<p>Cyfleusterau Iechyd Meddwl Amenedigol i Gleifion Mewnol</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

10. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailagor cyfleusterau iechyd meddwl amenedigol i gleifion mewn ysbytai? OAQ(5)0526(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mater i'r byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw'r penderfyniad ar yr uned iechyd meddwl amenedigol ar gyfer cleifion mewnol. Ond ers 2016, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.5 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i bob BILl ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn y gymuned.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael y cyfle i glywed profiadau mamau yng Nghymru sydd wedi bod yn ddigon dewr i siarad am eu profiadau unigol, fel Charlotte Harding o Gaerdydd, y cymerodd ei gŵr ddwy flynedd i ffwrdd o'r gwaith i ofalu amdani hi a’u dau fachgen ar ôl datblygu seicosis ôl-enedigol. Rwyf wedi defnyddio meini prawf Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y sefyllfa bresennol yn y wlad hon, yn seiliedig ar yr wybodaeth yr wyf wedi ei chael gan BILl, ac nid ydynt yn bodloni meini prawf y Llywodraeth ei hun. Rydym ni’n gwybod ei fod yn mynd i gostio mwy i anfon mamau o Gymru i ganolfannau cleifion mewnol yn Lloegr nag y byddai wedi ei gostio i gadw'r cyfleusterau hyn ar agor yng Nghymru ac rydym ni’n gwybod bod darpariaeth gymunedol yn anghyson. Ond gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, a gaf i ymbil ar y Prif Weinidog i roi’r mater hwn, fel mater o frys, ar frig ei agenda fel nad yw mamau yng Nghymru yn wynebu'r dewis o gael eu gwahanu oddi wrth eu babanod newydd-anedig neu eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd neu, yn waeth fyth, ddim yn cael y cyfleusterau iechyd meddwl y maen nhw’n eu haeddu yn eu gwlad eu hunain?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i esbonio'r sefyllfa? Yn y tair blynedd diwethaf, derbyniwyd llai na phump o fenywod i uned cleifion mewnol yng Nghymru. Dyna'r broblem. Y broblem wedyn, wrth gwrs, yw na allwch chi redeg uned arbenigol gyda’r niferoedd hynny. Ni ellir ei wneud. Ni fydd unrhyw gorff achredu yn caniatáu i chi redeg uned arbenigol ar y sail honno. Ni all fod yn uned arbenigol gyda’r niferoedd hynny. Rwy’n cytuno ag ef am ddifrifoldeb y cyflwr. Rwy’n cytuno ag ef am beidio â gwahanu mamau oddi wrth fabanod, a dyna pam yr ydym ni’n rhoi'r cyllid ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned er mwyn sicrhau nad oes rhaid i bobl fod yn gleifion mewnol. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ysbyty, mae'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan wneud yn siŵr bod y gefnogaeth ganddyn nhw yn y gymuned, yn hytrach na cheisio cadw gwasanaeth ar agor yr oedd yn amlwg nad oedd fawr o ddefnydd arno—ac, o ganlyniad i hynny, roedd problem o ran iddi barhau fel uned arbenigol.