2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd y cymoedd? OAQ(5)0544(FM)
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ar gyfer 2015-20 ar draws pob rhan o Gymru.
Mae metro de Cymru yn rhoi cyfle i ni sicrhau gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd, ac rwy’n croesawu ateb y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gwahanol Gymoedd.
Ar hyn o bryd, mae taith fws ddwyffordd rhwng Aberdâr a Merthyr yn £7. Mae taith trên rhwng Aberdâr a Chaerdydd yn £8—mwy na’r cyflog byw cenedlaethol yr awr. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod prisiau ar gyfer y metro yn cael eu gosod ar lefel fforddiadwy?
Gallaf sicrhau'r Aelod bod prisiau fforddiadwy yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o gaffael y gwasanaethau rheilffordd nesaf sydd gennym a chontract y metro hefyd. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweld mwy o deithwyr, yn enwedig ar adegau llai prysur ac ar wasanaethau lle mae nifer y teithwyr yn isel ar hyn o bryd. Rydym ni eisiau gweld gostyngiadau i’r gost o deithio ar gyfer pobl sy'n gweithio patrymau gwaith afreolaidd neu oriau rhan-amser, ac, yn bwysig, mae'n hynod bwysig bod y system yn integredig a bod ganddi system docynnau sydd â thocynnau electronig a thocynnau clyfar. Mae hynny'n rhywbeth sy’n gwbl hanfodol i ddatblygiad y metro.
Prif Weinidog, mewn cyhoeddiad, maen nhw’n honni—dyma'r dyfyniad:
un o'r gwelliannau mwyaf arwyddocaol i gymudwyr y cymoedd mewn degawd, ers agor rheilffordd Glynebwy.
Datgelodd Trenau Arriva Cymru eu bod yn dyblu capasiti trenau cymudwyr i mewn ac allan o Gaerdydd i ymdrin â gorlenwi. Fodd bynnag, mae contractau Arriva yn golygu eu bod yn ceisio ymdrin â’r nifer gynyddol o deithwyr gyda'r un nifer o drenau ag yr oedd ganddynt yn 2003. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Threnau Arriva i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu nifer y trenau i ddarparu gwasanaethau rhwng Caerdydd a'r Cymoedd?
Wel, mae'n rhan o'r trafodaethau masnachfraint a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod mwy o drenau a threnau mwy cyfforddus ar y rhwydwaith. Am y tro cyntaf, bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros y materion hyn, ac rydym ni’n bwriadu sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei wella a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol.
Hoffwn siarad dros gymoedd gogleddol etholaeth Ogwr. Mae gennym ni bedwar cwm, a bydd llawer ohonynt yn elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus well o ran bysiau cyflymach, tocynnau rhatach, tocynnau cydgysylltiedig, ond cwm Llynfi yn arbennig. Tybed: beth yw barn y Prif Weinidog ar bwysigrwydd prif reilffordd Maesteg i Cheltenham, fel y mae nawr—neu reilffordd gymunedol fel ag y mae yng nghwm Llynfi—o ran metro de Cymru? Oherwydd i lawer o bobl yn y cwm hwnnw a chymoedd cyfagos, mae hynny mor hanfodol i ardal teithio i'r gwaith Caerdydd ag y mae Glynebwy neu Ferthyr neu unrhyw le arall. Maen nhw’n credu eu bod nhw’n rhan annatod o ardal deithio de Cymru, felly pa ran maen nhw’n ei chwarae ym metro de Cymru?
Hynod bwysig. Roedd yn weithred o ragwelediad gwych gan Forgannwg Ganol, a dweud y gwir, ym 1988, i agor y rheilffordd i deithwyr. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n wasanaeth bob awr heb unrhyw wasanaeth ar y Sul—wel, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn fodlon ag ef yn yr hirdymor. Mae'n bwysig ein bod ni’n ceisio cynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd ac ystyried sut y gellir gwneud hynny, ac, wrth gwrs, i weld beth y gellir ei wneud i redeg gwasanaeth ar y Sul, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n deall beth fyddai nifer y teithwyr ar y gwasanaeth hwnnw ar y Sul. Ond rwy’n gwybod yn iawn bod y trenau hynny yn cael defnydd da dros ben. Maen nhw’n rhedeg yn hwyrach yn y nos nag yr oeddent erbyn hyn, sy’n un peth—nid wyf yn treulio fy holl amser yn edrych ar amserlenni rheilffyrdd, a gaf i ychwanegu, er fy mod i’n rhoi’r argraff honno ar adegau. Ond gwn fod y gwasanaeth yn hynod bwysig i bobl cwm Llynfi, a byddwn yn ceisio gwella'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.