1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 10 Mai 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(5)0118(EDU)
Drwy raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o dechnolegau digidol a ariennir yn ganolog ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn darparu offer ac adnoddau digidol drwy Hwb ac yn buddsoddi’n sylweddol mewn cysylltedd band eang. Fodd bynnag, mae gan ysgolion reolaeth ddirprwyedig i sicrhau bod y technolegau digidol mwyaf priodol ar gael i’w dysgwyr.
Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae ysgol gynradd Parc Cornist yn y Fflint, yn fy etholaeth, wedi cael ei henwi yn ysgol arloesi ddigidol, lle mae’r pennaeth, Nicola Thomas, wedi sicrhau rhoi technolegau digidol wrth wraidd eu haddysgu a’u dysgu ac wedi cynorthwyo disgyblion i allu cymryd yr awenau yn hyn o beth. Mae’r disgyblion wedi arwain prosiectau, sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth, ymchwil, ac sy’n ymwneud â’u bod yn cyflawni rolau fel e-gadetiaid. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn alw heibio mewn banc lleol i addysgu cwsmeriaid ynglŷn â sut i fod yn ddiogel ar-lein. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod bod ysgol Parc Cornist yn enghraifft o arfer orau ac annog ysgolion eraill ledled Cymru i sicrhau bod technolegau digidol yn ganolog i’w dysgu?
Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ddelyn. Mae ysgol gynradd gymunedol Parc Cornist wedi gwneud cryn gynnydd ers cael ei henwi’n ysgol arloesi ddigidol, gan ddod yn fuddugol, wrth gwrs, yn y categori e-ddiogelwch yng ngwobrau dysgu digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn 2016. Mae hyn bellach, wrth gwrs, wedi’i droi yn astudiaeth achos er mwyn i eraill ddeall a rhannu’r arferion gorau hynny. Credaf fod ysgol gynradd Parc Cornist yn enghraifft wych o’n huchelgeisiau ar gyfer pob ysgol ledled Cymru: cynnwys dysgu o’r math hwn yn y cwricwlwm, a galluogi pob plentyn a phob dysgwr i brofi hynny. Rwy’n arbennig o awyddus i ni ganolbwyntio ar e-ddiogelwch. Un o brif fanteision y dyddiau hyn, yr oes hon, yw ehangder yr hyn y gallwn ei wneud ar-lein, ond ar yr un pryd, mae angen i ni sicrhau y gall pawb sy’n defnyddio gwasanaethau newydd ar-lein wneud hynny’n ddiogel.
Gweinidog, roeddwn yn falch o gael adroddiadau gan Ysgol Pontrobert eu bod bellach yn gallu defnyddio platfform dysgu digidol Hwb ar ôl cael uwchraddiad hirddisgwyliedig i’w band eang. Fodd bynnag, nododd y ‘Gwerthusiad o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol’, a gyhoeddwyd chwe mis yn ôl, nad oedd bron i draean yr ysgolion wedi mewngofnodi unwaith ar Hwb, a gwnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella’r sefyllfa hon, gan gynnwys datblygu strategaeth gyfathrebu sydd wedi’i thargedu at athrawon a rhieni, a phennu targedau ar gyfer cyfraddau mabwysiadu a defnyddio Hwb. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar weithredu argymhellion yr adroddiad?
Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn ymuno â phawb i groesawu’r ffaith ein bod bellach wedi cyflawni’r cysylltedd y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn. Credaf iddo ofyn cwestiwn yn ei gylch rai misoedd yn ôl, ac rydym bellach wedi cyflawni ein huchelgais yn hyn o beth. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad ynglŷn â sut yr awn gam ymhellach, a buddsoddi hyd yn oed mwy o adnoddau er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at y band eang cyflymaf sydd ar gael i ni. A gaf fi ddweud hyn o ran y rhaglen gyffredinol rydym yn ei dilyn gyda Hwb? Mae’n amlwg wedi gwneud cryn wahaniaeth i ysgolion ac i ddysgwyr ledled Cymru. Rydym am weld hyn yn ehangu, ac rydym am ei weld yn parhau i sbarduno a darparu cyfleoedd i bawb—i’r holl ddysgwyr ledled Cymru—gael mynediad at y mathau o wybodaeth a’r mathau o sgiliau digidol sy’n hanfodol mewn bywyd bob dydd. Rydym yn gwneud cynnydd o ran rhoi’r argymhellion a wnaed ar ein cyfer ar waith, a byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy cyflawn i’r Aelodau mewn perthynas â hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnosau nesaf.
Er mwyn i ddisgyblion allu gwneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi’n briodol yn y maes hwn. Yn wir, yn ddiweddar, manteisiodd staff yn ysgol gynradd Cwmdâr yn fy etholaeth ar hyfforddiant di-dâl BT, Barefoot Computing, er mwyn gwneud hynny. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl staff mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn dysgu’r sgiliau priodol i helpu disgyblion i baratoi ar gyfer yr oes ddigidol?
Rwy’n falch iawn o glywed bod ysgol gynradd Cwmdâr yn manteisio ar adnoddau di-dâl Barefoot Computing. Efallai yr hoffai’r Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda BT i adolygu a datblygu’r adnoddau yn unol â’r cwricwlwm Cymreig a’r fframwaith cymhwysedd digidol. Rydym hefyd yn gweithio gyda BT i hyrwyddo’r gweithdai gwirfoddol, lle mae gwirfoddolwyr yn mynd i ysgolion cynradd yng Nghymru i addysgu hyfforddwyr ac i hyfforddi athrawon ar sut rydym yn darparu’r adnoddau Barefoot. Yn ogystal â hyn, rydym yn buddsoddi £500,000 y flwyddyn yn y consortia rhanbarthol er mwyn hyfforddi ysgolion i ddefnyddio technolegau digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr offer a’r adnoddau sydd ar gael drwy blatfform Hwb. Rydym hefyd wedi datblygu offeryn hunanasesu, a fydd yn cael ei ddiweddaru i ddarparu ar gyfer anghenion hyfforddi ysgolion ac athrawon, fel y nodir gan ysgolion arloesi digidol. Bydd yr offeryn wedi’i ddiweddaru yn galluogi athrawon i asesu eu sgiliau a’u hyder wrth gyflawni elfennau o’r fframwaith cymhwysedd digidol ac i nodi eu hanghenion dysgu proffesiynol pellach.