– Senedd Cymru am 2:28 pm ar 7 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Nid oes newidiadau gennyf i'w hadrodd ar fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad busnes a’r cyhoeddiad ym mhapurau’r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddiffyg argaeledd adnoddau dysgu dwyieithog a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar addysg Gymraeg? Mae’n rhywbeth sydd wedi codi ei ben o dro i dro dros y misoedd diwethaf, ond mi wnes i ddeall heddiw na fydd TGAU seicoleg yn cael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un lle y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag argaeledd yr adnoddau angenrheidiol. Mae ysgolion Cymraeg Cymru wedi penderfynu peidio â darparu’r cwrs, ac mae ysgolion dwyieithog wedi dewis gwneud y cwrs Saesneg oherwydd eu bod nhw’n gwybod bod yr adnoddau ar gael. Nawr, y perygl yn hynny, wrth gwrs, yw yn y dyfodol bydd yr awdurdodau yn dweud nad oes galw am y fath adnoddau, ac felly rŷm ni’n gweld cylchdro dieflig gwbl annerbyniol yn datblygu, yn fy marn i, ac mae hynny filiwn o filltiroedd i ffwrdd, wrth gwrs, o ble dylem ni fod os ydym ni am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae e yn gadael ysgolion Cymraeg i lawr. Mae’n gadael athrawon sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr, ac mae’n gadael disgyblion sydd am gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr. Ac mae e’n tanseilio pob uchelgais sydd gan y Llywodraeth yma o safbwynt yr iaith Gymraeg. Felly, mi fyddwn i’n gofyn yn garedig i’r Gweinidog perthnasol ddod ger ein bron ni i esbonio’n union beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, a sut maen nhw’n tybio bod hyn yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.
Diolch yn fawr, Llŷr Gruffydd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael tystiolaeth i gadarnhau'r pryderon hyn sydd wrth wraidd y cwestiwn hwn heddiw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o ran seicoleg, bydd yn peidio â bod yn y Gymraeg a'r Saesneg yn 2018—Cymraeg a Saesneg—felly mae’n amlwg fod hynny yn rhan fawr o’r penderfyniad hwnnw, a hefyd, bod y llyfr bioleg TGAU ar gael fis Hydref y llynedd. Felly, nid ydym yn gwybod pam oedd yr ysgol dan sylw—yr wyf yn deall bod y cwestiwn hwn wedi deillio yn rhannol o’r fan honno— heb gael copi. Mae’n amlwg, felly, bod hwn yn fater o archwilio beth sy’n cael ei honni o ran cael y dystiolaeth ac ymateb priodol.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych, arweinydd y tŷ, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda? Ddydd Gwener, bu i mi gyfarfod â Chyngor Tref Llanilltud Fawr, a Chyngor Cymuned Llanmaes. Rwyf yn gwybod eich bod, yn rhinwedd eich swydd fel Aelod etholaeth Bro Morgannwg, wedi cyfarfod â nhw hefyd. Ond mae cryn bryder ynglŷn a’r ffordd fynediad ogleddol, y mae Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo o fewn yr ardal arbennig honno, a’r anallu sydd i ystyried barn y cynghorau o ran y dewisiadau trafnidiaeth yn sgil y datblygiad cyffrous gan Aston Martin yn awyrendy’r Ddraig Goch. Mae pawb yn gefnogol i'r datblygiad hwnnw—rhai o'r dewisiadau trafnidiaeth sydd wrthi’n cael eu trafod. Ac, mewn gwirionedd, mae yna deimlad eu bod yn cael eu gwthio ymlaen yn ormodol pan ystyrir fod y seilwaith presennol o gwmpas y fan honno, heol Eglwys Brewis, yn ddigonol, yn ôl rhai, i fodloni anghenion cludiant yr ardal honno i’r dyfodol. A hefyd mae’r mesurau atal llifogydd a nodwyd ar gyfer pentref Llanmaes yn awr, o'r hyn y mae'r cyngor cymuned yn ei ddweud wrthyf, wedi eu gwthio yn ôl, ac maen nhw’n dibynnu ar adeiladu a chwblhau’r ffordd fynediad ogleddol mewn gwirionedd.
Yn amlwg, rhoddwyd sicrwydd i’r gymuned ym mis Mawrth y llynedd, yn union o flaen etholiadau'r Cynulliad yn eironig iawn, y byddai £400,000, rwyf yn credu, ar gael er mwyn gwneud y gwaith ataliol hwn yn Llanmaes. Bellach, ar ôl yr etholiad, dywedir wrthynt na fydd hynny’n digwydd. Felly, a allem gael datganiad gan y ddau Weinidog ynglŷn ag atal llifogydd, ond hefyd ynglŷn â’r ôl-troed economaidd yn sgil y ffordd fynediad ogleddol, o ran pa ymgysylltu yn union a wneir â'r gymuned yn y dyfodol, ac, yn bwysig iawn, pa werthusiadau sydd wedi’u cynnal o'r llwybrau trafnidiaeth presennol o amgylch yr ardal honno? Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai ffolineb yw gwario £15 miliwn ar ffordd newydd pryd y gallai swm llawer llai gyrraedd y nod terfynol ar y seilwaith sydd yno’n barod. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar y naill neu’r llall o'r rhain.
A'r ail ddatganiad y byddwn yn ddiolchgar amdano yw datganiad am gyflwr yr A48 o Groes Cwrlwys i Ben-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn ymwybodol o nifer o ddamweiniau a gafwyd yno yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod chwech wedi digwydd i gyd, dywedir wrthyf, yr wythnos honno—[Torri ar draws.] Nid araith yw hon—rwy’n clywed rhywun ar ei eistedd yn dweud hynny. Pan gawn chwe damwain ar ddarn o ffordd, awgrymaf fod hynny’n destun pryder. Diolch byth, ni laddwyd neb, ond roedd rhai anafiadau difrifol. Ac, os ydych yn gyrru ar y darn o ffordd rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr, mae arwyneb y ffordd mewn cyflwr echrydus, gyda sawl twll dwfn iawn. Byddwn yn ddiolchgar i gael gwybod pa werthuso sydd wedi ei wneud gan reoli traffig Llywodraeth Cymru ynghylch y gwaith cynnal a chadw a allai fod yn ofynnol ar y ffordd honno, ac, yn benodol, pa gamau diogelwch y gellid eu rhoi ar waith i leddfu rhai o'r peryglon traffig hyn sy'n bodoli ar y darn hwnnw o ffordd rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr.
Diolch yn fawr i R.T. Davies am y cwestiynau hynny—cwestiynau etholaethol i raddau helaeth yr wyf yn ymdrin â nhw fel Aelod Cynulliad Bro Morgannwg. Ond rwy'n credu, o ran y cwestiwn cyntaf, sydd mewn dwy ran, rwyf yn deall—ac rwyf wedi bod gwneud llawer, yn wir, i annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori â phob un o'r cynghorau tref a chymuned yr effeithir arnyn nhw o ran y cynnig ar gyfer y ffordd fynediad ogleddol, ac, yn wir, roeddwn yn gallu sicrhau bod arddangosfa’n cael ei chynnal yn Llanilltud Fawr, yn dilyn ei chynnal yn Sain Tathan, a Llanmaes hefyd. Felly, mae’n dilyn ei bod yn iawn ac yn briodol i gynghorau tref a chymuned ymateb i hynny. Ond, yn amlwg, rhywbeth i Gyngor Bro Morgannwg yw hyn nawr, o ran ceisiadau cynllunio. Ac yn wir, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn cymryd rhan lawn yn hyn, oherwydd, fel y dywedwch—ac yr ydych yn croesawu’r datblygiad cyffrous gan Aston Martin, sydd bellach ar gam cyntaf eu gwaith adeiladu yn Sain Tathan.
Rwyf yn meddwl bod eich ail bwynt, wrth gwrs, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yma gyda ni, o ran amgylchedd a materion gwledig—mae’r arian ar gyfer Llanmaes wedi cael ei addo ers blynyddoedd lawer. Rwyf yn teimlo mor rhwystredig â chi—a phobl Llanmaes. Mae angen cwblhau’r gwaith hwn. Ond, fel y gwyddoch, wrth gwrs, yn Nhrebefered, mae'r gwaith bellach wedi cychwyn yn y pentref, islaw Llanmaes a Threbefered, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr iawn, a bydd yr arian yn cael ei wario yn Llanmaes hefyd.
Eich ail bwynt: wrth gwrs, rydym ni, yn lleol, yn ymwybodol iawn o’r damweiniau hynny. Y rhew llym, annisgwyl—cafodd y ffyrdd eu graeanu, gwyddom, gan Gyngor Bro Morgannwg, ac, wrth gwrs, mae cyflwr yr A48 yn fater, mi wn, a gaiff ei ystyried.
Er nad yw gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn rhan o gynnig dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd, yn briodol iawn, yn seiliedig ar wella ffyniant economaidd, ac felly'r gwerth ychwanegol gros, mae angen am well cysylltiadau bws, ffyrdd a rheilffyrdd yn y ddinas-ranbarth. Mae rhai pobl yn byw ymhell o gyrraedd cyfleusterau cyflogaeth, manwerthu a hamdden, er nad ydynt mewn rhai achosion yn byw mor bell â hynny oddi wrthynt mewn gwirionedd, ond, o achos y diffyg cyfleusterau cludiant, nid yw’n hawdd cyrraedd yno. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar raglen i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe?
Mae'r rhain yn hanfodol o ran y cyfleoedd y mae dinas-ranbarth Abertawe yn eu cyflwyno, yn enwedig o ran cyfleoedd y fargen ddinesig hefyd. Bu i ni gyhoeddi, fel y gŵyr Mike Hedges, bron £29 miliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru, er mwyn gwella diogelwch a helpu i ysgogi twf economaidd a hyrwyddo teithio llesol. Mae'r dinas-ranbarthau wedi gallu dylanwadu ar brosesau cynllunio trafnidiaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Ond, wrth gwrs, rydym wedi ariannu nifer o welliannau i seilwaith y rheilffyrdd a’r gwasanaethau ar gyfer Abertawe, a’i hardal economaidd, yn y blynyddoedd diwethaf.
Ac rwyf yn credu bod hwn yn bwynt hollbwysig o ran datblygiad strategol. Gallaf sôn llawer am welliannau i wasanaethau bws, ond mae ffyrdd hefyd, fel y dywedwch, yn hanfodol bwysig o ran cyllid grant ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol, sef £13 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i awdurdodau lleol yn y de ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth. Ac mae hyn yn cynnwys dyraniadau i ddinas a sir Abertawe i gwblhau ffordd ddosbarthu Morfa, ar gyfer coridor Ffordd Fabian yr A483—ar achos busnes—gwaith ar wella’r seilwaith, a hefyd, yn hollbwysig, gynllun cyswllt Kingsbridge, sef y darn allweddol o ran teithio llesol Abertawe.
Gallwn fynd ymlaen, ond rwy'n credu bod hynny'n ddigon i ateb y cwestiwn hwnnw.
Ddoe, cyhoeddodd Newsquest ei fod yn cau ei ganolfan yng Nghasnewydd, gan golli 14 o swyddi. Yn anffodus, wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchiad o'r duedd gyffredinol ymhlith y cyfryngau print, ac, yn amlwg, rydym agored iawn i hynny yma yng Nghymru. Sylwaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn y Siambr. Tybed a allem gael datganiad ysgrifenedig o leiaf ganddo, a allai gynnwys gwybodaeth efallai am natur penderfyniad Newsquest i ddod â’i weithrediadau yng Nghasnewydd i ben ond eu cadw yn Weymouth, ac, yn benodol ac yn bwysig iawn, pa ymyriad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gefnogi aelodau’r staff yno, o ran eu gobeithion am yrfa yn y dyfodol. Hefyd, yn fy marn i, gallai hyn fod yn gatalydd eto i fwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn gyffredinol yn sector y cyfryngau print, wrth inni symud ymlaen.
Wel, diolch, Steffan Lewis, am y cwestiwn hwn. Rwyf yn credu bod cwestiynau am hyn wedi'u codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet sawl tro o'r llawr. Yn sicr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth gynnal ein busnes. Felly, diolch ichi am y cwestiwn heddiw.
Tybed a allwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ. Mae’r cyntaf— gwelaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol—yn ymwneud â rheoleiddio safleoedd gwastraff pren. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sydd wedi ei godi o'r blaen, ond, o ystyried y tân yn Llandŵ, sydd wedi effeithio ar drigolion ac ar o leiaf un busnes bychan yn ddiweddar, credaf fod hyn efallai yn rhywbeth y byddem yn ddiolchgar iawn, iawn i glywed gennych chi amdano cyn bo hir. Hoffwn glywed, yn enwedig, a fydd gan adnoddau Naturiol Cymru y capasiti a'r adnoddau, mewn gwirionedd, i gefnogi, neu gyflawni, unrhyw newid rheoleiddio y byddwch efallai yn gallu ei gyflwyno. Ond byddai dim ond diweddariad ar hynny yn gymeradwy iawn.
Yr ail—ys gwn i, aeth cryn amser heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn stiwdios Pinewood. Mae’n amlwg, gwnaed y buddsoddiad ar sail ystod o ddangosyddion perfformiad allweddol. Clywsom gryn dipyn ar y pryd am yr effaith economaidd leol a’r swyddi fyddai’n cael eu creu. Ond, fel y dywedais, roedd hynny gryn amser yn ôl erbyn hyn. Byddai'n eithaf defnyddiol, yn fy marn i, pe gallem gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa mor dda mae hynny wedi mynd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Suzy Davies. Yn wir, rwyf wedi ymwneud llawer ag effaith a chanlyniad pedwerydd tân ar stad ddiwydiannol Llandŵ, a ddigwyddodd nos Iau—ymwelais ar fore Gwener a ddoe eto, hefyd, gan gwrdd â Chyfoeth Naturiol Cymru, a gyhoeddodd orchymyn atal dros dro wedyn, gan weithio gyda busnesau lleol fel maes carafannau Llandŵ ac, yn wir, y gymdogaeth yno. Bydd y rhai sy'n byw yn yr ardal honno yn gweld y mwg a'r effaith ar y gymuned lawer ehangach. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, ac Ysgrifennydd y Cabinet yn glir iawn, unwaith eto, ynghylch a oes cyfleoedd rheoleiddio y gellid eu gweithredu o ganlyniad i'r tanau anffodus iawn yn y safleoedd hyn.
Yr ail bwynt—byddai, mi fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus. Mae'n briodol—yn amserol—i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am stiwdios Pinewood.
Mae chwaraeon, fel y gwyddom, yn cynnig manteision lu, ond tybed a allwn ni ddod o hyd i amser am ddatganiad neu ddadl ar fater chwaraeon ac ymddygiad, ar y cae chwarae ac oddi arno hefyd, yn dilyn y sylw anffodus a roddwyd i’r ffrwgwd ar y maes yn ystod y gêm yn nhrydedd haen rygbi'r gynghrair yn ystod y penwythnos. Fel rhywun sydd wedi dilyn rygbi a hyd yn oed chwarae yn safle’r bachwr pan oeddwn yn ifanc, ac wedi dod allan ohoni waethaf o achos rhai o hen driciau’r fall ar waelod y sgrym neu ar y llinell ystlys, gallaf ddeall yr angerdd yn iawn. Ond pan fydd hyn yn berwi drosodd yn wylltineb neu hyd yn oed yn ymladdfa—nid yn unig ar y cae, ond rwyf wedi gweld hynny’n aml hefyd yn anffodus ar y llinell ystlys pan fydd pethau’n cynhyrfu’n ormodol.
Felly, byddai'n beth da cynnal dadl ar hynny er mwyn inni allu trafod hynny, swyddogaeth modelau rôl ar y cae, patrwm ymddygiad rhieni a gwylwyr, ond hefyd er mwyn trafod swyddogaeth y cyrff llywodraethu, megis Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill. Eithriad yw hyn, ond, pan mae’n digwydd, mae angen i ni godi llais yn ei erbyn a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto.
Rwy'n falch fod Huw Irranca-Davies wedi codi’r cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn dymuno gweld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn gallu mwynhau'r profiad ar ac oddi ar y cae, ac mae’n condemnio unrhyw drais yn ystod gemau a thu allan iddyn nhw, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio. Byddwn yn ymgynghori â chydweithwyr yn y Llywodraeth am y cyfleoedd sydd gennym i ymateb yn llawn i hyn mewn datganiad o bosibl neu ddadl ar ymddygiad mewn chwaraeon. Ond rwy'n credu, dim ond wrth edrych ar bêl-droed, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sefydlu Gwobr Chwarae Teg—ac mae hynny’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth er lles pêl-droed yng Nghymru. Ac mae yna wobr ariannol. Gall clybiau—ac, yn wir, enillwyr unigol, gael taliad ariannol gwerth £1,000 tuag at offer a gwelliannau i’r maes hefyd. Mae URC wedi dechrau ymchwilio i ddigwyddiadau yng Nghasnewydd ac, yn wir, mae hynny’n ymateb pwysig—mae ganddynt broses ddisgyblu fanwl ar waith ac, wrth gwrs, cysylltwyd â’r timau dan sylw ac ymdrinnir â nhw yn unol â hynny.
Tybed a ydy’n fwriad gan y Llywodraeth i ddod â dadl cyn bo hir, yn amser y Llywodraeth, ar y mater o fand eang i gymunedau Cymru, yn benodol, cynllun Superfast Cymru? Roedd nifer o gwestiynau wedi cael eu gofyn i’r Prif Weinidog yn ystod ei gwestiynau fe, ac rwy’n credu, pe buasai’r Llywydd wedi bod yn amyneddgar, buasai pob un ohonom ni wedi gallu codi i ofyn cwestiwn ynglŷn â’r cymunedau sy’n cael trafferth ar hyn o bryd i gael mynediad at Superfast Cymru.
Yr enghraifft ddiweddaraf rydw i wedi’i gweld yn fy rhanbarth i yw tro pedol gan BT i ddarparu band eang i Lanymawddwy. Roedd yna gyfarfod fis Mehefin diwethaf, gyda’r Aelod Seneddol, Liz Saville-Roberts, yn bresennol, pan wnaed addewid y byddai Superfast Cymru yn dod i Lanymawddwy. Erbyn hyn, mae BT wedi gwneud tro pedol. Dyma’r tro cyntaf i fi weld tro pedol llwyr. Oedi, ie, ailraglennu, ie, ond nid tro pedol llwyr yn dweud na fydd band eang ar gael ar gyfer y pentref hwn, er gwaethaf addewid sydd wedi’i wneud yn y gorffennol.
I bobl sydd yn ystyried bod efallai llefydd pellennig yn rhy bell i gael technoleg fodern, digwydd bod, dyma’r ardal lle ffilmiwyd y ffilm gyntaf mewn lliw yng Nghymru erioed. Felly, dylem ni ailfeddwl, efallai, lle mae creadigrwydd a thechnoleg newydd yn dechrau yng Nghymru. Wrth gwrs, pwnc y ffilm yna oedd gwylliaid cochion Mawddwy. Felly, oni bai eich bod chi eisiau gwrthryfela ymysg bryniau Maldwyn a Meirionnydd, efallai ei bod hi’n amser ailedrych ar hyn mewn dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn inni i gyd ddeall i le y mae Superfast Cymru yn mynd ac a yw’n cadw at yr addewidion sydd wedi cael eu gwneud i Aelodau’r Cynulliad.
Mae Simon Thomas yn tynnu sylw at un lleoliad arbennig o bwysig lle cafwyd y rhwystredigaethau hyn. Yn wir, tynnodd Nick Ramsay sylw yn gynharach at lawenydd pobl Tyndyrn, gan dynnu sylw at ardaloedd cyfagos. Felly, credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod problemau yn dal i fodoli ond, hyd yn hyn, mae dros 621,000 eiddo ledled Cymru yn gallu cael band eang cyflym iawn, diolch i’r rhaglen. Cymru sydd â’r ddarpariaeth orau o ran band eang cyflym iawn ymhlith y gwledydd datganoledig. Ond mae’n rhaid i’r gwaith hwnnw barhau, sy'n golygu bod nifer y safleoedd ledled Cymru gyda'r gallu i dderbyn band eang cyflym iawn yn parhau i gynyddu.
Mae ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y bydd yr Aelod yn hollol ymwybodol ohono, hefyd yn cynnig cymorth i'r rhai hynny nad ydynt yn rhan o'r broses a gafodd gymorth grant. Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd ein bod hefyd yn edrych ar sut y gallwn gyrraedd yr ychydig leoedd fydd ar ôl pan fydd Cyflymu Cymru yn dod i ben yn 2017, gyda buddsoddiad o hyd at £80 miliwn. Felly, bydd hynny’n llywio'r cynllun nesaf, ond yn amlwg mae yna faterion ynglŷn â seilwaith, argaeledd tir—sydd wedyn yn arwain at y siom y clywsoch gan eich etholwyr amdani. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod wedi mynegi hynny heddiw ac rwyf wedi rhoi diweddariad i chi ar y cynnydd yr ydym wedi'i wneud. Felly, byddai siroedd cyfan—Conwy, Gwynedd, Blaenau Gwent, Sir Benfro a Cheredigion—wedi cael eu gadael heb unrhyw fynediad heb yr ymyrraeth, wrth gwrs, gan Cyflymu Cymru.
Rwy’n codi dwy eitem o fusnes. Yn gyntaf, rwy’n galw am ddatganiad yn cydnabod bod ddoe yn dynodi cychwyn degfed Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol y DU, nid er mwyn ailgylchu’r dadleuon yr ydym eisoes wedi eu cael yma ynglŷn â’r ardoll, ond y materion ehangach sy'n cael eu dwyn i'r amlwg. Er enghraifft, mae llawer o elusennau, fel y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, yn siomedig, i’w rhoi yn gwrtais, na fydd prentisiaethau yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth anghenion dysgu newydd arfaethedig fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd. A dangosodd ymchwil newydd gan Centrica, perchennog Nwy Prydain, y byddai bron un o bob dau berson ifanc yn cael eu denu i weithio i gwmni gyda chyfleoedd ar draws y DU, o'u cymharu ag ychydig dros un o bob pedwar person ifanc o Gymru, nad oeddent yn credu bod hynny’n flaenoriaeth iddyn nhw. Er bod mynd i’r brifysgol yn cael ei ystyried o hyd yn ddechrau delfrydol, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn yr arolwg yn credu mai prentisiaethau yw’r man cychwyn gorau i ymgyrraedd at swyddi uwch, mae 90 y cant o brentisiaid Centrica, er enghraifft—rwy'n siwr fod cyfatebiaeth i hynny mewn mannau eraill—yn teimlo eu bod yn fwy parod ar gyfer byd gwaith na ffrindiau a aeth i goleg neu brifysgol.
Yn ail, ac yn olaf, rwyf yn galw am ddatganiad llafar o leiaf, ac yn ddelfrydol drafodaeth gan y Llywodraeth, ar 'Symud Gogledd Cymru Ymlaen', gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer metro’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig i’r gogledd. Rydym wedi bod yn disgwyl am fisoedd lawer iawn i Lywodraeth Cymru roi manylion ei hymateb i'r cynigion a wnaed. Yn lle hynny, datganiad ysgrifenedig yn unig a gawsom ni ddydd Iau diwethaf yn llawn ystrydebau, megis
Bydd moderneiddio trafnidiaeth yn y Gogledd ... yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion lles, ac
Mae cysylltiadau cryf rhwng economi’r gogledd-ddwyrain ac economi gogledd-orllewin Lloegr.
Nid oedd angen i ni gael datganiad i ddweud hynny wrthym. Ac rydym wedi derbyn cyhoeddiadau wedi eu hailgylchu, fel y rhai a gafwyd ar yr uwchgynhadledd bysiau. Er ei fod yn hanfodol bwysig, rydym wedi cael datganiad ar ôl datganiad ar ôl datganiad yn y Siambr, ac rydym wedi clywed y cynigion ar gyfer Glannau Dyfrdwy a Wrecsam sawl tro hefyd.
Yr unig gyfeiriad at weddill y gogledd oedd y drydedd bont dros y Fenai, sydd, mewn gwirionedd, yn ymgynghoriad wedi'i ailgylchu, gan fod argymhellion yr un olaf, naw mlynedd yn ôl, wedi eu hanwybyddu.
Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, mae'n cyfeirio at ddadlau yr achos gyda Llywodraeth y DU dros gyfran decach o gyllid y rheilffyrdd, gan wybod yn iawn fod hynny wedi ei seilio ar y weledigaeth twf ar gyfer y gogledd a Growth Track 360, a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU yn gynnar yr haf diwethaf. Maen nhw yn hanfodol i allu Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nhrydaneiddio’r gogledd a materion eraill, fel y gŵyr y Gweinidog yn dda. Nid yw dweud y byddwch yn edrych ar drefniadau rhanbarthol sy'n gysylltiedig â diwygio’r sector cyhoeddus a Thwf Cynigion wrth iddyn nhw ddatblygu yn ddigon da. Hyd nes y byddwn yn gwybod sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynigion hynny, nid ydym yn gwybod sut y gall hyn fynd yn ei flaen.
Wel, credaf, o ran eich cwestiwn cyntaf, o safbwynt Llywodraeth Cymru, byddwn ond yn rhy falch i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, gan ystyried ein bod ni yn Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu 100,000 o brentisiaethau, hyd yn oed ar yr adeg anodd hon. Mae hyn yn ymwneud â dewis blaenoriaethau y gwyddom eu bod nhw yn cael y math o effaith a ddisgrifiwch mor dda, Mark Isherwood, o ran cyfleoedd i bobl ifanc. Yn wir, roedd yn dda iawn cael clywed, fore Llun rwy’n credu ar 'Good Morning Wales' am unigolyn ifanc a oedd wedi llwyddo i dderbyn prentisiaeth gyda Nwy Prydain, yn hytrach na mynd i brifysgol, a oedd yn opsiwn, neu nid oedd wedi bod yn gymwys. Ond rydym yn gwybod hefyd, o ran y cyfleoedd ar gyfer y cynllun prentisiaethau a ddatblygwyd gennym ni, wrth gwrs, mae wedi cael ei gefnogi gan arian o Ewrop, a siom i ni yw nad ydym yn gwybod sut y byddwn yn gallu defnyddio cyllid hollbwysig o Ewrop o ran sgiliau i symud hyn yn ei flaen yn y dyfodol. Ond bydd y 100,000 o brentisiaethau yr ydym yn eu cyllido yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
O ran symud y gogledd ymlaen, wel, ie, rwy'n siwr y byddech yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth wedi cydnabod, cymeradwyo a chroesawu'r cydweithio da iawn mewn partneriaeth ar draws yr awdurdod lleol yn y gogledd. Mae’r gogledd, wrth gwrs, wedi cael buddsoddiadau hael iawn. Felly, a ydych am i mi eich atgoffa chi eto, Mark Isherwood—rwy'n hapus iawn i wneud hynny—er enghraifft, am y gwaith ar yr A55, sy’n gwella diogelwch a gwydnwch, a gynhaliwyd yn ystod y gaeaf pan fydd llif y traffig ar ei isaf, gan gwblhau’r holl waith ar yr A55 a oedd i’w wneud yng ngolau dydd cyn y Pasg. Mae’n amlwg fod hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn o ran yr effaith yng ngolwg cyngor Conwy. Dyddiad ymchwiliad cyhoeddus i ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd— mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus ar gyfer y ffordd osgoi A487 Caernarfon i Bontnewydd, ac rydym wrthi’n cwblhau’r manylion.
Trydedd pont dros y Fenai—credaf eich bod wedi crybwyll hynny, fel un enghraifft yn unig. Ymrwymiad hirdymor eglur i drydedd pont dros y Fenai. Ac rydym yn ystyried addasiadau posibl i'r bont Britannia bresennol, gan fod hyn yn hanfodol o ran mynediad i Wylfa Newydd. Mae'r ymgynghoriad ynglŷn â choridor Glannau Dyfrdwy [Torri ar draws.] Rwy’n mynd yn fy mlaen, gan eich bod wedi gofyn y cwestiwn i mi—mae’r ymgynghoriad ar brosiect coridor Glannau Dyfrdwy yn dechrau ar 13 Mawrth ac yn para 12 wythnos. Ac wrth edrych ar y materion hollbwysig hynny ynghylch y Fferi Isaf a Llaneurgain, mae hynny'n mynd i gynrychioli buddsoddiad o dros £200 miliwn, ac, wrth gwrs, o safbwynt y rheilffyrdd, bydd y gogledd yn elwa o ganlyniad i hynny ac wrth i ni fwrw ymlaen â gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r gororau ac ymgynghoriadau ynglŷn â metro yn y gogledd a’r de. Felly, welwch chi, roeddech yn croesawu'r uwchgynhadledd bysiau; un agwedd yn unig oedd hynny ar bwysigrwydd y gogledd yng ngolwg Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth.
A fyddai modd i arweinydd y tŷ, neu i’r Llywodraeth, egluro goblygiadau gwaharddiad diweddaraf Trump ar deithio a'i effaith ar drigolion Cymru a'u teuluoedd, drwy ddatganiad ysgrifenedig efallai? Mae'r rhestr o wledydd yn cynnwys Somalia, ac, fel y gŵyr arweinydd y tŷ, mae llawer o bobl o Somalia yn byw yng Nghaerdydd, a’r cyfan bron yn dod o Somaliland. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth egluro a yw'r gwaharddiad yn cynnwys Somaliland, sydd yn gweithredu fel gwlad ar wahân i bob pwrpas, ac, yn amlwg, os ydyw, a oes goblygiadau i drigolion Cymru a'u teuluoedd?
Mae Julie Morgan yn codi cwestiwn hanfodol iawn sydd o bwys mawr i’w hetholwyr a phobl yr ydym yn eu cynrychioli yma yng Nghymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi, gallaf gadarnhau, siarad heddiw â'u cymheiriaid yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Maen nhw wedi cadarnhau bod Somaliland fel arfer yn cael ei thrin gan y gymuned ryngwladol yn rhan annatod o Somalia. Felly mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn disgwyl y bydd y gwaharddiad teithio diweddaraf o du’r Unol Daleithiau yn effeithio ar bob Somaliad fel ei gilydd, gan gynnwys y rhai o Somaliland. Felly yr oedd, yn wir, pan gafwyd y gwaharddiad teithio blaenorol gan yr Unol Daleithiau. Nid oes arwydd ar hyn o bryd am unrhyw wahaniaethu y tro hwn, ond mae ein swyddogion wedi tynnu sylw at y pryderon ymhlith cymuned y Somaliaid yng Nghymru. Rydym wedi gofyn am unrhyw wybodaeth bellach am effaith debygol y gwaharddiad ar Somalia a’r gwledydd eraill sy'n cael eu cynnwys hefyd yn y gwaharddiad diweddaraf, a dylai hyn gael ei fynegi i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd. Fel yn achos y gwaharddiad teithio blaenorol i’r Unol Daleithiau, mae llawer yn aneglur ynghylch y manylion o hyd, ynghylch goblygiadau ymarferol y gwaharddiad, cyhoeddiad diweddaraf Arlywydd Trump. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bryderu’n ddifrifol am y cyfyngiadau sydd i’w gwneud yn weithredol, a byddwn yn gobeithio bod y pryderon hynny yn gyffredin ar draws y Siambr hon. Byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wneud popeth sy’n bosibl i sicrhau nad yw buddiannau na hawliau dinasyddion Cymru yn cael eu niweidio.
Buaswn yn dweud hefyd, yn olaf, bod Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol at argyfwng y ffoaduriaid trwy dderbyn ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio lloches ym mhob rhan o'r wlad bron. Mae gennym ddyletswydd i helpu ac amddiffyn ffoaduriaid ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd hynny o ddifrif. Rydym wedi elwa ar fewnfudo, rydym yn credu bod mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru a’r gymdeithas ehangach, ac rydym yn sefyll mewn undod gyda'n holl bobl, waeth beth fo’u gwlad tarddiad na’u crefydd, a dylai Llywodraeth y DU gynrychioli pob un o'n dinasyddion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y cyhoeddiad am golli 60 swydd yn Gyrfa Cymru? Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth annibynnol am yrfaoedd, cyngor ac arweiniad i rai o bob oed yng Nghymru. Mae'n helpu pobl i wneud penderfyniadau realistig ynglŷn â gyrfa, boed drwy annog addysg bellach, hyfforddiant, datblygu sgiliau neu gyflogaeth. Mae'n destun pryder mawr, felly, fod 60 o swyddi—bron i 10 y cant o'r gweithlu—dan fygythiad oherwydd i Lywodraeth Cymru gwtogi ar ei chyllid. Un o swyddogaethau allweddol Gyrfa Cymru yw cynorthwyo i roi rhaglenni Llywodraeth Cymru ar waith. Yn wir, maen nhw yn gwneud cais ar hyn o bryd i ddarparu rhaglen hyfforddiant cyflogadwyedd a phrentisiaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid bod colli cymaint o swyddi yn bwrw amheuaeth ar allu Gyrfa Cymru i gyflwyno rhaglenni Llywodraeth Cymru yn effeithiol a rhoi cyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr a phobl heb waith. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad ar y mater pwysig hwn yn awr. Diolch.
Wel, rwyf weithiau yn amau o ble tybed y mae Mohammad Asghar yn credu ein bod ni'n mynd i ddod o hyd i'r cyllid, gyda thoriad o £1.8 biliwn a rhagor o gyni i ddod. Ond rwy'n credu bod angen inni edrych ar y cwestiwn difrifol hwn, y cwestiwn pwysig hwn, yn ofalus. Roeddem yn ymwybodol o benderfyniad Gyrfa Cymru i gychwyn ymgynghoriad ar gynllun rhyddhau gwirfoddol. Ac rydym yn gobeithio’n fawr ac yn disgwyl y gall Gyrfa Cymru a'i staff ac undebau llafur gydweithio ar y mater hwn er mwyn gwella a helpu cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth pwysig iawn hwn, sydd, fel y dywedwch chi, yn cynnig canlyniadau pwysig i'n dysgwyr—i ddysgwyr o bob oedran yng Nghymru.
Arweinydd y tŷ, mae'n ymddangos bod tuedd gynyddol gan rai i fwrw amheuaeth ar annibyniaeth ein llysoedd barn, tribiwnlysoedd a chyrff tebyg. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, arweinydd y tŷ, bod effeithiolrwydd y cyrff hyn a'r diogelwch y maen nhw’n ei roi i ddinasyddion yn y wlad hon yn ddibynnol ar bob un ohonom yn parchu’r gwaith annibynnol y maen nhw’n ei wneud, hyd yn oed os nad ydym yn hoffi’r canlyniadau. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud datganiad, felly, sy'n nodi gweithrediad Panel Dyfarnu Cymru, a’i annibyniaeth, fel y gallwn sicrhau nad yw ei uniondeb yn cael ei danseilio ac fel y gall y cyhoedd gael hyder yn y penderfyniadau a wneir ganddo?
Rwyf yn diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn pwysig hwnnw. Tribiwnlys annibynnol yw Panel Dyfarnu Cymru. Ei swyddogaeth yw dyfarnu ar dor-cyfraith honedig gan aelodau etholedig a chyfetholedig o gynghorau sirol, bwrdeistref sirol a chymuned Cymru, awdurdodau tân a pharciau cenedlaethol, yn ôl cod ymddygiad statudol eu hawdurdod. Mae aelodau'r tribiwnlys yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru trwy broses benodi gan farnwyr annibynnol a gynhelir gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Nid oes unrhyw ran i Weinidogion Cymru ym mhenderfyniadau’r tribiwnlys, a wneir gan aelodau’r tribiwnlys ar sail y dystiolaeth ger eu bron.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.