3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 24 Mai 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd y cynnig gofal plant ar gyfer Cymru? OAQ(5)0148(CC)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Bydd ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o addysg a gofal plant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio. Byddwn yn dechrau profi’r cynnig mewn ardaloedd penodol mewn saith awdurdod lleol ym mis Medi.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Fel y gwyddoch, mae cynllun peilot o’r cynnig yn cael ei gyflwyno mewn rhannau o Abertawe, ac mae rhieni yn lleol yn amlwg yn falch o weld hynny. Fodd bynnag, mae nifer o’r ardaloedd peilot, gan gynnwys Pontarddulais a Gorseinon, yn ardaloedd twf penodedig o fewn y sir. A allwch chi sicrhau eich bod chi’n cymryd y cynnydd poblogaeth yma i mewn i ystyriaeth wrth ichi gyflwyno’r cynllun, a sut y mae hyn yn effeithio ar allu’r sector i ddelifro yn lleol?
Wrth gwrs, ac rydym yn ymgysylltu â’r sector. Rwy’n falch iawn fod yna lawer o ardaloedd yn Abertawe sy’n cael eu cynnwys yn y cynllun peilot hwn a bydd yn lledaeniad da o ardaloedd ar gyfer ei brofi ar draws safleoedd ysgolion a lleoliadau meithrinfeydd dydd preifat. Byddwn yn dysgu o hyn wrth i ni symud ymlaen, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd prawf yn dechrau arni ym mis Medi yn y tymor newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae un o’r pryderon a fynegwyd yn ymwneud â chapasiti’r gweithlu i ateb yr her hon o ddarparu’r gofal plant ychwanegol. Mae’n uchelgais rydych chi a minnau yn ei rhannu o ran cynyddu argaeledd gofal plant, ond yn enwedig darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardaloedd di-Gymraeg yn draddodiadol. Pa gamau gweithredu, yn benodol, rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y cynnig gofal plant ar gael drwy gyfrwng y ddwy iaith swyddogol sydd gennym yng Nghymru?
Mae llu o gynigion rydym yn eu hystyried ar hyn o bryd. Mae yna gynllun peilot prawf—cynllun ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn—sy’n archwilio cyfleoedd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Mae yna broblem gyda’r gweithlu a gwneud yn siŵr fod capasiti gennym wrth i ni symud ymlaen, a dyna yw mantais cyflwyno graddol, fel rydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Yn Lloegr—rydym wedi dysgu gwersi o rai o’r problemau y maent wedi’u hwynebu yno gyda chyflwyno system yn gyflym lle nad oedd capasiti yn y system i allu darparu. Rydym wedi rhoi sylw i hynny, a dyna pam ein bod wedi mabwysiadu dull graddol.
Mae cynnig gofal plant da, wrth gwrs, yn hanfodol i gynorthwyo menywod i weithio, ac efallai y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i groesawu Soroptimyddion Rhyngwladol Castell-nedd i’r Senedd heddiw, mudiad sy’n gwneud cymaint i gefnogi merched a menywod yn fy ardal a thu hwnt. Nid yw gofal plant ond yn un rhan o’r cynnig allweddol sydd angen i ni ei wneud i deuluoedd ifanc. Y rhan arall, fel y mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg yn ei gydnabod, yw cymorth gyda rhianta. Mae gwledydd fel Awstralia wedi arloesi gyda rhaglenni cymorth rhianta sy’n hygyrch yn eang ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel Triple P, y gellir ei ddarparu gan gynorthwywyr gofal, athrawon neu ddisgyblaethau eraill. Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod rhaglen cymorth rhianta sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn eang i rieni ifanc yng Nghymru?
Wrth gwrs, a hoffwn gofnodi fy nghroeso i Soroptimyddion Castell-nedd hefyd yn y Siambr heddiw. Rwy’n credu bod yr Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn ynglŷn â’r dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau. Nid yw’r addewid gofal plant yn ymwneud yn unig â meddwl am rywle diogel i blentyn fod am swm penodol o oriau bob dydd. Mae hyn yn ymwneud â’r gallu i wella eu cyfleoedd mewn bywyd. Mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, ein haddewidion gofal plant a’n rhaglenni addysgol fel y cyfnod sylfaen oll yn arwain at gyfle gwell i bobl wrth iddynt symud ymlaen, a dyma rai o’r problemau y bydd y cynllun peilot yn dechrau mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â mecanweithiau darparu.