1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Mawrth 2017.
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, er nad yw ein potensial economaidd wedi ei wireddu eto, gallwn eisoes weld bod Cymru yn genedl allforio gref. Y llynedd, roedd gennym warged masnach o £2.2 biliwn gyda'r UE. Roedd ein gwarged yn uwch nag yn 2015, pan oedd yn £1.5 biliwn. Gyda gwledydd y tu allan i'r UE, roedd gennym ddiffyg masnach o £2.3 biliwn, tra bod gan y DU yn ei chyfanrwydd ddiffygion masnach gyda marchnad yr UE a marchnadoedd y tu allan i'r UE. Pa ddyfodol ydych chi’n ei weld i’n gwarged masnach yr UE os byddwn ni’n cael ein tynnu allan o'r farchnad sengl?
Mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod gwerth allforion i Gymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys 2016—£12.3 biliwn, cynnydd o £725 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Wrth gwrs, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud, mae Cymru yn elwa’n aruthrol ar integreiddio presennol gyda marchnad sengl yr UE, gyda mynediad at dros 500 miliwn o gwsmeriaid. Felly, gallai hynny fod yn effaith enfawr, yn amlwg, o ran y rhagolygon o ran sut yr ydym ni’n ymadael a sut yr ydym ni’n gwneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.
Mae Plaid Cymru yn rhagweld dyfodol anodd i’r allforwyr hynny sy'n dibynnu ar y farchnad sengl. Mae gennym ni rai yn Llywodraeth y DU yn sôn erbyn hyn am adael yr UE heb unrhyw gytundeb o gwbl, a fydd yn golygu rheolau Sefydliad Masnach y Byd i bob pwrpas. Dyna fyddai'r math caletaf posibl o Brexit. Gallai arwain at dariffau yn y dyfodol a rhwystrau eraill. Ac ar yr ochr gymdeithasol ac amgylcheddol, gallai arwain at ddadreoleiddio a gostwng safonau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi bellach y bydd y llythyr erthygl 50 yn cael ei anfon yn ddiweddarach y mis hwn. Mae hynny'n golygu bod ffenestr o gyfle, ffenestr lle gellir cael rhywfaint o ddylanwad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn awyddus i Lywodraeth y DU ymgynghori â hi. Tybed a allwch chi ddweud wrthym: a ydych chi wedi cael unrhyw ymgynghoriad eto? A beth yw goblygiadau Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r llythyr erthygl 50 hwnnw heb ymgynghori’n llawn â Chymru o ran ei gynnwys?
Yn amlwg, rydym ni eisiau proses erthygl 50 sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru o fewn fframwaith trafod ehangach y DU ac, a dweud y gwir, cyflwynwyd ynghyd â Phlaid Cymru safbwynt Llywodraeth Cymru sydd wedi ei nodi’n gynhwysfawr yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru' ar sail y chwe phwynt hynny, gan gynnwys parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a sicrhau nad yw Cymru yn colli yr un geiniog o gyllid o ganlyniad i adael yr UE. Felly, rydym ni’n sicr yn dymuno cael ymgynghoriad ar unrhyw lythyr erthygl 50 cyn ei gyhoeddi, ac yn disgwyl y bydd hynny’n digwydd. Gwnaeth y Prif Weinidog hi’n eglur iawn i Lywodraeth y DU y byddai unrhyw beth llai na hynny yn gwbl anghydnaws â'r dull a gytunwyd rhyngddynt yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar ôl canlyniad y refferendwm. Rydym ni, fel y gwyddoch, wedi anfon copi gyda’n gilydd o'n Papur Gwyn i'r Comisiwn Ewropeaidd.
Mae'n eithaf eglur beth mae eich Llywodraeth chi ei eisiau. Yr hyn nad yw’n eglur yw’r hyn y byddwch yn ei wneud os na fyddwch chi’n ei gael. Ddoe, gwelsom sut y bydd cam-drafod Brexit yn arwain at refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban. Gallai’r refferendwm hwnnw roi terfyn ar y Deyrnas Unedig. Gallai’r wladwriaeth, fel yr ydym yn ei hadnabod, beidio â bodoli mwyach, a byddai hynny'n newid radical i Gymru. Ond byddai hefyd yn creu’r cyfle i fod yn fwy beiddgar, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy hyderus am ein dyfodol ein hunain, ac rwy’n amau y gallai fod pobl yn y Siambr hon hyd yn oed a gefnogodd ymgyrch ‘Na’ yr Alban y tro diwethaf a fyddai’n teimlo'n llai cyfforddus yn gwneud hynny nawr. Arweinydd y tŷ, roedd diffyg manylion yn natganiad y Prif Weinidog ddoe ar refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Nid oedd yn dweud fawr ddim am ddyfodol Cymru. A allwch chi ychwanegu mwy o fanylion ar ble’r ydych chi’n gweld y Llywodraeth yn mynd â Chymru dros y ddwy flynedd nesaf? Beth yw eich gweledigaeth? A pha gynlluniau y mae’n rhaid i’ch Llywodraeth eu rhoi ar waith ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ac economaidd y wlad hon?
Dychwelaf at eich ail gwestiwn ynghylch ymgysylltu a dylanwad o ran y llythyr erthygl 50, a dim ond i ddweud mai’r pwynt y byddwn i’n ei wneud ac y byddai'r Prif Weinidog yn ei wneud yw bod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod sicrhau dyfodol Cymru a chyflawniad hynny o ganlyniad i gefnogaeth ar draws y Siambr hon, yn enwedig fel cyd-lofnodwyr y Papur Gwyn hwnnw, a’n bod yn defnyddio ein dylanwad i ddweud beth yr ydym ni’n ei ddisgwyl o ran ymgysylltu ar y llythyr erthygl 50 hwnnw.
Wrth gwrs, o ran eich trydydd cwestiwn, mae’n iawn bod dyfodol cyfansoddiadol yr Alban yn cael ei benderfynu gan bobl yr Alban. Rydym ni’n eglur ein bod ni’n credu bod y DU yn parhau i fod yn well gyda'i gilydd, a'r llynedd, etholwyd Llafur Cymru ar sail neges o undod. Dyna yw ein harwyddair o hyd i'r Llywodraeth hon. Ond rwy’n meddwl mai’r pwynt pwysig i ni heddiw, fel plaid ac fel Llywodraeth, yw ein bod ni’n dal i fod wedi ymrwymo i’r undeb ac i'r broses cydbwyllgor Gweinidogion parhaus yn ymwneud â gadael yr UE. Yn wir, mae'r Albanwyr yn dweud nad oes ganddynt unrhyw fwriad o adael y cydbwyllgor lle mae gennym ni achos cyffredin ar nifer o faterion o ran ein trafodaethau ar adael yr UE.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, bydd llawer ohonom ni wedi gweld yn y cyfryngau dros yr wythnos ddiwethaf y delweddau brawychus o gamddefnyddio cyffuriau, gyda phobl yn anymwybodol mewn mannau cyhoeddus, a ni all rhywun ond teimlo llawer iawn o gydymdeimlad â’r unigolion sydd wedi disgyn mor isel ag i fod yn y sefyllfa honno, a bod yr un mor awyddus i wneud yn siŵr bod cynifer o fesurau diogelu â phosibl yn cael eu cyflwyno i geisio datrys y problemau sydd gan bobl yn eu bywydau sydd wedi eu harwain i’r sefyllfa drasig dros ben hon. Yn anffodus, mae llawer o’r sylw hwnnw yn y cyfryngau wedi rhoi darlun negyddol iawn o dref benodol yng Nghymru, delwedd na fydd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ei hadnabod o'n hymweliadau â’r dref honno, ond mae'n ffaith bod y delweddau hynny wedi bod yn y cyfryngau cenedlaethol.
Heddiw, mae gennym ni Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn galw am gyfreithloni cyffuriau fel ateb i'r mater hwn. Ar yr ochr hon i'r tŷ, yn sicr nid ydym yn credu bod hynny'n wir, ond byddwn yn ddiolchgar, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ yn ymateb ar ran y Prif Weinidog heddiw, pe gallech roi ymateb y Llywodraeth i ni ar ba gamau yr ydych chi’n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru, o gofio eich bod chi wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf rhwng y comisiynydd heddlu a throseddu, chi eich hunain ac asiantaethau eraill i geisio mynd i'r afael â rhai o'r diffygion yn y maes penodol hwn.
Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, os edrychwn ni ar y gogledd yn benodol, bod Llywodraeth Cymru yn darparu dros £4.9 miliwn o'r gronfa gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau i fwrdd cynllunio ardal gogledd Cymru. Diben hynny yw comisiynu amrywiaeth o wasanaethau a arweinir gan anghenion a ddarperir gan y darparwyr yn y rhanbarth hwnnw. Rwy’n meddwl, o ran y mater o geriach a gwelededd presennol unigolion â phroblemau camddefnyddio sylweddau yng nghanol y dref, yn amlwg, bu’n rhaid i hynny arwain, fel y mae, at ddull amlasiantaeth. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, Heddlu Gogledd Cymru, y comisiynydd heddlu a throseddu, awdurdod lleol Wrecsam a sefydliadau’r sector gwirfoddol.
Roeddwn i wedi gobeithio, gyda'r amser sydd wedi mynd heibio ers rhedeg y stori wreiddiol hon tua 10 diwrnod yn ôl, efallai y byddem ni wedi cael ateb llawnach gan arweinydd y tŷ, o ystyried y pwyntiau a godais. Oherwydd cyflwynodd Llywodraeth Cymru, yn 2008, strategaeth, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', ac o'r hyn a welwn yn y mathau hyn o ddelweddau, mae’n amlwg nad yw’r strategaeth honno, o'r hyn y gallaf ei weld, yn gweithio. Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnal o’r strategaeth hon a'r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol, i’r heddluoedd yma, y comisiynydd heddlu a throseddu ac asiantaethau cymorth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, i roi sylw i’r materion hyn sy'n digwydd ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, ar y strydoedd mewn trefi a phentrefi ledled Cymru, sy’n crefu am ateb a chymorth gan Lywodraeth ganolog yn y fan yma—Llywodraeth Cymru? Yn arbennig, mae’r strategaeth hon wedi bod ar waith gennych ers 10 mlynedd ac mae’n dechrau cyrraedd y diwedd erbyn hyn, ac eto, rydym ni’n gweld y delweddau erchyll hyn a ddangoswyd ar y cyfryngau sy'n digwydd mewn mannau cyhoeddus y funud hon.
Wrth gwrs, rwyf wedi nodi ein buddsoddiad yn y gronfa gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau ac mae hynny ar gael i'r rheini sy'n darparu ar lawr gwlad—bwrdd cynllunio ardal gogledd Cymru. Ond hoffwn ddweud hefyd, pan maen nhw wedi dod at ei gilydd i edrych yn benodol ar y materion mwyaf diweddar, maen nhw wedi datblygu cynllun gweithredu canol tref cynhwysfawr. Mae'n cynnwys nifer o gamau gweithredu. Mae'n rhaid iddo ymwneud ag anghenion ac amgylchiadau sy'n newid yn gyson o ran camddefnyddio sylweddau, ond ceir nifer o brosiectau arfaethedig wedi’u cydgysylltu gan Cais trwy ganolfan wella Champions’ House a mannau problemus a nodwyd hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gwaith glanhau wedi digwydd. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n cydnabod bod hyn yn ymwneud â'r camddefnyddio sylweddau y mae angen i ni ei ystyried o ran arfer gorau, a dyna lle mae'r cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau mor berthnasol.
Arweinydd y tŷ, mae Andrew Atkinson, sef cadeirydd grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, wedi nodi ei bod yn ymddangos bod pawb yn rhoi’r bai ar bawb arall, yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem. Clywais oddi ar eu heistedd ar yr ochr arall, gan genedlaetholwyr Cymru, eu bod yn credu bod cyfreithloni cyffuriau yn ddewis synhwyrol yma. O'r ochr hon o'r tŷ, nid ydym yn credu yn sicr bod cyfreithloni cyffuriau yn rhan o'r ateb. Ac, yn benodol, pan welwch chi fod y marwolaethau o gyffuriau wedi dyblu ers 2012, a bod 114,000 wedi marw y llynedd, mae’n amlwg nad dyna’r ffordd i ddatrys y broblem hon. Yr hyn yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mae llawer o fwmian yn dod o’r ochr arall i’r tŷ. [Torri ar draws.] Gan y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, mae’n amlwg nawr bod angen i weithgor gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ddod â’r elusennau, y cyrff iechyd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru at ei gilydd i wneud yn siŵr y gallwn gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r mater hwn, yn enwedig yn Wrecsam, lle mae'n ymddangos bod diwylliant o fwrw bai yn datblygu, yn hytrach na'r gallu i fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn y mae llawer o'r bobl hyn yn ei wynebu, a'r drasiedi bod eu bywydau wedi mynd allan o reolaeth. Yn y pen draw, maen nhw angen cymorth y Llywodraeth yn gweithio gyda chyrff a noddir i roi'r mesurau ar waith. A gaf i gadarnhau y byddwch chi’n gwneud hynny?
Rwyf wedi nodi nid yn unig yn ein strategaeth, ei diweddaru, a’r buddsoddiad, ond byddwn yn gobeithio hefyd bod Andrew R.T. Davies hefyd yn siarad â'r cynghorwyr Ceidwadol yn Wrecsam, a’r cynghorwyr annibynnol yn wir, sydd ar flaen y gad o ran cyfrifoldeb am hyn, ond gyda’n cymorth ni a chyda chymorth y panel amlasiantaeth hwnnw a'r cynllun gweithredu y maen nhw wedi ei lunio.
Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld nad oedd cyllideb yr wythnos diwethaf yn llwyddiant ysgubol i’r Canghellor nac i'r Llywodraeth. A ydy hi a Llywodraeth Cymru yn dysgu unrhyw wersi o'r profiad hwnnw, gyda golwg ar sut y maen nhw’n mynd i arfer y pwerau amrywio trethi yr ydym ni ar fin eu cael o dan Ddeddf Cymru 2017?
Wel, rwy’n meddwl, o ran cyllideb yr wythnos ddiwethaf—rwy’n credu iddi gael ei disgrifio fel y gyllideb 'omNICshambles', cyllideb yn sicr sydd wedi taro pobl hunangyflogedig yn galed iawn gyda chynnydd o £2 biliwn i gyfraniadau yswiriant gwladol. Ac mae hynny’n effeithio ar lawer o bobl yr ydym ni’n siarad amdanynt, ac mae'r FSB yn siarad amdanynt, o ran pobl hunangyflogedig sy'n cymryd risgiau, gan arwain twf a chynhyrchiant yn yr economi. Felly, nid oes angen unrhyw wersi arnom ni. Mae Llywodraeth y DU a 'Spreadsheet Phil' angen gwersi gennym ni, a chan ein Hysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol byddwn i’n dweud, oherwydd, mae'r cyllid ychwanegol—[Torri ar draws.] A gaf i ddweud, rydych chi wedi gofyn y cwestiwn i mi, Neil Hamilton—?
Gadewch i ni wrando ar arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda.
Nid yw'r cyllid ychwanegol yn newid maint y gostyngiadau i wariant yr ydym ni’n eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Er gwaethaf yr ychwanegiadau bach, bydd ein cyllideb gyfalaf yn 2019-20 yn dal i fod 11 y cant yn is mewn termau real nag yn 2010-11, a bydd ein cyllideb refeniw yn dal i fod 8 y cant yn is.
Gyda phob parch, nid atebodd arweinydd y tŷ fy nghwestiwn. Yr hyn yr oeddwn i’n awyddus i’w ddarganfod oedd pa un a yw'n ei gwneud yn fwy neu'n llai tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i amrywio cyfraddau treth incwm, eu codi yn hytrach na’u gostwng, neu i'r gwrthwyneb. Ceir llawer o dystiolaeth economaidd i ddangos y gall cyfraddau treth is gynhyrchu refeniw treth uwch. Yn y 1980au, pan ostyngwyd trethi gan Nigel Lawson, dyna oedd yr effaith. Ym 1979, talodd yr 1 y cant uchaf o enillwyr 11 y cant o'r holl refeniw treth. Erbyn 1997, talwyd 21 y cant ganddynt, er gwaethaf y ffaith fod y gyfradd uchaf o dreth incwm wedi ei gostwng o 83 y cant yn y bunt i 40 y cant. Felly, onid yw'n synhwyrol i Lywodraeth Cymru feddwl yn nhermau gwneud Cymru yn rhyw fath o hafan treth o fewn y Deyrnas Unedig?
Wyddoch chi, nid wyf yn meddwl y byddem ni’n disgwyl unrhyw beth gwahanol gan arweinydd UKIP. Byddwn wedi gobeithio y byddai arweinydd UKIP yn ystyried effaith cyllideb y Canghellor yr wythnos diwethaf, yr effaith ar y bobl yr ydym ni’n eu cynrychioli, effaith y ffaith fod y tro yng nghynffon y gyllideb honno a'r rhagolygon yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud toriad o £3.5 biliwn ar gyfer 2019-20, a allai olygu tynnu £175 miliwn arall allan o gyllideb Llywodraeth Cymru. Dyna’r hyn yr wyf i’n pryderu amdano ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ystyried hynny o ran goblygiadau’r gyllideb hon, nid yn unig i bobl hunangyflogedig, ond i rai o'r bobl dlotaf yng Nghymru. Bydd yr hyn yr ydym ni’n ei wario fesul pen o'r boblogaeth yn gostwng gan 4 y cant mewn termau real dros gyfnod rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Gyda phob parch, rhoddaf gynnig arall arni. Nid wyf wedi cael ateb i fy nghwestiwn o hyd. A yw arweinydd y tŷ yn derbyn y gall cyfraddau treth is gynhyrchu refeniw treth uwch? Os felly, mae pawb yn ennill.
Wel, cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, rydym ni’n cymryd cyfrifoldeb ac, yn wir, mae gennym ni ein cyfrifoldebau yr ydym ni’n bwrw ymlaen â nhw mewn deddfwriaeth nawr o ran y trethi datganoledig sydd ar eu ffordd, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ddadl ar hyn yn ystod y pythefnos nesaf. Ond rwy'n credu bod angen i ni gydnabod, ac rwy’n gobeithio fod Neil Hamilton yn cydnabod, effaith niweidiol y penderfyniadau a wnaed yr wythnos diwethaf gan 'Spreadsheet Phil' lle gwnaeth smonach o’i gyllideb gyntaf, a chydnabod hefyd y ffaith fod hynny’n wael, y ffaith ei fod yn tanseilio eu cenhadaeth o hyrwyddo'r DU fel lle i ddechrau busnes newydd ynddo.
Cwestiwn 3, Adam Price.