– Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar yr economi a gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydw i’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6326 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.
2. Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn nodi'r pwysigrwydd bod Cymru yn inswleiddio'i hun oddi wrth yr ansicrwydd economaidd o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd deddfwriaethol ac economaidd newydd a gaiff eu creu wedi inni adael.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau:
a) bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru feto dros unrhyw gytundeb masnach dramor;
b) bod y pwerau cyllidol dros Dreth ar Werth a'r Doll Teithwyr Awyr yn cael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyfle cyntaf a bod rhagor o ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfradd dreth gorfforaethol unigryw yng Nghymru;
c) bod pwerau caffael yn cael eu datganoli i Gymru i alluogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan fusnesau Cymru fwy o ran yn y broses gaffael i hyrwyddo busnesau Cymru; a
d) nad yw Cymru yn cael yr un geiniog yn llai o arian (yn ôl yr addewid yn ystod ymgyrch y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd) a bod pecyn buddsoddi newydd yn cael ei ddwyn ymlaen i insiwleiddio economi Cymru drwy gydol yr ansicrwydd economaidd a achosir gan y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mudo i Gymru ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y DU i ganiatáu fisâu rhanbarthol fel bod gan Gymru bolisi mewnfudo sy'n gweithio ar gyfer ei gwasanaethau cyhoeddus a'i heconomi.
Diolch, Llywydd. Mae’n bleser codi i gynnig y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth. Mae’n sicr yn wir fod gennym gwmwl o ddryswch—rhyw fath o lanast dryslyd—mewn perthynas â safbwyntiau polisi’r ddwy brif blaid o ran siâp y cytundeb Brexit sydd—[Torri ar draws.] Wel, os nad ydych am wrando, gallwch adael y Siambr. Rydych am wrando; da iawn. Mae gennym ddiffyg eglurder oherwydd, wrth gwrs, ceir Papur Gwyn a gynhyrchwyd gan y Llywodraeth hon—Llywodraeth Cymru—sy’n nodi’r egwyddorion mewn termau clir a phendant iawn, ond sy’n mynd y tu hwnt i’r egwyddorion, mewn gwirionedd, ac yn mynd i graidd rhai o’r manylion ymarferol am y trafodaethau sydd ar fin cychwyn.
Pan edrychwn ar Blaid Lafur y DU, mae gennym Keir Starmer, y cyfeiriwyd ato fel un o’r rhai mwyaf synhwyrol, sydd mewn gwirionedd yn dadlau yn erbyn aelodaeth neu gyfranogiad yn y farchnad sengl fel y’i cyfansoddwyd ar hyn o bryd. Felly, rwy’n ofni bod hyd yn oed gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig hwn mewn gwirionedd yn anghyson â’u safbwynt polisi eu hunain. Felly, mae gennym ddryswch ar lefel y DU. Wel, mae’n rhaid i ni yng Nghymru wneud ein gorau felly. Beth bynnag a ddaw o ba Lywodraeth bynnag a wthir arnom yn San Steffan, mae’n rhaid i ni wneud ein gorau i ddiogelu buddiannau economi Cymru, a dyna rydym yn ceisio’i nodi yn y cynnig hwn. Fe ildiaf.
Diolch i’r Aelod. Rydych newydd ddweud am sylw Keir Starmer; a fyddech yn cytuno mai un o’r chwe phwynt a nododd oedd bod gennym yr un manteision â phe baem yn aelod o’r farchnad sengl Ewropeaidd a’r undeb tollau, ac felly nid bod yn aelod o reidrwydd ond y manteision a gawn ohono sy’n bwysig?
Rydym yn nhiriogaeth cael-ein-cacen-a’i-bwyta Boris Johnson yn y fan hon, yn anffodus, onid ydym? Mae’r Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yn glir ac yn onest am hyn. Os ydych eisiau’r manteision, yna mae rhai pethau sy’n deillio o hynny, ac yn anffodus, nid yw’n cael ei adlewyrchu yn ffordd o feddwl braidd yn niwlog Plaid Lafur y DU.
Ond rwyf am siarad am syniadau Plaid Cymru a’n cynllun ôl-Brexit, ac rwy’n chwilio am gefnogaeth ar draws y Siambr i’r ffordd rydym yn mynd i amddiffyn economi Cymru o ystyried ein bod yn ôl pob tebyg yn mynd i gael arweinyddiaeth wael yn y dyfodol, pwy bynnag sy’n ennill yn nosbarth gwleidyddol San Steffan. Rydym wedi nodi nifer o syniadau yma. Rydym wedi siarad, rwy’n meddwl, yn y ddadl ddiwethaf, am berygl mewnforion rhad i’n diwydiant amaethyddol: peryglon cyfartal, wrth gwrs, i’r rhai y bydd yr Aelod yn gwybod amdanynt mewn perthynas â’n diwydiant dur—nid yn gymaint yn y cytundeb masnach yn ôl pob tebyg, ond yn y polisi masnach. Felly, sut y mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddefnyddio ei mesurau amddiffynnol i ddiogelu yn erbyn pethau fel dur Tsieineaidd neu ddur Coreaidd rhad ac yn y blaen? A sut rydym yn mynd i warchod yn erbyn cynnydd diffynnaeth yn gyffredinol, a allai hefyd achosi niwed sylweddol i fuddiannau’r diwydiant dur yng Nghymru? Dyna pam y credwn, mewn gwirionedd, y dylid cael sedd wrth y bwrdd ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yn wir, i’r holl ddeddfwrfeydd datganoledig, oherwydd bod buddiannau economaidd gwahanol wledydd y DU yn ansoddol wahanol oherwydd y cyfansoddiad economaidd gwahanol.
Yn ogystal â risgiau, ceir cyfleoedd—cyfleoedd newydd, cyfreithiol ac economaidd—a ddaw o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn glir ynglŷn â hynny. Er enghraifft, y gallu i osod cyfraddau TAW rhanbarthol, a allai fod o ddiddordeb i ni. Oherwydd potensial cudd ein diwydiant twristiaeth, gallem wneud yr hyn y mae llawer o wledydd yn ei wneud a chael cyfradd TAW is ar gyfer tai bwyta neu westai. Gallem ddilyn syniad comisiwn Holtham o gael cyfradd ostyngol o dreth gorfforaeth ranbarthol amrywiadwy ar gyfer rhannau o’r DU, fel Cymru, sydd ag incwm is y pen. Gallai hynny fod yn elfen effeithiol iawn o bolisi rhanbarthol. Nid ras i’r gwaelod yw hynny mewn gwirionedd; mae’n ffordd o godi’r rhai sydd eisoes ar y gwaelod fel y gallant wella lefel eu heconomi. Gallem ddatganoli pwerau dros gaffael mewn gwirionedd. Wrth gwrs, cawsom ein tynnu allan o’r gwaharddiad, er enghraifft, ar gael ymgyrch a hyrwyddwyd gan y Llywodraeth i brynu’n lleol—yr achos yn 1982 yn erbyn Llywodraeth Iwerddon ar Guaranteed Irish a’r Irish Goods Council. Byddwn yn awr, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, yn gallu defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi caffael lleol, nid yn unig yn y sector cyhoeddus ond ymhlith defnyddwyr a hefyd yn y sector preifat, gan siarad â rhai o’n cwmnïau angori. Felly, dyma rai o’r syniadau. Rydym wedi sôn am gronfeydd strwythurol; yn sicr mae angen i ni gael peth sicrwydd y tu hwnt i 2020.
Mae maniffesto Plaid Lafur y DU, unwaith eto, yn dweud:
byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw ranbarth na gwlad yn y DU yn cael eu heffeithio yn sgil tynnu arian yr UE yn ôl dros weddill y Senedd hon.
Wel, nid yw hynny’n ddigon da, a bod yn gwbl onest. Mae arnom angen ymrwymiad hirdymor. Mae arnom angen cynllun trefnus o welliannau ar gyfer economi Cymru, i fod yn onest gyda chi. Mae arnom angen ymrwymiad 20 mlynedd i gau’r bwlch economaidd sydd wedi ymddangos mewn gwirionedd dros lywodraethau olynol o wahanol liwiau gwleidyddol. Ac oes, mae angen system o fisâu gwaith rhanbarthol oherwydd bod gwahanol anghenion mudo a sgiliau yn economi Cymru, unwaith eto oherwydd strwythur gwahanol ein heconomi o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae Corfforaeth Dinas Llundain wedi cyflwyno’r ddadl hon yng nghyd-destun ei hanghenion, ond fe ddylem ni yng Nghymru hefyd gyflwyno’r achos wrth i ni symud at ffordd wahanol o reoli’r polisi mudo yn gyffredinol, beth bynnag yw’r berthynas â’r UE a’r farchnad sengl. Mewn gwirionedd dylem gyflwyno achos dros wneud yr hyn y maent yn ei wneud yng Nghanada, sef dweud, ‘Mae gan wahanol ranbarthau anghenion gwahanol; gadewch i ni adlewyrchu hynny o safbwynt mudo yn ogystal’. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau’r cytundeb gorau i Gymru a’r DU wrth adael yr UE.
Yn croesawu gwarant Llywodraeth Geidwadol y DU na fydd pwerau yn cael eu dwyn yn ôl o’r gweinyddiaethau datganoledig, ac y bydd pwerau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu hehangu.
Yn cydnabod ei bod yn bwysig i Gymru a’r Deyrnas Unedig groesawu’r cyfleoedd masnach ac economaidd sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn cefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Diolch, Llywydd. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir fod yn rhaid parchu’r setliad datganoli presennol wrth i gynlluniau a mentrau cyllido gael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd, ac na fydd unrhyw gipio tir ar gymwyseddau. Mae hi wedi datgan hefyd fod hyn yn golygu cryfhau’r setliadau datganoli,
Ond peidio byth â gadael i’n Hundeb lacio a gwanhau, na’n pobl i ymbellhau.
Mae cynnig Plaid Cymru yn nodi canlyniad refferendwm y llynedd—refferendwm pan bleidleisiodd pobl Cymru i adfer rheolaeth y DU dros ffiniau, cyfreithiau ac arian. Felly cynigiaf welliant 1, gan nodi ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau’r cytundeb Brexit gorau i Gymru a’r Deyrnas Unedig; croesawu gwarant Llywodraeth Geidwadol y DU na fydd pwerau yn cael eu dwyn yn ôl o’r gweinyddiaethau datganoledig, ac y bydd pwerau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu hehangu; cydnabod ei bod yn bwysig i Gymru a’r Deyrnas Unedig groesawu’r cyfleoedd masnach ac economaidd sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd; a chefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig.
O ran datganoli trethi mae’n rhaid i ni nodi mai 13 y cant yn unig o drethdalwyr Cymru sy’n talu treth ar y cyfraddau uwch o gymharu â 30 y cant dros y ffin, a bod yn ofalus ynglŷn â sut yr awn ati i gymell yn unol â hynny.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn bodoli er mwyn rhannu pobl Prydain a dinistrio ein DU. Yn lle hynny, rhaid i ni groesawu’r cyfle i’n Teyrnas Unedig ddod yn genedl sy’n masnachu’n fyd-eang ac sy’n edrych tuag allan. Fel y dywedodd y Prif Weinidog,
Rwyf am i ni fod yn wirioneddol fyd-eang
Un ymyrraeth yn unig, iawn.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Mae’n aml yn cael ei ailadrodd yn y Siambr hon, gan yr Aelod yn arbennig, fod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi cyfyngu ar ein gallu i fasnachu â gweddill y byd. A all gydnabod, drwy ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, fod gennym 53 o gytundebau masnach ag economïau eraill y tu hwnt i’r UE? Ac a all esbonio i mi beth fydd statws y 53 cytundeb masnach y diwrnod ar ôl iddo lwyddo i gael yr annibyniaeth ogoneddus i’r wladwriaeth hon?
Oes, mae gennym, ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i gadarnhau’r sefyllfa yn gyffredinol ac yn ehangach y tu hwnt i Brexit. Ond nid oes amser yn y ddadl hon i mi ateb hynny. Mae’n debyg y byddaf yn ei ateb ymhellach mewn sefyllfa wahanol.
Rydych yn pryfocio. Rydych yn gymaint o bryfociwr.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, fel y dywedais, yn bodoli er mwyn rhannu pobl Prydain. Dywedodd y Prif Weinidog ei bod am i ni fod yn Brydain wirioneddol fyd-eang, yn ffrind gorau a chymydog i’n partneriaid Ewropeaidd, ond estyn y tu hwnt i ffiniau Ewrop hefyd, gan adeiladu perthynas gyda’n hen ffrindiau a chynghreiriaid newydd fel ei gilydd. Er bod Papur Gwyn Llafur a Phlaid Cymru yn galw am fynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE, mae rheolau’r UE yn gwneud hyn yn amhosibl ar ôl adfer rheolaeth ar ffiniau i’r DU, rhywbeth a nododd eich arweinydd mewn gwirionedd rai misoedd yn ôl cyn i chi newid eich tiwn ar hyn.
Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ei bod am gytundeb pwrpasol sy’n gweithio ar gyfer y DU gyfan, gan groesawu masnach mor rhydd â phosibl rhag tariffau a rhwystrau gyda’n cymdogion Ewropeaidd trwy gytundeb masnach rydd newydd cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol. Fel y mae’r undebau ffermio wedi dweud, bydd arnynt angen fframwaith amaethyddol sy’n atal cystadleuaeth annheg rhwng gweinyddiaethau datganoledig, yn diogelu cyllid, ac yn uchelgeisiol wrth adolygu deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE ac sy’n ychwanegu’n ddiangen at y baich biwrocrataidd sy’n wynebu ffermwyr. Mae Papur Gwyn Bil diddymu mawr Llywodraeth y DU yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau trafodaethau dwys gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i nodi lle mae angen cadw fframweithiau cyffredin. Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig a chytuno ar fframweithiau ar draws y DU yn sail i faterion megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd, a diogelu cyllid ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn croesawu adroddiadau gan y sefydliad gweithgynhyrchwyr EEF fod cwmnïau yn gynyddol gadarnhaol, fod y galw o Ewrop yn fywiog, a’i fod wedi cynyddu ei ragolygon twf ar gyfer 2017 a 2018, ac o’r PMI, fod sector adeiladu’r DU wedi ehangu ar ei gyfradd gyflymaf ers 17 mis ym mis Mai. Nodwn hefyd fod 90 y cant o’r twf byd-eang a ragwelir dros y degawd nesaf y tu allan i’r UE. Dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos hon:
wrth i ni gyflawni ewyllys pobl Prydain, byddwn yn creu partneriaeth newydd ddofn ac arbennig gydag Ewrop... ond byddwn hefyd yn ymestyn y tu hwnt i Ewrop i lunio cytundebau masnach newydd... gyda hen gynghreiriaid a ffrindiau newydd o amgylch y byd hefyd.
Dywedodd:
rydym wedi rhoi amser i ddatblygu’r cynllun, i astudio’r manylion, i ddeall y safbwyntiau negodi a blaenoriaethau’r rhai ar yr ochr arall i’r bwrdd, i feithrin y cysylltiadau ac i fod yn gwbl glir yn ein meddyliau ein hunain—ac ym meddyliau’r 27 aelod-wladwriaeth sy’n weddill—am y math o berthynas a geisiwn yn y dyfodol.
Nawr cymharwch hynny, meddai, â’r dewis arall. Mae Jeremy Corbyn yn dweud ei fod am fynediad di-dariff i’r UE, ond ni all ddweud a yw am barhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl, yn amodol ar ddyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop a rheolau Ewrop ar hawl pobl i symud yn rhydd. Ni all ddweud a yw’n golygu parhau i fod yn aelod llawn o’r undeb tollau a fyddai’n ein hamddifadu o’n gallu i lunio cytundebau masnach newydd o amgylch y byd. Y rhain, meddai, yw’r cwestiynau mwyaf sylfaenol y mae angen eu hateb.
Ac o ran yr hyn y byddai Jeremy Corbyn yn ei wneud i’r DU, edrychwch ar yr unig ran o’r DU sy’n cael ei llywodraethu gan Lafur: Cymru, gyda’r lefelau isaf o gyflogaeth, cyflogau, tâl a ffyniant yn y DU, a’r lefel uchaf o ddiweithdra, tlodi plant a thlodi ym Mhrydain. Anghyfiawnder cymdeithasol yw etifeddiaeth Llafur wedi bod yng Nghymru. Ni allwn symud ymlaen o ddifrif ac unioni’r diffygion a grëwyd ganddynt ac a drosglwyddwyd ymlaen i bobl Cymru heb fynd i’r afael â’r problemau economaidd a chymdeithasol dwfn, gwneud y penderfyniadau anodd a chynllunio o ddifrif ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Ffurfiol.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru, mewn gwirionedd, am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma, ar y diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol ac fel y dywedodd Simon Thomas, ar fater a fu’n achos dros alw’r etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, rwy’n siomedig iawn eu bod wedi ceisio cynnwys cymaint yn y cynnig, gan fod pob rhan o’r cynnig a phob is-ran mewn gwirionedd yn haeddu ystyriaeth yn ei hawl ei hun ac ni fydd gennym amser i drafod y rheini heddiw, ond efallai mai lecsiyna sy’n gyfrifol am hynny.
Penderfynodd refferendwm y llynedd un peth yn unig: y ffaith ein bod yn gadael y sefydliadau Ewropeaidd. Ni phenderfynodd beth yw’r amodau ar gyfer gadael ac ni phenderfynodd beth fyddai’r berthynas yn y dyfodol gyda’r 27 aelod o’r UE sydd ar ôl. Ac mae’n bwysig cael ein hamcanion a’r prosesau’n gywir wrth i’r DU ddechrau ar y gyfres allweddol hon o drafodaethau. Ac rwy’n siomedig iawn nad yw’r modd y mae’r Llywodraeth gyfredol—ac rwy’n gobeithio mai cyfredol yw hi, ac y bydd hi’n Llywodraeth flaenorol yfory—yn San Steffan yn ymdrin â’r mater hwn wedi dangos digon o barch i’r cyhoedd ac i’r gwledydd datganoledig wrth symud ymlaen, yn wahanol i 27 aelod yr UE, sydd mewn gwirionedd wedi cytuno’n unfrydol ar eu meini prawf ar gyfer trafodaethau. Maent wedi dod at ei gilydd, ac mae Llywodraeth y DU wedi methu gwneud hynny hyd yn oed.
Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog ar 17 Ionawr, cyhoeddi’r Papur Gwyn, sbarduno erthygl 50 a’r Papur Gwyn ar y Bil diddymu mawr, mae’n hanfodol fod unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn cynnwys y gwledydd datganoledig yn llawn wrth ddatblygu ei safbwynt negodi. Dylai fod gennym ninnau hefyd safbwynt negodi wedi’i gytuno. Ac mae angen i ryngweithio’r Llywodraeth wella mewn gwirionedd y tu hwnt i gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn unig, y credwn mewn gwirionedd nad ydynt yn ddim mwy nag esgus o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i’r digwyddiadau hyn. Nid ydynt yn siopau siarad; dylent fod yn rhywbeth yn effeithiol. Yn anffodus, nid yw hynny’n wir, ac rwy’n meddwl y dylem sicrhau, wrth inni symud ymlaen, fod hyn yn newid.
Nawr, efallai y bydd rhai’n dadlau pam y dylai fod gennym sefydliadau datganoledig, gan honni mai’r DU yw’r aelod-wladwriaeth. Wel, mae tystiolaeth wedi dangos bod cymhlethdodau’r berthynas rhwng yr UE a gwledydd datganoledig, o ganlyniad i’r cymwyseddau datganoledig, ynghyd ag effaith unrhyw delerau neu unrhyw gytundebau masnach a fydd yn cael eu gwneud â’r DU ar economïau datganoledig, yn bendant yn galw am ymwneud uniongyrchol ein Llywodraeth etholedig. Llywydd, mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, a gynhyrchwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, wedi gosod yr economi ar frig ei restr o flaenoriaethau, ac yn haeddiannol felly. Mae ein heconomi’n allweddol i’n ffyniant ar draws y wlad, a gallu busnesau Cymru i fasnachu heb rwystrau, boed yn ariannol neu reoleiddiol, ac mae’n rhaid caniatáu iddynt dyfu. Dangosodd Adam Price eisoes yn ei bwynt agoriadol y berthynas gyda dur yn fy etholaeth a’r effaith y byddai’n ei chael os na chawn hyn yn iawn.
Nawr, byddai ysgariad anodd yn arwain at Brexit Sefydliad Masnach y Byd yn golygu gosod tariffau andwyol ar ein hallforion, a fyddai’n arwain yn ôl pob tebyg at golli swyddi, dirywiad ein diwydiannau modurol a dur, dirywiad tebygol cydrannau pwysig o’n sector gweithgynhyrchu, colli marchnad allforio fawr i’n diwydiant bwyd a diod, ac yn ddiamau, at niweidio’r sector ariannol sy’n datblygu yng Nghymru. A chan ein bod yn siarad am fasnach, ystyriwch ymchwil a datblygu hefyd. Neithiwr, roeddem yn falch o gynnal y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Cynulliad yma yn y Senedd, ac fe’i cynhaliais ar y cyd â Simon Thomas a Nick Ramsay, a chawsom ein hatgoffa gan Simon am y papur diweddar a gyhoeddwyd gan y pedair cymdeithas ledled y DU ac effaith cyllid yr UE ar ymchwil a datblygu ac arloesi, yma yng Nghymru yn arbennig ac yn y DU, yn seiliedig ar arian yr UE. Nawr, gall cyllid ymchwil yr UE helpu i ddatblygu ein dyfodol economaidd, ac ni ddylem golli golwg ar hynny, oherwydd ni soniwyd am sicrhau arian yn lle’r arian hwnnw, ac eto, mae biliynau’n cael eu colli—£9 biliwn rhwng 2007 a 2013 i mewn i’r DU na sonnir am sicrhau unrhyw arian yn ei le.
Felly, ni allwn anwybyddu’r effaith hefyd ar rwystrau di-dariff, a fyddai’n ymwahanu oddi wrth rai’r UE ar ôl i ni adael—ac fe fyddant yn ymwahanu. Mewn gwirionedd, gallai rhwystrau o’r fath greu cost sy’n cyfateb i dariff o 22 y cant ar longau neu gyfarpar cludiant. Nawr, yn y Papur Gwyn, fel y dywedwyd eisoes, y flaenoriaeth oedd mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, ac rwy’n credu ei bod yn un y dylai pawb ohonom ei chroesawu. Pa un a ydych am gael cytundeb masnach rydd, dyna rydym yn sôn amdano. Felly, mae’n gwneud rhywbeth y dylai pawb ohonom ei groesawu, ac nid yw’n ein hatal rhag cael cytundebau masnach rydd â chenhedloedd eraill chwaith. Felly, gadewch i ni sicrhau ein bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn diogelu busnesau Cymru ac economi Cymru.
Nawr, fe wyddom fod yna ansicrwydd yn dod, ac rydym hefyd yn gwybod am y goblygiadau i fusnesau a all fod yn dymuno ystyried buddsoddi yng Nghymru. Rydym yn gweld hynny mewn rhannau o fusnesau sydd eisoes yma, lle maent yn mynd â buddsoddiad allan o Gymru—fe soniaf yn unig am Ford fel un enghraifft—ac mae 200,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan ein masnach yn y farchnad sengl. Ac mae angen trefniadau trosiannol hefyd. Nawr, roeddwn wedi meddwl bod Llywodraeth y DU yn dod i weld pethau fel rydym ni’n eu gweld, ond credaf fod hynny’n ymddangos fel pe bai’n lleihau i raddau, yn anffodus. Nawr, efallai fod gan Lywodraeth y DU fandad i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes mandad i ddefnyddio Brexit fel esgus dros ddinistrio ein heconomi, torri’r isafswm cyflog, a chynnau coelcerth o hawliau gweithwyr, mesurau diogelu amgylcheddol ac amddiffyniadau cymdeithasol yr ymladdwyd yn galed amdanynt. Wrth iddynt drafod ein hymadawiad o dan erthygl 50—ac yna, cofiwch, mae’n mynd i ddilyn—ac yna y berthynas yn y dyfodol gyda 27 gwlad yr UE o dan erthygl 218, rhaid iddynt ac fe ddylent dderbyn bod strwythur cyfansoddiadol y DU wedi newid, ac na ellir anwybyddu buddiannau a blaenoriaethau’r gwledydd datganoledig.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig heddiw. Rydym yn cytuno’n rhannol â rhai o’r syniadau sydd ganddynt mewn gwirionedd. Ar fater ariannu, mae UKIP wedi datgan bob amser y dylai San Steffan roi cyllid i Gymru yn lle’r hyn a gollir o gyllid yr UE. Rydym wedi cefnogi’r alwad honno’n gyson. Roeddem yn siarad yn gynharach am y rheolau caffael. Roedd Adam Price yn siarad am hynny. Nawr, mae rheolau caffael yr UE yn atal contractau rhag cael eu rhoi i gwmnïau Prydeinig. Bydd hyn yn newid gyda Brexit. Rydym yn cytuno bod pŵer dros gaffael yn offeryn y dylem ei ddefnyddio yn y dyfodol i hybu cyflogaeth. Nid wyf yn argyhoeddedig y dylai’r pŵer gael ei ddatganoli i’r Cynulliad, fodd bynnag, oherwydd gellir ei drafod yn fwy effeithiol ar lefel y DU gyfan.
Nid ydym yn cytuno â’r syniad o wasanaeth mudo i Gymru. Nid wyf yn siŵr sut y byddai’n ymarferol. Nawr, fe wnaeth Adam sôn o leiaf am enghraifft o system lle mae ganddynt wasanaeth felly, mae’n debyg, yng Nghanada. Rwy’n cyfaddef nad wyf yn gwybod llawer am y peth, a byddai’n rhaid i mi ymchwilio sut y mae’n gweithio yno. Ond yn anffodus—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs, Google. Ond ni soniodd amdano tan heddiw. Byddwn yn gwneud Google, ac fe wnawn Wicipedia, hefyd. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol—[Torri ar draws.] Byddai wedi bod yn ddefnyddiol efallai pe baech wedi egluro heddiw mewn gwirionedd sut y mae’r system honno’n gweithio. Ond o ystyried cyfyngiadau amser dadl 30 munud, efallai fod hynny’n anodd ei gyflawni.
Bydd pryderon gan y cyhoedd ynglŷn â sut y byddai system o’r fath yn gweithio. Sut y byddwch yn atal pobl rhag symud o Gymru, lle byddai ganddynt fisa i weithio, i Loegr, lle na fyddai ganddynt fisa? Mae asiantaeth ffiniau’r DU yn cael trafferth i ymdrin â mewnfudo anghyfreithlon fel y mae, a bydd y cynllun hwn yn gwneud eu gwaith yn llawer anos. Mae’n ymddangos i mi yn ffordd o gadw rhyddid i symud drwy’r drws cefn mewn gwirionedd, a fyddai’n negyddu’r bleidlais Brexit yn fy marn i. Ac wrth gwrs, fe bleidleisiodd Cymru dros adael, yr un fath â Lloegr.
Nid ydym ychwaith yn cytuno â’ch cynnig y dylai Cynulliad Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni allaf gymryd ymyriadau yr wythnos hon, Rhun, am ei bod yn wythnos yr etholiad. Yn ôl i’r arfer yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
Dyna un newydd.
Ydy, mae. Rwy’n hoffi cael syniadau newydd—
Er eglurder, polisi Gareth Bennett yw hynny, nid polisi’r Siambr lawn. [Chwerthin.]
Nid ydym yn cytuno â’ch cynnig y dylai’r Cynulliad gael pŵer feto dros unrhyw gytundeb Brexit. Rwy’n derbyn bod Dai Rees newydd gyflwyno rhai dadleuon yn groes i’r hyn rwy’n mynd i ddweud, ond nid oes gan y Cynulliad unrhyw bwerau datganoledig i ymdrin â mewnfudo neu fasnach ryngwladol. Beth fyddai’n digwydd mewn gwirionedd pe bai Theresa May yn negodi cytundeb Brexit a bod Cynulliad Cymru yn rhoi feto ar gytundeb o’r fath wedyn? Yn syml iawn, byddech yn ysgogi argyfwng cyfansoddiadol a allai beri i lawer o bobl gwestiynu bodolaeth Cynulliad Cymru ei hun. Felly, fy nghyngor ar gwestiwn feto Brexit yw y dylid troedio’n ofalus iawn. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae yna lawer yn y cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y byddai’r Llywodraeth yn cytuno ag ef. Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â phwysigrwydd sylfaenol sicrhau canlyniad yn sgil Brexit sy’n cydnabod ac yn amddiffyn anghenion ac amgylchiadau Cymru. Rwyf am gofnodi effeithiolrwydd ychwanegol ein gallu i wneud hynny oherwydd y gwaith ar y cyd sydd wedi digwydd rhwng y pleidiau mewn Llywodraeth a Phlaid Cymru ar y mater hwn dros y misoedd diwethaf.
Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliant gan y Blaid Geidwadol. Mae ein safbwynt yn wahanol iawn. Mae’n sylfaenol wahanol, mewn ffyrdd y gallodd Lesley Griffiths eu nodi. Clywsoch Mark Isherwood yn dweud bod pwerau’n mynd i gael eu dychwelyd o Frwsel. Nawr, os oes unrhyw Aelod yn cael cyfle i wneud hynny, rwy’n argymell yr araith a wnaeth Syr Emyr Jones-Parry i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar 17 Mai eleni, sy’n ymdrin ag ystod eang o faterion yn ymwneud â Brexit. Mae’r hyn y mae’r cyn-lysgennad i’r Cenhedloedd Unedig yn ei ddweud yno yn glir iawn. ‘Yn bersonol’, meddai, ‘nid wyf yn credu bod pwerau’n cael eu dychwelyd. Maent yn aros lle maent eisoes yn gorffwys’, a dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn ogystal. Mae’n wahaniaeth sylfaenol rhyngom a’r Blaid Geidwadol, ac ni fyddwn yn pleidleisio dros eu gwelliant.
Mae’r cynnig, fodd bynnag, yn mynd ymhellach hefyd na’r safbwynt a nodir yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, ac mae’n gwneud hynny mewn rhai agweddau pwysig. Nid oes yr un o’r cynigion ychwanegol hynny’n rhai nad ydynt yn haeddu sylw gofalus, ac mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt, yn y dyfodol, ac yn yr amgylchiadau gwahanol a grëir gan Brexit, yn bolisïau a fydd yn cael eu mabwysiadu.
Mae’r problemau gyda’r cynnig, fodd bynnag, yn ddeublyg. Y broblem gyntaf yw bod rhai o’r casgliadau y daw iddynt, fel y nododd David Rees, yn gynamserol. Mae’n werth archwilio datganoli pwerau TAW yn briodol yn yr amgylchiadau ar ôl gadael yr UE, ond mae’n haeddu cael ei archwilio, archwiliad o’r math difrifol a arweiniodd at adroddiad Silk, yn hytrach na chael ei benderfynu mewn dadl 30 munud yn y Cynulliad.
Rwy’n deall yn iawn fod gan Adam Price, wrth agor y ddadl, gyfrif llawer mwy manwl o rai o’r agweddau hyn nag sy’n bosibl mewn cynnig, ond ar y cynnig y byddwn yn pleidleisio, nid yr araith, ac mae’r Llywodraeth o’r farn, rwy’n meddwl, fod galw am ddatganoli pwerau TAW ar unwaith yn mynd o flaen ble y mae’r ddadl yn mynd â ni ar hyn o bryd ac o flaen sefydlu rhai ffeithiau pwysig iawn. Efallai hefyd y bydd rhai cyfrifoldebau Cymreig penodol ym maes mudo yn rhan o dirwedd y DU yn y dyfodol, ond tra bo’r dirwedd yn parhau i fod mor amwys, yna credwn fod rhan 5 o’r cynnig yn gynamserol fel y mae wedi’i nodi.
A daw hynny â mi at yr ail broblem gyda’r cynnig, Llywydd, sef amseru. Yfory, bydd Llywodraeth newydd yn cael ei hethol yn y DU, a beth bynnag fydd cyfansoddiad y Llywodraeth honno, bydd ynganiad cryf ac eglur o safbwynt Cymru yn hanfodol. Credaf ein bod wedi sefydlu’r eglurder hwnnw drwy ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Mae’n hysbys ac yn ddealledig yn Whitehall ac yn San Steffan, mae’n cael ei gydnabod a’i barchu yn Ewrop, ac yn llysgenadaethau’r rhai a fu’n bartneriaid i ni ac a fydd yn parhau i fod yn gymdogion agosaf i ni yn y dyfodol. Cred y Llywodraeth nad yn awr yw’r amser i ddrysu’r gyfres graidd honno o negeseuon drwy ymhelaethu arnynt yn y ffordd y mae’r cynnig yn ceisio ei wneud.
Mae gennym ein negeseuon craidd o ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl; ymagwedd ymarferol tuag at fudo; arian yn y dyfodol i’w warantu ar lefelau’r UE fan lleiaf; setliad cyfansoddiadol newydd oddi mewn i’r Deyrnas Unedig; cynnal hawliau cymdeithasol, amgylcheddol a dynol craidd; a gosod trefniadau trosiannol fel nad oes ymyl clogwyn rhwng y sefyllfa rydym ynddi heddiw a’r sefyllfa y byddwn ynddi ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyna y mae gwelliant y Llywodraeth i’r ddadl heddiw yn anelu at ei sicrhau. Trwy aros yn agos at y dadleuon y gallasom eu cyflwyno, ac sydd wedi cael peth dylanwad yn y mannau lle y gwneir penderfyniadau yn y dyfodol, credwn ein bod wedi gallu gwneud llais Cymru yn effeithiol yn y ddadl hyd yn hyn. Nid ydym yn credu mai yn awr yw’r amser i ymhelaethu ymhellach y tu hwnt i hynny. Byddwn yn gwrthwynebu’r cynnig fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol a gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r gwelliant y mae’r Llywodraeth wedi’i gyflwyno.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i’r Aelodau am eu hymateb i’r syniadau a nodwyd gennym, er mai yn amlinellol y gwnaethom hynny er mwyn bod yn gryno fel y nodwyd.
Rwy’n edmygu ysbryd optimistaidd Mark Isherwood, ac yn wir ei uchelgais byd-eang, yn enwedig ar gyfer Cymru; er ein bod efallai yn anghytuno ynglŷn â rhai o’r manylion, credaf yn sicr fod angen i ni fanteisio ar gyfleoedd allforio newydd. O ran ein natur ac yn hanesyddol rydym yn wlad sy’n allforio’n helaeth, ond mae angen i wneud yn well. Roeddwn yn darllen rhai o’r atebion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a roddwyd i Steffan Lewis, a oedd yn gofyn pa ymdrechion newydd y buom yn eu gwneud ers mis Mehefin 2016, ers y bleidlais, i grynhoi cyfleoedd newydd ar gyfer y farchnad, ac yn yr ateb mae’n dweud bod Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo adnoddau ychwanegol i ogledd America a sefydlu presenoldeb yng Nghanada. Wel, nid wyf yn gweld strategaeth fyd-eang newydd gan Lywodraeth Cymru eto, mae’n ddrwg gennyf ddweud. Hynny yw, ceir ymweliad allforio i Qatar ym mis Hydref, a gallai fod angen i ni edrych ar hynny eto yng ngoleuni’r drafodaeth gynharach.
Mwynheais gyfraniad David Rees fel erioed. Credaf fod un o’i bwyntiau craidd, sef yr angen, mewn gwirionedd, i gydweithio’n agos ac ymdrech ar y cyd rhwng y pedair gwlad a’r deddfwrfeydd datganoledig o ran polisi masnach, yn gyson ag ysbryd yr hyn yr ydym yn ei ddweud yn y cynnig hwn hefyd. O ran Gareth Bennett, rwy’n hapus i anfon allbrint o awgrym manwl dinas Llundain ar raglen fisa ranbarthol atoch, Gareth. Mae Canada’n gweithredu cynllun enwebu dros dro a cheir cynllun mudo noddedig rhanbarthol yn Awstralia. Felly, mae yna lawer o enghreifftiau. Yn wir, er gwaethaf y ffaith nad yw mudo wedi’i ddatganoli, roedd gan yr Alban hyd yn oed rywbeth tebyg yn y fenter talent newydd yn ôl yn 2005. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny’n codi awydd arnoch, Gareth, i ymchwilio’n ddyfnach i’r maes hwn. Rwy’n croesawu’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod llawer o’r syniadau a nodwyd gennym yma ar gyfer y strategaeth ôl-Brexit yn werth eu hystyried ymhellach mewn gwirionedd, a byddwn yn bwrw ymlaen â hynny wrth drafod gydag ef. Mae’n rhaid i mi ddweud—
Mae’r amser ar gyfer y ddadl yma ar ben nawr. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.