– Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
Rwyf wedi derbyn pedwar cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Dawn Bowden i ofyn y cwestiwn brys cyntaf—Dawn Bowden.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus? EAQ(5)0118(ERA)
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cyfarfu Llywodraeth Cymru â rapporteur arbennig ar hawliau dynol a sylweddau peryglus a gwastraff ar 24 Ionawr. Cafodd ei ganfyddiadau a’i argymhellion cychwynnol eu cyflwyno mewn datganiad terfynol ar 31 Ionawr, a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i gyngor hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig ym mis Medi eleni.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn i’r newyddion hyn gyrraedd ddydd Gwener, roeddwn eisoes wedi cwrdd â rhai o'r trigolion lleol, protestwyr a chyngor Merthyr. Roeddwn hefyd wedi ymweld â’r safle yn Ffos-y-fran, gan gynnwys cael cyfarfod hirfaith gyda'r rhai sy’n ei redeg. Felly, roeddwn eisoes yn ymwybodol iawn o'r pryderon ynglŷn â’r gwaith yno, ac rwyf am beth amser wedi ceisio sicrhad ynglŷn â nifer o faterion amgylchedd ac iechyd. Fodd bynnag, nid oeddwn yn ymwybodol fod cynrychiolydd o’r Cenhedloedd Unedig yn ymweld â'r ardal, gan gyfarfod â thrigolion lleol, a’i fod yn bwriadu gwneud datganiad cyhoeddus.
Mae’n iawn wrth gwrs fod y rapporteur yn ymgymryd â pha astudiaethau bynnag y mae’n eu hystyried yn gymwys. Ond roeddwn yn synnu braidd ei fod, mae’n ymddangos, wedi gwneud datganiadau i'r cyfryngau heb gynnal trafodaethau manwl â'r cyrff hynny sydd yn cael eu beirniadu yn ei adroddiad. Ac ni cheisiodd gynnal trafodaethau â'r cynrychiolwyr etholedig lleol, naill ai yn y cyngor, gyda mi fel yr AC, neu gyda’m cydweithiwr Gerald Jones yr AS cyn iddo gyflwyno ei adroddiad, er mwyn sicrhau golwg ehangach ar y camau a gymerwyd.
Ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf ei bod, mae’n debyg, yn anodd i mi fod â barn ddeallus ar gasgliadau'r rapporteur. Ond byddwn wrth gwrs yn croesawu unrhyw alwad ddilys am ymchwiliad i unrhyw effaith bosibl ar iechyd oherwydd gwaith Ffos-y-fran os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod hynny yn angenrheidiol.
Serch hynny, mae un maes arbennig yn yr adroddiad lle’r wyf yn rhannu ei bryder yn gyfan gwbl, sef diogelu safonau iechyd y cyhoedd a gwarchod yr amgylchedd i’r dyfodol yn y DU ar ôl Brexit. Os ydych wedi gweld yr adroddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod ei fod yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei rwymedigaethau i hawliau dynol o ran llygredd aer, amddiffyn hawliau plant, menywod beichiog, yr henoed a'r rhai gwael eu hiechyd, sydd yn arbennig o agored i niwed gan gemegau gwenwynig, wrth ddatblygu'r cynllun newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng llygredd aer hwn.
Felly, a wnewch chi fy sicrhau i, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig i ystyried unrhyw bryderon a ddaeth i’r amlwg yn yr adroddiad hwn mewn cysylltiad â Ffos-y-fran yn arbennig, ond hefyd, yn fwy cyffredinol, â’r rhai sy’n ymwneud â hawliau dynol o ran amddiffyn yr amgylchedd, yn awr ac wedi Brexit hefyd?
Yr ateb byr iawn i'ch cwestiwn yw 'gwnaf'. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon hynny. Rwyf yn ymwybodol fod y Gweinidog wedi cyfarfod â'r rapporteur, ac yn sicr mae ei farn ef yn unigryw. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon yr hoffai eu codi yn benodol am Ffos-y-fran, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog gan hynny yn croesawu llythyr gan yr Aelod.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ychwanegol at yr hyn ddywedodd fy nghydweithiwr yma, mae’r trigolion sy'n byw gerllaw gwaith glo brig Ffos-y-fran wedi ymgyrchu'n hir yn erbyn llygredd aer a sŵn. Ceir tystiolaeth anecdotaidd o gyfraddau uchel iawn o asthma plentyndod a chlystyrau canser o fewn y gymuned. Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau, Weinidog, pe byddech mor garedig ag ateb. Os nad oes ymchwiliad annibynnol, pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro effaith bosibl y gwaith glo brig hwn ar iechyd y gymuned, ac a fyddan nhw yn comisiynu eu hastudiaeth eu hunain?
Yr ail yw: mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gorfodi bod llain glustogi o 500m rhwng gweithfeydd glo brig newydd yng Nghymru a'r gymuned o'u cwmpas. Rwyf yn cofio mewn sesiynau blaenorol o’r Cynulliad bod Bethan Jenkins wedi codi’r pwynt hwn yn ei hardal hi. Cytunwyd ar lawer pwynt mewn gwirionedd gan y Cynulliad na ddylai gweithfeydd glo brig fod yn agos at dai lle mae pobl yn byw, ac eto i gyd dim ond 40m yn unig sydd rhwng y tai agosaf at Ffos-y-fran a’r gwaith mwyngloddio, sydd yn groes i’n cyfreithiau a’n rheolau yma. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y dylai’r trigolion fod yn deilwng o ryw fath o iawndal am yr aflonyddwch y maen nhw wedi eu gorfodi i’w ddioddef yn yr achos hwn?
A'r cwestiwn arall yw hwn: pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael yn y gorffennol, a pha drafodaethau y maen nhw yn bwriadu eu cael, gyda Miller Argent, y cwmni mwyngloddio, ynglŷn â negyddu effaith eu gwaith cloddio ar y gymuned leol?
Yn olaf, Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a rhoi datganiad i'r Cynulliad hwn yn y dyfodol agos, gydag unrhyw newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud i reoliadau cynllunio ar safleoedd glo brig yng Nghymru? Diolch.
Rwy'n ymwybodol iawn o'r materion emosiynol sydd ynghlwm â chloddio am lo brig. Rhoddwyd caniatâd am safle Ffos-y-fran ym mis Ebrill 2005. Roedd wedyn yn rhwym i asesiad effaith amgylcheddol. Roedd hyn yn golygu bod yr holl faterion perthnasol, gan gynnwys yr effeithiau cynyddol, a'r rhai oedd yn ymwneud ag iechyd, yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae’r adroddiad y mae’r Aelod yn sôn amdano i’w gyflwyno i gyngor hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, ac nid i ni. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog pan ddaw yn ei hôl i roi ystyriaeth i hyn, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu at yr Aelodau yn unol â'i barn.
Yn gyntaf, credaf ei bod yn rhaid i mi ddweud bod ymateb Miller Argent i'r adroddiad hwn yn un sarhaus ac yn tanseilio difrifoldeb y sefyllfa. Mae disgrifio hyn yn 'ffug newyddion'—adroddiad gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig—yn atgas, a dweud y gwir, ac yn warthus o ystyried bod y gymuned leol wedi bod yn codi'r pryderon hyn ers peth amser. Rwyf hefyd yn bryderus iawn fod cyngor sirol Merthyr wedi ymateb drwy ddiystyru pryderon dilys a phrofiadau beunyddiol y trigolion yn
‘sylwadau cyfyng a di-sail gan rai aelodau o'r gymuned.
Felly, yn gyntaf, byddwn yn gofyn i chi yma heddiw: a ydych yn barod i ymuno â mi i gondemnio’r union sylwadau hynny, o ystyried nad yw'r rhain yn ddi-sail a’u bod yn safbwyntiau a godwyd gyda chi pan oeddech yn Gyn-weinidog dros yr amgylchedd yn y Cynulliad hwn? Hoffwn ddeall hefyd ble mae eich cynlluniau yn awr o ran y trafodaethau adfer a gawsoch yn eich swydd flaenorol fel Gweinidog. Cymerodd llawer ohonom ni ran yn hynny. Ble maen nhw arni? Mae adfer yn Ffos-y-fran yn dameidiog iawn yn hytrach na bod yn adeiladol ac yn hirdymor, a hoffem ddeall sut mae hynny’n mynd.
Rwyf wedi codi pryderon hefyd am y MTAN glo a'r ffaith nad yw'n ddigon cadarn. Mae angen ei ddiwygio a’i newid. Mae angen ei roi mewn deddfwriaeth. Allwch chi ymrwymo, os yw’r rapporteur hwn o’r Cenhedloedd Unedig i’w gymryd o ddifrif, eich bod hi fel Llywodraeth yn ceisio gwneud eich gorau glas i sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion hyn, fel na chaiff ceisiadau cloddio glo brig yn y dyfodol eu trin yn yr un ffordd, a bod y rhai mewn ardaloedd fel Pwll y Dwyrain yng Nghwmllynfell a Margam hefyd yn cael eu trin yn yr un modd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel arfer, mae ganddi farn gref iawn am gloddio glo brig. Mae'r Llywodraeth hon yn rhoi ystyriaeth ddwys iawn i’r goblygiadau iechyd ac amodau cynllunio a gyflwynir ym mhob un o'n cymunedau. Mae hefyd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny yn y nodiadau cyngor technegol a chanllawiau cynllunio a roddwn i awdurdodau cynllunio. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod unrhyw sylw gan y rapporteur arbennig yn cael ei wneud ar sail tystiolaeth. Bydd gennyf ddiddordeb mawr i weld manylion y cynllun hwnnw a'i gyflwyniad gorffenedig.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd y Gweinidog dros gynllunio yn mynegi barn ar y MTAN 2 a'r trafodaethau dilynol a gynhaliwyd ynglŷn â’r trafodion am gynnwys MTAN 2. Byddaf yn gofyn iddi ymateb yn uniongyrchol i chi ar y mater hwnnw. Nid fi yw'r Gweinidog dros gynllunio bellach o ran hynny.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.