn rhaglenni llwyddiannus Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr i blant wrth iddynt dyfu’n oedolion.
Mae sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau a manteisio arnyn nhw, yn hanfodol wrth adeiladu cymunedau wedi'u grymuso. Dyna pam, ac at y diben hwnnw, y byddaf yn parhau i gefnogi Cyngor ar Bopeth Cymru â’r gwaith hanfodol bwysig y mae’n ei wneud, gan helpu i feithrin cryfder wrth wynebu newidiadau o ran diwygio lles. Mae'r diwygiadau a gynigir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gryfhau democratiaeth leol a swyddogaeth cynghorwyr lleol a chefnogi cynghorau cymuned a chynghorau tref mwy effeithiol yn hanfodol wrth ddatblygu’r gwaith o rymuso cymunedau.
Mae adeiladu cymunedau cryf yn waith i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ffyniant i bawb, economi gryfach sy'n creu cyfleoedd am gyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da sydd ar gael i bawb, ac a ddarperir drwy ddull cydgysylltiedig newydd sy'n mynd i'r afael â materion unigol trwy weithredu’n ehangach. Lywydd, byddwn yn manteisio i’r eithaf ar alluogi a darparu cynlluniau a datblygiadau unigryw. Mae'r rhain yn cynnwys bargeinion dinesig a datblygiad y metro, morlynnoedd llanw, Wylfa, a buddsoddiadau mawr eraill. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau cryf a diogel i bawb, ac rydym ni’n dymuno parhau i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen. Lywydd, nid yw newid byth yn hawdd, ond ni allwn anwybyddu'r cyfuniad o heriau newydd a wynebwn sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymateb i hyn. Dyna beth a wnaf a pham rwy’n ei wneud, ac mae pob un o’m cydweithwyr yn y Llywodraeth yn benderfynol o wneud hynny. Diolch.
Mae datganiad heddiw yn nodi’r cam diweddaraf o ran bwriad y Llywodraeth Lafur o ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, a ddisgrifiwyd unwaith fel rhaglen wrthdlodi flaenllaw. Rwy’n rhannu'r siom a deimlir gan lawer ynghylch y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru, a hoffwn ychwanegu diolch Plaid Cymru i'r gweithlu presennol. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn destun cryn ddadlau. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o anallu’r rhaglen i gyflawni ei hamcanion gwreiddiol, neu hyd yn oed i geisio mesur ei llwyddiant, neu fel arall. Ond nid wyf yn dymuno gweld yr elfennau da, nac yn wir yr egwyddor o gael rhaglen wrthdlodi, yn diflannu. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi cyhuddo Plaid Cymru o beryglu’r rhaglen hon dros nifer o flynyddoedd. Ym mis Ebrill 2011, nododd nad oedd y cynllun, ac rwy’n dyfynnu, ond yn ddiogel dan reolaeth Llafur, ac o dan reolaeth Plaid Cymru, dyfynnaf eto, gallwn ddweud ffarwel wrth y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi helpu cymaint o ardaloedd difreintiedig i ddod allan o dlodi.
Nid oes yr un o'r datganiadau hynny yn wir; sbin llwyr oedden nhw, ac nawr rydym yn gweld mai Llywodraeth Lafur sy'n dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Yn anffodus, nid oedd ail ran datganiad y Gweinidog yn 2011 yn gywir ychwaith: nid yw'r rhaglen wedi codi digon o bobl allan o dlodi. Nid oedd ganddi ddigon o adnoddau na phwyslais. Nid oedd yn mynd ati i ganolbwyntio ar flaenoriaethau cymunedau, ac ni chafodd graddfa na chwmpas Cymunedau yn Gyntaf fyth eu hesbonio i'r cymunedau hynny mewn ffordd onest.
Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r ffigur hwnnw yn codi i draean bron pan fyddwn yn sôn am blant. Os na lwyddodd y rhaglen wrthdlodi hon, yna mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, 'Beth yr ydym ni am ei wneud yn hytrach?' Nid yw problemau tlodi nac anfantais wedi diflannu. Yn y datganiad heddiw, ni nodir unrhyw gynllun digonol arall ar gyfer ei weithredu, ac a dweud y gwir, mae hynny'n hollol warthus.
Ni fydd y gronfa etifeddiaeth ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sef dim ond £6 miliwn, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i faterion tlodi sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau. Croesewir yr arian ychwanegol ar gyfer cyfleusterau cymunedol, ond bydd yn cael ei ddyrannu’n denau iawn. Beth ddigwyddodd i'ch egwyddor o dargedu? Yn syml, nid yw £12 miliwn yn ychwanegol ar gyfer sgiliau o 2018 ymlaen yn ddigon. Ni fydd yn cyrraedd digon o bobl. Nid oes dim o hyn yn cyfateb i raglen wrthdlodi i gymryd lle Cymunedau yn Gyntaf, ac o ystyried ein bod yn sôn am rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn yr holl Undeb Ewropeaidd—cymunedau sydd mewn perygl o golli’r cyllid ychwanegol y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE am eu bod mor dlawd—nawr rydych chi eisiau cymryd yr arian hwn oddi arnyn nhw hefyd.
Nid oes dim byd, dim byd o gwbl, yn y datganiad hwn heddiw yn dangos y brys sydd ei angen arnom i fynd i'r afael â thlodi yn y wlad hon. Nid yw’n ddigon uchelgeisiol, ac ni cheir digon o fuddsoddiad na chyllid newydd. Wrth gwrs, mae gennym ddigon o eiriau allweddol—union yr un geiriau allweddol y mae pobl yn ein cymunedau tlotaf wedi eu clywed ers blynyddoedd. Wel, gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet: mae pobl wedi cael digon ar y geiriau allweddol hynny, ac maen nhw wedi cael digon ar gael eu siomi gan y Llywodraeth hon. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod mai’r unig beth y mae wedi ei wneud yn y datganiad hwn yw rhestru nifer o gynlluniau sydd eisoes yn digwydd, ac a wnaiff ef egluro pa un a geir arbediad cyllidebol o ganlyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac os felly, faint? A wnaiff ef ymrwymo heddiw i ailfuddsoddi yr holl arian sy’n cael ei wario ar y rhaglen ar hyn o bryd, ac, yn olaf, a wnaiff ef dderbyn mai’r hyn y mae'n ei wneud â’i ddatganiad yw tanseilio ein cymunedau tlotaf, gan roi ychydig iawn, neu ddim sicrwydd i ni, y bydd ffordd arall o ganolbwyntio ar dlodi a mynd i'r afael ag ef? Rydych chi’n troi eich cefn ar ein cymunedau tlotaf. Onid yw hynny’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet?
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Yn amlwg, ysgrifennodd y cyfraniad cyn i mi wneud y datganiad hwn, gan na soniodd yr Aelod am unrhyw un o’r pethau a restrwyd gennyf yn y datganiad. Nid troi tlodi’n bwnc gwleidyddol yn unig yw'r ffordd ymlaen, a dylai'r Aelod wybod yn well am hynny. Dechreuodd yr Aelod drwy gyfeirio at y datganiadau a wnes i yn ôl yn 2011. Mae hynny chwe blynedd yn ôl, ac rwy’n derbyn fy mod wedi gwneud y datganiadau hynny—rydych chi yn llygad eich lle—ond ychydig cyn hynny, roedd ei chydweithwyr yn y Cabinet yn eistedd o amgylch y bwrdd pan oedd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei drafod ac ni wnaethon nhw godi'r mater hwnnw, pan oedd yr Aelod hwnnw hefyd ar y meinciau yn y Siambr hon, felly peidiwch â dechrau rhoi’r bai am gyfrifoldeb a’r hyn sy’n cael ei ystyried yn dlodi a’r hyn nad yw’n cael ei ystyried yn dlodi. Mae'r Aelod yn sefyll mewn etholiad ac yn gobeithio y bydd ymosod arnom ni ynghylch y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn rhywbeth y bydd hi’n cael budd ohono. Ond gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod yr hyn na chodwyd ganddi: y mater o Dechrau'n Deg, y mater o Teuluoedd yn Gyntaf, y mater o ganolfannau yn ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, llwybrau cyflogadwyedd, gofal plant, y grant amddifadedd disgyblion, asedau cymunedol. Mae'r rhain i gyd yn rhaglenni— [Torri ar draws.]
A gawn ni wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—a ddarperir gan y Llywodraeth hon, na chyfeiriodd yr Aelod atyn nhw o gwbl. Y gwir amdani yw nad yw hi’n gallu gwneud cyfraniad ar fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â thlodi oherwydd nad oes ganddi unrhyw syniad ynglŷn â hynny. Y gwir amdani yw ein bod ni’n ceisio mynd i'r afael â'r mater ystyfnig iawn hwn o fynd i'r afael â thlodi. Ac ni fyddaf yn troi hwn yn bwnc gwleidyddol.
Sut mae hynny'n mynd?
Ni fyddaf yn troi’r anawsterau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu yn bwnc gwleidyddol. Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwneud buddsoddiadau yn ein cymunedau gan ddilyn dull partneriaeth rhwng Llywodraethau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Efallai y dylai'r Aelod fyfyrio ar ei datganiad oherwydd nad yw ei gynnwys yn ddim byd ond beirniadaeth wleidyddol yn hytrach na chyfle i wneud datganiad adeiladol yma heddiw. [Torri ar draws.] Efallai ei bod hi’n chwerthin o'r meinciau yn y fan yna; mae hi yn chwerthin, mae hi o’r farn bod tlodi yn ddoniol, yn amlwg, ond yr hyn y mae hi wir angen ei wneud yw dod yn ôl i'r Siambr hon gyda syniadau, oherwydd yn amlwg nid oes gan yr Aelod unrhyw syniad o gwbl.
Chi yw'r Gweinidog.
Diolch. Mark Isherwood.
Wrth ddrafftio'r datganiad hwn, a’r ffordd ymlaen yr ydych chi’n bwriadu ei dilyn neu a gyhoeddwyd gennych, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i adroddiad ‘Valuing place’ gan yr Young Foundation a ariennir drwy grant gan Lywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn y Cynulliad dim ond wythnos yn ôl i heddiw, yn seiliedig ar waith ymchwil gyda phobl o Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot? Cafodd ei gomisiynu a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dweud y dylai sefydlu rhwydwaith lleol er mwyn helpu i annog, hyfforddi, mentora a chysylltu pobl sy’n dymuno gweithredu yn lleol â’i gilydd, beth bynnag yw eu sgiliau neu’r adnoddau sydd ganddyn nhw, fod yn flaenoriaeth. Mae angen i ni alluogi datblygiad cadarnhaol o le sy'n gynhwysol a chyfranogol. Fel yr wyf yn dweud, roedd hynny’n cynnwys poblogaeth wych Cei Connah, ac mae’n adroddiad gwerthfawr iawn na chafodd ei ystyried—nid o reidrwydd yr adroddiad, ond argymhellion yr adroddiad hwnnw—mae’n ymddangos, yn y datganiad a wnaethoch chi heddiw.
Er ein bod mewn perygl o gael ein cyhuddo o wleidydda, gadewch i mi ddweud, er bod yr adroddiad blynyddol ar anghydraddoldeb incwm gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn nodi y bu gostyngiad graddol yn anghydraddoldeb incwm yn ystod y degawd diwethaf—yn y DU yn amlwg yn hytrach na Chymru yn benodol—ac er bod bron i £0.5 biliwn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, yn ôl Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, rhwng 2001 a diwedd y flwyddyn diwethaf, y mae, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yn anffodus bod nifer y bobl o oedran gweithio nad ydyn nhw mewn gwaith yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, wedi cynyddu yn ôl i 524,000 o bobl, a bod Cymru yn y degfed safle allan o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU o ran tlodi, ac yn yr unfed safle ar ddeg isaf o ran enillion wythnosol.
Rydych yn cyfeirio at fetros gogledd a de Cymru. A allwch chi ateb y cwestiwn y methodd eich cydweithiwr yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith ei ateb yr wythnos diwethaf, o ran pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i alwadau penodol dogfen 'Gweledigaeth Twf' Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer datganoli rhai materion yn fewnol er mwyn helpu i gau'r bwlch o ran ffyniant sy'n cynyddu wrth i chi fynd ymhellach i'r gogledd-orllewin? Oherwydd bod cymaint yn dibynnu ar hynny ac, yn syml, dim ond ateb dros dro fydd y metro a gynigir gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â'r cyfleoedd y gellid eu cyflwyno wrth i’r ddwy Lywodraeth a'r rhanbarth weithio gyda'i gilydd.
Rydych chi’n nodi, yn gywir, gefnogaeth eang ar gyfer dull newydd, sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, a phwyslais rhanddeiliaid ar bwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Wrth edrych yn ôl—ac rwyf newydd glywed eich sylwadau, yn amlwg, i Leanne Wood, yr Aelod dros Rhondda Cynon Taf—a ydych ci nawr yn cydnabod efallai y gallech chi fod wedi bwrw ymlaen â chynigion y CGGC a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, cyn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar gyfer yr hyn a ddylai ddilyn ar ôl 2012, sef y model y mae fy mhlaid i wedi’i gynnig? Nid oeddem ni’n bwriadu cael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf, ond dim ond datblygu’r model hwnnw, a oedd yn nodi cynigion ar gyfer gweledigaeth a fyddai'n fwy effeithiol wrth fynd i'r afael ag amddifadedd, adeiladu cymunedau cryfach, llai o gostau biwrocratiaeth, mwy o berchnogaeth gymunedol, a lle y byddai pwyslais yn cael ei roi ar y sefydliadau cymunedol eu hunain mewn ardal ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau i fodloni anghenion lleol.
Rydych yn cyfeirio at ddatganiad Sefydliad Bevan ynglŷn â’r ffaith y bu perfformiad yn gymysg, a bod tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Wel, mae ei gyflwyniad, y ddogfen ‘Communities First—Next Steps’, yr wyf yn credu ei bod wedi’i drafftio gan Victoria Winckler sy’n fawr ei pharch, hefyd yn dweud na lwyddodd Cymunedau yn Gyntaf i leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, sut yr ydych chi’n ymateb, ac mae’n ymddangos nad ydych chi wedi gwneud hynny yn eich datganiad, i’w datganiad hi, neu nhw, y dylai rhaglen newydd gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, ac nid o'r brig i lawr, h.y. gan awdurdodau lleol, ac y dylai fod yn seiliedig ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau, ac nid ar ddiffygion, ac y dylai gweithredu lleol gael ei arwain gan sefydliadau a leolir yn y gymuned a chanddyn nhw hanes cryf o ddarparu, ac sy’n ymgysylltu’n gryf â'r gymuned, unwaith eto, nid gan y sector cyhoeddus yn uniongyrchol? Er, yn amlwg, byddai'n rhaid ymwreiddio trefniadau llywodraethu corfforaethol yn gadarn yn hynny.
Rydych chi’n cyfeirio at sicrhau bod cyrff cyflenwi arweiniol yn cael digon o amser ac adnoddau i gynllunio’r pontio, a'r angen i gydnabod cefnogaeth ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen fwyaf, ac, felly, ni fydd y gefnogaeth honno yn dod i ben â’r rhaglen hon. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi, felly, i’r cyflwyniad gan Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, pan wnaethon nhw ddweud y dylai unrhyw newidiadau fod yn raddol yn hytrach nag ar raddfa fawr, pan wnaethon nhw dynnu sylw at broblem o ran aelodau staff yn gweithio yn rhan o Cymunedau yn Gyntaf yn derbyn hysbysiadau diswyddo, neu’n gadael yn gynnar, gan golli’r aelodau staff mwyaf profiadol a mwyaf cymwysedig, wrth iddyn nhw chwilio am waith yn rhywle arall a pheidio â bod ar gael i'r cymunedau hynny, o gofio mai nhw yw’r rhai y bydd angen taer amdanynt yn ystod y cyfnod pontio?
A ydych chi’n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ac maen nhw hefyd—
A ydych chi’n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Os caf i, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad fod y rhaglen 2012, y rhaglen glystyrau, mewn gwirionedd, o ran eu tystiolaeth, wedi arwain at golli perchnogaeth leol, sydd, mewn rhai achosion, wedi bod yn ffactor hollbwysig o ran lleihau cefnogaeth leol ac effeithiolrwydd Cymunedau yn Gyntaf a'i waith?
Ac, yn olaf, os caf, rydych chi’n cyfeirio at adeiladu ar lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf—mae'n ddrwg gennyf, Cymunedau am Waith, ac Esgyn. Ddeufis yn ôl, gofynnais gwestiwn i chi a mynegi pryder nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu rhyddhau data neu ei bod yn amharod i wneud hynny ynglŷn â chanlyniadau Cymunedau am Waith ac Esgyn, lle y deallir bod darparwyr Rhaglen Waith Llywodraeth y DU yng Nghymru wedi gallu darparu swyddi i'r bobl sydd bellaf oddi wrth y gweithle am £3,000 ar gyfartaledd, lle y deallir y gallai cost swyddi ar gyfer y cynlluniau hyn fod hyd at—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.] —bump i 10 gwaith yn uwch. Diolch.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i chi, ac rwy’n diolch i'r Aelod am ei ddull adeiladol tuag at y newid yn y rhaglen.
Yn gyntaf oll, soniodd am raglen yr Young Foundation. Ceir llawer o felinau trafod ac elusennau sy'n cynnig safbwyntiau ar sut i adeiladu cryfder mewn cymunedau yng Nghymru, ac yn Lloegr. Ac rydym yn edrych ar yr adroddiadau hynny yn ofalus iawn, er mwyn gweld sut y dylem ni gynnwys y syniadau da sy'n cael eu cyflwyno ynddyn nhw neu sut y gallem ni eu cynnwys. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu fy sylw at hynny.
Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym ni’n ei drafod yn y fan yma yw dull clir iawn ar gyfer y cynllun cyflogadwyedd, a dyna pam y bydd ychydig o dan £12 miliwn yn cael ei gyflwyno i gynllun cyflawni ar gyfer y clystyrau ledled Cymru, lle y byddwn yn ymgysylltu â'r unigolion anodd eu cyrraedd, naill ai drwy Esgyn neu Cymunedau am Waith, neu PaCE. Ac mae'n rhywbeth yr wyf i’n frwdfrydig iawn yn ei gylch, drwy gydweithio â Gweinidogion eraill, y gallwn gael pobl yn ôl i mewn i'r farchnad swyddi.
Ni allaf ateb cwestiwn penodol yr Aelod ar y mater ynglŷn â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ond byddaf yn gofyn i’m cydweithiwr ystyried hynny ac efallai ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â materion penodol yn ymwneud â’r metro. Rwy’n credu ei fod yn iawn, mewn gwirionedd, fod yr Aelod eisiau gwybod am y metro oherwydd dim ond un rhan o jig-sô yw’r metro, casgliad o offer, a fydd yn galluogi pobl i gamu i’r byd gwaith trwy gael mynediad at systemau trafnidiaeth modern. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio, unwaith eto, heb roi’r bai ar neb, yw bod hyn yn ymwneud â phethau’n newid dros amser o gymharu’r adeg pan ddechreuodd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf â’r sefyllfa bresennol, 17 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'r tirlun cyfan, yn gyllidol ac yn economaidd, wedi newid yn sylweddol iawn ac mae diwygio lles wedi golygu rhai canlyniadau anuniongyrchol ar ein cymunedau wrth geisio mynd i'r afael â thlodi. Dyna pam yr ydym ni’n llunio cyfeiriad gwahanol.
Gall yr Aelod edrych ar adroddiad Sefydliad Bevan gan Victoria Winckler; dylai edrych arno’n ofalus oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw’r hyn yr ydym yn ei gynnig yma mor wahanol â hynny i’r hyn y mae Sefydliad Bevan yn ei ddweud. Ynglŷn â’r llwybr cyflogadwyedd, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am hynny yn fuan iawn, ond mae fy rhan i o'r llwybr cyflogadwyedd yn ymwneud â’r camau cyntaf oll, ac rydym yn ystyried sut yr ydym yn cael pobl i fod yn rhan o’r system addysg, i fanteisio ar y cyfleoedd o ran sgiliau, a'u symud i mewn i gyflogaeth, sy'n bwynt pwysig iawn. O ran cynllunio rhaglenni gyda phobl yn hytrach nag i bobl, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn glir iawn ynglŷn â hynny; byddwn ni, o'r datganiad hwn, yn gwneud ymrwymiad clir iawn i fynd yn ôl i'r cymunedau hynny i siarad ag unigolion—y gweithlu a’r sefydliadau—a all ein helpu i gynllunio cyfleoedd â'r gronfa etifeddiaeth wrth iddi symud ymlaen.
Mae Cytûn ac eraill wedi rhoi sylwadau ar wneud llai o newidiadau strwythurol, ac rwy’n credu ein bod wedi gwneud hynny. Rydym wedi cynnig model ariannu 70 y cant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ac yna, wedi hynny, rydym yn cyflwyno cronfa etifeddiaeth. Rwy’n credu bod hynny’n rhoi amser i awdurdodau neu glystyrau ddechrau ffurfio sgwrs wahanol ynglŷn â sut y gallan nhw ddatblygu, ond y mae hynny'n fater yr ydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddo i alluogi a grymuso yn hytrach na gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r broses honno. Bydd yn cael ei gyflwyno o’r gwaelod. Ond, rwy'n credu bod y cynnig yma yn ymwneud â chanolbwyntio eto ar y mater o sut yr ydym yn mynd i'r afael â thlodi, a chydnabyddir gan yr Aelod fod effeithiau ystyfnig tlodi yn anodd iawn i fynd i'r afael â nhw, ond yr ydym wedi ymrwymo i wneud hynny fel ymagwedd Llywodraeth gyfan.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Yr hyn a ddywedwn ar y dechrau yw fy mod yn deall safbwynt y Llywodraeth o ran Cymunedau yn Gyntaf, a’ch pryder chi, nad yw, ynddi'i hun, wedi cyflawni ei huchelgais i godi pobl allan o dlodi. Mewn rhai ardaloedd, nid ydyw wedi cyflawni o gwbl mewn gwirionedd. Fel y gwnaethoch chi gydnabod yn eich datganiad, rwy’n credu ei bod hi’n anodd dychmygu yn ôl pob tebyg y gall unrhyw weinyddiaeth ddatganoledig gyflawni unrhyw bolisi unigol a fyddai'n codi poblogaeth allan o dlodi gan fod tlodi hefyd yn gysylltiedig â sefyllfa macroeconomaidd y Deyrnas Unedig, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, unwaith eto, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, Ysgrifennydd y Cabinet, ceir y system fudd-daliadau annheg, sy'n taro'r tlotaf galetaf. Eto, mae’n rhywbeth nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drosto. Fodd bynnag, rydych chi’n gwybod o’m cyfraniadau blaenorol yn y Siambr hon ac o ran sylwadau personol yr wyf wedi’u rhannu â chi, nad oes gennyf i ddim byd ond canmoliaeth i’r buddiannau y mae’r cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi’u cyflwyno i’m hetholaeth i. Fy mhryder i wrth ddod â’r cynllun i ben oedd yn y pen draw y gallem ni daflu'r llo a chadw'r brych, ac y gallai llawer o'r gwaith rhagorol a wneir ar hyn o bryd gael ei golli. Felly, hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y modd yr ydych chi wedi gwrando ar y sylwadau gennyf i a gan Aelodau eraill.
Croesewir y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y buddiannau gwirioneddol y mae rhai cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi’u darparu, a’i bod yn gweithredu trefniant pontio hael. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith, yn ystod y cyfnod pontio, y bydd awdurdodau lleol yn gallu blaenoriaethu’n uniongyrchol y cynlluniau hynny sydd fwyaf buddiol i'r gymuned, gan neilltuo amser iddyn nhw—fel yr ydych chi wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn Mark Isherwood—ganolbwyntio eto ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac i geisio ffrydiau cyllido eraill pan fo angen, fel y gall gwaith sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau hynny, barhau. Rwy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith yn ymwneud ag iechyd, lles a chynhwysiant cymdeithasol. Bydd y cyfnod pontio, yn fy marn i, Weinidog y Cabinet, yn neilltuo amser i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio eto ar ei blaenoriaethau gwrthdlodi, gan symud y pwyslais yn uniongyrchol ar gyflogadwyedd, yr ydym i gyd yn derbyn yw'r allwedd i godi pobl allan o dlodi, ac mae'r polisi hwn yn weithredol ar draws ardaloedd nad ydyn nhw yn rhan o Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd.
Ac a gaf i ddweud, rwy’n croesawu'n fawr iawn y strategaeth a nodwyd gan Alun Davies neithiwr yng nghyfarfod cyhoeddus tasglu’r Cymoedd ym Merthyr Tudful, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i sgiliau cyflogadwyedd fod wrth wraidd cymunedau wedi’u hadfywio yn y Cymoedd, ynghyd â darparu swyddi diogel, o ansawdd da, sy’n talu'n dda, ond gan barhau hefyd gyda Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a pharthau plant, a nodwyd gennych chi yn eich datganiad? Felly, fy nghwestiwn yw, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi, pan fydd yr arian etifeddiaeth yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol, yn rhan o'r trefniadau pontio, y bydd yn rhaid i’r cynghorau hynny flaenoriaethu'r gwaith y mae cynlluniau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf wedi’u cyflawni ar gyfer rhai o'r ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ac y rhoddir arweiniad iddyn nhw ar sut i wneud hynny, ac y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i neilltuo’r arian hwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Diolch i chi, Dawn, a diolch i chi am eich cwestiwn. A gaf i ddweud, rwyf wedi cael fy lobïo gan lawer o Aelodau, o bob plaid, ac mae llawer wedi cyfrannu at y dogfennau ymgynghori? Mae pobl fel Dawn, Lynne Neagle, Hefin David, a llawer o bobl eraill o amgylch y Siambr hon wedi bod yn gadarn iawn eu barn am Cymunedau yn Gyntaf. A gaf i ddweud hefyd, fy mod wir yn credu bod aelodau’r staff mewn llawer o glystyrau Cymunedau yn Gyntaf wedi gwneud gwaith gwych o ran ceisio mynd i'r afael â'r tlodi mwyaf difrifol? Ac rwy’n credu yn ôl pob tebyg, fod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi atal rhai cymunedau rhag mynd yn dlotach. Yr hyn nad yw wedi llwyddo i’w greu—ac nid yw hynny'n fai ar unrhyw un, ond nid yw wedi llwyddo i wneud y newid mawr hwnnw i ffurfio llwybr rhagweithiol o ran mynd i'r afael â thlodi yn uniongyrchol, a dyna sydd angen i ni ei wneud, ac rwyf wir yn credu bod yn rhaid i hyn gael ei gyflawni drwy roi sgiliau cyflogadwyedd, sgiliau twf swyddi, ond hefyd swyddi i bobl—a gwn fod David Rees wedi codi hyn gyda mi yn y gorffennol: mae rhoi sgiliau i bobl yn un peth, ond mae rhoi swyddi i bobl yn rhywbeth arall, ac mae'n rhaid mynd ati i wneud hynny ar sail gyflawn.
A gaf i ddweud, ynglŷn â phontio, yr hyn yr wyf wedi ceisio ei wneud yma yw meddalu’r broses honno o ran gweithredu dull mwy hirdymor tuag at newid? Mae newid bob amser yn anodd, ond mae angen inni wneud hynny. Rwy'n credu ei fod yn uchelgeisiol, yn ddewr, ond, mewn gwirionedd, nid yw'n gweithio. Y sefyllfa bresennol yw’r hyn yr ydym ni’n ceisio ymdrin â hi. Felly, byddaf yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ar yr etifeddiaeth refeniw, er mwyn ystyried sut y mae eu cynlluniau lles yn adlewyrchu anghenion eu cymuned, ond nid wyf eisiau bod yn benodol iawn o ran rhaglen. Rwyf o’r farn ei bod hi’n bwysig iawn bod pobl sy'n deall eu cymunedau yn well yn gallu cyflawni newid trwy ddylanwad, a'r cyllid sydd ynghlwm â hynny.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae llawer o'r drafodaeth heddiw wedi bod am Cymunedau yn Gyntaf; wel, mae’r cynllun hwnnw bellach yn dod i ben, felly mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd unrhyw fath o raglen sy'n cymryd ei le yn effeithiol, ond, yn bennaf, heddiw, roeddwn i’n awyddus i siarad am agwedd arall ar y mater o dlodi, sef yr hyn y cyfeiriodd Dawn Bowden ato: cyflogadwyedd.
Nawr, rydych chi wedi nodi yn flaenorol, Weinidog, bod tlodi mewn gwaith yn broblem gynyddol ac, yn wir, nododd Llywodraeth Cymru y mater hwn wrth gyflwyno ei hadroddiad creu cymunedau cryf yn 2013. Un peth y gall y Llywodraeth ei wneud yw ceisio denu mwy o swyddi, a, gobeithio, swyddi o ansawdd gwell. Nawr, rwy’n gwybod bod eich Llywodraeth yn ymwybodol o'r agwedd hon, oherwydd daeth eich Gweinidog economi, Ken Skates, i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf, ac roedd yn sôn am y mater hwn, a dywedodd nad dim ond unrhyw waith sy’n bwysig ond gwaith o ansawdd da, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio hynny. Ond rydym ni’n wynebu nifer o broblemau ynghylch hyn. Yn yr un wythnos â sylwadau Ken Skates, cawsom hefyd y Prif Weinidog, fel y soniais yn gynharach heddiw yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog—yn ein hysbysu bod Awdurdod Cyllid Cymru yn dod i Drefforest, ond bod bron pob un o'r swyddi yn mynd i gael eu llenwi gan bobl a recriwtiwyd yn ardal Llundain. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad ydym yn gwybod am Awdurdod Cyllid Gymru ers hydoedd, ond rydym yn gwybod amdano ers peth amser, felly rwy’n dal i feddwl o ran—[Torri ar draws.] Wel, mae wedi ei grybwyll ers peth amser, gadewch i mi ei roi felly. Rwyf yn meddwl tybed pam, yn y sefyllfaoedd hyn, na all pobl Cymru gael eu hyfforddi i lenwi'r swyddi hyn.
Nid wyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar hynny, ond rwyf eisiau tynnu sylw at y mater o hyfforddi a gwella sgiliau pobl. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gaffael er mwyn defnyddio hyn fel ysgogiad i greu swyddi. Mae gennym rai prosiectau seilwaith mawr ar y gweill megis metro de Cymru a morlyn llanw bae Abertawe. Ond y canlyniad posibl hyn yw na fydd gennym y bobl â’r sgiliau yng Nghymru ac y bydd yn rhaid i neu eu mewnforio nhw eto. Felly, efallai na fyddwn yn creu swyddi ar gyfer y gymuned leol o gwbl, neu, o leiaf, dim llawer ohonynt. Gallem, mewn gwirionedd, fod yn rhoi mwy o bwysau ar y cyflenwad tai ar gyfer pobl leol a thrwy hynny, yn anfwriadol, waethygu problemau sy'n gysylltiedig â thlodi. Gwn fod rhaglen gyflogadwyedd gan y Llywodraeth i wella sgiliau, a oruchwylir gan Julie James, a grybwyllir yn eich datganiad, ond, i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach wrth y Prif Weinidog, mae rhywun yn meddwl tybed beth y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud ynghylch cynyddu sgiliau dros yr 17 mlynedd diwethaf, oherwydd nid yw hwn yn fater newydd, yn amlwg. Fe wyddoch fwy am hynny na mi, felly, os gwnewch chi fy ngoleuo, byddwn yn ddiolchgar.
Rydym hefyd yn wynebu problemau eraill ynghylch y farchnad gyflogaeth ar ffurf awtomeiddio, ac mae Lee Waters wedi cyfeirio at hyn nifer o weithiau. Gofynnodd Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf, ‘Pwy fydd yn elwa arno?’ Wel, yn sicr nid y gweithwyr â lefel gymharol isel o sgiliau fydd yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn gwaethygu'r broblem o uwchsgilio. Pa bethau ymarferol y gellid eu gwneud i wella cyflogadwyedd? Wel, soniodd Ken Skates yr wythnos diwethaf am ddefnyddio yr hyn a elwir yn ‘wybodaeth am y farchnad lafur’ wrth lunio prentisiaethau. Mae angen prentisiaethau pob oedran arnom erbyn hyn, ac rwy’n credu eu bod yn rhan o'r rhaglen gyflogadwyedd. Mae eu hangen arnom, oherwydd bod y farchnad gyflogaeth mor gyfnewidiol bellach ac nid oes unrhyw swyddi am oes erbyn hyn. Mae angen, efallai, mwy o ryngweithio rhwng y Llywodraeth a diwydiant preifat, gan fod y sector cyhoeddus yn debygol o grebachu.
Mae trafnidiaeth, byddwn i’n dweud, yn fater pwysig. Mae llawer o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ardaloedd diwydiannol ar gyrion trefi, yn aml heb gludiant cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae llawer ohono’n waith sifft. Sut bydd gweithwyr yn cyrraedd eu gweithle heb gar? Felly, a yw Llywodraeth Cymru’n gallu cydgysylltu'n effeithiol â darparwyr cludiant? Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o weithwyr weithio trwy asiantaethau cyflogaeth i ddechrau. Mae llawer o'r asiantaethau hyn nad ydynt yn dda iawn, yn fy mhrofiad i, o ran cyfathrebu'n effeithiol â'u gweithwyr. Yn aml, mae rheolaeth yn wael yn y swyddi asiantaeth hyn. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i weithio gyda’r asiantaethau hyn yn y dyfodol? Beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer gweithio gyda darparwyr cludiant, a beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer gweithio gyda diwydiant preifat? Diolch.
Wel, cododd yr Aelod lawer o gwestiynau yn y fan yna, ond rwy’n credu bod cynsail y rhan fwyaf o hyn yn seiliedig ar gyflogadwyedd a llwybrau cyflogadwyedd. Cyfeiriais yn fy natganiad at y rhaglen gyflogadwyedd yr ydym yn ei chyflwyno: gwerth bron i £12 miliwn o fuddsoddiad yn y pen anodd iawn o ryngweithio â rhan o'n hyfforddiant a mantais marchnad mwyaf anodd ei gael. Ond, edrychwch, ni ddylem siarad yn negyddol am Gymru. Cymru yw'r rhan fwyaf llwyddiannus o’r DU o ran ystadegau diweithdra. Rydym wedi gwneud yn arbennig o dda, er gwaethaf yr anawsterau economaidd sy'n ein hwynebu. Yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw creu llawer o swyddi, a llawer o swyddi da. Gwnaethom ddeddfu ar gyfer swyddi da dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl.
O ran prosiectau mawr, mae gennym broses gaffael. Mae cymal cymunedol yn ein rhaglenni, lle’r ydym yn annog—mewn rhai achosion, yn disgwyl—i gynlluniau prentisiaeth gael eu cyflwyno. Rwy'n siŵr y bydd hynny’n rhan o’r holl gysyniad hwnnw ar gyfer y metro a’r fasnachfraint newydd wrth i ni drafod y mater ynghylch teithio. Wrth baratoi ar gyfer y dyfodol, mae awtomeiddio yn broblem fawr. Mae'n rhaid i ni ystyried hynny’n ofalus iawn, iawn, hyfforddi a rhoi'r sgiliau i bobl heddiw ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ddigon o gwmnïau arloesol yng Nghymru, cwmnïau fel GE, Airbus—pob un ohonynt ar flaen y gad o ran technoleg, ond mae'n rhaid i ni groesawu hynny ac adeiladu ar hynny.
Mae'r Aelod yn sôn am Awdurdod Cyllid Cymru yn aml. Edrychwch, rydym yn sôn am 17 o swyddi medrus iawn yn y fan hon, a bydd yn rhaid i rai ohonynt gael eu dwyn i mewn oherwydd y sylfaen sgiliau. Ond, yn gyffredinol, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr, rydym yn gweithio gyda'n hysgolion a’n colegau, i roi'r sgiliau cywir i bobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol, oherwydd, os nad ydym yn gwneud hynny, ni fyddwn ni y gorau yn y DU o ran ein ffigurau diweithdra; byddwn ni’n un o'r gwaethaf. Dyna pam y mae’n bwysig i newid gyda'r oes a dyna beth yr ydym yn ei wneud gyda'r rhaglen hon.
Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn i Ddwyrain Abertawe ac yn ddiwrnod trist i iechyd, wrth i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, cartrefi di-fwg, dosbarthiadau ymarfer corff, diet iach a rhaglenni colli pwysau ddod i ben. Diwrnod trist ar gyfer cyrhaeddiad addysgol, wrth i glybiau paratoi ar gyfer arholiadau’r Pasg, clybiau gwaith cartref a rhaglenni dysgu i’r teulu ddod i ben. Diwrnod trist i bobl a fyddai wedi elwa ar gyrsiau ymwybyddiaeth o arian, cyngor ar filiau cyfleustodau, cyrsiau cyllidebu sylfaenol, a rhaglenni gwneud y mwyaf o incwm. Y llynedd, daeth y gyllideb atodol gyntaf o hyd i £10 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg uwch. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am £10 miliwn ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen atodol gyntaf eleni?
Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau â'r Gweinidog Cyllid, ac arwydd o'r amserau yw ein bod yn symud i mewn i sefyllfa wahanol o fynd i'r afael â thlodi. Mae'r Aelod yn anghywir—yn amlwg yn anghywir—yn dweud y bydd pob un o'r rhaglenni hynny yn dod i ben. Nid yw'n gwybod a fyddant yn dod i ben; nid wyf i’n gwybod a fyddant yn dod i ben. Beth y mae yn ei olygu yw bod yn rhaid i ni siarad â chymunedau ynghylch sut yr ydym yn eu gwneud yn gryfach ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ymwybodol iawn o glystyrau Abertawe—rwyf wedi ymweld â llawer o glystyrau ledled y DU gyfan—felly mae hi braidd yn anffodus bod yr Aelod yn defnyddio y math yna o iaith i ddychryn pobl yn hytrach na bod yn adeiladol yn y modd y mae'n ymdrin â hyn yn y Siambr.
Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mewn sawl ffordd, mae hon yn adeg chwerwfelys, a hoffwn i ymuno â chi a’r siaradwyr blaenorol i gydnabod y modd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gwella cymaint o fywydau yn rhai o'n cymunedau mwyaf heriol a’r rhai sy’n wynebu heriau, ond nid yw natur a ffurf tlodi yn gysyniad statig. Mae'n hollol iawn, felly, y dylech chi fel Llywodraeth, geisio mynd i'r afael â'r newidiadau yn ffurf tlodi, ac rwyf i yn sicr yn croesawu'r symudiad i wneud hynny.
Felly, wrth edrych ymlaen, rwy’n croesawu’r ffaith bod Lywodraeth Cymru yn gosod cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso wrth wraidd ei pholisi cymunedau cydlynol, rhagweithiol newydd a hefyd y ffordd y mae'r ymagwedd newydd yn gysylltiedig â’r agenda cyflogadwyedd, agenda tasglu’r Cymoedd, a'r strategaeth economaidd ehangach. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r mater o asedau cymunedol. Rwy’n croesawu'r ymrwymiad i gronfa etifeddiaeth, a'r arian ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedau, ond byddwn yn croesawu unrhyw fanylion ychwanegol, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallech chi eu rhoi i mi heddiw am hyn. Pan yr oedd gwasanaethau Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i yn uno â’i gilydd yn y gorffennol, roedd hynny yn aml yn arwain at ganoli gwasanaethau, gyda goblygiadau i asedau cymunedol a arferai fod yn gartref i'r rhaglen pan mai Cymunedau yn Gyntaf oedd y prif denant, gan ganiatáu i sefydliadau eraill ddefnyddio'r lle er budd y gymuned. Sut y bydd yr arian newydd hwn yn helpu i sicrhau na fydd y math yna o sefyllfa yn codi wrth symud ymlaen, a hefyd a fydd y gronfa yr ydych wedi cyfeirio ati yn agored yn ôl-weithredol i gyn leoliadau Cymunedau yn Gyntaf sydd eisoes wedi colli’r ddarpariaeth Cymunedau yn Gyntaf yn ystod uno blaenorol?
Yn ail, rwy’n croesawu eich ymrwymiad i gefnogi'r rhai hynny sydd bellaf o'r farchnad lafur yn ôl i gyflogaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd heriau yn y fan yma ynghylch yr agenda sgiliau, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym pa asesiad sydd wedi'i wneud o hyn, a hefyd unrhyw ddulliau penodol sydd gan Cymunedau yn Gyntaf y gellid eu cadw mewn unrhyw fodel yn y dyfodol.
Yn olaf, rwy’n croesawu’r gwaith partneriaeth cyfannol sydd wrth wraidd gweledigaeth Llywodraeth Cymru yr ydych wedi ei disgrifio i ni yma heddiw. Pa ymateb y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol a sefydliadau partner eraill i'r cynigion hyn?
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiynau heddiw ac, unwaith eto, Aelod arall sydd wedi bod yn blwmp ac yn blaen iawn ei barn am Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer ei chymuned hi. Vikki, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw y dylem fod yn uchelgeisiol ac y dylem fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â thlodi. Bydd gennym yr addewid gofal plant mwyaf hael mewn unrhyw le yn y DU yn cael ei gyflwyno yn eich etholaeth chi ac mewn etholaethau ym mhob rhan o Gymru. Mae mynd i'r afael â phroblemau profiadau plentyndod niweidiol sy'n cael effeithiau dinistriol ar ein plant yn y tymor hirach—problemau cenhedlaeth y mae’n gwbl iawn, yn foesol, inni fynd i'r afael â nhw, ond sydd hefyd yn gwbl iawn yn gyllidol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen i ni newid cyfeiriad a dyna beth y byddwn yn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf a chartrefi plant yng Nghymru, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i ni, sy’n bwysig i bobl Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe, a'r ardaloedd lle byddwn yn cyflwyno cynlluniau gofal plant arbrofol ym mis Medi eleni.
Y mater y mae’r Aelod yn ei godi ynghylch mater y gwariant cyfalaf a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol—rydym wedi atodi £4 miliwn i hwnnw ar gyfer etifeddiaeth o bedair blynedd o 2018. Rwy'n disgwyl i hwnnw gael ei ddefnyddio gyda rhywfaint o hyblygrwydd ag awdurdodau lleol, a fydd yn eu helpu i newid eu cyfalaf a chael cymaint â phosibl o’r ased sydd ganddynt. Felly, pa un a oes angen iddyn nhw adeiladu ceginau newydd neu gyfleusterau boeler newydd os bydd hynny yn galluogi’r cyfleuster hwnnw i fod y cyfleuster gofal plant newydd ar gyfer eich ardal, neu yn fan lle y gallwn ddarparu mwy o asiantaethau hyfforddiant a chyflogaeth, y rhain yw’r cyfleoedd yr wyf yn credu y dylai awdurdodau lleol a phobl leol fod yn fwy blaenllaw ac yn gallu cyflwyno’r rhaglenni hyn. Mae'r dull ‘gwnaed yng Nghymru’ tuag at drosglwyddo asedau cymunedol yn rhywbeth yr wyf yn ei drafod gyda’r Gweinidog Cyllid, a byddwn yn gwneud datganiad arall ar hynny yn y dyfodol agos.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a diolch hefyd iddo am ei ymgysylltiad â mi fel aelod o'r meinciau cefn sydd wedi bod yn poeni'n ddirfawr am y cynigion hyn, a hefyd am gyfarfod â’m hawdurdod lleol? Yn gyntaf rwyf yn awyddus i gofnodi fy niolch, a thalu teyrnged i'r staff sy'n darparu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i, sydd wedi gwneud gwaith cwbl wych. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl ymwybodol o berfformiad rhagorol Cymunedau yn Gyntaf yn Nhorfaen, ond i’w atgoffa, rydym ni’n gyntaf o ran cael pobl i mewn i gyflogaeth, yn ail o ran hybu sgiliau, yn drydydd o ran gwella rhifedd a llythrennedd a gwella lles meddwl ac iechyd. Felly, mae gennym dipyn o hanes i geisio ei warchod yn hynny o beth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd i ddiogelu rhag y naratif nad yw’r rhaglen hon wedi mynd i'r afael â thlodi, wrth iddi wynebu, fel y gwnaeth, dros y saith mlynedd diwethaf bron, cefndir o doriadau budd-daliadau llym, y gall y Ceidwadwyr Cymreig eu diystyrru, ond sydd yn ddi-au wedi cael effaith ddofn ar ein cymunedau tlotaf, a byddant yn gwaethygu wrth i’r credyd cynhwysol gael ei gyflwyno.
Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy sylwadau i chi, a hefyd yn fy ymateb ysgrifenedig, ei bod yn gwbl hanfodol nad ydym yn taflu’r llo a chadw’r brych yn y rhaglen hon. Gyda hynny mewn golwg, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith y byddwch yn cynnal cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar 100 y cant hyd at fis Mehefin, ac ar 70 y cant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd cyfnod pontio o bedair blynedd, ond rwy’n siŵr na fyddwch yn disgwyl llai na fy mod yn bryderus iawn am y gostyngiad sylweddol mewn cyllid ar gyfer y pedair blynedd hynny, a fydd, i fy etholaeth i, yn golygu gostyngiad o £1 filiwn y flwyddyn. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn barhau i’w adolygu, gan ei fod yn arian ar gyfer ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
O ran cwestiynau, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael rhagor o fanylion am sut yr ydych yn gweld y gronfa etifeddiaeth hon yn gweithio a sut y byddwch yn sicrhau ei bod wedi’i thargedu at y meysydd lle y gall fod fwyaf effeithiol gyda’r cyllid dan sylw. Ond byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod, o ran yr arian cyflogadwyedd, faint o hyblygrwydd y mae awdurdodau lleol yn debygol o’i gael wrth ddefnyddio'r arian hwnnw. Oherwydd rydym yn gwybod nad oes llawer o bobl mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn barod o gwbl ar gyfer cyflogaeth, ac mae llawer o'r ymyraethau meddalach y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod mor dda o ran eu cyflawni yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod ganddynt hyd yn oed gyfle teg o gael budd o’r camau cyflogaeth hynny.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy’n cytuno â'r Aelod. Torfaen yw un o'r awdurdodau sydd wedi bod yn dda iawn o ran dangos y ffordd y gallant ymgysylltu â'u cymuned ar lefel leol iawn. Mae Caerffili yn enghraifft arall lle y bu gweithgarwch da iawn ar lawr gwlad. Nid wyf yn dweud bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei thorri; dweud wyf i bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol, oherwydd nid yw’r pethau yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â nhw—effeithiau styfnig tlodi—yn cael eu cyflawni cystal ag yr oeddem yn ei obeithio. Dyna pam mae'n rhaid i ni newid cyfeiriad. Ni ddylai'r Aelod fod yn swil o ran dweud ychwaith: er bod Torfaen yn gyntaf mewn llawer o bethau, roedd yr Aelod yn un o'r rhai cyntaf i ddod i fy ngweld, yn ogystal, i ddweud beth oedd ei phryderon o ran effaith y rhaglen hon.
Rwyf wedi ymweld â rhai o'r straeon llwyddiant o'r rhaglenni Esgyn a Chymunedau am Waith. Rydym wedi cael canlyniad gwych ar raglenni cyflogaeth a chael pobl yn ôl i waith, ond mae'r rhain yn garfan o unigolion nad ydynt weithiau yn barod ar gyfer gwaith ac mae angen i ni wneud mwy gyda nhw. Rwyf wedi gweld llwyddiant mawr yng Nghaerdydd, yr ymwelais ag ef yn ddiweddar, lle’r oeddem yn gallu rhoi hyder i bobl; digon i gamu dros garreg y drws, i ddechrau siarad am y farchnad swyddi, a rhoi'r hyder iddynt i gael y sylfaen sgiliau honno. Gobeithio, o’r fan honno, y gallwn eu symud drwy'r system: trwy raglen gyflogadwyedd Julie James i mewn i leoliadau gwaith—ac mae Ken Skates wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran denu busnesau i'r ardal hon.
O ran sut y bydd y ffrydiau refeniw yn gweithredu, byddaf yn cyhoeddi rhywfaint o ganllawiau, yn dilyn ymgynghori â rhanddeiliaid, ynghylch sut yr wyf yn gweld y bydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus neu'r awdurdod lleol yn rhan o'r cynllun llesiant, gan wneud yn siŵr mai’r meysydd y dylid mynd i'r afael â nhw—trechu tlodi yn yr ardaloedd hynny—yw'r rhai y rhoddir blaenoriaeth iddynt i wneud hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf eisoes wedi ei drafod â swyddfa’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol—gan wneud yn siŵr eu bod ar ben eu pethau yn hyn o beth er mwyn sicrhau ein bod yn targedu’r mannau cywir. Ond bydd, wrth gwrs—mae llai o arian yn mynd i mewn i'r system yn y maes hwn, a bydd effeithiau i hynny. Ond yr hyn yr ydym wedi gallu ei wneud, ac rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth yr Aelod o hyn, yw rhoi amodau mwy addas i hyn mewn proses lle y gallwn gynllunio ar gyfer dyfodol pryd y bydd, gobeithio, sefydliadau addysg, iechyd a sefydliadau eraill yn y trydydd sector yn gallu dod at y bwrdd i sôn am y llwyddiant yn y meysydd hyn a symud hynny ymlaen wrth i ni fynd yn ein blaenau.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ymddiheuro i’r holl Aelodau eraill hynny a oedd yn dymuno cyfrannu, ond rydym wedi mynd dros ein hamser.