3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OAQ(5)0179(HWS)
Diolch am eich cwestiwn. Mae amseroedd aros ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gwella yn gyffredinol ar draws bron bob un o’r prif fesurau dros y flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, roedd amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella i 90.5 y cant ar ddiwedd mis Mawrth eleni, ymatebwyd i dros 80 y cant o alwadau ambiwlans coch ym mis Ebrill 2017 o fewn yr amser targed, ac roedd y perfformiad canser 62 diwrnod diweddaraf yn 92 y cant. Ond yn naturiol, rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd gynllunio a sicrhau gwelliannau pellach.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Yn ddiweddar, cefais ymweliad gan etholwr a oedd wedi bod yn aros am gyfnod annerbyniol o hir ar restr aros am ofal cardioleg. Sylwais wrth archwilio ymhellach fod yr amser aros hiraf ar gyfer cardioleg yn Aneurin Bevan wedi cynyddu o 34 wythnos, rwy’n meddwl, yn 2011, i 105 a mwy o wythnosau y llynedd. Felly, o ystyried difrifoldeb y cyflyrau sy’n galw am wasanaethau cardioleg, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r ymyriadau rydych yn ystyried eu rhoi ar waith i leihau’r rhestrau aros ar gyfer y cyflyrau difrifol iawn hyn?
Wel, mae hyn yn rhan o’r hyn y disgwyliwn i fyrddau iechyd ei gynllunio a’i ddarparu i ddeall beth y maent yn ei wneud ar hyn o bryd a lle nad yw’n darparu lefel dderbyniol o ofal, a lle mae amseroedd aros yn bwysig, fel rwy’n derbyn eu bod mewn perthynas ag ystod o gyflyrau, sut y maent yn bwriadu cyflawni a gwella’r rheini, boed drwy gomisiynu gwasanaethau gan fyrddau iechyd ac ardaloedd eraill, neu feddwl sut y maent yn eu cyflawni mewn gwirionedd. A dweud y gwir, mewn perthynas â chardioleg, dangoswyd y gall rôl lwyddiannus cardioleg gymunedol—a dreialwyd yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg—wella amseroedd aros ar gyfer pobl mewn cardioleg gofal eilaidd, gan fod pobl yn cael gwasanaeth gwahanol sy’n addas iddynt hwy mewn lleoliad gofal sylfaenol, a golyga hynny fod pobl sydd wir angen gweld meddyg ymgynghorol mewn lleoliad gofal eilaidd yn fwy tebygol o gael eu gweld yn gynt. Felly, mae mentrau ar waith yn barhaus, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Pa effaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl y bydd y ganolfan gofal arbenigol a chritigol yn ei chael ar amseroedd aros yn y tymor canolig, ac a all gadarnhau pryd y bydd y gwaith o adeiladu’r ganolfan yn dechrau a phryd y mae’n disgwyl y bydd yn agor i gleifion?
Edrychaf ymlaen at fynychu’r digwyddiad torri’r dywarchen dros yr haf ar gyfer yr hyn a elwir ar hyn o bryd yn ganolfan gofal arbenigol a chritigol, felly mae’r gwaith adeiladu yn dechrau. Rwyf eisoes wedi nodi yn un o fy natganiadau blaenorol fy mod yn disgwyl iddi agor, rwy’n credu, yn 2021. O ran ei heffaith ar amseroedd aros, mae mwy o ddiddordeb gennyf yn ei heffaith ar y system gyfan a’r hyn a olyga o ran darparu gofal o ansawdd gwell. Credaf fod hyn yn rhan o’n her. Rydym yn sôn am ansawdd y gofal yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym yn aml yn siarad yn ofer am niferoedd ac amser, ac mewn gwirionedd, nid dyna’r mesur gorau bob amser o welliant a pha ffurf sydd ar ansawdd. Yn sicr, rwy’n disgwyl i’r ysbyty newydd fod yn rhan o fwrdd iechyd sy’n perfformio’n dda yng nghyd-destun Cymru, er mwyn parhau i gyflawni a gwella ansawdd eu gofal mewn perthynas ag ystod o fesurau, gan gynnwys gofal dewisol a gofal heb ei drefnu. Ond wrth gwrs, bydd rolau o hyd i ysbytai eraill yn ardal ehangach Gwent, yn ogystal â’n huchelgais hirdymor i weld mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn y lleoliad gofal sylfaenol beth bynnag.