11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Mawrth 2017.
Grŵp 13 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma yn ymwneud ag adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir. Gwelliant 31 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp yma. Rwy’n galw ar Steffan Lewis i gynnig ei welliant.
Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno adran newydd i’r Bil, sy’n gosod disgwyliad ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth a bod yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau o fewn chwe blynedd o’r dyddiad y daw’r dreth i rym. Mae’r gwelliant hefyd yn gosod disgwyliad y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i gasgliadau’r adolygiad annibynnol.
Mae yna gynsail i gynnal adolygiad ar weithrediad Deddf Cymru ac, yn wir, erbyn hyn, mae hi bron yn arfer i gynnal adolygiad yn weddol fuan ar ôl i Ddeddf ddod i rym yn llawn. Yn yr achos yma, lle mae’r Ddeddf yn cyflwyno pwerau trethiant i Lywodraeth Cymru, mae’n hollbwysig bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn gwerthuso ei gweithrediad ac er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ei phwrpas yn effeithiol. Mae’r gwelliant yn datblygu, felly, ar welliant a gyflwynwyd gennyf yn ystod Cyfnod 2 ac yn gosod gorfodaeth ar Lywodraeth i ymateb i adroddiad yr adolygiad annibynnol. O gydnabod bod angen edrych ar sut mae’r dreth yn gweithredu dros fwy nag un flwyddyn ar gyfer unrhyw werthusiad pwrpasol, teimlaf fod cyfnod o chwe blynedd yn caniatáu digon o amser i’r dreth sefydlu’n iawn ac yn rhoi digon o amser ar gyfer gwerthusiad trylwyr ohoni.
Diolch, Llywydd. Diolch i Steffan Lewis am ei welliant. O leiaf yn y cyfieithiad Saesneg o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, y cyfeiriad oedd at ddisgwyliad ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu'r adroddiad, disgwyliad arnynt i gyhoeddi'r adroddiad, ond yna gofyniad i ymateb, ond, o leiaf yn fersiwn Saesneg y gwelliant, rwy’n deall bod pob un ohonynt yn orfodol. Mae hynny ychydig yn fwy na disgwyliad.
Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fe wnes i gefnogi nifer o welliannau Steffan yn ystod y cam pwyllgor, gan gynnwys un neu ddau nad oedd ef ei hun yn eu cefnogi ar y pryd. Ond rwy'n credu mai mater i'r Pwyllgor Cyllid yw hyn. Nid yw dweud, ‘A dweud y gwir, nid yw hwn yn fater i’r Cynulliad, bydd comisiwn annibynnol a dylai’r Gweinidogion gael pwysigion y genedl Gymreig i ddweud wrthym beth i'w wneud,’ y dull cywir yn fy marn i. Rydym yn mynd i gael treth trafodiad tir, rydym yn mynd i gael trethi busnes, rydym yn mynd i gael y dreth gyngor; rydym yn mynd i gael y gyfres hon o drethi, ac rwy'n falch am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud wrth y pwyllgor a'r hyn y mae ein Cadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei wneud. Mae'n ymddangos bod cydweithio da â'r Llywodraeth wrth edrych ar beth yw’r mecanwaith priodol ar gyfer adolygu trethi yn y dyfodol, ac ar gyfer gweld sut maent yn gweithio ac o bosibl yn rhyngweithio â'i gilydd, ac rwy’n credu ei fod yn iawn i’r Pwyllgor Cyllid arwain ac adrodd fel y bo'n briodol i'r Cynulliad hwn, yn hytrach na dirprwyo ein tasg i'r pwyllgor hwn fel yr awgrymir yn y gwelliant hwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Llywydd. Wel, mewn trafodaethau blaenorol am y Mesur, rwyf i wedi bod yn hapus i gytuno â’r egwyddor y dylai gweithrediad y dreth trafodiadau tir gael ei fonitro a'i adolygu. Rwyf wedi ymrwymo i fonitro cyflwyniad trefniadau rhyddhad newydd ac effaith y gordal ar eiddo preswyl ychwanegol. Cytunais hefyd y prynhawn yma y dylem ni barhau i adolygu pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i gyflwyno trethi newydd sy'n fwy addas i Gymru. Fy nealltwriaeth i o welliant 31 yw y bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir, y bydd yn rhaid ei gwblhau o fewn chwe blynedd i roi’r dreth ar waith ym mis Ebrill 2018. Gallai hyn gynnwys adolygiad o weithrediad y dreth trafodiadau tir neu unrhyw elfen benodol o’r dreth honno, megis y gordal. Gallai hefyd gwmpasu unrhyw newidiadau neu ddulliau amgen i'r dreth yn fwy cyffredinol. Credaf fod cwmpas yr adolygiad yn ddigon eang i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn canolbwyntio ar faterion sy'n peri’r pryder mwyaf. Rwyf hefyd yn falch o gydnabod pwysigrwydd sicrhau y dylai adolygiad o'r fath fod yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Rwy'n credu bod yr amseru a gynigir yn y gwelliant yn ddigonol i ganiatáu i gyfnod fynd heibio pan fo’r dreth wedi bod ar waith i allu cynnal adolygiad synhwyrol. Byddai'r adolygiad o’r dreth trafodiadau tir felly hefyd yn ategu ymrwymiad presennol i ddechrau adolygiad o benderfyniadau dirprwyaeth Awdurdod Cyllid Cymru dair i bum mlynedd ar ôl i’r dreth ddod i rym ym mis Ebrill 2018.
Llywydd, rwy'n disgwyl y bydd gan y Pwyllgor Cyllid ei fuddiannau ei hun yn y materion hyn a’i fod yn debygol o wneud hynny yn gynt na'r cyfnod a nodir yn y gwelliant hwn. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthdaro rhwng yr hyn a gynigir yma a'r cyfrifoldebau y bydd y Pwyllgor Cyllid ei hun yn dymuno eu cyflawni. Ar sail yr hyn yr wyf wedi’i egluro, byddaf yn gofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.
Galwaf ar Steffan Lewis i ymateb i’r ddadl.
Jest yn fyr iawn i ddweud nad oes gen i gopi Saesneg o’r gwelliant ger fy mron, ond rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi tanlinellu yn gymwys bwrpas y gwelliant, a dweud, wrth gwrs, nad oes yna ddim byd yn y gwelliant yma sydd yn cynnig unrhyw waharddiad ar unrhyw bwyllgor mewn unrhyw Senedd yn unrhyw le rhag gwneud adolygiad pryd bynnag y mae eisiau ar y dreth yma o gwbl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Dim ond eistedd i lawr wnes i.
O, rwy'n credu eich bod newydd ei golli. [Chwerthin.]
The question is that amendment 31 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] We therefore proceed to an electronic vote on amendment 31. Open the vote. Close the vote. In favour 37, eight abstentions, and 10 against. Therefore, amendment 31 is agreed.