6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r grŵp nesaf o welliannau ym ymwneud â llygredd aer ac ansawdd aer. Gwelliant 44 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Rwy’n gobeithio y byddaf fi’n fwy llwyddiannus nag oedd Angela Burns, er nid wyf fi’n siŵr y byddaf. Yn sicr, hyd yma, mae’r drafodaeth ar y Bil yma wedi gweld mwy o drafod rhwng y ddwy brif wrthblaid er mwyn gwella’r Bil mewn modd cydweithredol. Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod ni’n gwneud y Bil yr eildro mewn ffordd mwy cymodlon nag y cawsom ni’r cyfle i’w wneud y tro cyntaf.
Mae gwelliant 44 a gweddill y gwelliannau yn gosod allan fframwaith ar gyfer sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r Bil yma fel cyfle i amddiffyn y cyhoedd rhag effeithiau andwyol llygredd awyr. Wrth wneud hynny, rwyf i eisiau dweud ar y cychwyn, a phwysleisio ar y cychwyn, nad oes unrhyw lefel saff—o ran iechyd, nid oes lefel saff ar gyfer llygredd awyr, boed hynny yn ocsidau nitrogen neu yn wahanol PMs, sef y gronynnau bach iawn sy’n cael eu cynhyrchu yn yr awyr. Wrth gwrs, mae yna lefelau cyfreithlon, mae yna lefelau statudol, ac mae yna gyfarwyddiadau a deddfwriaeth sy’n troi o gwmpas y lefelau hynny. Ond, o safbwynt iechyd, nid oes dim lefel saff. Felly, mae’n bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni’n edrych ar y Bil yma fel cyfle i wella’r sefyllfa yn y cyd-destun hwnnw. Roeddwn yn sylwi bod Cyfnod 1 o drafodaethau’r Bil wedi gweld sawl un o’r rhanddeiliaid yn codi llygredd awyr fel rhywbeth sydd eisiau mynd i’r afael ag ef. Roedd tystiolaeth gan sefydliad y galon a thystiolaeth gan sefydliad yr ysgyfaint—ill dau yn dweud y dylai fod o leiaf cyfeiriad at yr egwyddor gyffredinol i leihau neu ostwng llygredd awyr. Mae Plaid Cymru o’r farn y dylid mynd ychydig yn bellach na hynny, gan ein bod yn cytuno gyda phwyllgor EFRA yn San Steffan, a ddywedodd fod lefel bresennol y llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol. Felly, rydym ni eisiau gweld y Bil yma a’r Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle i weithredu ar yr argyfwng hwn.
Yn y cyd-destun Cymreig, mae llygredd awyr yn ail yn unig i ysmygu—sydd yn rhywbeth amlwg iawn yn y Bil yma—fel achos marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae’n achosi 2,400 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn, sef 6 y cant o holl gyfanswm marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae’r achos yn cael ei rannu yn fras yn ddau: mae’r PM2.5—y gronynnau bach hynny—yn cynhyrchu rhywbeth tebyg i 1,300 o farwolaethau cynnar, ac mae ocsidau nitrogen yn cynhyrchu 1,100 o farwolaethau cynnar. Ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r rheini, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ôl ym mis Ionawr eleni.
Wrth gwrs, nid yw llygredd awyr yn rhywbeth sy’n cael ei gyfyngu i un wlad, neu un genedl neu un gymuned. Mae’n rhywbeth trawsffiniol. Mae’n fater, o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd, i Lywodraeth San Steffan. Mae’r Llywodraeth yma—y Llywodraeth yng Nghymru—wedi dibynnu ar gynhyrchu fframwaith neu strategaeth genedlaethol yn y cyd-destun Prydeinig ar gyfer mynd i’r afael â hyn. Nawr, rwy’n deall pam efallai bod y Llywodraeth yn dewis gwneud hynny, gan ei fod yn fwy hwylus neu’n fwy abl i wneud hynny—yn lleihau’r baich gwaith ac ati. Ond, nid wyf i, yn sicr, yn ymddiried yn y Llywodraeth bresennol, sy’n cael ei hailethol ar hyn o bryd—cawn weld—i fynd i’r afael â llygredd awyr. Roedd Andrea Leadsom, wrth gwrs, am beidio â chyhoeddi strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â llygredd awyr o gwbl cyn yr etholiad, gan ddefnyddio ‘purdah’ fel esgus i beidio â dweud dim byd yn ei gylch. Roedd yn rhaid i gyfreithwyr amgylcheddol ClientEarth fynd i’r llys er mwyn gorfodi bod y strategaeth yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan. Cafodd hwnnw ei gyhoeddi ddiwedd wythnos diwethaf—wrth gwrs, ar ôl cyflwyno’r gwelliannau hyn. Felly, mae rhywfaint yn y gwelliannau hyn sy’n cael ei gam-ddweud gan y strategaeth sydd wedi’i chyhoeddi, ond mi wnaf i esbonio ychydig am hynny yn y man. Beth sydd yn bwysig, yn fy marn i a barn Plaid Cymru, yw nad ydym yn dibynnu ar Lywodraeth San Steffan i gynhyrchu strategaeth, ond bod Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu, paratoi a chyhoeddi strategaeth llygredd awyr genedlaethol i Gymru, sydd yn gosod allan sut ac ym mha ffordd y mae llygredd awyr yn mynd i gael ei ostwng.
Mae cyd-destun ehangach i hyn, wrth gwrs. Rydym am adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly am golli—oni bai ein bod yn eu trosglwyddo nhw i ddeddfwriaeth genedlaethol—rhai o’r cyfarwyddebau sydd eisoes yn eu lle yn ymwneud â llygredd awyr. Un achos amlwg o hynny oedd yr un a oedd yn dod i benderfyniad ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan yn ddiweddar yng Nghymru. Felly, mae yna reswm—. Os mai dadl y Llywodraeth yw, ‘Wel, mae yna gyfeiriad at lygredd awyr mewn deddfwriaeth arall’, mae hynny’n ddadl, ond mae yna ddau reswm i’w roi e yn y Bil yma. Un: mae unrhyw gyfeiriad arall yn y cyd-destun amgylcheddol, ac rydym yn sôn am y cyd-destun iechyd cyhoeddus. Yn ail: wrth fynd a gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod ni’n glir iawn yn y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio fan hyn ein bod ni eisiau cadw’r safonau sydd gennym ni, os nad gwella arnyn nhw, a dweud y gwir.
Felly, dyna’r cyd-destun y byddwn yn chwilio i gynnig gwelliant 44 a’r gwelliannau eraill ynddo. Mae gwelliant 44 yn cydnabod bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn arwain yn y maes yma, ac yn dweud bod angen cyhoeddi strategaeth genedlaethol Gymreig, felly, dim hwyrach na chwe mis ar ôl cyhoeddi cynllun ansawdd awyr Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rwy’n meddwl, wrth weld yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi, y strategaeth a gafodd ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos diwethaf, fod y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i ryw ymateb o fewn blwyddyn—felly, chwe mis sydd yn y gwelliant; mae’r Llywodraeth, rwy’n credu, wedi dweud y byddai’n ymateb o fewn blwyddyn.
Mae hefyd yn bwysig bod gyda ni strategaeth yng Nghymru fel ein bod ni’n gallu ymateb i bolisi sydd ddim yn gweithio, neu i newidiaeth yn y wyddoniaeth sydd y tu ôl i bolisi. Yr enghraifft fwyaf amlwg o hyn, wrth gwrs, yw’r ffaith ein bod ni wedi symud yn ystod y 15 mlynedd diwethaf i ffwrdd o beiriannau petrol ar gyfer y rhan fwyaf o drafnidiaeth yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr, tuag at beiriannau diesel. Nawr, fe wnaed hyn am resymau da iawn ar y pryd—fe feddyliwyd am resymau da iawn. Roedd y cynnydd yn nifer y ceir diesel o 10 y cant o geir a oedd yn cael eu gwerthu ar ddechrau’r ganrif hon i dros 50 y cant o geir fan hyn, sef tyfiant o 3.2 miliwn i 8.2 miliwn erbyn 2010. Y broblem oedd hyn—ac nid wyf yn beio Gordon Brown na’r Blaid Lafur fan hyn, a bod yn onest, achos yr oedden nhw’n ymateb i sefyllfa fel yr oedden nhw’n gweld pethau. Y broblem oedd hyn: bod y gwneuthurwyr ceir wedi—wel, wedi’n twyllo ni. Roedden nhw wedi fficsio’r profion i ddangos nad oedd y peiriannau diesel yma yn rhoi y PMs allan mewn labordai, ond wrth gwrs, unwaith yr ŷch chi’n mynd â nhw ar heolydd, yn ôl sefyllfa bob dydd, roedd yna allyriadau hynod niweidiol yn cael eu rhoi allan o beiriannau diesel. Ac rwy’n sefyll ac yn cyfaddef fy mod i’n un o’r bobl hynny sydd wedi mynd am beiriant diesel am y rhesymau hynny ac nawr sy’n cael fy hun mewn sefyllfa lle rwy’n llygru’r awyr bob tro rwy’n defnyddio’r car.
Mae angen mynd i’r afael yn fawr iawn â hyn ac, yn anffodus, nid yw strategaeth y Llywodraeth ddim yn sôn dim am, er enghraifft, ryw gynllun gwastraffu diesel neu gynllun i ddod â pheiriannau trydan i mewn yn eu lle, neu beth bynnag yw e, ond yn hytrach yn pwsio’r cyfrifoldeb i lawr ar awdurdodau lleol. Wel, os felly, mae’n hyd yn oed fwy pwysig ein bod ni yng Nghymru yn ymateb gyda chynllun cenedlaethol.
Rwy’n credu bod, wrth gwrs, gyda ni ddeddfwriaeth arall yng Nghymru—Deddf yr amgylchedd a hefyd Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol—ond nid oes yna ddim wedi’i ysgrifennu ar wyneb y Ddeddf yma sydd yn sôn am leihau llygredd awyr. Dyma’n cyfle ni i roi hynny ar wyneb Deddf sy’n cael ei phasio gan y Cynulliad heddiw.
Just to be clear on amendments 45 and 46 that relate to amendment 44 and what they seek to do—to be clear that amendment 45 seeks to place responsibility on the Welsh Government not only to produce a strategy, as I’ve just talked about, but also to issue guidance to local health boards on how boards should alert residents about forecasted high air pollution levels for their area. There is a website that you can go on and look; it's managed by the air quality forum for Wales. You can look on it and see what the air quality is for your area, but it's very generalised. I couldn't find out what it was for the street I live in, though I live literally between a school and a main road. I would have thought that's an ideal area to know what the air quality is like, but I couldn't find that out from the publicly available information at the moment. I think amendment 45 therefore would place that responsibility. It's something that Sadiq Khan, the Labour mayor in London, is trying to do at the moment, so people understand what the air quality is in their local environment and can take steps to improve it if they can, but, importantly, take steps in public health terms to protect their own health, and that's particularly true of young people and children with asthma living in such areas.
Amendment 46 would place a responsibility on the Welsh Government to issue guidance to local authorities on how local authorities should monitor air quality under the Air Quality Standards (Wales) Regulations 2010 outside schools and on active travel routes. This is specifically addressing that. The British Lung Foundation, for example, found that many local councillors—about 20 per cent who responded to a freedom of information request—did not view schools as a priority for air quality monitoring, and a further 53 per cent referred to current DEFRA guidance, which we rely on in Wales—for some reason we are prepared to rely on DEFRA guidance—which also does not prioritise schools. It’s important, I think, that air pollution levels on routes to schools should be monitored, so people understand the whole cycle effect, both of transport in different modes, but also of children walking and cycling to schools.
Amendments 47, 43 and 42 are consequential amendments that would enable these important amendments in this Bill to be enacted. Diolch yn fawr.
Mae’n rhaid ystyried llygredd aer yn un o'r amryfal heriau cynyddol i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae llygredd aer yn ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch dynol, boed trwy ddefnyddio cerbydau, amaethyddiaeth a diwydiant, a llosgi tanwydd ffosil. Er y bu rhai gwelliannau cenedlaethol enfawr o ran rheoli ansawdd yr aer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r angen i dargedu ardaloedd lleol yn hanfodol er mwyn gwella'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn ansawdd aer Cymru. Gwnaeth Simon Thomas y sylw am gerdded i ysgolion. Wel, gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch hyn—mae Cymru'n gartref i rai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn y DU, a phe byddech chi’n blentyn ysgol yn cerdded ar hyd ymyl yr A472 ger Crymlyn, byddech yn cerdded drwy le sydd â'r gyfradd uchaf o lygredd mewn unrhyw ardal y tu allan i Lundain. Mae'n cael ei achosi’n bennaf gan dagfeydd traffig o gerbydau trwm—ffurf y bryniau ydyw—ond yn y pen draw mae’r bobl sy'n byw yn yr ardal honno yn agored yn gynyddol i lygryddion niweidiol, sy'n niweidio’u hiechyd.
Mae ymchwil yn ein galluogi i ddeall yn well o lawer pa mor niweidiol yn union yw llygredd aer i’n hiechyd. Er mwyn lleihau effeithiau llygredd aer ar ein hiechyd, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ein capasiti datganoledig i reoli ein hansawdd aer yn effeithiol. Mae cyflawni prosiectau seilwaith yn hanfodol yn hyn o beth, gan ystyried cynaliadwyedd a gostwng llygryddion, ond dylid codi ymwybyddiaeth hefyd trwy negeseuon iechyd y cyhoedd, fel bod unigolion yn ymwybodol o’r perygl i’w hiechyd sy’n gysylltiedig â llygryddion aer. Mae amcanion clodwiw i’r gwelliannau hyn a gyflwynwyd gan Simon Thomas ac maent yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran wynebu'r angen am weithredu ar y cyd ar ansawdd aer.
Er bod nifer o fentrau ar waith, mae'n hollbwysig bod pob corff cyhoeddus yn derbyn eu cyfrifoldebau a’u bod yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd. Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i lywodraethau lleol fonitro ansawdd aer yn lleol yn effeithiol a rhybuddio’r cyhoedd pan fydd y lefelau yn uwch na’r canllawiau. Yn yr un modd, mae ganddynt gyfrifoldeb i gyflawni strategaethau rheoli aer lleol, felly mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu cydblethu ag amcanion strategol cenedlaethol.
Fodd bynnag, er y byddwn yn cefnogi pob gwelliant heblaw un, y mae gennym bryderon ynghylch gwelliant 45, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad pellach gan y cynigydd. Rydym yn pryderu am yr effaith bosibl y gallai gwelliant 45 ei chael ar sefyllfa ariannol byrddau iechyd lleol, oherwydd, wrth gwrs, nid yw pawb yn gallu mynd at wefan. Ni all pawb gael mynediad at negeseuon iechyd da yn y ffordd honno, ac mae gennym bryderon nad ydym yn awyddus i roi pŵer i Lywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau a allai fod yn anodd iawn i fyrddau iechyd lleol eu gwireddu, oherwydd ein bod yn gadarn o'r farn ein bod yn gallu ysgogi gwelliannau iechyd y cyhoedd heb gael effaith andwyol ar y cyllid sydd ar gael i fyrddau iechyd sydd eisoes dan bwysau, ac mae gennym bryderon y gallai’r gwelliant hwnnw achosi rhagor o bwysau ar eu cronfeydd sydd eisoes dan bwysau. Ond rydym yn derbyn gweddill y gwelliannau yn llwyr, a hoffem ddiolch i Simon Thomas a Phlaid Cymru am eu cyflwyno.
Rwy'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i grŵp Simon o welliannau, ac yn cefnogi y rhan fwyaf ohonynt. Ni allwn, fodd bynnag, gefnogi gwelliant 45. Rydym yn cytuno â'r angen i rybuddio'r cyhoedd am lygredd aer uchel, ond yn credu y byddai’n well i awdurdodau lleol wneud hyn, neu hyd yn oed Llywodraeth Cymru, ond nid byrddau iechyd lleol. Felly, byddwn yn ymatal ar yr un gwelliant hwn, ond yn cefnogi eich holl welliannau eraill. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch i chi, Llywydd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyflwyno darpariaeth benodol ar ansawdd yr aer yn y Bil drwy ychwanegu rhan newydd. Rwy'n rhannu’r pryderon sydd y tu ôl i'r gwelliannau. Mae ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu yn fater hollbwysig i iechyd y cyhoedd.
Fel yr wyf wedi dweud yn gyson, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddangos pa mor bwysig yw’r mater hwn. Dangoswyd hyn yn fwyaf diweddar gan ymgynghoriad eang a arweinwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae llygredd aer yn fater sy’n galw am weithio’n wirioneddol ar draws y Llywodraeth, ac rydym yn gwbl ymroddedig i symud yr agenda hon yn ei blaen drwy amrywiaeth o waith sydd eisoes ar y gweill a gwaith arfaethedig. I ddangos hyn, mae nifer o ymrwymiadau wedi'u gwneud eisoes sy'n bodloni’r amcanion sydd y tu ôl i welliannau yn y grŵp hwn. Er enghraifft, o ran gwelliant 45, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a minnau eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i’w hannog i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith ar ansawdd aer.
Yn yr un modd, yn berthnasol i welliant 46, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau polisi ansawdd aer newydd i awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y canllawiau hyn yn nodi ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymysg eraill, fel cartrefi gofal, ysbytai, meithrinfeydd, a meysydd chwarae, yn lleoliadau sensitif ar gyfer derbynyddion. Bydd hefyd yn nodi nad yw pobl hŷn, pobl â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli, babanod, plant a phobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol hir wedi’u cyfyngu i'r mannau uchod a’u bod yn haeddu'r un lefel o amddiffyniad lle bynnag y bônt.
Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg wrth leoli eu mesuryddion. Dylai hyn gael ei lywio gan ble y mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn debygol o fod yn agored i'r lefelau uchaf o lygredd aer. Ein cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yw y dylent weithio tuag at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, y dylent roi ystyriaeth benodol i'r risgiau hirdymor i fabanod a phlant a achosir gan lygredd aer, boed yn eu cartrefi eu hunain, yn eu hysgol neu eu meithrinfa, neu wrth deithio rhwng y ddau.
O ran gwelliant 44, mae adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion lunio strategaeth ansawdd aer sy'n cynnwys polisïau ar asesu a rheoli ansawdd aer. Byddai'n amhriodol i hyn gael ei ddyblygu yn y Bil hwn. Oherwydd natur traws-ffiniol llygryddion aer, mae'r strategaeth ansawdd aer bresennol, a gyhoeddwyd yn 2007, yn cael ei chyflwyno mewn dogfen ag amcanion cyffredin sy'n cwmpasu pob rhan o'r DU.
Efallai bod yr aelodau hefyd yn ymwybodol bod DEFRA bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cyd yn y DU ar gynllun drafft newydd, sy’n bodoli ochr yn ochr â'r strategaeth ledled y DU. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y nod penodol o sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol yr UE ar gyfer nitrogen deuocsid ar ffyrdd penodol yn yr amser byrraf posibl. Mae'r cynllun drafft hwn yn canolbwyntio ar un agwedd bwysig ar ansawdd aer ac nid yw'n cymryd lle strategaeth ansawdd aer presennol y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft ar gyfer nitrogen deuocsid yn cau ar 15 Mehefin.
Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiadau arwyddocaol newydd gan Lywodraeth Cymru i ymgynghori, o fewn y 12 mis nesaf, ar fanylion y cynnig ar gyfer fframwaith parth aer glân i Gymru. Mae'r datblygiad newydd allweddol yn un o nifer o ddarnau pwysig o waith y byddwn yn ei wneud ar bwnc ansawdd aer yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae eraill yn cynnwys gwneud newidiadau i ‘Bolisi Cynllunio Cymru’ mewn cysylltiad ag ansawdd aer, gweithredu'r gwelliannau a gytunwyd yn ddiweddar i reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru ac adolygu beth arall y gellir ei wneud mewn cysylltiad â’r rhwydwaith cefnffyrdd.
Fodd bynnag, rwy’n siomedig ag agweddau ar ymrwymiadau drafft Llywodraeth y DU yn y cynllun nitrogen deuocsid, o ystyried y diffyg gwybodaeth yn yr ymgynghoriad ar ba gamau pellach a fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag allyriadau yn y DU. Er enghraifft, y tu hwnt i Gymru, mae nifer o feysydd o weithgaredd sydd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn gostwng allyriadau cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin ac eraill wedi galw ar Lywodraeth y DU i lansio cynllun sgrapio diesel a fyddai'n rhoi grantiau i ostwng cost cerbyd allyriadau isel i berchennog sy’n sgrapio eu cerbyd diesel.
Pryder mawr arall â gwelliant 44 yw bod y drafftio yn ddiffygiol gan na roddir unrhyw ddiffiniad o gyrff cyhoeddus. Mae hyn yn broblem mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, o safbwynt ymarferol, nid yw'n glir pwy sy'n dod o dan y term ‘corff cyhoeddus’. Gallai hyn arwain at ddryswch. Gallai diffyg eglurder ynghylch cwmpas y dyletswyddau arwain at gyrff cyhoeddus yn torri’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i'r strategaeth llygredd aer a osodwyd arnynt gan welliant 44, a hynny’n gwbl anfwriadol. Pan fydd dyletswydd gyfreithiol yn cael ei gosod, mae angen cael sicrwydd ynghylch ei chwmpas ac nid yw’r gwelliant hwn yn darparu hynny.
Yn ail, ac yn bwysicach, mae drafftio gwelliant 44 y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fel y'i drafftiwyd, byddai'r cyfeiriad at gyrff cyhoeddus yn cynnwys cyrff cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau Gweinidog y Goron. Byddai angen cydsyniad Llywodraeth y DU i osod dyletswydd o'r fath ar y cyrff cyhoeddus hyn. Os caiff y gwelliant fel y'i drafftiwyd ei basio, gallai arwain at atgyfeiriad, a fyddai'n achosi oedi wrth ddod i rym a gweithredu darpariaethau iechyd y cyhoedd mawr eu hangen eraill a geir yn y Bil hwn.
Am yr holl resymau hyn, ni allaf gefnogi unrhyw un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ond byddwn yn tawelu meddwl yr Aelodau ynghylch y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn drwy'r gwahanol weithgareddau yr wyf wedi'u hamlinellu.
Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl a chroesawu yn rhannol o leiaf yr hyn a ddywedodd am rai o'r camau sydd wedi eu cymryd. Ceisiaf ailddatgan fy nadleuon mewn ffordd fwy argyhoeddiadol i Angela Burns ac o bosibl i Caroline Jones.
Gwelliant 45—credaf ei bod yn bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan ei bod yn bwriadu, fel y dywedodd y Gweinidog rwy’n meddwl, cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar gyfer cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd byrddau iechyd lleol, cyfarwyddwyr amddiffyn y cyhoedd awdurdodau lleol, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’w hannog i gefnogi cyflwyno dulliau rheoli ansawdd aer lleol. Felly, rwy’n credu bod peth o’r ddyletswydd hon eisoes yn yr arfaeth. Rwy’n cyfaddef bod hyn yn ymagwedd fwy statudol, ond mae rhywfaint o hynny wedi'i wneud eisoes. Hoffwn hefyd dynnu sylw pawb, mewn gwirionedd, at y ffaith bod Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn credu y gallai hyn yn wir arbed arian yn yr hirdymor. Nid yw'r gwelliant ei hun yn pennu dull ar gyfer rhoi rhybuddion—os gallaf eu galw’n hynny. Felly, efallai’n wir mai awdurdodau lleol fyddai’r dull o’u darparu; dim ond rhwymedigaeth ydyw ar y byrddau iechyd i baratoi y wybodaeth honno. Mae'n debyg i'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn Llundain, lle mae'n cael ei weld fel rhan bwysig iawn o fyw yn y ddinas honno: eich bod yn gwybod beth yw eich iechyd cyhoeddus pan fyddwch yn cerdded allan drwy'r drws, pa ardal sy’n llygredig neu beidio. Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, fel y dywedais, yn dweud y gallai hyn leihau'r risg o waethygu anochel ar gyfer y rhai hynny sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau ysgyfaint cyffredin eraill ac, felly, byddai o bosibl yn lleihau nifer y bobl sy’n mynd i'r ysbyty. Felly, rwy’n meddwl bod yna ffordd o geisio sicrhau bod hyn yn ddull fforddiadwy a rhesymol o sicrhau nad yw pobl yn agored o ran eu hiechyd eu hunain neu iechyd eu plant i lygredd aer gwael iawn yn ddiangen.
Gwnaeth yr Aelod ei hun grybwyll Hafodyrynys, lle mae llygredd aer gwael iawn yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod yna bedair ardal yng Nghymru: mae Hafodyrynys yn un; Aberpennar yn un arall; a rhywle yn Abertawe, rwy’n meddwl, o amgylch y stryd fawr yn Abertawe, wrth yr orsaf, yn drydydd. Ni allaf gofio’r pedwerydd ar hyn o bryd. Byddwn i wir yn meddwl pe byddech chi’n gofyn i bobl sy’n cerdded yn yr ardaloedd hynny, ‘Beth yw'r llygredd aer yma? A yw'n ddiogel neu beidio?’ Nid wyf yn credu y byddent yn gallu eich ateb chi, ac rwy’n meddwl mai dyna'r wybodaeth y mae angen i ni ei chael allan yno fel y gallant gymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd.
Rwy'n meddwl mai’r ddadl gyffredinol, a’r rheswm nad wyf wedi fy argyhoeddi’n llwyr gan ymateb y Gweinidog, yw ein bod wedi cael proses ar gyfer ymdrin ag ansawdd aer ers peth amser yng Nghymru bellach. Mae gennym 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer—dim gwelliant sylweddol yn yr ardaloedd hynny, fel arall byddai rhai ohonynt wedi cael eu diddymu neu eu newid mewn rhyw ffordd. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw ein system bresennol yn gweithio mewn ardaloedd o lygredd aer uchel, fel y crybwyllodd Angela Burns. Yn wir, rwy'n credu nad yw'n ddigon i ddibynnu ar Lywodraeth y DU i gynhyrchu ei statud ei hun ac yna, mewn rhyw ffordd, plethu’r darnau sy’n berthnasol i Gymru yn hwnnw.
Mae adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol 2016 gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod torri targedau allyriadau yn fygythiad i iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol. Felly, fel y dywedais yn gynharach, nid yw’r ffaith ei fod eisoes mewn deddfwriaeth amgylcheddol yn rheswm dros beidio â’i roi mewn deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Yn wir, mae'n ffordd dda iawn o gau’r cylch hwnnw, mewn ffordd, ac mae'n ffordd dda iawn o sicrhau bod uchelgeisiau mewn deddfwriaethau blaenorol, fel Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac yn fanwl mewn statud.
Y pwynt olaf, os caf: mae yna fater cyfiawnder cymdeithasol i hyn. Mae'r meysydd sydd eisoes wedi eu crybwyll sy’n dioddef o ansawdd aer gwael, efallai y byddwch yn sylwi, hefyd yn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol go iawn. Mae Huw Brunt, pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal astudiaeth o lygredd aer, amddifadedd ac iechyd, ac roedd hwnnw’n dangos bod canlyniadau iechyd pobl sy'n byw mewn amddifadedd hyd yn oed yn waeth pan oeddynt yn byw mewn ardaloedd o lygredd aer uchel. Roedd Mr Brunt yn dadlau dros ddull effeithiol o reoli ansawdd aer, un sy'n cyfuno camau gweithredu ar lefel genedlaethol i asesu a lleihau risgiau i bawb, ac ymyrraeth ar lefel leol, wedi'i thargedu mewn cymunedau risg uchel i leihau llygredd aer ac anghydraddoldebau iechyd. Dim ond heddiw, mae astudiaeth a ddyfynnwyd yn y ‘Times’, ar gyfer yr Unol Daleithiau, yn nodi bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd â’r llygredd aer gwaethaf tua 10 y cant yn fwy tebygol o gael canser, sy’n fwy o effaith ar gyfraddau canser na dŵr brwnt a chemegau gwenwynig.
Felly, byddwn yn dadlau, ac mae Plaid Cymru yn dadlau, heb strategaeth genedlaethol yng Nghymru ar lygredd aer, mae Llywodraeth Cymru yn methu â chyflawni ei thargedau ei hun o sicrhau Cymru iachach, fwy cydnerth, fwy cyfartal a mwy ymatebol yn fyd-eang.
Os na dderbynnir gwelliant 44, bydd gwelliannau 47 a 43 yn methu. Os na dderbynnir gwelliannau 44, 45 a 46, bydd gwelliant 42 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 44 wedi’i wrthod.
Gwelliant 45, Simon Thomas.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal, a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei wrthod.
Gwelliant 46, Simon Thomas.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 46 wedi ei wrthod.