2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr? OAQ(5)0548(FM)
Mae protocol trawsffiniol ar waith i sicrhau bod gan gleifion perthnasol fynediad at wasanaethau priodol, a chaiff pob mater cysylltiedig ei drin mewn modd y cytunwyd arno a chyson.
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r broses Future Fit barhaus ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd brys i gleifion yn Swydd Amwythig a chanolbarth Cymru. Mae'n bwysig i’m hetholwyr bod gwasanaethau brys wedi eu lleoli yn Amwythig. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt cyhoeddus yn hyn o beth. A gaf i ofyn beth sy’n eich atal rhag rhoi safbwynt ar y mater hwn a gwneud sylwadau cryf i fwrdd rhaglen Future Fit y GIG ar ran trigolion y canolbarth? A wnewch chi gymryd safbwynt?
Yn ddaearyddol, mae Amwythig yn nes, ac felly byddai'n well gennym i wasanaethau gael eu lleoli yn Amwythig. Ond mae'n bwysig sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn gynaliadwy, sy'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gorfod ymdrin ag ef ein hunain. Gwn, er enghraifft, gydag offthalmoleg a niwroleg, bod y bwrdd iechyd—Powys, hynny yw—wedi sicrhau darpariaeth amgen ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg trwy sefydliad o'r enw The Practice, sydd yn cynnwys clinigau allgymorth cymunedol ym Mhowys. Ond yn amlwg, o'n safbwynt ni, rydym ni’n dymuno gweld gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan bobl Cymru yn Lloegr mor agos â phosibl i'r cleifion hynny o Gymru.
Prif Weinidog, rydym ni’n canfod heddiw y bu cynnydd o 16 y cant i nifer y meddygon iau sy’n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ar draws GIG Cymru, mae amseroedd aros yn lleihau; mae amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau brys yn llai na phum munud erbyn hyn; disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru fel un o arweinwyr y byd ym maes adsefydlu cardiaidd; ceir gwelliant i berfformiad canser, gyda nifer y cleifion sy’n cael eu trin nawr 40 y cant yn uwch na phum mlynedd yn ôl; ac am y pedwerydd mis yn olynol, rydym ni’n cael pobl adref o'r ysbyty yn gynt. Prif Weinidog, yn Lloegr, gostyngodd cyfran y cleifion sy'n cael eu trin neu eu rhyddhau yn brydlon yn is na 78 y cant, gyda bron i hanner yr ysbytai yn datgan—
Mae angen i chi ddod i gwestiwn.
[Yn parhau.]—rhybuddion mawr oherwydd prinder gwelyau. Pa neges sydd gennych chi i’r dynion a'r menywod sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac wedi gorfod dioddef ymdrechion y Torïaid i bardduo GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf?
Wel, gwelodd pob un ohonom yr hyn a wnaeth y Torïaid yn 2015, ond mae'r Aelod yn gwneud achos cadarn a chynhwysfawr sy'n dangos y cynnydd y mae GIG Cymru wedi ei wneud. Heddiw, rydym yn gweld bod mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi ac mae'n dangos bod GIG Cymru yn cael ei ystyried fel lle da i weithio ynddo, ac y bydd cynnydd da yn parhau yn y dyfodol.
Ar yr un pryd â diwallu angen dilys, gall cydweithrediad gofal iechyd trawsffiniol hefyd guddio prinder staff clinigol arbenigol yng Nghymru, a achoswyd gan fethiant y Llywodraeth i hyfforddi digon o glinigwyr. Pryd ydych chi'n mynd i adolygu nifer y sefydliadau annibynnol GIG Cymru, sy’n derbyn degau o filiynau bob blwyddyn, gyda'r bwriad o’u lleihau fel y gallwch wario mwy ar glinigwyr arbenigol i Gymru ei hun?
Os edrychwn ni ar awdurdod gwledig fel Powys, mae'n anochel y bydd awdurdod fel Powys yn defnyddio gwasanaethau arbenigol o Loegr. Yn ddaearyddol, mae'n gwneud synnwyr i bobl sy'n byw mewn ardaloedd eang o Bowys. Yn wir, ceir gwasanaethau arbenigol yn Lloegr sy'n dibynnu ar gleifion Powys er mwyn bod yn gynaliadwy. Mae damweiniau ac achosion brys yn Henffordd yn enghraifft o hynny; heb gleifion yn dod o ddwyrain Sir Frycheiniog yn arbennig, byddai'r niferoedd sy'n mynd trwy adran damweiniau ac achosion brys Henffordd yn peri i gwestiynau gael eu gofyn am gynaliadwyedd y gwasanaeth yn Henffordd. Felly, na; o’m safbwynt i, y peth olaf yr wyf i eisiau ei weld yw unrhyw fath o wal yn cael ei chodi rhwng Cymru a Lloegr o ran gofal iechyd. Rydym ni’n gwybod hefyd bod 25,000 o bobl yn croesi'r ffin y ffordd arall, i gael gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Dyna pam, wrth gwrs, y mae gennym ni brotocol cadarn ar waith i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl ar ddwy ochr y ffin.