<p>Grŵp 13: Adolygiad Annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir (Gwelliant 31)</p>

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:07, 28 Mawrth 2017

Grŵp 13 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma yn ymwneud ag adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir. Gwelliant 31 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp yma. Rwy’n galw ar Steffan Lewis i gynnig ei welliant.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Steffan Lewis).

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 5:07, 28 Mawrth 2017

Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno adran newydd i’r Bil, sy’n gosod disgwyliad ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth a bod yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau o fewn chwe blynedd o’r dyddiad y daw’r dreth i rym. Mae’r gwelliant hefyd yn gosod disgwyliad y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i gasgliadau’r adolygiad annibynnol.

Mae yna gynsail i gynnal adolygiad ar weithrediad Deddf Cymru ac, yn wir, erbyn hyn, mae hi bron yn arfer i gynnal adolygiad yn weddol fuan ar ôl i Ddeddf ddod i rym yn llawn. Yn yr achos yma, lle mae’r Ddeddf yn cyflwyno pwerau trethiant i Lywodraeth Cymru, mae’n hollbwysig bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn gwerthuso ei gweithrediad ac er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ei phwrpas yn effeithiol. Mae’r gwelliant yn datblygu, felly, ar welliant a gyflwynwyd gennyf yn ystod Cyfnod 2 ac yn gosod gorfodaeth ar Lywodraeth i ymateb i adroddiad yr adolygiad annibynnol. O gydnabod bod angen edrych ar sut mae’r dreth yn gweithredu dros fwy nag un flwyddyn ar gyfer unrhyw werthusiad pwrpasol, teimlaf fod cyfnod o chwe blynedd yn caniatáu digon o amser i’r dreth sefydlu’n iawn ac yn rhoi digon o amser ar gyfer gwerthusiad trylwyr ohoni.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:08, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch i Steffan Lewis am ei welliant. O leiaf yn y cyfieithiad Saesneg o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, y cyfeiriad oedd at ddisgwyliad ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu'r adroddiad, disgwyliad arnynt i gyhoeddi'r adroddiad, ond yna gofyniad i ymateb, ond, o leiaf yn fersiwn Saesneg y gwelliant, rwy’n deall bod pob un ohonynt yn orfodol. Mae hynny ychydig yn fwy na disgwyliad.

Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fe wnes i gefnogi nifer o welliannau Steffan yn ystod y cam pwyllgor, gan gynnwys un neu ddau nad oedd ef ei hun yn eu cefnogi ar y pryd. Ond rwy'n credu mai mater i'r Pwyllgor Cyllid yw hyn. Nid yw dweud, ‘A dweud y gwir, nid yw hwn yn fater i’r Cynulliad, bydd comisiwn annibynnol a dylai’r Gweinidogion gael pwysigion y genedl Gymreig i ddweud wrthym beth i'w wneud,’ y dull cywir yn fy marn i. Rydym yn mynd i gael treth trafodiad tir, rydym yn mynd i gael trethi busnes, rydym yn mynd i gael y dreth gyngor; rydym yn mynd i gael y gyfres hon o drethi, ac rwy'n falch am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud wrth y pwyllgor a'r hyn y mae ein Cadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei wneud. Mae'n ymddangos bod cydweithio da â'r Llywodraeth wrth edrych ar beth yw’r mecanwaith priodol ar gyfer adolygu trethi yn y dyfodol, ac ar gyfer gweld sut maent yn gweithio ac o bosibl yn rhyngweithio â'i gilydd, ac rwy’n credu ei fod yn iawn i’r Pwyllgor Cyllid arwain ac adrodd fel y bo'n briodol i'r Cynulliad hwn, yn hytrach na dirprwyo ein tasg i'r pwyllgor hwn fel yr awgrymir yn y gwelliant hwn.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Wel, mewn trafodaethau blaenorol am y Mesur, rwyf i wedi bod yn hapus i gytuno â’r egwyddor y dylai gweithrediad y dreth trafodiadau tir gael ei fonitro a'i adolygu. Rwyf wedi ymrwymo i fonitro cyflwyniad trefniadau rhyddhad newydd ac effaith y gordal ar eiddo preswyl ychwanegol. Cytunais hefyd y prynhawn yma y dylem ni barhau i adolygu pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i gyflwyno trethi newydd sy'n fwy addas i Gymru. Fy nealltwriaeth i o welliant 31 yw y bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir, y bydd yn rhaid ei gwblhau o fewn chwe blynedd i roi’r dreth ar waith ym mis Ebrill 2018. Gallai hyn gynnwys adolygiad o weithrediad y dreth trafodiadau tir neu unrhyw elfen benodol o’r dreth honno, megis y gordal. Gallai hefyd gwmpasu unrhyw newidiadau neu ddulliau amgen i'r dreth yn fwy cyffredinol. Credaf fod cwmpas yr adolygiad yn ddigon eang i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn canolbwyntio ar faterion sy'n peri’r pryder mwyaf. Rwyf hefyd yn falch o gydnabod pwysigrwydd sicrhau y dylai adolygiad o'r fath fod yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Rwy'n credu bod yr amseru a gynigir yn y gwelliant yn ddigonol i ganiatáu i gyfnod fynd heibio pan fo’r dreth wedi bod ar waith i allu cynnal adolygiad synhwyrol. Byddai'r adolygiad o’r dreth trafodiadau tir felly hefyd yn ategu ymrwymiad presennol i ddechrau adolygiad o benderfyniadau dirprwyaeth Awdurdod Cyllid Cymru dair i bum mlynedd ar ôl i’r dreth ddod i rym ym mis Ebrill 2018.

Llywydd, rwy'n disgwyl y bydd gan y Pwyllgor Cyllid ei fuddiannau ei hun yn y materion hyn a’i fod yn debygol o wneud hynny yn gynt na'r cyfnod a nodir yn y gwelliant hwn. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthdaro rhwng yr hyn a gynigir yma a'r cyfrifoldebau y bydd y Pwyllgor Cyllid ei hun yn dymuno eu cyflawni. Ar sail yr hyn yr wyf wedi’i egluro, byddaf yn gofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:12, 28 Mawrth 2017

Galwaf ar Steffan Lewis i ymateb i’r ddadl.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

Jest yn fyr iawn i ddweud nad oes gen i gopi Saesneg o’r gwelliant ger fy mron, ond rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi tanlinellu yn gymwys bwrpas y gwelliant, a dweud, wrth gwrs, nad oes yna ddim byd yn y gwelliant yma sydd yn cynnig unrhyw waharddiad ar unrhyw bwyllgor mewn unrhyw Senedd yn unrhyw le rhag gwneud adolygiad pryd bynnag y mae eisiau ar y dreth yma o gwbl.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Dim ond eistedd i lawr wnes i.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

O, rwy'n credu eich bod newydd ei golli. [Chwerthin.]

The question is that amendment 31 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] We therefore proceed to an electronic vote on amendment 31. Open the vote. Close the vote. In favour 37, eight abstentions, and 10 against. Therefore, amendment 31 is agreed.

Derbyniwyd gwelliant 31: O blaid 37, Yn erbyn 10, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 31.

Rhif adran 280 Gwelliant 31

Ie: 37 ASau

Na: 10 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Wedi ymatal: 8 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw