1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2017.
4. Pa wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am gyfanswm y gwariant cyhoeddus a gafodd ei wario mewn unrhyw ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru? OAQ(5)0100(FLG)
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw, neu â mynediad at ystod eang o ddata yn cwmpasu amrywiaeth o olion traed daearyddol ledled Cymru. Aiff bron i dri chwarter yr holl wariant refeniw gan Lywodraeth Cymru ar ddyraniadau i awdurdodau lleol, cyrff iechyd lleol ac awdurdodau’r heddlu.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Tynnodd sylw yn ei ymatebion cynharach at effeithiau niweidiol polisïau caledi Torïaidd. Bydd pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf, ac ni fydd y cymhlethdod o fynd i’r afael â’r heriau’n dod fymryn haws. A fuasai’n cytuno y buasai darlun clir a chynhwysfawr o holl wariant cyhoeddus—lleol, Llywodraeth Cymru a ledled y DU, yn cwmpasu iechyd, budd-daliadau, addysg ac yn y blaen—ar lefel awdurdod lleol neu, os caf ddweud, ar lefel cod post, yn amcan gwerthfawr y dylem i gyd fod yn ymgyrraedd tuag ato? Ac os yw’n cytuno, a oes unrhyw drafodaethau cyfredol ar y gweill, neu a yw’n rhagweld y bydd yn cael y trafodaethau hynny yn y dyfodol?
Wel, Lywydd, mae data ar gael mewn nifer o ffyrdd eisoes ar y lefel leol honno. Mae cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er enghraifft, yn cofnodi gwariant ar lefel cod post, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru wedi gweithredu ers amser ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is, a bydd dadansoddiad o wariant caffael 2015-16 yng Nghymru, sydd ar fin dod i ben, hefyd yn caniatáu i wariant gael ei ddadansoddi ar lefel cod post o’r fath. Felly, rwy’n rhannu diddordeb yr Aelod yn y pwnc am y rhesymau a ddisgrifiodd. Rwy’n siŵr y bydd yn cydnabod bod yna rai cyfyngiadau ar sut y gallwch ddefnyddio data yn y ffordd honno. Mae yna wahaniaeth rhwng gwariant ac effaith, er enghraifft. Os adeiladwch ysgol uwchradd, a gweithredu ysgol uwchradd, bydd yn effeithio’n fawr iawn ar lefel cod post, ond teimlir effaith y gwariant, wrth gwrs, yn llawer ehangach na’r cod post ei hun.
Rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gwneud pwynt pwysig yn ei gwestiwn, ein bod dros amser wedi symud ymlaen o fod â diddordeb mewn mewnbynnau ac allbynnau, i gael llawer mwy o ddiddordeb mewn canlyniadau—beth yw effaith y gwariant y gallwn ei ddarparu ar fywydau pobl y gobeithiwn y byddant yn elwa ohono? Ac un peth yw casglu data; mae gwneud synnwyr ohono a gwneud defnydd ohono yn fater arall.
Yn nhermau gwariant cyfalaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae cynrychiolwyr cynghorau lleol yn Lloegr sy’n ffinio â Chymru wedi crybwyll bod yna ddiffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn Lloegr yn nhermau manylion projectau a gwariant isadeiledd sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Felly, yn dilyn hynny, pa gamau a ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu ag awdurdodau cyhoeddus dros y ffin i ddelifro projectau isadeiledd sy’n gydgysylltiedig?
Wel, rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Wrth gwrs, mae lot o’r pethau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru ar y ffin yn dibynnu ar bethau sy’n mynd ymlaen dros y ffin hefyd, ac mae’r penderfyniadau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru yn cael effaith yn Lloegr ac mae pethau y maen nhw’n eu gwneud yn Lloegr hefyd, y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud, yn cael effaith arnom ni, ac ym maes cyfalaf, mae hynny’n bwysig. Rŷm ni yn rhannu gwybodaeth pan fydd pobl yn gofyn inni am y wybodaeth a phan ŷm ni’n cydweithio gyda’r awdurdodau dros y ffin hefyd.
Nid wyf wedi dod ar draws unrhyw le ble rwy’n gallu cofio problemau yn codi, ond os oes mwy o fanylion gyda’r Aelod am ble mae pethau yr ŷm ni’n gallu eu gwneud yn well, rwyf i wrth gwrs yn hollol hapus i ystyried hynny.
A gaf fi groesawu’r symudiad at ddefnydd mwy soffistigedig o ddata, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn, gan ei fod yn caniatáu i ni, neu’n rhoi cyfle i ni sicrhau’r potensial mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Er enghraifft, mewn ardaloedd lle y darperir lefel uchel o ofal plant o ffynonellau’r wladwriaeth, buaswn yn disgwyl gweld llawer o’r boblogaeth leol yn ymwneud â darparu’r gwasanaethau gofal plant hynny, ac os nad ydynt, mae’n golygu, yn amlwg, fod pobl yn dod i mewn o’r tu allan i’r ardal honno i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw—peth da ynddo’i hun, ond nid ydym yn cael y gorau am y bunt Gymreig o reidrwydd yn yr ardaloedd mwy difreintiedig os nad yw gwariant cyhoeddus yn cael ei ailgylchu’n drylwyr yn eu heconomi.
Wel, mae’r Aelod yn gwneud y pwynt, yn fwy huawdl nag y gwnes i, pwynt y ceisiais ei wneud yn gynharach, fod yn rhaid inni fod â diddordeb mewn elw ar fuddsoddiad, nid buddsoddiad yn unig. Yn hanesyddol, rwy’n meddwl y byddai’n rhaid i chi ddweud bod awdurdodau cyhoeddus wedi bod yn dda iawn am gasglu data a heb ymdrechu agos cymaint i ddadansoddi data. Felly, rydych yn cael llawer iawn o bethau ar eich bwrdd, ond nid oes neb i’ch helpu i wneud llawer o synnwyr ohono. Holl bwynt gwneud synnwyr ohono yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr elw ar y buddsoddiad a wnaethom, sy’n gweithio ar gyfer y cymunedau lle y caiff yr arian ei wario, a’r bobl sy’n byw ynddynt.