2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(5)0698(FM)
Gwnaf. Fel y dywedais yn fy natganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 27 Mehefin, byddwn yn cyflwyno Bil llywodraeth leol yn ystod ail flwyddyn ein rhaglen i ddiwygio llywodraeth leol.
Prif Weinidog, mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau allweddol i'n cymunedau, felly mae'n hanfodol bwysig bod gennym ni ddemocratiaeth leol ffyniannus. Un o ofynion sylfaenol hynny yw awdurdodau lleol sy'n adlewyrchu eu poblogaethau lleol, ond darparodd yr etholiadau lleol diweddaraf rywbeth fel 28 y cant o'n cynghorwyr ledled Cymru o ran cynghorwyr sy’n fenywod, gydag awdurdodau lleol unigol yn amrywio o rywbeth fel 10 y cant i 40 y cant. Felly, mae angen i ni wneud cynnydd. A fyddech chi’n cytuno â mi mai un agwedd bwysig ar wneud y cynnydd angenrheidiol yw cael esiamplau cryf ymhlith ein cynghorwyr benywaidd yng Nghymru? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i groesawu ail-ethol Debbie Wilcox i arwain Cyngor Dinas Casnewydd, ac, mewn etholiad dilynol, i arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac felly i arwain llywodraeth leol yng Nghymru?
Ydw, rwy’n sicr yn croesawu ethol Debbie. Hi yw’r cyntaf o lawer, rwy’n gobeithio, oherwydd ni allwn ddweud bod cynrychiolwyr llywodraeth leol yn wirioneddol gynrychioliadol o'r gymuned gyfan yng Nghymru. Rydym ni’n bell o allu dweud hynny. Gallaf ddweud, cyn yr etholiadau lleol, y cynhaliwyd nifer o brosiectau gennym yn rhan o'r rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth; cymerodd 51 o unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ran yn y rhaglen, ac fe wnaeth 16 ohonynt sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Felly, rhywfaint o gynnydd, ond mae’n wir i ddweud bod angen llawer mwy o gynnydd eto.
Prif Weinidog, cyfeirir yn eang at Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn y Papur Gwyn diwygio llywodraeth leol, ac mae'n gwbl eglur fod y Ddeddf benodol hon yn rhoi cyfle gwych i ni gyfrannu at ddiwygio llywodraeth leol yn llwyddiannus. Mae trechu tlodi hefyd yn thema allweddol yn y Ddeddf honno. O ystyried amseriad dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac yn unol â diwygio awdurdodau lleol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gynnwys ffrwd lleihau tlodi yn y newidiadau hynny wrth symud ymlaen?
Wel, yn rhan o'r Bil llywodraeth leol y byddwn ni’n ei gyflwyno, byddwn wrth gwrs—nid yw hyn yn gyfrinach—yn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar sail ranbarthol er mwyn darparu gwasanaethau i’r bobl y maen nhw’n eu cynrychioli. Rwy'n siŵr y bydd awdurdodau lleol yn derbyn bod lleihau tlodi, wrth gwrs, yn swyddogaeth hynod bwysig y gallant ei chyflawni, ac wrth gwrs byddan nhw’n gallu gwneud hynny gan gydweithio ar draws ardal ehangach.
Mae llawer o bwyslais ar gydweithio rhwng cynghorau ar lefel ranbarthol ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth, ‘Cadernid ac adnewyddiad’. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld pedair sir y gorllewin yn cydweithio yn strategol ar faterion sy’n unigryw i’r gorllewin ac sy’n codi o’r plethiad hanfodol hwnnw sydd yna rhwng yr economi wledig, tai, cynllunio a’r iaith Gymraeg. Fe ellir ehangu ar hynny i greu rhanbarth neu gynulliad y gorllewin a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r dinas-ranbarthau. Fel y mae Eluned Morgan yn nodi, mae angen i’r Llywodraeth yma gefnogi cefn gwlad Cymru, ond nid creu comisiynydd newydd ydy’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hynny, yn fy marn i. A ydych chi’n cytuno bod annog cydweithio rhwng siroedd y gorllewin yn cynnig ateb cychwynnol cost-effeithiol, ymarferol a synhwyrol?
Ydw, ac mae’n hollbwysig, wrth gwrs, fod hynny yn digwydd, a nod y Mesur yw sicrhau—a Mesur yw’r gair yr ydym ni’n dal i’w ddefnyddio, wrth gwrs, Llywydd—a nod y Mesur yw sicrhau bod hynny’n digwydd. Rydym ni’n gwybod, wrth edrych ar y model sydd wedi bod yna yn addysg, sef y consortia yn addysg, fod pethau wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn lle mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd. Dyna, wrth gwrs, rydym ni’n moyn adeiladu arno wrth edrych ar y ddeddfwriaeth.