– Senedd Cymru am 3:06 pm ar 5 Ebrill 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar gynigion deddfwriaethol Aelod unigol, ac rwy’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am gynnig bod y Cynulliad yn nodi’r cynnig ar gyfer Bil lleihau gwastraff yng Nghymru, a diben y ddeddfwriaeth arfaethedig fyddai lleihau gwastraff, ac mewn dwy ffordd arbennig: mynd i’r afael â’r angen am gynllun dychwelyd blaendal yng Nghymru a mynd i’r afael â’r angen naill ai i wahardd, neu gael ardoll ar ddeunydd pacio polystyren yng Nghymru.
Y cyd-destun ar gyfer y cynnig hwn yw bod angen lleihau gwastraff pellach os ydym am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff 70 y cant erbyn 2025, ac i fod yn ddiwastraff erbyn 2050, mae angen cyflymu’r newid yn sylweddol. Byddai Plaid Cymru hefyd yn hoffi symud y targed diwastraff ymlaen i 2030 ac fel y nodwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru, gall Cymru, ac fe ddylai Cymru, fod y wlad orau yn Ewrop am ailgylchu. Rydym yn bedwerydd, i fod yn deg, ond gallwn wneud hyd yn oed yn well.
Mae cyfradd ailgylchu Cymru wedi dyblu dros y degawd diwethaf, o ychydig o dan 30 y cant yn 2006-07 i dros 60 y cant yn 2015-16. Fodd bynnag, nid yw pawb yn ailgylchu, ac mae yna awdurdodau lleol hefyd sydd ar ei hôl hi’n sylweddol o ran cyflymder y newid. Ni lwyddodd Casnewydd, Torfaen, na Blaenau Gwent i gyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru o 58 y cant yn 2015 na 2016. Credaf, felly, y bydd cynllun dychwelyd blaendal, lle y mae cwsmeriaid yn talu tâl ychwanegol bychan am ganiau a photeli sy’n cael ei ad-dalu pan fyddant yn eu dychwelyd yn wag, yn cymell pobl nad ydynt eisoes yn ailgylchu ac yn wir, yn cyflwyno elfen o arbed adnoddau i’n heconomi. Dylai’r cynllun hwn fod ar gael ar gyfer caniau a photeli plastig yn ogystal â rhai metel a gwydr. Yn ogystal â chynyddu cyfraddau casglu, mae cynlluniau blaendal yn cynnig deunyddiau o safon uwch y gellir eu hail-lenwi neu eu hailgylchu. Gallai cynlluniau blaendal arbed arian i awdurdodau lleol hefyd yn y tymor hir drwy leihau gwastraff y cartref sydd angen ei reoli, a lleihau’r angen am gyfleusterau didoli a gwaredu, megis llosgyddion a thirlenwi, a lleihau’r angen i lanhau strydoedd.
Mae’n bryder arbennig fod yr amgylchedd morol o amgylch Cymru yn dirywio’n fawr iawn o ganlyniad i’r holl blastig yn ein hamgylchedd. Mae gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol ddeiseb ger bron y Cynulliad ar hyn o bryd ac mae’n cefnogi taith ar long hwyliau o’r enw Sea Dragon o amgylch arfordir Prydain ym mis Awst, a fydd yn galw yng Nghaerdydd rywbryd ym mis Awst, a phwrpas Sea Dragon yw casglu data ar blastig yn ein hamgylchedd morol. Dyma wyddoniaeth y dinesydd ar ei gorau, mewn cydgysylltiad â phrifysgolion. Ac mae unrhyw un ohonom—
A gaf fi—[Anghlywadwy.]
Ie, yn wir, fe wnaf.
Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran y morlo llwyd, byddai pob un o’r 43 o ffrindiau newydd sydd gennyf bellach ym Mhen Pyrod yn sicr yn cefnogi cynnig o’r fath.
Rwy’n siŵr y byddent, ond carwn ddweud wrth Dai Lloyd nad ydynt yn ffrindiau iddo o reidrwydd, oherwydd credaf eu bod yn teithio pellter hir, ac maent yn llawn cymaint o ffrindiau Gwyddelig a Llydewig ag o ffrindiau Cymreig yn ôl pob tebyg. Ond mae’n dangos bod yr amgylchedd morol yno i gael ei ddiogelu. Ac os oes unrhyw un wedi mynd ati i lanhau traeth—ac efallai y byddai Dai Lloyd eisiau ystyried glanhau traeth—rwy’n credu y byddant yn gwybod faint o ddarnau o blastig a photeli gwag sy’n cael eu codi ar yr adeg honno.
Nawr, cynllun dychwelyd blaendal yr Almaen yw’r un mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae hwnnw wedi bod ar waith ers 2003. Caiff tâl o 25 sent ewro ei ychwanegu at bob cynhwysydd diod ar wahân i laeth a sudd ffrwythau a llysiau. O ganlyniad, mae 98.5 y cant o boteli y gellir eu hail-lenwi yn cael eu dychwelyd gan ddefnyddwyr, a dyma’r pwynt: mae ansawdd y deunydd a adferir yn ddigon da i sicrhau y bydd hen botel yn dod yn botel newydd. Felly, er ein bod yn llwyddo i ailgylchu ar hyn o bryd, mantais cynllun dychwelyd blaendal yw arbed adnoddau yn ogystal, a llai o wastraff. Mae hyn hefyd wedi helpu i gael gwared ar 1 biliwn i 2 biliwn o gynwysyddion untro o finiau a strydoedd yr Almaen.
Mae hefyd yn duedd sy’n tyfu’n gynyddol. Nid oeddwn eisiau dod â sbwriel i mewn i’r Siambr, Dirprwy Lywydd, a bu’n rhaid i mi baratoi hyn neithiwr—fy hun, yn bersonol—ond os ydych yn prynu cwrw ffasiynol neu gwrw hipster y dyddiau hyn, fe welwch ei fod yn aml yn rhoi ad-daliad o 10 sent i unrhyw wladwriaeth neu diriogaeth—mae hyn ar gyfer gwerthiant rhyngwladol yn Awstralia a’r Unol Daleithiau. Felly, mae’n duedd sy’n digwydd eisoes—nid oes ond angen i ni ddilyn y tuedd hwnnw a mynd gyda’r llif fel petai.
Fodd bynnag, ni ellir ailgylchu popeth, ac i fod yn ddiwastraff—neu i ailddefnyddio, yn wir—bydd angen i ni, yn y pen draw, sicrhau bod yr holl ddeunydd pacio a ddefnyddir yng Nghymru yn ailgylchadwy. Un o brif achosion sbwriel, mewn gwirionedd, yw deunydd pacio polystyren nad yw’n ailgylchadwy ac na ellir ei ailddefnyddio, gan ei fod yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pacio bwyd, wrth gwrs. Er y gellid defnyddio deunyddiau eraill sy’n ecogyfeillgar, mae llawer o gaffis, siopau, a sefydliadau bwyd brys yn defnyddio deunydd pacio polystyren ar gyfer diodydd a chludfwyd am ei fod yn rhatach. Dangosodd ffigurau gan Sefydliad Bevan fod cyfanwerthwr ar-lein yn cynnig 500 o flychau byrgyrs polystyren mawr am £21.12, tra bod 500 o flychau byrgyrs biobydradwy yn cael eu gwerthu am £44.48.
Felly, nid oes llawer o gymhelliant ar hyn o bryd i fanwerthwyr ddefnyddio dulliau amgen ecogyfeillgar, sy’n cynnwys cynwysyddion biobydradwy, cynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, a hyd yn oed cynwysyddion bwytadwy, sydd bellach yn bosibl. Efallai na fydd yn bosibl nac yn angenrheidiol inni ddilyn nifer o daleithiau a dinasoedd yn yr Unol Daleithiau a gwahardd deunydd pacio polystyren yng Nghymru, er fy mod yn cael fy nhemtio’n bersonol i feddwl ar hyd y llinellau hynny, ond gallwn edrych yn agosach at gartref ar ein cynllun llwyddiannus i godi tâl am fagiau siopa untro a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2011. Yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, rhwng cyflwyno’r tâl o 5c yn 2011 a 2014, gwelwyd 70 y cant amcangyfrifedig o ostyngiad yn y defnydd o fagiau siopa untro yng Nghymru. Felly, gallai’r manwerthwr dalu tâl tebyg am gynwysyddion bwyd a diod polystyren neu gellid ei drosglwyddo i’r defnyddiwr ac arwain at ostyngiad tebyg yn y defnydd ohonynt.
Pan ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i’r Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf—credaf mai’r wythnos diwethaf oedd hi, neu gallai fod wedi bod yr wythnos cynt; ni allaf gofio yn union pryd yn awr—mae’n ddiddorol iawn ei fod wedi sôn am ddefnyddio’r pwerau newydd yn Neddf Cymru 2017 i gyflwyno trethi arloesol. Ac wrth gwrs, un o’r argymhellion gan Sefydliad Bevan ac eraill yw tâl polystyren yng Nghymru, fel treth yr un mor arloesol.
Felly, mae llawer o randdeiliaid, o’r sectorau morol ac amgylcheddol i bobl fel Sefydliad Bevan, yn galw am dreth ar bolystyren i leihau ei ddefnydd, neu hyd yn oed i roi diwedd ar ei ddefnydd drwy ddefnyddio dewisiadau eraill sy’n fwy ecogyfeillgar. Rwy’n credu y gallai deddfwriaeth o’r fath fynd i’r afael â’r mater a helpu’n aruthrol i leihau gwastraff yng Nghymru, ond yn bwysicach, gallai ein rhoi ar flaen y gad yng nghyd-destun y meddylfryd Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn. Jenny Rathbone.
Rwy’n cefnogi’r cynnig ardderchog hwn, ac rwy’n credu bod llawer o bethau eraill y gallwn ystyried eu gwneud yn ogystal. Yn gyntaf, i gywiro Simon, rwy’n deall mai ni yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ar ôl yr Almaen a Taiwan, felly mae angen i ni ddathlu hynny.
Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennym y cymhwysedd, er enghraifft, i wahardd cytundebau y mae’r archfarchnadoedd yn eu llunio gyda rhai o’u cyflenwyr ffermio i’w gorfodi i aredig llysiau yn ôl i mewn i’r tir os nad ydynt yn cyd-fynd â’r olwg gosmetig y mae defnyddwyr, ymddengys, yn galw amdani mewn archfarchnadoedd, oherwydd mae hynny’n ymddangos i mi yn hollol warthus.
Rwy’n cefnogi eich treth bolystyren, ond rwy’n teimlo bod yna ragor sydd angen i ni ei wneud i egluro i’r dinesydd pa blastig sy’n ailgylchadwy a pha blastig nad yw’n ailgylchadwy, oherwydd rwyf wedi cael trafodaeth gydag etholwyr ynglŷn ag a yw’r cynwysyddion duon sy’n cael eu defnyddio’n ddieithriad gyda bwydydd wedi’u prosesu—a ydynt yn ailgylchadwy ai peidio? Os nad ydynt, gadewch i ni roi’r gorau i’w defnyddio a defnyddio cynhwysydd lliw arall neu un sydd wedi cael ei wneud o ddeunydd ychydig yn wahanol, oherwydd dylai fod yn berffaith bosibl ailgylchu plastig os nad yw wedi’i ddifwyno. Felly, credaf y dylid ymestyn y dreth bolystyren i gynnwys unrhyw blastig nad yw’n ailgylchadwy, fel ein bod yn gorfodi cwmnïau i ailgylchu, oherwydd mae’r gost o ran yr amgylchedd yn hollol enfawr.
Mae’r rhan fwyaf o ddeunydd pacio plastig yn cael ei golli ar ôl cael ei ddefnyddio unwaith—nid yw’n cael ei ailgylchu. Pan ddaw’n wastraff, caiff ei waredu fel gwastraff trefol ac mae tua 30 y cant ohono yn cael ei golli i’r cefnforoedd, gydag effaith ar ffrindiau Dai Lloyd, a hefyd ar y môr yn gyffredinol. Rydym yn wynebu sefyllfa lle y gallem, mewn gwirionedd, gael mwy o blastig yn y môr nag o bysgod, ac mae hwnnw’n bosibilrwydd eithaf brawychus. Felly, rwy’n credu bod Ewrop yn dechrau edrych ar hyn, oherwydd, yn amlwg, nid yw pob gwlad yn Ewrop yn gwneud cystal â’r Almaen neu Gymru. Yn ddiweddar, mae Senedd Ewrop wedi cymeradwyo rhywbeth o’r enw adroddiad Bonafè, sy’n anelu i symud yr UE tuag at economi gylchol, gyda tharged ailgylchu o 80 y cant ar gyfer gwastraff deunydd pacio. Felly, rydym eisiau bod ar flaen y gad yn hynny o beth, yn hytrach na dilyn eraill.
Felly, rwy’n credu bod y rheini’n bethau arbennig o dda y gallem fod yn eu gwneud, ond credaf ei fod yn ymwneud hefyd â newid ymddygiad, yn enwedig y ffaith nad yw traean o’r holl fwyd byth yn cyrraedd y bwrdd, mewn gwirionedd—mae hynny’n dweud wrthym fod rhywbeth o’i le ar y ffordd rydym yn parchu bwyd. Ond rwy’n credu y dylem hefyd ystyried dilyn esiampl ardderchog yr Almaen gyda’r Ddeddf cylch sylweddau caeëdig a rheoli gwastraff, a basiwyd ym 1996, fel y dywedoch eisoes, gan ei bod yn help mawr i ymgorffori’r cysyniad ‘arbed, ailddefnyddio, ailgylchu’ y dylem i gyd fod yn ei ddilyn.
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Felly, os ydym am fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 neu erbyn 2030, yna rwy’n credu y dylem fod, gobeithio, yn ystyried y ddeddfwriaeth hon.
Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn parhau â’r gwaith da o daclo gwastraff, mater sy’n effeithio arnom ni i gyd. Mae arfordir, moroedd a thraethau Cymru yn gynefinoedd sy’n cael eu niweidio yn sylweddol gan wastraff, ac wrth gefnogi Simon Thomas heddiw rwyf am sôn am effaith gwastraff ar gynefinoedd morol, a sôn am effaith polystyren yn benodol.
Yn dilyn y dreth ar fagiau a gafodd ei chyflwyno yn 2011, cafwyd gostyngiad nodedig yn y nifer o fagiau plastig sy’n cael eu canfod ar draethau o gwmpas Cymru. Ond yn ôl arolwg traethau 2016, pan arolygwyd 28 o draethau yng Nghymru, roedd cynnydd o 16 y cant ers y flwyddyn flaenorol yn y nifer o eitemau gwastraff a ganfuwyd. Plastig a pholystyren ydy’r prif eitemau gwastraff a ganfuwyd ar draethau y Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, fel rydym wedi ei glywed, mae polystyren yn broblem amgylcheddol aruthrol oherwydd nad ydy o ddim yn ddeunydd sy’n dirywio efo amser, ac nid ydym yn gwybod faint o amser mae’n ei gymryd i bydru. Yn y cyfamser, mae safleoedd tirlenwi yn ogystal â’n moroedd ni yn llenwi efo fo. Mae polystyren yn waeth na phlastigion oherwydd mae yna dystiolaeth gynyddol bod cemegau ynddo fo sy’n gallu achosi canser, yn ogystal â’r ffaith ei fod hefyd yn niweidio a dinistrio bywyd gwyllt a bywyd môr.
Ddoe, fe ges i, digwydd bod, lythyr gan gynghorydd sir sy’n byw wrth ymyl ysgol yn Arfon, a dyma mae hi’n ei ddweud:
Yn ein ardal ni, gwelwn ddisgyblion ysgol yn ymweld â siopau bwyd amser cinio ac yn dympio’r boscys polysterene dros y cloddiau, yn y coed a glannau afonydd, ar diroedd gwyrdd, ar hyd llwybrau ac ar ochr y ffyrdd. Mae’n ofnadwy ac mae’n broblem sy’n gwaethygu. Yn sicr mae gwaith i’w wneud i addysgu plant i gael gwared o’u sbwriel mewn modd cyfrifol, ac wrth gwrs mae’n frwydr barhaus i sicrhau digon o finiau ac ati. Serch hynny, rwyf o’r farn y byddai’n help mawr i leihau deunydd pacio yn enwedig deunydd pacio bwyd.’
Mae hi’n mynd ymlaen, y cynghorydd sir yma, i ddweud:
Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi treth ar bolysterene? Mae’r dreth ar fagiau plastig wedi bod yn llwyddiant ysgubol: yn wir mor llwyddiannus fel bod gwledydd eraill y DG wedi mabwysiadu’r un polisi! Beth am i Gymru arwain y ffordd unwaith eto, a chreu Cymru sy’n rhydd o bolysterene? Diolch yn fawr am ddarllen fy llythyr a gobeithio bydd cyfle i chi siarad ar fy rhan a gofyn i’r Llywodraeth ystyried fy nghais.’
Yn amlwg, mae yna fwy o drafod i’w wneud: treth, lefi, gwahardd—pa un ydy’r dull gorau o gyrraedd y nod? Ond yn sicr, mi fyddai lleihau’r gwastraff pecynnu ar nwyddau yn gwneud llawer iawn i leihau’r gwastraff sy’n cael ei luchio, gyda chymaint ohono fo yn anochel yn diweddu ar ein traethau a’n moroedd, lle mae’n gallu cymryd blynyddoedd lawer i ddatgymalu. Felly, diolch am gael cyfrannu at y ddadl. Diolch i Simon am ddod â’r mater gerbron, ac ymlaen efo’r ymdrechion i daclo gwastraff.
A gaf fi ddweud nad oes gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i’r hyn y mae Simon yn bwriadu ei wneud, neu y byddai’n ei wneud pe bai’n cael cyfle i gyflwyno Bil yma? Fodd bynnag, rydym yn credu bod yr elfennau ymarferol yn chwarae rhan fawr iawn ac mae angen eu hystyried yn llawn, ac er tegwch, fe gyfeiriodd atynt yn ei araith.
Ond rydym yn dechrau o’r cysyniad o economi gylchol. Rwy’n credu ein bod yn llawer mwy ymwybodol bellach o’r effaith rydym yn ei chael o ran sut rydym yn lapio ein cynnyrch a sut rydym yn defnyddio’r nwyddau y dibynnwn gymaint arnynt. Fel y mae llawer o bobl wedi dweud, nid oes ond yn rhaid i chi gerdded ar draeth yn unrhyw le yn y byd yn awr, mewn gwirionedd, i sylweddoli’r effaith. Rwy’n credu bod newid enfawr wedi bod hefyd yn ystod yr 20 mlynedd neu fwy diwethaf, o ran cefnogaeth y cyhoedd a galwadau’r cyhoedd am bolisïau sy’n bodloni’r gofynion amgylcheddol hyn yn effeithiol.
Rwy’n credu y dylem gofio bod gan Gymru gyfres dda o bolisïau ailgylchu ar hyn o bryd, ac rydym yn dechrau o sylfaen uchel. Beth bynnag a wnawn, mae’n amlwg ein bod yn awyddus i ddiogelu’r cyflawniadau hynny. Rwy’n credu y byddai’n rhaid meddwl yn ofalus iawn am unrhyw gynllun blaendal, yn benodol, er mwyn inni allu bod yn argyhoeddedig y byddai’n mynd â ni gryn dipyn yn bellach nag sy’n bosibl gyda’r polisïau sy’n bodoli’n barod yn unig.
Mae rhai o’r materion a ddaeth i fy sylw—nid wyf yn credu eu bod yn anorchfygol, ond yn amlwg bydd angen mynd i’r afael â hwy. Gallai cynllun wedi’i gynllunio’n wael effeithio ar y seilwaith presennol. Gallwch gael polisi trwsgl yn y pen draw sy’n annog pobl i fynd ar deithiau ychwanegol i’r archfarchnad, neu beth bynnag, i ddychwelyd poteli ac eitemau eraill. Felly, credaf fod angen ystyried hynny. Hefyd, mae llawer o bobl, yn enwedig pobl agored i niwed, yn cael eu nwyddau wedi’u dosbarthu i’w cartref—sut y mae ymgorffori hynny mewn cynllun blaendal? Fel y dywedais, nid wyf yn credu eu bod yn anorchfygol, ond maent yn broblemau dyrys ac mae angen rhoi sylw iddynt. Rwyf hefyd yn credu bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i oblygiadau unrhyw newid radical o gasglu o ymyl y ffordd, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, i gynlluniau dychwelyd i’r siop, neu ba fodel bynnag a awgrymir.
O ran deunydd pacio bwyd, rwy’n credu bod angen i Gymru a’r DU gael trefn ar bethau, ac rwy’n credu bod llawer ohonom ar brydiau wedi cael ein digalonni gan yr holl ddeunydd sy’n lapio nwyddau hanfodol. Ni all fod yn fodel gwych ac mae angen i ni symud oddi wrtho. Rwyf wedi clywed straeon am ddefnyddwyr blin yn yr Almaen yn rhwygo deunydd pacio diangen oddi ar eu cynnyrch cyn iddynt gyrraedd y til. Nid wyf yn argymell hynny, ond rwy’n credu ei fod yn dangos i chi fod yna awydd ymhlith y cyhoedd i fynd gam ymhellach hyd yn oed yn hyn o beth. Felly, rydym yn dymuno’n dda iddo, a byddwn yn edrych o ddifrif ar unrhyw beth a ddaw atom yn y pen draw.
Rwy’n llongyfarch Simon ar gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn, gyda’r nod o leihau gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr. Mae’n adeiladu ar y gwaith da a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn i fynd i’r afael â mater sy’n effeithio ar bob un ohonom, ac mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael, yn enwedig, â’r ynysoedd o wastraff sydd bellach yn tyfu yn ein cefnforoedd ac yn lladd bywyd morol.
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn y DU yn argymell ac yna’n gweithredu deddfwriaeth i gefnogi lleihau gwastraff, o’r strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, sy’n anelu’n uchelgeisiol at fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, i’r Bil gwastraff, a gyflwynodd, fel y mae llawer o Aelodau eraill wedi dweud, y tâl am fagiau siopa untro, a dilynwyd yr esiampl honno gan Loegr bedair blynedd yn ddiweddarach. Mae’r tâl am fagiau siopa untro yn enghraifft o stori lwyddiant sydd wedi arwain at leihau gwastraff ar draethau yma yng Nghymru, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer y bagiau siopa y daethpwyd o hyd iddynt—yn is nag unrhyw flwyddyn arall ers 2011. Ond wedi dweud hynny, mae gwastraff deunydd pacio yn dal i fod yn broblem yn ein moroedd ac ar ein glannau.
Fel eraill yma, rwyf wedi ymuno â phobl o bob oed i lanhau traethau, ac roedd canlyniadau o ddigwyddiad Glanhau Traethau Prydain 2016 y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn dangos, o’r 28 o draethau Cymru a arolygwyd ym mis Medi 2016, fod cyfartaledd o 607 darn o sbwriel wedi cael eu canfod bob 100 metr. Mae hynny’n dal i fod yn gynnydd o 16 y cant ers 2015. Ochr yn ochr â darnau plastig a pholystyren, deunydd pacio yw llawer o’r sbwriel ar ein traethau—deunydd pacio eitemau fel creision, brechdanau, losin, deunydd lapio lolis, a llawer iawn mwy. Nid yn unig y mae’n edrych yn hyll i drigolion a’r twristiaid sy’n ymweld â’n traethau gwych niferus, ond mae’n fygythiad i’n bywyd gwyllt morol ac i’n pysgodfeydd masnachol gan ei fod yn cymryd blynyddoedd i bydru.
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da ar leihau gwastraff, ond dylem bob amser fod yn fwy uchelgeisiol wrth edrych ar sut y gallwn leihau gwastraff. Mae’n werth rhoi ystyriaeth bellach i rai o gynigion Simon Thomas, a gefnogir gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol a llawer o rai eraill, a thrwy ymestyn cyfrifoldebau cynhyrchwyr gallem leihau faint o ddeunydd pacio a geir ar fwyd ac eitemau eraill, gan sicrhau cam sylweddol ymlaen o ran lleihau’r deunydd pacio sy’n cael ei daflu—gwastraff sydd, yn anochel, mewn un ffordd neu’r llall, yn cyrraedd ein traethau a’n moroedd. Felly, nid oes gennyf amheuaeth y bydd nifer o faterion ymarferol i’w datrys yn y cynnig. Mae David Melding wedi cyfeirio at rai ohonynt yn awr, ac mae Simon Thomas ei hun wedi cydnabod y byddai rhai anawsterau i’w datrys, ond nid ydynt yn anorchfygol mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy’n cefnogi cynnig deddfwriaethol Simon mewn egwyddor heddiw, ac mewn ysbryd, ac rwy’n siŵr y gallwn gael y manylion yn gywir hefyd pe bai hwn yn cael ei gyflwyno, ac rwy’n annog yr Aelodau eraill i ystyried gwneud hynny hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Simon Thomas, ac i bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru roi’r newyddion diweddaraf—yn wir, mae’r newyddion diweddaraf wedi cael ei fwydo’n ôl a’i fynegi gan yr Aelodau heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig atgoffa ein hunain a chofnodi ein bod wedi cyhoeddi ein strategaeth wastraff ar gyfer Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, yn ôl yn 2010, yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i bawb ohonom eu cymryd os ydym am gyrraedd ein huchelgais o fod yn genedl sy’n ailgylchu’n dda erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Mae ein strategaeth yn llwybr tuag at economi gylchol fel y’i gelwir, ac mae pob Aelod wedi gwneud sylwadau arni heddiw. Mae’r economi gylchol honno’n un lle rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau cyn hired ag y bo modd, yn cael y gwerth mwyaf posibl ohonynt tra’u bod yn cael eu defnyddio, ac yna’n adfer ac adfywio cynhyrchion a deunyddiau ar ddiwedd oes eu gwasanaeth. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen atal gwastraff ym mis Rhagfyr 2013. Mae’r rhaglen atal gwastraff yn cefnogi ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ drwy ddisgrifio’r canlyniadau, y polisïau, y targedau a’r rhaglen waith ar gyfer mynd ati i atal gwastraff yng Nghymru.
Mae mynd i’r afael â gwastraff yn stori lwyddiant fawr i Gymru, ac yn un y dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni. Gennym ni y mae’r cyfraddau ailgylchu trefol uchaf yn y DU ac yn ôl astudiaeth annibynnol, y cyfraddau uchaf ond un yn Ewrop, a’r uchaf ond dau yn y byd. Nawr, yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hamcan i fod yn arweinydd byd mewn ailgylchu trefol. Mae manteision economaidd cyffredinol ein strategaeth wastraff i economi Cymru yn enfawr. Er enghraifft, mae ymchwil a wnaed gan Sefydliad Ellen MacArthur yn rhagweld manteision o dros £2 biliwn bob blwyddyn i Gymru o gyflawni economi gylchol.
O ran deunydd pacio bwyd a diod, mae’n bwysig bod yn glir mai un o brif ddibenion deunydd pacio yw diogelu’r cynnyrch rhag difrod a gwastraff, gan gynnwys ymestyn ei oes silff. Mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn cael ei werthuso ar hyn o bryd a bydd yn cael ei adnewyddu i gynyddu cyfleoedd ar gyfer y sector preifat a’r sector cyhoeddus i uchafu manteision ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol o ganlyniad i fabwysiadu newidiadau mewn arferion o dan faner yr economi gylchol a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Byddwn yn ymgynghori ar y diwygiadau i’r strategaeth wastraff mewn ymgynghoriad ffurfiol yn 2018. Yn rhan o’r broses ymgynghori, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n drylwyr â chynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas ag ymestyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr eu bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb ariannol am gasglu a rheoli gwastraff sy’n deillio o’r cynnyrch a’r deunydd pacio.
Yn ddiweddar mae cryn ddiddordeb wedi bod yn dilyn y sylw yn y cyfryngau i sbwriel, ailgylchu poteli plastig ac ailgylchu cwpanau coffi. Mae gan Lywodraeth Cymru raglen waith ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol. Er enghraifft, ers nifer o flynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, WRAP, i weithio gyda’r diwydiant bwyd a siopau bwyd i leihau deunydd pacio diangen. Mae WRAP Cymru hefyd wedi gweithio gyda’r diwydiant gwasanaeth bwyd i atal deunydd pacio gwastraffus a chynyddu ailgylchu.
Rydym ar fin comisiynu astudiaeth i ymchwilio i opsiynau’n ymwneud â chanlyniadau sy’n gysylltiedig â defnyddio adnoddau’n effeithiol, gan gynnwys atal gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu, a lleihau sbwriel drwy ddull o ymestyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Fel rhan o’r astudiaeth hon, byddwn yn ystyried sut y gallai cynllun dychwelyd blaendal effeithio ar gynlluniau presennol awdurdodau lleol ar gyfer casglu a rheoli’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd ystyried yr effaith gysylltiedig ar bobl Cymru yn amgylcheddol, ariannol, cymdeithasol, diwylliannol ac o ran llesiant wrth wneud ein penderfyniadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn archwilio’r gwaith ymchwil hwn wrth adolygu a diweddaru ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.
Mae Simon Thomas, wrth gyflwyno’r ddadl hon heddiw, a’r Aelodau, wedi siarad yn rymus am effeithiau niweidiol gwastraff, yn enwedig ar yr amgylchedd morol, ond hefyd am y cyfleoedd sydd i Gymru barhau i arwain gyda’i pholisi a’i strategaeth wastraff. Wrth ystyried y cynnig deddfwriaethol hwn, fel rwyf eisoes wedi dweud, mae gennym strategaeth wastraff a rhaglen atal gwastraff ar waith yng Nghymru, ond rydym hefyd yn ymrwymedig i gyflwyno dulliau o fynd i’r afael â gwastraff deunydd pacio. Byddai angen i unrhyw Fil a fyddai’n cael ei gyflwyno yn awr gael ei asesu o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad o dan ddarpariaethau Deddf Cymru 2017. Mae deddfwriaeth ynglŷn â chynhyrchion yn faes cymhleth, a hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth allai gael ei gynnig o dan y Bil arfaethedig, ni allwn fod yn sicr a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ai peidio. Oherwydd hynny, bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig hwn, ond rydym yn cymeradwyo bwriadau’r canlyniadau y mae’r cynnig am Fil yn ceisio mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â chynhyrchu gwastraff, gan eu bod yn cyd-fynd â’r camau rydym wedi eu rhoi ar waith drwy ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, ac yn ein llwybr tuag at sicrhau economi fwy cylchol yng Nghymru.
Diolch. Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf ddiolch i bawb a fu’n cyfrannu at y ddadl, ac yn arbennig i’r Gweinidog, sydd newydd gadarnhau bod y Llywodraeth yn dal i gadw dan ystyriaeth yr angen am gynllun ad-dalu blaendal tu mewn i Gymru?
Wrth wraidd y ddadl yma, canol y ddadl fel petai, yw’r economi gylchog roedd David Melding a sawl Aelod arall yn sôn amdano, ac mae’n rhaid pwysleisio, yn y cyd-destun hwnnw, fod ailgylchu rhywbeth y mae modd ei ailddefnyddio yn gyntaf yn wastraff. Mae’n wastraff ynni, mae’n wastraff adnoddau, ac mae’n wastraff cludiant hefyd yn aml iawn. Felly, fe ddylem ni, wrth symud at Gymru dim gwastraff, sicrhau ein bod ni’n ailddefnyddio cymaint ag sy’n bosib. A dyna beth yw pwrpas y Bil yma, a’r cynnig yma: i leihau ar hynny. Ac mi ddylem ni hefyd fod yn cydweithio tuag at amcan lle nad oes modd defnyddio pecynnau yng Nghymru nad oes modd eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio. Dyna ddylai fod y nod. Ac er bod yna rai rhwystrau, fel roedd Jane Hutt yn sôn amdanynt, ar y llwybr, mae modd i ni oresgyn y rheini, rwy’n meddwl, gyda’r ewyllys a gyda ychydig bach o ddychymyg.
Y pwynt olaf, os caf ei wneud, yw hyn: pwy byddai wedi meddwl pum neu 10 mlynedd yn ôl y byddai 5c—jest 5c—yn newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio bagiau plastig? Pe bai ailgylchu yn ddigon ynddo’i hun, ni fyddem yn gweld cymaint o wastraff morol ag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd ar hyd ein traethau, ac hefyd yn ein hamgylchedd ni. Felly, os yw 5c yn gallu gwneud hynny ar gyfer bagiau plastig, mae treth ar bolystyren a chynllun blaendal hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi’r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu. Felly, byddwn yn gohirio’r bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.